Rhaglen
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Rhif | Eitem |
---|---|
RHAN 1: GWAHODDIR Y WASG A'R CYHOEDD I FOD YN BRESENNOL YN Y RHAN HON O’R CYFARFOD |
|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n peri rhagfarn yn gysylltiedig ag
unrhyw fater sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. |
|
PENODI CADEIRYDD Penodi Cadeirydd y
Pwyllgor Safonau ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2025/2026. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi Is-gadeirydd y
Pwyllgor Safonau ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2025/2026. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
CYLCH GORCHWYL Y PWYLLGOR SAFANAU Derbyn cylch
gorchwyl y Pwyllgor Safonau (copi ynghlwm) gan y Dirprwy Swyddog Monitro yn
amlinellu rôl a chylch gwaith y Pwyllgor Safonau. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2025 (copi ynghlwm). |
|
OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU - ‘EIN CANFYDDIADAU’ Ystyried
adroddiad gan y Cyfreithiwr dan Hyfforddiant (copi yn amgaeedig) ar dudalen
‘Ein Canfyddiadau’ a gyhoeddwyd ar wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru. Dogfennau ychwanegol: |
|
PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD Nodi presenoldeb
aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a
derbyn eu hadroddiadau. |
|
CEISIADAU GODDEFEBAU Ystyried unrhyw
geisiadau am oddefebau a gafwyd gan Gynghorau Tref/Dinas/Cymuned neu ar lefel
sirol. |
|
ADOLYGIAD O BOLISÏAU A GWEITHDREFNAU Derbyn adroddiad
gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) am y Polisïau a Gweithdrefnau sydd
yn dod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Safonau, yn cynnwys amserlen i adolygu’r
dogfennau yma. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR SAFONAU Ystyried Rhaglen
Waith y Pwyllgor Safonau (copi yn ynghlwm). |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Trefnwyd cyfarfod
nesaf y Pwyllgor Safonau ar gyfer 10am, dydd Gwener 12 Medi 2025. |
|
RHAN 2: EITEMAU CYFRINACHOL Argymhellir, yn
unol ag Adran 100A (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, bod y Wasg a'r Cyhoedd yn
cael eu gwahardd o'r cyfarfod tra bydd yr eitem(au) canlynol yn cael eu
hystyried oherwydd ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei
datgelu fel y'i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodlen 12A y
Ddeddf. |
|
COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000 Ystyried adroddiad
cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy’n rhoi trosolwg o gwynion a
wnaed yn erbyn aelodau, a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Dogfennau ychwanegol:
|