Agenda and draft minutes
Lleoliad: Conference Room 1a, County Hall, Ruthin
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu
ragfarnus mewn unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd
cysylltiad personol na rhagfarnllyd gan unrhyw un. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys, dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth
Leol 1972. Cofnodion: Dim materion brys
wedi’u codi. |
|
Cofnodion y cyfarfod diwethaf PDF 111 KB Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar
11eg Ionawr 2013 (copi’n amgaeëdig). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd Ddydd Gwener, 22 Chwefror
2013. Nododd y Cynghorydd
David Jones fod ei sylwadau wrth drafod Eitem 6 – Hyfforddiant Cod Ymddygiad yn
cyfeirio’n benodol at yr hyfforddiant oedd ar gael gan Un Llais Cymru ar gyfer
cyllid a llywodraethu. Un o’r datblygiadau yn dilyn trafodaeth y cyfarfod blaenorol o Eitem 7 -
Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru, roedd y Swyddog Monitro wedi derbyn
gwybodaeth bod y cyfyngiad ar y nifer o lefydd oedd ar gael yng Nghynhadledd
Safonau Cymru 2013 wedi’i dynnu’n ôl ac y gall unrhyw aelod o Bwyllgor Safonau
oedd â diddordeb fynychu’r Gynhadledd. Roedd y Cynghorydd David Jones,
Parch Wayne Roberts, Mr Ian Trigger a Mrs Paula White wedi cadarnhau yn
flaenorol eu bod yn bwriadu mynychu’r gynhadledd, a dywedodd y Cynghorydd Colin
Hughes y byddai’n hysbysu’r Swyddog Monitro petai’n gallu mynychu hefyd. Cymerodd y
Swyddog Monitro y cyfle hwn i hysbysu’r pwyllgor bod y gweithrediad cyfreithiol
i apwyntio Paul Penlington i’r Cyngor wedi’u penderfynu, a bod y Cynghorydd
Penlington wedi ei gadarnhau’n ffurfiol i’r swydd ar 19 Chwefror. Roedd y Swyddog Monitro yn gweithio gyda’r
Cynghorydd Penlington i sicrhau y byddai wedi’i hyfforddi’n llawn i gyflawni ei
ddyletswyddau fel aelod etholedig, gan gynnwys hyfforddiant Cod Ymddygiad. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Chwefror fel cofnod gwir a
chywir, yn amodol ar y newidiadau uchod. |
|
MYNYCHU CYFARFODYDD Cydnabod presenoldeb aelodau’r Pwyllgor Safonau mewn
cyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a derbyn eu hadroddiadau. Cofnodion: Nododd y
Cynghorydd David Jones ei fod wedi mynychu cyfarfod Cyngor Cymuned Llandegla yn
ddiweddar. Roedd y cyfarfod wedi’i
baratoi’n dda, gyda rhaglen dda a thrafodaeth gyda strwythur iddi. Roedd saith allan o naw o aelodau’r Cyngor
Cymuned yn bresennol, ac roedd aelod o’r cyhoedd yn bresennol hefyd. Yn gyffredinol, nid oedd gan y Cynghorydd
Jones unrhyw bryderon am y modd yr oedd y Cyngor Cymuned yn gwneud eu gwaith ac
roedd y cyfarfod yn cael ei redeg yn dda iawn. Cadarnhaodd Ms
Margaret Medley ei bod wedi mynychu cyfarfod y Cyngor Llawn yn Neuadd y Sir,
Rhuthun, ar 5 Ionawr. Sylwodd bod nifer
o wendidau mewn perthynas â phatrwm y drafodaeth, gyda rhai o’r cynghorwyr heb
baratoi ac eraill yn ailadrodd pwyntiau a wnaed yn flaenorol. Pwysleisiodd Ms Medley bwysigrwydd paratoi’n
drwyadl ar gyfer y cyfarfodydd er mwyn sicrhau bod y drafodaeth yn drylwyr ond
bod iddi ffocws pendant. Roedd y Swyddog
Monitro yn cydnabod pryderon Ms Medley ond ychwanegodd bod y materion oedd yn
cael eu trafod yn y cyfarfod ynglŷn â gosod cyllideb y Cyngor ac Adolygiad
GIG yn gynhennus iawn, ac roedd nifer o’r cynghorwyr oedd yn bresennol yn
dymuno mynegi eu barn. Nodwyd bod
Cadeirydd y Cyngor wedi rheoli’r cyfarfod yn dda o dan yr amgylchiadau ac
wedi’i ganmol ar ddiwedd y cyfarfod.
Nododd y Swyddog Monitro nad oedd unrhyw hyfforddiant penodol er mwyn
paratoi ar gyfer cyfarfodydd, ond roedd yr aelodau wedi derbyn hyfforddiant
mewn materion ariannol a gosod cyllideb cyn y cyfarfod, ac mae’n debyg mai
newidiadau hwyr oedd wedi oedi argaeledd rhai o’r adroddiadau ac o ganlyniad
dyma oedd y rheswm am y diffyg paratoi. Nododd y Swyddog
Monitro bod Llywodraeth Cymru wedi datblygu cynigion i’r Cynghorau ddarlledu
cyfarfodydd cyhoeddus, ac er nad yw hyn yn ofynnol, bydd Sir Ddinbych yn
archwilio’r potensial ar gyfer darlledu cyfarfodydd. Roedd rhai cynghorau yng Nghymru eisoes wedi
arbrofi hyn ac roedd y canlyniadau yn gymysg. PENDERFYNWYD nodi’r
adborth gan aelodau’r Pwyllgor Safonau a oedd wedi mynychu cyfarfodydd
cynghorau tref, cymuned a’r cyngor sir. |
|
Hyfforddiant ar gyfer Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Cynghorau Tref a Chymuned PDF 36 KB Derbyn adroddiad er gwybodaeth (copi’n amgaeëdig) yn rhoi
manylion i Aelodau’r Pwyllgor ar y sesiwn hyfforddi a drefnwyd ar gyfer
Cadeiryddion Cynghorau Tref a Chymuned mewn sgiliau cadeirio, a drefnwyd ar
gyfer 16eg Mai 2013. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad oedd yn rhoi manylion y
trefniadau arfaethedig ar gyfer hyfforddiant sgiliau cadeirio a fyddai’n cael
ei gynnig i Gadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Cynghorau Tref a Chymuned ar 16 Mai
yn Neuadd y Sir, Rhuthun. Bydd yr hyfforddwr allanol sy’n cael ei
hargymell gan Gymdeithas Llywodraeth Lleol Cymru, Julia Wright, yn cynnal yr
hyfforddiant, a bydd yn canolbwyntio ar ffurfio trafodaethau a rhagweld
problemau er mwyn gallu gwneud penderfyniadau’n effeithiol. Disgwylir y bydd datblygu sgiliau cadeirio yn
hyrwyddo datblygu safonau ymddygiad a moeseg, a chyfrannu at hwyluso
gweithrediadau democrataidd lleol. Oherwydd yr holl
alw, bydd presenoldeb yn cael ei gyfyngu i le i ddau aelod o bob cyngor gyda
ffi o £30 y pen, er mwyn galluogi i Gadeiryddion ac Is-Gadeiryddion cyfredol
neu ddarpar Gadeiryddion ac Is-Gadeiryddion fynychu’r hyfforddiant. Datganodd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau ei
ddiddordeb mewn mynychu’r hyfforddiant ond ni fyddai’r Parchedig Wayne Roberts
yn gallu bod yn bresennol. PENDERFYNWYD
i.
y dylai aelodau’r Pwyllgor Safonau nodi’r
trefniadau ar gyfer cynnal hyfforddiant sgiliau cadeirio; a
ii.
bydd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau yn
mynychu’r hyfforddiant |
|
Llythyr Gweinidogol ar y Fframwaith Moesegol PDF 54 KB Derbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi’n amgaeëdig) yn
cyflwyno i’r Pwyllgor Lythyr Gweinidogol ar y Fframwaith Moesegol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro adroddiad oedd yn cynnwys llythyr gan Weinidog Llywodraeth Leol
a Chymunedau am Fframwaith Foesegol Llywodraeth Leol, gan roi crynodeb o
gynnwys y llythyr a’i arwyddocâd i’r Cyngor.
Roedd y llythyr yn cyfeirio at nifer o faterion oedd yn cael eu cynnwys
yn y Papur Gwyn ‘Hyrwyddo Democratiaeth Leol’ ac yn cynnig diweddariad a
chanllawiau pellach am weithrediad darpariaeth y Papur Gwyn. Bu’r Pwyllgor yn trafod y materion hyn a
chytunwyd ar ymateb i’w gyflwyno i’r Gweinidog. Datrysiadau lleol ar gyfer cwynion lefel isel am
ymddygiad aelodau Roedd y Gweinidog
yn arnodi argymhelliad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bod awdurdodau
lleol yn defnyddio proses ddatrys ar gyfer cwynion lefel isel yn erbyn aelodau,
a gofynnwyd i’r awdurdodau wneud trefniadau i ddefnyddio protocol cyffredinol
yn wirfoddol. Cadarnhaodd y Swyddog
Monitro bod y Cyngor wedi dechrau defnyddio’r protocol a mynegodd ei gefnogaeth
tuag at y broses gyflymach, effeithlon newydd ar gyfer archwilio materion na
fyddai’n cael sylw’r Ombwdsmon fel arfer.
Roedd y Swyddog Monitro yn darlunio proses gymodi yn cynnwys arweinwyr
grwpiau gwleidyddol, gyda’r dewis o godi’r cwynion gyda’r Pwyllgor Safonau fel
bo’r angen. Bydd y Cyngor Sir yn profi
hyn cyn ei ddefnyddio mewn Cynghorau Tref a Chymuned. Derbyniodd y
Pwyllgor y cyngor bod yn rhaid i unrhyw gwynion gan y cyhoedd gael eu rhoi i’r
Ombwdsmon. Roedd y Pwyllgor
yn cydnabod bod angen proses er mwyn datrys cwynion lefel isel, a phwysigrwydd
rôl y Pwyllgor yn y broses hon.
Gofynnodd y Cadeirydd sut y byddai pennu lefel y cwynion er mwyn
penderfynu bod angen eu hatgyfeirio, a chynigodd y Swyddog Monitro mai diben y
broses oedd delio â chwynion megis cyhuddiadau o amarch rhwng aelodau. Byddai’r Swyddog Monitro yn ymgynghori
gyda’r Ombwdsmon i sefydlu rhagesiampl sut yr oeddent wedi delio ag achosion
penodol yn y gorffennol, a byddai hyn yn darparu gwybodaeth ar gyfer y broses
atgyfeirio. Cytunodd y
Pwyllgor i ymateb er mwyn cadarnhau eu bod yn cefnogi’r broses datrys yn lleol
ac i drefnu manylion y trefniadau. Cap gwirfoddol ar indemniad Roedd y Papur
Gwyn yn argymell cyflwyno cap gwirfoddol o £20,000 yn cael ei gynnig gan
awdurdodau lleol fel indemniad ar gyfer costau cyfreithiol a wnaed gan aelodau
oherwydd achosion o gamymddwyn. Eglurodd
y Swyddog Monitro bod y broses yn Sir Ddinbych yn nodi y dylid cyflwyno cais am
indemniad i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, ond nad oedd cyfyngiadau ar
y cyfansymiau y gellid eu talu. Pwysleisiodd y Swyddog Monitro y pwysigrwydd
bod aelodau yn gallu amddiffyn eu hunain yn erbyn cyhuddiadau Cod Ymddygiad, ond
nododd pryder Llywodraeth Cymru bod posibilrwydd y gall y costau cyfreithiol
gynyddu. Byddai’n rhaid i’r
Cyngor adennill unrhyw arian a dalwyd yn yr indemniad petai cerydd yn cael ei
chynnal, a ni fyddai gan y Cyngor unrhyw hyblygrwydd yn hyn o beth. Roedd yr
Ombwdsmon wedi nodi y byddai’n barod i gytuno ar gap cilyddol ar gyfer costau
cyfreithiol, a chytunodd y Pwyllgor, gan y bydd y cap yn berthnasol i’r naill
a’r llall, y byddai hyn yn cael ei ystyried yn gyfatebol o dan Erthygl 6
Confensiwn Ewropeaidd Hawliau Dynol, oedd yn amddiffyn eu hawl i achos
teg. Ond, cytunwyd i ofyn am eglurhad
gan y Gweinidog. Nododd y Pwyllgor
er bod cap ar yr indemniadau yn galluogi dyrannu cyfanswm hael iawn, ystyriwyd
ei bod yn bwysig bod aelodau yn cael cynnig cefnogaeth i gyflawni eu rôl, ac ar
adegau golyga hyn bod yn rhaid iddynt siarad am bynciau cynhennus gyda risg
cynhenid o gerydd. Cytunodd y Pwyllgor i gefnogi cyflwyno cap indemniadau sy’n daladwy i
aelodau mewn perthynas â chostau cyfreithiol, a’r cap hwnnw yn £20,000. Addasiadau i’r Cod ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf Mae cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau wedi ei drefnu ar
gyfer 10:00am ar 12fed Ebrill 2013 yn Ystafell Gynhadledd 1, Tŷ Nant,
Prestatyn. Cofnodion: Nodwyd bod
cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau wedi’i drefnu ar gyfer 12 Ebrill 2013. Bydd
Cynhadledd Safonau Cymru 2013 yn cael ei chynnal yn Llandudno ar 19 Ebrill. |
|
COD YMARFER – RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000 Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi’n
amgaeëdig) yn rhoi trosolwg o gwynion yn erbyn aelodau a gyflwynwyd i Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad
cyfrinachol, a gafodd ei gylchredeg cyn y cyfarfod, oedd yn darparu trosolwg
o’r cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn erbyn yr
aelodau ers 1 Ebrill 2012. Cynghorodd y Swyddog Monitro bod achos yn ymwneud
ag aelod yn peidio â datgan cysylltiad personol eitem busnes wedi’i ohirio gan
aros am ganlyniad achos llys anghysylltiol yn ymwneud â’r aelod. Mae hyn wedi’i ddatrys yn awr a bydd y
Swyddog Monitro yn dod ag adroddiad am yr achos i’r cyfarfod nesaf. Roedd achos arall yn ymwneud â chwyn o ddiffyg parch
ac ystyriaeth yn cynnwys unigolyn nad oedd yn gynghorydd bellach. Nododd y Swyddog Monitro y byddai’n dod ag
adroddiad llawn o amgylchiadau’r achos i’r cyfarfod nesaf. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiad. Diolchodd y Cadeirydd i aelodau’r pwyllgor a’r
swyddogion oedd yn bresennol am eu cyfraniadau a’u presenoldeb yn y cyfarfod. Daeth y cyfarfod i ben am 11.25 am |