Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1A, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
Dylai’r
Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn
unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: None. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD dan
Adran 100A(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, a Rheoliad 26 Rheoliadau Pwyllgor
Safonau (Cymru) 2001, fel y diwygiwyd, bod y Wasg a’r Cyhoedd yn cael eu
gwahardd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem busnes canlynol, sef trafod
ystyriaethau’r Pwyllgor Safonau a sefydlwyd dan darpariaethau Rhan 3 Deddf
Llywodraeth Leol 2000, mewn cyrraedd canfyddiad ar unrhyw fater y cyfeirir ato
ac ystyrir na ddylid datgelu’r wybodaeth fel nad yw materion y pwnc yn destun rhagfarn
gan unrhyw gyhoeddusrwydd posib o’r achos. |
|
COD YMDDYGIAD – RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (copi
ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i
ystyried adroddiad cyfrinachol gan yr Ombwdsmon Y Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
(PSOW) am gŵyn bod Cynghorydd Tref o bosib wedi torri Cod Ymddygiad y
Cyngor Tref. Cyflwynwyd cwyn
i'r PSOW ar 18 Mai 2017 gan Gynghorydd Tref yn dilyn casgliad honedig o
ddigwyddiadau. Felly, mae Adran 69 Deddf
Llywodraeth Leol 2000 (y Ddeddf) yn nodi y gallai PSOW, ar ôl cael cwyn,
benderfynu cynnal ymchwiliad. Bu i’r
PSOW benderfynu ymchwilio i’r cwyn hwn.
Pwrpas yr ymchwiliad oedd penderfynu pa ganfyddiadau sydd ar gael dan
A69(4) o’r Ddeddf oedd fwyaf priodol. Yn yr achos hwn,
daeth y PSOW i gasgliad, ar sail y dystiolaeth oedd ar gael, bod y dystiolaeth
yn awgrymu nad oedd y Cynghorydd Tref wedi dangos parch ac ystyriaeth tuag at
yr achwynydd a Rhingyll yr Heddlu mewn cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd
2016 a 11 Mai 2017. Felly, penderfynodd y PSOW y dylai’r materion a oedd yn
destun ymchwiliad gael eu cyfeirio at y Swyddog Monitro er mwyn i'r Pwyllgor
Safonau eu hystyried. Amlinellodd y
Cadeirydd yr achos a nododd o fewn y cod ymddygiad, bod rhaid i Gadeiryddion:- ·
ddangos
parch ac ystyriaeth tuag at eraill; ·
i
beidio ag ymddwyn mewn modd a fyddai’n rhesymol i ystyried yn dwyn anfri ar eich swydd neu’r awdurdod Trafodwyd cynnwys
yr adroddiad a’r honiadau a gyflwynwyd.
Penderfynwyd yn unfryd bod digon o dystiolaeth i’r mater barhau i
Wrandawiad fel bod y Cynghorydd Tref yn cael cyfle i wneud sylwadau. Cadarnhawyd y
byddai’r Swyddog Monitro yn hysbysu'r Cynghorydd Tref am benderfyniad y
Pwyllgor a'r weithdrefn y mae'r Pwyllgor yn bwriadu ei fabwysiadu i dderbyn ac
ystyried unrhyw sylwadau y hoffai ei wneud.
Aeth y Swyddog
Monitro a’r Cadeirydd drwy’r broses o baratoi ar gyfer y Gwrandawiad i ystyried
sylwadau. Eglurwyd pwerau’r Pwyllgor
Safonau a gweithdrefn y Gwrandawiad. Gofynnodd y Cadeirydd i’r Swyddog
Monitro gysylltu â'r PSOW ynghylch un agwedd o’r adroddiad ac a fyddai unrhyw
dystion yn cael eu galw, cyn ysgrifennu at y Cynghorydd Tref. Cadarnhawyd y
byddai gan yr achwynydd hawl i fynychu’r gwrandawiad, a gallai fynychu gyda
sylwadau p’un ai’n gymwys yn gyfreithiol neu beidio. Hefyd cadarnhawyd
y byddai’r cynrychiolydd PSOW (Swyddog Ymchwilio) yn bresennol yn y
Gwrandawiad. Yn y cyswllt hwn,
mynegodd y Cadeirydd a’r Cynghorydd Andrew Thomas eu diolch i’r Swyddog Monitro
am arwain y Pwyllgor drwy'r adroddiad a’r prosesau sydd ynghlwm. PENDERFYNWYD y dylid rhoi
cyfle i’r Cynghorydd Tref wneud sylwadau, naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig
mewn perthynas â chanfyddiadau’r ymchwiliad, ac unrhyw honiad y mae wedi methu
neu efallai wedi methu â chydymffurfio â Chod Ymddygiad Cyngor Sir Ddinbych. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.20am. |