Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor a chyflwynodd y ddau aelod annibynnol newydd,
Julia Hughes ac Anne Mellor. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I'R PWYLLGOR SAFONAU Penodi
Is-gadeirydd i’r Pwyllgor Safonau. Cofnodion: Cytunodd Aelodau'r Pwyllgor a oedd yn bresennol i ohirio ethol Is-Gadeirydd
nes cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau a gynhelir ar 18 Medi 2015. PENDERFYNWYD bod
ethol Is-Gadeirydd yn cael ei ohirio tan 18 Medi 2015. |
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Paula White a/ac Cynghorwr(wyr) Barry Mellor. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 89 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Dim. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion y cyfarfod diwethaf PDF 154 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2015 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2015
(dosbarthwyd ynghynt). Ar y pwynt hwn,
gofynnodd y Cadeirydd i’r papurau gael eu hanfon allan yn gynt - 7 diwrnod cyn
y cyfarfod er mwyn sicrhau bod digon o amser i Aelodau ddarllen drwy'r papurau. Materion yn codi: Eitem 2 -
cadarnhaodd y Dirprwy Swyddog Monitro bod copi o'r ffurflenni Datgan Cysylltiad
wedi eu hanfon at holl Glercod y Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned. Eitem 4 – Roedd
yr Hyfforddiant Cod Ymddygiad ar gyfer Clercod Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned
wedi’i gynnal. Roedd wedi bod yn sesiwn hyfforddi rhagorol ond,
yn anffodus, nid oedd yna lawer yn bresennol. Eitem 5 – roedd
Fforwm Safonau Gogledd Cymru wedi cael ei ail-drefnu o 30 Mai 2015 a byddai
nawr yn cael ei gynnal ar 16 Mehefin 2015 yn Rhuthun. Diolchodd y
Cynghorydd Bill Cowie i'r Dirprwy Swyddog Monitro am ddosbarthu'r rhifau
cyswllt ar gyfer holl Glercod y Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned. Eglurodd y
Cadeirydd wrth y ddau aelod annibynnol newydd y byddai croeso iddynt ymweld â’r
Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned pan oeddent yn rhydd i wneud hynny. PENDERFYNWYD –yn
amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
22 Mai 2015 fel cofnod cywir. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL PDF 43 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Swyddog Monitro (DSM), Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Safonau i'w
hystyried. Byddai'r
Gynhadledd Safonau i'w chynnal yng Nghaerdydd ar 20 Hydref 2015 yn cael ei hychwanegu
at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Yng nghyfarfod y Pwyllgor Safonau i’w
gynnal ar 16 Medi, byddai trefniadau’n cael eu hystyried o ran pwy fyddai'n
mynychu'r Gynhadledd. Cadarnhaodd y Swyddog
Monitro bod adroddiad wedi cael ei lunio ynghylch Llyfr Achos newydd yr
Ombwdsmon a oedd yn tynnu sylw at faterion. Roedd
y cwestiwn o ddatrysiad lleol yn cael ei symud i Gynghorau Dinas, Tref a
Chymuned wedi’i godi ac eglurodd y Swyddog Monitro y byddai barn y Cynghorau yn
cael ei fesur o ran a fyddent angen cymorth i lunio proses. Yn
ystod y drafodaeth, cytunwyd y byddai Clercod Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned
angen arweiniad a byddai templed fframwaith yn cael ei ddarparu. Cynnydd
ynghylch y canllawiau a'r templed fframwaith i gael ei ychwanegu at y cyfarfod
ar 16 Medi 2015 am y wybodaeth ddiweddaraf. Trafodwyd
ymweliadau Aelodau'r Pwyllgor Safonau i gyfarfodydd Cyngor Dinas, Tref a
Chymuned. Cytunwyd y byddai'r Dirprwy Swyddog Monitro yn cynhyrchu
rhestr flynyddol o'r holl Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned a oedd wedi derbyn
ymweliad er mwyn galluogi ymagwedd ragweithiol ar gyfer ymweliadau â Chynghorau
eraill yn y dyfodol. Byddai'r eitem hon yn cael ei hychwanegu
at y cyfarfod ar 16 Medi 2015. Awgrymodd y
Cadeirydd wrth yr Aelodau y dylai'r ymweliadau â Chynghorau Dinas, Tref a
Chymuned gael eu cynnal gan Aelodau Annibynnol y Pwyllgor Safonau. Cadarnhaodd
y Swyddog Monitro os byddai Clercod yn anfon rhestr o’u cyfarfodydd sydd i
ddod, yna gellid trefnu ymweliadau mewn ffordd drefnus er mwyn sicrhau nad
ydynt yn dyblygu ymweliadau. Bwriad yr ymweliadau oedd er mwyn dysgu ac
nid chwilio am feiau. Byddai angen i hyn gael ei wneud yn glir
i'r Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned perthnasol. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Safonau yn cytuno ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyda'r cynnwys y
cytunwyd arnynt. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CADEIRYDD Ystyried
adroddiad llafar gan y Dirprwy Swyddog Monitro gydag adborth gan y Cyngor
Blynyddol ynghylch Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd. Cofnodion: Cadarnhaodd y
Cadeirydd ei fod wedi mynychu cyfarfod blynyddol y Cyngor i gyflwyno Adroddiad
Blynyddol y Pwyllgor Safonau. Dywedodd y
Dirprwy Swyddog Monitro wrth y Pwyllgor fod yr Adroddiad Blynyddol wedi cael ei
gyflwyno ddwywaith i'r Pwyllgor Safonau cyn y Cyngor Blynyddol. Roedd
yr adroddiad yn rhoi trosolwg o waith y Pwyllgor Safonau. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chofnodi Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd. |
|
OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU – CANLLAWIAU DIWYGIEDIG Y COD YMDDYGIAD PDF 162 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) er mwyn galluogi i Aelodau'r
Pwyllgor drafod a nodi cynnwys y dogfennau canllaw diwygiedig a chytuno ar y
dull o ddosbarthu i aelodau etholedig. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi gwybod i
Aelodau'r Pwyllgor Safonau am y cyflwyniad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru ar ganllawiau diwygiedig ar gyfer Aelodau etholedig o ran y Cod
Ymddygiad. Yng nghyfarfod y
Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2015, cafodd papur trafod a luniwyd
gan yr Ombwdsmon ei gyflwyno. Roedd y papur ynglŷn â’i fwriad i
gyflwyno ystyriaeth er budd y cyhoedd yn ei brawf dau gam a ddylid ymchwilio i
gŵyn a wnaed yn erbyn Aelod Etholedig yn honni eu bod wedi torri'r Cod
Ymddygiad. Roedd y
canllawiau ar y Cod Ymddygiad yn cynnwys ffactorau lles y cyhoedd yn y prawf
dau gam yn ogystal â gwneud newidiadau eraill i'r canllawiau blaenorol. Roedd yr
Ombwdsmon wedi cynhyrchu dwy ddogfen cyfarwyddyd, un ar gyfer Aelodau etholedig
Awdurdodau Unedol, Awdurdodau Tân ac Achub a Pharciau Cenedlaethol ac un ar
gyfer Cynghorwyr Dinas, Tref a Chymuned. Roedd ffactorau
lles y cyhoedd i'w hystyried gan yr Ombwdsmon fel rhan o'r prawf dau gam wedi
eu nodi yn y canllawiau. Cadarnhaodd y
Swyddog Monitro y byddai nodyn briffio’n cael ei lunio ac y byddai dolen i'r
canllawiau’n gael ei hanfon at Gynghorwyr Sir a Chlercod Cyngor Dinas, Tref a
Chymuned i’w godi gyda'u Cynghorau perthnasol. Byddai'r
canllawiau Cod Ymddygiad diwygiedig yn cael eu cynnwys yn ystod sesiynau
hyfforddi. Cafwyd trafodaeth
gyffredinol a chodwyd y pwyntiau canlynol: ·
Cytunodd
y Swyddog Monitro i gysylltu â'r Ombwdsmon i ganfod sut oedd cwynion yn cael eu
cofnodi ac am ba mor hir y cawsant eu harbed. ·
Awgrymodd
yr Aelod Annibynnol, Julia Hughes, gan fod nifer o Gynghorau Dinas, Tref a
Chymuned yn cynhyrchu dogfennaeth swmpus, efallai y byddai'n haws i bawb oedd
yn bresennol os byddai papur briffio’n cael ei anfon allan i arbed y llwyth
gwaith beichus o gynhyrchu nifer o ddogfennau. Cytunodd
a chadarnhaodd y Dirprwy Swyddog Monitro y byddai'n trafod hyn gyda'r Swyddog
Monitro i gael ffordd o wneud cyfathrebu’n broses haws. ·
Awgrymodd
y Swyddog Monitro y gallai unrhyw wybodaeth allweddol gael ei dosbarthu ar
ddiwedd pob cyfarfod Pwyllgor Safonau. PENDERFYNWYD bod
y Canllawiau Cod Ymddygiad Diwygiedig yn cael eu derbyn a'u nodi. |
|
Ar y pwynt hwn (11.20am) cafwyd egwyl o 15 munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.35am. |
|
DATGAN BUDDIANNAU A LLETYGARWCH PDF 91 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) i'r Pwyllgor
drafod y prosesau a'r canlyniadau sy'n cael eu cyflawni o ran cydymffurfio â
rhwymedigaethau gorfodol ar gyfer datgan buddiannau, lletygarwch a rhoddion a
gynigir i Aelodau a Swyddogion. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i
amlinellu gweithdrefnau i Aelodau gwblhau cofrestr o’u cysylltiadau ac i ddatgan
cysylltiad ag eitemau busnes mewn cyfarfodydd maent yn eu mynychu. Mae
hefyd yn edrych ar gofnodi lletygarwch a rhoddion a gynigir i Aelodau a
Swyddogion. Roedd y Cyngor
wedi bod yn datblygu ei brosesau dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn bwriadu adrodd
yn flynyddol i'r Pwyllgor Safonau ar ba mor dda maent yn cefnogi lefelau
cydymffurfiaeth mewn perthynas â datganiadau gorfodol o fewn Sir Ddinbych. Roedd yn ofynnol
i'r Aelodau ystyried a oes ganddynt gysylltiad personol yn y busnes y maent yn
ymgymryd ag ef yn eu rôl fel Aelodau o'r Cyngor. Roedd
y Cod hefyd yn delio â chofrestru cysylltiadau ariannol ac eraill, ac aelodaeth
a swyddi rheoli gan yr Aelodau y dylid eu datgan. Roedd
darpariaethau a amlinellir yn y Cod Ymddygiad yn cydymffurfio â Rhan 3 o Ddeddf
Llywodraeth Leol 2000 gyda'r Cyngor yn rhoi cyngor a gweithdrefnau i gynorthwyo
Aelodau i gyflawni eu rhwymedigaethau.
I gychwyn, roedd ffurflen i
gofrestru cysylltiadau wedi ei chynnwys ym mhecynnau sefydlu pob aelod yn dilyn
etholiad Llywodraeth Leol. Roedd y gofrestr cysylltiadau wedi eu
llofnodi wedi eu cynnal ar ffurf papur ac ar gael i'w harchwilio ar gais. Roedd adran 58 o
Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 a ddaeth i rym y mis hwn,
yn ei gwneud yn ofynnol i gofrestrau cysylltiadau Aelodau gael ei gyhoeddi ar
ffurf electronig am y tro cyntaf.
Roedd y Cyngor wedi bod yn
trosglwyddo'r cofrestrau i’r adran "Eich Cyngor" ar y wefan gyhoeddus
a oedd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â'r Aelodau etholedig. Er
mwyn cefnogi’r gwaith hwn o drosglwyddo i’r wefan, cysylltwyd â’r holl
Gynghorwyr gan ofyn iddynt ddiweddaru neu gadarnhau fod yr wybodaeth a
ddarparwyd ganddynt yn wreiddiol yn dal yn gywir ar y cofrestrau. Byddai unrhyw
ddatganiadau a wnaed mewn unrhyw gyfarfod yn cael ei gynnwys ar y wefan hefyd. Mae’r Swyddog
Monitro’n cadw cofrestr sy'n cofnodi datgan rhoddion a lletygarwch, ynghyd â'r
wybodaeth sy'n ymwneud â'r rhoddwr a'r derbynnydd. Byddai
disgrifiad o'r rhodd neu letygarwch a gynigir, ynghyd â'i werth, y dyddiad a'r rheswm
dros y cynnig hefyd yn cael eu cofnodi.
Nid oedd angen cofrestru
rhoddion, lletygarwch neu fuddion eraill ac ati, sy’n werth llai na £25 gyda'r
Swyddog Monitro. Cynhaliodd Tîm
Archwilio Mewnol Cyngor Sir Ddinbych adolygiad o'r prosesau datgan cysylltiad a
lletygarwch ym mis Awst 2014 fel rhan o'u gwaith ar Fframwaith Sicrwydd Trefn
Lywodraethu Gorfforaethol y Cyngor.
Daethant i'r casgliad eu bod
yn fodlon bod rheolaeth eithaf da ar waith ar gyfer cofnodi datgan cysylltiadau
a derbyn rhoddion a lletygarwch. Fodd bynnag, canfuwyd y gallai’r prosesau
fod yn fwy cadarn ac effeithlon o ran y ffordd y mae'r wybodaeth yn cael ei
chofnodi a’i hadolygu ac y byddai hynny'n helpu i sicrhau y gellid nodi unrhyw
fylchau neu gamgymeriadau yn hawdd.
Arweiniodd yr adolygiad at y
canllawiau a gweithdrefnau newydd yn cael eu cyflwyno o ail hanner y flwyddyn
ddiwethaf. PENDERFYNWYD adolygu
a nodi’r adroddiad a chytunwyd i adolygu materion datganiadau cysylltiad,
rhoddion a lletygarwch yn flynyddol. |
|
ADBORTH O'R HYFFORDDIANT COD YMDDYGIAD AR GYFER CLERCOD CYNGHORAU DINAS, TREF A CHYMUNED Ystyried
adroddiad llafar gan y Swyddog Monitro, gan ddarparu adborth o'r hyfforddiant
Cod Ymddygiad a gynhaliwyd ar 19 Mai 2015 yn Neuadd y Sir, Rhuthun. Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd, Ian Trigger adborth o'r Hyfforddiant Cod Ymddygiad ar gyfer Clercod Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned a gynhaliwyd ar 19 Mai 2015. Roedd yr hyfforddiant Cod Ymddygiad wedi ei gynnal gan y Swyddog Monitro a'r Dirprwy Swyddog Monitro. Yn anffodus, roedd niferoedd presenoldeb y Clercod yn isel. Roedd y cwrs hyfforddi wedi cael ei baratoi a'i gyflwyno yn arbennig o dda. Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog Monitro a'r Dirprwy Swyddog Monitro am eu gwaith rhagorol. Roedd yr hyfforddiant ynglŷn â chodi ymwybyddiaeth am y Cod Ymddygiad a gwella ymddygiad. Roedd yn gyfle i'r Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned wella eu gwybodaeth eu hunain. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai'n mynychu cyfarfod Clwstwr yn y dyfodol i annog presenoldeb Clercod mewn sesiynau hyfforddi yn y dyfodol. Dywedwyd bod y Clercod a oedd yn bresennol yn ymddangos eu bod wedi elwa o'r hyfforddiant heb Aelodau yn bresennol. Roeddent wedi gallu trafod mewn sesiwn agored y problemau a'r materion y maent yn eu hwynebu. Awgrymodd y Swyddog Monitro y gall y sesiwn hyfforddi nesaf i’w gynnal ym mis Medi, gael ei gynnal yn y gogledd o’r sir ac o bosibl cyfarfod gyda'r nos, ond byddai angen cadarnhau hyn. PENDERFYNWYD bod
yr adborth o'r Hyfforddiant Cod Ymddygiad yn cael ei dderbyn a'i nodi. |
|
HYFFORDDIANT AR GYFER CADEIRYDDION AC IS-GADEIRYDDION CYNGHORAU DINAS, TREF A CHYMUNED PDF 41 KB Ystyried
adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) er mwyn rhoi adroddiad
gwybodaeth i’r Aelodau, sy’n dangos manylion hyfforddiant arfaethedig i
Gadeiryddion ac Is-Gadeiryddion. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro'r adroddiad (a ddosbarthwyd yn
flaenorol), i roi adroddiad gwybodaeth i’r Aelodau gyda manylion yr
hyfforddiant a gynigir ar gyfer Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Cynghorau
Dinas, Tref a Chymuned. Roedd Aelodau'r
Pwyllgor Safonau wedi pwysleisio o'r blaen y manteision o hyfforddi
Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion, fel rhan o'r dull cyffredinol o godi safonau
moesegol ymhlith aelodau etholedig.
Bydd sgiliau cadeirio da yn
cyfrannu at wneud penderfyniad effeithiol a chyfreithlon sydd yn amlwg o fudd
democratiaeth leol. Roedd yr
adroddiad yn rhoi manylion i’r Aelodau am yr hyfforddiant a fyddai'n cael ei
gyflwyno gan hyfforddwr allanol Kim Bedford. Byddai'r
hyfforddiant arfaethedig yn ddigwyddiad hanner diwrnod ar 29 Mehefin 2015 o
1.30pm. Cysylltwyd â holl Glercod y Cynghorau Tref, Dinas
a Chymuned i gadarnhau presenoldeb.
Oherwydd y gost
i’r Cyngor Sir, codir tâl o £35 y pen i dalu'r costau hynny. Y
bwriad oedd i gyfyngu ar y llefydd i ddau o bob Cyngor, sef y Cadeiryddion ac
Is-gadeiryddion presennol neu ddarpar.
Os byddai ffigurau
presenoldeb yn isel, yna byddai'r cwrs hyfforddi’n cael ei ganslo. Cadarnhawyd bod y
Cynghorydd Bill Cowie ac Aelodau Annibynnol, Julie Hughes ac Anne Mellor yn
mynychu'r sesiwn hyfforddi. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad. |
|
PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD Nodi presenoldeb
aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a
derbyn eu hadroddiadau. Cofnodion: Gwahoddwyd
aelodau'r Pwyllgor i roi adborth o gyfarfodydd Cyngor Sir, Dinas, Tref a
Chymuned yr oeddent wedi’u mynychu’n
ddiweddar. Hysbysodd y Cadeirydd yr Aelodau ei
fod wedi mynychu Cyfarfod Blynyddol Cyngor Sir Ddinbych yn ddiweddar ac roedd
yn dda gweld cefnogaeth drawsbleidiol yn ystod y cyfarfod a hir y parhaed. Mynychodd y
Cynghorydd David Jones gyfarfod Cyngor Cymuned Llanbedr DC yn Ebrill. Roedd
dwy swydd wag a gobeithio y byddent yn cael eu llenwi trwy gyfethol. Roedd
gan y Cyngor Cymuned Glerc newydd hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd Jones
fod y cyfarfod wedi bod yn anffurfiol, ond roedd y strwythur yn rhagorol a bu’n
gyfarfod addysgiadol iawn. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Safonau yn derbyn ac yn nodi'r adborth a gyflwynwyd o gyfarfodydd
diweddar a fynychwyd gan Aelodau'r Pwyllgor. |
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf Cynhelir cyfarfod
nesaf y Pwyllgor Safonau am 10.00am ar ddydd Gwener 18 Medi 2015 yn Ystafell
Gynadledda 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun. Cofnodion: Nododd yr Aelodau
y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ddydd Gwener 18 Medi 2015 am 10.00am
yn Ystafell Gynadledda 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Mynegodd y
Cynghorydd David Jones bryder ynghylch cyhoeddi gwybodaeth gan Gynghorau Dinas,
Tref a Chymuned yn electronig a'r ffaith bod y Cynghorwyr Cymuned yn
wirfoddolwyr. Dywedodd y Cynghorydd Jones y gallai fod
gwrthwynebiad a phryder ynghylch yr hyn a ddisgwylir gan Gynghorwyr Cymuned. Cadarnhaodd y
Dirprwy Swyddog Monitro ei fod yn ofyniad newydd a oedd bellach yn orfodol. Cytunwyd i godi'r
mater yng nghyfarfodydd Clwstwr yn y dyfodol ac i anfon canllawiau. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD - dan
Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972 i wahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r
cyfarfod ar gyfer yr eitem a ganlyn, ar y sail ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth
eithriedig yn cael ei datgelu, fel y'i diffinnir ym mharagraffau 12 a 13, Rhan
4, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy'n rhoi trosolwg o
gwynion a gyflwynwyd yn erbyn aelodau i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro’r adroddiad Cod Ymddygiad - Rhan 3 Deddf Llywodraeth Leol (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi trosolwg i'r Aelodau o gwynion a gyflwynwyd i
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Safonau yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12.30pm. |