Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Dim.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 199 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n peri rhagfarn yn gysylltiedig ag unrhyw fater sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Dim.

 

3.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Safonau ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2025/2026.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Safonau ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2025/26.

 

Cynigiodd yr Aelod Annibynnol Kate Robertson fod yr Aelod Annibynnol Maggie Griffiths yn cael ei phenodi’n Gadeirydd ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2025/26, ac eiliodd y Cynghorydd Gordon Hughes.

 

Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill.

 

Penderfynwyd: Penodi’r Aelod Annibynnol Maggie Griffiths yn Gadeirydd y Pwyllgor Safonau ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2025/26.

 

 

4.

PENODI IS-GADEIRYDD

Penodi Is-gadeirydd y Pwyllgor Safonau ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2025/2026.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Is-Gadeirydd y Pwyllgor Safonau ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2025/26.

 

Cynigiodd yr Aelod Annibynnol Peter Lamb fod yr Aelod Annibynnol Samuel Jones yn cael ei benodi’n Is-Gadeirydd ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2025/26, ac eiliodd y Cynghorydd Bobby Feeley.

 

Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill.

 

PENDERFYNWYD: Penodi’r Aelod Annibynnol Samuel Jones yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Safonau ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2025/26.

 

 

5.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd cyn dechrau’r cyfarfod.

 

Ar y pwynt hwn, diolchodd y Swyddog Monitro i Gadeirydd blaenorol y Pwyllgor Safonau, yr Aelod Annibynnol Julia Hughes a’r Is-Gadeirydd blaenorol, yr Aelod Annibynnol Ann Mellor. Mynegodd y Swyddog Monitro ei werthfawrogiad a’i ddiolch i’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd am eu gwaith caled a’u hymroddiad yn ystod eu dau dymor yn y swydd.

 

Diolchodd aelodau’r Pwyllgor Safonau yn bersonol iddynt gan ddymuno’n dda i’r dyfodol. 

 

 

6.

CYLCH GORCHWYL Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 111 KB

Derbyn cylch gorchwyl y Pwyllgor Safonau (copi ynghlwm) gan y Dirprwy Swyddog Monitro yn amlinellu rôl a chylch gwaith y Pwyllgor Safonau.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Safonau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’r Aelodau er gwybodaeth gan fod dau Aelod Annibynnol newydd wedi cael eu penodi i’r Pwyllgor. 

 

Croesawodd y Dirprwy Swyddog Monitro gwestiynau gan yr Aelodau am y Cylch Gorchwyl.

 

Cafwyd trafodaeth a gwnaeth yr Aelodau’r sylwadau canlynol - 

·       Dylai adran 1.4 nodi Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned

·       Dylai adran 1.5.1 gynnwys mai dim ond Aelod Annibynnol all fod yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor.

·       Nid yw adran 1.6.8 yn gywir - ‘ymarfer (a) i (e) uchod’ gan gyfeirio at adrannau nad oedd ynghlwm â’r Cylch Gorchwyl.

·       Roedd adran 1.8 yn cyfeirio at y Pwyllgor Safonau a Moeseg, dylai hyn nodi'r Pwyllgor Safonau.

·       Roedd adran 1.8 yn cyfeirio at y ‘flwyddyn ariannol’, y flwyddyn galendr ddylai hyn fod.

·       Nid oedd adrannau 1.9.1 a 1.9.2 yn gywir, gan eu bod yn cyfeirio at adrannau nad oedd ynghlwm â’r Cylch Gorchwyl.

 

Nododd y Swyddog Monitro’r canlyniadau a dywedodd wrth y Pwyllgor y byddai’r diwygiadau’n cael eu gwneud i Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Safonau ac y byddai’n cael ei ail ddosbarthu i bob Aelod.

 

PENDERFYNWYD: derbyn a nodi Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Safonau, yn amodol ar yr uchod.

 

 

7.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 420 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2025 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2025. 

 

Ni chodwyd unrhyw faterion ynghylch cywirdeb.

 

Materion yn codi

Tudalen 17 (eitem 8) - Cofnodion y Fforwm Safonau Cenedlaethol - Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Pwyllgor y byddai’n holi os oedd y cofnodion ar gael ac yn eu dosbarthu i aelodau bryd hynny.

 

Felly:

 

PENDERFYNWYD: derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2025 fel cofnod cywir. 

 

 

8.

OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU - ‘EIN CANFYDDIADAU’ pdf eicon PDF 211 KB

Ystyried adroddiad gan y Cyfreithiwr dan Hyfforddiant (copi yn amgaeedig) ar dudalen ‘Ein Canfyddiadau’ a gyhoeddwyd ar wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfreithiwr dan Hyfforddiant (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar y crynodebau achos diweddaraf yn yr adran ‘Ein Canfyddiadau’ ar wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (yr Ombwdsmon) a’r penderfyniadau diweddaraf a wnaed gan Banel Dyfarnu Cymru (y Panel).

 

Mae’r adran ‘Ein Canfyddiadau’ yn cynnwys bob mater a gaiff eu hymchwilio gan yr Ombwdsmon, nid materion yn ymwneud ag ymddygiad yn unig. Darparwyd crynodeb o bob achos a oedd yn cynnwys cwynion Cod Ymddygiad a ymchwiliwyd yn y cyfnod rhwng 28 Chwefror 2025 a 27 Mai 2025, ac fe’u rhannwyd yn ôl y pynciau canlynol -  

 

·       Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch – 6

·       Datgelu a chofrestru buddiannau - 2

·       Dyletswydd i gynnal y gyfraith - 1

 

Mae’r canlyniadau wedi’u categoreiddio fel a ganlyn - 

 

·       Dim angen camau pellach - 4

·       Heb ei ymchwilio ymhellach - 3

·       Dim tystiolaeth o dorri cod ymddygiad - 2

Mae dyfyniadau perthnasol o’n tudalennau ‘Ein Canfyddiadau’ ynghlwm fel Atodiad 1 er gwybodaeth (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Nid oedd unrhyw un o’r achosion yn ymwneud â Chyngor yn Sir Ddinbych.

 

Ers 28 Chwefror 2025, ni fu yna benderfyniadau gan y Panel ynglŷn ag atgyfeiriadau gan yr Ombwdsmon.

 

Trafododd yr Aelodau ganfyddiadau’r cyhoedd am yr adroddiad, yn enwedig y ffaith a fyddai ymddiheuriad yn cael ei weld fel cau’r gŵyn.  Eglurodd y Swyddog Monitro fod hyn wedi cael ei godi gan lawer o Bwyllgorau Safonau yn y gorffennol. Roedd Adolygiad Penn o’r Fframwaith Safonau Moesegol wedi ystyried a oedd ystod ehangach o sancsiynau y gallai Pwyllgorau Safonau eu gweithredu a daeth i’r casgliad y dylai hyn fod yn fwy hyblyg. Byddai angen newid deddfwriaethol i wneud hyn.

 

Holodd yr Aelodau os oedd hunangyfeirio at yr Ombwdsmon yn un o bynciau hyfforddiant i Aelodau newydd. Eglurodd y Swyddog Monitro nad oedd yn cael ei amlygu yn yr hyfforddiant cychwynnol i Aelodau ar hyn o bryd, fodd bynnag, byddai’n ystyried cynnwys hunangyfeirio yn yr hyfforddiant yn y dyfodol.    [GW i weithredu]

 

Trafododd yr Aelodau mor anodd oedd cynnal safonau os nad oedd yr Ombwdsmon yn ymchwilio i gwynion a gyflwynwyd. Eglurodd y Swyddog Monitro fod yr Ombwdsmon wedi newid ei weithdrefnau'n ddiweddar o ran sut yr ymdriniwyd â chwynion. Pan oedd yr Ombwdsmon yn cael cwyn, roedd yn rhoi gwybod yn ysgrifenedig i’r Swyddog Monitro. Roedd aelodau etholedig hefyd yn cael gwybod os oedd cwyn wedi cael ei gwneud yn eu herbyn a gallent gyflwyno sylwadau i’r Ombwdsmon.

 

Roedd yr Ombwdsmon yn defnyddio prawf dau gam wrth ystyried a ddylid ymchwilio i gŵyn neu beidio. I ddechrau, byddai’n ystyried os oedd tystiolaeth bod y Cod Ymddygiad wedi cael ei dorri. Yr ail gam oedd ystyried os oedd er budd y cyhoedd i gynnal ymchwiliad. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyfreithiwr dan Hyfforddiant am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD: nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

9.

PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD

Nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a derbyn eu hadroddiadau.

 

Cofnodion:

Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro wrth y Pwyllgor mai un o’r camau gweithredu o gyfarfod blaenorol oedd ailddechrau ymweliadau â Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned. 

 

Roedd y Dirprwy Swyddog Monitro wedi dosbarthu rhestr o Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned oedd yn cynnwys manylion y cyfarfod diwethaf a arsylwyd gan Aelodau’r Pwyllgor Safonau. Nodwyd yng Nghanllawiau’r Pwyllgor Safonau y dylid cynnal un ymweliad (gan bob Aelod Annibynnol) i gyfarfod Cyngor Dinas Tref neu Gymuned rhwng bob cyfarfod ffurfiol o’r Pwyllgor Safonau.

 

Erbyn hyn, derbyniwyd yr ymatebion gan Aelodau’n nodi i ba gyfarfodydd yr hoffent fynd i arsylwi, a phan fyddant wedi cael eu hadolygu, bydd y rhestr o gyfarfodydd i gael eu harsylwi'n cael ei dosbarthu.  

 

Holodd yr Aelodau os oedd y cyfarfodydd oedd yn cael eu harsylwi yn cael eu cynnal yn Gymraeg neu Saesneg, ac os oedd cyfleusterau cyfieithu ar gael.  Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Pwyllgor bod Swyddog Cyswllt wedi cael ei benodi’n ddiweddar, ac y byddai’n bosibl i’r swyddog gysylltu â phob Cyngor i ofyn a oedd arnynt angen help i drefnu cyfleusterau cyfieithu.  [GW i weithredu]

 

PENDERFYNWYD: derbyn a nodi’r eitem ynghylch presenoldeb mewn cyfarfodydd.

 

 

10.

CEISIADAU GODDEFEBAU

Ystyried unrhyw geisiadau am oddefebau a gafwyd gan Gynghorau Tref/Dinas/Cymuned neu ar lefel sirol.

 

Cofnodion:

Dim.

 

Dywedodd y Cynghorydd Gordon Hughes fod Cyngor Tref Corwen wedi cyflwyno Cais am Oddefeb. Cytunodd y Swyddog Monitro i wirio ac i gynnal cyfarfod arbennig i ystyried y cais, yn hytrach nag aros nes cyfarfod mis Medi y Pwyllgor Safonau.

 

 

 

11.

ADOLYGIAD O BOLISÏAU A GWEITHDREFNAU pdf eicon PDF 216 KB

Derbyn adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) am y Polisïau a Gweithdrefnau sydd yn dod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Safonau, yn cynnwys amserlen i adolygu’r dogfennau yma. 

 

Cofnodion:

Arweiniodd y Dirprwy Swyddog Monitro yr aelodau drwy adroddiad ar yr Adolygiad o Bolisïau a Gweithdrefnau.

 

Roedd y Pwyllgor Safonau yn gyfrifol am hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan Gynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig o’r Awdurdod. Roedd nifer o bolisïau a gweithdrefnau sy'n cefnogi'r Pwyllgor i gyflawni ei gyfrifoldebau. Roedd yr adroddiad yn rhestru'r polisïau a'r gweithdrefnau perthnasol a'r dyddiad y cânt eu hadolygu a'u cyflwyno i'r Pwyllgor.

 

Arweiniwyd yr Aelodau drwy dabl o bolisïau a gweithdrefnau sy'n ymwneud ag ymddygiad aelodau ac sy'n dod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Safonau. Bydd y rhain yn cael eu hadolygu dros y ddwy flynedd nesaf gyda'r 7 cyntaf wedi'u hamserlennu ar gyfer y cyfnod hyd at fis Mehefin 2026.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Dirprwy Swyddog Monitro am yr adroddiad a’r tabl a chroesawyd cwestiynau gan yr Aelodau.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad am y ffordd oedd y polisïau a gweithdrefnau yn cael eu blaenoriaethu o ran pryd oeddent yn cael ei hadolygu a’u cyflwyno i’r Pwyllgor Safonau. Eglurodd y Dirprwy Swyddog Monitro’r rhesymau dros flaenoriaethu polisïau a gweithdrefnau, gan nodi eu bod angen eu moderneiddio, eu hadolygu a’u hadnewyddu. 

 

Holodd yr Aelodau os oedd cofnod o Weithdrefnau Datrys Leol. Eglurodd y Swyddog Monitro nad oedd cofnod, fodd bynnag, pan fyddai’n amser adolygu'r weithdrefn, byddai’n rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor ar y pryd.  

 

Gofynnodd yr Aelodau am i ddyddiad pan oedd angen adolygu polisi neu weithdrefn gael ei ychwanegu at y tabl. Cadarnhaodd y Dirprwy Swyddog Monitro y byddai’n ychwanegu’r wybodaeth hon at y tabl o Bolisïau a Gweithdrefnau.  [CR i weithredu]

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Dirprwy Swyddog Monitro am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD: derbyn a nodi’r adroddiad Adolygu Polisïau a Gweithdrefnau.

 

 

12.

RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 229 KB

Ystyried Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau (copi yn ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau i’w hystyried.

 

Trafododd yr Aelodau’r trefniadau ar gyfer y Cyfarfod ar y Cyd â Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned yng nghyfarfod y Pwyllgor Safonau ar 12 Medi 2025.

 

Er mwyn sicrhau bod yr hyfforddiant cyn y cyfarfod yn berthnasol i gynrychiolwyr y Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned, cytunodd y Swyddog Monitro i ddynodi awgrymiadau ar gyfer cynnwys hyfforddiant ac i’w dosbarthu i’r Aelodau eu hystyried. 

 

Roedd yr eitem ar God Ymddygiad Swyddogion wedi cael ei hail drefnu ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Safonau ar 5 Rhagfyr 2025.

 

PENDERFYNWYD: nodi Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau.

 

 

13.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Trefnwyd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau ar gyfer 10am, dydd Gwener 12 Medi 2025. 

 

Cofnodion:

12 Medi 2025 am 10am.

 

GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

 

PENDERFYNWYD: dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes a ganlyn ar y sail ei fod yn ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

14.

COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy’n rhoi trosolwg o gwynion a wnaed yn erbyn aelodau, a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad cyfrinachol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) a oedd yn rhoi trosolwg o’r cwynion yn erbyn aelodau a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ers 1 Ebrill 2023.

 

Darparodd y Dirprwy Swyddog Monitro grynodeb o’r cwynion newydd a oedd wedi cael eu cyflwyno i’r Swyddog Monitro ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor, a oedd yn cynnwys pedair cwyn ynghyd â’r rhesymau dros hynny. Nodwyd bod dwy gŵyn flaenorol a oedd yn parhau ac roedd rhagor o wybodaeth i ddod am ganlyniad yr ymchwiliadau hynny.  

 

Trafododd yr Aelodau’r dyddiad dechrau a gofnodwyd pan dderbyniwyd cwyn a holwyd os oedd hyn pan oedd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ei derbyn neu’r Swyddog Monitro. Eglurodd y Swyddog Monitro mai’r dyddiad dechrau yw pan mae’r Swyddog Monitro yn dod yn ymwybodol o’r gwyn ar ôl cael gohebiaeth gan yr Ombwdsmon. Awgrymodd y Cadeirydd y dylai pennawd y golofn yn yr adroddiad adlewyrchu hyn i sicrhau cywirdeb y dyddiadau pan wneir y cwynion. 

 

Trafodwyd hyfforddiant i Aelodau a holwyd os gallai Aelodau’r Pwyllgor Safonau arsylwi’r hyfforddiant.  Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai croeso i Aelodau’r Pwyllgor Safonau arsylwi hyfforddiant i Aelodau a byddai’n gwerthfawrogi eu hadborth. 

 

Holodd y Cadeirydd os oedd cofnod o’r hyfforddiant oedd yr Aelodau wedi’i gwblhau. Eglurodd y Swyddog Monitro fod hyfforddiant Aelodau’n cael ei gofnodi a’i ddiweddaru’n barhaus. Os oedd cwyn yn erbyn Aelod, byddai’r Ombwdsmon yn gofyn am gofnod o’r hyfforddiant mae’r Aelod wedi’i gwblhau cyn gwneud unrhyw benderfyniad i ymchwilio. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog Monitro am ei adroddiad.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r adroddiad.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.45am.