Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 188 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Gwyneth Ellis, Justine Evans, Merfyn Parry ac Arwel Roberts.

 

 

2.

DATGANIADAU O GYSYLLTIAD pdf eicon PDF 199 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Cheryl Williams gysylltiad personol ag eitem 6 ar y rhaglen, gan ei bod yn adnabod yr ymgeisydd.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD pdf eicon PDF 656 KB

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd cais am Orchymyn Diogelu Coed (GDC) a ddosbarthwyd i aelodau fel atodiad.  Nododd y Cadeirydd y byddai’r eitem hon yn cael ei thrafod ar ddiwedd y cyfarfod.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 378 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 9 Hydref 2024 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 9 Hydref 2024. 

 

Materion cywirdeb –

Paragraff datgan cysylltiad - roedd y testun ymddiheuriadau wedi cael ei ddyblygu dan yr eitem datgan cysylltiad.  Fe ddylai ddweud - ‘dim’.

 

Tudalen 9 - Tir ar Fferm Midnant, Gronant Road, Prestatyn  - fe ddylai ddweud ‘roedd swyddogion wedi ystyried yr angen am dai ym Mhrestatyn ar ôl i safle blaenorol gael ei dderbyn ar gyfer anheddau y tu allan i’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)’ yn hytrach na ‘dywedodd y Cadeirydd fod angen am dai preswyl yn yr ardal oherwydd bod y safle wedi cael ei dderbyn ar gyfer anheddau y tu allan i ardal y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)’.

 

Ni thrafodwyd unrhyw faterion sy’n codi.

 

PENDERFYNWYD:  

 

Yn amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Hydref fel cofnod cywir.

 

 

5.

CAIS RHIF 47/2023/0838 - EGLWYS MC, TREMEIRCHION pdf eicon PDF 170 KB

Ystyried cais i drawsnewid capel i ffurfio annedd yn cynnwys dymchwel ac ailadeiladu adeilad festri a chodi estyniad unllawr, ffurfio mynedfa i gerbydau, maes parcio a gwaith cysylltiedig (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i drawsnewid capel i ffurfio annedd yn cynnwys dymchwel ac ailadeiladu adeilad festri a chodi estyniad unllawr, ffurfio mynedfa i gerbydau, maes parcio a gwaith cysylltiedig.

 

Roedd y Siaradwr Cyhoeddus - Nigel Heckman (o blaid) wedi cyflwyno cais i newid defnydd Capel Tremeirchion.  Roedd Mr Heckman a’i wraig yn breswylwyr hirsefydlog yn Nhremeirchion, nid ydynt yn ddatblygwyr eiddo ac roedd arnynt eisiau creu eiddo preswyl at eu defnydd eu hunain.

 

D1 yw categori cynllunio presennol yr eiddo, sy’n golygu y gallai’r ymgeisydd ddefnyddio’r eiddo fel meithrinfa dydd neu crèche ynghyd â sawl defnydd arall heb gyflwyno cais i’r Pwyllgor Cynllunio.  Byddai cynnig yr ymgeisydd i newid defnydd yr eiddo i eiddo preswyl yn lleihau’r effaith ar briffyrdd a’r amgylchedd yn sylweddol. 

 

Dros y 12 mis diwethaf, ers cyflwyno’r cais i’r Adran Gynllunio, roedd sawl gwrthwynebiad wedi cael eu cyflwyno.  Cynhaliwyd cyfarfodydd â’r Swyddog priffyrdd a diwygiwyd y cynlluniau i fodloni argymhellion y Swyddog.  Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau mewn perthynas ag effaith weledol yr eiddo gan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.  Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymeradwyo’r systemau draenio ar y cynlluniau arfaethedig a diwygiwyd y cynlluniau blaenorol i’w cymeradwyo gan y Swyddog Ecoleg a byddai trwydded yn cael ei cheisio gan Gyfoeth Naturiol Cymru i ddiogelu’r ystlumod, adar a rhywogaethau eraill. 

 

Derbyniwyd gwrthwynebiadau mewn perthynas â’r eiddo’n cysgodi eiddo cyfagos.  Roedd y cynlluniau a gyflwynwyd yn bodloni rheoliadau cynllunio ac adeiladu, a byddai wal dalcen y festri’n cael ei chadw yn ogystal â wal 3 troedfedd ar ymyl y ffordd i gynnig amddiffyniad pellach i’r cymydog.

 

Gan ystyried y pwyntiau a godwyd uchod a’r newidiadau sylweddol a wnaed i’r cais cynllunio dros y 12 mis diwethaf, roedd yr ymgeisydd yn gofyn i’r Pwyllgor Cynllunio bleidleisio o blaid y cais cynllunio.

 

Diolchodd y Siaradwr Cyhoeddus - Bethan Owens (yn erbyn) i’r Pwyllgor am ganiatáu iddi siarad yn erbyn y cais cynllunio.

 

Tynnwyd sylw aelodau at y cais a gyflwynwyd ar 4 Tachwedd 2023 a’r anghysondebau o fewn y cais hwn. 

 

Yn y Datganiad Dylunio a Mynediad a gyflwynwyd ar 29 Mai 2024, roedd rhywfaint o anghysondeb o fewn y cynllun lleoliad a’r cynllun bloc, gan gynnwys y datganiad y byddai gwaith trin carthffosiaeth gwastraff domestig newydd yn darparu system ddraenio, fodd bynnag, nid oedd y wybodaeth hon yn cyd-fynd a’r wybodaeth ddiweddaraf.  Deallwyd dan Ddeddf Gynllunio Cymru y byddai ceisiadau sydd â gwybodaeth ar goll neu’n cynnwys gwybodaeth anghywir yn cael eu hystyried yn annilys neu’n cael eu diystyru nes byddai’r gwallau hyn wedi’u cywiro. 

 

Ni ddarparwyd Datganiad o Effaith mewn perthynas â sut fyddai’r ymgeisydd yn cyfyngu unrhyw amhariad i breswylwyr a defnyddwyr ffordd yn ystod y gwaith clirio ac adeiladu.  Roedd gwrthwynebiadau cryf i nifer o agweddau o’r ystyriaethau cynllunio hanfodol.

 

Roedd yn anffodus nad oedd unrhyw ddymuniad i gadw’r adeilad fel canolfan gymunedol.  Byddai’r cais yn cysgodi ac yn edrych dros Tŷ Capel, ac amwynderau’n cael eu colli’n llwyr.  Nid oedd edrychiad, cymeriad na graddfa’r eiddo’n cyd-fynd â’r ardal leol ac roedd yn orddatblygiad sylweddol ar safle cymharol fychan. 

 

Anogwyd y Pwyllgor i wrthod y cais yn sgil anghysondeb sylweddol a newidiadau i’r cais cynllunio.

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Amlygodd y Prif Swyddog Cynllunio’r wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd yn y sylwadau hwyr.  O ran y cwestiynau a godwyd mewn perthynas â draenio, cadarnhawyd bod y cynllun safle a gyflwynwyd, wrth ei ddarllen ar y cyd â’r cynllun draenio, yn dangos bwriad i gadw’r cysylltiad presennol â’r tanc septig presennol, gan ddisodli’r tanc septig â gwaith trin preifat.

 

O ran diogelwch ffyrdd, yn ystod proses ymgynghori (pe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo)  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CAIS RHIF 45/2024/1019 - 1 FFORDD WELLINGTON, Y RHYL, LL18 1AY pdf eicon PDF 98 KB

Ystyried cais i newid defnydd o siop (dosbarth A1) i fwyty/siop bwyd poeth i fynd (dosbarth A3) a gosod blaen siop newydd (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i newid defnydd o siop (dosbarth A1) i fwyty/siop bwyd poeth i fynd (dosbarth A3) a gosod blaen siop newydd.

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Roedd y Cynghorydd Alan James yn deall fod pryderon wedi cael eu codi mewn perthynas â’r briffordd o flaen yr uned fanwerthu, fodd bynnag, roedd yr adeilad wedi bod yn wag ers amser hir felly roedd dirywiad yn anochel.  Roedd arferion manwerthu a’r defnydd o strydoedd mawr wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf ac roedd y newid defnydd yn ffordd o ailwampio a dod â’r adeilad yn ôl i ddefnydd.  Cynigodd y Cynghorydd Alan James y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y Swyddog.

 

Nododd y Cynghorydd Gareth Sandilands ei fod yn ymwybodol o leoliad yr uned fanwerthu a’i fod yn bryderus am y briffordd brysur a’r achosion o barcio anghyfreithlon a oedd yn cyfyngu gwelededd cerbydau sy’n pasio.  Nodwyd hefyd y nifer uchel o siopau bwyd i fynd yn yr ardal hon.  

 

Mynegodd y Cynghorydd Ellie Chard bryderon pellach am y briffordd a lleoliad yr eiddo.

 

Eglurodd y Rheolwr Datblygu bod llefydd parcio ar gael o amgylch canol y dref, a bod unrhyw achosion o barcio anghyfreithlon yn fater i’r Heddlu.  Roedd cynnydd wedi bod yn nifer y ceisiadau i’r Tîm Cynllunio am newid defnydd eiddo manwerthu gwag mewn canol trefi ac roedd angen cydbwysedd wrth ystyried y ceisiadau hyn.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y pryderon a godwyd gan y Bwrdd Iechyd mewn perthynas â’r cynnydd yn y defnydd o fwyd poeth a’r effaith ar iechyd a lles cymunedau.   Nododd y Rheolwr Datblygu na allai swyddogion fod yn bendant y byddai’r cais penodol hwn i newid defnydd adeilad yn cael effaith negyddol sylweddol a fyddai’n cyfiawnhau gwrthod y cais.

 

Nododd y Cynghorydd Andrea Tomlin bryderon pellach mewn perthynas â’r lleoliad a’r briffordd a nododd y byddai cymeradwyo’r cais yn gwaethygu’r problemau traffig a oedd eisoes yn bodoli.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts p’un a fyddai modd i’r eiddo gael ei ddefnyddio at ddefnydd amgen dan y categori A1 presennol, er enghraifft, fel Fferyllfa, heb unrhyw amodau cynllunio.  Nododd y Rheolwr Datblygu bod sawl opsiwn manwerthu ar gael dan y defnydd categori A1 presennol ac roedd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yn gywir na fyddai angen unrhyw amodau cynllunio.  Byddai hyn yn codi’r un pryderon mewn perthynas â cherbydau’n defnyddio’r briffordd. 

 

Nododd y Cynghorydd Terry Mendies na ddylai’r Pwyllgor ganolbwyntio ar y pryderon/materion posibl yn y dyfodol.  Roedd hwn yn gais am newid defnydd eiddo a dylid ei ystyried ar ei rinweddau ei hun.  EILIODD y Cynghorydd Terry Mendies y cynnig i gymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y Swyddog.

 

Pleidlais –

O blaid – 6

Yn erbyn – 8

Ymatal – 1

 

PENDERFYNWYD: Peidio â chymeradwyo’r cais cynllunio yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

CYNIGODD y Cynghorydd Andrea Tomlin y dylid gwrthod y cais yn sgil pryderon diogelwch ffyrdd. 

 

EILIODD y Cynghorydd Ellie Chard y cynnig i wrthod y cais ac ychwanegodd y posibilrwydd o niwed i iechyd y gymuned yn sgil y cynnydd mewn defnyddiau dosbarth A3 fel rheswm dros wrthod. 

 

Pleidleisiodd y Pwyllgor ar y rhesymau a gynigwyd dros wrthod y cais.

 

Pleidlais –

O blaid – 3

Yn erbyn – 9

Ymatal – 3

 

PENDERFYNWYD:  Peidio â gwrthod y cais cynllunio am y ddau reswm a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Andrea Tomlin a’r Cynghorydd Ellie Chard.

 

CYNIGODD y Cynghorydd Andrea Tomlin y dylid gwrthod y cais yn sgil pryderon diogelwch ffyrdd gan fod y safle’n agos at gyffordd brysur, ac EILIWYD hynny gan y Cynghorydd Chris Evans.

 

Pleidlais –

O blaid – 11

Yn erbyn – 2

Ymatal – 2

 

PENDERFYNWYD:  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CAIS RHIF 24/2023/0566 - TIR GER BRO FAIR, FFORDD YR ORSAF, RHEWL pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i godi stabl, creu llawr caled a ffordd fynediad, tirlunio a gwaith cysylltiedig (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi stabl, creu llawr caled a ffordd fynediad, tirlunio a gwaith cysylltiedig (copi ynghlwm).

 

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau gan y Cadeirydd neu aelodau’r Pwyllgor Cynllunio.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Karen Edwards y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac fe EILIWYD hynny gan y Cynghorydd Delyth Jones.

 

Pleidlais –

O blaid – 15

Yn erbyn – 0

Ymatal – 0

 

PENDERFYNWYD: y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

 

8.

MATER BRYS - CADARNHAU GORCHYMYN CADW COED (GCC)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd y Prif Swyddog Cynllunio i aelodau fod y Cyngor wedi gwneud Gorchymyn Diogelu Coed dros dro ar 15 Mai 2024, o’r enw Gorchymyn Diogelu Coed Cyngor Sir Ddinbych (Tref Rhuthun) Rhif: 4(2024) Tir rhwng y Rheithordy a Brackendene, Llanbedr Dyffryn Clwyd (GDC 4 (2024)).  Mae Swyddog Coed y Cyngor wedi cynnal asesiad o’r goeden ac wedi cyflwyno cais bod y Llarwydden Ewropeaidd (Larix decidua) (TL1) yn cael GDC gan fod y goeden yn bodloni’r meini prawf perthnasol ac angen ei diogelu. Cwblhaodd y Swyddog Coed Ddull Gwerthuso Coed ar gyfer Gorchmynion Diogelu yn cadarnhau bod gan y goeden bwysigrwydd cynefin a’i bod dan fygythiad uniongyrchol gan ddatblygiad. Mae Swyddog Coed y Cyngor yn ystyried bod gwerth y goeden yn cyfrannu at gymeriad yr ardal sy’n golygu bod angen ei hamddiffyn. Trwy osod GDC ar y goeden mae’n amlygu wrth yr holl bartïon cysylltiedig ei bod wedi ei hamddiffyn a bod mwy o reolaeth dros y goeden yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Terry Mendies a fyddai GDC 4 (2024) yn cael effaith ar gynlluniau’r datblygwr ar gyfer yr ardal o dir ger y goeden.  Nododd y Prif Swyddog Cynllunio na fyddai GDC 4 (2024) yn cael effaith ar y cais Datblygu Tai a oedd eisoes wedi’i gymeradwyo ar gyfer yr ardal hon o dir. 

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Alan James y dylid CADARNHAU GDC 4 (2024) yn unol ag argymhellion y swyddog, ac fe EILIWYD hynny gan y Cynghorydd Karen Edwards.

 

Pleidlais –

O blaid – 15

Yn erbyn – 0

Ymatal – 0

 

PENDERFYNWYD: CADARNHAU Gorchymyn Diogelu Coed Cyngor Sir Ddinbych (Tref Rhuthun) Rhif: Rhif 4 (2024) rhwng y Rheithordy a Brackendene, Llanbedr Dyffryn Clwyd heb ei addasu i roi amddiffyniad parhaus i’r Llarwydden Ewropeaidd (Larix decidua) (T1) yn unol ag argymhellion y Swyddog.

 

           Daeth y cyfarfod i ben am 11.20am