Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Dim. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 199 KB Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd yr
Aelod Annibynnol Julia Hughes (Cadeirydd) gysylltiad personol ag Eitem Rhif 5
(Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – “Ein Canfyddiadau”), gan ei bod yn
aelod o Banel Dyfarnu Cymru. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Notice of items which, in the opinion of the Chair, should be considered at the meeting as a matter of urgency pursuant to Section 100B(4) of the Local Government Act, 1972. Cofnodion: Dim. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 327 KB Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 1 Mawrth (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2024. Cywirdeb – Tudalen 10 (Eitem 6) – dylai’r cofnodion nodi fod Samuel Jones am ymweld â Llangynhafal ac nid Llanfihangel. Materion yn Codi – Tudalen 8 – 2il baragraff – cadarnhad bod cofnodion cyfarfod y Fforwm Safonau Cenedlaethol a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2024 bellach wedi cael eu dosbarthu. Tudalen 8 – 3ydd paragraff – trafodwyd y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn ystod y sesiwn hyfforddi cyn y cyfarfod fore heddiw. Tudalen 8 – 8fed paragraff – taflenni Cadeirio Tudalen 14 – gofynnodd y Cadeirydd am eglurhad o ystyr y paragraff hwn. Eglurodd y Swyddog Monitro bod hyfforddiant wedi’i ddarparu yn y gorffennol i Gadeiryddion Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned gan unigolyn nad oedd wedi’i gyflogi gan y Cyngor Sir. Yn anffodus, mae’r unigolyn hwnnw bellach wedi ymddeol. Yn hytrach na chynnig hyfforddiant wyneb yn wyneb, rhannwyd canllawiau i bob Cadeirydd. Roedd y tîm Monitro am edrych ar y ffordd orau o gynnig hyfforddiant a chysylltu ag Un Llais Cymru i holi am unrhyw ddeunyddiau a hyfforddiant buddiol a oedd ar gael. Tudalen 9 – paragraff olaf – cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai canllawiau ymddygiad ar y cyfryngau cymdeithasol yn cael ei ychwanegu at raglen waith Gweithdai’r Cyngor. Os na fydd posib canfod lle iddo ar raglen waith Gweithdai’r Cyngor, bydd sesiwn hyfforddi ar wahân yn cael ei threfnu. Bydd y Swyddog Monitro’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Safonau yn y cyfarfod nesaf ym mis Medi. Tudalen 10 – Penderfyniad ar frig y dudalen –
Tudalen 10 – Eitem 6, Ymweld â chyfarfodydd –
Tudalen 11 – Eitem 8, Y Wybodaeth Ddiweddaraf o’r Fforwm Safonau Cenedlaethol. Cynhaliwyd cyfarfod y Fforwm Safonau Cenedlaethol bob chwe mis. Gwahoddwyd Cadeiryddion pob Pwyllgor Safonau i fynychu. Byddai un o chwe Swyddog Monitro Safonau Gogledd Cymru yn mynychu pob cyfarfod ac yna'n adrodd yn ôl i Swyddogion Monitro eraill Gogledd Cymru. Byddai pob Swyddog Monitro yn mynychu un cyfarfod Fforwm bob tair blynedd. Tudalen 13 – trydydd paragraff, Adran 15.8 Tudalen 179/180 – unrhyw wybodaeth mewn perthynas â’r papurau cefndir. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro ei fod yn ceisio arweiniad gan Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, ac y byddai’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU - 'EIN CANFYDDIADAU' PDF 224 KB Ystyried adroddiad gan y Cyfreithiwr dan Hyfforddiant (copi ynghlwm) ar y dudalen “Ein Canfyddiadau” a gyhoeddwyd ar wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Gyfreithwraig dan Hyfforddiant, Elinor Cartwright, adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Ein Canfyddiadau (a rannwyd ymlaen llaw). Roedd yr adroddiad yn trafod y cyfnod rhwng 15 Chwefror 2024 a 15 Gorffennaf 2024. Nodwyd nad oedd unrhyw un o’r achosion yn gysylltiedig â Sir Ddinbych. Roedd Atodiad 1 yn cynnwys crynodeb o’r achosion hynny a oedd yn ymwneud â chwynion Cod Ymddygiad yr ymchwiliwyd iddynt gan yr Ombwdsmon, wedi’u rhannu yn ôl pwnc fel a ganlyn – Uniondeb – 1 Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch – 3 Gellir categoreiddio’r canlyniadau fel a ganlyn – Atgyfeiriwyd at y Pwyllgor Safonau – 3 Atgyfeiriwyd at Banel Dyfarnu Cymru – 1 Roedd materion difrifol yn cael eu hatgyfeirio at Banel Dyfarnu Cymru ac awgrymodd y Swyddog Monitro y dylid ehangu’r adroddiad i gynnwys gwefan Panel Dyfarnu Cymru. Cadarnhaodd y byddai’n cyfarfod â’r Gyfreithwraig dan Hyfforddiant i drafod ychwanegu gwybodaeth Panel Dyfarnu Cymru at yr adroddiad yn y dyfodol. PENDERFYNWYD y byddai’r Pwyllgor Safonau’n nodi
cynnwys Adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – “Ein Canfyddiadau”. |
|
MEWN CYFARFODYDD Nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yn y Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a derbyn eu hadroddiadau. Cofnodion: Adroddodd yr
Aelodau am y cyfarfodydd y gwnaethant ymweld â nhw, fel a ganlyn –
Nododd y Swyddog
Monitro bod Cyngor Cymuned Llangynhafal yn cael ei redeg yn dda. Cadarnhawyd pe gofynnir am gymorth ariannol
ar gyfer ffigwr dros £500 y gallai'r datganiad o fuddiant fod yn fuddiant sy'n
rhagfarnu - ond os yw'n llai na £500 mae eithriad. Byddai angen datgan buddiant
personol o hyd.
Cadarnhaodd y
Cadeirydd ei bod eto i ymweld â Chyngor Tref y Rhyl, ond gan y cafwyd 2
brofedigaeth yn yr ychydig fisoedd diwethaf, teimlwyd y byddai’n fwy priodol
ymweld ar ôl i bethau dawelu. Roedd nifer o’r
Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned wedi cael Clercod newydd. Roedd rhai ohonynt yn brofiadol, ond roedd
eraill heb unrhyw brofiad blaenorol.
Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai’n llunio rhestr o’r Clercod hynny
heb brofiad. Os bydd cyfarfod
yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, a bod unigolyn di-Gymraeg yn
bresennol, cadarnhawyd y dylid trefnu bod rhywun yno i helpu’r unigolyn
di-Gymraeg drwy egluro iddo beth sy’n digwydd yn y cyfarfod. Mae’r ddeddfwriaeth yn nodi bod rhaid trin y
ddwy iaith yn gyfartal. Yn ystod y
trafodaethau, cytunwyd i lunio rhestr o Gynghorau i’r Aelodau Annibynnol ymweld
â nhw. Bydd rhestr o gyfarfodydd y
Cyngor Sir yn cael ei dosbarthu, yn ogystal â rhestr o’r Cynghorau Dinas, Tref
a Chymuned sy’n cynnal eu cyfarfodydd drwy gyfrwng y Gymraeg. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ADRODDIAD ARWEINYDD GRWP GWLEIDYDDOL Derbyn diweddariad llafar gan y Swyddog Monitro ynglŷn ag Adroddiadau Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro, Gary Williams, adroddiad llafar Arweinwyr y Grwpiau, a oedd yn
trafod y cyfnod rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024. Roedd rhai
adroddiadau wedi cael eu hanfon dros e-bost at Reolwr y Gwasanaethau
Cyfreithiol, Lisa Jones, a oedd wedi gadael yr Awdurdod Lleol yn ddiweddar, ac
roedd y Swyddog Monitro wedi cysylltu â TGCh er mwyn gallu mynd at y negeseuon
e-bost i gael yr adroddiadau. Cafwyd
oedi hefyd oherwydd yr etholiadau diweddar. Roedd Arweinwyr y
Grwpiau wedi cyfarfod yr wythnos flaenorol a chadarnhaodd pob un eu bod yn
fodlon cyfarfod y Pwyllgor Safonau, yng nghyfarfod mis Medi o bosib. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai’n
ceisio trefnu’r cyfarfodydd o amgylch cyfarfod y Pwyllgor Safonau. Byddai angen i
bob Arweinydd Grŵp siarad â’r Pwyllgor Safonau yn unigol. Cadarnhaodd y
Swyddog Monitro y byddai’n ysgrifennu at bob aelod o’r Pwyllgor Safonau i
ganfod pryd y byddent ar gael, ac yna’n cysylltu ag Arweinwyr y Grwpiau. Bydd pob cyfarfod yn para tua 20 i 30 munud. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y byddai’r
Pwyllgor Safonau’n nodi’r diweddariad ar lafar o adroddiadau Arweinwyr y
Grwpiau Gwleidyddol. |
|
DIWEDDARIAD FFORWM SAFONAU CENEDLAETHOL Derbyn diweddariad llafar ar y Fforwm Safonau Cenedlaethol. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf o’r Fforwm Safonau Cenedlaethol: cynhaliwyd y
cyfarfod diwethaf ar 24 Mehefin 2024, ond nid oedd y cofnodion wedi’u dosbarthu
hyd yma. Cadarnhawyd nad
cylch gwaith y Fforwm oedd lobïo mewn perthynas â thâl, ond cyfrifoldeb yr
Awdurdodau Lleol. Eleri Tudor oedd
y Llywydd newydd. Cynhaliwyd
trafodaethau yn y Fforwm ynglŷn â chanllawiau ar sancsiynau, a nodwyd y
gallai’r Panel Dyfarnu Cymru gynyddu neu leihau sancsiynau ar apêl. Roedd Michelle
Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC), yn bresennol yn y
Fforwm, a nododd eu bod wedi cael mwy o gwynion eleni. Roedd 90% ohonynt yn
gwynion am wasanaethau cyhoeddus a 10% yn faterion cod ymddygiad. Nid oedd ganddynt unrhyw adnoddau ychwanegol
i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn cwynion.
Nod OGCC oedd dod ag achosion i gasgliad ymhen 12 mis. Cafwyd problem yn
swyddfa OGCC, gan fod aelod staff wedi gwneud sylwadau am y blaid Geidwadol ac
wedi amau rhagfarn wleidyddol yn y swyddfa.
Dr Melissa McCullough fyddai’n arwain yr adolygiad, ynghyd â thîm
adolygu. Roedd OGCC yn awyddus i
gadarnhau nad oedd yna unrhyw ragfarn wleidyddol. Cytunodd y Swyddog Monitro i ddosbarthu’r
cylch gorchwyl. Roedd adolygiad
am gael ei gynnal o’r gweithdrefnau Datrys Lleol. Cadarnhawyd fod OGCC wedi cysylltu â CSDd a
bod copi o’r Datrysiadau Lleol wedi ei ddarparu a’i gydnabod. Bydd cyfarfod
nesaf y Fforwm Safonau Cenedlaethol yn cael ei gynnal ar 27 Ionawr 2025. PENDERFYNWYD y byddai’r Pwyllgor Safonau’n nodi’r
wybodaeth ddiweddaraf o’r Fforwm Safonau Cenedlaethol |
|
TREFNIADAU DIRPRWY SWYDDOG MONITRO PDF 210 KB Derbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) yn hysbysu'r Pwyllgor am y trefniadau newydd ar gyfer cefnogi'r Swyddog Monitro a'r Pwyllgor Safonau gan Ddirprwy Swyddog Monitro. Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro, Gary Williams, adroddiad ar drefniadau Dirprwy Swyddog Monitro
(a rannwyd ymlaen llaw), er mwyn rhoi gwybod i’r Pwyllgor Safonau am y
trefniadau a wnaed i ddarparu swyddogaeth Dirprwy Swyddog Monitro yn dilyn
newidiadau staffio diweddar o fewn y Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Pobl. Cadarnhawyd fod
Lisa Jones, y cyn Ddirprwy Swyddog Monitro (Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol)
wedi gadael yr awdurdod lleol yn ddiweddar.
Achubodd y Pwyllgor Safonau ar y cyfle hwn i ddiolch i Lisa am ei holl
waith caled, gan ofyn i'r Swyddog Monitro ysgrifennu at Lisa i ddiolch iddi ar
ran y Pwyllgor Safonau a dymuno’n dda iddi yn y dyfodol. Cadarnhaodd y
Swyddog Monitro y byddai’n drafftio llythyr diolch. Roedd yr Adran
Gyfreithiol wedi cael ei hailstrwythuro’n ddiweddar. Cadwyd swydd Rheolwr y Gwasanaethau
Cyfreithiol ac un Arweinydd Tîm. Bydd Gary
Williams yn parhau yn ei swydd fel Swyddog Monitro a bydd tair swydd Dirprwy
Swyddog Monitro’n cael eu creu. Bydd swydd y
Dirprwy Swyddog Monitro (Ymddygiad) yn cael ei chyflawni gan Bennaeth y
Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Pobl (Catrin Roberts). Bydd swydd y Dirprwy Swyddog Monitro
(Llywodraethu a Chyfreithlondeb) yn cael ei chyflawni gan Reolwr y Gwasanaethau
Cyfreithiol (Sally Henderson) ac Arweinydd Tîm y
Gwasanaethau Cyfreithiol (Clare Lord).
Bydd y Swyddog
Monitro a’r Dirprwyon yn cydweithio fel tîm mewn perthynas â phob agwedd ar y
rôl fonitro. Roedd cyfres o
gyfarfodydd wedi’u trefnu ar gyfer y tîm monitro. Bydd y Swyddog Monitro’n bresennol mewn
cymaint o gyfarfodydd y Pwyllgor Safonau ag y bo modd, ond bydd un o’r Dirprwy
Swyddogion Monitro yn bresennol yn ei le ar adegau. PENDERFYNWYD y byddai’r Pwyllgor Safonau’n nodi’r
trefniadau newydd ar gyfer y Dirprwy Swyddogion Monitro. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR SAFONAU PDF 236 KB Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Safonau (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau i’w hystyried, a nododd yr Aelodau’r canlynol
– Dileu’r adolygiad
o faint a chyfansoddiad y Pwyllgor Safonau, gan ei fod yn debyg i’r Awdurdodau
Lleol cyfagos. Cytunwyd ar
Gymharu Casgliadau Panel Recriwtio’r Pwyllgor Safonau yn y Cyngor Llawn – i’w
ddileu. 13 Medi 2024 – Ychwanegu
Hyfforddiant Cod Ymddygiad - trosolwg o’r ddarpariaeth ar gyfer Cynghorau Sir a
Dinas, Tref a Chymuned. Ychwanegu
Adroddiadau’r Arweinwyr Grŵp. Ychwanegu
Cyfnodau Swyddi Aelodau’r Pwyllgor Safonau. 6 Rhagfyr 2024 – Symud o gyfarfod
13 Medi i gyfarfod mis Rhagfyr - Trosolwg o’r gofrestr rhoddion a lletygarwch. 7 Mawrth 2025 – Ychwanegu’r
Newyddion Diweddaraf o’r Fforwm Safonau Cenedlaethol. Ychwanegu Cod
Ymddygiad ar gyfer swyddogion. Ar y pwynt hwn,
gofynnodd y Cadeirydd am gael cynnwys Ceisiadau am Ollyngiadau fel eitem ar bob
Rhaglen, hyd yn oed os nad oes yna unrhyw geisiadau. PENDERFYNWYD: yn amodol ar yr uchod, y byddai’r
Pwyllgor Safonau’n cytuno ar y Rhaglen Waith. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Mae cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau wedi’i drefnu ar gyfer 10:00 Medi 13, 2024. Cofnodion: Bydd cyfarfod
nesaf y Pwyllgor Safonau’n cael ei gynnal ar 13 Medi 2024 am 10.00am. |
|
Ar y pwynt hwn
(12.20pm), cafwyd egwyl o 10 munud. Ailddechreuodd
y cyfarfod am 12.30pm. |
|
GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes canlynol, dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol
1972, ar y sail ei bod yn debygol y byddent yn datgelu gwybodaeth eithriedig
fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972. |
|
COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000 Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy’n n rhoi trosolwg o gwynion a waned yn erbyn aelodau i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Monitro adroddiad cyfrinachol (a rannwyd ymlaen llaw) a oedd yn rhoi
trosolwg o’r cwynion yn erbyn aelodau a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru (OGCC) ers 1 Ebrill 2023. Rhoddodd y
Swyddog Monitro grynodeb o ddau ymchwiliad a oedd wrthi’n cael eu cynnal. PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r adroddiad. |
|
Diolchodd y
Cadeirydd i’r aelodau am eu presenoldeb a’u cyfraniadau a diolchodd i’r staff
cefnogi hefyd. DAETH Y
CYFARFOD I BEN AM 1.00PM |