Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau pdf eicon PDF 185 KB

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan cysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Alan James gysylltiad personol yn eitem rhif 9  (Roger W Jones Ltd) gan fod ganddo gyfrif adeiladwyr gweithredol.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 374 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd 7 Medi 2022 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 7 Medi 2022.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Medi fel cofnod cywir.

 

Cyflwynwyd ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau cysylltiedig. Cyfeiriwyd hefyd at y wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r rhaglen ac a oedd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol a oedd yn ymwneud â’r ceisiadau hynny. Er mwyn caniatáu ceisiadau gan aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn y ceisiadau ar y rhaglen.

 

5.

CAIS RHIF 01/2021/0850/ PF - PARC CARAFANAU TEITHIOL LLEWENI, PARC LLEWENI, FFORDD YR WYDDGRUG, DINBYCH LL16 4BW pdf eicon PDF 249 KB

Ystyried cais i gymeradwyo cynllun i ffurfio 14 llain ychwanegol ar gyfer carafanau teithiol, traciau mynediad a llwybrau mewnol, cysylltu â’r tanc septig presennol, plannu, tirlunio a gwaith cysylltiedig ym Mharc Carafanau Teithiol Lleweni, Ffordd yr Wyddgrug, Dinbych (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i newid y cynllun a gymeradwywyd i ffurfio 14 llain ychwanegol ar gyfer carafanau teithiol, traciau mynediad a llwybrau mewnol, cysylltu â’r tanc septig presennol, plannu, tirlunio a gwaith cysylltiedig ym Mharc Carafanau Teithiol Lleweni, Parc Lleweni, Ffordd yr Wyddgrug, Dinbych.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

Rhoddodd Rodney Witter (o blaid) hanes byr o’r safle a’r cefndir ar gyfer y cais.   Cymerodd y perchnogion presennol warchodaeth dros y tir yn 1989.   Roedd y Pwyllgor Cynllunio wedi bod o gymorth yn y gorffennol a chafwyd caniatâd cynllunio yn yr 1990au i adfer yr adeiladau i’r 17 tŷ gwych yn Lleweni ar hyn o bryd.   Dechreuodd y gwaith o adfer yr hen lwyni ac yn 1990 bu i’r Pwyllgor Cynllunio gymeradwyo 10 carafán i’r ardal gychwynnol.   Yn nes ymlaen, wrth adfer rhan bellach, unwaith eto bu i’r Pwyllgor Cynllunio gytuno yn unfrydol i gynyddu i 20 carafán.   Yn dilyn pryderon o ran nifer y symudiadau gan y carafanau ar hyd lôn gul y maes awyr, a oedd ei angen bob 28 diwrnod, newidiodd y Pwyllgor Cynllunio’r amod a chaniatáu'r carafanau i aros ond i’w defnyddio am 28 diwrnod ar y tro yn unig, sydd bellach yn cael ei gofnodi mewn dyddiadur electronig.   Roedd y gwaith o adfer y llwyni bellach wedi'i gwblhau a fyddai’n galluogi 14 llain ychwanegol ar gyfer carafanau yn yr ardal breifat ac sydd o’r golwg.   Byddai hwn yn encil tawel i’r gwesteion sy’n gwerthfawrogi atyniadau Dyffryn Clwyd.   Mae’r gwesteion yn dod â phŵer gwario i’r ardal.   Gofynnodd Mr Witter i’r aelodau gefnogi argymhelliad y swyddogion.

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Darllenodd y Cynghorydd Delyth Jones ddatganiad ar ran y Cynghorydd Rhys Thomas (Aelod Ward).  Roedd gan y Cynghorydd Thomas amheuon difrifol am gymeradwyo’r cais cynllunio, fodd bynnag, os, drwy ganiatáu’r cais, y byddai’r safle yn newid o’r hyn a oedd yn bresennol i fod yn safle sy’n cael ei reoli’n dda, yna byddai’n cefnogi’r cais.   Byddai’n disgwyl i’r amodau cynllunio ar y safle gael eu monitro’n rheolaidd ac hefyd gorfodi amodau os bo angen.  Byddai hyn yn lliniaru pryderon preswylwyr cyfagos.

 

Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen-James os byddai’r Pwyllgor yn cymeradwyo’r cais, a ellir gosod amod y byddai’n sensitif i olau i Safle Awyr Dywyll yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a bywyd gwyllt y nos.  

 

Cadarnhaodd y swyddogion, o ran rheoli golau ar gyfer yr effaith ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyfagos, bydd angen amod rhif 5 sy’n gofyn am asesiad goleuadau allanol a goleuadau mewnol, er budd amddiffyn cadwraeth ystlumod.   Cadarnhawyd y byddai angen amod ychwanegol a oedd yn gofyn i reoli goleuadau allanol ar y carafanau eu hunain.  

 

Cynnig Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Delyth Jones.

 

PLEIDLAIS -

O blaid – (9 pleidlais yn y Siambr a 10 pleidlais dros Zoom) – 19

Ymatal – 0

Gwrthod - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

6.

CAIS RHIF 10/2021/1173/ PF - TIR YN NANT Y GAU, BRYNEGLWYS, CORWEN, LL21 9LF pdf eicon PDF 80 KB

Ystyried cais i adeiladu annedd ar gyfer gweithwyr amaethyddol, gosod gwaith trin carthffosiaeth a gwaith cysylltiedig ar dir yn Nant Y Gau, Bryneglwys, Corwen, LL21 9LF (copi ynghlwm).

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi annedd gweithiwr amaethyddol, gosod peiriant trin carthion a gwaith cysylltiedig ar dir yn Nant y Gau, Bryneglwys, Corwen.

 

Siaradwr Cyhoeddus

Arwyn Davies (O blaid) – Roedd Mr Davies yn awyddus i gadw’r fferm deuluol i fynd ac yn gobeithio bod yn ffermwr o’r bedwaredd genhedlaeth a oedd yn gweithio’n agos gyda’i rieni ac wedi dysgu’r ffyrdd gorau o ffermio. Rhoddodd amlinelliad o'r ffermio yr oedd yn ei wneud ac yn y diwedd roedd yn gobeithio meddiannu'r fferm gyda'i deulu. Dywedodd Mr Davies fod angen i ffermio newid oherwydd newid hinsawdd, costau a rheolau NBZ newydd. Gyda'r wybodaeth a oedd wedi'i throsglwyddo dros genedlaethau a'r gefnogaeth barhaus gan ei rieni a'i bartner, Grace, roedd yn hyderus y gallai'r fferm ffynnu. Fodd bynnag, roedd angen iddo fod ar y safle. Roedd wedi edrych ar eiddo yn y pentref a'r ardaloedd cyfagos ond nid yn unig roedd y rhain yn anfforddiadwy, ond nid yn ymarferol oherwydd ei gŵn defaid, ei wyna a'i loia. Oherwydd lles yr anifeiliaid roedd angen i Mr Davies fod ar y safle yn enwedig gan y byddai'n rhedeg y busnes yn fuan iawn. Y gobaith oedd y byddai’r plant yn tyfu i fyny ar y fferm ac yn mynd i’r ysgol gynradd leol gan fod hyn yn hanfodol i ddyfodol y fferm a gyda chymorth y Pwyllgor Cynllunio, gallai anelu at fod yn ffermwr pedwaredd cenhedlaeth Nant Y Gau, gan gymryd rôl arweiniol yn y busnes a pharatoi’r fferm ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

 

Trafodaeth Gyffredinol

 

Diolchodd y Cynghorydd Hugh Evans (Aelod Lleol) i Mr Arwyn Davies am gyflwyno ei ddatganiad. Roedd yn amlwg bod llawer o waith wedi digwydd rhwng yr ymgeisydd a swyddogion ac roedd yn galonogol gweld bod mwyafrif o'r ystyriaethau cynllunio perthnasol wedi eu cwrdd. Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau gan yr AHNE, Cyngor Cymuned, trigolion na Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Nid oedd unrhyw negyddiaeth weledol o gwmpas y cynnig ac mae'r cais yn cefnogi'r targed allyriadau carbon. Y rheswm y daethpwyd â'r cais gerbron y Pwyllgor Cynllunio oedd pryderon rhwng barn broffesiynol Prifysgol Reading a Kite Consultants ac roedd y Cynghorydd Evans hefyd yn pryderu bod swyddogion wedi cymryd sylw o elfen Reading o'r cyngor yn hytrach na chyngor Kite Consultants.

 

Eglurodd y Cynghorydd Evans ei fod yn ei chael yn anodd deall pam nad oedd Prifysgol Reading yn gwerthfawrogi'r cyllid oedd ar gael yn y busnes ffermio. Nid oedd cyflog y priod wedi'i ystyried, na'r gwaith allanol y mae'r ymgeisydd yn ei wneud. Teimlai'r Cynghorydd Evans nad oedd y swyddogion wedi gweld y darlun ariannol cyflawn wrth wneud eu hargymhellion a gofynnodd i'r Pwyllgor Cynllunio ymchwilio ymhellach i elfen Prifysgol Reading o'r cyngor. Dywedodd ei fod yn bersonol yn teimlo bod pobl yn yr ardaloedd gwledig dan anfantais.

 

Cafwyd gwybodaeth gan Busnes Cymru a oedd yn nodi bod 40% o ffermydd Cymru bellach wedi arallgyfeirio a oedd yn cyfateb i 19% o gyfanswm yr incwm. Nid oedd Prifysgol Reading wedi ystyried hyn. 

 

Mae cyfeirnod 4.4 y cais hwn yn ymdrin â phopeth yn yr adran honno.

 

Cyfeirnod 4.5 – hyrwyddo arallgyfeirio ar ffermydd sefydledig y mae'r ymgeisydd hwn yn ei wneud ac 4.5.3 bod olyniaeth yn hollbwysig. 

 

Gan gyfeirio at y prawf ariannol dywedodd fod yna ardal lwyd gan ei fod yn dweud “dylai fod â rhagolygon da o barhau’n economaidd gynaliadwy am gyfnod rhesymol o amser”. Nid oedd yn ymddangos bod Prifysgol Reading yn derbyn hynny, ar sail ffigurau ariannol pur, nid ar hanes y fferm. Ym marn y Cynghorydd Evans, nid oedd yn meddwl bod unrhyw gydberthynas rhwng yr wybodaeth yr oedd Prifysgol Reading wedi’i  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CAIS RHIF 01/2021/0836/ PF - FFLATIAU PENNANT, STRYD HENLLAN, DINBYCH LL16 3PH pdf eicon PDF 171 KB

Ystyried cais i adeiladu 7 annedd teras, 2 adeilad sy’n cynnwys cyfanswm o 4 o fflatiau, ffurfio mynediad, lleoedd parcio, tirlunio a gwaith cysylltiedig yn Fflatiau Pennant, Stryd Henllan, Dinbych (copi ynghlwm).

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i adeiladu 7 annedd teras, 2 adeilad sy’n cynnwys cyfanswm o 4 o fflatiau, ffurfio mynedfa, lleoedd parcio, gwaith tirlunio a gwaith cysylltiedig yn Fflatiau Pennant, Stryd Henllan, Dinbych.

 

Y Cynghorydd Delyth Jones (Aelod y Ward) – roedd y cais wedi’i ddylunio i fod yn lle 2 floc a oedd ar y safle’n wreiddiol.  Mae’r to i’w weld yn uwch na’r tai ger llaw.  Rwy’n deall y bydd yn addas yn y lleoliad hwn ac i liniaru unrhyw lifogydd.  Mae llawer o waith wedi’i wneud gyda’r cynlluniau ac mae’r gofynion o ran gwella llifogydd wedi’u bodloni.  Croesawai’r Cynghorydd Jones y cymal ychwanegol sy’n rhoi gofynion o ran y math o ddeunyddiau a ddefnyddir a’u lliw.  Mae’n cynnig cynllun 100% o dai cymdeithasol ac mae mawr angen am hynny yn yr ardal.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Delyth Jones y dylid rhoi caniatâd yn unol ag argymhelliad y swyddog, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Alan James.

 

PLEIDLAIS

O blaid – (9 pleidlais yn y Siambr a 10 pleidlais dros Zoom) – 19

Ymatal – 0

Gwrthod – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog.

 

AR Y PWYNT HWN (10.20AM) CAFWYD EGWYL.

AILDDECHREUODD Y CYFARFOD AM 10.25AM.

 

8.

CAIS RHIF 40/2021/0825/PF - TIR GYFERBYN AG YSBYTY GLAN CLWYD, FFORDD RHUDDLAN, BODELWYDDAN, Y RHYL pdf eicon PDF 80 KB

Ystyried cais i godi 108 annedd a mynediad newydd i gerbydau a gwaith cysylltiedig ar dir gyferbyn ag Ysbyty Glan Clwyd, Ffordd Rhuddlan, Bodelwyddan, Y Rhyl (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi 108 annedd, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a gwaith cysylltiedig ar dir gyferbyn ag Ysbyty Glan Clwyd, Ffordd Rhuddlan, Bodelwyddan, y Rhyl.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Roedd cyfarfod safle wedi’i gynnal ddydd Gwener 30 Medi 2022.  Bu’r Cynghorydd Peter Scott yn y cyfarfod safle ac edrychodd ar y safle.  Roedd y Swyddog Priffyrdd hefyd wedi bod yn y cyfarfod safle i egluro y byddai’r fynedfa a’r allanfa o’r safle’n cael ei gwella.  Byddai croesfan i gerddwyr a beicwyr oddi wrth y gylchfan wrth fynedfa’r ysbyty.  Byddai’r cynigion draenio ar gyfer dŵr wyneb yn dilyn deddfwriaeth Systemau Draenio Cynaliadwy.  Yn ystod yr ymweliad â’r safle, gofynnwyd cwestiwn am y system garthffosiaeth gyhoeddus.  Ar y daflen o sylwadau hwyr, roedd datganiad gan Ddŵr Cymru wedi’i gynnwys yn dweud na fyddai caniatâd i unrhyw un arall gysylltu â’u system garthffosiaeth gyhoeddus leol nhw oherwydd diffyg capasiti.  Dywedai y byddai dŵr budr o unrhyw ddatblygiad arall ar y Safle Strategol Allweddol ehangach angen cael ei gysylltu â Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Bae Cinmel. I wneud hyn, byddai angen gwelliannau sylweddol i isadeiledd ar gost y datblygwr, a fyddai’n gwneud unrhyw ddatblygiad arall yn anymarferol. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Raj Metri (Aelod Lleol) nad oedd wedi gallu bod ar yr ymweliad safle oherwydd problemau iechyd, yn anffodus.  Roedd pobl leol yn pryderu am y peryglon ar Sarn Lane wrth gerdded i ac o’r ysbyty.  Mynegwyd pryder hefyd ynglŷn â draenio ar y ffordd.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Priffyrdd bod asesiad cludiant manwl wedi’i ddarparu yn rhan o’r cais.  Roedd cyffyrdd lleol wedi cael eu hasesu a byddai pob cyffordd yn gweithredu’n ddiogel o fewn eu capasiti.  Roedd llawer o ddulliau cludiant ar wahân i geir ar gael ar gyfer y safle ac roedd bwriad i wella cysylltiad y safle â’r rhwydwaith llwybrau cerdded a beicio presennol yn rhan o Deithio Llesol Cymru drwy gyflwyno croesfan wedi’i rheoli ar Ffordd Rhuddlan, heb fod ymhell o’r gylchfan gyda llwybr cerdded a beicio bob ochr i’r ffordd yn cysylltu â’r cyfleuster newydd.  Byddai mynedfa’r safle ar ffurf cyffordd flaenoriaeth wedi’i rheoli, ac ni fyddai’n effeithio ar lif rhwydd y traffig.  Roedd trefniadau’r fynedfa’n cydymffurfio â gofynion TAN18 ar safonau gwelededd.  Byddai ffyrdd yr ystâd oddi mewn i’r safle 5.5 metr o led gyda llwybrau cerdded 2 fetr.  Byddai’r gilfan tynnu-i-mewn bresennol yn cael ei thynnu.  Wrth ystyried yr holl wybodaeth, nid oedd gan yr Adran Briffyrdd unrhyw bryderon.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Alan James ei fod wedi bod yng nghyfarfod y safle ac roedd yn fodlon â’r cynigion.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Alan James, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Peter Scott, y dylid caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog.

 

PLEIDLAIS

O blaid – (9 pleidlais yn y Siambr a 10 pleidlais dros Zoom) – 19

Ymatal – 0

Gwrthod – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog.

 

9.

CAIS RHIF 45/2022/0533/ PS - ROGER W JONES LTD. CEFNDY ROAD, Y RHYL pdf eicon PDF 159 KB

Ystyried cais i osod rhaciau iard allanol ychwanegol (cais ôl-weithredol) yn Roger W Jones Ltd. Cefndy Road, Y Rhyl (copi ynghlwm).

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd ais i osod rhaciau iard ychwanegol (cais ôl-weithredol) yn Roger W Jones Ltd, Ffordd Cefndy, y Rhyl.

 

Cynhaliwyd ymweliad â’r safle ar 30 Medi 2022. 

 

CYNIGIODD y Cynghorydd Peter Scott y dylid gohirio’r cais i siarad â’r ymgeiswyr i weld a ellid dod i gyfaddawd, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Alan James.

 

PLEIDLAIS

O blaid gohirio – (9 pleidlais yn y Siambr a 9 pleidlais dros Zoom) – 18

Ymatal – 0

Gwrthod – 0

 

PENDERFYNWYD GOHIRIO’r cais cynllunio.

 

10.

CAIS RHIF 45/2022/0543/ PF - 2 FFORDD TYNEWYDD, Y RHYL pdf eicon PDF 158 KB

Ystyried cais i adeiladu estyniad llawr cyntaf dros y garej bresennol, ffurfio balconi wrth ochr yr annedd a gwaith cysylltiedig yn 2 Ffordd Tynewydd, Y Rhyl (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i adeiladu estyniad llawr cyntaf dros garej bresennol, ffurfio balconi wrth ochr annedd a gwaith cysylltiedig yn 2 Ffordd Ty Newydd, y Rhyl.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Win Mullen-James y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Ellie Chard.

 

PLEIDLAIS

O blaid – (9 pleidlais yn y Siambr a 9 pleidlais dros Zoom) – 18

Ymatal – 0

Gwrthod – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’r cais cynllunio yn unol ag argymhelliad y swyddog.

 

11.

47/2020/0593/PF – HEN GLWB RYGBI Y RHYL, FFORDD Y WAEN ROAD, RHUDDLAN, Y RHYL pdf eicon PDF 289 KB

Derbyn adroddiad i geisio enwebiadau gan Aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio i gynrychioli’r Cyngor yn y Gwrandawiadau ar gyfer cais rhif: 47/2020/0593 sydd wedi cael ei alw i mewn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer penderfyniad gan Weinidogion Cymru (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyn adroddiad i geisio enwebiadau gan Aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio i gynrychioli’r Cyngor yn y Gwrandawiadau ar gyfer cais rhif: 47/2020/0593 a oedd wedi cael ei alw i mewn gan Lywodraeth Cymru i Weinidogion Cymru benderfynu arno.

 

Gofynnodd y Cynghorwyr Chris Evans a Peter Scott am gael bod yn gynrychiolwyr.

 

Cytunwyd yn unfrydol ar hynny drwy godi dwylo.

 

PENDERFYNWYD bod y Cynghorwyr Chris Evans a Peter Scott yn cynrychioli'r Cyngor yn y Gwrandawiadau ar gyfer cais cyf: 47/2020/0593 a oedd wedi'i alw i mewn gan Lywodraeth Cymru i'w benderfynu gan Weinidogion Cymru.

 

 

12.

ADOLYGU’R CYNLLUN DIRPRWYO pdf eicon PDF 189 KB

Derbyn adroddiad sy’n rhoi amlinelliad i Aelodau o’r newidiadau a awgrymwyd i’r Cynllun Dirprwyo Cynllunio (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyn adroddiad a oedd yn rhoi amlinelliad i Aelodau o’r newidiadau a awgrymwyd i Gynllun Dirprwyo Cynllunio.

 

Yn dilyn pleidlais unfrydol trwy godi dwylo, cytunwyd ar dderbyn y newidiadau i Gynllun Dirprwyo Cynllunio.

 

 

DAETH Y CYFARFOD I BEN AM 10.50 A.M.