Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: trwy cyfrwng fideo

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Merfyn Parry gysylltiad personol oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 6 ar y rhaglen - Tir ger Bryntirion Cottage, Bodfari gan mai ef oedd yn berchen y safle ac wedi cyflwyno’r cais.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 460 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2021 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2021.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Chwefror, 2021 fel cofnod cywir.

 

 

CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 8) -

Cyflwynwyd ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau cysylltiedig.  Cyfeiriwyd hefyd at y wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r Rhaglen ac a oedd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol yn ymwneud â’r ceisiadau hynny. Er mwyn caniatáu ceisiadau gan aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn y ceisiadau ar y rhaglen.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

CAIS RHIF 03/2020/0909/PF – TIR YN (RHAN O ARDD) 15 MAES BACHE, LLANGOLLEN pdf eicon PDF 95 KB

Ystyried cais ar gyfer adeiladu annedd, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a gwaith cysylltiedig ar dir yn (rhan o ardd) 15 Maes Bache, Llangollen (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer Adeiladu 1 annedd, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a gwaith cysylltiedig ar dir (sy’n rhan o ardd) 15 Maes Bache, Llangollen.  [Cafodd y cais hwn ei ohirio o’r cyfarfod diwethaf]

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Bob Dewey (asiant) (o blaid) - dywedodd bod y cais yn bodloni’r holl ofynion safonol ac nid oedd yn ddatblygiad tiroedd cefn, ond â mynediad annibynnol ei hun a phriffordd ar y blaen.  Dadleuodd y byddai cynsail yn cael ei osod gan grybwyll caniatâd cynllunio blaenorol ar gyfer datblygiadau tai ar yr un llechwedd a oedd wedi bod yn dderbyniol o ran AHNE, a chyfeiriodd at y ddibyniaeth ar benderfyniad apêl gynllunio oedd wedi dyddio fel un amhriodol.  Roedd yr annedd yn fach ac wedi’i ddylunio’n dda ac yn benodol ar gyfer topograffi’r safle ac ni fyddai’n niweidio harddwch yr ardal.  Nid oedd gan Gyngor Tref Llangollen na CADW unrhyw wrthwynebiad, a cadarnhaodd CADW na fyddai’r cynnig yn effeithio ar Safle Treftadaeth y Byd.  Gwrthododd y pryderon o ran preifatrwydd, golau a sŵn hefyd, gan fod y cymdogion yn gefnogol o’r cynnig.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Disgrifiodd y Cynghorydd Melvyn Mile (Aelod Lleol) safle’r cais a'r amgylchedd o bwyntiau gweledol gwahanol yn yr ardal.  Cyfeiriodd at leoliad y gronfa ddŵr goncrid a'r datblygiad tai dwysedd uchel a'r effaith ar y tirlun, heb godi unrhyw bryderon o ran yr AHNE.  Ni fyddai’r datblygiad arfaethedig yn weledol iawn gyda’r to yn is na’r ffens ar gefn yr eiddo a’r coedd y tu ôl.  Anghytunodd gyda barn y Cyd-Bwyllgor AHNE a barn y swyddog nad oedd y cynnig yn parchu cymeriad y datblygiad gerllaw na’r ardal agored.  Ar ôl ymweld â safle’r cais ac o ran graddfa a dyluniad y cais, nid oedd y Cynghorydd Mile yn ystyried y posibilrwydd bod trosolwg yn bryder, nid oedd hyn yn broblem yn yr apêl gynllunio yn 2007, ac roedd y coed a’r gwrych (nad oedd ar y lluniau) yn cuddio’r eiddo.  Hefyd, nid oedd yn ystyried y golau i fod yn broblem o ystyried maint yr annedd gyda dau eiddo arall uwch ei ben wedi’u lleoli ymhellach allan.  Yn yr apêl yn 2007, cododd yr Arolygydd Cynllunio bryderon am y mynediad ar lôn wledig a oedd wedi newid ers hynny yn dilyn datblygiadau eraill.  Yn olaf, fel amlygodd y gwahaniaeth rhwng safbwyntiau’r Cyd-bwyllgor AHNE, Cyfoeth Naturiol Cymru a CADW o ran effaith yr amwynder gweledol ar yr un cais.

 

Roedd y Cadeirydd wedi derbyn e-bost gan y Cynghorydd Graham Timms (aelod lleol) nad oedd yn gallu mynychu’r cyfarfod.  Roedd y Cynghorydd Timms yn anghytuno â barn y swyddog y byddai’r datblygiad yn achosi niwed annerbyniol i gymeriad ac ymddangosiad y tirlun, gan gredu na fyddai posib sylwi ar yr effaith gan y byddai'n disgyn yn naturiol o fewn ffin weledol Maes Bache.  Cyfeiriodd hefyd at y nifer o dai gerllaw a chefnogodd y defnydd o'r tir o fewn ffin datblygu Llangollen.  Credai’r Cynghorydd Timms y byddai defnyddio tir priodol o fewn y ffin i elwa mynediad trigolion at wasanaethau a siopau canol y dref yn fwy ffafriol na defnyddio'r mannau gwyrdd amgylchynol i gefnogi'r galw am dai.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mark Young am eglurder o ran ffin y datblygiad mewn perthynas â safle’r cais a safle’r eiddo uwchben y safle a oedd wedi cael caniatâd cynllunio er gwaethaf mwy o effaith gweledol.  Credodd y Cynghorydd Brian Jones bos y Cynghorydd Mile wedi gwneud achos ysgogol i gymeradwyo’r cais yn seiliedig ar ei wybodaeth leol o'r ardal.

 

Ymatebodd y swyddog cynllunio i’r materion a godwyd yn ystod y drafodaeth fel a ganlyn –

 

·         cadarnhaodd bod safle’r cais wedi  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CAIS RHIF 22/2020/1022/PF – TIR GER BRYN TEG, GELLIFOR, RHUTHUN pdf eicon PDF 91 KB

Ystyried cais ar gyfer adeiladu 2 annedd, adeiladu mynediad newydd i gerbydau a gwaith cysylltiedig (ailgyflwyno) ar dir ger Bryn Teg, Gellifor, Rhuthun (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer adeiladu 2 annedd, adeiladu mynediad newydd i gerbydau a gwaith cysylltiedig (ailgyflwyno) ar dir ger Bryn Teg, Gellifor, Rhuthun.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Robert Jones (asiant) (o blaid) – darparodd gefndir ailgyflwyniad y cais a oedd yn cael ei adolygu pan gafodd y cais gwreiddiol ei wrthod.  Cyfeiriodd at y rhesymau dros wrthod ar sail graddfa, dyluniad, ffurf, a deunyddiau a darparodd drosolwg o sut aethpwyd i’r afael â’r pryderon hynny a’r gwaith a gyflawnwyd  mewn perthynas â hynny.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Hysbysodd y Cadeirydd yr aelodau am y wybodaeth ychwanegol ar y papurau ategol (taflenni glas) ac argymhelliad y swyddog am amod ychwanegol (rhif 10) er lles amwynder preswyl.

 

Cynnig - Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry argymhelliad y Swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Ann Davies.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 20

GWRTHOD – 0

YMATAL – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

7.

CAIS RHIF 28/2020/1024/PF - MOUNT VIEW, BRYN Y GARN ROAD, HENLLAN, DINBYCH pdf eicon PDF 97 KB

Ystyried cais ar gyfer dymchwel annedd bresennol ac adeiladu annedd newydd, garej ar wahân, addasiadau i’r mynediad presennol, a gwaith tirlunio a gwaith cysylltiedig yn Mount View, Bryn y Garn Road, Henllan, Dinbych (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer dymchwel annedd bresennol ac adeiladu annedd newydd, garej ar wahân, addasiadau i’r mynediad presennol, a gwaith tirlunio a gwaith cysylltiedig yn Mount View, Bryn y Garn Road, Henllan.

                                                 

Siaradwyr Cyhoeddus -

 

Mrs Pritchard (yn erbyn) – roedd yn gwrthwynebu’r datblygiad arfaethedig o ran ei faint a’i raddfa oedd yn llawer mwyn na’r eiddo presennol, a fyddai’n effeithio’n negyddol ar yr eiddo gerllaw a’r strydwedd. Dywedodd y byddai’r annedd arfaethedig yn ormesol ac y byddai'n achosi golwg amhrydferth, gan roi cysgod a lleihau golau i’w byngalo gerllaw.  Roedd hefyd yn mynd yn erbyn y rhaglen werdd leol, ac roedd halogiad posibl o'r tirlenwi.  Codwyd pryderon am sŵn, llwch a chryndod, ymyraethau ac ati o’r datblygiad, a’r posibilrwydd bod yr eiddo yn cael ei adeiladu ar garreg, gan waethygu’r materion a’r difrod posibl.

 

Mr Arwyn Jones (o blaid) – eglurodd amgylchiadau ei deulu a'r rheswm dros y cais i ddarparu cartref  digon mawr ar gyfer ei deulu o fewn yr ardal leol.  Nid oedd unrhyw fwriad i achosi trallod a soniodd am y gwaith caled i leihau pryderon a’r newidiadau a wnaed megis symud ffenestri i barchu preifatrwydd a lleihau lefel y tŷ.  Nid oedd yr eiddo yn ormodol ac roedd yn cyd-fynd â chymeriad yr eiddo presennol ac ni fyddai'r ôl troed presennol yn cynyddu’n ddramatig.  Roedd yr holl bryderon a godwyd gan Gyngor Cymuned Henllan wedi cael eu datrys, ac roedd yr holl ofynion angenrheidiol wedi cael eu bodloni er mwyn adeiladu’r cartref i’r teulu.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Ystyriodd yr aelodau'r adroddiad yn ofalus, ynghyd â’r achosion a gyflwynwyd gan y siaradwyr ar y cais. Gofynnwyd am fwy o eglurder ar nifer o faterion a godwyd, yn arbennig o ran amodau'r tir gan gynnwys y posibilrwydd o halogiad a chompównd y tir a allai effeithio'r datblygiad, ynghyd â phryderon amwynder preswyl megis colli golau, golwg gormesol a chysgodi.  Nododd y Cynghorydd Merfyn Parry bod yr ymgeisydd wedi mynd i’r afael â’r materion a godwyd ac am ei fod yn gyfarwydd â’r ardal roedd yn credu ei bod yn annhebygol iawn y bydd halogiad o’r hen safle tirlenwi.  Cynigodd y dylid cymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Peter Evans.

 

Ymatebodd y Rheolwr Rheoli Datblygu i’r cwestiynau/sylwadau fel a ganlyn -

 

·         eglurodd bod eiddo presennol ar y safle a oedd yn y ffin datblygu ac roedd y cais ar gyfer newid yr annedd.

·         byddai angen dilyn rheoliadau adeiladu perthnasol i gynnal y datblygiad a gwiriadau ar amodau’r tir fel rhan o’r broses honno.

·         roedd amod ychwanegol wedi cael ei gynnig (manylion yn y papurau ategol) yn gofyn am Ddatganiad Dull Adeiladu yn amlinellu sut fyddai'r datblygiad yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon a godwyd mewn perthynas â rheoli sŵn, llwch ac ymyrraeth ac ati, yn ystod y gwaith adeiladu.

·         cynigiwyd amod ychwanegol arall (manylion yn y papurau ategol) er mwyn sicrhau bod y risgiau cysylltiedig gyda halogiad annisgwyl diwethaf ar y safle, yn cael ei ddelio mewn modd priodol.

·         Nid oedd y swyddogion yn ystyried y byddai'r cais yn cael unrhyw effaith annerbyniol ar amwynder preswyl na gweledol, ac roedd yr holl ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill wedi cael eu hystyried ac amodau cynllunio perthnasol wedi’u gosod lle bod angen.

·         roedd angen asesu’r cynnig fel y cyflwynwyd ac ni fyddai'n bosibl gosod amod i symud yr annedd yn ôl yn unol â'r byngalo gerllaw, fel ffordd o fynd i’r afael â phryderon o ran effaith gormesol.

·         Pwysleisiodd bod swyddogion wedi asesu'r effaith ar eiddo gerllaw mewn perthynas â golau, gan gynnwys cyfeiriad ar y canllaw 45 gradd fel y nodir  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

CAIS RHIF 18/2020/1050/PF – TIR GYFERBYN Â BWTHYN BRYNTIRION, BODFARI, DINBYCH pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais ar gyfer adeiladu mynediad newydd i gerbydau ac adeiladu sied newydd ar y tir gyferbyn â Bwthyn Bryntirion, Bodfari, Dinbych (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer adeiladu mynediad newydd i gerbydau ac adeiladu sied newydd ar y tir gyferbyn â Bwthyn Bryntirion, Bodfari.

 

Roedd y cais wedi cael ei gyflwyno gan Gynghorydd Sir (y Cynghorydd Merfyn Parry) ac felly roedd angen penderfyniad y pwyllgor.  Argymhelliad y swyddog oedd cymeradwyo’r cais.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler dderbyn argymhellion y swyddogion i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Ann Davies.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 19

GWRTHOD – 0

YMATAL – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10.50 a.m.