Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan yr Aelod Annibynnol Paula White. |
|
Diolch i’r Aelod Annibynnol Paula White Dywedodd y
Cadeirydd bod cyfnod swydd yr Aelod Annibynnol a’r Is-Gadeirydd, Paula White,
wedi dod i ben. Mae Ms White wedi bod yn rhan o’r pwyllgor ers oddeutu deng mlynedd
(dau dymor), sef y cyfnod mwyaf a ganiateir. Ar ran y pwyllgor dymunodd y
Cadeirydd yn dda iddi a diolchodd iddi am ei phresenoldeb a’i gwaith dros y
blynyddoedd. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Dim. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Dim. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 456 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 30 Mehefin2017 (copi wedi’i amgáu). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2017. Cywirdeb – amlygwyd
dau wall teipograffyddol yn y
Saesneg: Tudalen 6 –
dylai’r paragraff olaf ond un ddweud “agreed”. Tudalen 7 - 4ydd paragraff, mae’r gair ‘imminent’
wedi ei gamsillafu. Materion yn codi - Tudalen 7 – Eitem
5 – Cais Gollyngiad Bodelwyddan. Mae’r Swyddog Monitro wedi ysgrifennu at y
clerc yn nodi penderfyniad y Pwyllgor i gymeradwyo’r cais am ollyngiad. Tudalen 9 – Eitem
8 – Presenoldeb mewn cyfarfodydd. Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n ddefnyddiol
cael rhestr o bob Cyngor Tref, Cymuned a Dinas a dyddiad eu cyfarfodydd misol
ar y fewnrwyd. Dywedodd yr Aelod
Annibynnol J. Hughes bod rhai gwefannau’r cynghorau unigol yn cynnwys manylion
cyswllt, dyddiadau a lleoliadau anghywir. Cytunodd y
Swyddog Monitro i ysgrifennu at bob clerc er mwyn: ·
Cadarnhau
manylion cyswllt y Clerc ·
Gofyn
am restr o’u cyfarfodydd yn ystod y 12 mis nesaf ·
Rhoi gwybod iddynt y bydd Aelod o'r Pwyllgor
Safonau o bosibl yn ymweld â nhw. GW i weithredu Tudalen 10 –
Eitem 9 – Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd. Dywedodd y Cadeirydd y bydd ei
adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir fis Hydref. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2017
fel cofnod cywir yn amodol ar y newidiadau uchod. |
|
LLYFR ACHOSION COD YMDDYGIAD - OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU PDF 201 KB Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi wedi’i amgáu) yn hysbysu’r aelodau o
gyhoeddiadau diweddaraf Llyfr Achosion Cod Ymddygiad yr Ombwdsmon. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffodd y
Swyddog Monitro bod yr Ombwdsmon yn cynnal adolygiad chwarterol sy’n crynhoi’r
holl achosion yr ymchwiliwyd iddynt yn ystod y cyfnod hwnnw. Dywedodd y Swyddog
Monitro bod y llyfr achosion yn ddefnyddiol oherwydd ei fod yn dangos bod yr
Ombwdsmon yn debygol o gynnal ymchwiliadau a gosod y sancsiynau perthnasol. Yn ystod chwarter
Ebrill 2017 – Mehefin 2017 cafwyd 12 achos; gafodd 2 eu cyfeirio at Bwyllgor
Safonau ac 1 at Banel Dyfarnu Cymru. O ran y 9 achos
arall nid oedd angen camau gweithredu pellach oherwydd nad oedd tystiolaeth o
dorri gofynion neu oherwydd nad oedd ymchwilio i’r mater ymhellach o fudd i’r
cyhoedd. Cafodd y 2 achos a gyfeiriwyd at Bwyllgor Safonau eu cyfeirio at Bwyllgor
Safonau Powys ac roeddynt yn ymwneud â 2 aelod a oedd wedi eu herlyn gan y
Cyngor am dorri Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007. Ystyriwyd bod y ddau
gynghorydd wedi dwyn anfri ar eu hawdurdod a chawsant eu gwahardd am bythefnos
a phedair wythnos. Roedd yr achos a ddygwyd i sylw Panel Dyfarnu Cymru
yn ymwneud ag aelod o Gyngor Dinas Caerdydd. Roedd yr honiad yn ymwneud â sylw
a wnaethpwyd y tu allan i wrandawiad llys ynghylch etholwr y cynghorydd. Daeth
y Panel i’r casgliad nad oedd y sylw yn dwyn anfri ar yr awdurdod gan nad oedd
wedi ei wneud yn gyhoeddus. Fodd bynnag, roedd y cynghorydd wedi dangos diffyg
parch ac ystyriaeth ac wedi ymddwyn yn drahaus. Cafodd y cynghorydd ei wahardd
am fis. Roedd yr achos wedi ei gyfeirio at Banel Dyfarnu Cymru yn hytrach na
Phwyllgor Safonau oherwydd ymddygiad blaenorol tebyg. Trafododd y pwyllgor a yw’r cosbau a ddyfarnwyd yn debygol o atal
cynghorwyr rhag torri gofynion. Cydnabuwyd bod Pwyllgorau Safonau yn gwrando ar
amgylchiadau lliniarol a bod embaras weithiau yn sancsiwn ynddo’i hun. Myfyriodd y Pwyllgor ynghylch cwynion yn codi yn sgil camddealltwriaeth neu
angof. Roeddynt yn cydnabod bod cynghorwyr yn gweithio’n galed ac yn aml yn
eistedd ar sawl panel/bwrdd/ysgol/cyngor ac ati, a pho fwyaf yw’r
rhwymedigaethau hyn y mwyaf tebygol ydynt o dorri rheolau. Dywedodd y Swyddog Monitro bod cwrs hyfforddiant yn cael ei drefnu ar
ganllawiau CLlLC ar gyfer aelodau sy’n eistedd ar fyrddau cyrff allanol, a fydd
yn egluro eu cyfrifoldebau a chysylltiadau niweidiol posibl. Awgrymwyd y dylid cylchredeg nodiadau gwybodaeth gyda phwyntiau allweddol
achosion diweddar yr Ombwdsmon i bob cynghorydd ar ôl yr hyfforddiant. GW i weithredu. PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor Safonau yn nodi’r wybodaeth sydd yn Llyfr Achos y Cod Ymddygiad. |
|
HYFFORDDIANT AR Y COD YMDDYGIAD PDF 28 KB Ystyried adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi wedi’i amgáu). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffodd y Swyddog
Monitro bod Cod Ymddygiad Cynghorwyr Sir yn ei gwneud yn ofynnol i aelodau
etholedig fynychu o leiaf un sesiwn hyfforddiant ar y cod ym mhob tymor Cyngor. Yn ystod y sesiwn hyfforddiant ar gyfer
Cynghorwyr Sir ar 11 Mai 2017 roedd 31 yn bresennol, llawer ohonynt wedi dal
swydd cynghorydd o’r blaen. Roedd un Cynghorydd Sir, nad oedd yn gallu
mynychu'r cyfarfod hwn, wedi mynychu sesiwn amgen a gynhaliwyd ar gyfer
Cynghorwyr Tref, Cymuned a Dinas. Bydd sesiwn hyfforddiant arall ar 12 Hydref
2017 ar gyfer y 15 Cynghorydd Sir sy’n weddill. Mae nifer o sesiynau wedi eu cynnal ym mis Mehefin ar gyfer cynghorwyr a
chlercod Cynghorau Tref a Chymuned. Bu
i 78 Cynghorydd Tref a Chymuned fynychu’r sesiynau hyn, allan o’r 377 sedd a
geir yn Sir Ddinbych. Dywedwyd bod y tabl yn Atodiad 1 yn rhestru Llangollen ddwywaith, gofynnodd
y Pwyllgor am eglurhad gan y Swyddog Monitro. GW i
ymchwilio i hyn. Mae Cyngor Tref Prestatyn a
Llanarmon/Llandegla wedi gofyn am hyfforddiant unigol, a fydd yn cael ei
ddarparu yn ddiweddarach. Roedd Cyngor Tref Bodelwyddan wedi gofyn a oedd modd
iddynt fynychu’r sesiwn hyfforddiant nesaf i Gynghorwyr Sir, ond ni fyddai
hynny’n briodol. Bydd y Swyddog Monitro yn darparu dyddiad amgen iddynt.
Awgrymodd y Cadeirydd y dylid gwahodd cynghorau cyfagos os oedd hyfforddiant yn
cael ei gynnal gerllaw. Trafododd y Pwyllgor y mater ynghylch un clerc
yn gweinyddu sawl cyngor gwahanol, yn enwedig y risg sy’n gysylltiedig â diffyg
cynllun wrth gefn petai’r clerc yn gadael heb drosglwyddo’r awenau i glerc
newydd. Dywedodd yr Aelod Annibynnol, J. Hughes, ei
bod wedi mynychu hyfforddiant Cod Ymddygiad HWB Dinbych ym mis Gorffennaf.
Roedd yn ddiddorol tu hwnt a dywedodd bod y cyfranogwyr yn frwdfrydig iawn, gan
ymgysylltu’n llwyr a chymryd rhan yn y gweithgareddau. Roedd yn amlwg bod rhai
senarios a drafodwyd yn berthnasol iddynt ac roedd yn gyfle gwych iddynt ofyn
cwestiynau. Dywedodd y Cadeirydd ei fod yntau hefyd wedi
mynychu sesiwn hyfforddiant ar 11 Gorffennaf. Roedd yn canmol y ffordd y bu i’r
Swyddog Monitro a'r Dirprwy Swyddog Monitro gynnal y sesiwn. Cafodd
cysylltiadau personol a niweidiol eu hegluro’n glir, gyda nifer o enghreifftiau
perthnasol wedi eu darparu. Roedd yr hyfforddeion yn cael ei hannog i drafod y
materion a godwyd a chymryd rhan. Y neges a ledaenwyd oedd bod ymddygiad da yn golygu llywodraeth leol fwy
effeithiol. PENDERFYNWYD bod y
Pwyllgor Safonau yn: 1. derbyn ac
yn nodi’r hyfforddiant Cod Ymddygiad a ddarparwyd hyd yma; ac yn 2. adolygu ac
yn ystyried gofynion hyfforddiant pellach ar ôl i sesiynau hyfforddiant yr
hydref gael eu cynnal. |
|
PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD Nodi presenoldeb
aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a
derbyn eu hadroddiadau. Cofnodion: Dywedodd yr Aelod
Annibynnol, A. Mellor, y bydd yn ymweld â Chyngor Cymuned Trefnant fis Hydref. Mynychodd yr Aelod Annibynnol, J. Hughes (JH), gyfarfod o Gyngor Cymuned Clocaenog ar 18 Gorffennaf 2017. Dywedodd JH bod hwn yn gyngor wedi ei weinyddu gan glerc sy’n rhedeg sawl cyngor cymuned. Dywedodd JH bod y
clerc wedi arwain y cyfarfod ac er bod yr aelodau yn cymryd rhan lawn y clerc
oedd yn tueddu i ymgymryd â’r tasgau. Cytunodd y Pwyllgor mai Cadeirydd y
Cyngor ddylai arwain cyfarfodydd ac mai rôl y clerc yw cynghori. Holwyd a
fyddai hyfforddiant o fudd i gadeiryddion. Gofynnwyd i JH am
ei barn ar wefan y Cyngor a pha wybodaeth bellach fyddai’n ddefnyddiol ei chael
arni. Dywedodd JH bod y cyfarfod yn ddiddorol iawn a’i bod wedi cael croeso
cynnes. Mae JH hefyd wedi
derbyn gwahoddiad i fynychu cyfarfod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth
Ariannol. Roedd JH dan yr argraff bod y cyfarfod hwn yn cynnwys nifer o bobl,
ond cyfarfod un-i-un gydag aelod o’r panel ydyw mewn gwirionedd. Ymddiheurodd y
Swyddog Monitro nad oedd JH wedi derbyn nodyn briffio ac eglurodd bwrpas Panel
Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Mae’r Panel yn pennu: ·
Cyflog
sylfaenol pob cynghorydd sir ·
Cyflogau
uwch aelodau cabinet ·
Taliadau
cadeiryddion pwyllgorau craffu a’r cyngor ·
Cyflog
arweinydd yr wrthblaid fwyaf ·
Cap
ar nifer y cyflogau uwch i’w talu ·
Taliadau
i aelodau cyfetholedig ac aelodau lleyg ·
Rheolau
o ran treuliau a dyfeisiau cyfathrebu ac ati Mae’r symiau hyn
wedi eu nodi yn Adroddiad Blynyddol y Panel. Mae’r adroddiad blynyddol drafft
yn cael ei gynhyrchu yn yr hydref (dyna pam bod y cyfarfodydd diweddar wedi eu
trefnu) ac mae’r adroddiad terfynol fel rheol yn barod fis Chwefror ac yn cael
ei fabwysiadu yn ystod blwyddyn nesaf y cyngor. Dywedodd JH bod
yr aelod o’r panel eisiau gwybod pa waith yr oedd y Pwyllgor Safonau yn
ymgymryd ag o; y math o weithgaredd; ar gyfer beth yr oeddynt yn cael eu talu;
a pha wybodaeth y mae aelodau’r pwyllgor wedi ei dderbyn ynglŷn â’r hyn y
gallant ei hawlio. Teimlodd JH,
oherwydd y byddant yn llenwi seddi gwag ar y pwyllgor gyda hyn, ei bod yn
briodol trafod ac egluro: 1.
yr
hyn y mae modd i aelodau ei hawlio; 2.
a’r
hyn sydd y tu hwnt i gylch gwaith y Pwyllgor e.e. a oes yn rhaid i aelodau
fynychu cyfarfodydd Cynghorau Tref a Chymuned os nad oes ganddynt gar neu os
oes ganddynt gyfrifoldebau gofalu Cytunodd y
Cadeirydd bod angen rhoi fframwaith cliriach ar waith. Mae ar yr aelodau angen
gwybod ar gyfer beth y mae modd iddynt dderbyn tâl ar ei gyfer. Gofynnodd am
gadarnhad ynghylch ai 10 diwrnod y flwyddyn yw nifer y dyddiadau taledig y gall
aelodau lleyg eu derbyn. GW i edrych i
mewn i hyn. PENDERFYNWYD: 1. nodi’r
presenoldeb a diweddaru’r adroddiad presenoldeb 2. cylchredeg
y cynllun taliad cydnabyddiaeth presennol ar gyfer aelodau lleyg 3. rhoi
eitem ar daliadau cydnabyddiaeth / cyfrifoldebau aelodau lleyg ar raglen y
Pwyllgor Safonau ar gyfer 8 Rhagfyr 2017. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y PWYLLGOR SAFONAU PDF 179 KB Ystyried Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau (copi wedi’i amgáu). Cofnodion: Dywedodd y
Swyddog Monitro bod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau yn cael ei gynnal yr un
pryd â Fforwm Safonau Gogledd Cymru yn Wrecsam ar 24 Tachwedd 2017. Cytunodd y
Pwyllgor i aildrefnu’r cyfarfod ar gyfer 8 Rhagfyr 2017. Cyflwynwyd
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau i’w hystyried a chytunodd yr
aelodau ar yr ychwanegiadau canlynol:- ·
’‘Taliad
cydnabyddiaeth a chyfrifoldebau aelodau lleyg’ ac ·
‘Adolygu’r
Protocol Hunan Reoleiddio a’i ddefnyddio gan Gynghorau Tref, Cymuned a Dinas’
at raglen cyfarfod mis Rhagfyr ,PENDERFYNWYD, yn amodol ar ychwanegu’r uchod, bod y
Pwyllgor Safonau’n cytuno ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Trefnwyd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau ar gyfer 24 Tachwedd 2017 Cofnodion: Atgoffwyd yr aelodau bod cyfarfod nesaf y Pwyllgor
Safonau wedi ei ail-drefnu ar gyfer 10am dydd Gwener 8 Rhagfyr yn Ystafell y
Cabinet, Neuadd y Sir, Rhuthun. |
|
COD YMDDYGIAD - RHAN 3 DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000 Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Swyddog Monitro (copi wedi’i amgáu) sy’n rhoi
trosolwg o gwynion yn erbyn aelodau a gyflwynwyd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Monitro
adroddiad cyfrinachol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) a oedd yn rhoi trosolwg i'r
Aelodau o’r cwynion a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ers 1
Ebrill 2014. Roedd y Pwyllgor Safonau eisoes
wedi gofyn am gael gwybod yn rheolaidd am lefel y cwynion a gyflwynwyd i
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’r tablau yn Atodiad 1 yn rhoi
trosolwg o’r cwynion a gyflwynwyd ers 1 Ebrill 2014. Amlygodd y Swyddog
Monitro nad yw’r tabl wedi newid ers y chwarter diwethaf a dywedodd ei fod yn ymwybodol o ddwy
gŵyn a fydd o bosibl yn ymddangos ar yr adroddiad chwarterol nesaf. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Safonau yn derbyn ac yn nodi cynnwys
yr adroddiad. Daeth y cyfarfod i ben am 11.45am. |