Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1b, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu gydag unrhyw fater a nodwyd y dylid eu hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd cysylltiad personol na rhagfarnllyd gan unrhyw Aelod yn unrhyw un o’r eitemau i’w hystyried yn y cyfarfod.

 

Hysbysodd y Parchedig W. Roberts y Pwyllgor ei fod yn Gaplan i Gadeirydd y Cyngor Sir am y flwyddyn i ddod. Eglurodd y byddai Gwasanaeth Dinesig ar 30 Mehefin, 2013 yng Nghapel Mawr, Dinbych a chytunodd y SM i ddosbarthu gwahoddiadau i Aelodau'r Pwyllgor Safonau.

(G. Williams i Weithredu)

 

 

3.

MATERION BRYS I’W CYTUNO GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys o dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion a ddylai, ym marn y Cadeirydd, gael eu hystyried yn y cyfarfod fel rhai brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 133 KB

Cael cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 22 Chwefror, 2013 (mae copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd 22 Chwefror, 2013.

 

Cywirdeb:-

 

4. Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf – Cytunodd y Pwyllgor dylid newid dyddiad cofnodion y cyfarfod diwethaf o ddydd Gwener 22 Chwefror 2013 i ddydd Gwener 11 Ionawr 2013.

 

7. Llythyr Gweinidogol ynglŷn â’r Fframwaith Foesegol:–

 

Newid y Cod Ymddygiad – yn y fersiwn Saesneg dileu’r gair ‘the’ o’r ‘the Code of the Conduct’.

 

    Cwynion Blinderus – dileu’r gair ‘gwamal’ o ‘gwynion gwamal’.

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan Mrs M. Medley, eglurodd y SM na ddylai costau mewn perthynas â’r Pwyllgor Safonau fod wedi cael eu cyflwyno i Mrs Medley a chytunwyd mynd i’r afael â’r mater hwn.

(G. Williams i Weithredu)

 

PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod, bod y cofnodion yn cael eu derbyn a’u cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

 

5.

HYFFORDDIANT CADEIRYDDION AC IS-GADEIRYDDION pdf eicon PDF 63 KB

Cael adroddiad (mae copi ynghlwm) gan y Dirprwy Swyddog Monitro sy’n darparu manylion am ddigwyddiad hyfforddiant diweddar i Gadeiryddion ac Is-gadeiryddion Cynghorau Tref a Chymuned.

 

 

Cofnodion:

Roedd copi o’r adroddiad gan y SMD, a oedd yn darparu gwybodaeth am yr hyfforddiant diweddar a gynhaliwyd i Gadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Cynghorau Tref a Chymuned, wedi cael ei ddosbarthu gyda’r papurau pwyllgor.  

 

Eglurodd y SM bod y digwyddiad hyfforddi wedi cael ei ddarparu ar 16 Mai 2013 gan Julia Wright Associates yn Neuadd y Sir, Rhuthun. Roedd y sesiwn hanner diwrnod yn cynnwys y testunau canlynol:

 

·                    Pam rydym ni’n cynnal cyfarfodydd?  

·                    Paratoi ar gyfer cyfarfodydd

·                    Cynllunio Cyfarfod Anffurfiol

·                    Tair Brif Elfen ar gyfer Llwyddo

·                    Problemau gyda Chyfarfodydd

·                    Ysgogi Trafodaethau

·                    Gwrthdaro mewn cyfarfodydd

·                    Trefn Cyfarfodydd Ffurfiol

·                    Rheolau cyffredinol ar gyfer Cyfarfydd Anffurfiol

·                    Sut ddylai grwpiau ymddwyn?

 

Daeth 20 aelod i’r digwyddiad ac roedd pawb yn cyfrannu gan rannu arferion a myfyrio ar brosesau eu Cyngor. Roedd yr adborth yn gadarnhaol dros ben gyda’r ffurflenni adborth yn dangos bod y digwyddiad naill ai yn dda iawn neu’n wych. Yn ôl y sylwadau ychwanegol roedd y sesiwn wedi ei gynnal yn dda ac yn rhoi hyder i Gadeiryddion ac Is-Gadeiryddion gadeirio cyfarfodydd anffurfiol a ffurfiol. Roedd yr Aelodau’n teimlo eu bod wedi cael budd o’r drafodaeth agored ar y pethau sy’n gweithio’n dda a’r pethau nad ydyn nhw’n gweithio'n dda ac wedi cael budd o wrando ar brofiadau eraill, yn arbennig o ran delio â gwrthdaro neu faterion sy’n hawlio llawer o sylw. 

 

Roedd y grŵp yn teimlo y byddai’n syniad da cynnal yr hyfforddiant hwn yn flynyddol. Soniwyd y byddai’n well ei gynnal ar ôl i Gynghorau Tref a Chymun benodi Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion newydd, diwedd mis Mehefin neu ddechrau mis Gorffennaf, neu cyn egwyl mis Awst fan bellaf.

 

Ar gyfer y dyfodol, roedd ar y grŵp eisiau cyfieithydd ac, oherwydd nifer y mynychwyr, sesiwn hirach er mwyn cael mwy o amser i drafod materion yn fanylach. Awgrymodd rhai Aelodau y byddai senarios mwy ymarferol o ddefnydd. 

 

Awgrymodd y Cadeirydd efallai y gellid gwahodd Cynghorwyr profiadol i fynychu digwyddiadau yn y dyfodol i rannu eu barn a'u profiadau ac i arwain y drafodaeth ar sail anffurfiol. Rhoddodd y Cynghorydd D.E. Jones ei gefnogaeth lawn ar gyfer y digwyddiad, y bu ynddo, a theimlodd ei fod wedi cael ei drefnu'n dda iawn ac yn fuddiol i’r Cynghorwyr hynny a oedd yn bresennol.

 

Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am drefnu’r digwyddiad a:-

 

PHENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Safonau’n cytuno:-

 

(a)                   Derbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

(b)                   Bod y Swyddog Monitro’n sefydlu trefniadau i gynnal y digwyddiad bob blwyddyn ym mis Gorffennaf.                              

(c)                   Anfon gwahoddiadau i’r holl Gynghorau Tref a Chymuned, i’r Cadeiryddion, Is-Gadeiryddion a darpar Is-Gadeiryddion, gan bwysleisio pwysigrwydd y profiad i’w gael o fynychu’r digwyddiad.

(G. Williams i Weithredu)

 

 

6.

Y DIWEDDARAF O GYNHADLEDD SAFONAU CYMRU pdf eicon PDF 58 KB

Cael adroddiad (mae copi ynghlwm) gan y Swyddog Monitro sy’n darparu gwybodaeth ac adborth am Gynhadledd Safonau 2013.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o’r adroddiad gan y SM, a oedd yn darparu adborth o gyfarfod Fforwm Pwyllgor Safonau Gogledd Cymru a gynhaliwyd ar 20 Mai 2013, wedi cael ei ddosbarthu gyda’r papurau pwyllgor. 

 

Cynhaliwyd cynhadledd genedlaethol gyda chwe awdurdod Gogledd Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri ar 19 Ebrill 2013. Daeth dros gant o bobl i’r Gynhadledd o Awdurdodau ledled Cymru a chafwyd 80 ffurflen adborth gyda chrynodeb o’r sylwadau i’w gweld yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

Roedd Swyddog Monitro Gwynedd wedi croesawu pawb i ogledd Cymru a sôn yn fras am drefn y diwrnod ac am y thema, ‘Cydbwyso Hawliau a Chyfrifoldebau’. Y prif siaradwr oedd Peter Tyndall, Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a siaradodd am y diwygiadau a wnaed i’w ganllaw ar y Cod Ymddygiad, pwysigrwydd datrys cwynion yn lleol a’r angen i gapio lefel yr indemniad a ddarperir i aelodau etholedig o ran costau cyfreithiol achosion cod ymarfer. Darparwyd cyfres o weithdai dan y themâu canlynol:

 

·                      Hyrwyddo Safonau’n Rhagweithiol

·                      Cynnal Gwrandawiadau a Chosbau

·                      Cofrestru Buddiannau a Goddefebau

·                      Materion safonau ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned ac awdurdodau un pwrpas.

Cafwyd cyflwyniadau gan gynrychiolydd o CLlLC, Swyddog Monitro Rhondda Cynon Taf a Dirprwy Swyddog Monitro Dinas a Sir Abertawe a rannodd eu profiadau wrth weithredu trefnau datrys lleol. Mae copïau o gyflwyniadau’r Gynhadledd ar gael yn Atodiad 2.

 

Amlinellodd y SM feysydd o welliannau posibl a awgrymwyd ar gyfer Cynadleddau yn y dyfodol a’r manteision a ddaeth yn sgil y digwyddiad a oedd yn cynnwys:

 

-              Gofyn am y dewis iaith a ffafrir cyn dosbarthu’r ddogfennaeth

-              Adolygu amseriad a gallu'r sesiynau gweithdy

-              Efallai dechrau’r Gynhadledd yn gynt

-              Ystyried darparu'r cyfle i ymwelwyr fynychu o leiaf tri gweithdy yn ystod y digwyddiad

-              Manteision sy'n deillio o ddadl a thrafodaeth rhwng cynrychiolwyr o wahanol Awdurdodau a'r gwahanol ardaloedd

 

Awgrymwyd gan y SM y gallai Aelodau'r Pwyllgor ddymuno trafod ac ystyried ffyrdd o hyrwyddo safonau rhagweithiol a dysgu o weithdrefnau ac arferion gweithredol Awdurdodau eraill. Dwedodd y Cadeirydd y gallai fod yn fuddiol i gasglu gwybodaeth am sut yr oedd Pwyllgorau Safonau mewn Awdurdodau eraill yn mynd i’r afael â phroblemau a delio â materion a chyflwyno'r canfyddiadau i'r Pwyllgor. Mewn ymateb i gwestiynau pellach gan y Cadeirydd, rhoddodd y SM fanylion rhesymeg y Drefn Ddatrys a fabwysiadwyd gan Sir Ddinbych ym mis Mai 2012, sef i gymryd y llwybr trafod.   

 

Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, cytunwyd byddai’r SM yn gofyn am farn Pwyllgorau Safonau mewn Awdurdodau eraill mewn perthynas â'r materion canlynol:-

 

·                      ffyrdd o hyrwyddo safonau rhagweithiol

·                      barn ar y Drefn Ddatrys lleol a'i gyfansoddiad

·                      pynciau yr oedd y gwahanol Bwyllgorau Safonau perthnasol yn eu trin

 

PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Safonau yn:-

  

(a)          nodi cynnwys yr adroddiad, a

(b)           gofyn i’r Swyddog Monitro ofyn am farn y pwyllgor Safonau mewn Awdurdodau eraill mewn perthynas â’r materion a amlinellwyd.

(G. Williams i Weithredu)

 

 

7.

FFORWM PWYLLGORAU SAFONAU GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 59 KB

Cael adroddiad (mae copi ynghlwm) gan y Swyddog Monitro sy’n darparu adborth o gyfarfod Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a gynhaliwyd ar 20 Mai, 2013.

 

 

Cofnodion:

Roedd copi o’r adroddiad gan y SM, a oedd yn darparu  adborth o gyfarfod Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a gynhaliwyd ar 20 Mai 2013, wedi cael ei ddosbarthu gyda’r papurau pwyllgor.

 

Byddai’r Fforwm, sy’n cyfarfod yn chwarterol, yn cynnwys Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Pwyllgorau Safonau awdurdodau gogledd Cymru ynghyd â'u Swyddogion Monitro. Yn anffodus, nid oedd Cadeirydd, Is-Gadeirydd na Swyddog Monitro Sir Ddinbych yn gallu mynychu’r cyfarfod diwethaf ar 20 Mai 2013. Cafodd y Fforwm grynodeb o’r adborth a gafwyd o ran y Gynhadledd Safonau a gynhaliwyd ar 19 Ebrill 2013 a thrafodwyd y modd byddai cyfarfodydd yn cael eu trefnu yn y dyfodol.

 

Eglurodd y SM bod y Fforwm wedi cytuno cynnal cyfarfodydd ar draws y rhanbarth fel bod pob awdurdod yn ei dro yn cael llywyddu cyfarfod. Byddai’r trefniadau o ran casglu rhaglenni ac ati yn parhau yn nwylo Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gyda phob awdurdod yn darparu rhywun i gadw cofnodion y Fforwm pan mae’r cyfarfod yn eu sir, a byddai SM yr Awdurdod llywyddu yn bresennol i ddarparu cyngor i’r Fforwm. Byddai’r SM yn cysylltu â’r SM eraill cyn y cyfarfod i sôn am faterion i’w trafod ac i ddarparu adborth ar ôl y cyfarfod. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn oddi wrth y Cadeirydd, eglurodd y SM y byddai pob cyfarfod o’r Fforwm yn cynnwys elfen o hyfforddiant, ac y byddai Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei ddatblygu er mwyn cynorthwyo’r Fforwm i ganolbwyntio ar eu gwaith.

 

Yn dilyn trafodaethau pellach:-

 

PENDERFYNWYD

 

(a)          Bod y Pwyllgor Safonau yn derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad, a

(b)          Bod copi o gofnodion cyfarfod y Fforwm Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 20 Mai 2013 yn cael ei ddosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor Safonau.

(G. Williams i Weithredu)

 

 

8.

PROTOCOL CYFRYNGAU CYMDEITHASOL pdf eicon PDF 59 KB

Cael adroddiad (mae copi ynghlwm) gan y Swyddog Monitro a oedd yn gofyn am farn y Pwyllgor o ran y dull mwyaf priodol o ddarparu cyfarwyddyd i Aelodau Etholedig o ran eu defnydd o gyfryngau cymdeithasol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dosbarthwyd copi o adroddiad y SM gyda’r papurau pwyllgor, a oedd yn gofyn i Aelodau am eu barn ynglŷn â’r dull mwyaf addas o ddarparu canllawiau i aelodau etholedig ynglŷn â defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Dosbarthwyd copi o ddrafft Cyfryngau Cymdeithasol: Canllaw Cyflym i Gynghorwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn y cyfarfod.

 

Eglurodd y SM bod defnyddio cyfryngau cymdeithasol ym mhob agwedd ar fywyd wedi dod yn ddull cyfathrebu ac ymgysylltu sy’n cael ei dderbyn. Bu awydd cynyddol ymysg pob rhan o gymdeithas i gael gwybodaeth a chyfathrebu trwy wahanol fathau o gyfryngau cymdeithasol fel Twitter, Facebook ac ati. Roedd cyfryngau cymdeithasol yn derm sy’n disgrifio ffyrdd hawdd o gyhoeddi gwybodaeth ar y rhyngrwyd ac mae’r term yn cael ei ddefnyddio’n gyffredinol i ddisgrifio sut mae unigolion, cwmnïau a chyrff eraill yn rhannu gwybodaeth a chreu trafodaethau ar-lein.

Mae hwylustod y dull hwn o rannu gwybodaeth a’r nifer cynyddol o bobl sy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gael gwybodaeth yn golygu byddai’r ffordd mae Cynghorau a Chynghorwyr yn rhyngweithio â’r cyhoedd yn newid.

 

Eglurodd er bod nifer o fanteision i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, roedd peryglon hefyd os nad yw pobl yn ofalus. Cyfeiriodd y canllawiau ar y Cod Ymddygiad droeon at ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol gan atgoffa Aelodau fod y Cod Ymddygiad yn berthnasol i’w gweithgareddau ar-lein yn yr un modd ag y mae'n berthnasol i agweddau eraill o’u rôl ac roedd nifer o awdurdodau wedi darparu canllawiau i Aelodau ynglŷn â defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Roedd y dogfennau hyn yn amrywio o fod yn wybodaeth ategol i’r Cod Ymddygiad a chyngor yr Ombwdsmon i ddogfennau mwy cyfannol a oedd yn rhoi cyngor ynglŷn â’r defnydd posibl y gellir ei wneud o gyfryngau cymdeithasol ac adrannau penodol ar faterion posibl yn ymwneud ag ymddygiad.

 

Roedd potensial i ymgysylltu i raddau helaethach trwy’r cyfryngau cymdeithasol pe byddai’r Cyngor yn mabwysiadu polisi o ddarlledu ei gyfarfodydd ar y we. Roedd tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod darlledu ar y we’n ffordd i gysylltu â rhannau o’r gymuned sy’n dibynnu ar dderbyn eu gwybodaeth ar-lein ac efallai’n dymuno cyfathrebu â’r Cyngor a’r Cynghorwyr trwy'r cyfryngau cymdeithasol. Darparwyd hyfforddiant i Aelodau Etholedig ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol ac roedd copi o’r deunyddiau hyfforddiant wedi eu cynnwys yn Atodiad 1 i’r adroddiad. Paratowyd canllawiau i Aelodau Etholedig yn 2010 ynglŷn â defnyddio cyfryngau cymdeithasol ac roedd copi o’r canllawiau wedi ei atodi yn Atodiad 2 i’r adroddiad.

 

Amlygodd y Cadeirydd bwysigrwydd sicrhau bod Cynghorwyr yn cael eu gwneud yn ymwybodol y byddai'r wybodaeth a roddwyd yn y cyfryngau cymdeithasol yn y parth cyhoeddus. Awgrymodd y dylai rhaglenni hyfforddiant gynnwys cyngor ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol ac y dylid defnyddio’r hyfforddiant i atgoffa Cynghorwyr fod y Cod Ymddygiad yn berthnasol hefyd i weithgareddau ar-lein. Eglurodd y SM bod hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol wedi ei ddarparu o'r blaen a chytunodd i gysylltu â'r Tîm Cyfathrebu Corfforaethol ynglŷn â’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol gan Gynghorwyr. Hysbyswyd y Pwyllgor nad oedd Sir Ddinbych ar hyn o bryd â gwaharddiad ar Gynghorwyr yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn ystod cyfarfodydd. Dim ond â gwaharddiadau ar amharu ar gyfarfodydd yr oedd Rheolau Sefydlog yn ymdrin, a doedd dim cyfeiriad at gyfryngau cymdeithasol. Eglurodd y SM pe cyflwynwyd gwe-ddarlledu efallai y bydd angen adolygu Rheolau Sefydlog y Cyngor ac o bosib asesu'r ddarpariaeth o hyfforddiant i’r Aelodau er mwyn osgoi unrhyw broblemau posibl. 

 

Ystyriodd a chadarnhaodd y Pwyllgor rinweddau cyflwyno protocol ar y defnydd o gyfryngau cymdeithasol ac yn dilyn trafodaeth fanwl:-

 

PENDERFYNWYDbod y Swyddog Monitro, ar y cyd  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD

Nodi presenoldeb Aelodau’r Pwyllgor Safonau yn y Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a chael eu hadroddiadau.

 

Cofnodion:

Gwahoddwyd Aelodau'r Pwyllgor i roi adborth o'r cyfarfodydd Cyngor Sir, Tref a Chymuned yr oeddent wedi eu mynychu yn ddiweddar a chymerodd yr Aelodau’r cyfle i roi crynodeb o sut roedd y Cynghorau perthnasol wedi gweithredu.

Roedd y Parchedig W. Roberts
wedi mynychu cyfarfodydd o’r Cyngor Llawn ar 7 Mai 2013 a 4 Mehefin 2013. Dwedodd bod y cyfarfodydd wedi cael eu cynnal yn dda iawn a dwedodd bod y drafodaeth wedi cael ei strwythuro a'i rheoli'n iawn.

 

Roedd y Cynghorydd W.E. Cowie wedi mynychu cyfarfod o Gyngor Tref Dyserth ar 11 Mawrth 2013 ac eglurodd fod y cyfarfod, a gafodd ei gadeirio gan yr Is-gadeirydd, wedi bod yn galonnog gyda'r holl Aelodau yn cymryd rhan mewn trafodaethau o safon dda. Fodd bynnag, eglurodd y bu diffyg trefn yn ystod y drafodaeth gyda'r Aelodau’n peidio ag annerch y cyfarfod drwy'r Cadeirydd, a theimlodd y byddai’n fanteisiol darparu hyfforddiant gyfer y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd. Roedd y Cynghorydd Cowie hefyd wedi mynychu cyfarfod o Gyngor Cymuned Cefn Meiriadog ar 19 Mawrth 2013. Dwedodd bod y cyfarfod wedi bod yn un da iawn ond teimlodd y byddai’n fanteisiol darparu hyfforddiant gyfer y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd. Pwysleisiodd y Cynghorydd Cowie nad oedd yn teimlo dylai’r Cymunedau lleol dan sylw fod ag unrhyw bryderon ynghylch eu Cynghorau perthnasol.  

 

Mynychodd y Cynghorydd D.E. Jones Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Cymuned Llandyrnog a gynhaliwyd cyn y cyfarfod misol. Eglurodd bod yr ymagwedd at y cyfarfod wedi bod yn anffurfiol, ond bod strwythur sylfaenol y rhaglen wedi bod yn gadarn. Roedd y Cyngor Cymuned wedi mynegi bod ganddynt hyder yn eu Clerc a theimlodd dylai preswylwyr yr ardal gael eu sicrhau bod ganddynt Gyngor cyfrifol ac effeithiol. 

 

Cydnabu'r Cynghorydd Jones bod Cynghorwyr Tref a Chymuned yn aelodau o'r llu gwirfodd mwyaf yng Nghymru ac yn rhoi cryn dipyn o’u hamser i gyflawni eu dyletswyddau.        

 

PENDERFYNWYDbod y Pwyllgor Safonau yn derbyn ac yn nodi’r adborth a gyflwynwyd o gyfarfodydd a fynychwyd yn ddiweddar gan Aelodau'r Pwyllgor.

 

 

10.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Rhoi gwybod i Aelodau y cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau ar 6 Medi, 2013 yn Ystafell Gynadledda 1b, Neuadd y Sir, Rhuthun.

 

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau byddai’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau’n cael ei gynnal ddydd Gwener 6 Medi 2013 am 10.00am yn Ystafell Gynhadledd 1b, Neuadd y Sir, Rhuthun.

 

 

GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

 

PENDERFYNWYD Gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, tra’n ystyried yr eitem ganlynol, oherwydd ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu, fel y diffinnir hi ym Mharagraffau 12 a 13 Rhan 4, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

11.

COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (mae copi ynghlwm) o ran canfyddiadau ymchwiliad a gynhaliwyd gan Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i honiad bod Cynghorydd wedi methu, neu y gallai fod wedi methu, â chydymffurfio â Chod Ymddygiad Cyngor Sir Ddinbych.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

RHAN II

 

11.    COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000

 

Dosbarthwyd copi o adroddiad cyfrinachol gan y SM gyda’r papurau pwyllgor, a oedd yn cynorthwyo Aelodau'r Pwyllgor Safonau i ystyried a ddylid cynnal gwrandawiad cynrychiolaeth mewn perthynas â chanfyddiadau'r ymchwiliad a gynhaliwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i honiad fod cyn-Gynghorydd wedi methu, neu efallai wedi methu, cydymffurfio â Chod Ymddygiad Cyngor Sir Ddinbych.

 

O dan Adran 69 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i achosion lle mae honiad ysgrifenedig wedi ei wneud iddo gan unrhyw berson bod Aelod o awdurdod perthnasol wedi methu, neu y gallai fod wedi methu, â chydymffurfio â Chod Ymddygiad yr Awdurdod.

 

Roedd yr Ombwdsmon wedi derbyn honiad fod cyn-Gynghorydd wedi methu cadw at y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau Cyngor Sir Ddinbych. Honnodd yr honiad fod cyn-Gynghorydd wedi methu â datgan cysylltiad personol a rhagfarnllyd mewn cyfarfod o'r Cyngor. Roedd yr Ombwdsmon wedi ymchwilio i'r honiad a daeth i'r casgliad y dylai'r mater gael ei gyfeirio i Swyddog Monitro Cyngor Sir Ddinbych i'w ystyried gan Bwyllgor Safonau'r Cyngor.

 

Mae'r Rheoliadau (Cymru) Ymchwiliad Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) 2001 yn datgan pan fo unrhyw fater yn cael ei gyfeirio at Swyddog Monitro Awdurdod perthnasol gan yr Ombwdsmon, yna mae'n rhaid i'r Swyddog Monitro gyflwyno’r adroddiad gerbron y Pwyllgor Safonau. 

 

Swyddogaeth y Pwyllgor Safonau ar ôl derbyn adroddiad o'r fath oedd bod yn rhaid iddynt benderfynu naill ai:

 

(a)       nad oedd dim tystiolaeth o unrhyw fethiant i gydymffurfio â Chod Ymddygiad yr awdurdod perthnasol o dan sylw a rhaid hysbysu unrhyw berson a oedd yn destun yr ymchwiliad, unrhyw berson a wnaeth unrhyw honiad a arweiniodd at yr ymchwiliad a hysbysu'r Ombwdsmon yn briodol; neu

 

(b)       bod unrhyw berson a oedd yn destun yr ymchwiliad yn cael cyfle i gyflwyno sylwadau, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, mewn perthynas â chanfyddiadau'r ymchwiliad ac unrhyw honiad ei fod ef neu hi wedi methu, neu y gallai fod wedi methu, cydymffurfio â Chod Ymddygiad yr Awdurdod perthnasol.

 

Mae adroddiad yr Ombwdsmon i’r ymchwiliad i'r honiad a wnaed yn erbyn y cyn-Gynghorydd i'r SM wedi ei gynnwys fel Atodiad 1 i'r adroddiad. Mae copi o'r weithdrefn ar gyfer ymdrin â honiadau a wneir yn erbyn Cynghorwyr a’u cyfeirio i’r Pwyllgor Safonau wedi ei atodi fel Atodiad 2.

 

Diffiniodd y Cadeirydd rôl y Pwyllgor Safonau yn glir o ran ystyried a ddylid cynnal gwrandawiad cynrychiolaeth mewn perthynas â chanfyddiadau'r ymchwiliad a gynhaliwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. 

 

Yn dilyn ystyriaeth fanwl o'r adroddiad cytunodd y Pwyllgor Safonau roi’r cyfle i’r cyn-Gynghorydd gyflwyno sylwadau, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, mewn perthynas â chanfyddiadau'r ymchwiliad ynglŷn â'r honiad bod y cyn-Gynghorydd wedi methu, neu efallai wedi methu, â chydymffurfio â Chod Ymddygiad Cyngor Sir Ddinbych. Amlinellodd y SM weithdrefn y Cyngor ar gyfer ymdrin â Gwrandawiadau, ac roedd y manylion yn y Pecyn Cynhadledd Safonau, a chadarnhaodd y byddai'n ysgrifennu at y cyn-Gynghorydd yn rhoi manylion penderfyniad y Pwyllgor a phroses y Gwrandawiad. Cytunodd Aelodau'r Pwyllgor bod y Cadeirydd yn awdurdodi'r llythyr i'w anfon at y cyn-Gynghorydd. 

 

Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd;-

 

PENDERFYNWYDbod y Pwyllgor Safonau yn cytuno:-

 

(a)          bod y cyn-Gynghorydd perthnasol yn cael y cyfle i gyflwyno sylwadau, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, mewn perthynas â chanfyddiadau'r ymchwiliad ynglŷn â'r honiad bod y cyn-Gynghorydd wedi methu, neu efallai wedi methu, â chydymffurfio â Chod Ymddygiad Cyngor Sir Ddinbych, a

(b)          bod y Cadeirydd yn awdurdodi'r llythyr i'w anfon at y cyn-Gynghorydd.

(G. Williams i Weithredu)

 

 

Daeth y cyfarfod  ...  view the full Cofnodion text for item 11.