Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau oddi wrth yr aelod annibynnol Anne Mellor.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 199 KB

 

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd cyn dechrau’r cyfarfod.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 315 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2024 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2024.

 

Cywirdeb

 

Tudalen 7 (eitem 2) – Dylai nodi bod yr Aelod Annibynnol, Julia Hughes (Cadeirydd) wedi datgan cysylltiad personol yn yr adroddiad ar Eitem 5 (Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – “Ein Canfyddiadau”) gan ei bod yn aelod o Bwyllgor Safonau Cyngor Sir y Fflint ac nid yn aelod o Banel Dyfarnu Cymru fel y nodir yn y cofnodion.

 

Tudalen 8 – (eitem 4) – Dylai ddarllen y byddai’r Swyddog Monitro yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Safonau yn y cyfarfod nesaf ac nid y Pwyllgor Safonau fel y nodir yn y cofnodion.

 

Tudalen 9 – (eitem 5) – Dylai ddarllen ‘gan fod y Cadeirydd yn aelod o Bwyllgor Safonau Cyngor Sir y Fflint’ ac nid yn aelod o Banel Dyfarnu Cymru fel y nodir yn y cofnodion.

 

Tudalen 10 - (eitem 6) - Dylai ddarllen bod anawsterau o ran clywed Cynghorwyr oedd yn mynychu ar y we, fodd bynnag, roedd opsiwn i benderfynu ble i eistedd ac roedd cynnig hefyd i eistedd o amgylch y bwrdd cyfarfod.

 

Tudalen 11 – (eitem 6) - Dylai gynnwys bod y Swyddog Monitro yn anfon adborth ysgrifenedig i gyfarfodydd Pwyllgorau Dinas, Tref a Chymuned a fynychwyd gan aelodau'r Pwyllgor Safonau.

 

Tudalen 11 – (eitem 8) – Dylai ddatgan mai Llywydd newydd Panel Dyfarnu Cymru oedd Eleri Tudor.

 

Tudalen 11 – (eitem 8) – Dylai nodi y byddai un o’r chwe Swyddog Monitro Gogledd Cymru yn mynychu cyfarfod a’r adborth i Swyddogion Monitro eraill Gogledd Cymru 

 

Tudalen 12 – (eitem 8) - Dylai ddarllen bod yr Ombwdsmon wedi codi cwestiynau am y gogwydd gwleidyddol nid bod yr Ombwdsmon yn awyddus i sefydlu dim rhagfarn wleidyddol fel y nodwyd yn y cofnodion.

 

Tudalen 12 – (eitem 8) – Dylai ddarllen ‘Cytunodd y Swyddog Monitro i gylchredeg y cylch gorchwyl a chopi o’r Weithdrefn Datrys Leol’.

 

Tudalen 14 – Dylai diwedd y cyfarfod gan y Cadeirydd gynnwys diolch i'r cyfieithydd oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Materion yn codi

 

Tudalen 8 – Moesau Cyfryngau Cymdeithasol yng ngweithdai'r Cyngor – Dywedodd y Swyddog Monitro bod y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd wedi bod yn gweithio ar amserlen Gweithdy'r Cyngor am y 12 mis nesaf ac y byddai cyfryngau cymdeithasol yn cael eu cynnwys.

 

Tudalen 9 – Papurau Cefndir – Dywedodd y Swyddog Monitro y cytunwyd y dylai unrhyw gyfeiriadau at bapurau cefndir gynnwys dolen yng nghorff yr adroddiad neu gellir ei atodi fel atodiad i'r adroddiad.

 

Tudalen 10 – Cynghorau i Aelodau Annibynnol am ymweld (ailosod dyraniad) – Dywedodd y Swyddog Monitro ei fod yn dal i aros am ymateb ar hyn ac y byddai'n rhoi ymateb i'r pwyllgor unwaith y byddai wedi ei dderbyn.

 

Tudalen 10 – Clercod newydd neu ddibrofiad Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned – Dywedodd y Swyddog Monitro ei fod wedi gofyn i restr gael ei dosbarthu i'r holl aelodau ac y byddai'n dilyn hyn i fyny ar ôl y cyfarfod.

 

Tudalen 8, Eitem 8:

 

Tudalen 12 – Llythyr at Ddirprwy Swyddog Monitro blaenorol – Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Pwyllgor fod y llythyr wedi'i ddrafftio a gofynnodd i'r Cadeirydd lofnodi'r llythyr yn dilyn y cyfarfod.

 

Tudalen 12 – (eitem 8) - Dosbarthu Cylch Gorchwyl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – Ymddiheurodd y Swyddog Monitro a dywedodd y byddai’n cael ei ddosbarthu.

 

Felly:

 

PENDERFYNWYD: yn amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2024 fel cofnod cywir

 

 

5.

OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU - ‘EIN CANFYDDIADAU’ pdf eicon PDF 211 KB

Ystyried adroddiad gan y Gyfreithwraig dan Hyfforddiant, Elinor Cartwright (copi ynghlwm) ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’ sydd wedi’i chyhoeddi ar wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Gyfreithwraig dan Hyfforddiant, Elinor Cartwright, adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Ein Canfyddiadau (a rannwyd ymlaen llaw).

 

Roedd yr adroddiad yn ymwneud â’r cyfnod rhwng 3 Awst a 24 Tachwedd 2023.

Nid oedd yr un o'r achosion yn yr adroddiad yn cyfeirio at Gynghorydd o fewn Cyngor Sir Ddinbych.

 

Roedd Aelodau’r Pwyllgor Safonau yn cofio bod yr Ombwdsmon yn arfer cyhoeddi ‘Llyfr Achosion Cod Ymddygiad’ (y Llyfr Achosion) yn chwarterol a oedd yn rhoi crynodeb byr o’r materion yr oedd yr Ombwdsmon wedi ymchwilio iddynt, a chanlyniadau’r ymchwiliadau hynny.

 

Ystyriwyd bod y Llyfr Achosion yn adnodd defnyddiol i roi gwybod i aelodau etholedig, y cyhoedd a Phwyllgorau Safonau am y mathau o gwynion a gaiff eu hymchwilio a chanlyniadau’r ymchwiliadau hynny.

 

Roedd yr Ombwdsmon bellach wedi rhoi’r gorau i gyhoeddi’r Llyfr Achosion ac yn lle hynny wedi creu adran ‘Ein Canfyddiadau’ ar ei gwefan.

Ni chyhoeddwyd unrhyw gwynion o fewn adran ‘Ein Canfyddiadau’ ar wefan yr Ombwdsmon yn ystod y cyfnod uchod.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn ymdrin â'r cyfnod pan oedd penderfyniadau wedi'u gwneud gan Banel Dyfarnu Cymru. Mae’r Panel yn mynd i’r afael â chyfeiriad gan yr Ombwdsmon ac apeliadau yn erbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Safonau. Mae adran ‘Penderfyniadau’ gwefan y Panel yn cynnwys crynodeb o’r penderfyniadau a wnaed ers mis Ebrill 2024. Ers Ebrill 2024, fe wnaeth y Panel ddau benderfyniad mewn perthynas â chyfeiriadau gan yr Ombwdsmon, ac nid fu unrhyw gwynion yn erbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Safonau.

 

Roedd Atodiad 1 yn cynnwys y detholiadau perthnasol o'r Dudalen Penderfyniadau.  Nid oedd yr un o'r achosion yn cyfeirio at Gynghorydd o fewn Cyngor Sir Ddinbych.

 

Arweiniodd y Cyfreithiwr dan Hyfforddiant yr aelodau drwy'r ddau benderfyniad a godwyd gan yr Ombwdsmon gan egluro Penderfyniad y Tribiwnlys.

 

Diolchodd y Cadeirydd iddi am yr adroddiad.

 

Diolchodd y Swyddog Monitro am yr adroddiad ac am gynnwys penderfyniadau Panel a oedd yn rhoi manylion pwysig i'r Pwyllgor.

 

Trafododd yr Aelodau sancsiwn a roddwyd i Gynghorydd gan Bwyllgor Safonau Cyngor cyfagos.  Dywedodd yr Aelodau bod y sancsiwn a roddwyd yn peri'r risg o roi'r argraff i'r cyhoedd nad oedd ymddygiad y Cynghorydd yn ddigon difrifol i warantu cosb fwy llym. Nododd y Swyddog Monitro y byddai’n codi pryderon y Pwyllgor gyda Chyd-Swyddogion Monitro ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor unwaith y derbynnir ymateb (GW i weithredu).

 

PENDERFYNWYD:

A.    bod y Swyddog Monitro yn trafod y pryderon a fynegwyd gan y Pwyllgor Safonau ynghylch yr anghysondeb ymddangosiadol mewn sancsiynau a

B.    bod y Pwyllgor Safonau yn nodi cynnwys Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – Adroddiad ‘Ein Canfyddiadau’

Camau Gweithredu:

Bod y Swyddog Monitro yn codi pryderon y Pwyllgor gyda Chyd-Swyddogion Monitro ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor unwaith y derbynnir ymateb. 

 

 

6.

PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD

Nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a derbyn eu hadroddiadau.

 

Cofnodion:

Adroddodd yr Aelod Annibynnol, Peter Lamb, ar gyfarfod Cyngor Llawn Cyngor Tref Prestatyn a gynhaliwyd ar 11 Medi 2024.

 

Ar y cyfan, roedd y cyfarfod wedi'i gydlynu'n dda ond gyda chyfnodau o ddryswch, yn enwedig wrth adolygu ceisiadau grant.  Ar sawl achlysur roedd yr aelodau wedi drysu rhwng yr hyn a gynigiwyd, yr hyn yr oeddent yn pleidleisio drosto a chanlyniad y bleidlais.  Roedd dryswch hefyd ynghylch sut i ddatrys y mater ar ôl i bleidlais ddigwydd.

 

Drwy gydol y cyfarfod darparwyd taflenni papur amrywiol, ni esboniwyd a oedd gan y rhai a fynychodd y cyfarfod ar-lein gopïau o'r taflenni eisoes neu eu bod yn bapurau ychwanegol at y rhai a oedd wedi'u cynnwys ar y rhaglen.  Ni chynigiwyd copïau o'r papurau i'r cyhoedd a oedd yn bresennol; ac nid oedd eglurhad ychwaith i ba fater yr oedd y papurau yn perthyn.

 

Yn ystod yr eitem Gynllunio ar y rhaglen, dywedodd Cynghorydd eu bod yn gymydog i'r eiddo sy'n peri pryder, fodd bynnag, ni chafodd unrhyw ddatganiad ffurfiol o gysylltiad ei egluro na'i gyflwyno.

 

Yn gyffredinol, cyflawnodd y cyfarfod ei nodau, dilynwyd y rhaglen ac anerchwyd y rhan fwyaf o'r sgyrsiau drwy'r Cadeirydd.  Roedd pawb yn barchus at ei gilydd heb unrhyw arwydd o elyniaeth rhwng yr aelodau.   Roedd y trafodion ar adegau yn mynd ychydig yn ddryslyd, fodd bynnag, nid oedd y cyhoedd a oedd yn bresennol yn dangos llawer o bryder am hyn. Roedd pawb a fynychodd y cyfarfod yn gyfeillgar a chroesawgar.

 

PENDERFYNWYD, y byddai’r Pwyllgor Safonau’n nodi'r wybodaeth am ymweld â chyfarfodydd.

 

 

7.

CEISIADAU AM ODDEFEBAU

Ystyried unrhyw geisiadau am oddefebau a gafwyd gan Gynghorau Tref, Dinas a Chymuned, neu ar lefel Sirol.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw geisiadau am oddefeb.

 

 

8.

CYFNOD SWYDD AELODAU’R PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 210 KB

Derbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro, Gary Williams ynghylch Cyfnod Swydd Aelodau’r Pwyllgor Safonau (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad ar Delerau Swydd Aelodau Pwyllgor Safonau Annibynnol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Roedd Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001, fel y'u diwygiwyd, yn darparu ar gyfer cyfansoddiad Pwyllgorau Safonau a Thelerau Swyddi Aelodau Annibynnol.

 

Rhaid i Bwyllgor Safonau gael dim llai na phump a dim mwy na 9 aelod.  Rhaid iddo gael o leiaf un aelod sy'n cynrychioli Cynghorau Tref, Dinas a Chymuned, aelodau etholedig o'r Cyngor Sir ac aelodau Annibynnol.  Rhaid i fwyafrif y Pwyllgor fod yn Aelodau Annibynnol.

 

Roedd gan Bwyllgor Safonau Sir Ddinbych saith aelod gan gynnwys pedwar aelod Annibynnol, dau Gynghorydd Sir ac un aelod cynrychioliadol Cyngor Cymuned.

 

Gellir penodi aelodau annibynnol am dymor cychwynnol a gallent gael eu hailbenodi am un tymor ychwanegol yn olynol.  Rhaid i aelodau annibynnol ymddiswyddo ar ôl eu hail dymor.  O blith yr aelodau Annibynnol ar y Pwyllgor, roedd tri yn eu hail flwyddyn yn y swydd.  Roedd dau o’r cyfnodau hynny yn y swydd, sef rhai’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd i fod i ddod i ben ym mis Mai 2025 ac roedd un, sef un Peter Lamb, i fod i ddod i ben ym mis Mai 2026.

 

O ystyried bod cyfnod y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd i fod i ddod i ben ym mis Mai 2025, gofynnwyd i’r Pwyllgor Safonau ystyried y broses recriwtio ar gyfer aelodau Annibynnol newydd o’r Pwyllgor.  Rhagnodwyd y broses gan y gyfraith.  Rhaid cael hysbyseb cyhoeddus, ac yn dilyn hynny, rhaid cael panel recriwtio sy'n cynnwys dim mwy na phum aelod, a dylai un ohonynt fod yn aelod o'r cyhoedd.  Yn gynharach eleni (2024), cymeradwyodd y Cyngor gyfansoddiad y Panel Recriwtio i gynnwys aelod o’r cyhoedd, dau Gynghorydd Sir sy’n aelodau o’r Pwyllgor, cynrychiolydd y Cyngor Cymuned ar y Pwyllgor a Chadeirydd y Pwyllgor. Gofynnwyd i'r Pwyllgor Safonau ystyried amseriad cychwyn y broses recriwtio.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog Monitro am ei adroddiad.

 

Holodd yr aelodau a fyddai'r hysbyseb yn cynnwys cyfeiriad at yr Iaith Gymraeg.  Eglurodd y Swyddog Monitro na ellid gwneud y Gymraeg yn ofyniad hanfodol ar gyfer y rôl ond y byddai'n cael ei nodi fel dymunol, byddai'r hysbyseb hefyd yn ddwyieithog.

 

Trafododd yr Aelodau y byddai’n fuddiol i aelodau sydd newydd eu recriwtio fynychu cyfarfodydd i arsylwi’r trafodion a chwblhau eu hyfforddiant gorfodol cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi unrhyw darfu ar raglen waith y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD: bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad ac yn cadarnhau'r gofynion ar gyfer recriwtio aelodau Annibynnol newydd.

 

 

9.

HYFFORDDIANT COD YMDDYGIAD - TROSOLWG O’R DDARPARIAETH AR GYFER CYNGHORAU SIR A THREF, DINAS A CHYMUNED pdf eicon PDF 210 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro, Gary Williams ynghylch yr Hyfforddiant Cod Ymddygiad – Trosolwg o’r Ddarpariaeth ar gyfer Cynghorau Sir a Thref, Dinas a Chymuned (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Tywysodd y Swyddog Monitro yr aelodau drwy adroddiad ynghylch Hyfforddiant Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorau Sir, Tref, Dinas a Chymuned.

 

Roedd Atodiad 1 ynghlwm wrth yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn nodi dyddiadau a lefelau presenoldeb digwyddiadau hyfforddi'r Cod Ymddygiad a gynhaliwyd ers yr etholiadau llywodraeth leol diwethaf ym mis Mai 2022.  Er bod presenoldeb Cynghorwyr Sir wedi bod yn ardderchog, roedd lefelau presenoldeb siomedig yn y digwyddiadau amrywiol a gynhaliwyd ar gyfer Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned.  Nid oedd hyn yn golygu nad oedd aelodau o Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned wedi cael eu hyfforddi.  Roedd llawer o Gynghorau yn aelodau o Un Llais Cymru a oedd yn cynnig cyfleoedd hyfforddi, ac mae’n bosibl iawn eu bod wedi manteisio ar y gwasanaethau hynny.

 

Fodd bynnag, roedd y Swyddog Monitro wedi derbyn ceisiadau gan Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned ar gyfer digwyddiadau hyfforddi i'w haelodau ac fe'u hysbyswyd y byddai dyddiadau'n cael eu trefnu yn ystod hydref 2024 ar gyfer sesiynau hyfforddi pellach.

 

Byddai'r Swyddog Monitro hefyd yn cynnig dyddiad(au) i glercod fynychu hyfforddiant yn benodol ar gyfer eu rôl.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog Monitro am yr adroddiad a chroesawyd cwestiynau gan yr Aelodau.

 

Holodd yr aelodau a fyddai sesiynau hyfforddi'n cael eu darparu'n ddwyieithog.  Eglurodd y Swyddog Monitro y byddai'n cysylltu â'r adran gyllid i weld a fyddai unrhyw arian ar gael ar gyfer cyfleusterau cyfieithu mewn rhai sesiynau. 

 

PENDERFYNWYD: bod y Pwyllgor Safonau yn nodi'r Hyfforddiant Cod Ymddygiad – Trosolwg o Ddarparu ar gyfer Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned.

 

Camau Gweithredu:

Y Swyddog Monitro i gysylltu â'r adran gyllid ynglŷn â chyllid ar gyfer cyfleusterau cyfieithu mewn rhai sesiynau hyfforddi.

 

 

10.

RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 251 KB

Ystyried Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau i’w hystyried, a nododd a chytunodd yr Aelodau ar y canlynol –

 

Byddai'r Swyddog Monitro yn edrych i mewn i Bolisïau a Gweithdrefnau y byddai angen i'r Pwyllgor Safonau eu hadolygu a'u cynnwys ar y rhaglen waith bryd hynny (GW i weithredu).

 

Roedd y broses o recriwtio Aelodau Annibynnol newydd i’r Pwyllgor Safonau i’w ychwanegu dros dro at y raglen waith ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 6 Rhagfyr.

 

Diwygio rhaglen waith y Pwyllgor ar gyfer 6 Rhagfyr i ddatgan Adroddiad Blynyddol Drafft y Pwyllgor Safonau ac nid yr Adroddiad Safonau Blynyddol Drafft fel y nodir ar hyn o bryd.

 

Cynnwys y Panel fel rhan o eitem sefydlog Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ‘Ein Canfyddiadau’.

 

Roedd Adolygiad yr Ombwdsmon Cyhoeddus o Brosesau Datrys Lleol i’w ychwanegu at y raglen waith o dan ‘Eitemau i’w Hystyried yn y Dyfodol’.

 

PENDERFYNWYD: yn amodol ar yr uchod, bod y Pwyllgor Safonau yn cytuno ar y Rhaglen Waith.

 

Camau Gweithredu:

Bos y Swyddog Monitro yn edrych i mewn i Bolisïau a Gweithdrefnau y byddai angen i'r Pwyllgor Safonau eu hadolygu a'u cynnwys ar y rhaglen waith bryd hynny.

 

 

11.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Trefnwyd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau ar gyfer 6 Rhagfyr 2024, am 10.00am.

 

Cofnodion:

Bydd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau’n cael ei gynnal ar 6 Rhagfyr 2024 am 10.00am.

 

GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

 

Penderfynwyd: gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol, dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail ei bod yn debygol y byddent yn datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

12.

COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy’n rhoi trosolwg o gwynion a wnaed yn erbyn aelodau, a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Cofnodion:

The Monitoring Officer submitted a confidential report (previously circulated) providing an overview of complaints against members lodged with the Public Services Ombudsman for Wales (PSOW) since 1 April 2023.

 

There had been no new complaints notified to the Monitoring officer since the last meeting of the Standards Committee.

 

RESOLVED: that the report be received and noted.

 

13.

ADRODDIADAU ARWEINWYR GRWPIAU

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan y Swyddog Monitro, Gary Williams, ynghylch Adroddiadau’r Arweinwyr Grwpiau.

 

Cofnodion:

The Chair introduced the Group Leaders Reports that had been previously circulated to members.

 

The Monitoring Officer stated that he had received four out of five Group Leader reports, this was due to one report currently being retrieved from the system. The responses received on the reports outlined similar processes within each group, mainly details of its members and the training members had enrolled on. Each of the reports received were briefly discussed.

 

The Chair highlighted the need for further information regarding what each Group Leader had individually done, for example had any Group Leader needed to mentor any of their members and what discussions occurred within regular meetings of each group. It was resolved that this information would be gathered when the Standards Committee meet with Group Leaders at a future meeting. The Monitoring Officer stated that he would circulate several potential dates for the meeting to members (GW to action).

 

To conclude the discussion, it was noted by the Committee that Group Leaders were very compliant with submitting their reports and engaging with the process.

 

RESOLVED: that, subject to the above the Group Leaders Reports be received and noted.

 

Actions –

The Monitoring Officer to circulate potential dates for the Group Leaders meeting to be held to the Committee.

 

The Chair thanked members for their attendance and contributions and conveyed her thanks to the Committee Administrators and Translator in attendance at the meeting.

 

Meeting concluded at 1pm