Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1b, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Pennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd / Swyddog Monitro (GW) |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i'w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd
cysylltiad personol na chysylltiad sy’n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys yn unol
ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Dim. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 171 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 25 Hydref, 2013 (mae copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2013 a
bu i’r Cadeirydd ganmol ansawdd a chywirdeb y cofnodion a gynhyrchwyd. PENDERFYNWYD bod
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2013 yn cael eu derbyn a'u
cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|
COFRESTR CYSYLLTIADAU AELODAU PDF 74 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) ar y newidiadau deddfwriaethol
sy'n ymwneud â Chofrestr Cysylltiadau Aelodau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Monitro (a
gylchredwyd yn flaenorol) yn hysbysu’r aelodau o newidiadau deddfwriaethol yn
ymwneud â Chofrestr Cysylltiadau Aelodau a’r camau dilynol a gynigir er mwyn
sicrhau fod y Cyngor Sir a Chynghorau Tref a Chymuned yn cydymffurfio â’r
gofynion newydd. Atgoffwyd yr Aelodau bod angen i gynghorwyr sir
ddatgan eu cysylltiadau ariannol ac eraill a bod yn rhaid i’r Swyddog Monitro
gadw Cofrestr Cysylltiadau Aelodau ar gyfer archwiliad cyhoeddus. Bydd
newidiadau deddfwriaethol yn dod i rym yn fuan yn cyflwyno gofyniad i
gyhoeddi’r gofrestr yn electronig a hysbysebu sut y ceir mynediad ato. Roedd y Gwasanaethau Democrataidd mewn
sefyllfa i gyhoeddi’r gofrestr ar wefan y Cyngor, gyda dolen at dudalen broffil
pob cynghorydd. Cyn cyhoeddi gofynnir i’r Cynghorwyr ac aelodau cyfetholedig i adolygu eu
cofrestr gyfredol a’u diweddaru os oes angen. Bydd nodyn atgoffa blynyddol yn cael ei anfon
hefyd i wirio cywirdeb. O ran Cynghorau Tref a Chymuned eglurwyd nad oedd
gofyniad i’r aelodau hynny gofrestru. Ymddengys pan gedwir cofrestr byddai’r
Clerc yn gyfrifol am sicrhau fod fersiwn electronig yn cael ei gyhoeddi. Rhoddir cyngor ynglŷn â’r
sefyllfa gyfreithiol pan ceir eglurhad cliriach. Ystyriodd y pwyllgor yr ansicrwydd o ran gofynion
ar gyfer y Cynghorau Tref/Cymuned a mynegwyd ychydig o bryder y byddai gorfod
cofrestru eu cysylltiadau yn achosi i ymgeiswyr posibl beidio â sefyll yn yr
etholiad lleol. Eglurodd y Dirprwy Swyddog Monitro fod pob Cyngor Tref/Cymuned yn
penderfynu a ydynt am gynnal cofrestr yn unigol ond nad oedd gofyniad i wneud
hynny. Cadarnhaodd fod gofyniad fod gan bob cyngor eu gwefan eu hunain yn y
dyfodol ac eglurodd mai'r mater oedd, o ran tryloywder, y byddai gofyniad i gyhoeddi
cofrestr electronig os oedd cofrestr yn cael ei gadw. Byddai’r ddeddfwriaeth
newydd yn cael ei dehongli gan y Swyddogion Monitro a Grŵp Llywodraethu ac
wedi hynny byddai nodyn briffio yn cael ei gyflwyno i Glercod Cynghorau
Tref/Cymuned yn rhoi cyngor cyfreithiol. Cadarnhawyd i’r Aelodau na roddir
unrhyw bwysau ar y cynghorau tref/cymuned i gydymffurfio gydag arferion penodol
o ran dewis cofrestru cysylltiadau'r aelodau neu beidio. Cafwyd trafodaeth gyffredinol ynglŷn â’r
gofyniad ar gynghorau tref/cymuned i gyhoeddi gwybodaeth ar y we ac argaeledd
cyllid grant i’r diben hwn. Adroddodd y Cynghorwyr lleol ynglŷn ag
arferion cyfredol eu cynghorau unigol o ran hyn a chydnabu’r Aelodau bod
manteision ac anfanteision cynnal a chyhoeddi cofrestr cysylltiadau aelodau. O ran yr anawsterau posibl ar gyfer rhai
Cynghorau Tref/Cymuned i gyhoeddi cofrestr electronig ystyriodd yr aelodau pa
gefnogaeth y gallai’r Cyngor Sir ei gynnig o ran hynny. Y cydsyniad cyffredinol oedd nad
oedd yn briodol i’r Cyngor Sir gynnal cofrestr ganolog ar ran y cynghorau ond
gellir ystyried ymhellach ynglŷn â darparu cymorth ar ôl cael penderfyniad
penodol os oedd gofyniad i gyhoeddi fersiwn electronig. Teimla’r pwyllgor y byddai’n
ddefnyddiol gofyn am farn y Cynghorau Tref a Chymuned ynglŷn â chynnal
cofrestr a newidiadau deddfwriaethol. Fel pwynt i’w nodi eglurodd y Dirprwy Swyddog
Monitro fod y pŵer i wneud penderfyniad wedi’i nodi’n anghywir fel Deddf
1972 ym mharagraff 10.1 yr adroddiad ac y dylai nodi Deddf Llywodraeth Leol
2000. PENDERFYNWYD - (a) Bod yr Aelodau'n nodi'r newidiadau deddfwriaethol sy'n ymwneud â Chofrestr
Cysylltiadau’r Aelodau a chymeradwyo'r camau a gymerir i sicrhau bod y Cyngor
yn cydymffurfio â'r newidiadau hynny. (b) Gofyn i’r Swyddog Monitro ysgrifennu at Glercod Cynghorau Tref a Chymuned
yn nodi’r sefyllfa gyfreithiol a’r amwysedd o ran cyhoeddi fersiwn electronig
o’r gofrestr ac yn gofyn am eu barn a safbwynt y cynghorwyr ynglŷn â
chofrestr cysylltiadau aelodau, a (c) Adborth gan Gynghorau Tref a Chymuned yn cael ei gyflwyno ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
MYNYCHU CYFARFODYDD Nodi presenoldeb
Aelodau’r Pwyllgor Safonau yn y Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a derbyn eu
hadroddiadau. Cofnodion: Adroddodd
Aelodau'r Pwyllgor Safonau am eu presenoldeb mewn cyfarfodydd y Cynghorau Sir,
Tref a Chymuned fel a ganlyn - Roedd y
Cynghorydd Colin Hughes yn mynychu cyfarfodydd Cyngor Cymuned Henllan a Chyngor
Tref Dinbych yn rheolaidd. Adroddodd nad oedd unrhyw fater sy’n achos pryder
yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Henllan. O ran Cyngor Tref Dinbych, roedd
cysylltiad oedd o bosib yn gwrthdaro wedi’i nodi, a gofynnwyd i’r Swyddog
Monitro ddarparu hyfforddiant ac fe’i dderbyniwyd yn dda. Yn anffodus nid oedd
y ddau gynghorydd oedd yn rhan o'r cysylltiad sy’n gwrthdaro wedi mynychu'r
sesiwn hyfforddi. Heblaw am hynny, roedd y cyfarfodydd yn dda ac yn cael eu cynnal heb unrhyw
broblemau. Adroddodd y
Cynghorydd David Jones ei fod wedi mynychu cyfarfod Cyngor Tref Rhuthun ym mis
Ionawr, ac roedd wedi'i drefnu'n dda gyda thrafodaeth berthnasol. Roedd yr
adroddiadau’n gryno a’r trafodaethau'n ystyrlon. Cymeradwyodd waith paratoi'r adroddiadau a
wnaed gan y Clerc, yn enwedig ynglŷn â phraesept oedd wedi hwyluso llunio
penderfyniadau effeithiol. Roedd y Parchedig
Wayne Roberts yn mynychu cyfarfodydd y Cyngor Sir yn rheolaidd fel Caplan y
Cadeirydd ac adroddodd am y cyfarfod diwethaf lle y cafwyd cyflwyniad gan Dr
Peter Higson, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Adroddodd fod y
cynghorwyr wedi gofyn cwestiynau da a bod yr atebion yn dda. Nododd yr Aelodau eu bwriad i fynychu'r cyfarfodydd canlynol- Cyngor Tref
Rhuddlan – Y Cynghorydd Bill Cowie Cyngor Tref
Prestatyn – Mrs Paula White Cynghorau Cymuned
Trefnant a Chefn Meiriadog – Ms. Margaret Medley Cyngor Cymuned
Llanbedr DC – Y Cynghorydd David Jones Holodd y Cadeirydd am gefndir gwleidyddol cynghorau tref/cymuned ac
ymatebodd yr aelodau fod y mwyafrif o’r cynghorwyr yn rai annibynnol gyda nifer
fechan yn gysylltiedig ag unrhyw blaid wleidyddol. Diolchodd y Cadeirydd i’r aelodau am eu
presenoldeb a’u hadborth. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chofnodi’r adroddiadau llafar oddi wrth aelodau a fu’n mynychu
cyfarfodydd. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Cynhelir cyfarfod
nesaf y Pwyllgor Safonau am 10.00am ar ddydd Gwener 14 Mawrth 2014 yn Ystafell
Gynadledda 1B, Neuadd y Sir, Rhuthun. Cofnodion: Adroddodd y Cadeirydd nad oedd yn gallu mynychu’r cyfarfod nesaf a drefnwyd
ar gyfer 14 Mawrth 2014 oherwydd ymrwymiad oedd yn anochel a gofynnodd a oedd
modd aildrefnu'r cyfarfod. Awgrymodd y Dirprwy Swyddog Monitro nifer
o ddyddiadau eraill a mynegodd yr aelodau eu dewis a ffefrir. Nodwyd fod y cyfarfod olaf sydd wedi’i drefnu ar
gyfer y pwyllgor ar 9 Mai 2014 a bod paratoadau ar waith ar gyfer cylch nesaf
cyfarfodydd y Cyngor. Gofynnodd y Cadeirydd fod manylion
cyfarfodydd y dyfodol y Pwyllgor Safonau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yn
cael eu cylchredeg i aelodau’r pwyllgor ar ôl eu cymeradwyo. PENDERFYNWYD bod
cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau yn cael ei aildrefnu i 10.00am ddydd Gwener
21 Mawrth 2014 yn Ystafell Gynadledda 1B, Neuadd y Sir, Rhuthun. |
|
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd PENDERFYNWYD
dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r
Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth
eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac
13 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. |
|
COD YMDDYGIAD – RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000 Nodi nad oes, ers
y cyfarfod diwethaf, unrhyw newid i'r adroddiad cyfrinachol ar gwynion yn erbyn
aelodau a gofnodwyd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Cofnodion: Adroddodd y Dirprwy Swyddog Monitro, ar
lafar, nad oes, ers y cyfarfod diwethaf, unrhyw newid i'r adroddiad cyfrinachol
ar gwynion yn erbyn aelodau a gofnodwyd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru. Amlygodd o’r tri chwyn
oedd yn weddill, roedd un wedi’i drafod gan y pwyllgor yn y cyfarfod diwethaf
ac roedd y ddau arall yn aros am ganlyniadau'r Ombwdsmon. Ni
dderbyniwyd unrhyw gwynion newydd. Yn ystod y drafodaeth cadarnhaodd y Dirprwy Swyddog Monitro, yn dilyn
cyfarfod diwethaf y pwyllgor, roedd rhybudd o benderfyniad wedi’i anfon i'r
cyn-Gynghorydd Sir Allan Pennington i'r cyfeiriad oedd yn wyddys yn unol â’r
gofynion cyfreithiol. Roedd y rhybudd wedi'i ddychwelyd i'r
Cyngor gan nad yw bellach yn byw yn y cyfeiriad hwnnw. Nododd
yr aelodau fod y terfyn amser er mwyn herio penderfyniad y pwyllgor wedi dod i
ben. PENDERFYNWYD y
dylid nodi’r sefyllfa. Ar ôl cwblhau'r
uchod parhaodd y cyfarfod mewn sesiwn agored. |
|
UNRHYW FATER ARALL – HYFFORDDIANT AELODAU Cofnodion: Cyn cloi’r
cyfarfod darparodd y Cadeirydd gyfle i’r aelodau godi unrhyw fater arall.
Cyfeiriodd Ms. Margaret Medley at yr etholiadau sydd i ddod ac roedd yn awyddus
i ddarparu hyfforddiant cyn gynted â phosibl, yn enwedig ar gyfer cynghorwyr
sydd newydd eu hethol, ac ar gyfer darparu hyfforddiant parhaus a hyfforddiant
atgoffa. Adroddodd y Dirprwy Swyddog Monitro
(DSM) fod hyfforddiant mewnol yn cael ei ddarparu am ddim a sesiynau gyda ffi o
£30 pan ddefnyddir darparwyr allanol. Trafododd
yr Aelodau’r amrywiaeth a’r math o hyfforddiant mewnol a ffynonellau allanol
a'u profiadau hwy ynghyd â chostau perthnasol. Canmolodd y pwyllgor ansawdd yr
hyfforddiant a ddarperir yn fewnol ac amlygu’r angen i annog presenoldeb. Adroddodd
y DSM am yr ymdrechion a wnaed i gynyddu presenoldeb yn y sesiwn drwy eu cynnal
mewn lleoliadau gwahanol ac amseroedd amrywiol gan hyrwyddo drwy Glercod
Cynghorau Tref/Cymuned. Yn dilyn cais y
Cadeirydd, cytunodd i ddarparu rhestr o ddigwyddiadau hyfforddi a drefnir ar
gyfer y flwyddyn a chroesawodd bresenoldeb aelodau’r pwyllgor yn y sesiynau
hyn. Pwysleisiodd y
pwyllgor (1) bwysigrwydd yr hyfforddiant ar gyfer yr holl gynghorwyr, nid y
cadeiryddion a'r is-gadeiryddion yn unig, yn enwedig ar gyfer aelodau newydd, a
(2) canmol yr hyfforddiant mewnol sy’n cael ei ddarparu gan y Swyddog Monitro
a’r Dirprwy Swyddog Monitro. Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelodau am eu presenoldeb a chyfraniad gwerthfawr
i'r drafodaeth. Daeth y cyfarfod
i ben am 11.05 a.m.
|