Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Dim. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a nodwyd i’w
ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd Aelod Cyngor Tref a Chymuned, y Cynghorydd Gordon Hughes
gysylltiad personol gydag eitem 12 ar y rhaglen, Cod Ymddygiad - Rhan 3 Deddf
Llywodraeth Leol 2000, mewn perthynas ag un o’r cwynion a gyflwynwyd i
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, gael eu hystyried yn y cyfarfod fel
materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim. Fe soniodd y Cadeirydd am y mater yn ymwneud â phostio
rhaglen a phecyn adroddiadau’r Pwyllgor Safonau, gan olygu bod nifer o
Aelodau’r Pwyllgor yn eu derbyn yn hwyr, a rhoddodd sicrwydd bod Tîm
Gweinyddu’r Pwyllgor yn ymwybodol o hyn. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 414 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 8 Medi 2023 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a
gynhaliwyd ar 8 Medi. Cywirdeb - Tudalen 10 – Eitem 6: Presenoldeb mewn Cyfarfodydd –
newid ‘directly’ i ‘directed’ yn y Saesneg. Tudalen 10 - eitem 6:
Presenoldeb mewn Cyfarfodydd yn PENDERFYNWYD -diwygio ‘cyflwyno
adborth di-enw gan y Pwyllgor Safonau i’r holl Gynghorau Tref/Dinas/Cymuned
fesul chwarter mewn e-bost/llythyr’ i ‘cyflwyno adborth arsylwadol gan y
Swyddog Monitro i’r holl Gynghorau Tref/Dinas/Cymuned fesul chwarter mewn
e-bost /llythyr’. Materion yn codi – Tudalen 8 – Eitem 4: Cofnodion (Materion yn Codi) -
Cyfarfod ar-lein blynyddol gyda Chynghorau Tref, Dinas a Chymuned. Nid oes dyddiad wedi cael ei nodi ar gyfer y
cyfarfod eto. Roedd angen y Cyngor i
ymgysylltu gyda Chynghorau Tref, Dinas a Chymuned ynghylch ystod eang o
faterion yn cael ei ystyried ac roedd penderfyniadau’n cael eu gwneud er mwyn
penderfynu a fyddai hyn yn cael ei gynnwys yn y cyfarfod blynyddol. Roedd y Swyddog Monitro’n gobeithio cael
eglurder am hyn o fewn yr wythnosau nesaf a byddai dyddiad posibl yn cael ei
rannu gydag Aelodau. Tudalen 11 – Eitem 8: Fforwm Safonau Cenedlaethol -
Gofynnodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor a oeddynt wedi derbyn cofnodion diweddaraf
o’r cyfarfod ar 30 Mehefin 2023.
Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Pwyllgor y byddai’n rhannu’r cofnodion
ar ôl y cyfarfod. Tudalen 12 – Eitem 8: Fforwm Safonau Cenedlaethol - Roedd
ymateb gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi cyrraedd a’i rannu gydag
Aelodau. Tudalen 13 – Eitem 9: Dyletswydd Arweinwyr Grŵp -
Canllawiau Statudol ac Anstatudol i Brif Gynghorau yng Nghymru - Bydd y Dirprwy
Swyddog Monitro yn rhoi adroddiad/adborth yng nghyfarfod y Pwyllgor Safonau ym
mis Mawrth 2024 a byddai’n cael ei nodi yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Tudalen 14 – Eitem 9: Dyletswydd Arweinwyr Grŵp -
Canllawiau Statudol ac Anstatudol i Brif Gynghorau yng Nghymru - Bydd y Swyddog
Monitro’n ceisio eglurder ynghylch rhannu Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor
Safonau gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Chynghorau Tref, Dinas a
Chymuned. Tudalen 14 – Eitem 10: Cyd-bwyllgor Corfforedig -
Mynychodd y Swyddog Monitro cyfarfod y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Roedd y
Cyd-bwyllgor Corfforedig angen eu Pwyllgor Safonau eu hunain a’r gobaith yw y
cânt enwebiadau gan Aelodau presennol o’r Pwyllgor Safonau i fod yn aelodau o
Bwyllgor Safonau’r Cyd-bwyllgor Corfforedig Nid oedd y rheoliadau yn caniatáu'r
uchod ac felly byddai’r broses bresennol o recriwtio Aelodau i Bwyllgorau yn
berthnasol. Cyflwynodd y Swyddog Monitro
yng Nghyngor Gwynedd adroddiad i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn egluro’r broses
recriwtio a chafodd ei gymeradwyo.
Gofynnodd y Cadeirydd bod yr adroddiad yn cael ei rannu gyda phob aelod.
Tudalen 15 – Eitem 12: Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y
Pwyllgor Safonau - Cyfarfod Grŵp Cyswllt Moesegol - Roedd cyfarfod wedi’i
drefnu ar gyfer 18 Rhagfyr 2023, byddai’r rhaglen ar gyfer y cyfarfod yn cael
ei ddosbarthu i bob aelod ar ôl cyfarfod gydag Arweinwyr Grŵp ar 18
Rhagfyr 2023. Tudalen 15 – Eitem 12: Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol Safonol
- Cytunodd y Dirprwy Swyddog Monitro y byddai’n ymgynghori gyda’r Swyddog
Monitro i gael dyddiad priodol ar gyfer eitem i Adolygu maint a chyfansoddiad y
Pwyllgor Safonau. Dywedodd y Swyddog
Monitro y gellir dod â’r eitem yma i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Mawrth, a
byddai’n cael ei ychwanegu at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. PENDERFYNWYD: yn amodol ar yr uchod, y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Medi 2023 fel
cofnod cywir. |
|
OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU - ‘EIN CANFYDDIADAU’ PDF 210 KB Ystyried adroddiad
gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) ar dudalen ‘Ein Canfyddiadau’ a gyhoeddwyd
ar wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Elinor Cartwright: Cyflwynodd y Gyfreithwraig
dan Hyfforddiant adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Ein
Casgliadau i’r Aelodau. Mae’r adroddiad yn ymwneud â’r cyfnod rhwng 3
Awst a 24 Tachwedd 2023. Roedd yr adran ‘Ein Canfyddiadau’ ar wefan yr
Ombwdsmon yn cynnwys crynodeb o’r achosion sy’n cynnwys cwynion Cod Ymddygiad
yr oedd yr Ombwdsmon wedi ymchwilio iddynt. Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod o
Gyngor Sir Conwy wedi torri’r Cod Ymddygiad drwy gymryd rhan a phleidleisio yng
nghyfarfod y Cyngor dros y we, tra’n ymddangos ei fod yn gyrru, a fyddai o
bosib yn dwyn anfri ar y Cyngor. O ystyried mai dim ond tystiolaeth o un
digwyddiad a gyflwynwyd, penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd yn ymddangos ei fod
wedi ailadrodd yr ymddygiad, ac er bod yr Aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad,
penderfynodd yr Ombwdsmon na fyddai er lles y cyhoedd i gymryd camau pellach
dan adran a69(4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 2000. Gofynnodd y Cadeirydd a ddylai’r gŵyn oedd yn
cyfeirio at Aelod o Gyngor Sir Conwy yn ymuno â chyfarfod hybrid tra’n gyrru,
gael ei adrodd yn ôl i bob Aelod, i’w hatgoffa o’r protocol sydd ar waith yng
Nghyngor Sir Ddinbych, a gofynnodd a oedd angen unrhyw newidiadau i’r Polisi yn
Sir Ddinbych o ystyried y gŵyn. Fe eglurodd y Swyddog Monitro wrth y Pwyllgor
bod polisi ar waith ynglŷn ag ymuno â chyfarfodydd hybrid. Fe allai’r wybodaeth oedd yn ymwneud â’r
gŵyn yn yr adroddiad gael ei hanfon at yr arweinwyr grŵp i roi gwybod
i’w grwpiau ac annog ymddygiad da. Cyfeiriodd yr Aelodau at erthygl ar y radio
oedd yn sôn y gallai Aelodau sydd yn ymuno â chyfarfodydd hybrid fod yn gwneud
pethau eraill ar yr un pryd gan nad yw eu camerâu yn aros ymlaen drwy gydol y
cyfarfod i gyd. Fe eglurodd y Swyddog Monitro bod y Protocol
Cyfarfod Hybrid yn ymdrin â’r pryder yma. Pan mae Aelodau yn ymuno â
chyfarfodydd, gofynnir iddynt adael eu camera ymlaen drwy gydol y cyfarfod. Dim
ond os yna broblem â’r cysylltiad y dylai’r camera fod i ffwrdd. Dywedodd y Swyddog Monitro nad oedd y Polisi
Hybrid yn cyfeirio’n benodol ar hyn o bryd at ymuno â chyfarfodydd mewn cerbyd,
a byddai hyn yn cael ei gynnwys yn y Polisi. Gofynnodd Aelodau a oedd angen i Aelodau
fynychu yn bersonol er mwyn gallu cymryd rhan mewn unrhyw bleidlais. Fe eglurodd y Swyddog Monitro y gall Aelodau
bleidleisio os ydynt yn ymuno â chyfarfod o bell neu’n mynychu’n bersonol. Roedd yna sawl ffordd roedd pleidleisio mewn
cyfarfodydd yn cael ei gynnal, yn cynnwys y system electronig yn y Siambr, a galw cofrestr. Roedd yna brofion yn mynd
rhagddynt ar bleidleisiau ar Zoom. Diolchodd y Cadeirydd a’r Swyddog Monitro i’r
Gyfreithwraig dan Hyfforddiant am yr adroddiad ac am fynychu’r cyfarfod. Ar ôl trafodaeth - PENDERFYNWYD: (i)
rhoi gwybod i Arweinwyr y Grwpiau am gynnwys
yr adroddiad ac atgoffa aelodau o’u cyfrifoldebau (ii)
diwygio’r Polisi Cyfarfod Hybrid i gynnwys
ymuno â chyfarfod mewn cerbydau (iii)
nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD Nodi presenoldeb
aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a
derbyn eu hadroddiadau. Cofnodion: Adroddodd yr Aelodau am eu presenoldeb mewn
cyfarfodydd fel a ganlyn – · Fe soniodd yr
Aelod Annibynnol Samuel Jones am gyfarfod o Gyngor Cymuned Llanfair DC a
gynhaliwyd am 7.30pm nos Lun 30 Hydref 2023.
Gofynnwyd am ddatgan cysylltiad ar ddechrau’r cyfarfod. Fe ddatganodd y Cadeirydd gysylltiad personol
er na wnaeth hi ddweud yn benodol at ba eitem ar y rhaglen yr oedd yn
berthnasol, mae’n ymddangos ei fod yn ymwneud ag eitem i adolygu
gohebiaeth. Gan mai dim ond adolygu
gohebiaeth oedd o, ac am nad oedd penderfyniad yn cael ei wneud, mae’n
ymddangos bod yr aelod wedi ymddwyn yn unol â’i datganiad. Roedd y Cadeirydd a’r Clerc yn effeithlon
iawn yn symud ymlaen â’r eitemau, tra’n rhoi amser priodol i drafod pob
un. Ar y cyfan, cafodd y cyfarfod ei
gynnal yn broffesiynol ac roedd y drafodaeth yn adeiladol. Roedd yn hawdd cysylltu â’r Clerc ac roeddent
yn ymateb i negeseuon. · Fe soniodd yr
Aelod Annibynnol Peter Lamb am gyfarfod o Gyngor Cymuned Dyserth a gynhaliwyd
am 7pm ar 9 Hydref 2023. Gofynnwyd am
ddatgan cysylltiad ar ddechrau’r cyfarfod.
Roedd Clerc y cyfarfod yn drefnus iawn, ac roedd gwybodaeth yn cael ei
gyflwyno’n glir ar sgrin fideo. Roedd y
Pwyllgor yn gyfeillgar a chwrtais gyda’i gilydd ac roeddynt yn parchu’r
Cadeirydd. Roedd y Clerc wedi drysu
braidd ynglŷn â rôl y Pwyllgor y Safonau, gan feddwl bod ganddo sgôp
ehangach dros Gyngor Sir Ddinbych (CSDd).
Ar y cyfan, roedd y Pwyllgor yn cael ei gynnal yn ddidrafferth, ac roedd
hi’n hawdd cysylltu â’r Clerc a oedd yn darparu’r rhaglen a chofnodion y cyfarfod
blaenorol. · Fe soniodd yr
Aelod Annibynnol Peter Lamb am gyfarfod o Gyngor Cymuned Rhuthun a gynhaliwyd
am 7pm ar 20 Tachwedd 2023. Gofynnwyd
am ddatgan cysylltiad ar ddechrau’r cyfarfod.
Roedd y cyfarfod yn un hybrid ac roedd yn gweithio’n dda, ac roedd pob
cyfranogwr yn dilyn y drafodaeth. Roedd
y seddi i’r cyhoedd y tu ôl i’r Pwyllgor, ac roedd hyn ei gwneud hi’n anodd
clywed ar adegau. Dylid atgoffa
Pwyllgorau y dylai’r cyhoedd allu clywed y trafodaethau’n glir. Ar y cyfan, roedd y pwyllgor wedi’i drefnu’n
dda ac roedd cysylltu â’r Clerc yn syml ac roeddynt yn ymatebol. · Fe soniodd y
Cadeirydd am gyfarfod o Gyngor Cymuned Cynwyd a gynhaliwyd am 7.30pm ar 8
Tachwedd 2023. Gofynnwyd am ddatgan
cysylltiad ar ddechrau’r cyfarfod. Roedd
Clerc y cyfarfod yn gymharol newydd i’r Cyngor ac roedd yn dysgu’r rôl gan nad
oeddynt wedi bod yn Glerc o’r blaen. Fe fu yna gyfnodau hir pan nad oedd gan y
Cyngor Glerc, ac ar adegau bu’r Clerc blaenorol yn absennol oherwydd
salwch. Roedd y cyfarfod yn cael ei
gynnal yn ddwyieithog ac roedd y rhaglen yn ddwyieithog. Cymerodd dri aelod o’r cyhoedd ran drwy gydol
y cyfarfod ar eitemau amrywiol ar y rhaglen.
Serch hynny fe drafodwyd offer ar gyfer cyfarfodydd hybrid, yn sgil y
costau, fe gytunwyd nad oedd yn flaenoriaeth uchel i’r Cyngor ar hyn o
bryd. Roedd y Cyngor yn cael trafferth
llenwi swyddi gwag Cynghorydd a Chlerc gan ei fod yn ymddangos nad oedd papurau
a dogfennau wedi cael eu dosbarthu i bob Aelod. · Fe soniodd y Cadeirydd am gyfarfod o Gyngor Cymuned Cyffylliog a gynhaliwyd am 7pm ar 9 Tachwedd 2023. Cyn i’r cyfarfod ddechrau, fe’i gwnaed hi’n glir y byddai angen annog Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiadau gan nad oedd gan Gynghorwyr ddealltwriaeth am ddatgan cysylltiadau. Roedd y rhaglen yn cynnwys 18 eitem a chafodd pob un eu trafod yn y cyfarfod. Cafwyd trafodaeth am gyrsiau hyfforddiant Un Llais Cymru, gyda pheth dryswch dros gyrsiau gorfodol a gwirfoddol, a faint y ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CEISIADAU AM ODDEFEBAU Ystyried unrhyw
geisiadau am oddefebau a gafwyd gan Gynghorau Tref/Dinas/Cymuned neu ar lefel
sirol. Cofnodion: Roedd ystyried ceisiadau am oddefebau gan
Gynghorau Tref/Dinas/Cymuned ac ar lefel sirol yn eitem sefydlog ar y rhaglen. Dywedodd yr aelodau na chafwyd unrhyw
geisiadau am oddefeb. PENDERFYNWYD: nodi’r
sefyllfa. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU PDF 201 KB Ystyried
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol drafft y Pwyllgor
Safonau i’w ystyried cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn. Roedd yr adroddiad yn
cynnwys manylion am waith y Pwyllgor yn ystod blwyddyn calendr 2023. Mae’n ofyniad bod Adroddiad Blynyddol gan y
Pwyllgor Safonau yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ar waith y Pwyllgor a'i
ganfyddiadau a’i arsylwadau, i holl Aelodau'r Cyngor bob blwyddyn yn rhan o
ymgyrch y Pwyllgor i wella safonau ymddygiad moesegol ac i gydymffurfio â Chod
Ymddygiad yr Aelodau. Arweiniodd y Dirprwy Swyddog Monitro yr aelodau drwy
gynnwys yr adroddiad ac yn ystod trafodaeth, cytunodd y Pwyllgor ar y
diwygiadau canlynol - ·
Gofynnodd Aelodau bod paragraff yn cael ei
gynnwys ar ddechrau’r adroddiad yn adlewyrchu ar ymdrechion y Pwyllgor Safonau
i fynd i’r afael â safonau mewn bywyd cyhoeddus ac i annog ymddygiad da yn y
Cyngor. Byddai’r Swyddog Monitro yn
ychwanegu hyn gan nodi Cod a Chydymffurfiaeth ac Amrywiaeth, Cydraddoldeb a
Democratiaeth. ·
Gofynnodd Aelodau ei bod hi’n cael ei gwneud
yn amlwg a chryno beth yw rôl y Pwyllgor Safonau, gan egluro eu bod ar wahân
i’r Cyngor. Fe eglurodd y Swyddog
Monitro y byddai paragraff yn egluro hyn yn cael ei gynnwys yn yr adborth
cyffredinol a roddir i Gynghorau Tref, Dinas a Chymuned. · Gofynnodd yr
Aelodau am ddiwygiad i argymhelliad yr adroddiad i’r Cyngor fel a ganlyn - ‘Bod
Aelodau yn nodi cynnwys yr adroddiad ac yn cymeradwyo gwaith y Pwyllgor Safonau
wrth hyrwyddo ac annog safonau uchel o ymddygiad mewn bywyd cyhoeddus’. ·
Paragraff 4.5 - Gofynnodd Aelodau am
gyfeiriad ynglŷn ag ymddygiad mewn cyfarfodydd lle’r oedd Aelodau o’r
Pwyllgor Safonau yn arsylwi, er mwyn sicrhau mai arsylwi yng nghyfarfodydd
Cyngor Tref, Dinas a Chymuned yr oeddynt, ac nid yn cymryd rhan. · Paragraff 4.2 -
gofynnwyd am ddiwygiad gan nodi y bydd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau yn Aelod
Annibynnol. · Paragraff 4.3 -
Ystadegau cwynion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i gael eu cynnwys yn
yr adroddiad cyn y Cyngor Llawn. · Paragraff 4.4 -
Ymateb i lythyr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - adborth i gynnwys
pryderon y Pwyllgor Safonau ynglŷn â diffyg cwynion yn cael eu hymchwilio
gydag ystadegau, yn cynnwys nifer y cwynion a dderbynnir o’i gymharu â nifer y
cwynion oedd yn cael eu hymchwilio ymhellach a’r angen i staff fod yn ymwybodol
bod angen mwy o fanylder er mwyn i’r gŵyn gael ei hystyried/cario ymlaen. · Paragraff 4.5 -
i gael ei aralleirio a’i ail rifo (Arsylwi cyfarfodydd) · Paragraff 4.6 -
Pryderon y Pwyllgor Safonau am ddiffyg ceisiadau am oddefebau a gofyn am waith
paratoi i annog mwy o geisiadau. · Paragraff 4.6 -
i ychwanegu adborth i Gynghorwyr os yw’n briodol a chynnwys dolen Cyngor Sir
Ddinbych i bolisïau yn yr adroddiad. · Fforwm Safonau
Cenedlaethol - rhestru pwyntiau gweithredu i ddod allan o gofnodion diweddaraf Fforwm
Safonau Cenedlaethol i gael eu trafod a’u cymeradwyo gan y Cadeirydd a’r
Swyddog Monitro. Dywedodd y Swyddog Monitro wrth Aelodau
bod drafft diwygiedig o Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau yn cael ei
ddosbarthu i bob Aelod i roi sylw ar ôl cyfarfod Arweinwyr Grwpiau ar 18
Rhagfyr 2023. Pwysleisiodd yr Aelodau bwysigrwydd yr
adroddiad ac felly, yn sgil nifer o eitemau ar Raglen Gwaith i'r Dyfodol y
Cyngor Llawn ar hyn o bryd, cytunwyd y byddai’r adroddiad yn mynd gerbron
cyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Chwefror 2024.
PENDERFYNWYD: derbyn
a nodi adroddiad blynyddol drafft y Pwyllgor Safonau, yn amodol ar yr uchod. Ar y pwynt hwn o’r cyfarfod, cymerodd y
pwyllgor egwyl. Fe ailddechreuodd y Pwyllgor am
12.45pm. |
|
DIGWYDDIAD HYFFORDDIANT Y CADEIRYDD Cael diweddariad
ar lafar ar Ddigwyddiad Hyfforddiant y Cadeirydd a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd
2023. Cofnodion: Rhoddodd y Swyddog Monitro diweddariad ar
lafar i’r Aelodau am ddigwyddiad Hyfforddiant y Cadeirydd. Derbyniwyd adborth cadarnhaol drwy ffurflenni
adborth gan y rhai oedd yn mynychu’r hyfforddiant. Rhoddwyd adroddiad ar lafar am y ffurflenni
adborth i’r Pwyllgor, oedd yn ymdrin â phynciau megis pa mor ddefnyddiol oedd
yr hyfforddiant ac a fyddai ganddynt ddiddordeb mynychu sesiwn hyfforddiant
arall oedd yn ymdrin â phynciau gwahanol yn y dyfodol. Fe soniodd yr Aelodau am safon uchel yr
hyfforddiant, serch hynny, fe nodwyd bod y presenoldeb yn siomedig. Roedd yna nifer o gyfleoedd i’r rhai oedd yn
bresennol i gymryd rhan yn yr hyfforddiant a chroesawodd yr Aelodau ragor o
hyfforddiant yn y dyfodol. Cyfeiriwyd at yr awgrymiadau defnyddiol a roddwyd gan yr
hyfforddwr ar y cwrs hyfforddi ynglŷn â rôl Cadeirydd mewn cyfarfodydd, ac
fe soniodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor amdanynt yn fyr. Gofynnodd y Cadeirydd bod y daflen wybodaeth
am ‘Gadeirio Cyfarfodydd’ o’r sesiwn hyfforddi’n cael ei dosbarthu’n fewnol
gyda Chadeiryddion Pwyllgorau yn y Cyngor.
Cytunodd y Swyddog Monitro i geisio cael cymeradwyaeth gan yr hyfforddwr
allanol i gael caniatâd cyn rhannu’r wybodaeth. PENDERFYNWYD: (i)
Bod y daflen Cadeirio Cyfarfodydd yn cael ei
dosbarthu ar ôl cael caniatâd gan yr hyfforddwr a – (ii)
Derbyn a nodi Digwyddiad Hyfforddiant y
Cadeirydd. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR SAFONAU PDF 231 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y
Pwyllgor Safonau i’w hystyried, a nododd yr Aelodau’r canlynol – Roedd yna 3 Eitem ar y Rhaglen wedi’u trefnu
ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Safonau ym mis Mawrth - · Diweddariad
Fforwm Safonau Cenedlaethol · Canllawiau
Statudol ac Anstatudol ar gyfer Prif Gynghorau sy’n berthnasol i’r Pwyllgor
Safonau · Adborth o’r
cyfarfod Grŵp Cyswllt Moesegol Eitemau a gytunwyd i gael eu hychwanegu at y
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol yn ystod y cyfarfod oedd - · Y Diweddaraf am Gymharu
Casgliadau Panel Recriwtio’r Pwyllgor Safonau · Elfennau o Egluro’r Canllaw
Statudol sy’n ymwneud â’r Pwyllgor Safonau, Rhan 2: Adrannau 5, 6 a 7 ynghyd â
Rhan 4 (Yr Atodlen, Adran 6 a Rhaglen ac adroddiadau, Adran 15.80 (Papurau Cefndir:),
Cadeirio Cyfarfodydd, Adran 15.138 ymlaen). · Adolygiad o faint a
chyfansoddiad y Pwyllgor Safonau. PENDERFYNWYD: yn amodol ar
yr uchod, bod y Pwyllgor Safonau yn cytuno ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Trefnwyd cyfarfod
nesaf y Pwyllgor Safonau ar gyfer dydd Gwener 1 Mawrth 2024 am 10am yn Neuadd y
Sir, Rhuthun. Cofnodion: Nododd yr aelodau fod cyfarfod nesaf y Pwyllgor
Safonau wedi’i drefnu ar gyfer 10.00am ddydd Gwener 1 Mawrth 2024. GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD PENDERFYNWYD dan Adran 100A
Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes a ganlyn ar y sail ei fod yn ymwneud â datgelu
gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13 Rhan 4 Atodlen
12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy’n rhoi trosolwg o
gwynion a wnaed yn erbyn aelodau i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad
cyfrinachol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi trosolwg o gwynion yn erbyn
aelodau y cafodd eu cyflwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC)
ers 1 Ebrill 2022. Nid oedd unrhyw gwynion byw wedi’u hadrodd
fel rhai sy’n cael eu hymchwilio ar hyn o bryd. Rhoddodd y Swyddog Monitro grynodeb o bob un
o'r ddwy gŵyn a gyflwynwyd, nad oedden nhw wedi’u hymchwilio, ynghyd â'r
rhesymau dros hynny. O ystyried y newid yn y trefniadau cofnodi, nodwyd y gallai cwynion gael eu
cyflwyno i Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru na fydden nhw’n yn hysbys hyd
nes y byddai penderfyniad wedi’i wneud ynghylch a fyddai ymchwiliad i’r
gŵyn ai peidio. PENDERFYNWYD: derbyn a
chofnodi'r adroddiad. Ar ddiwedd y cyfarfod, diolchodd y Cadeirydd i’r
aelodau am eu presenoldeb a’u cyfraniadau a diolchodd i’r staff cefnogi hefyd. Daeth y cyfarfod i ben am 13.05pm |