Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: via VIDEO CONFERENCE

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Emrys Wynne, Julian Thompson-Hill a Gwyneth Kensler.

 

Ymddiheurodd y Cynghorydd Merfyn Parry wrth y cadeirydd am gyrraedd yn hwyr i’r cyfarfod gan ei fod wedi cael problemau technegol wrth gael mynediad i’r cyfarfod.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 334 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2021 (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2021.

 

O ran cywirdeb –

 

Amlygodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies rai camgymeriadau o ran cyfieithu yn y cofnodion. Mynegodd hefyd sut yr oedd yn teimlo nad oedd y pwyntiau a godwyd ganddo yn y cyfarfod blaenorol wedi eu cyfleu yn deg o fewn y cofnodion ar gyfer rhif y cais 31/2020/0338 - Tir gerllaw Marllwyn, Groesffordd Marli. Gofynnodd a ellid nodi’r pwyntiau a ganlyn -

 

(i)    ”Cyfeiriwyd at y Cynllun Datblygu Lleol yn denu trigolion i'r Trefi ac yn lladd Pentrefi Gwledig.”

(ii)   “Galwyd am well cyfle a threfniadau i bobl leol yng nghefn gwlad gael mynediad i dai fforddiadwy yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd”

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2021 fel cofnod cywir.

 

 

5.

CAIS RHIF.02/2020/0811- 73A ERW GOCH, RHUTHUN pdf eicon PDF 95 KB

Ystyried cais i godi annedd ar ei ben ei hun, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, a’r gwaith cysylltiedig yn Nhir yn (Rhan o ardd) 73A Erw Goch, Rhuthun, LL15 1RS (copi ynghlwm)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer adeiladu annedd ar wahân, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a gwaith cysylltiedig yn 73A, Erw Goch, Rhuthun.

 

Hysbysodd swyddogion yr aelodau o'r sylwadau hwyr yn y taflenni glas. O ystyried sylwadau'r Ymgynghorydd Coed, roedd asiant yr ymgeisydd wedi gofyn am fwy o amser i ddelio â'r materion a godwyd. Felly, gofynnodd Swyddogion i'r cais gael ei ohirio er mwyn caniatáu i'r ymgeiswyr ddelio â’r mater o’r effaith ar goed yn fwy digonol.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry ohirio’r cais, am y rhesymau a eglurwyd gan y Swyddog Cynllunio uchod, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Alan James.

 

Pleidlais:

O blaid – 13

Ymatal – 0

Yn erbyn – 1

 

PENDERFYNWYD y dylid gohirio'r cais ar y Tir y tu ôl i 73A Erw Goch, Rhuthun tan gyfarfod yn y dyfodol.

 

 

6.

CAIS RHIF. 02/2020/0989 - WYNNSTAY STORES CYNT, FFORDD Y PARC, RHUTHUN pdf eicon PDF 175 KB

Ystyried cais i amrywio amod rhif. 7 o ganiatâd cynllunio rhif 02/2020/0251 i ganiatáu defnydd o beiriannau cynhyrchu sŵn rhwng 0800 - 17.30 dydd Llun i ddydd Gwener a 08.00 - 12.30 ar ddydd Sadwrn yn Wynnstay Stores cynt, Ffordd y Parc, Rhuthun (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer amrywio amod rhif 7 caniatâd cynllunio cod rhif 02/2020/0251 i ganiatáu defnyddio peiriannau sy’n cynhyrchu sŵn rhwng 08.00 a 17.30 dydd Llun i ddydd Gwener a 08.00 - 12.30 ar ddydd Sadwrn yn yr hen Wynnstay Stores, Ffordd y Parc, Rhuthun.

 

Siaradwyr Cyhoeddus -

 

Gail Banks (Yn Erbyn) –

 

Amlinellodd y siaradwr cyhoeddus y rhesymau dros ei gwrthwynebiad i'r cais i ddileu amod 7 a oedd yn cynnwys y rhesymau canlynol:

 

  • Roedd yr amodau a osodwyd yn cydnabod y pryderon ynghylch sŵn gan breswylwyr ac roedd ganddynt y nod o ddiogelu amwynderau'r preswylwyr. Dywedodd y siaradwr cyhoeddus fod yr ymgeisydd wedi torri'r amodau hyn.
  • Mae torri amodau'n barhaus a defnyddio offer sy’n cynhyrchu sŵn wedi cael effaith andwyol ar fywydau beunyddiol y teulu. Mae'r gwasgwr yn gwneud sŵn grwnan parhaus pan mae’n troi ac mae'n curo ac yn dirgrynu pan mae’n gwasgu deunyddiau.
  • Roedd y sŵn sy'n gysylltiedig â'r iard hefyd yn effeithio ar amwynder y teulu i fwynhau ymlacio yn yr ardd gefn, bu adegau pan oedd angen i ni ddod i mewn i'r tŷ oherwydd bod sŵn y gwasgwr yn tynnu gormod o sylw.
  • Pryder, pe bai amod 7 yn cael ei ddileu, y byddai'n 'agor y llifddorau' i ddefnyddio mwy o offer sy’n cynhyrchu sŵn ar yr iard a byddai preswylwyr unwaith eto dan anfantais o ran yr angen i gofnodi'r gweithgareddau cynhyrchu sŵn ar yr iard er mwyn rhoi darlun cywir o'r gweithgareddau o ddydd i ddydd yn hytrach na'r wybodaeth gyfyngedig a ddarparwyd gan G Parry.
  • Pe bai gwir weithgareddau’r iard o ddydd i ddydd wedi'u cyflwyno ar y cais cychwynnol, a fyddai'r cais wedi'i ganiatáu? 
  • Amlygodd cyflwyno tor-amod swyddogol o tri o’r saith amod nad oedd y gweithgareddau ar y safle yn cyd-fynd â'r ardal gyfagos. Roedd pum preswylydd ar ddwy ochr i'r iard, a oedd agosaf at y safle, yn gwrthwynebu ac roedd darpariaeth gofal plant The Mill yn gwrthwynebu hefyd.
  • Roedd y gweithgareddau'n fwy addas ar gyfer amgylchedd ystâd ddiwydiannol, ac roedd Rhuthun yn ffodus i fod ag un lai na milltir i fyny'r ffordd.

 

Mike Hall (O blaid) –

 

Amlinellodd y siaradwr cyhoeddus o blaid y cais hanes y busnes a chyfleoedd cyflogaeth yr ymgeisydd. Rhoddwyd crynodeb o’r gweithrediadau o fewn yr iard.

 

Dywedodd y siaradwr nad oedd gan yr iard gyfarpar neu beiriannau sefydlog ac nad oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgynhyrchu. Gwnaed sŵn o symud deunyddiau/peiriannau o amgylch yr iard storio, dadlwytho/llwytho deunyddiau, defnyddio offer llaw yn achlysurol ar gyfer torri deunyddiau a/neu baratoi deunyddiau ar gyfer y safle, ac ailgylchu deunyddiau i leihau gwastraff ac effaith amgylcheddol. Dywedwyd wrth y Pwyllgor mai ychydig iawn o sŵn a wnaed a'i fod yn anaml, ac nad oedd yn unrhyw beth a fyddai'n cael ei ystyried yn ormodol neu'n afresymol i unrhyw fusnes ar y safle hwn. Dywedodd fod y Swyddfa Gynllunio a Swyddfa Gwarchod y Cyhoedd wedi bod i'r safle a'u bod o'r farn bod lefel ac amseriad y sŵn yn rhesymol.

 

Adroddwyd bod y safle wedi bod yn safle masnachol ers dros 50 mlynedd, gyda'r holl fusnesau blaenorol yn gwneud llawer mwy o sŵn nag yn awr. Amlinellodd y siaradwr y gweithrediadau blaenorol a gynhaliwyd ar y safle a sut yr oedd y safle wedi'i adael yn wag am ddwy flynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, wrth gwrs, ni chynhyrchwyd sŵn ac efallai fod trigolion cyfagos wedi dod yn gyfarwydd â'r sefyllfa honno.

 

Roedd y siaradwr yn cydnabod y bu ychydig fisoedd cychwynnol o lefelau  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CAIS RHIF. 03/2020/0909 - TIR YN (RHAN O ARDD) 15 MAES BACHE, LLANGOLLEN pdf eicon PDF 95 KB

Ystyried cais I Godi un annedd, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a’r gwaith cysylltiedig yn tir yn (rhan o ardd) 15 Maes Bache, Llangollen (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer Adeiladu 1 annedd, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau a gwaith cysylltiedig ar dir sy’n rhan o ardd 15 Maes Bache, Llangollen.

 

O ystyried y sylwadau hwyr oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru, gofynnodd swyddogion i'r cais gael ei ohirio er mwyn caniatáu i'r ymgeiswyr fynd i'r afael â'r mater o effaith ar Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Afon Dyfrdwy.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Melvyn Mile ohirio’r cais o ystyried y sylwadau hwyr gan Adnoddau Naturiol Cymru ac i'r ymgeisydd fynd i'r afael â mater effaith mewn perthynas ag ACA, cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Alan James.

 

Pleidlais:

O blaid – 16

Ymatal – 0

Yn erbyn – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid gohirio'r cais ar dir sy’n rhan o ardd 15 Maes Bache, Llangollen tan gyfarfod yn y dyfodol.

 

 

8.

CAIS RHIF. 43/2020/0907 - BRIGADOON, 2 TALTON COURT, PRESTATYN pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i adeiladu estyniad llawr cyntaf a gwaith cysylltiedig yn Brigadoon 2 Talton Court, Prestatyn, LL19 9HF (copi ynghlwm)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi estyniad llawr cyntaf a gwaith cysylltiedig yn Brigadoon 2, Talton Court, Prestatyn, LL19 9HF (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Susan Brown (O blaid) –

 

Adroddodd y siaradwr cyhoeddus o blaid y cais ar gysylltiadau ei theulu â'r ardal. Dywedodd fod angen ei theulu ar gyfer gweithio gartref ac addysgu gartref ar hyn o bryd yn tanlinellu rhai o'r rhesymau dros y cais.

 

Dywedodd y siaradwr fod yr ymgeiswyr wedi gweithio'n agos gyda'r swyddog cynllunio ar y cais a bod y cynllun wedi'i gynllunio'n ofalus i wneud y gorau o leoliad y tŷ presennol.

 

O ran pryderon ynghylch y strydwedd, adroddodd fod nifer fawr o eiddo cyfagos ym Mhrestatyn a oedd eisoes wedi cael datblygiadau tebyg ac a fyddai'n cael effaith weledol debyg, a oedd wedi cael caniatâd cynllunio. Amlinellodd y siaradwr gefnogaeth a gwrthwynebiadau'r cymdogion i'r cynnig, gyda’r gwrthwynebiadau wedi'u codi yn ymwneud â throsedrych. Hysbyswyd y pwyllgor o'r mesurau a gymerwyd gan yr ymgeiswyr i ddiwygio'r cynigion i liniaru pryderon o ran trosedrych.

 

Trafodaeth gyffredinol -

 

Siaradodd y Cynghorydd Tina Jones ar ran Julian Thompson-Hill (Aelod lleol) nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. Dywedodd fod y Cynghorydd Thompson-Hill o'r farn bod elfen o drosedrych yn gyffredin oherwydd topograffeg Prestatyn. Fodd bynnag, byddai'r datblygiad yn cynyddu'r posibilrwydd o’r eiddo’r trosedrych ar eiddo is-law Talton Court, a byddai'n effeithio ar amwynderau gweledol y trigolion hynny. Dywedodd y Cynghorydd Jones pe bai'r Cynghorydd Thompson-Hill yn bresennol y byddai'n debygol o fod wedi cynnig gwrthod y cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Penlington ei fod yn adnabod yr ardal yn dda a'i fod yn deall bod yr adeilad ar fynydd ac yn edrych dros eiddo eraill. Fodd bynnag, deallodd mai'r unig wrthwynebiadau oedd o eiddo 50 metr i ffwrdd.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Paul Penlington, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Peter Evans, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

Pleidlais:

O blaid – 16

Ymatal – 0

Yn erbyn – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

9.

CAIS RHIF. 45/2020/0897 - TIR YNG NGHEFN, 2 ELM GROVE, Y RHYL pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais ar gyfer adeiladu 1 annedd, garej ar wahân, mynedfa a gwaith cysylltiedig yn Dir yng nghefn 2 Elm Grove y Rhyl LL18 3PE (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi un annedd, garej ar wahân, mynedfeydd a gwaith cysylltiedig ar dir y tu ôl i 2 Elm Grove, Y Rhyl LL18 3PE.

 

Siaradwyr Cyhoeddus -

 

Gordon Milton (Yn erbyn) –

 

Hysbysodd y siaradwr cyhoeddus yn erbyn y cais yr aelodau o gysylltiad ei deulu â'r ardal a'u hangen a brofwyd yn feddygol i osgoi tarfu a phryder yr oeddent yn rhagweld y byddai'n anochel pe bai'r cais yn cael ei ganiatáu. Yn wir, dywedodd y siaradwr fod y posibilrwydd o'r datblygiad ei hun wedi achosi problemau sylweddol i'r teulu.

 

Hysbysodd y siaradwr yr aelodau hefyd o'r problemau ymarferol sy'n gysylltiedig â'r cais a oedd yn cynnwys effeithiau negyddol ar lifogydd a charthffosydd, preifatrwydd, defnyddio'r ardd deuluol a cholli golau.

 

Jared Hughes (O blaid) –

 

Dywedodd y siaradwr cyhoeddus o blaid y cais fod yr ymgeiswyr wedi gweithio gyda'r swyddog cynllunio i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd gan y gwrthwynebwyr, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol. Yn benodol, roedd y cais wedi'i gynllunio i fodloni gofynion yr awdurdod lleol o ran bywyd gwyllt a bioamrywiaeth; pellteroedd rhesymol rhwng eiddo ac atal colli preifatrwydd drwy ddyluniad y ffenestri.

 

Dywedodd y siaradwr wrth yr aelodau fod caniatâd amlinellol wedi'i roi ar y safle a bod hynny'n sail i'r cais hwn. Os caiff ei ganiatáu, cartref y teulu fyddai’r datblygiad.

 

Trafodaeth gyffredinol -

 

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas (aelod lleol) roedd y cynnig ar gyfer codi annedd ar safle gyda chaniatâd cynllunio sy’n bodoli eisoes. Dywedodd nad oedd unrhyw wrthwynebiadau gan swyddogion priffyrdd a bod digon o bellter o'r adeiladau presennol. Dywedodd y Cynghorydd Thomas hefyd fod y datblygiad arfaethedig yn unol â nod y cynllun corfforaethol o ddarparu cartrefi i deuluoedd ifanc.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Christine Marston, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Peter Scott, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

Pleidlais:

O blaid – 15

Ymatal – 1

Yn erbyn – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

10.

CAIS RHIF. 03/2020/0472 - PENGWERN HALL PENGWERN LLANGOLLEN pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i adeiladu lagŵn slyri a gwaith cysylltiedig ym Mhengwern Hall Pengwern Llangollen LL20 8AW (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer adeiladu lagŵn slyri a gwaith cysylltiedig ym Mhlas Pengwern, Llangollen.

 

Trafodaeth gyffredinol -

 

Dywedodd y Cynghorydd Melvyn Mile (aelod lleol) fod cyngor y dref eisiau codi ymwybyddiaeth o ba mor agos oedd y datblygiad i ddwy ysgol ac i eiddo preswyl. Dywedodd na fu unrhyw wrthwynebiadau gan unrhyw gyrff allanol a byddai'n cefnogi'r cais cyn belled bod amodau priodol mewn grym.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Melvyn Mile, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Alan James, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

Pleidlais:

O blaid – 15

Ymatal – 1

Yn erbyn – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

11.

CAIS RHIF. 10/2020/0642- TIR YN BROOKLYN, BRYNEGLWYS, CORWEN pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i Amrywio Amodau 2 a 3 o ganiatâd cynllunio amlinellol 10/2017/0330 i ganiatáu estyniad amser ar gyfer cyflwyno materion a gadwyd a dyddiad cychwyn y datblygiad ar dir yn Brooklyn, Bryneglwys, Corwen (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais am amrywio amodau 2 a 3 o ganiatâd cynllunio amlinellol 10/2017/0330 i ganiatáu ymestyn amser ar gyfer cyflwyno materion a gadwyd yn ôl a dyddiad cychwyn y datblygiad yn Brooklyn, Bryneglwys, Corwen.

 

O ystyried y sylwadau hwyr oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru, gofynnodd swyddogion i'r cais gael ei ohirio er mwyn caniatáu i'r ymgeiswyr fynd i'r afael â'r mater o effaith y datblygiad ar Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Dyfrdwy.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Brian Jones ohirio’r cais o ystyried y sylwadau hwyr gan Adnoddau Naturiol Cymru ac i'r ymgeisydd fynd i'r afael â mater effaith mewn perthynas ag ACA, wedi'i eilio gan y Cynghorydd Bob Murray.

 

Pleidlais:

O blaid – 16

Ymatal – 0

Yn erbyn – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid gohirio'r cais ar Dir yn Brooklyn, Bryneglwys, Corwen tan gyfarfod yn y dyfodol.

 

 

12.

CAIS RHIF. 42/2020/0903 - TIR GER CARTREFLE, FFORDD FFYNNON, DYSERTH, Y RHYL pdf eicon PDF 98 KB

Ystyried cais i ddatblygu 0.12ha hectar o dir drwy godi 2 annedd ar wahân (cais amlinellol - pob mater wedi’u cadw’n ôl) yn dir ger Cartrefle, Ffordd Ffynnon Dyserth, Y Rhyl LL18 6HH (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i ddatblygu 0.12 hectar o dir drwy godi 2 annedd ar wahân (cais amlinellol - pob mater wedi’i gadw’n ôl) ar dir gerllaw Cartrefle, Ffordd Ffynnon, Dyserth, Y Rhyl.

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Dywedodd y cadeirydd wrth y pwyllgor na allai'r aelod lleol y Cynghorydd David Williams ddod i'r cyfarfod. Fodd bynnag, roedd wedi anfon datganiad yn amlinellu ei fod wedi asesu'r gwrthwynebiadau a godwyd i'r cais a'i fod yn fodlon i'r pwyllgor benderfynu ar y cais gyda’r wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad. Pe bai wedi mynychu, byddai'r Cynghorydd Williams wedi datgan cysylltiad personol gan fod ganddo eiddo yng nghyffiniau safle'r cais.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Bob Murray y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Merfyn Parry.

 

Pleidlais:

O blaid – 16

Ymatal – 0

Yn erbyn – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

13.

CAIS RHIF. 47/2020/0271 - TIR YN (RHAN O ARDD) GLANRAFON RHUALLT LLANELWY pdf eicon PDF 5 KB

Ystyried cais I godi un annedd, ffurfio mynedfa newydd i gerbydau, gosod tanc septig a gwaith cysylltiedig yn Tir yn (rhan o ardd) Glanrafon Rhuallt Llanelwy LL17 0TD (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi un annedd, ffurfio mynedfa newydd i gerbydau, gosod tanc septig a gwaith cysylltiedig ar dir yn (rhan o ardd) Glanrafon, Rhuallt, Llanelwy.

 

Trafodaeth gyffredinol -

 

Dywedodd y Cynghorydd Christine Marston (aelod lleol) wrth y pwyllgor fod Glanrafon yn adeilad rhestredig gradd 2 tri llawr, a bod y cais ar gyfer datblygiad yn yr ardd. Roedd y cais yn cael ei drafod oherwydd pryderon a godwyd gan Gynghorau Cymuned Tremeirchion, Cwm a’r Waen ar yr effaith y byddai'n ei chael ar Glanrafon a diogelwch priffyrdd.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau y cynigiwyd ceisiadau am ddwy annedd fforddiadwy ar y safle ym mis Mai 2013. Tynnwyd y rheiny'n ôl oherwydd sawl amheuaeth a godwyd gan y swyddog cadwraeth tra bod gan swyddogion priffyrdd bryderon hefyd am yr effaith ar y priffyrdd a'r gwelededd. Hysbyswyd yr Aelodau y byddai'r datblygiad arfaethedig yn cael effaith gormesol ar Glanrafon oherwydd er mai dau lawr yn unig oedd gan y datblygiad arfaethedig, byddai uchder y crib yn uwch na Glanarfon.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Christine Marston, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Peter Scott, y dylid gwrthod y cais yn groes i argymhellion swyddogion yn unol â Nodiadau Cyngor Technegol 14 a 18 ac o ystyried pryderon am yr effaith ar ddiogelwch rhestredig a diogelwch priffyrdd.

 

Teimlai'r Cynghorydd Ann Davies yn gryf y dylid diogelu adeiladau rhestredig, a gofynnodd a oedd CADW wedi gwneud unrhyw sylwadau ar y cais. Dywedodd swyddogion na fyddai CADW fel arfer yn gwneud sylwadau ar gais cynllunio ar y cam hwn ond bod swyddog Cadwraeth y Cyngor wedi teimlo bod y datblygiad yn dderbyniol.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Paul Penlington, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Alan James, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

Ochr yn ochr â'r cynnig awgrymwyd y gallai cysoni lefelau'r llawr rhwng yr adeilad rhestredig a'r datblygiad newydd fod yn fuddiol.

 

Pleidlais:

O blaid – 4

Ymatal – 0

Yn erbyn – 12

 

PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD y cais yn groes i argymhellion y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

14.

CAIS RHIF. 47/2020/0272 - TIR YN (RHAN O ARDD) GLANRAFON RHUALLT LLANELWY pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i dynnu rhan o wal i greu mynediad (Cais Adeilad Rhestredig) yn dir yn (rhan o ardd) Glanrafon Rhuallt Llanelwy (copi ynghlwm)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i symud rhan o wal i ffurfio mynediad (Cais Adeilad Rhestredig) ar dir a oedd yn rhan o ardd Glanrafon, Rhuallt, Llanelwy

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Christine Marston y dylid gwrthod y cais gan ei fod yn effeithio ar amwynderau gweledol yr adeilad rhestredig, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Peter Scott.

 

Pleidlais:

O blaid – 4

Ymatal – 0

Yn erbyn – 10

 

PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD y cais yn groes i argymhellion y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad.