Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1b, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Y Cynghorydd Colin Hughes a’r Parchedig Wayne Roberts

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn

 

Cofnodion:

Datganodd y Cadeirydd, Mr Ian Trigger, gysylltiad personol yn Eitem Agenda Rhif 9 - Cod Ymddygiad - Rhan 3 Deddf Llywodraeth Leol 2000. Nododd y Cadeirydd ei fwriad i ddatgelu, o dan yr eitem hon, manylion ynghylch cwyn bosibl yn codi o ohebiaeth mewn perthynas â phenderfyniad y Cyngor i gau Ysgol Llanbedr. Eglurodd bod natur ei gysylltiad yn ymwneud â’i swydd fel Darllenwr Lleyg yn yr Eglwys yng Nghymru, yn arbennig Deoniaeth Dyffryn Clwyd.                    

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitemau brys.  

 

 

4.

Cofnodion y cyfarfod diwethaf pdf eicon PDF 159 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 21 Mawrth, 2014 (mae copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2014.

 

Cywirdeb –

 

Tudalen 7 – angen newid y cyfeiriad at ‘W.E. Cowie’ i ddarllen ‘W.L. Cowie’ a newid unrhyw gyfeiriadau at ‘Gynghorau Tref a Chymuned’ i ‘Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned’.               

 

Tudalen 8, y pedwerydd paragraff – newid y cyfeiriad at ‘ddeall’ i ‘ddealltwriaeth’.         

 

Tudalen 9 – Cyngor Tref Rhuddlan, yr ail frawddeg – (yn y fersiwn Saesneg) dileu’r gair ‘of’ i ddarllen ‘The Mayor at the commencement reminded Members….’

 

Materion yn Codi –

 

Tudalen 9 – Presenoldeb Mewn Cyfarfodydd – dywedodd y Swyddog Monitro y byddai’r awgrym i ddarparu manylion i Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned ynghylch pwrpas Aelodau’r Pwyllgor Safonau yn mynychu cyfarfodydd yn cael ei drafod gyda’r Rheolwr Ymgysylltu â’r Gymuned oedd yn gyfrifol am gysylltu â’r cynghorau hynny. Y nod oedd naill ai i’r Swyddog Monitro neu’r Dirprwy Swyddog Monitro fynychu cyfarfodydd clwstwr i roi eglurhad neu i ddarparu nodyn briffio i’w ddosbarthu.         

 

Tudalen 7 – Adroddiad Blynyddol Panel Dyfarnu Cymru – Roedd yr Aelodau wedi ceisio eglurhad ynghylch nifer yr achosion yn yr adroddiad oedd yn destun apêl yn yr Uchel Lys. O’r 55 o achosion oedd wedi arwain i sancsiynau, apeliwyd yn erbyn 12 ohonynt o Bwyllgorau Safonau. O ran y rhannau hynny mewn perthynas â   “Methu arwain drwy esiampl (darpariaeth leol)” a “Methu â rhoi ystyriaeth i gyngor Pwyllgor Safonau”  lle byddai amrywiadau lleol, byddid yn holi barn Swyddogion Monitro eraill.          

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2014 fel cofnod cywir.                                       

5.

PROTOCOL CYFRYNGAU CYMDEITHASOL pdf eicon PDF 75 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) yn cyflwyno Protocol Cyfryngau Cymdeithasol drafft ar gyfer Aelodau a gweithwyr y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro (MO) adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) yn cyflwyno Protocol Cyfryngau Cymdeithasol drafft ar gyfer Aelodau a gweithwyr y Cyngor i’w ystyried.

 

Trafododd y MO y rhesymeg y tu ôl i gynhyrchu un Polisi Cyfryngau Cymdeithasol sy’n berthnasol i wahanol ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol yn seiliedig ar waith a wnaed eisoes yn y Cyngor ac yn ystyried canllawiau blaenorol a gyflwynwyd. Roedd y Polisi drafft wedi’i ddatblygu gan y Tîm Cyfathrebu Corfforaethol gyda mewnbwn gan swyddogion sy’n ymwneud â diogelu yn ogystal â materion o ran safonau. Roedd yn cynnwys dogfen Polisi Cyffredinol yn rhoi cyngor penodol ar gyfer defnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn gwahanol amgylchiadau ac, yn arbennig, roedd yn cynnwys canllawiau penodol a luniwyd ar gyfer Aelodau etholedig gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

 

O ystyried y canllawiau ardderchog a luniwyd gan CLlLC, penderfynwyd y dylid cynnwys y canllawiau cyflawn fel atodiad i’r ddogfen bolisi. Arweiniodd y MO yr aelodau drwy’r ddogfen bolisi ac ymhelaethodd ynghylch y rhannau o ganllawiau CLlLC ar gyfer cynghorwyr yn nhermau –

 

·        manteision cyfryngau cymdeithasol a sut i’w defnyddio’n effeithiol

·        rheolau ac arddull cyfathrebu      

·        cefnogaeth gan y Cyngor a chyfrifoldebau cyffredinol

·        y cyfryngau cymdeithasol a chyfarfodydd y Cyngor

·        y rheolau euraidd wrth ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol

·        peryglon posibl a sut i’w hosgoi        

·        y gyfraith a’r Cod Ymddygiad

 

Croesawodd yr Aelodau y polisi fel modd o ddarparu cyngor ac arweiniad wrth ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ac roeddynt yn awyddus i rannu’r dogfennau â Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned. Roedd y Pwyllgor hefyd yn awyddus i bwysleisio’r pwyntiau a ganlyn i gynghorwyr ac y dylid eu cynnwys yn hyfforddiant yr aelodau –

 

·        gallai posibilrwydd o dorri amodau’r canllawiau cyfryngau cymdeithasol arwain i dorri’r Cod Ymddygiad

·        y rheolau euraidd wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol fel y nodir o fewn y canllawiau

·        y canfyddiad negyddol posibl o ran defnyddio cyfryngau cymdeithasol yng nghyfarfodydd y cyngor.

 

Teimlodd y Cynghorydd David Jones y byddai’n werth cynnwys cyfeiriad yn y polisi at y ffaith bod Panel Dyfarnu Cymru wedi derbyn achosion oedd yn ymwneud â’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol a’i fod wedi gorfodi sancsiynau ar gynghorwyr o ganlyniad i hynny. Yn ogystal, cwestiynodd y cyfeiriad ym mharagraff 5.4 o’r polisi i ddyletswydd Aelodau i hysbysu ynghylch unrhyw achosion o dorri’r cod gan Aelodau eraill. Cytunodd y MO y gellid cyfeirio at Banel Dyfarnu Cymru. Dywedodd hefyd bod yr Ombwdsman wedi cadarnhau na fyddai’n ystyried fod unrhyw aelod wedi torri’r amodau os oeddynt yn defnyddio’r weithdrefn benderfynu leol ac y byddai’n ail-eirio’r paragraff yn unol â hynny. Amlygodd y Dirprwy Swyddog Monitro gyfeiriad o fewn y polisi (Atodiad C, paragraff 11) at gefnogaeth a chamau a gymerir gan y cyflogwr mewn achosion arbennig o ganlyniad i’w gwaith. Yr oedd o blaid mwy o eglurder o fewn y ddogfen yng ngolau’r gwahanol lefelau o gefnogaeth a ddarperir i weithwyr ac Aelodau etholedig. Cytunodd y Pwyllgor y dylid mynd i’r afael â materion o fewn y ddogfen bolisi.

 

Yn ogystal, trafododd y Pwyllgor fanteision ac anfanteision cyfryngau cymdeithasol gan ddyfalu i ba raddau y byddai aelodau yn eu defnyddio ynghyd ag effaith gweddarlledu ar gyfarfodydd y cyngor. Er rhai pryderon ynghylch peryglon cyfryngau cymdeithasol, cydnabuwyd eu gwerth o ran ymgysylltu â phreswylwyr a chyfathrebu â hwy ar-lein ynghyd â chyrraedd niferoedd mawr o bobl na fyddai modd ymgysylltu â hwy drwy ddulliau mwy traddodiadol. Dywedodd y MO byddai adroddiad ar y polisi yn cael ei gyflwyno ar gyfer cymeradwyaeth y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a’r Cabinet.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)       yn amodol ar sylwadau’r Aelodau fel y nodwyd uchod, cymeradwyo’r Polisi Cyfryngau Cymdeithasol drafft;

 

(b)       gofyn i’r Swyddog Monitro gylchredeg canllawiau CLlLC ar gyfer cynghorwyr  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 76 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) yn hysbysu'r pwyllgor o'r gofyniad sydd ar Aelodau mewn perthynas â datgan cysylltiad a chydymffurfio â’r gofyniad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro (MO) adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) oedd yn hysbysu’r pwyllgor ynghylch y gofyn i Aelodau ddatgan cysylltiad mewn perthynas ag unrhyw fusnes a roddir ger eu bron ynghyd â chydymffurfio â’r trefniadau hynny yn ymarferol.

 

Roedd yr adroddiad yn trafod manylion y darpariaethau deddfwriaethol gan nodi’r Cod Ymddygiad Enghreifftiol gyda chyfeiriad arbennig at baragraff 11 o’r Cod sy’n nodi’r gofynion ar gyfer Aelodau o ran datgan cysylltiadau ar lafar ac yn ysgrifenedig fel y bo’n briodol wrth fynychu cyfarfodydd. Roedd y ffurflen a ddarperir i Aelodau ei chwblhau er mwyn darparu hysbysiad ysgrifenedig o gysylltiad a ddatganwyd wedi’i hatodi i’r adroddiad. Yn dilyn adolygiad, roedd y MO wedi canfod rhai anghysondebau yn y modd y cwblhawyd y ffurflenni gan Aelodau, yn enwedig –

 

·        methiant i nodi p’un a oeddynt yn Aelod neu’n Aelod Cyfetholedig o’r awdurdod

·        methiant i nodi p’un a oedd y cysylltiad a ddatganwyd yn bersonol neu’n gysylltiad personol ac yn un sy’n rhagfarnu

·        dryswch posibl o ran cwblhau’r bocs gyda’r teitl Natur y Diddordeb.               

 

Tra byddid yn debygol y byddai’r materion uchod yn cael eu cofnodi o fewn cofnodion y cyfarfod, nododd yr Aelodau y gallai’r Ombwdsman wneud cais i weld  y ffurflenni datgan fel rhan o unrhyw ymchwiliad ac y gellid eu datgelu at ddibenion eraill hefyd. Yn ogystal, derbyniwyd y gallai cychwyn cyhoeddi cofrestr o gysylltiadau aelodau yn electronig arwain i geisiadau am y wybodaeth ar ffurfleni datgan. Ystyriodd y Pwyllgor nifer o gamau i wella’r boses ac i sicrhau bod ffurflenni datgan yn cael eu cwblhau’n llawn fel y bo’n briodol. O ganlyniad, cytunwyd (1) y byddai nodyn briffio yn cael ei gylchredeg i Aelodau i dynnu sylw at y mater ynghyd â’r rhesymeg y tu ôl i’r angen i gwblhau’r ffurflen ddatgan yn gywir, a (2) y dylid monitro ffurflenni datgan yn fwy trylwyr mewn cyfarfodydd. Nodwyd hefyd bod gwahaniaethau o ran y modd y mae Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn cofnodi datganiadau o gysylltiad gan Aelodau. Er mwyn sicrhau cysondeb ar draws y sir, cytunwyd y dylid cyflwyno nodyn briffio i’r cynghorau hynny ynghyd â ffurflen ddatgan y gellid ei haddasu ar gyfer eu dibenion eu hunain fel y bo’n briodol.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)          derbyn a nodi’r adroddiad;      

 

(b)       cylchredeg nodyn briffio i Gynghorwyr Sir yn pwyso arnynt i gofio pwysigrwydd cwblhau’r ffurflen Datgelu a Chofrestru Cysylltiadau yn gywir ynghyd â’r rhesymau am hynny;                   

 

(c)        bod angen bod yn fwy trylwyr wrth fonitro ffurflenni Datgelu a Chofrestru Cysylltiadau yng nghyfarfodydd y cyngor, a

 

(d)       chylchredeg nodyn briffio i Glercod Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned ynghyd â ffurflen Datgelu a Chofrestru Cysylltiadau y gellid ei haddasu at eu dibenion hwy eu hunain fel y bo’n briodol.

 

7.

PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD

Nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a derbyn eu hadroddiadau.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Aelodau’r Pwyllgor Safonau adroddiadau ar gyfarfodydd a fynychwyd ganddynt fel a ganlyn –

 

Cyngor Dinas Llanelwy – Adroddodd y Cynghorydd Bill Cowie ei fod wedi mynychu cyfarfod o Gyngor Dinas Llanelwy yn ystod mis Ebrill oedd wedi’i gynnal yn dda. Rhoddodd wybod bod y Cyngor Dinas yn ddiweddar wedi penodi aelod newydd a bod sedd wag arall fyddai angen ei llenwi. Ychwanegodd bod y Clerc newydd a benodwyd yn ddiweddar yn sicrhau bod unrhyw gynghorydd sy’n datgan cysylltiad yn cwblhau’r ffurflen ddatgan briodol yn y cyfarfod.

 

Fforwm Safonau Gogledd Cymru - Adroddodd y Cadeirydd ynghylch ei bresenoldeb gyda’r Parchedig Wayne Roberts yn Fforwm Safonau Gogledd Cymru a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2014 yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug, a drefnwyd gan Gyngor Sir y Fflint. Roedd y cyfarfod wedi’i gynnal yn dda a dywedodd fod Swyddog Monitro Sir y Fflint wedi creu argraff dda arno, roedd y swyddog yn brofiadol iawn ac yn frwdfrydig. Ceisiodd y Cadeirydd farnau’r Aelodau ar nifer o faterion a godwyd yn y cyfarfod a thrafodwyd y rhai a ganlyn –

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol - Nododd yr Aelodau bod Pwyllgorau Safonau eraill yn cynnal Cyfarfod Blynyddol ac ystyriwyd rhinweddau cyflwyno’r arfer hwn. Roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r syniad o gynnal Cyfarfod Blynyddol er mwyn adolygu eu gwaith dros y deuddeng mis blaenorol ac i ystyried nodi eu blaenoriaethau ar gyfer y deuddeng mis i ddod. Nodwyd bod Pwyllgorau Safonau eraill yn cynnal cyfarfodydd gydag Arweinyddion Grwpiau a chytunodd yr Aelodau i drafod y mater hwnnw ymhellach yn eu Cyfarfod Blynyddol ynghyd â mecanwaith ar gyfer ymgynghori â Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned. Cytunwyd hefyd i gyfuno’r cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer 18 Gorffennaf 2014 gyda Chyfarfod Blynyddol er mwyn trafod y materion hynny. Codwyd y mater o ddatganoli gwasanaethau i Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned ynghyd â’r goblygiadau wedyn i’r Pwyllgor Safonau. Eglurodd y Swyddog Monitro (MO) y byddai’r mater yn destun archwilio pellach a rhagor o herio drwy’r broses safonau.

 

Hyfforddiant - Adroddodd y Cadeirydd ynghylch y gwahanol hyfforddiant a ddarparwyd ar draws gwahanol siroedd. Gwnaed cynnig yn y Fforwm Safonau y dylid cynnal sesiwn hyfforddiant un diwrnod ar draws chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru i’w gyflwyno gan Peter Keith-Lucas yn canolbwyntio ar sut i gynnal gwrandawiad. Cytunodd Cyngor Sir Ynys Môn i gynnal y digwyddiad gyda’r 23 a 27 o Fehefin 2014 fel y dyddiadau a ffafriwyd. Teimlodd y Pwyllgor y byddai’r hyfforddiant yn fuddiol iddynt a chytunwyd y dylid rhoi blaenoriaeth i Aelodau’r Pwyllgor Safonau ei fynychu cyn ei gynnig i gynghorwyr eraill sydd â diddordeb. Nodwyd na fyddai’r Cadeirydd a’r Cynghorydd Bill Cowie yn gallu mynychu ar y dyddiadau hynny. Cytunodd y MO i gysylltu ag Aelodau’r Pwyllgor ar ôl cadarnhau’r manylion. Yn nhermau hyfforddiant ymsefydlu, y farn gyffredin oedd y byddai’n well cyflwyno hyfforddiant ar ôl mynychu nifer o gyfarfodydd. Nododd yr Aelodau eu bod yn fodlon â’r ddarpariaeth bresennol o hyfforddiant.

 

Roedd gan y Cadeirydd ddiddordeb clywed y disgwylid dyfarniad gan Achos yn yr Uchel Lys yn ymwneud â Chynghorydd yn Sir y Fflint a chytunodd y MO i ddarparu copi o’r dyfarniad unwaith yr oedd ar gael.

 

PENDERFYNWYD  

 

(a)       derbyn a nodi’r adroddiadau llafar gan aelodau oedd wedi mynychu cyfarfodydd;

 

(b)       cefnogwyd yr arfer o gyflwyno Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ynghyd â chyfuno'r cyfarfod nesaf oedd wedi’i drefnu ar gyfer y Pwyllgor Safonau ar 18 Gorffennaf 2014 gyda Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol er mwyn trafod materion perthnasol fel y nodwyd uchod, ynghyd â

 

(c)        chefnogi’r cynnig ar gyfer cynnal Hyfforddiant Safonau ar y cyd gyda lleoedd Sir Ddinbych yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor Safonau  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau am 10.00am ddydd Gwener 18 Gorffennaf 2014 yn Ystafell Gynadledda 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun.

 

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau bod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau wedi’i drefnu ar gyfer 10.00 a.m. ar ddydd Gwener 18 Gorffennaf 2014 yn Ystafell Gynadledda 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun. Fel y cytunwyd yn flaenorol, byddai’r cyfarfod a drefnwyd yn cael ei gyfuno â Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyntaf y Pwyllgor Safonau. Anogodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyflwyno unrhyw syniadau ar gyfer y Cyfarfod Blynyddol i’r Swyddog Monitro neu’r Dirprwy Swyddog Monitro ymlaen llaw.

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972 i wahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn, ar y sail ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu, fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 a 13, Rhan 4, Atodlen 12a Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

9.

COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy’n rhoi trosolwg o gwynion a gyflwynwyd yn erbyn aelodau i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Cofnodion:

Darparodd y Cadeirydd fanylion cwyn posibl yn codi o ohebiaeth mewn perthynas ag anghydfod o ran p’un a ddylid cau Ysgol Llanbedr, yn unol â phenderfyniad y Cyngor, ai peidio. Cyfeiriwyd llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Safonau yn manylu ynghylch sawl cwyn yr oedd wedi’u trafod â’r Swyddog Monitro. Darparwyd ymateb oedd yn egluro nad oedd gan y Pwyllgor Safonau unrhyw awdurdodaeth dros y mater a chyfeiriwyd y gohebydd at Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru os dymunent fwrw ymlaen i wneud cwyn. Eglurodd y Cadeirydd nad oedd am wahodd trafodaeth ar y mater ac nad oedd ond eisiau i’r Aelodau fod yn ymwybodol ohono.

 

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad cyfrinachol (a gylchredwyd yn flaenorol) oedd yn darparu trosolwg o gwynion yn erbyn aelodau oedd wedi’u cyflwyno i Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ers 1 Ebrill 2012. Dywedodd nad oedd yr Ombwdsman wedi penderfynu ymchwilio i ddau gŵyn diweddar ac nid oedd unrhyw gwynion yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r adroddiad ynghyd ag adroddiad llafar y Cadeirydd ynghylch cwyn posibl.          

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.30 a.m.