Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 185 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Ellie Chard, Raj Metri ac Elfed Williams.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Andrea Tomlin gysylltiad personol yn eitem 6 (30 Stryd Bedford, Y Rhyl) gan fod y Cynghorydd Tomlin yn adnabod yr ymgeisydd.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, gael eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 378 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 24 Mai 2023 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 24 Mai 2023.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y byddai cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mai 2023 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

 

5.

CAIS RHIF 09/2022/1080/PF - TIR GYFERBYN Â PHORTH Y WAEN, ABERCHWILER, DINBYCH pdf eicon PDF 78 KB

Ystyried cais i newid defnydd tir amaethyddol i lunio tir amwynder cymunedol, creu mynedfa newydd i gerbydau a maes parcio, ynghyd â gwaith cysylltiedig, ar y Tir gyferbyn â Phorth y Waen, Aberchwiler, Dinbych (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i newid defnydd tir amaethyddol i lunio tir amwynder cymunedol, creu mynedfa newydd i gerbydau a maes parcio, ynghyd â gwaith cysylltiedig (rhannwyd eisoes).  Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 24 Mai 2023, penderfynwyd rhoi’r caniatâd cynllunio. Gan fod hynny’n mynd yn groes i argymhelliad y Swyddog i wrthod y cais, gofynnodd yr aelodau i’r Swyddogion ddrafftio cyfres o amodau cynllunio a chaniatáu i’r Pwyllgor Cynllunio gytuno arnyn nhw cyn cyhoeddi unrhyw benderfyniad.   Gofynnwyd am gymeradwyaeth yr Aelodau i osod yr amodau ar y caniatâd cynllunio.

 

Trafodaeth Gyffredinol

 

Diolchodd y Cynghorydd Merfyn Parry (aelod lleol) i'r swyddogion am y cyfathrebu, a wnaethpwyd wrth lunio'r amodau yn dilyn y drafodaeth yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cynllunio.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry y dylid cymeradwyo'r amodau a restrir yn yr adroddiad, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Peter Scott.

 

PLEIDLAIS

O blaid 17

Yn erbyn 0

Ymatal – 0

 

PENDERFYNWYD CANIATÁU’R cais cynllunio yn unol â’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

6.

CAIS RHIF 45/2022/0644/PF - 30 STRYD BEDFORD, Y RHYL pdf eicon PDF 155 KB

Ystyried cais i newid defnydd o swyddfeydd i ffurfio annedd yn 30 Stryd Bedford, y Rhyl (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i newid defnydd swyddfeydd i ffurfio annedd a chytuno ar amod arfaethedig yn 30 Stryd Bedford, Y Rhyl (rhannwyd eisoes). Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 24 Mai 2023, penderfynwyd rhoi caniatâd cynllunio. Gan fod hynny’n mynd yn groes i argymhelliad y Swyddog i wrthod y cais, gofynnodd yr Aelodau i’r Swyddogion ddrafftio cyfres o amodau cynllunio a chaniatáu i’r Pwyllgor Cynllunio gytuno arnyn nhw cyn cyhoeddi unrhyw benderfyniad.   Gofynnwyd am gymeradwyaeth yr Aelodau i osod yr amodau ar y caniatâd cynllunio.

 

Trafodaeth Gyffredinol

 

Diolchodd y Cynghorydd Alan James (aelod lleol) i’r holl swyddogion am eu cymorth gyda’r amodau a gyflwynwyd i aelodau i’w hystyried yn y cyfarfod heddiw.

 

Diolchodd y swyddogion i’r aelod lleol am y cyflwyniad ac arweiniodd aelodau tuag at y daflen sylwadau hwyr, a rannwyd cyn y cyfarfod a thynnwyd sylw at newid i amod 3. Byddai’r amod yn cyfyngu’r newid defnydd i ddefnydd annedd C3(a) yn unig ac nid at unrhyw ddiben arall (gan gynnwys unrhyw ddiben arall yn nosbarth C o’r atodlen i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987(diwygiedig) (neu mewn unrhyw ddarpariaeth sy'n cyfateb i'r dosbarth hwnnw mewn unrhyw offeryn statudol sy'n dirymu ac yn ailddeddfu'r gorchymyn hwnnw gyda neu heb addasiad). Eglurodd y swyddogion mai'r bwriad oedd sicrhau bod y cynnig yn darparu annedd i'r gymuned.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Alan James y dylid cytuno â’r amodau ac eiliwyd gan y Cynghorydd Win Mullen James.

 

PLEIDLAIS

O blaid 17

Yn erbyn 0

Ymatal – 0

 

PENDERFYNWYD CANIATÁU’R cais cynllunio yn unol â’r amodau a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

7.

FFERM WYNT MONA - PROSIECT ISADEILEDD SYLWEDDOL CENEDLAETHOL pdf eicon PDF 282 KB

Derbyn adroddiad (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth Aelodau i gyflwyno ymateb ffurfiol i’r ymgynghoriad cyn ymgeisio ar ran y Cyngor.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Rheoli Datblygu adroddiad prosiect isadeiledd sylweddol cenedlaethol fferm wynt alltraeth Mona (a rannwyd eisoes), yn gofyn am gymeradwyaeth yr aelodau i gyflwyno ymateb ffurfiol i’r ymgynghoriad cyn ymgeisio ar ran y Cyngor.

 

Arweiniodd y swyddogion yr aelodau at Atodiad 1 yn yr adroddiad, gan nodi'r holl bryderon a godwyd yn ystod y cyfnod cyn-ymgynghori. Sicrhaodd y swyddog yr aelodau y byddai llawer o gyfleoedd i godi pryderon yn ystod proses y cais; fodd bynnag, roeddent yn hapus i dderbyn unrhyw sylwadau neu ychwanegiadau a oedd gan yr aelodau i’w cynnwys yn yr ymateb i'r ymgynghoriad cyn ymgeisio.

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Mynegodd y Cynghorydd James Elson bryderon ynghylch y prosiect, yn enwedig natur gynyddol y cynigion yng Nghefn Meiriadog. Roedd yn derbyn bod angen ynni adnewyddadwy; fodd bynnag, awgrymodd y dylid defnyddio dull holistaidd i leihau'r effaith ar y gymuned wledig. Awgrymodd y Cynghorydd Elson y posibilrwydd o gael is-orsaf o’r lan i ddod â'r holl brosiectau ynghyd, yna un llinell i mewn i'r tir, a fyddai'n ddelfrydol ar safle tir llwyd.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Merfyn Parry y dylid cynhyrchu adroddiad effaith ar iechyd i ganfod effeithiau tymor byr a hirdymor dod i gysylltiad â meysydd electromagnetig (EMF) a'r cysylltiadau posibl â lewcemia ymhlith plant; Eiliwyd y pryderon hyn gan y Cynghorydd Chris Evans.

 

Adleisiodd y Cynghorydd Peter Scott y pryderon yr oedd y Cynghorydd Elson wedi’u codi; yr effaith gynyddol oedd y prif fater, a fyddai'n effeithio'n sylweddol ar ardal fach.

 

Diolchodd y Rheolwr Rheoli Datblygu i’r aelodau am y sylwadau cyn ymgynghori ar y prosiect, a rhoddodd grynodeb o’r hyn a fyddai’n cael ei gynnwys yn yr ymateb fel sylwadau gan y Pwyllgor Cynllunio –

 

·         pwysleisio’r angen am ddull gweithredu holistaidd; 

·         codi effeithiau hirdymor ar iechyd ac; 

·         effaith hirdymor materion EMF, effeithiau ar Lanelwy (llwybrau traffig ac ati).

 

Cynigiodd y Cynghorydd James Elson y dylid rhoi cymeradwyaeth i gyflwyno’r sylwadau a nodir yn ATODIAD 1 fel ymateb ffurfiol y Cyngor i ymgynghoriad cyn-ymgeisio statudol y datblygwr ar fferm wynt alltraeth arfaethedig Mona, gan ychwanegu’r sylwadau a nodir uchod gan y Pwyllgor Cynllunio, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Peter Scott.

 

PLEIDLAIS

O blaid 17

Yn erbyn 0

Ymatal – 0

 

PENDERFYNWYD CYMERADWYO'R ymateb cyn-ymgynghori yn ogystal â'r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Cynllunio

 

Dywedodd y Rheolwr Rheoli Datblygu wrth y pwyllgor, unwaith y byddai'r newidiadau wedi'u gwneud, y byddai'r aelodau lleol yn cael gweld yr ymateb cyn iddo gael ei anfon.

Daeth y cyfarfod i ben am 11:00am