Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: the Council Chamber, County Hall, Ruthin

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 186 KB

Cofnodion:

Y Cyng. Peter Prendergast.

 

Anfonodd y Pwyllgor Cynllunio eu cydymdeimladau dwysaf i’r Cynghorydd Pete Prendergast.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiadau personol sy’n rhagfarnu yn unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Merfyn Parry – Eitem 5 ar y rhaglen – datganodd gysylltiad personol gan fod yr ymgeisydd yn gwsmer i gwmni yr oedd y Cynghorydd Parry yn gweithio iddo.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 494 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2020 (copi wedi’i atodi).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2020.

 

Gofynnodd aelodau i’r pwyntiau a godwyd am y trefniadau draenio ar y cais eu nodi yn y cofnodion. Yn benodol, roedd yr aelodau yn dymuno i’w cais ar gyfer cyfarfod gyda Swyddogion i drafod draenio gael ei gofnodi yn y cofnodion. Sicrhaodd y swyddogion yr aelodau y bydd cyfarfod yn cael ei drefnu ond roedd oedi oherwydd Covid-19.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2020 fel cofnod cywir.

 

 

5.

CAIS RHIF. 09/2020/0167 - EFAIL Y WAEN, BODFARI pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais ôl-weithredol ar gyfer estyniad i adeilad amaethyddol yn Nhir ger Efail Y Waen, Bodfari, Dinbych, LL16 4EE (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ôl-weithredol ar gyfer estyniad i’r adeilad amaethyddol presennol ar y tir ger Efail y Waen, Bodfari, Dinbych.

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Eglurodd y Cynghorydd Merfyn Parry (Aelod Lleol) i’r pwyllgor bod y cais yn cael ei drafod oherwydd y pryderon a godwyd gan y Cyngor Cymuned am natur ôl-weithredol y cais a maint a graddfa’r estyniad.

 

Hysbysodd y swyddog cyfreithiol y pwyllgor nad oedd y ffaith bod y cais yn ôl-weithredol yn gwneud y datblygiad yn annerbyniol. Dylid delio â'r cais ar ei rinweddau ei hun.

 

Holodd y pwyllgor os fyddai estyniad i'r sied yn cael effaith ar y tai lleol gerllaw. Holwyd hefyd os oedd unrhyw sylwadau pellach wedi cael eu derbyn gan Bwyllgor AHNE am y datblygiad.

 

Ymatebodd y swyddogion gan gadarnhau nad oedd unrhyw wrthwynebiad wedi cael ei dderbyn gan drigolion lleol i’r datblygiad. O ran yr AHNE, nid oedd unrhyw sylwadau gan y pwyllgor AHNR na swyddogion, eglurwyd nad oedd y cais o fewn yr AHNE, fodd bynnag roedd yn weladwy o’r AHNE.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Mark Young fod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol ag argymhellion y swyddog ac eiliwyd gan y Cynghorydd Alan James.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 14

GWRTHOD – 0

YMATAL – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

6.

CAIS RHIF. 45/2020/0096/ PF - 64 BRIGHTON ROAD, Y RHYL pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais ar gyfer newid defnydd ac addasiadau i gyn swyddfeydd i ffurfio ysbyty 6 ward, 61 gwely at ddefnydd nyrsio preswyl a gofal iechyd yn 64 Brighton Road, Y Rhyl, LL18 3HN (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer newid defnydd ac addasiadau i hen swyddfeydd er mwyn ffurfio ysbyty 61 gwely a 6 ward ar gyfer gofal iechyd a nyrsio preswyl yn 64 Brighton Road, y Rhyl, LL18 3HN.

 

Hysbysodd swyddogion y pwyllgor bod y swyddogion cynllunio wedi derbyn sylwadau hwyr mewn ffurf llythyrau gwrthwynebu, gan drigolion gerllaw. Roedd y pryderon a godwyd yn y llythyrau gwrthwynebu yn ymwneud â diffyg cyfiawnhad ar gyfer y datblygiad, diffyg cynllun rheoli clir ac ofnau dros ddiogelwch y safle a throsedd ac anrhefn posibl.

Dywedodd y cadeirydd wrth y pwyllgor nad oedd yr aelod lleol, y Cynghorydd Barry Mellor yn gallu mynychu’r cyfarfod, fodd bynnag gofynnwyd i’r cadeirydd godi pwyntiau gyda swyddogion ar ei ran. Holodd pam nad oedd y ddeiseb ar gyfer y cais blaenorol wedi cael ei grybwyll o fewn yr adroddiad ar gyfer y datblygiad newydd.

Ymatebodd y swyddogion i’r ymholiad, ac eglurwyd bod y Pwyllgor yn delio â chais cynllunio newydd. Nid oedd unrhyw ddeiseb wedi cael ei gyflwyno fel rhan o'r cais hwn. Roedd y cais cynllunio a wrthodwyd yn flaenorol yn destun apêl gynllunio a gafodd ei wrthod. Ystyriwyd y ddeiseb ar amser y cais cynllunio blaenorol ond ni allai'r ddeiseb gael ei ystyried ar gyfer cais cynllunio newydd.

Hysbysodd y Cynghorydd Tony Thomas (aelod lleol) y pwyllgor fod nifer o drigolion lleol yn meddwl bod y cais yr un fath, a bod y ddeiseb yn dal i sefyll. Cytunodd yr aelod lleol gyda phryderon trigolion lleol gan nad oedd cynllun rheoli clir o fewn y cais. Holwyd am orddwysáu cartrefi gofal yn yr ardal ac os oedd unrhyw gyfatebiaeth gyda chartrefi gofal gerllaw i asesu eu capasiti. Amlygwyd hefyd os fyddai’r ysbyty’n cael ei adeiladu, byddai mewn cystadleuaeth uniongyrchol gyda busnesau lleol gerllaw. Yn olaf, amlygodd yr aelodau lleol nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) wedi amlygu angen lleol am y datblygiad.

Cynnig - Cynigodd y Cynghorydd Tony Thomas i wrthod y cais, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Brian Jones.

Eglurodd y cadeirydd y byddai angen rheswm clir dros wrthod y cais unwaith y byddai aelodau eraill wedi trafod y cais.

Cytunodd y Cynghorydd Brian Jones gyda sylwadau a godwyd gan y Cynghorydd Tony Thomas. Codwyd hefyd bod y cais presennol o ddiddordeb i nifer o bobl y Rhyl, a fyddai wedi mynychu'r cyfarfod yn Neuadd y Sir, a dywedodd y byddai well ganddo weld eitemau dadleuol yn cael eu trafod mewn cyfarfodydd corfforol yn hytrach na chyfarfodydd o bell. Datganwyd hefyd bod yr un rhesymau dros wrthod yn dal i fod yn gymwys o’r cais diwethaf. Yn ogystal â hynny, hysbysodd y Cynghorydd Jones, byddai dod a phobl i'r ysbyty o du hwnt i'r ardal yn cael effaith ar amwynderau lleol, ynghyd â rhai cleifion a allai fod yn risg i ddiogelwch y trigolion gerllaw. Amlinellwyd yr ansicrwydd yn dilyn COVID ac os fyddai’r adeilad yn cael unrhyw ddefnydd yn dilyn y pandemig.

Yn dilyn y pwyntiau a godwyd, ymatebodd y swyddogion i ddweud bod yr ymgynghoriad cyhoeddus statudol wedi cael ei gynnal, yn unol â’r ddeddfwriaeth gynllunio. Fodd bynnag, roedd y swyddogion yn deall pryderon y trigolion lleol. Roedd mwy o fanylion yn y cais newydd, gan fod yr adolygiadau ac asesiadau priodol wedi cael eu cynnal.

Trafododd yr aelodau’r cais a bod yr adeilad yn boendod i Heddlu Gogledd Cymru oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol, a bod yr adeilad gwag yn dod yn risg. Roedd hefyd yn edrych yn hyll yn yr ardal leol. Roedd rhai aelodau yn cytuno bod y diffyg achos busnes o fewn y cais yn codi pryderon. Atgoffodd y Cynghorydd  ...  view the full Cofnodion text for item 6.