Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthin LL15 1YN
Rhif | Eitem | |
---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cyflwynwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Paul Penlington. |
||
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Atgoffodd yr aelod annibynnol Julia Hughes y pwyllgor fod ganddi gysylltiad cymdeithasol gyda’r cyfreithiwr a gynrychiolodd y Cynghorydd Peter Duffy yng ngwrandawiad y pwyllgor (mewn perthynas â chofnodion y gwrandawiad gan y pwyllgor a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2019 o dan eitem 4 ar y rhaglen). |
||
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw fater brys. |
||
Derbyn cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar y 12 Ebrill 2019 (copi ynghlwm) a’r 24 Gorffennaf 2019 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
drafft cyfarfod y pwyllgor a gynhaliwyd ar 12 Ebrill a 24 Gorffennaf 2019 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Materion yn codi Diolchodd Cadeirydd
y Pwyllgor i swyddogion y pwyllgor a’r staff Uned Cymorth Busnes
oedd wedi paratoi dogfennaeth y pwyllgor ar gyfer
y gwrandawiad ar 24 Gorffennaf 2019. Hefyd diolchodd i’r Swyddog Monitro
am ei waith yn egluro pa ffeithiau
nad sy'n destun dadl a meysydd
yr oedd y pwyllgor angen canolbwyntio arnynt yn ystod y gwrandawiad.
Ar gyfer
gwrandawiadau cod ymddygiad
ffurfiol tebyg i’r gwrandawiad ym mis Gorffennaf
roedd yr Aelodau yn awgrymu:
• Llunio dogfen gyda’r
camau a gwybodaeth allweddol, pwyllgor safonau a staff cefnogi angen gwybod am drefnu a chynnal gwrandawiad. • Argymell defnyddio trefn ‘ystafell fwrdd’ ar gyfer
gwrandawiadau gan fod y drefn cymharol
anffurfiol hon wedi gweithio’n dda. • Y Swyddog Monitro i ddod ag adroddiad
i gyfarfod yn y dyfodol ar y gwersi
a ddysgwyd o’r gwrandawiad. Dywedodd y Swyddog
Monitro nad
oedd y Cynghorydd Duffy wedi apelio yn
erbyn penderfyniad y pwyllgor. PENDERFYNWYD derbyn a chadarnhau
cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2019 a 24 Gorffennaf 2019 fel cofnod
cywir. |
||
OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU – LLYFR ACHOS COD YMDDYGIAD PDF 197 KB Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) yn hysbysu’r aelodau am gyhoeddiad diweddaraf Llyfr Achosion Cod Ymddygiad yr Ombwdsmon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog
Monitro adroddiad ar Lyfr Achosion
Cod Ymddygiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (dosbarthwyd
yn flaenorol). Hysbysodd y Swyddog Monitro mai bwriad
y Llyfr Achosion oedd i gynorthwyo aelodau ac eraill i ystyried a yw’r
amgylchiadau yr oeddent yn eu
hwynebu yn arwain at dorri’r Cod. Roedd hefyd yn
rhoi gwybodaeth am y modd yr oedd
yr Ombwdsmon a phwyllgorau safonau eraill yng Nghymru
yn delio gydag achosion. Gofynnodd y Cadeirydd
sut oedd y crynodebau llyfr achosion wedi eu
casglu a theimlwyd bod diffyg manylder mewn mannau yn
eu gwneud yn llai defnyddiol
nag y gallent fod. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro bod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi llunio’r llyfrau
achosion ac nad
oedd diffyg manylder yn debyg
o fod o ganlyniad i ddiogelu data gan fod y materion yn debyg o fod
yn hysbys yn lleol. Ni fyddai
achosion na
ddilynwyd wedi cynnwys gwybodaeth ychwanegol. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Safonau yn nodi’r
wybodaeth sydd yn Llyfr Achos
y Cod Ymddygiad. |
||
PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD Nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd y Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a Chynghorau Sir, Tref a Chymuned a derbyn eu hadroddiadau. Cofnodion: Dywedodd yr
aelod annibynnol Anne
Mellor ei bod wedi mynychu Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru yn
yr Wyddgrug ar 24 Mehefin 2019. Hysbysodd y pwyllgor fod Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi mynychu a rhoi cyflwyniad. Roedd cyflwyniad
Mr Bennett yn cynnwys: • Pwerau deddfwriaethol newydd yr Ombwdsmon
oedd yn ymwneud
â: o Gweithredu ar ei fenter
ei hun heb
dderbyn cwyn o Pwerau i ystyried cwynion ar lafar o Ystyried cwynion iechyd preifat o Yr henoed, cartrefi gofal a phobl ddiamddiffyn.
• Y gwahaniaeth
rhwng trafod cyfeillgar a bwlio gydag arweiniad ar hyn i'w
ddosbarthu yn ddiweddarach yn y flwyddyn. • Pwysigrwydd arweinyddiaeth dda a chyfryngu. • Barn yr Ombwdsmon bod trefn y Safonau yn gwella. Trafododd y Fforwm
y posibilrwydd o Gydbwyllgor
Safonau, gan weld hyn fel posibilrwydd
ond y byddai angen manylion pellach. Byddai’r Fforwm
ei hun yn
cael ei ailenwi
yn Fforwm Safonau Gogledd a Chanolbarth Cymru. O safbwynt cydbwyllgor
safonau, dywedodd y Swyddog Monitro y gallai uno dau
bwyllgor safonau fod yn ddewis
hyfyw ond y byddai uno mwy
na dau
angen newidiadau i’r rheoliadau aelodaeth i’w gwneud
yn dderbyniol. Roedd yn meddwl y byddai
yna werth mewn cydweithio rhwng pwyllgorau safonau hyd yn
oed os nad oedd pwyllgorau yn cael
eu huno’n ffurfiol. Er enghraifft, atgyfeirio achos i bwyllgor safonau arall a oedd
yn fwy addas
i dderbyn yr achos. Cafodd adroddiad
2019 gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd
Cyhoeddus oedd yn adolygu safonau
moesegol llywodraeth leol yng Nghymru
ei godi, o safbwynt defnydd Sir y Fflint o’r adroddiad
i wella safonau yno. Cytunodd y Swyddog Monitro i edrych ar waith Sir y Fflint ar gyfer
enghreifftiau a allai fod yn
ddefnyddiol yn Sir Ddinbych. Roedd aelodau’r
Pwyllgor Anne Mellor a Julia Hughes wedi mynychu cyfarfod
Cyngor Cymuned Llanelidan a gynhaliwyd ar 2 Mai 2019 a rhoddodd adroddiad ar lafar
manwl i’r pwyllgor ar y trafodion. Cyfeiriodd y Swyddog
Monitro at wybodaeth ar ollyngiadau a ddosbarthwyd yn flaenorol i glercod cyngor dinas,
tref a chymuned a byddai’n ailddosbarthu iddynt. Dywedodd y Cadeirydd
ei fod wedi
ymweld â Chyngor Cymuned Llandegla ar 4 Chwefror 2019. Trafododd yr
Aelodau rôl bwysig y clerc ac awgrym Llywodraeth Cymru y gall clercod gael eu cyflogi gan y prif
gynghorau. Awgrymodd y Cadeirydd fod rhai
cynghorau dinas,
tref a chymuned yn ymddangos yn
ei chael hi’n anodd o ganlyniad
i wrthwynebiad gorbwerus gan unigolion lleol
ar faterion unwaith yn unig.
Roedd y pwyllgor
wedi penderfynu yn flaenorol i geisio ymweld â phob cyngor dinas,
tref a chymuned yn Sir Ddinbych unwaith bob 3 neu 4 blynedd ac roedd yr aelodau wedi
nodi’r cynghorau nesaf yr oeddent
yn bwriadu ymweld â nhw. Cytunodd y Swyddog
Monitro i holi (wrth ddosbarthu’r cyngor ar ollyngiadau)
am y dewis iaith mewn cyfarfodydd i gynorthwyo aelodau'r pwyllgor wrth ddewis
eu hymweliadau. Dywedodd y Swyddog
Monitro fod Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal cyfarfod
blynyddol gyda’r cynghorau dinas,
tref a chymuned yn fuan a gallai
roi cyflwyniad byr ar safonau
allweddol. Hefyd cytunodd y gall prif sylwadau’r pwyllgor yn dilyn
ymweliad gael
eu hanfon at y clerc perthnasol ac y byddai’n holi am argaeledd unrhyw gyfleoedd hyfforddiant a ddarperir gan Sir Ddinbych ar gyfer
cynghorau dinas, tref a chymuned. PENDERFYNIWYD bod y pwyntiau uchod yn cael
eu nodi. |
||
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR SAFONAU PDF 175 KB
Cofnodion: Rhoddodd y Swyddog
Monitro adroddiad ar raglen gwaith
i’r dyfodol y pwyllgor (dosbarthwyd yn flaenorol). PENDERFYNWYD: Nodi’r Rhaglen
Gwaith i'r Dyfodol. |
||
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Trefnwyd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau am 10.00 a.m. ar y 6 Rhagfyr 2019 yn ystafell bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun. Cofnodion: Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau ar 6 Rhagfyr 2019 yn Ystafell Gynadledda 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun. |
||
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD - Yn unol
ag Adran 100A (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, bod y Wasg a'r Cyhoedd
yn cael eu
gwahardd o'r cyfarfod tra bod yr eitem ganlynol
o fusnes yn cael ei hystyried,
oherwydd ei bod yn debygol y bydd
gwybodaeth eithriedig yn cael ei
datgelu (fel y'i diffinnir ym
mharagraff 12 ac 13 o Ran 4, Atodlen
12A y Ddeddf). |
||
COD YMDDYGIAD – RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000 Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy’n rhoi trosolwg o gwynion yn erbyn aelodau a gyflwynwyd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog
Monitro adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi trosolwg o gwynion a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Dywedodd y Swyddog
Monitro am gwynion a gyflwynwyd oedd yn cynnwys cynghorau
yn Sir Ddinbych, yn rhoi amlinelliad
o natur y cwynion a wnaed a’r camau
a gymerwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Cadarnhaodd y Swyddog
Monitro cyfryngau cymdeithasol bod cwynion oedd yn ymwneud
â chyfryngau cymdeithasol yn brif ffynhonnell
cwynion i’r Ombwdsmon. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Safonau yn nodi cynnwys yr adroddiad. |