Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Dim.

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 199 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cadeirydd, Aelod Annibynnol, Julia Hughes ddatganiad personol yn eitem 5 gan fod ganddi hi berthynas agos ag aelodau o Gyngor Cymuned Llandyrnog.  Byddai’r Cadeirydd yn parhau i Gadeirio’r eitem, fodd bynnag, byddai’n ymatal rhag pleidleisio. 

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd cyn dechrau’r cyfarfod.

 

Nododd y Cadeirydd newid yn nhrefn y rhaglen yn sgil dau gais am ollyngiad cyn cofnodion y cyfarfod diwethaf.  Byddai’r cyfarfod yn parhau yn unol â threfn gytunedig y rhaglen yn dilyn yr eitemau hyn.

 

 

4.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN AELODAU CYNGOR CYMUNED GWYDDELWERN pdf eicon PDF 211 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi wedi’i amgáu) ynglŷn â chais am ollyngiad a wnaed gan aelodau Cyngor Cymuned Gwyddelwern.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro’r Cais am Ollyngiad gan aelodau Cyngor Cymuned Gwyddelwern (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i ganiatáu i'r Pwyllgor ystyried y cais, penderfynu a ddylid caniatáu gollyngiad ac unrhyw amodau y dylid eu cynnwys.

 

Croesawodd a chyflwynodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o Gyngor Cymuned Gwyddelwern, y Cynghorydd Dyfan Roberts a’r Clerc Carys Williams.

 

Rhoddodd y Dirprwy Swyddog Monitro gefndir byr i’r rheswm dros y cais.  Derbyniwyd cais am ollyngiad ar gyfer aelodau Cyngor Cymuned Gwyddelwern i gymryd rhan weithredol mewn eitem sy’n ymwneud â chais cynllunio yn eu hardal.  Roedd gan nifer o’r Cynghorwyr Cymuned gysylltiadau â’r ymgeisydd.  Ymddengys mai’r rheswm dros y cais yw na fyddai digon o aelodau ar gael i ffurfio cworwm heb ollyngiadau.  Roedd manylion llawn y cais wedi’u hatodi i’r adroddiad.

 

Nododd y Clerc fod 9 o Gynghorwyr yn perthyn i’r ymgeisydd drwy briodas, eglurodd y Cynghorydd Dyfan Roberts ei berthynas â’r ymgeisydd i’r Pwyllgor a nododd mai dim ond 4 Cynghorydd fyddai’n gallu pleidleisio mewn trafodaethau pe na bai’r gollyngiad yn cael ei ganiatáu. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r cynrychiolwyr am y manylion a roddwyd, a chroesawyd cwestiynau gan yr Aelodau.

 

Ceisiodd Aelodau eglurhad ynghylch p’un a oedd y Cyngor Cymuned yn ymgynghorai ar gyfer y ceisiadau cynllunio neu ynghlwm â’r broses benderfynu yn unig.  Nododd y Clerc y byddai’r Cynghorwyr yn lleisio eu barn ar y cais cynllunio ond na fyddent yn gysylltiedig â’r penderfyniad terfynol. 

 

Gofynnodd Aelodau am ba hyd fyddai angen y gollyngiad.  Nododd y Clerc y byddai arnynt angen gollyngiad tan ddiwedd yr ymgynghoriad cynllunio.

 

Ar y pwynt hwn torrodd y pwyllgor i ystyried y cais am ollyngiad.

 

Rhoddodd y Dirprwy Swyddog Monitro wybod i’r Pwyllgor y gellid caniatáu eithriad neu ollyngiad gan y Pwyllgor Safonau yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol 2000.   Cyfeiriodd yr aelodau at y rheoliad yn Atodiad 2.

 

Felly: 

 

PENDERFYNWYD:  cymeradwyo’r cais am ollyngiad i Gynghorwyr Cyngor Cymuned Gwyddelwern mewn perthynas ag unrhyw fater yn ymwneud â’r cais cynllunio yn yr ardal dros gyfnod yr ymgynghoriad yn unig, dan Adran 81 (4) 2a Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001:

·       Mae gan ddim llai na hanner aelodau’r awdurdod perthnasol neu un o Bwyllgorau’r awdurdod y bydd y mater yn cael ei ystyried ganddynt gysylltiad sy’n ymwneud â’r mater hwnnw.

 

 

5.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN AELODAU CYNGOR CYMUNED LLANDYRNOG pdf eicon PDF 211 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi wedi’i amgáu) ynglŷn â chais am ollyngiad a wnaed gan aelodau Cyngor Cymuned Llandyrnog.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro Gais am Ollyngiad gan aelodau Cyngor Cymuned Llandyrnog (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i ganiatáu i'r Pwyllgor ystyried y cais, penderfynu a ddylid caniatáu gollyngiad ac unrhyw amodau y dylid eu cynnwys.

 

Croesawodd y Cadeirydd y cynrychiolydd o Gyngor Cymuned Llandyrnog, Cadeirydd Cyngor Cymuned Llandyrnog, Gwen Butler.

 

Rhoddodd y Dirprwy Swyddog Monitro gefndir byr i’r cais am ollyngiad.  Derbyniwyd cais am ollyngiad i Gyngor Cymuned Llandyrnog gymryd rhan weithredol mewn unrhyw eitem yn ymwneud â Siop Gymunedol, Canolfan a Swyddfa Bost y pentref a ddaw gerbron y Cyngor.  Y rheswm dros hyn yw bod y mwyafrif o aelodau’r Cyngor Cymuned yn gyfranddalwyr a phe bai pawb yn datgan diddordeb, ni fyddai cworwm i’r cyfarfod.  Roedd manylion llawn y cais am ollyngiad wedi’u hatodi i’r adroddiad. 

 

Rhannodd Cadeirydd Cyngor Cymuned Llandyrnog ragor o fanylion â’r Pwyllgor yn ymwneud â’u cais. 

 

Ym mis Mehefin 2023, ceisiwyd cyllid drwy gynnig cyfranddaliadau lleol.  Mae’r mwyafrif o aelodau presennol y Cyngor Cymuned yn gyfranddalwyr, ynghyd â 300 o breswylwyr lleol.  Uchafswm y cyfranddaliad a oedd ar gael oedd £7000.  Ni fyddai’r cyfranddaliadau’n talu buddran ar unrhyw adeg, felly ni fyddai neb yn ennill yn ariannol ar lefel bersonol - roedd yn fodd o helpu i gefnogi prosiect.  Codwyd cyfanswm o dros £50,000 drwy’r cyfranddaliadau.

 

Roedd y Siop Gymunedol, y Ganolfan a’r Swyddfa Bost wedi agor yn yr wythnosau diwethaf ac yn gwneud yn dda.  Fodd bynnag, roedd Cyngor Cymuned Llandyrnog yn ymwybodol, gan fod bron bob Cynghorydd yn gyfranddalwyr (er nad oedd hyn yn golygu unrhyw fudd ariannol), y byddai’n rhaid i bob Cynghorydd ddatgan diddordeb mewn unrhyw fater yn ymwneud â siop y pentref.  Golyga hynny na fyddai cworwm yn y cyfarfod.  Gofynnodd Cyngor Cymuned Llandyrnog felly i’r Pwyllgor Safonau gyflwyno gollyngiad ar y cyd ar gyfer y Cynghorwyr a enwyd i gymryd rhan mewn trafodaethau a phleidleisio ar unrhyw eitem ar y rhaglen yn ymwneud â Siop Gymunedol Llandyrnog. Gofynnwyd hefyd i aelodau ganiatáu gollyngiad am weddill tymor pob Cynghorydd neu tan yr Etholiad Llywodraeth Leol nesaf.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Gadeirydd Cyngor Cymuned Llandyrnog am ei hatebion manwl a chroesawyd cwestiynau gan yr aelodau. 

 

Gofynnodd Aelodau a oedd y Cynghorwyr a oedd yn gyfranddalwyr ynghlwm â rheoli’r siop o ddydd i ddydd.  Nododd Cadeirydd Cyngor Cymuned Llandyrnog nad oedd unrhyw Gynghorwyr ynghlwm â’r uchod. 

 

Ar y pwynt hwn torrodd y pwyllgor i ystyried y cais am ollyngiad.

 

Rhoddodd y Dirprwy Swyddog Monitro wybod i’r Pwyllgor y gellid caniatáu eithriad neu ollyngiad gan y Pwyllgor Safonau yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol 2000.   Cyfeiriodd yr aelodau at y rheoliad yn Atodiad 2.

 

Felly -

 

PENDERFYNWYD: - cymeradwyo’r cais am ollyngiad i’r Cynghorwyr a enwyd yng Nghyngor Cymuned Llandyrnog mewn perthynas ag unrhyw fater sy’n ymwneud â’r Siop Gymunedol, y Ganolfan a’r Swyddfa Bost am weddill tymor y Cyngor neu tan yr Etholiad Llywodraeth Leol nesaf, dan Adran 81 (4) 2a Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001:

·       Mae gan ddim llai na hanner aelodau’r awdurdod perthnasol neu un o bwyllgorau’r awdurdod y bydd y mater yn cael ei ystyried ganddynt gysylltiad sy’n ymwneud â’r mater hwnnw.

 

 

6.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 297 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 13 Medi 2024 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 13 Medi 2024.

 

Cywirdeb –

 

Tudalen 10 - (eitem 5) - dylai ddarllen bod Aelodau wedi trafod sancsiwn a roddwyd i Gynghorydd gan Banel Dyfarnu Cymru ac nid Pwyllgor Safonau Cyngor cyfagos.

 

Materion yn codi –

 

Tudalen 8 - Ailosod Dyraniad - Nododd y Dirprwy Swyddog Monitro y byddai hi’n cysylltu â’r Swyddog Monitro a, lle bo modd, yn darparu ymateb ysgrifenedig i aelodau cyn y cyfarfod nesaf.

 

Tudalen 8 – Rhestr Clercod newydd neu ddibrofiad Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned - Nododd y Dirprwy Swyddog Monitro y byddai hi’n llunio rhestr o glercod newydd a dibrofiad dros y 12 mis diwethaf ac yn rhannu’r rhestr ag Aelodau.

 

Tudalen 9 – Dosbarthu Cylch Gorchwyl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro y byddai’r Cylch Gorchwyl yn cael ei ddosbarthu yn dilyn y cyfarfod.

 

Tudalen 10 - Cam Gweithredu - Nododd y Dirprwy Swyddog Monitro bod y Swyddog Monitro wedi siarad â Swyddogion Monitro eraill ar draws gogledd Cymru a nodwyd bod y wybodaeth a ddarparwyd i’r Pwyllgor Safonau’n gryno ac ystyriwyd gwybodaeth ehangach ar gyfer pob achos. 

 

Tudalen 13 - Cam Gweithredu - Nododd y Dirprwy Swyddog Monitro eu bod wedi cael trafodaeth gychwynnol i ystyried polisïau a gweithdrefnau y byddai’n rhaid i’r Pwyllgor Safonau eu hadolygu, ac roedd adolygiad llawn ar y gweill ar gyfer y flwyddyn newydd.

 

PENDERFYNWYD: yn amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Medi 2024 fel cofnod cywir.

 

 

7.

OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU – ‘EIN CANFYDDIADAU’ pdf eicon PDF 212 KB

Ystyried adroddiad gan y Cyfreithiwr dan Hyfforddiant (copi yn amgaeedig) ar dudalen ‘Ein Canfyddiadau’ a gyhoeddwyd ar wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Gyfreithwraig dan Hyfforddiant, Elinor Cartwright, adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Ein Canfyddiadau (a rannwyd ymlaen llaw).

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn ymdrin â'r cyfnod pan oedd penderfyniadau wedi'u gwneud gan Banel Dyfarnu Cymru. Nodwyd hyn ar ddechrau’r adroddiad, a nododd y Cyfreithiwr dan Hyfforddiant y byddai hi’n ystyried newid teitl yr adroddiad cyffredinol i’r dyfodol.

Roedd yr adroddiad yn ymwneud â’r cyfnod rhwng 13 Medi a 21 Tachwedd 2024.

Ers 13 Medi 2024, roedd y Panel wedi gwneud un penderfyniad mewn cyswllt ag atgyfeiriadau gan yr Ombwdsmon. Ni wnaed unrhyw apeliadau yn erbyn Penderfyniadau Pwyllgorau Safonau.

Roedd dyfyniadau o ‘Ein Canfyddiadau’ a ‘Penderfyniadau’ ynghlwm â’r adroddiad ac wedi’u dosbarthu ymlaen llaw.

Arweiniodd y Cyfreithiwr dan Hyfforddiant yr aelodau drwy'r penderfyniadau a godwyd gan yr Ombwdsmon gan egluro penderfyniad y tribiwnlys.

Diolchodd y Cadeirydd iddi am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Pwyllgor Safonau’n nodi cynnwys adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – “Ein Canfyddiadau”.

 

 

8.

PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD

Nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a derbyn eu hadroddiadau.

 

Cofnodion:

Nid oedd yr aelodau wedi mynychu unrhyw gyfarfodydd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau.

 

PENDERFYNWYD: nodi’r eitem ynghylch presenoldeb mewn cyfarfodydd.

 

 

9.

ADRODDIADAU BLYNYDDOL ARWEINWYR GRWPIAU GWLEIDYDDOL pdf eicon PDF 77 KB

Cael Adroddiadau Blynyddol Arweinwyr Grwpiau (copïau wedi’u hamgáu) gan y Swyddog Monitro.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd eu bod wedi cynnal cyfarfodydd â phob Arweinydd Grŵp.  Roedd Aelodau wedi derbyn yr adroddiadau cyn y cyfarfod, ac wedi cael trafodaeth fanwl amdanynt yn flaenorol.

 

PENDERFYNWYD: nodi Adroddiadau Blynyddol yr Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol.

 

 

10.

OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU - GWEITHDREFN DDATRYS LEOL pdf eicon PDF 223 KB

Cael adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi wedi’i amgáu) am Weithdrefn Ddatrys Leol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Cofnodion:

Aeth y Dirprwy Swyddog Monitro ag Aelodau drwy’r adroddiad ar Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus - Gweithdrefn Ddatrys Leol. 

 

Roedd yr adroddiad hwn yn ymwneud â meysydd o arfer da a amlygwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn dilyn adolygiad diweddar o Weithdrefnau Datrys Lleol Awdurdodau Lleol. Nodwyd bod meysydd o arfer da yn Sir Ddinbych a gaiff eu hargymell i awdurdodau eraill.  Sef:

·       Safonau ymddygiad a ddisgwylir gan Aelodau.

·       Penderfyniadau priodol y gellid eu gwneud dan y Weithdrefn Ddatrys Leol (GDL).

 

Roedd yr adroddiad yn hyrwyddo safonau uchel o ymddygiad ac ymarfer fel modd o gryfhau parch ac ymddiriedaeth ymhlith aelodau. Nid oedd yn fwriad iddo ddisodli’r Cod Ymddygiad, yn hytrach y bwriad yw ei fod yn mynd law yn llaw â’r Cod, galluogi ymddygiad nad yw efallai’n cyrraedd y trothwy i fod yn dor-rheolau y dylid mynd i’r afael ag o; ac sy’n cyfiawnhau cwyn ffurfiol i’r Ombwdsmon.

 

Roedd Gweithdrefn Ddatrys Leol Cyngor Sir Ddinbych yn destun adolygiad i gynnwys yr arfer da a amlygwyd uchod. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Dirprwy Swyddog Monitro am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD: derbyn a nodi adroddiad Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus - Gweithdrefn Ddatrys Leol.

 

 

11.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 203 KB

Cael Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau gan y Swyddog Monitro (copi yn amgaeedig).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd wall yn enw’r adroddiad, yr enw ym mhecyn y rhaglen oedd Adroddiad Blynyddol Drafft y Cadeirydd, fodd bynnag, yr enw cywir oedd Adroddiad Blynyddol Drafft y Pwyllgor Safonau.

 

Dyma Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau yn ymwneud â’r flwyddyn galendr o fis Ionawr i fis Rhagfyr 2024. Cytunwyd yn flaenorol y byddai’r Cadeirydd yn cyflwyno’r adroddiad i'r Cyngor Llawn bob blwyddyn, er mwyn hysbysu'r Aelodau o dueddiadau; materion o ran cydymffurfio â'r Cod Ymddygiad i Aelodau yn gyffredinol ar draws y Sir a gwaith y Pwyllgor Safonau o ran codi safonau ymddygiad ar lefel y Sir, ond hefyd ar lefelau Cynghorau Tref, Dinas a Chymuned.

 

Prif rôl y Pwyllgor Safonau oedd monitro cydymffurfiad â Chod Ymddygiad yr Aelodau. Mae pob Aelod yn ymwybodol bod eu cod wedi'i seilio ar 7 Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan (a dylid ei ddarllen ar y cyd â’r rhain).

 

Arweiniodd y Dirprwy Swyddog Monitro yr aelodau drwy gynnwys yr adroddiad ac yn ystod trafodaeth, cytunodd y Pwyllgor ar y diwygiadau a ganlyn -

·       Gofynnodd Aelodau a fyddai modd crynhoi Sesiynau Hyfforddiant y pwyllgor i nodi bod sesiynau’n cael eu cynnal yn fisol a chynnwys nifer yr ymweliadau a fynychwyd gan aelodau o’r Pwyllgor Safonau.

·       Gofynnodd aelodau a fyddai modd cynnwys meysydd o arfer da ar dudalen 5 - Dyletswydd Arweinwyr Grwpiau.  Roedd y rhain yn cynnwys, Arweinwyr Grwpiau’n trafod materion yn ymwneud â safonau ac ymddygiad yn eu cyfarfodydd Arweinwyr Grwpiau a chynnwys hyn ar raglenni cyfarfodydd grŵp.  Roedd pob Arweinydd Grŵp yn parhau i ddarparu cyngor a chefnogaeth i Aelodau newydd, darparu cyfleoedd hyfforddi ac annog Aelodau i gwblhau hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau hyfforddi Aelodau.

·       Gofynnodd Aelodau a fyddai modd newid y geiriad ‘ar adeg ysgrifennu’ ar dudalen 6 yr Adroddiad Blynyddol Drafft i’r dyddiad yr ysgrifennwyd yr adroddiad neu’r cyfnod yr oedd yr adroddiad yn ymwneud ag o (Ionawr 2024 - Rhagfyr 2024).

·       Gofynnodd Aelodau a fyddai modd cynnwys penderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru dan ‘Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Ein Canfyddiadau’ ar dudalen 8.

·       Gofynnodd Aelodau a fyddai modd cynnwys eitemau rhaglen y Fforwm Pwyllgor Safonau Cenedlaethol ar dudalen 8 - Fforwm Safonau Cenedlaethol.  Lluniwyd y rhain gan ddefnyddio testunau a awgrymwyd gan Bwyllgorau Safonau a Swyddogion Monitro gan ystyried materion a meysydd sy’n dod i’r amlwg. Roedd testunau 2024 yn cynnwys: 

·       Y wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad Richard Penn

·       Adborth a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

·       Cyd-bwyllgorau Corfforedig

·       Canllawiau Cyfryngau Cymdeithasol

·       Cyflwyniad gan Lywydd Panel Dyfarnu Cymru, Claire Sharp a chyflwyniad i’r llywydd newydd, Meleri Tudor

·       Canllawiau sancsiynau

·       Cyflwyniad gan Un Llais Cymru

·       Adolygiad o’r Gweithdrefnau Datrys yn Lleol

·       Adnoddau ar gyfer Pwyllgorau Safonau

·       Hyfforddiant ar gyfer Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion

·       Dyletswydd Arweinwyr Grwpiau

 

·       Gofynnodd Aelodau a fyddai modd addasu Atodiad 1 i’r adroddiad a oedd yn grynodeb o’r eitemau ar raglenni’r Pwyllgor Safonau yn ystod Ionawr 2024 - Rhagfyr 2024 i gynnwys penderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru ar 13 Medi 2024 a newid ‘Adroddiad Blynyddol Drafft y Pwyllgor Safon’ yn yr atodiad i ‘Adroddiad Blynyddol Drafft y Pwyllgor Safonau’ ar 13 Rhagfyr 2024.

 

Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro wrth Aelodau y byddai drafft diwygiedig o Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau yn cael ei ddosbarthu i bob Aelod i roi sylw.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Dirprwy Swyddog Monitro am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD: derbyn a nodi adroddiad blynyddol drafft y Pwyllgor Safonau, yn amodol ar yr uchod.

 

Ar y pwynt hwn, cymerodd y Pwyllgor egwyl.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 12.10pm.

 

 

12.

RECRIWTIO AELODAU ANNIBYNNOL NEWYDD I’R PWYLLGOR SAFONAU

Cael diweddariad ar lafar am Recriwtio Aelodau Annibynnol Newydd i’r Pwyllgor Safonau.

 

Cofnodion:

Nododd y Dirprwy Swyddog Monitro ei bod wedi cynnal trafodaethau â’r Swyddog Monitro yn ymwneud â’r broses o recriwtio Aelodau Annibynnol newydd i’r Pwyllgor Safonau.  Gobeithiwyd y byddai’r broses yn dechrau yn fuan yn y flwyddyn newydd (2025).

 

Byddai aelodau’n derbyn gohebiaeth yn ymwneud â’r broses a’r amserlenni ym mis Ionawr 2025.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Dirprwy Swyddog Monitro gan bwysleisio’r pwysigrwydd o ddechrau’r broses recriwtio cyn gynted â phosibl.  Gobeithiwyd hefyd y byddai unrhyw aelodau newydd yn cael eu gwahodd i arsylwi cyfarfod y Pwyllgor Safonau ym mis Mawrth 2025.

 

PENDERFYNWYD: derbyn a nodi’r wybodaeth ddiweddaraf am Recriwtio Aelodau Annibynnol Newydd.

 

 

13.

RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 248 KB

Ystyried Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau (copi yn amgaeedig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau i’w hystyried.

 

Gofynnodd Aelodau a fyddai modd ychwanegu Adolygiad o Bolisïau a Gweithdrefnau at Raglen Waith cyfarfod y Pwyllgor Safonau ar gyfer 7 Mawrth 2025.

 

PENDERFYNWYD: yn amodol ar yr uchod, bod y Pwyllgor Safonau yn cytuno ar y Rhaglen Waith.

 

 

14.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Trefnwyd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau ar gyfer 7 Mawrth 2025 am 10am.

 

Cofnodion:

Bydd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau’n cael ei gynnal ar 7 Mawrth 2025.

 

GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

 

Penderfynwyd: gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol, dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail ei bod yn debygol y byddent yn datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

 

15.

COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi yn amgaeedig) sy’n rhoi trosolwg o gwynion a wnaed yn erbyn aelodau, a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad cyfrinachol (a rannwyd ymlaen llaw) a oedd yn rhoi trosolwg o’r cwynion yn erbyn aelodau a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) ers 1 Ebrill 2023.

 

Ni hysbyswyd y Dirprwy Swyddog Monitro am unrhyw gwynion newydd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD: derbyn a nodi’r adroddiad.

         

           Daeth y cyfarfod i ben am 12.25pm