Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni
wnaeth yr un Aelod ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu a oedd yn rhagfarnu
mewn unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y
cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol,
1972. |
|
Cofnodion y cyfarfod diwethaf PDF 176 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf 2014 (copi’n
amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd Cofnodion y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd
18 Gorffennaf, 2014. Materion yn codi:- 5. Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol - Mewn ymateb i gwestiynau gan
y Cynghorydd D.E. Jones ar y cynnydd gyda darparu hyfforddiant i Aelodau ar y
Cod Ymddygiad, esboniodd yr MO nad oedd lefelau presenoldeb ar gyfer sesiynau
hyfforddi mewn Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn dilyn Etholiadau 2012 wedi
diwallu disgwyliadau lefel presennol. Roedd yr MO a’r DMO wedi hynny wedi cael
eu gwahodd i fynd i gyfarfodydd i siarad ynghylch materion penodol, ac roedd
trafodaethau wedi’u cynnal gyda’r Swyddog Ymgysylltiad Cymunedol ynglŷn
â’r ddarpariaeth o hyfforddiant wedi’i haddasu’n arbennig i Glercod y
Cynghorau priodol. Amlygodd y Cadeirydd
yr adroddiad cadarnhaol gan yr MO ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn, ar ddarpariaeth
hyfforddiant i Glercod, a ystyriwyd gan Fforwm Safonau Gogledd Cymru. Teimlodd
y gallai mabwysiadu model o’r fath fod yn fuddiol i hwyluso’r broses hyfforddi. Cadarnhaodd yr MO y gellid ystyried datblygu modiwlau
e-ddysgu, y gellid eu cylchredeg i Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, a’u
cefnogi gan swyddogion ac Aelodau o’r Pwyllgor Safonau. Rhoddodd y DMO wybod i’r Pwyllgor bod yr hyfforddwr a
roddodd yr hyfforddiant gwreiddiol, er ei fod wedi ymddeol bellach, wedi cytuno
i ystyried darparu rhagor o gyrsiau. Esboniodd yr MO bod pryderon wedi’u codi
gan rai Cynghorau Cymuned llai ynglŷn
â chost y ddarpariaeth hyfforddi, a thynnodd sylw at yr angen i roi
eglurhad am y taliadau. Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr
argymhelliad a wnaed i fynd at y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol am eu barn
ynghylch y Pwyllgor Safonau yn mynd i'r afael â mwy o faterion a oedd yn cael
sylw ar y pryd gan eu Pwyllgor. Darparodd yr MO a DMO grynodeb byr o ymateb y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a fyddai'n cael ei gynnwys yn yr adolygiad
o Gyfansoddiad y Cyngor. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd W.L. Cowie
ynghylch darparu rhestr wirio o'r holl Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned i
alluogi Aelodau'r Pwyllgor Safonau i nodi eu dewis o ran pa gyfarfod y byddent
yn bresennol ynddo, cadarnhaodd y DMO y byddai hyn yn cael ei gyflwyno yng
nghyfarfod nesaf y Pwyllgor. Cytunodd yr MO i gysylltu â'r Swyddog Ymgysylltu
â’r Gymuned ynghylch y mater o ddarparu cyfarfodydd clwstwr. 6. Adroddiad Blynyddol
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2013/14 - Cyfeiriodd
y Cadeirydd at faterion y tynnwyd sylw’r Aelodau atynt, a chyfeiriodd at
baragraff 6. Teimlodd pe bai cwyn yn cael ei gwneud a’i diystyru heb
wrandawiad, gallai’r cyhoedd ystyried hyn yn annheg. Eglurodd yr MO mai dim ond
un achos oedd wedi codi o dan yr amgylchiadau y cyfeiriwyd atynt. PENDERFYNWYD – bod y Cofnodion yn cael eu derbyn a’u cymeradwyo
fel cofnod cywir.
(G. Williams ac L. Jones i
Weithredu ar hyn) |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL AC ADOLYGIAD PDF 174 KB Ystyried
adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) ar gyfer aelodau o’r
Pwyllgor i ddadlau ac ystyried mabwysiadu Rhaglen Waith i’r Dyfodol. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro (DMO) adroddiad (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Adolygiad i’w hystyried a’u
mabwysiadu. Ystyriodd Aelodau Raglen Gwaith i’r Dyfodol y
Pwyllgor Safonau ar gyfer y chwe mis sydd i ddod, a chytunwyd ar yr
ychwanegiadau canlynol:- 6 Mawrth, 2015:- (a)
Darpariaeth hyfforddiant i Gynghorwyr a Chlercod Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned. 22 Mai, 2015:- (a)
Darpariaeth hyfforddiant i Gynghorwyr a Chlercod Cynghorau Dinas, Tref
a Chymuned. (b)
Ystyried Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd i’r Cyngor. PENDERFYNWYD –bod y Pwyllgor Safonau’n cytuno ar y Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol gyda’r cynnwys y cytunwyd arno.
(G. Williams ac L. Jones i
Weithredu) |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CADEIRYDD PDF 263 KB I ystyried adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy’n
galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ac i gyfrannu at Adroddiad Blynyddol y
Cadeirydd, cyn i'r eitem gael ei gyflwyno i'r Cyngor llawn. Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan y Swyddog Monitro (MO) wedi’i ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer
y cyfarfod. Roedd yr
adroddiad yn galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar Adroddiad Blynyddol y
Cadeirydd, a chyfrannu ato, cyn iddo gael ei gyflwyno i'r Cyngor llawn. Roedd
yr MO wedi bod yn arbennig o awyddus i gymryd barn y Cadeirydd a’r Pwyllgor i
ystyriaeth ar y cynnwys, a nodir y manylion arfaethedig yn adran 4. Cytunwyd y dylai Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd gael ei gyflwyno ar waith
y Pwyllgor, a’i ganfyddiadau ac arsylwadau, i holl Aelodau'r Cyngor fel rhan o
ymgyrch y Pwyllgor i gynyddu safonau ymddygiad moesegol a chydymffurfio â Chod
Ymddygiad yr Aelodau. Hwn oedd Adroddiad Blynyddol cyntaf y Cadeirydd i'r
Cyngor Llawn, oedd yn cwmpasu’r cyfnod Ionawr-Rhagfyr 2014. Byddai’r adroddiad
yn rhoi gwybodaeth i'r Aelodau am dueddiadau, materion o ran cydymffurfio â'r
Cod Ymddygiad Aelodau yn gyffredinol ar draws y Sir, a gwaith y Pwyllgor wrth
godi safonau ymddygiad ar lefelau Sir, Tref, Dinas a Chymuned. Roedd manylion ynghylch y cyfansoddiad a phwerau'r
Pwyllgor wedi’u cynnwys yn yr adroddiad, a chyfeiriwyd yn arbennig at y broses
benodi a rôl Aelodau Annibynnol. Cyn 2014, roedd y Pwyllgor wedi bod yn gyfrwng i ddiwygio Cod Ymddygiad y Cyngor i wneud hyfforddiant ar y Cod yn rhwymedigaeth orfodol; cyflwyno Protocol Hunan-Rheoleiddio, gan sicrhau bod hyfforddiant ar draws y Sir i'r Sir a digwyddiadau sioe deithiol 'Cod' yn cael eu cyflwyno gan yr MO a'i ddirprwy ar lefel Cynghorau Tref, Dinas, a Chymuned a deunydd cyhoeddusrwydd i gynorthwyo Clercod yn y cymunedau.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf roedd y Pwyllgor wedi trefnu i gwrdd bum gwaith ac wedi cyfarfod ar 4 achlysur oherwydd bod cyfarfod mis Hydref wedi’i ganslo. Mae tabl yn yr adroddiad yn darparu crynodeb o'r eitemau i’w trafod. Mae'r tair eitem fusnes sefydlog ar y rhaglen ar gyfer pob cyfarfod yn cynnwys:-
(i)
Adroddiadau gan Aelodau Safonau mewn perthynas â’u
presenoldeb ac arsylwadau mewn cyfarfodydd Pwyllgor neu Gyngor, boed ar lefel
Sir neu Gymuned. (ii)
Trosolwg o Gwynion yn erbyn Aelodau gydag Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru. (iii)
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. Mae hon yn fenter newydd i alluogi’r Pwyllgor
i fabwysiadu’r un dull strategol â’r Pwyllgorau eraill, ac i dargedu ei
adnoddau i feysydd eraill o flaenoriaeth. Cwestiynodd y Cynghorydd W.L. Cowie a fyddai’r
Adroddiad Blynyddol yn rhoi manylion adroddiadau Aelodau ar ymweliadau â
chyfarfodydd Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned.
Eglurodd yr MO, yn amodol ar gymeradwyaeth, y gallai'r adroddiad nodi
bod ymweliadau rheolaidd â Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned wedi cael eu
cynnal gan Aelodau'r Pwyllgor, a phe bai’r MO neu'r DMO yn cael cais i gymryd
unrhyw gamau, fe allai hyn gael ei adrodd yn dibynnu ar ddifrifoldeb y mater a
godwyd. Awgrymodd y Cynghorydd D.E. Jones y gellid cynnwys yr ystadegau
cyffredinol yn ymwneud â nifer yr ymweliadau a wnaed, a'u canlyniad dilynol, yn
yr adroddiad yn amlinellu cyflwr a fframwaith cyffredinol y Cynghorau Dinas,
Tref a Chymuned. Teimlai'r Cynghorydd Jones y gallai adroddiadau negyddol greu
awyrgylch anodd a bod yn niweidiol i annog enwebiadau ar gyfer swyddi
gwirfoddol ar Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned. Cwestiynodd y Cadeirydd y cyfeiriad at Wasanaethau
Erlyn y Goron ym Mharagraff 4.2. Rhoddodd yr MO fanylion am bwerau ei
ymchwiliad, a chyfeiriodd at yr ystadegau ar gael mewn perthynas â nifer yr
achosion na ddilynwyd. Cytunodd y
Pwyllgor fod argaeledd y pŵer wrth gefn yn cael ei gynnwys yn yr
adroddiad. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, cytunwyd ar y
newidiadau canlynol i'r Adroddiad Blynyddol Drafft:- · Paragraff 4.1 - "Cadeirydd y Pwyllgor Safonau" yn cael ei ddiwygio i ddweud "adroddiad y Pwyllgor". ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU – PRAWF LLES Y CYHOEDD PDF 83 KB I ystyried
adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) ar gynnig gan Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i gyflwyno Prawf Budd y Cyhoedd newydd wrth
ystyried a ddylid ymchwilio i honiadau bod Aelod Etholedig wedi torri'r Cod
Ymddygiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd
copi o adroddiad gan y Swyddog Monitro (MO) ar y cynnig gan Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW) i gyflwyno Prawf Lles y Cyhoedd newydd wrth
ystyried a ddylid ymchwilio i honiadau bod Aelod Etholedig wedi torri'r Cod
Ymddygiad. Ceisiwyd safbwyntiau’r
Pwyllgor ar y papur trafod a gynhyrchwyd gan y PSOW, Atodiad 1, ar gynnig ei
fod yn cyflwyno prawf ychwanegol wrth ystyried a ddylid ymchwilio i gŵyn a
wnaed iddo fod aelod wedi torri'r Cod Ymddygiad. Mae swyddfa'r PSOW ers nifer o flynyddoedd
wedi cymhwyso prawf dau gam wrth ystyried a ddylid ymchwilio i doriad honedig
Cod Ymddygiad gan Aelod. Y cam cyntaf fyddai sefydlu a oedd tystiolaeth bod
torri'r Cod wedi digwydd mewn gwirionedd.
Yr ail gam yw ystyried a fyddai'r toriad honedig, os profir, yn debygol
o arwain at osod sancsiwn gan Bwyllgor Safonau neu Banel Dyfarnu Cymru. Wrth ystyried y tebygolrwydd o sancsiwn yn
cael ei osod, byddai swyddfa'r PSOW yn ystyried yr achosion sydd wedi cael eu
hystyried gan Bwyllgorau Safonau ledled Cymru a'r camau mae’r pwyllgorau hynny
wedi eu cymryd. Roedd y PSOW yn pryderu am nifer y cwynion lefel
isel a dderbyniwyd gan ei swyddfa ac roedd yn ceisio cyflwyno prawf ychwanegol
a fyddai'n ystyried a oes angen ymchwiliad neu atgyfeiriad at Bwyllgor Safonau
neu Banel Dyfarnu er budd y cyhoedd.
Mae'r Ombwdsmon yn ei gwneud yn glir yn y papur ynghlwm fel Atodiad 1 ei
fod yn gweld ei rôl fel ymchwilio i achosion difrifol er mwyn cynnal hyder y
cyhoedd mewn safonau mewn bywyd cyhoeddus.
Ni fyddai’n agor ymchwiliad oni bai ei fod o'r farn ei bod yn gymesur i
wneud hynny, o ystyried amgylchiadau'r tor-rheol honedig. Wrth
benderfynu a oedd ymchwiliad er lles y cyhoedd, byddai’r Ombwdsmon yn ystyried
nifer o ffactorau sy'n cael eu nodi yn Atodiad 1. Ni fyddai pob un o'r
ffactorau hyn yn berthnasol ym mhob achos a byddai’r pwysau a roddir i bob un
yn dibynnu ar amgylchiadau pob achos.
Roedd y PSOW yn ei gwneud yn glir mewn cyfnod o lai o adnoddau y
byddai’n rhaid iddo flaenoriaethu'r materion y byddai ei swyddfa yn ymchwilio
iddynt, ac mae’n bosibl na fyddai’n briodol mwyach i ddefnyddio adnoddau ar
gyfer ymchwilio i gwynion lefel isel. Yn ogystal, byddai'n ystyried a ddylid
parhau â'r arfer o gyfeirio’r achosion hynny, er y gall fod tystiolaeth o dorri
y penderfynodd ymchwilio iddo, i MO Lleol ei ymchwilio oherwydd yr ail gam o’i
brawf cyfredol. Gofynnwyd am farn yr
aelodau ar y pwynt hwn hefyd. Cadarnhaodd yr MO y perygl, os byddai Prawf Lles y
Cyhoedd y PCSO yn cael ei gymhwyso ar lefel trothwy rhy uchel, y gallai fod
posibilrwydd o dorri'r Cod Ymddygiad a ddylai fod yn destun sancsiwn heb gael
ei ymchwilio. Deallodd y Cadeirydd y rhesymeg y tu ôl i'r bwriad i gyflwyno prawf lles y
cyhoedd. Fodd bynnag, awgrymodd y gallai'r
broses wanhau’r Cod Ymddygiad ac y gallai canfyddiad y cyhoedd o ymagwedd o'r
fath at ymchwiliadau leihau hyder yn y broses ddemocrataidd, os cyflwynwyd yn
unig ar sail yr adnoddau sydd ar gael. Awgrymodd y
Cadeirydd y gallai pwrpas y Pwyllgor Safonau, fel mecanwaith i ddelio â
chwynion lefel isel, fodloni achwynwyr bod eu cwynion wedi cael eu hystyried. Amlinellodd
yr MO y broses tri cham cyfredol ac eglurodd y gallai’r cyfle i ddelio â
chwynion yn lleol gael ei symud hefyd, a oedd yn codi pryderon nad oedd
sefyllfaoedd yn cael symud i’r cam nesaf. Roedd y
Cynghorydd D.E. Jones wedi cyfeirio at bwysigrwydd yr ystyriaeth a roddwyd i
ddifrifoldeb torri'r Cod Ymddygiad wrth benderfynu ar yr angen am weithredu
pellach. Cytunodd ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
FFORWM PWYLLGORAU SAFONAU GOGLEDD CYMRU PDF 83 KB I ystyried adroddiad (mae copi ynghlwm) gan y Swyddog Monitro ar gyfarfod
Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2014. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Copi
o adroddiad gan y Swyddog Monitro (MO) (copi’n amgaeedig) a oedd yn rhoi gwybod
am y drafodaeth yn Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru (NWSCF) ar 26
Tachwedd, 2014, a oedd wedi'i fynychu gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru (PSOW). Prif fusnes y cyfarfod oedd cwrdd ag Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus newydd Cymru (PSOW), Mr Nick Bennett, a gofyn am ei farn
ynglŷn â materion sy'n wynebu Pwyllgorau Safonau yng Nghymru ar hyn o
bryd. Roedd y NWSCF wedi ysgrifennu 13 o
gwestiynau er mwyn strwythuro'r drafodaeth gyda'r PSOW. Ceir copi o'r cwestiynau a ofynnwyd i'r
PSOW, ynghyd â chofnod o'i atebion, yn Atodiad 1 yr adroddiad hwn. Crynhodd yr MO yr adroddiad ac eglurodd fod y PSOW
yn awyddus i gwrdd â chynrychiolwyr y Pwyllgor Safonau, a gwrando ar eu barn
a'u pryderon am faterion cyfredol. Roedd
yn gefnogol iawn i waith Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru ac i’r cymorth
y mae Pwyllgorau Safonau yng Ngogledd Cymru yn ei gynnig i’w gilydd drwy
gyfrwng y Fforwm. Darparodd yr MO
grynodeb manwl o drafodion y cyfarfod. Gosododd y PSOW waith ei swyddfa yng nghyd-destun
llai o adnoddau cyhoeddus a'r angen i waith ei swyddfa gynnal hyder y cyhoedd
yn y broses ddemocrataidd tra blaenoriaethir adnoddau prin sydd ganddo. Pwysleisiodd y PSOW nad oedd ganddo fawr o
feddwl o gwynion blinderus a dywedodd bod angen i’r ymchwiliadau y bydd ei
swyddfa yn eu cynnal fod yn gymesur â'r lles i’r cyhoedd yn y mater yr
ymchwilir iddo. Roedd y PSOW wedi bod yn
awyddus i gefnogi datrys cwynion yn lleol mewn perthyn â’r Cod Ymddygiad a
fyddai'n cynyddu pa mor gyflym y gellir ymdrin â chwynion. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon ei fwriad i gyhoeddi
canllawiau diwygiedig i awdurdodau lleol yng ngoleuni dyfarniad diweddar ac i
symleiddio'r canllawiau a ddarperir i Aelodau, yn enwedig mewn perthynas â
datgan cysylltiad. Byddai prawf lles y
cyhoedd hefyd yn cael ei gyflwyno ac roedd hyn yn destun adroddiad ar wahân i'r
Pwyllgor Safonau. Ystyriodd y Fforwm eitem ar ddarparu
hyfforddiant Cod Ymddygiad i Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, ac maent wedi
cael gwybod am ddull Cyngor Sir Ynys Môn i ddarparu hyfforddiant wedi'i deilwra
i glercod Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned er mwyn eu galluogi i fod yn y pwynt
cyntaf o gyngor mewn perthynas â materion Cod Ymddygiad. Roedd y dull hwn wedi arwain at ddatblygu'r
berthynas sydd rhwng clercod a'r MO, ac yn dilyn yr hyfforddiant roedd nifer o
glercod wedi manteisio ar y cyfle i gysylltu â'r MO i drafod materion yn
ymwneud â'u Cynghorau. Roedd trafodaeth
ar rinweddau Awdurdodau eraill yn cymryd agwedd debyg at ddarparu hyfforddiant
i Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned. Cafwyd yr ymatebion canlynol i gwestiynau gan y Cynghorydd W.L. Cowie:- -
Cytunodd y Cadeirydd i ofyn am farn yr NWSCF ynglŷn
â phresenoldeb Cynghorwyr Sir mewn cyfarfodydd NWSCF. -
Cytunodd yr MO i ddarparu eglurhad ynghylch presenoldeb
Aelodau o'r Pwyllgor Safonau mewn cyfarfodydd Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned,
wrth ystyried eitemau busnes Rhan II. Rhoddwyd cadarnhad i Aelodau y
byddai'r Pwyllgor Safonau â hawl i fynychu unrhyw gyfarfod o Gynghorau Dinas,
Tref a Chymuned y Sir, wrth ystyried eitemau busnes Rhan II. Ymatebodd yr MO i gwestiynau gan y Cyng. D.E. Jones ac esboniodd fod cyfarfodydd y Cyngor
Cymuned, cyfarfodydd lleol y Cyngor, yn gyfarfodydd cyhoeddus a gall unrhyw
aelod o’r cyhoedd eu mynychu. Amlygodd y
Cynghorydd Jones sylwadau hefyd yn ymwneud ag argaeledd adnoddau digonol ar
gyfer clercod Cynghorau Tref a Chymuned i weithredu protocol datrysiad
lleol. Yn dilyn trafodaeth bellach:- PENDERFYNWYD -bod y Pwyllgor Safonau:- (a)
yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad, (b) y ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD Nodi presenoldeb
aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a
derbyn eu hadroddiadau. Cofnodion: Gwahoddwyd aelodau'r
Pwyllgor i roi adborth o gyfarfodydd Cyngor Sir, Dinas, Tref a Chymuned yr
oeddent wedi’u mynychu yn ddiweddar a
chymerodd yr Aelodau'r cyfle i gynnig crynodeb o sut roedd y Cynghorau
perthnasol wedi gweithredu. Roedd Mrs P. White wedi
mynychu'r cyfarfod yn Ionawr, 2015 o Gyngor Tref Rhuddlan. Eglurodd fod y cyfarfod wedi bod yn fywiog
gyda'r Cynghorwyr Tref yn ymdrechu i wneud eu gorau ar gyfer Cymuned Rhuddlan. Roedd y rhaglen wedi bod yn sylweddol ac
roedd Mrs White wedi gadael y cyfarfod cyn ystyried yr eitemau busnes Rhan II. Roedd y Cynghorydd W.E.
Cowie wedi mynychu cyfarfod o Gyngor Tref Dinbych ar 12 Ionawr, 2015. Esboniodd
y Cynghorydd Cowie fod y cyfarfod wedi symud ymlaen yn dda gydag Aelodau yn
cydymffurfio â moesau. Roedd wedi cael
argraff dda gyda'r modd y cafodd busnes y cyfarfod ei gynnal, ac fe roddodd
sylwadau ar broffesiynoldeb y Cadeirydd. Roedd y Cynghorydd Cowie
hefyd wedi bod yn bresennol mewn cyfarfod o Gyngor Tref y Rhyl 21 Ionawr, 2015.
Roedd y Cynghorydd Cowie yn edmygu sefydliad y cyfarfod, ac roedd yn teimlo y
gellid defnyddio’r gweithdrefnau a fabwysiadwyd fel enghraifft o sut y dylid
cynnal cyfarfodydd. Roedd y Cadeirydd wedi
mynychu cyfarfod o Gyngor Tref Rhuthun ar 20 Hydref, 2014. Mynegodd ei bryder
am y diffyg rhybudd ynghylch hysbysebu'r cyfarfod, a'r anhawster dilynol wrth
leoli ei leoliad. Roedd Cadeirio’r
cyfarfod wedi bod yn ddi-lol ac nid oedd lefel y ddadl bob amser yn ymwneud â
lefel pwysigrwydd y mater dan ystyriaeth.
Wrth grynhoi, cadarnhaodd y Cadeirydd fod awyrgylch y cyfarfod yn
gyffredinol wedi bod yn dda. Mynychodd y Cadeirydd
gyfarfod Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr, 2014, a theimlwyd y bu diffyg
Cadeirio pendant yn ystod yr achos.
Gwnaeth sylwadau ar yr achos a oedd yn ymwneud yn bennaf â mater Diwygio
Llywodraeth Leol, ac eglurodd yr MO fod y Prif Weithredwr wedi arwain yn ystod
y cyfarfod gan mai ef oedd awdur y prif adroddiad. Mewn ymateb i’r pryderon a
fynegwyd gan y Cynghorydd D.E. Jones
ynghylch pwysigrwydd ymddygiad Aelod yn ystod gwe-ddarlledu cyfarfodydd,
eglurodd yr MO bod canllawiau ar we-ddarlledu wedi’u rhoi i Aelodau Etholedig. PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Safonau yn derbyn ac yn nodi'r
adborth a gyflwynir o gyfarfodydd diweddar a fynychwyd gan Aelodau'r Pwyllgor. |
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf Mae cyfarfod
nesaf y Pwyllgor Safonau wedi’i drefnu ar gyfer 6 Mawrth 2015. Cofnodion: Nododd yr Aelodau bydd cyfarfod nesaf y Pwyllgor
Safonau yn cael ei gynnal am 10.00 a.m. ddydd Gwener 6 Mawrth 2015 yn Ystafell
Gynadledda 1B, Neuadd y Sir, Rhuthun. PENDERFYNWYD – nodi y bydd y Pwyllgor Safonau nesaf yn cael ei
gynnal ar ddydd Gwener, 6 Mawrth, 2015. |
|
COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) a oedd yn rhoi
trosolwg o gwynion a gyflwynwyd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn
erbyn aelodau. Cofnodion: GWAHARDD
Y WASG A'R CYHOEDD PENDERFYNWYD- dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 i wahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn,
ar y sail ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu,
fel y'i diffinnir ym mharagraffau 12 a 13, Rhan 4, Atodlen 12a Deddf
Llywodraeth Leol 1972. RHAN
II 11. COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH
LEOL 2000 Roedd
copi o adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (MO), a oedd yn rhoi
trosolwg o gwynion a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, wedi
ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd y Pwyllgor Safonau eisoes wedi gofyn am
gael gwybod yn rheolaidd am lefel y
cwynion a gyflwynwyd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW). Roedd y tablau yn Atodiad 1 yn rhoi trosolwg
o gwynion a gyflwynwyd ers 1 Ebrill 2012. Cafodd ei gadarnhau gan y MO bod Cyfeirnod Achos
251,253 a 254 bellach wedi’u cwblhau.
Esboniodd fod yr PSOW bellach wedi rhoi cadarnhad bod y Cyfeirnod Achos
252 wedi’i gau ym mis Ebrill, 2014. Ni fu unrhyw gofnod o’r hysbysiad o'r
penderfyniad yn cael ei anfon ymlaen i Sir Ddinbych, ac fe gafwyd ymddiheuriad
am yr amryfusedd gan Swyddfa PSOW. PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Safonau yn derbyn ac yn nodi
cynnwys yr adroddiad. Daeth y Cyfarfod
i ben am 12.40pm. |