Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Rhif | Eitem |
---|---|
CROESO Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Estynnwyd croeso arbennig i Gyfreithwraig Dan
Hyfforddiant y Cyngor a oedd yn mynychu ei chyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor
Safonau. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Y Cynghorydd Gordon Hughes a’r Aelod Annibynnol Anne
Mellor Gary Williams, Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a
Busnes / Swyddog Monitro |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu ragfarnus
mewn unrhyw fusnes a nodwyd i'w ystyried yn
y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Bobby Feeley gysylltiad personol
gydag eitem 14 ar y rhaglen, Cod Ymddygiad - Rhan 3 Deddf Llywodraeth Leol
2000, mewn perthynas ag un o’r cwynion a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid,
ym marn y Cadeirydd, eu hystyried
yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran
100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 396 KB Derbyn cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2023 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 16 Mehefin
2023. Cywirdeb - Tudalen 5, Eitem 2: Datgan Cysylltiad - eglurodd
y Cadeirydd bod y Cynghorydd Gordon Hughes yn parhau i fod yn aelod o Gyngor
Tref Corwen. Eglurwyd bod y cofnodion
wedi’u hysgrifennu yn y gorffennol ac felly bod y cofnodion yn gywir. Gellir cofnodi bod y Cynghorydd Hughes ‘yn
aelod cyfredol’ i adlewyrchu ei fod yn aelod ar adeg cynnal y cyfarfod. Tudalen 7, Eitem 6: Presenoldeb mewn cyfarfodydd
- i gynnwys geiriau i adlewyrchu’r sefyllfa fel a ganlyn “…. bod y clerc a’r
cadeirydd yn briod i’w gilydd a holodd a ddylid
cyflwyno unrhyw ddatganiad o gysylltiad…” Tudalen 12, Eitem 12: Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau - tynnu’r cyfeiriad at y pwynt bwled
cyntaf a oedd yn wall, gyda phresenoldeb mewn cyfarfodydd yn cael ei adrodd yn
ôl ym mhob cyfarfod. Materion yn Codi – Tudalen 5, Eitem 4: Cofnodion y cyfarfod diwethaf – darperid hyfforddiant i
glercod drwy gyfrwng fideo-gynadledda, ond ni phennwyd dyddiad ar ei gyfer eto.
Tudalen 6, Eitem 4: Cofnodion y cyfarfod diwethaf - cyflwynodd y Cadeirydd
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau i’r Cyngor Llawn ar 5 Medi, a darparodd
adborth ar hynny. O ystyried hyd y
cyfarfod, roedd rhai aelodau wedi gadael cyn i’r eitem gael ei thrafod, ond
byddai’r adroddiad a’r cofnodion ar gael i’r holl aelodau. Eglurodd y Cadeirydd hefyd bwysigrwydd
hyfforddiant ar gyfer Cynghorau Tref/Dinas/Cymuned ac y dylid gwella
presenoldeb; cywiro a chadarnhau dyddiadau cyfarfodydd y Fforwm Safonau
Cenedlaethol; pwysleisio pwysigrwydd Dyletswydd Arweinwyr Grwpiau a chroesawu
Adroddiadau’r Arweinwyr Grwpiau, ond mynegodd siom eu bod wedi methu’r
dyddiadau cyflwyno, a chyfeirio at waith pellach ar y broses yn y dyfodol;
darparodd gipolwg ar y cyflwyniad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
i’r Fforwm Safonau Cenedlaethol, a chyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf ar
Adolygiad Penn. Atebwyd cwestiynau am
hyfforddiant gorfodol gyda’r holl gynghorwyr sir wedi cwblhau’r Hyfforddiant ar
y Cod Ymddygiad ar wahân i’r cynghorydd newydd, a bod y Swyddog Monitro hefyd
wedi cyfeirio at hyfforddiant ehangach sy’n cael ei gyflwyno gan Un Llais Cymru
a chadarnhau darn o waith i ddarparu trosolwg o’r ddarpariaeth o ran
hyfforddiant. Croesawodd yr arweinwyr
gwahanol y broses o ddelio â phroblemau bychain yn anffurfiol. Ychwanegodd y Cynghorydd Bobby Feeley y
cafwyd presenoldeb da yn y cyfarfod ac y croesawyd yr adroddiad. Cytunodd y Dirprwy Swyddog Monitro y byddai’n mynd â’r mater o gynnal
cyfarfod blynyddol ar-lein â’r Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn ôl at y
Swyddog Monitro i gael ychwaneg o gyngor. Tudalen 7, Eitem 6: Presenoldeb mewn cyfarfodydd - ni chytunwyd ar unrhyw
benderfyniad o ran darparu adborth yn dilyn yr adroddiadau yn ôl i’r Pwyllgor
Safonau ac fe gytunwyd y dylid trafod y mater ymhellach o dan yr eitem ar y
rhaglen yn y cyfarfod. Tudalen 8, Eitem 8: Cymhariaeth o Gasgliadau Panel Recriwtio’r Pwyllgor
Safonau - gwnaed cais bod adroddiad ar y mater yn cael ei gynnwys yn rhaglen
gwaith i’r dyfodol y Cyngor a disgwylir cadarnhad o ran dyddiad. Byddai’r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei
chyflwyno i’r aelodau pan fydd ar gael. Tudalen 8, Eitem 9: Hyfforddiant y Cod Ymddygiad - byddai’r Pwyllgor yn
derbyn hysbysiad pan fydd y cynghorydd newydd wedi cwblhau’r hyfforddiant
gorfodol. Roedd trafodaethau ar y
gweill gyda’r Gwasanaethau Democrataidd o ran recordio sesiwn hyfforddi a’i
rhannu; byddai’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael yn y cyfarfod nesaf. Tudalen 10, Eitem 10: Adroddiadau Arweinwyr Grwpiau i’r Pwyllgor Safonau - awgrymwyd y gellir cynnal cyfarfod y Grŵp Cyswllt Moesegol ar yr un diwrnod â’r Pwyllgor Safonau nesaf ac fe gytunwyd y dylid trafod y mater o dan eitem ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU - 'EIN CANFYDDIADAU' PDF 213 KB Ystyried adroddiad gan
y Cyfreithiwr dan Hyfforddiant (copi ynghlwm) ar y dudalen
“Ein Canfyddiadau” a gyhoeddwyd ar wefan
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Cofnodion: Cafodd adroddiad ei gyflwyno gan y Dirprwy Swyddog
Monitro (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynghylch y crynodebau o’r achosion
diweddaraf yn yr adran ‘Ein Canfyddiadau’ ar wefan Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru a oedd wedi disodli Llyfr Achos y Cod Ymddygiad blaenorol. Roedd dolen we i'r adran berthnasol wedi'i
darparu. Mae’r adran ‘Ein Canfyddiadau’ yn cynnwys bob mater a
gaiff eu hymchwilio gan yr Ombwdsmon, nid materion yn ymwneud ag ymddygiad yn
unig. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw achos
o gŵyn yn ymwneud â’r Cod Ymddygiad wedi’i ymchwilio yn ystod cyfnod yr
adroddiad o’r 10 Mai 2023 i’r 3 Awst 2023. Nododd yr aelodau nad oedd unrhyw gwynion wedi’u
hymchwilio’n genedlaethol a nodi efallai bod achosion ar y gweill o ystyried y
terfynau amser dan sylw. Cafwyd
trafodaeth o ran a oedd y trothwy ar gyfer ymchwilio i achosion yn rhy uchel, a
fyddai’n siomi achwynwyr pe na bai eu cwyn yn cael ei hymchwilio. Oherwydd y newid yn y broses yn ddiweddar,
dim ond pan fyddai Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru’n rhannu eu
penderfyniad i ymchwilio ai peidio y byddai’r Swyddog Monitro yn cael gwybod am
y gŵyn. Cyn y newid hwnnw, roedd y
Swyddog Monitro’n cael gwybod am gŵyn pan fyddai’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru yn ei derbyn. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
MEWN CYFARFODYDD Nodi presenoldeb aelodau'r
Pwyllgor Safonau yn y Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a derbyn eu hadroddiadau. Cofnodion: Adroddodd yr Aelodau am eu presenoldeb mewn cyfarfodydd fel a ganlyn – ·
Adroddodd yr Aelod Annibynnol
Samuel Jones ar gyfarfod Cyngor Cymuned Llandyrnog a gynhaliwyd am 7pm ar 18
Gorffennaf 2023, a oedd yn gyfarfod wyneb yn wyneb, heb aelod o’r cyhoedd yn
bresennol. Roedd y Cadeirydd a’r Clerc
yn hynod effeithlon, a bu i fwyafrif y cynghorwyr gymryd rhan yn y
cyfarfod. Ceisiwyd datganiadau o
gysylltiad ar ddechrau’r cyfarfod, gydag un datganiad yn ddiweddarach yn y
cyfarfod gan gynghorydd a gyrhaeddodd yn hwyr, er nad oedd yn glir a oedd yn
gysylltiad personol neu’n un personol sy’n rhagfarnu, ac ni wnaed cyfranogiad
yr aelod yn yr eitem yn glir. Ar y
cyfan, cynhaliwyd cyfarfod proffesiynol, ac roedd yn dda gweld bod aelodau’n
rhagweithiol yn eu cymunedau, ac roedd y drafodaeth yn adeiladol. Roedd yn hawdd cysylltu â’r Clerc ac
roeddent yn ymateb i negeseuon. ·
Yn absenoldeb yr Aelod
Annibynnol Anne Mellor, darllenodd y Dirprwy Swyddog Monitro ei hadroddiad ar
gyfarfod diweddar Cyngor Cymuned Llanarmon yn Iâl. Roedd y cyfarfod yn un prysur, ac fe gadwodd
y Cadeirydd cymwys drefn ar y cyfan ac arwain yr aelodau drwy’r cyfan gyda
chymorth y Clerc hynod brofiadol. Yn
anffodus, roedd y Clerc yn llenwi’r bwlch nes y ceir rhywun yn eu lle. Roedd rhywfaint o aflonyddwch yn y Cyngor
Cymuned gydag aelodau wedi ymddiswyddo ac aelodau newydd yn dechrau yn eu
swydd. Teimlir y byddai ymweliad arall
yn ddefnyddiol yn y dyfodol agos ac y croesewir cefnogaeth y Pwyllgor Safonau. ·
Adroddodd y Cadeirydd ar
gyfarfod hybrid Cyngor Sir Ddinbych a gynhaliwyd am 10am ar 5 Medi 2023, a oedd
wedi’i ddarlledu’n fyw. Roedd
presenoldeb da yn y cyfarfod, ond roedd yn gyfarfod hir a gadawodd rhai o’r
aelodau cyn y diwedd. Roedd swyddogion
yn bresennol yn yr ystafell ac ar-lein ac roedd yn anodd cadarnhau a oedd y
rhai yn oriel y cyhoedd yn swyddogion neu’n aelodau o’r cyhoedd, er y daeth dau
aelod o’r cyhoedd i ofyn cwestiynau ac anogodd y Cyngor fwy o gyfranogiad gan y
cyhoedd. Roedd datgan cysylltiad ar y
rhaglen a darllenwyd datganiad gydag un cysylltiad yn cael ei ddatgan ac fe
weithredodd yr aelod yn unol â’u datganiad.
Roedd pedwar mater brys wedi’u hychwanegu. Roedd yr holl aelodau a’r swyddogion yn
ymddwyn gyda pharch tuag at y Cadeirydd a’i gilydd, ac roedd y Cadeirydd yn
sicrhau bod pawb yn cael cyfle i siarad.
Ni chaniataodd newid i gynnig yn ystod un o’r trafodaethau gan ei fod yn
teimlo ei bod yn rhy hwyr yn y broses i wneud hynny. Sicrhaodd y Cadeirydd bod y cyfarfod yn cael
ei gynnal yn llyfn ac effeithlon, ac yn arwain yr aelodau i ganolbwyntio ar y
drafodaeth yn barchus. Codwyd pwyntiau
o drefn a’u datrys yn ddigonol.
Rhoddodd y Swyddog Monitro gyngor ac eglurhad yn ystod y cyfarfod i
gefnogi’r Cadeirydd a’r cynghorwyr.
Nodwyd nad oedd y weithdrefn bleidleisio yn sicrhau bod y cynghorwyr
sy’n mynychu ar-lein yn gallu pleidleisio’n ddi-enw. Felly, cafodd y cyfarfod ei gynnal yn dda,
gan annog trafodaeth, roedd yr ymddygiad yn dda ac yn broffesiynol. Tynnodd yr aelodau sylw at yr angen i gytuno ar fethodoleg o ran sut i ddarparu adborth mewn modd cadarnhaol a rhagweithiol ar ôl mynychu cyfarfodydd. Cadarnhawyd y dull a gytunwyd yn flaenorol bod materion sylweddol neu frys yn cael eu rhannu gyda’r Swyddog Monitro. Cafwyd trafodaeth helaeth ar fanteision darparu adborth unigryw i’r cynghorau unigol ac adborth cyffredinol i’r holl gynghorau i rannu arferion gorau, yn enwedig o ystyried mai dim ond cyfran o’r cynghorau fyddai wedi derbyn ymweliad. Mynegwyd safbwyntiau gwahanol o ran sut i symud ymlaen ac ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CEISIADAU AM ODDEFEB Ystyried unrhyw geisiadau
am ollyngiadau a dderbynnir
gan Gynghorau Tref/Dinas/Cymuned
neu ar lefel
sirol. Cofnodion: Roedd ystyried ceisiadau am oddefebau gan Gynghorau
Tref/Dinas/Cymuned ac ar lefel sirol yn eitem sefydlog ar y rhaglen. Nododd yr aelodau na chafwyd unrhyw geisiadau am oddefeb. Roedd diffyg ceisiadau am oddefeb wedi peri pryder ers
peth amser ac roedd yr aelodau wedi trafod bod angen codi ymwybyddiaeth o’r
mater. Awgrymodd y Cadeirydd y dylid
cynnwys y testun yn y llythyr adborth cyffredinol cyntaf i’r Cynghorau Tref/
Dinas/Cymuned yn dilyn presenoldeb aelodau yn y cyfarfodydd. PENDERFYNWYD nodi'r sefyllfa. |
|
FFORWM SAFONAU CENEDLAETHOL Derbyn diweddariad llafar
ar y Fforwm Safonau Cenedlaethol. Cofnodion: Roedd y Cadeirydd a’r Swyddog Monitro wedi mynychu’r ail Fforwm Safonau
Cenedlaethol a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2023.
Amlygodd y Cadeirydd y materion allweddol canlynol:- ·
byddai nodiadau’n cael eu
rhannu gyda’r Pwyllgorau Safonau a byddent ar gael i’r cyhoedd ·
byddai sesiwn hyfforddi ar
gadeirio Pwyllgorau Safonau yn cael ei threfnu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru. ·
anerchiad gan yr Athro Mark
Philp ar ei rôl fel Cadeirydd Pwyllgor Bwrdd Ymgynghorol Ymchwil ar Safonau
mewn Bywyd Cyhoeddus. ·
anerchiad gan Michelle
Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar ei hadroddiad blynyddol ar
gyfer 2022/23. ·
trafodaeth ar hyrwyddo
safonau uchel, Dyletswydd Arweinwyr Grwpiau a dyletswydd y Pwyllgor Safonau i
gyflwyno sylwadau ar gydymffurfiaeth Arweinwyr Grwpiau. Cadarnhawyd y dylai arweinwyr gyfarfod
gyda’r Pwyllgor Safonau llawn. ·
cefnogi Cynghorau Tref a
Chymuned; eglurodd y Dirprwy Swyddog Monitro bod rhai Cynghorau yn Sir Ddinbych
wedi mabwysiadu proses datrysiadau lleol ac eraill heb fabwysiadu’r broses;
awgrymodd y Cadeirydd y gellir cynnwys cyfeiriad at y testun yn yr adborth
cyffredinol ar ôl mynychu cyfarfodydd. ·
roedd darparu adnoddau ar
gyfer Pwyllgorau Safonau’n her, gyda mwy o gyfrifoldebau ar Bwyllgorau Safonau
a llwyth gwaith trymach ar gyfer
Swyddogion Monitro. ·
cyflwynwyd y wybodaeth
ddiweddaraf ar Adolygiad Penn gyda’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu
dadansoddi a’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi yn yr hydref; yn dibynnu ar y
canlyniadau efallai y byddai angen is-ddeddfwriaeth a chyfnod ymgynghori o 12
wythnos pellach. ·
Roedd Swyddogion Monitro yn
ceisio cyflwyno £25 fel yr isafswm o ran gwerth ar gyfer rhoddion a lletygarwch
a oedd yn arferiad cyffredin ymysg y mwyafrif o Gynghorau (gan gynnwys Sir
Ddinbych). ·
roedd eitemau i’w hystyried
yn y dyfodol yn cynnwys protocolau datrysiad lleol a Chyd-bwyllgorau
Corfforedig a Chyd-bwyllgorau Safonau. Eglurodd y Cadeirydd bod y cyfarfod wedi bod yn hynod ddefnyddiol a
phwysleisio y byddai cofnodion cyfarfodydd y dyfodol yn cael eu rhannu gyda’r
Pwyllgor Safonau. Tynnodd yr aelodau sylw at y ffaith mai dim ond 35 o’r 280 o gwynion a
gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (yn ymwneud â’r Cod
Ymddygiad) oedd wedi’u hymchwilio ac fe drafodwyd y rhesymau posibl dros y
niferoedd isel, a allai gynnwys nifer uchel o faterion lefel isel, cwynion
gwamal neu flinderus a / neu’n gymhwysiad llym o brawf lles y cyhoedd. Nodwyd bod y broses o gyflwyno cwynion i
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn glir a syml. Roedd yr Aelodau’n derbyn fod gan Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru adnoddau cyfyngedig a dewisiadau i’w gwneud o ran
ymchwiliadau a chydbwyso difrifoldeb y materion sy’n cael eu cyflwyno, gan
ddefnyddio esgeuluster clinigol fel enghraifft. Fodd bynnag, roeddent o’r farn y gallai
nifer uchel o gwynion nad ydynt yn cael eu hymchwilio arwain at ddadrithiad a
cholli cefnogaeth y cyhoedd ac ymddiriedaeth yn y broses, a dim ond drwy
gyfeiriad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru y gallai’r Pwyllgor
Safonau gyflawni ei waith. Y ffordd
arall o gael cyfranogiad y Pwyllgor Safonau oedd drwy’r protocol cwynion
anffurfiol, ond y safbwynt cyffredinol oedd y byddai hynny’n tanseilio safbwynt
y Pwyllgor pe bai cwynion yna’n cael eu hatgyfeirio i’r Pwyllgor Safonau gan
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Wrth gloi’r drafodaeth, cytunodd yr aelodau y dylid anfon llythyr at
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn nodi sylwadau’r Pwyllgor o ran
niferoedd uchel o gwynion a oedd yn methu prawf lles y cyhoedd, a chyfeirio at
bwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i atgyfeirio materion at y
Pwyllgor Safonau drwy ei ewyllys ei hun i gael datrysiad lleol. (a) derbyn
a nodi'r adroddiad llafar ar gyfarfod y Fforwm Safonau Cenedlaethol a
gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2023, a (b) bod y Dirprwy Swyddog Monitro’n drafftio llythyr i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, i’w ystyried gan y Pwyllgor Safonau, ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
Derbyn diweddariad llafar
ar Ddyletswydd Arweinwyr Grwpiau a'r camau nesaf
a Chanllawiau Statudol ac Anstatudol ar gyfer
Prif Gynghorau Cymru. Cofnodion: Roedd Canllawiau Statudol ac Anstatudol ar gyfer Prif
Gynghorau yng Nghymru - gan gefnogi darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000,
Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau
(Cymru) 2021 wedi’u dosbarthu ymlaen llaw gyda’r rhaglen. Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro’r wybodaeth
ddiweddaraf ar Ddyletswydd Arweinwyr Grwpiau a’r camau nesaf a’r Canllawiau
Statudol ar gyfer Prif Gynghorau yng Nghymru.
Gofynnwyd i’r Aelodau gytuno i wahodd Arweinwyr Grwpiau i’r Grŵp
Cyswllt Moesegol yn y dyfodol. Tynnodd
y Dirprwy Swyddog Monitro sylw’r aelodau at y pwyntiau amlwg o ran Dyletswydd
Arweinwyr Grwpiau fel y nodwyd yn y Canllawiau Statudol fel a ganlyn- ·
mae arweinydd grŵp
gwleidyddol sy’n cynnwys aelodau o Gyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol yng
Nghymru yn gorfod cymryd camau rhesymol i hybu a chynnal ymddygiad o safon uchel
gan aelodau’r grŵp ·
nid oedd y ddyletswydd yn
golygu bod arweinwyr grwpiau gwleidyddol yn gyfrifol am ymddygiad eu haelodau
ond fod ganddynt rôl i gymryd camau rhesymol i gynnal safonau uchel, gosod
esiampl, defnyddio eu dylanwad i gefnogi diwylliant cadarnhaol, bod yn
rhagweithiol i hyrwyddo safonau ymddygiad uchel yn eu grŵp a mynd i’r
afael â materion o ddiffyg cydymffurfio honedig wrth iddynt godi. ·
ymhelaethu ar y deg cam
rhesymol fel y nodwyd y mae’n rhaid i Arweinwyr Grwpiau eu hystyried ac y gallent
eu cyflawni gyda’r nod o ddatblygu a chefnogi diwylliant sy’n rhagweithiol, yn
ymateb i ymddygiad amhriodol ac sy’n gwrthod ei oddef. ·
pwysigrwydd hyfforddiant y
Cod Ymddygiad a sefydlu perthnasoedd gydag aelodau sy’n eu hannog i rannu
problemau gyda’r Arweinwyr Grwpiau ·
gallai methiant Arweinydd
Grŵp i gydymffurfio’n ystyrlon gyda’r ddyletswydd ddwyn anfri ar eu swydd,
gan dorri’r Cod o bosib. ·
Dylai Arweinwyr Grwpiau
dystiolaethu eu cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd newydd ac adrodd ar eu
cydymffurfiaeth gyda’r ddyletswydd i’r Pwyllgor Safonau. ·
Dylai Arweinwyr Grwpiau
gydweithio a sicrhau bod eu grŵp yn cydweithio gyda’r Swyddog Monitro a’r
Pwyllgor Safonau pan fydd mater yn cael ei atgyfeirio. ·
ar ddechrau bob blwyddyn yn
y cyngor dylai’r Arweinwyr Grwpiau gyfarfod gyda’r Pwyllgor Safonau i gytuno
sut y byddant yn gweithio gyda’i gilydd, amlder y cyfarfodydd rhyngddynt drwy
gydol y flwyddyn, y trothwy y byddai’r Pwyllgor Safonau’n ei ddefnyddio i bennu
a yw Arweinwyr Grwpiau wedi cydymffurfio â’u dyletswyddau, a’r mecanwaith er
mwyn i Arweinwyr Grwpiau gyflwyno adroddiadau i’r Pwyllgor Safonau. Trafododd yr Aelodau’r ddogfen gyda’r Dirprwy Swyddog
Monitro yn egluro mai dim ond yn ddiweddar y cyhoeddwyd y canllawiau, ac er eu
bod yn ddefnyddiol ac y dylid rhoi sylw iddynt, roedd cwmpas i’r Pwyllgor eu
haddasu fel y bo’n briodol, yn enwedig o ran terfynau amser ar gyfer y camau
gweithredu ac ati. Cydnabu’r Aelodau’r
gwaith sydd eisoes wedi’i wneud o ran y cyfrifoldebau ychwanegol ar gyfer y
Pwyllgor a’r Arweinwyr Grwpiau, gan gynnwys ymateb cadarnhaol o ran y ffurflen
a fabwysiadwyd, a bod angen trafodaethau pellach i ddatblygu’r prosesau hynny,
meithrin perthnasoedd da a chydweithio.
Tynnwyd sylw at y cyfle i godi’r mater o ran hyfforddiant hefyd, awgrymodd
y Dirprwy Swyddog Monitro efallai y byddai’n ddefnyddiol cynnwys Pennaeth y
Gwasanaethau Democrataidd yn hynny. Cytunodd y Pwyllgor y dylid trefnu cyfarfod y Grŵp Cyswllt Moesegol (yn cynnwys y Pwyllgor Safonau a’r Arweinwyr Grwpiau) gyda’r nod o ddechrau’r trafodaethau hynny a’r camau gweithredu fel y nodwyd yn y canllawiau i symud ymlaen â’r mater. Cytunodd y Dirprwy Swyddog Monitro i drefnu cyfarfod ar yr un diwrnod â’r Pwyllgor Safonau nesaf os oedd modd, fel arall gellir ystyried dyddiad arall. Roedd y canllawiau yn fanwl a chymhleth ac eglurodd y Dirprwy Swyddog Monitro y byddai’r cyfarfod cychwynnol yn canolbwyntio ar grynhoi Dyletswydd Arweinwyr Grwpiau a hwyluso ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Derbyn diweddariad ar
y Cyd-Bwyllgor Corfforaethol
(cynrychiolwyr y Pwyllgor Safonau). Cofnodion: Eglurodd y Dirprwy Swyddog Monitro bod Cydbwyllgor yn cynnwys dau o
awdurdodau lleol neu fwy. Roedd
Cydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru yn cynnwys y chwech o awdurdodau lleol
yng ngogledd Cymru, dan arweiniad Cyngor Gwynedd. Roedd gan Gydbwyllgorau Corfforedig bwerau’n ymwneud â lles economaidd,
cynllunio strategol a datblygiad polisïau cludiant rhanbarthol ac roedd
Cydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru’n cyflawni swyddogaethau Bwrdd Uchelgais
Economaidd. Roeddent yn gyrff
corfforaethol a allai gyflogi staff, meddu ar asedau a chyllidebau
dynodedig. Roedd y Cydbwyllgor
Corfforedig angen trosolwg a chraffu a modd o oruchwylio safonau. Roedd Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd yn
drafftio dogfen a threfniadau llywodraethu ac, er eu bod yn y camau cynnar,
roedd gwaith ar y gweill i sicrhau capasiti o ran llywodraethu a gosod y
prosesau hynny, a byddai cais ffurfiol i ddilyn yn ceisio cynrychiolwyr i fod
ar Bwyllgor Safonau yn y dyfodol. PENDERFYNWYD bod y wybodaeth ddiweddaraf am y
Cydbwyllgorau Corfforedig yn cael ei nodi. |
|
DIGWYDDIAD HYFFORDDIANT CADEIRYDD Derbyn diweddariad llafar
ar Ddigwyddiad Hyfforddi’r Cadeirydd. Cofnodion: Nododd y Dirprwy Swyddog Monitro y trefnwyd hyfforddwr i ddarparu
Digwyddiad Hyfforddiant Cadeirydd ar gyfer Cynghorau Tref / Dinas / Cymuned
wyneb yn wyneb yn Neuadd y Sir, Rhuthun o 10am - 12 canol dydd ar 24 Tachwedd
2023. Cytunodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y dylid ymestyn y gwahoddiad i
Gadeiryddion Pwyllgorau’r Cyngor, ac roedd croeso i aelodau’r Pwyllgor Safonau
fynychu’r digwyddiad hefyd. Byddai
gohebiaeth yn cael ei anfon at y Clercod yr wythnos ganlynol yn ceisio
enwebiadau ar gyfer y digwyddiad. O
ystyried costau’r hyfforddiant i’r Cyngor, byddai ffi o £10 yn cael ei chodi ar
bob cynrychiolydd a fyddai hefyd yn sicrhau eu hymrwymiad i fynychu. Roedd hyfforddiant tebyg gan Un Llais
Cymru’n £35. O ran llywodraethu, byddai
hyfforddiant yn cynnwys rheolaeth clerc megis contract cyflogaeth. PENDERFYNWYD nodi’r diweddariad
llafar ar Ddigwyddiad Hyfforddiant Cadeiryddion. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR SAFONAU PDF 221 KB Ystyried Rhaglen Gwaith
i'r Dyfodol y Pwyllgor Safonau (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau i’w hystyried, a
thrafododd yr aelodau’r canlynol – ·
cytuno i newid dyddiad y cyfarfod nesaf yn y
rhaglen gwaith i’r dyfodol o’r 1 Rhagfyr i’r 8 Rhagfyr i adlewyrchu’r
ad-drefniant. ·
cynnwys adroddiad ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol
ar elfennau eraill y Canllawiau Statudol ac Anstatudol ar gyfer Prif Gynghorau
yng Nghymru sy’n berthnasol i’r Pwyllgor Safonau fel y trafodwyd o dan eitem 9
ar y rhaglen. ·
ad-drefnu eitem ar wybodaeth ddiweddaraf y Fforwm
Safonau Cenedlaethol o fis Rhagfyr i fis Mawrth gan na fyddai’r cyfarfod yn
cael ei gynnal tan fis Ionawr 2024 ·
ychwanegu eitem at y rhaglen gwaith i’r dyfodol ar
gyfer mis Mawrth 2024 ar adborth o gyfarfod y Grŵp Cyswllt Moesegol (a
drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer 8 Rhagfyr) ·
ychwanegu eitem at y rhaglen gwaith i’r dyfodol ar
gyfer mis Rhagfyr 2023 ar adborth o Ddigwyddiad Hyfforddiant Cadeiryddion a
gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2023. ·
o ran eitemau yn y dyfodol cytunodd y Dirprwy
Swyddog Monitro y byddai’n ymgynghori gyda’r Swyddog Monitro i gael dyddiad
priodol ar gyfer eitem i Adolygu maint a chyfansoddiad y Pwyllgor Safonau. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr
uchod, bod y Pwyllgor Safonau yn cytuno ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. |
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf Mae cyfarfod
nesaf y Pwyllgor Safonau wedi'i drefnu ar gyfer
10.00 a.m. ar 8 Rhagfyr 2023
drwy chwyddo ac yn Siambr y Cyngor,
Neuadd y Sir, Rhuthun. Cofnodion: Nododd yr aelodau fod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau
wedi’i drefnu ar gyfer 10.00am ddydd Gwener 8 Rhagfyr 2023. |
|
GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD PENDERFYNWYD dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid
gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes a ganlyn ar
y sail ei fod yn ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym
Mharagraffau 12 a 13 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000 Ystyried adroddiad
cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy’n
n rhoi trosolwg o gwynion a waned yn erbyn aelodau i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro adroddiad cyfrinachol
(a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi trosolwg o gwynion yn erbyn aelodau y
cafodd eu cyflwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) ers 1 Ebrill
2022. Nid oedd unrhyw gwynion byw wedi’u hadrodd fel rhai sy’n
cael eu hymchwilio ar hyn o bryd. Ond,
o ystyried y newid yn y trefniadau adrodd, gallai cwynion gael eu cyflwyno i
Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru na fydden nhw’n yn hysbys hyd nes y
byddai penderfyniad wedi’i wneud ynghylch a fyddai ymchwiliad i’r
gŵyn. Trafododd yr aelodau sawl
cwyn a gyflwynwyd mewn perthynas ag un Cyngor Cymuned, ac nad oedd Ombwdsman
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn eu hymchwilio gan nad oeddent yn pasio cam
cyntaf prawf lles y cyhoedd gan nad oedd tystiolaeth ddigonol. Tynnwyd sylw at yr anawsterau o ran adolygu
cwynion gan nad oedd y Pwyllgor yn ymwybodol o’r holl ffeithiau ar gyfer yr
achos. O ystyried y wybodaeth a oedd ar
gael i’r Pwyllgor, roedd yr aelodau’n teimlo yr hoffent ymchwilio ymhellach i’r
mater a gofyn bod rhagor o wybodaeth yn cael ei cheisio gan y Swyddog Monitro
gyda’r nod o ailystyried y mater yn eu cyfarfod nesaf. Byddai’r Aelodau hefyd yn ystyried a fyddai
unrhyw fudd o fynychu cyfarfod y Cyngor hwnnw yn y dyfodol. PENDERFYNWYD derbyn a chofnodi'r adroddiad. Daeth y cyfarfod i ben am 1.20pm. |