Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Anne Mellor. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfamu mewn unrhyw fater a nodwyd I’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Gordon Hughes gysylltiad personol
yn eitem rhif 13 ar y rhaglen, Cod Ymddygiad - Rhan 3 Deddf Llywodraeth Leol
2000 gan ei fod yn is-gadeirydd Cyngor Tref Corwen. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym mam y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 331 KB Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 6 Ebrill 2023 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 6 Ebrill 2023. Cywirdeb - Soniodd y Cynghorydd Gordon
Hughes fod y cofnodion yn nodi ei fod yn aelod o Gyngor Tref Corwen; eglurodd
ei fod yn dal i fod yn aelod o'r Cyngor Tref ac nad oedd wedi gadael. Materion yn Codi – Tudalen 10 – holodd yr aelodau
a oedd diweddariad ynghylch yr hyfforddiant y byddai clercod cynghorau cymuned
yn ei gael. Rhoddodd y Dirprwy Swyddog Monitro wybod i’r pwyllgor y byddai
hyfforddiant i glercod yn cael ei gynnal yn yr hydref. Cafodd y pwyllgor hefyd
wybod, fel aelodau’r pwyllgor safonau, y gallen nhw
ymuno â'r hyfforddiant pe bydden nhw’n dymuno gwneud hynny. Tudalen 11 – soniwyd am
adroddiad blynyddol y pwyllgor safonau, a phryd mae’n debygol y byddai’r
wybodaeth yn cael ei chwblhau i’w hadrodd i’r Cyngor llawn, dywedodd y Swyddog
Monitro na fyddai’r amserlenni’n caniatáu i’r adroddiad gael ei drafod yn yng
nghyfarfod y cyngor ym mis Gorffennaf ac mae'n debygol y byddai'n cael ei
gynnwys ar raglen mis Medi. Tudalen 15 – soniwyd am y
mater o gynnal cyfarfod ar y cyd â chynghorau dinas, tref a chymuned, a gellid
rhannu unrhyw ddatblygiad ar y mater â’r pwyllgor. Ymatebodd y Swyddog Monitro
gan ddweud y byddai'n anodd cynnal cyfarfod; awgrymwyd y gellid cysylltu â
chlercod cynghorau dinas, tref a chymuned i weld pa feysydd oedd yn achosi
heriau iddyn nhw, ac yna gellid rhoi’r cymorth priodol; nodwyd y byddai angen
trafod yn agored â'r clercod. Dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro fod y Pennaeth
Gwasanaeth Dros Dro (Strategaeth a Pherfformiad, Swyddfa Rhaglenni a
Phrosiectau Corfforaethol, Newid Hinsawdd) yn gweithio gyda'r Cynghorau Dinas,
Tref a Chymuned; byddai'r Dirprwy Swyddog Monitro yn rhoi gwybod i’r aelodau am
unrhyw ddiweddariad ynghylch y gwaith, os oes diweddariad o gwbl, yn y cyfarfod
nesaf. Tudalen 15 – awgrymodd y
pwyllgor y dylid cadw hen gyfarfodydd ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; byddai
hyn yn sicrhau na fyddai unrhyw eitemau na chafodd eu trafod yn cael eu colli
mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Ebrill 2023 yn gofnod cywir. |
|
OMBWDSMON Y GWASANAETHAU CYHOEDDUS - 'EIN CANFYDDIADAU' PDF 208 KB I ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi wedi'i amgáu) ar y dudalen 'Ein Canfyddiadau' sydd wedi'i gyhoeddi ar wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd adroddiad ei gyflwyno
gan y Swyddog Monitro (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynghylch y crynodebau o’r
achosion diweddaraf yn yr adran ‘Ein Canfyddiadau’ ar wefan Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a oedd wedi disodli Llyfr Achos y Cod Ymddygiad
blaenorol. Mae dolen we i'r adran berthnasol wedi'i darparu. Dywedodd y Swyddog Monitro
wrth y pwyllgor y bu achos yn yr adran ‘ein canfyddiadau’ ar wefan yr
Ombwdsmon; yr oedd manylion yr achos yn atodiadau'r adroddiad. Dywedodd y
Swyddog Monitro fod y mater yn debygol o fod yn anghytundeb rhwng pobl, nad
oedd digon o dystiolaeth ar y naill ochr na’r llall i gyfiawnhau ymchwiliad
pellach, ac nad oedd parhau â’r ymchwiliad o ddiddordeb i’r cyhoedd. Roedd yr aelodau'n synnu bod y
mater wedi cael unrhyw sylw o gwbl, gan ei fod yn ymddangos fod popeth yn
eithaf clir o ran y sefyllfa a’i fod yn wastraff adnoddau. Eglurodd y Swyddog
Monitro mai’r unig reswm yr ymchwiliwyd ymhellach i’r achos yw oherwydd yr
honiad bod Cyngor Cymuned Saundersfoot wedi defnyddio eu safle nhw i fwlio
rhywun; fodd bynnag, nid oedd tystiolaeth i ganiatáu ymchwiliad pellach. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD Nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yn y Cyngor Sir, Tref a Chymuned, a derbyn eu hadroddiadau. Cofnodion: Gwnaeth y cadeirydd holi aelodau'r pwyllgor safonau a
oedden nhw wedi mynd i unrhyw gyfarfodydd ers y cyfarfod diwethaf. Dywedodd yr Aelod Annibynnol Samuel Jones (SJ) wrth y
pwyllgor ei fod yn mynd i gyfarfod blynyddol Cyngor Cymuned Llanferres ar 11
Mai gyda chadeirydd y pwyllgor safonau. Dywedodd SJ wrth y pwyllgor fod y
cyfarfod yn cael ei gynnal a’i drefnu gan y cadeirydd a'r clerc. Yn ystod y
cyfarfod, cafodd aelod o'r cyhoedd ei gyfethol i'r cyngor cymuned. Cawsant
wybod am yr hyfforddiant yr oedd ei angen arnyn nhw fel cynghorau cymuned. Holodd yr aelodau faint oedd yn aelodau o’r cyngor
cymuned a beth oedd y ganran o ran presenoldeb yn y cyfarfod; naw oedd yn
aelodau o’r cyngor cymuned ynghyd â dwy swydd wag ar hyn o bryd, ac yr oedd
dros 50% yn bresennol yn y cyfarfod. Cafodd aelodau'r pwyllgor a oedd yn bresennol yn y cyngor
cymuned wybod wedyn fod y clerc a'r cadeirydd yn briod a gwnaethon nhw holi a
ddylai unrhyw ddatganiadau cysylltiad fod wedi'u codi; eglurodd swyddogion mai
dim ond pe bai rhywbeth yn ymwneud â strwythur y cyngor cymuned yn cael ei
drafod, y dylai’r mater fod wedi’i godi. Gofynnodd yr aelodau pa ddull o roi adborth oedd yn
briodol mewn cyfarfodydd; dywedwyd pe byddai mater sylweddol yn codi, y
byddai'n cael ei drosglwyddo i'r Swyddog Monitro neu'r Dirprwy Swyddog Monitro;
fodd bynnag, yr oedd yr aelodau'n credu bod angen methodoleg briodol ar gyfer
adrodd ar faterion, a rhoi adborth i gadeirydd a chlerc cynghorau dinas, tref a
chymuned. Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai swyddogion yn arfer
cysylltu â chlercod i roi unrhyw adborth; fodd bynnag, pryderon oedden nhw fel
arfer yn hytrach na sylwadau cadarnhaol. Yr oedd y Swyddog Monitro yn credu y
dylid rhannu unrhyw adborth, boed yn dda neu'n ddrwg. Awgrymodd y cadeirydd y gellid drafftio llythyr
cyffredinol, y gellid ei anfon at gynghorau cymuned pan fyddai pwyllgor safonau
yn bresennol, yn tynnu sylw at arferion da neu ddrwg. PENDERFYNWYD bod y pwyllgor yn
nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am bresenoldeb mewn cyfarfodydd. |
|
CEISIADAU AM OLLYNGIAD I ystyried unrhyw geisiadau dosbarthu a dderbyniwyd gan Gynghorau Tref/Dinas/Cymuned neu ar lefel y sir. Cofnodion: Roedd ystyried
ceisiadau am oddefebau gan Gynghorau Tref/Dinas/Cymuned ac ar lefel
sirol yn eitem sefydlog ar y rhaglen. Nododd yr
aelodau na gafwyd unrhyw geisiadau
am oddefeb. PENDERFYNWYD nodi'r
sefyllfa. |
|
CYMHARU CASGLIAD PANEL RECRIWTIO'R PWYLLGOR SAFONAU Derbyn diweddariad llafar gan y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro - Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd/Dirprwy Swyddog Monitro ynghylch cymharu casgliad panel recriwtio pwyllgor safonau. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog
Monitro ddiweddariad ar lafar ynghylch Cymharu Casgliadau Panel Recriwtio’r
Pwyllgor Safonau mewn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Codwyd y mater i weld a oedd
consensws rhwng awdurdodau lleol ar y strwythur sydd ganddyn nhw ar gyfer
paneli recriwtio pwyllgorau safonau. Roedd y Dirprwy Swyddog
Monitro wedi cael gohebiaeth gan rai o'r awdurdodau lleol cyfagos. Roedd
strwythur Conwy yn cynnwys cadeirydd/is-gadeirydd y cyngor ar y panel. Roedd
gan Ynys Môn yr un strwythur â Sir Ddinbych; roedd gan Wynedd gadeirydd y
cyngor, pwyllgor gwasanaethau democrataidd a’r pwyllgor safonau ar eu panel
nhw. Dywedodd y Dirprwy Swyddog
Monitro wrth y pwyllgor y gellid llunio adroddiad a’i gyflwyno i’r cyngor llawn
i ddysgu a ydyn nhw’n agored i’r newid a chael aelod pwyllgor safonau
annibynnol ar y panel recriwtio, gan y byddai’n rhaid gwneud y penderfyniad yn
y Cyngor. Soniodd aelodau’r pwyllgor am
y manteision y gallai aelod annibynnol eu cynnig i banel recriwtio; bydden
nhw’n rhoi safbwynt arall, a fyddai'n fuddiol wrth recriwtio. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Safonau yn cynnig cyflwyno adroddiad i'r
cyngor llawn i geisio cymeradwyaeth i gael aelod lleyg annibynnol o'r pwyllgor
safonau ar y panel recriwtio. |
|
HYFFORDDIANT COD YMDDYGIAD PDF 203 KB Derbyn diweddariad llafar gan y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro - Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd/Dirprwy Swyddog Monitro ynghylch hyfforddiant cod ymddygiad a darpariaeth ar gyfer Cynghorau Sir a Thref, Dinas a Chymuned. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd adroddiad ei gyflwyno
gan y Dirprwy Swyddog Monitro (dosbarthwyd ymlaen llaw) yn cyflwyno'r Cod
Ymddygiad i Aelodau - trosolwg o'r hyfforddiant a roddwyd; Y Pwyllgor Safonau
sy'n goruchwylio'r drefn foesegol yn y Sir, ac mae hyfforddiant yn faes y mae'r
Pwyllgor yn awyddus i’r aelodau etholedig a chyfetholedig ei gyflawni. Nod yr
adroddiad oedd rhoi trosolwg o'r hyfforddiant i Aelodau sydd wedi’i ddarparu
gan y Swyddog Monitro ers mis Mai 2022. Dywedodd y Dirprwy Swyddog
Monitro wrth yr aelodau fod amserlen yr hyfforddiant wedi'i chynnwys yn yr
atodiadau; o ran presenoldeb Cynghorwyr Sir, fel y nodwyd yn y Pwyllgor Safonau
diwethaf, yr oedd gan y Cyngor bresenoldeb o 100 y cant. Fodd bynnag, mae un
Cynghorydd newydd y mae angen i ni gynnig hyfforddiant iddo, y cafodd ei ethol
o ganlyniad i is-etholiad. Dywedodd y Dirprwy Swyddog
Monitro y byddai'r Pwyllgor yn nodi, er gwaethaf cynnig nifer o gyfleoedd
ar-lein a chymysgedd o gyfleoedd wyneb yn wyneb yng Ngogledd, Canol a De'r Sir,
yn ystod y dydd a gyda'r nos, y gallai'r ymateb gan Gynghorau Tref a Chymuned
fod yn llawer gwell. Dywedodd y Dirprwy Swyddog
Monitro wrth y pwyllgor ei bod yn anodd cynnal y gallu i gynnig hyfforddiant ar
y raddfa hon yn gyson a thu hwnt i'r hyn sydd wedi’i gynnig eisoes. Mae’r Swyddog Monitro a’r Dirprwy yn awyddus
i drafod dewisiadau eraill â’r Pwyllgor, fel cynnal digwyddiad wedi’i recordio
i bob Clerc i rannu rhai Cwestiynau Cyffredin. Er enghraifft, efallai y bydd y
Pwyllgor yn dymuno cyfeirio'r awgrym at y Fforwm Safonau Cenedlaethol ac
ystyried a allai hon fod yn fenter genedlaethol, er enghraifft. Trafododd y Pwyllgor y
canlynol ymhellach - ·
Cyfeiriodd y pwyllgor at
ddull yr hyfforddiant, ac a fyddai taflen i aelodau sydd newydd eu hethol yn
ddull hyfforddi rhatach ac yn un sy’n cymryd llai o amser. Holwyd hefyd a ellid
cynnal hyfforddiant sy’n cael ei gynnal gan Un Llais Cymru. ·
Cytunodd swyddogion ac
aelodau y gellid o bosibl cynnal recordiad o sesiwn hyfforddi, ac yna
cylchredeg y fideo i glercod i'w ddangos i gynghorau dinas, tref a chymuned i
hyfforddi eu cynghorwyr. Cytunodd yr Aelodau â'r awgrym o recordio sesiwn
hyfforddi; fodd bynnag, gwnaethon nhw awgrymu y byddai'n fuddiol pe bai aelodau
sy’n bresennol yn gofyn cwestiynau perthnasol, a fyddai'n cyfoethogi'r deunydd
hyfforddi i eraill. ·
Cafodd yr aelodau wybod
beth oedd costau hyfforddiant gan Un Llais Cymru; y gost ar gyfer hyfforddiant
cod ymddygiad fyddai tua £35 i bob cynghorydd. ·
Awgrymodd y pwyllgor y gallai
clercod Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned nodi pawb a oedd wedi cael yr
hyfforddiant, ac yna gellid anelu unrhyw ddeunydd at y rhai nad oedd wedi’i
gyflawni. Cafodd yr aelodau eu hatgoffa bod yr hyfforddiant yn orfodol, a'r
pryder oedd pe byddai'r mater yn rhy fanwl na fyddai rhai aelodau am gyflawni’r
hyfforddiant. Awgrymodd aelodau eraill o'r pwyllgor fod angen yr hyfforddiant;
fodd bynnag, gwnaethon nhw nodi mai dull cynnill sydd
orau ar gyfer yr aelodau a chaniatáu i'r mater ddigwydd yn naturiol o ran
e-ddysgu, fideos neu daflenni, cyn belled â bod unigolion yn ymgymryd â
hyfforddiant a bod dyletswydd y cyngor yn cael ei chyflawni. ·
Dywedodd y Swyddog
Monitro mai'r ffordd orau o gynnal yr hyfforddiant fyddai wyneb yn wyneb; fodd
bynnag, nid oedd yr adnoddau i gynnal y math hwn o hyfforddiant yn ymarferol;
byddai recordio cyfarfod a chylchredeg y deunydd yn lliniaru’r pryder yn
ymwneud ag adnoddau. Yna awgrymodd y Dirprwy Swyddog Monitro recordio’r sesiwn
hyfforddi nesaf, a gweld a ellid ei rannu ymhellach. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Safonau yn nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
ADRODDIADAU ARWEINWYR GRWPIAU I'R PWYLLGOR SAFONAU PDF 220 KB Derbyn adroddiad (copi ynghlwm) gan Bennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i roi trosolwg i’r Aelodau o’r hyfforddiant a ddarparwyd gan y Swyddog Monitro ers mis Mai 2022. Cofnodion: Cafodd adroddiad ei gyflwyno
gan y Dirprwy Swyddog Monitro (dosbarthwyd ymlaen llaw) yn ymwneud â'r
ddyletswydd newydd a roddir ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i hyrwyddo
ymddygiad moesegol ac i roi cyfle i'r Pwyllgor Safonau ystyried y wybodaeth a
gafwyd gan Arweinwyr Grwpiau sy'n adrodd yn flynyddol i'r Pwyllgor Safonau. Bydd y Pwyllgor Safonau yn
ymwybodol o ddarpariaethau adran 62 Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau
(Cymru) 2021 sy’n rhoi dyletswydd newydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i
gymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad ar gyfer
eu haelodau. Cafodd y Pwyllgor wybod eisoes
fod Llywodraeth Cymru wedi llunio canllawiau statudol drafft ar gyfer arweinwyr
grwpiau a phwyllgorau safonau cyn yr etholiad a gofynnodd am safbwyntiau. Trafododd yr Aelodau’r
materion canlynol ymhellach - ·
Roedd y pwyllgor yn
credu fod y mater yn ymarfer da ond credai fod y cwestiynau yn y canllawiau yn
gogwyddo tuag at ymatebion cyffredinol, a bod angen trafodaeth arall i gael
atebion a fyddai'n achosi dadl; cytunodd yr aelodau; fodd bynnag, yr oedden
nhw’n credu fod y broses yn gam cyntaf ardderchog. ·
Awgrymodd y Dirprwy
Swyddog Monitro drefnu cyfarfod arall rhwng aelodau'r Pwyllgor Safonau ac
arweinwyr y grwpiau i drafod y gwaith sydd ei angen gydag arweinwyr y grwpiau;
yna, gellid casglu adborth o'r sesiwn, ei goladu a'i gynnwys gydag adroddiad
blynyddol y pwyllgor safonau. Gallai hyn dynnu sylw at y gwaith sy'n mynd
rhagddo rhwng arweinwyr y grwpiau a'r pwyllgor safonau. ·
Er bod yr aelodau'n
cytuno â'r gwaith sy'n mynd rhagddo ag arweinwyr y grwpiau, gwnaethon nhw dynnu
sylw at y ffaith y gallai ychwanegu at lwyth gwaith sylweddol arweinwyr y
grwpiau y mae eu llwyth gwaith eisoes yn enfawr. Mynegodd yr aelodau bryderon ynghylch na chafwyd
adroddiad un Arweinydd Grŵp ac na allai'r Pwyllgor gadarnhau bod pob
arweinydd wedi cymryd pob cam rhesymol. PENDERFYNWYD: 3.1 Byddai'r Pwyllgor yn aros i gael rhagor o wybodaeth
am y dull gweithredu cenedlaethol ar ôl i Fforwm Safonau Cymru Gyfan gyfarfod. 3.1 Bod y Pwyllgor yn cytuno y byddai cyfarfod anffurfiol
gydag Arweinwyr Grwpiau ar y cyd yn fuddiol. |
|
YMATEB FFURFIOL I YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU AR ADOLYGIAD PENN PDF 200 KB Derbyn adroddiad (copi ynghlwm) gan y Swyddog Monitro mewn perthynas ag adolygiad Llywodraeth Cymru o’r Fframwaith Moesegol yng Nghymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro
adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) yn cyflwyno ymateb y Cyngor i’r
ymgynghoriad i’r pwyllgor safonau. Mae’r Pwyllgor wedi cael y
wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o’r Fframwaith Moesegol yng Nghymru –
‘Adolygiad Penn’ – a ddechreuodd yn 2021; fframwaith
sydd fwy neu lai wedi aros yr un peth ers ugain mlynedd. Byddai'r Aelodau'n cofio’r adroddiadau blaenorol yn sôn bod cam cychwynnol yr
adolygiad wedi canfod bod y fframwaith yn addas at y diben, ond y gallai fod yn
fuddiol diwygio rhai meysydd yn y dyfodol. Cafodd y Pwyllgor Safonau
gyflwyniad yn ei gyfarfod diwethaf er mwyn i’r aelodau allu lleisio’u barn nhw
ynghylch cwestiynau'r ymgynghoriad. Ymgynghorir ag Arweinwyr y Grwpiau rhwng
llunio'r adroddiad hwn a'i gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor, gan fod amser yn
brin cyn bod yn rhaid ymateb. Byddai safbwyntiau Arweinwyr y Grwpiau yn cael eu
rhannu â'r Pwyllgor yn y cyfarfod. Dyma’r argymhellion - ·
C1 – Cytunodd arweinwyr
y grwpiau gynnwys yr holl nodweddion gwarchodedig sydd yn y cod ymddygiad. ·
C3 – Cytunodd arweinwyr
y grwpiau â’r ddarpariaeth gyfreithiol benodol i alluogi Panel Dyfarnu Cymru i
sicrhau bod tystion yn aros yn ddienw. ·
C4 – Cytunodd yr Aelodau
â'r newidiadau arfaethedig i'r weithdrefn apelio, a fyddai'n symleiddio’r
amserlenni. ·
C5 – cytunwyd y dylai
Panel Dyfarnu Cymru gael grym penodol i wysio tystion; fodd bynnag, yr oedden
nhw’n credu y byddai'r mater yn anodd ei orfodi. ·
C6 – roedd arweinwyr y
grwpiau’n anghytuno ag unrhyw newidiadau i'r broses atgyfeirio
apeliadau. Nid oedd y rhan fwyaf o’r aelodau’n cydnabod manteision cael Panel
Dyfarnu Cymru yn cyfeirio penderfyniadau apêl yn ôl i’r Pwyllgor Safonau, yn
enwedig o ystyried y byddai’r un Pwyllgor yn adolygu’r un achos ac y byddai’n
debygol o ymestyn y broses gyffredinol i’r unigolyn sy’n apelio. Fodd bynnag,
yr oedd un aelod yn credu y gellir rhoi rhywfaint o hyblygrwydd gan fod pob
achos yn wahanol. Roedd un aelod yn credu y byddai’n werth cyfeirio'r mater yn
ôl i'r Pwyllgor Safonau i fyfyrio ar rinweddau'r rhesymau a roddwyd i ailystyried
eu penderfyniad a chadw rheolaeth a chyfrifoldeb lleol. ·
C8 - cytunodd yr aelodau
na ddylid cadw'r gofyniad i roi dim llai na saith diwrnod o rybudd o ohirio
gwrandawiad er mwyn rhoi rhagor o hyblygrwydd. Fodd bynnag, dylid rhoi rhybudd
rhesymol. ·
C9 – cytunodd arweinwyr
y grwpiau y dylai fod amrywiaeth ehangach o bwerau ar gael i’r Panel, gan fod y
rhai presennol yn rhy gyfyngol. ·
C10b – nid
oedd unrhyw sylwadau ar y broses. ·
C11 – y gred oedd, o ran
gweithrediad Panel Dyfarnu Cymru a datgelu, fod y Pwyllgor yn cefnogi gofyniad
i sicrhau bod deunydd nad yw’n cael ei ddefnyddio a gedwir
gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Swyddogion Monitro, ar gael er
budd cyfiawnder naturiol. ·
C12 – cytunodd arweinwyr
y grwpiau bod angen codi ymwybyddiaeth o'r Fframwaith Safonau Moesegol a
gweithio gydag eraill fel sy’n briodol yn hynny o beth. ·
C13 - wrth gydnabod bod
manteision i hysbysebu am aelodau lleyg yn y papur newydd lleol, cytunwyd na
ddylai fod yn ofyniad gorfodol cyn belled â bod amrywiaeth o ddulliau eraill yn
cael eu defnyddio i gyrraedd cynulleidfa eang ac amrywiol. ·
C14b – o ran y
gwaharddiad gydol oes ar gael gwared ar gyn-weithwyr y cyngor, roedden nhw’n
credu y dylid codi'r gwaharddiad; fodd bynnag, byddai hyn yn cynnwys cyfnod
gras o 12 mis rhwng cyflogaeth a phenodiad ar gyfer y rhan fwyaf o weithwyr a
chyfnod hirach ar gyfer yr unigolion a oedd â swyddi statudol neu swyddi â
chyfyngiadau gwleidyddol yn flaenorol. · C15 - cytunwyd y dylid cael gwared ar y gwaharddiad gydol oes ar gyfer gwasanaethu ... view the full Cofnodion text for item 11. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y PWYLLGOR SAFONAU PDF 195 KB Ystyried Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau (copi ynghlwm). Cofnodion: ·
Awgrymodd y Dirprwy
Swyddog Monitro y byddai'r aelodau'n adrodd ar ymweliadau â chyfarfodydd eraill
bob yn ail gyfarfod. ·
Codwyd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau, ac a ellid trafod y
camau cynnar yn y pwyllgor ym mis Rhagfyr 2023. ·
Cyfeiriwyd at
Gyd-bwyllgorau Corfforedig, a'r posibilrwydd o gael cynrychiolwyr y pwyllgor
safonol; ar y cyd-bwyllgor, dywedodd y Swyddog
Monitro bod rhywfaint o ddeddfwriaeth i'w threfnu; fodd bynnag, gellid trafod y
mater yng nghyfarfod mis Medi. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, bod y
Pwyllgor Safonau yn cytuno ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Trefnwyd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau ar gyfer 10.00am 15 Medi 2023. Cofnodion: Nododd yr aelodau
fod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau wedi’i drefnu ar gyfer 10.00am ddydd
Gwener 15 Medi 2023. GWAHARDD Y WASG A'R
CYHOEDD PENDERFYNWYD
dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd
o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes a ganlyn ar y sail ei fod yn ymwneud â
datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13 Rhan 4
Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000 Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy’n n rhoi trosolwg o gwynion a waned yn erbyn aelodau i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad cyfrinachol (dosbarthwyd ymlaen
llaw) yn rhoi trosolwg o gwynion yn erbyn aelodau y cafodd eu cyflwyno i
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) ers 1 Ebrill 2022. Rhoddodd y Swyddog Monitro grynodeb o bob un o'r saith cwyn a gyflwynwyd,
nad oedden nhw wedi’u hymchwilio, ynghyd â'r rhesymau dros hynny. O ystyried y
newid yn y trefniadau cofnodi, nodwyd y gallai cwynion gael eu cyflwyno i
Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru na fydden nhw’n yn hysbys hyd nes y
byddai penderfyniad wedi’i wneud ynghylch a fyddai ymchwiliad i’r gŵyn ai
peidio. PENDERFYNWYD derbyn a chofnodi'r
adroddiad. |