Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
Croesawodd y
Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a dywedodd fod y Parchedig Wayne Roberts wedi
cyflwyno llythyr ymddiswyddo ffurfiol. Diolchodd Aelodau'r Pwyllgor
Safonau i'r Parchedig Roberts am ei gyfraniad at y Pwyllgor yn ystod y tair
blynedd ddiwethaf. Eglurodd y
Cadeirydd a'r Dirprwy Swyddog Monitro y byddai hysbyseb yn cael ei lunio i
recriwtio dau aelod annibynnol newydd i'r Pwyllgor. Byddai Panel Dethol yn cael
ei sefydlu ar gyfer y cyfweliadau a byddai angen aelod annibynnol o'r cyhoedd i
eistedd ar y Panel. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad. Gofynnodd y
Cynghorydd Bill Cowie am arweiniad gan y Dirprwy Swyddog Monitro ynghylch
dosbarthu ffurflenni datgan cysylltiad ymhob cyfarfod. Cadarnhaodd y Dirprwy
Swyddog Monitro bod hyn wedi ei wneud er mwyn atgoffa Cynghorwyr i lenwi’r
ffurflenni. Mae’r ffurflenni na ddefnyddir yn cael eu casglu a'u
hailddefnyddio. Gofynnodd y
Cynghorydd David Jones a oes modd anfon copi o'r ffurflen at glercod Cynghorau
Dinas, Tref a Chymuned er mwyn sicrhau bod ffurflen datgan cysylltiad safonol
yn cael ei defnyddio ar draws y sir. Cadarnhaodd y Dirprwy Swyddog Monitro y
byddai copi o'r ffurflen yn cael ei anfon. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Dim. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 196 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2015 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2015. Nid oedd y
Cynghorydd Barry Mellor wedi ymddiheuro gan ei fod ar ei wyliau pan gafodd
wybod ei fod wedi ei benodi fel aelod newydd o’r Pwyllgor. Felly, dylid tynnu
enw’r Cynghorydd Mellor dan yr ymddiheuriadau. Materion yn
codi:- Roedd y
Cynghorydd Bill Cowie wedi gofyn am restr wirio o’r holl Gynghorau Dinas, Tref
a Chymuned er mwyn galluogi aelodau'r Pwyllgor Safonau i nodi eu dewis o ran pa
gyfarfod i’w fynychu. Cadarnhaodd y
Dirprwy Swyddog Monitro y byddai'n cyfarfod â’r Rheolwr Cynnwys y Gymuned er
mwyn iddo gadarnhau dyddiadau’r holl gyfarfodydd. Unwaith y bydd yr wybodaeth
hon ar gael, bydd yn cael ei dosbarthu i bob aelod o'r Pwyllgor Safonau. Cafwyd trafodaeth
a chodwyd y pwyntiau canlynol: (i) Gofynnwyd
am gopi o rifau ffôn a chyfeiriadau e-bost Clercod y Cynghorau Dinas, Tref a
Chymuned i hwyluso cyfathrebu. (ii)
Ychwanegu enw'r Cyngor Dinas, Tref neu Gymuned at enwau’r Cynghorwyr mewn
cofnodion neu ohebiaeth er mwyn eu hadnabod. (iii)
Anfon eglurhad at holl aelodau'r Pwyllgor Safonau ynghylch eu presenoldeb mewn
cyfarfodydd pan fydd eitem Rhan II yn cael ei thrafod. Eglurodd y Dirprwy
Swyddog Monitro y byddent yn bresennol fel aelod o'r Pwyllgor Safonau ac fel
aelod o'r cyhoedd, felly ni ddylent fod yn bresennol ar gyfer eitemau Rhan
II. Byddai’r mecanwaith anffurfiol yn ôl doethineb y
Cyngor. (iv) Yn aros am ymateb gan y
Swyddog Monitro ynghylch trosglwyddo barn y Pwyllgor Safonau i Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o ran cyflwyno prawf budd y cyhoedd. (v)
Hyfforddiant Cod Ymddygiad ar gyfer Clercod Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned
rhwng 2.00 p.m. a 5.00 p.m. ar 19 Mai 2015 yn Neuadd y Sir, Rhuthun. Mae croeso
i aelodau'r Pwyllgor Safonau hefyd fynychu. Mae nifer o glercod newydd a
gobeithio y byddant yn mynychu. Mae’r hyfforddiant hefyd yn sesiwn loywi i’r
rheiny sydd wedi bod yn glercod ers peth amser. Bydd adborth yn cael ei
gyflwyno i’r Pwyllgor Safonau ar 22 Mai 2015. (vi) Mae hysbysebu cyfarfodydd
Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn ddiffygiol. Argymhellodd y Pwyllgor y dylid gosod hysbysebion
ar y prif strydoedd wrth ymyl y mannau cyfarfod er mwyn annog y cyhoedd i
fynychu. Mae Clerc Cyngor Tref Rhuthun wedi e-bostio’r Dirprwy Swyddog
Monitro yn gofyn am adborth ynghylch: hysbysebu cyfarfod a lleoliad. (vii)
E-ddysgu. Cafodd y digwyddiad hyfforddi blaenorol a gynhaliwyd gan y Swyddog
Monitro a’r Dirprwy Swyddog Monitro ei ffilmio yn y gobaith y gellid ei
ddefnyddio i ddarparu hyfforddiant yn y dyfodol. Yn anffodus, yn dilyn gwylio’r ffilm, cytunwyd nad yw ansawdd y ffilm yn
ddigonol at ddibenion hyfforddi. (vii) Mae’r
Dirprwy Swyddog Monitro yn chwilio am hyfforddwr i ddarparu hyfforddiant ar
gyfer Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion. Bydd diweddariad yn y cyfarfod
nesaf. PENDERFYNWYD
y dylid, yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod
a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2015 fel cofnod cywir. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL PDF 45 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Swyddog Monitro y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol er ystyriaeth y Pwyllgor
Safonau. Cafwyd trafodaeth
a chytunwyd bod y canlynol yn cael ei ychwanegu at y Rhaglen Gwaith i'r
Dyfodol: (i) 22 Mai
2015 - Adborth ar Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd ar ôl cyfarfod y Cyngor ac
ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Safonau. (ii) 18 Medi -
Adborth Fforwm Safonau Gogledd Cymru ar 30 Mai 2015. Dywedodd y
Dirprwy Swyddog Monitro y bydd Cynhadledd Safonau yn cael ei chynnal yng
Nghaerdydd ar 20 Hydref 2015. Bydd yr holl fanylion yn cael eu dosbarthu ar ôl
eu derbyn. PENDERFYNWYD
bod y Pwyllgor Safonau yn cytuno â’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a’r
ychwanegiadau. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CADEIRYDD PDF 74 KB Ystyried
adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy’n galluogi'r Pwyllgor
i weld ac i gyfrannu at Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd, cyn i'r eitem gael ei
chyflwyno i'r Cyngor llawn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Swyddog Monitro Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd (copi ynghlwm) er mwyn
galluogi Aelodau'r Pwyllgor Safonau i gyfrannu at yr adroddiad cyn iddo gael ei
gyflwyno i'r Cyngor Llawn. Yn y cyfarfod diwethaf roedd y Swyddog Monitro yn
awyddus iawn i ystyried barn y Cadeirydd a'r Pwyllgor ar y cynnwys. Cytunodd
Aelodau'r Pwyllgor Safonau y dylid cyflwyno Adroddiad Blynyddol ar waith,
canfyddiadau a sylwadau’r Pwyllgor i holl aelodau'r Cyngor fel rhan o ymgyrch y
Pwyllgor i gynyddu safonau ymddygiad moesegol a chydymffurfio â'r Cod
Ymddygiad. Diolchodd y
Cadeirydd a’r Pwyllgor i'r Dirprwy Swyddog Monitro am ei waith ardderchog ar yr
adroddiad. PENDERFYNWYD
y byddai Aelodau yn: (a) Nodi cynnwys yr adroddiad. (b) Darparu sylwadau i’r Swyddog Monitro
ar gynnwys yr adroddiad i sicrhau ei fod yn adlewyrchu barn y Pwyllgor yn
gywir. (c) Argymell y dylai’r Cadeirydd gyflwyno’r
adroddiad i'r Cyngor Llawn. |
|
CAIS AM ODDEFEB GAN AELODAU CYNGOR TREF Y RHYL PDF 92 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) i alluogi’r Pwyllgor benderfynu a
ddylid rhoi goddefeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Swyddog Monitro y Cais am Oddefeb gan aelodau Cyngor Tref y Rhyl (copi
ynghlwm) er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried y cais, penderfynu a ddylid
caniatáu’r oddefeb ac ystyried yr amodau i'w rhoi ynghlwm wrth y caniatâd
arbennig. Roedd Clerc Cyngor Tref y Rhyl, Gareth Nicolls, yn
bresennol. Cafwyd cais gan
Gyngor Tref y Rhyl am oddefeb ar gyfer aelodau etholedig y Cyngor Tref mewn
perthynas â materion yn ymwneud â Phwyllgor y Rhyl yn ei Blodau. Mae
Cyngor Tref y Rhyl yn penodi un o'i aelodau etholedig i wasanaethu ar y
Pwyllgor, fodd bynnag, mae mwyafrif o aelodau'r Cyngor Tref hefyd yn rhan o
waith y sefydliad, naill ai trwy fod ar y Pwyllgor yn rhinwedd eu swyddi
personol neu fel aelodau o'r sefydliad. Dywedodd Clerc
Cyngor Tref y Rhyl fod Pwyllgor y Rhyl yn ei Blodau yn ystyried newid enw a
gofynnodd i hynny gael ei ystyried mewn perthynas â'r oddefeb. Cafwyd trafodaeth
fanwl a chytunodd yr aelodau i ganiatáu’r oddefeb gydag amodau. Canmolwyd Clerc
Cyngor Tref y Rhyl gan y Pwyllgor o ran y ffordd yr oedd wedi gwneud y cais am
oddefeb. Felly: PENDERFYNWYD rhoi goddefeb i Aelodau Cyngor Tref y Rhyl yn
unol â Rheoliad 2(a) a (d) Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Goddefebau)
(Cymru) 2001: (i) mae’r Oddefeb yn berthnasol i faterion a ystyrir gan Gyngor Tref y Rhyl
o ran Pwyllgor y Rhyl yn ei Blodau (neu beth bynnag fydd yr enw newydd); (ii) mae’n rhaid i'r Aelodau barhau i ddatgan cysylltiad personol yn y
cyfarfodydd y caiff eitemau o'r fath eu trafod. Yna, efallai y byddant yn
cael siarad a phleidleisio i'r graddau y caniateir iddynt wneud hynny gan yr
Oddefeb hon; (Iii) bydd yr Oddefeb yn berthnasol am 12 mis o ddyddiad y cyfarfod hwn o’r
Pwyllgor Safonau (6 Mawrth 2015). Wedi hynny, bydd yn rhaid i Glerc Cyngor Tref
y Rhyl wneud cais ysgrifenedig i'r Swyddog Monitro am estyniad i'r Oddefeb gan
nodi gweithgareddau Pwyllgor y Rhyl yn ei Blodau (neu beth bynnag fydd yr enw
newydd); (Iv) ar ethol Aelod newydd, mae’n rhaid i Glerc Cyngor Tref y Rhyl roi
gwybod i'r Swyddog Monitro yn ysgrifenedig er mwyn cymhwyso’r Oddefeb i'r Aelod
newydd. |
|
Ar y pwynt hwn
(11.30 a.m.) cafwyd toriad. Ailddechreuodd y
cyfarfod am 11.40 a.m. |
|
DARPARIAETH HYFFORDDIANT AR GYFER CYNGHORWYR A CHLERCOD Y CYNGHORAU DINAS, TREF A CHYMUNED Ystyried
adroddiad llafar gan y Dirprwy Swyddog Monitro ynglŷn â darpariaeth
hyfforddiant. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad llafar i'r Pwyllgor ynghylch darpariaeth
hyfforddiant. Bydd digwyddiad
hyfforddi ar gyfer Clercod ac Is-Glercod Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn
cael ei drefnu. Bydd llythyr yn cael ei anfon at bob clerc yn gofyn iddynt
ddewis y dyddiad a’r amser gorau iddynt hwy. Unwaith y bydd yr ymatebion
wedi dod i law, bydd y digwyddiad yn cael ei archebu, un yn y Rhyl ac un yn
Rhuthun, ar y dyddiad oedd fwyaf cyfleus i’r clercod. Mynegodd y
Cadeirydd ei ddiolchiadau a diolchiadau’r Pwyllgor i'r Swyddog Monitro a'r
Dirprwy Swyddog Monitro am eu gwaith da o ran hyfforddiant. PENDERFYNWYD
nodi’r adroddiad llafar. |
|
PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD Nodi presenoldeb
aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a
derbyn eu hadroddiadau. Cofnodion: Dim adroddiadau. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Ar y pwynt hwn,
gofynnodd y Cadeirydd i'r aelodau a oedd ganddynt unrhyw fusnes arall. Gofynnodd y
Cynghorydd Bill Cowie, pan fo cyrsiau hyfforddiant yn cael eu cynnal gan
swyddogion, a oes modd penodi Cynghorydd fel Cadeirydd i redeg y cyfarfod gan
ganiatáu i’r hwylusydd ganolbwyntio ar y materion hyfforddi. Cytunodd y
Pwyllgor â’r cais hwn. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Cynhelir cyfarfod
nesaf y Pwyllgor Safonau ar 22 Mai 2015. Cofnodion: Nododd yr Aelodau
y bydd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau yn cael ei gynnal ddydd Gwener 22 Mai
2015 am 10.00 a.m. yn Ystafell Gynadledda 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD dan
ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r
Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol ar y sail y byddai
gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym
Mharagraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. RHAN II |
|
COD YMDDYGIAD – RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy'n rhoi trosolwg o
gwynion a gyflwynwyd yn erbyn aelodau i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad Cod Ymddygiad - Rhan 3 Deddf Llywodraeth Leol
2000 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i ddarparu trosolwg i'r Aelodau o gwynion a
gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Safonau yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Diwedd y cyfarfod – 12 p.m. |