Rhaglen

Rhaglen

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Eitemau
Rhif Eitem

RHAN 1: GWAHODDIR Y WASG A'R CYHOEDD I FOD YN BRESENNOL YN Y RHAN HON O’R CYFARFOD

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 199 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n peri rhagfarn yn gysylltiedig ag unrhyw fater sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 319 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2024 (copi ynghlwm).

 

5.

OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU - ‘EIN CANFYDDIADAU’ pdf eicon PDF 212 KB

Ystyried adroddiad gan y Cyfreithiwr dan Hyfforddiant (copi yn amgaeedig) ar dudalen ‘Ein Canfyddiadau’ a gyhoeddwyd ar wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

6.

PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD

Nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a derbyn eu hadroddiadau.

 

7.

CEISIADAU GODDEFEBAU

Ystyried unrhyw geisiadau am oddefebau a gafwyd gan Gynghorau Tref/Dinas/Cymuned neu ar lefel sirol.

 

8.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF O’R FFORWM SAFONAU CENEDLAETHOL

Derbyn diweddariad ar lafar ynglŷn â’r Fforwm Safonau Cenedlaethol.

 

9.

TROSOLWG O’R GOFRESTR RHODDION A LLETYGARWCH

Cael adroddiad ar lafar gan y Swyddog Monitro ar y Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch.

 

10.

CYDGYFARFOD GYDA CHYNGHORAU CYMUNED, DINAS A THREF

Ystyried adroddiad ar lafar gan y Swyddog Monitro am gydgyfarfod gyda Chynghorau Tref, Dinas a Chymuned.

 

11.

ADOLYGIAD O BOLISÏAU A GWEITHDREFNAU

Cael adroddiad ar lafar gan Bennaeth Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Pobl/Dirprwy Swyddog Monitro ynglŷn â’r Adolygiad o Bolisïau a Gweithdrefnau.

 

12.

RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 240 KB

Ystyried Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau (copi yn amgaeedig).

 

13.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Trefnwyd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau ar gyfer 10am, 6 Mehefin 2025.

 

RHAN 2: EITEMAU CYFRINACHOL

Argymhellir, yn unol ag Adran 100A (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, bod y Wasg a'r Cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod tra bydd yr eitem(au) canlynol yn cael eu hystyried oherwydd ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu fel y'i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodlen 12A y Ddeddf.

 

14.

COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi yn amgaeedig) sy’n rhoi trosolwg o gwynion a wnaed yn erbyn aelodau, a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol: