Rhaglen
Lleoliad: Conference Room 1, Ty Nant, Nant Hall Road, Prestatyn
Rhif | Eitem |
---|---|
RHAN 1: GWAHODDIR Y WASG A’R CYHOEDD I FYNYCHU RHAN HON Y CYFARFOD |
|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN BUDDIANNAU Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu
fuddiannau sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. |
|
MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth
Leol, 1972. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 152 KB Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar
13eg Gorffennaf 2012 (copi’n amgaeëdig). |
|
MYNYCHU CYFARFODYDD Cydnabod presenoldeb aelodau’r Pwyllgor Safonau yng
nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a derbyn eu hadroddiadau. |
|
PWYLLGOR SAFONAU GOGLEDD CYMRU Derbyn adroddiad llafar gan Is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau
ar y materion a drafodwyd yng nghyfarfod Pwyllgor Safonau Gogledd Cymru a
gynhaliwyd ar 17eg Gorffennaf 2012. |
|
DIGWYDDIADAU HYFFORDDI COD YMDDYGIAD PDF 56 KB Derbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi’n amgaeëdig) yn
gofyn i’r Pwyllgor gydnabod a chymeradwyo’r digwyddiadau hyfforddi ar y Cod
Ymddygiad sydd wedi eu trefnu ledled Sir Ddinbych ar gyfer Cynghorwyr Sir ac
aelodau cynghorau tref a chymuned. Dogfennau ychwanegol: |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Cadarnhau dyddiad cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau. |
|
RHAN 2: EITEMAU CYFRINACHOL Argymhellir yn unol ag Adran 100A(4) Deddf Llywodraeth Leol
1972, y dylid gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod wrth ystyried yr eitem
ganlynol oherwydd ei bod yn debygol y byddai gwybodaeth eithriedig (fel y
diffinnir ym mharagraffau 13 a 14 o Ran
4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf) yn cael ei datgelu. |
|
CWYNION COD YMDDYGIAD Derbyn adroddiad cyfrinachol (copi’n amgaeëdig) sy’n rhoi
trosolwg i’r Pwyllgor o’r cwynion a anfonwyd at Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru sy’n berthnasol i gynghorau sir, tref neu gymuned yn Sir
Ddinbych. |