Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 30 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Ellie Chard, Gwyneth Kensler a Julian Thompson-Hill.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiadau personol sy’n rhagfarnu yn unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr canlynol gysylltiad yn yr eitemau canlynol -

 

·         Mae’r Cynghorydd Mark Young  - eitem agenda 5 – wedi datgan diddordeb personol fel aelod cabinet ac roedd y mater o fewn ei gylch gwaith.

·         Y Cynghorydd Emrys Wynne – agenda eitem 5 – datgan diddordeb rhagfarnllyd gan fod ei ferch yng nghyfraith wedi helpu gyda datblygu’r cais arfaethedig.

·         Y Cynghorydd Merfyn Parry – agenda eitem 5 – datgan diddordeb personol gan ei fod yn adnabod y perchnogion tir yn yr ardal amgylchynol.

·         Y Cynghorydd Tony Thomas - agenda eitem 5 - datgan diddordeb personol gan ei fod ymysg yr aelodau arweiniol blaenorol ar gyfer y cais.

·         Y Cynghorydd Brian Jones – eitem agenda 6,7,8,9 a 10 – datgan diddordeb rhagfarnllyd fel aelod arweiniol.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 457 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12 Chwefror (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2020.

 

Cywiriad – tudalen 13: eitem 6 aelodau yn tynnu sylw mai'r ffordd oedd yr A547 ac nid yr A541, ac fe gafodd hynny ei nodi.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2020 fel cofnod cywir.

 

 

5.

CAIS RHIF. 46/2019/0792 - TIR ODDI AR LÔN CWTTIR, OEDD YN RHAN O FFERM GREEN GATES,LLANELWY pdf eicon PDF 196 KB

Ystyried cais ar gyfer yr newid defnydd y tir i safle preswyl ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr gan gynnwys 3 bloc amwynder pâr gyda thirlunio a ffordd fynediad llawr caled cysylltiedig (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i newid defnydd y tir yn safle Sipsiwn a Theithwyr i gynnwys 3 adeilad bloc pâr gydag amwynderau a thirlunio a ffordd mynediad â lloriau caled.

 

Cyn i’r cais gael ei drafod fe eglurodd y Cynghorydd Emrys Wynne nad oedd wedi mynychu'r ymweliad safle, a gadawodd y siambr am weddill y drafodaeth gan ei fod wedi datgan diddordeb personol a rhagfarnllyd yn yr eitem.

 

Siaradwyr Cyhoeddus -

 

Leanne Groves (yn erbyn) – diolchodd i’r gymuned am y cyfle i siarad ar ran ei theulu a'r gymuned amgylchynol. Nodwyd fod pob rhiant eisiau’r gorau i’w plant, a dychmygwch pe bai popeth yn cael ei gymryd ganddyn nhw, dyma'r sefyllfa i blentyn y siaradwraig gyhoeddus, Izzy oedd yn dioddef o Syndrom Pitt Hopkins. Oherwydd y syndrom mae’r teulu wedi dewis tŷ wedi'i leoli i ffwrdd o’r dref a llygredd sŵn. Wrth brynu'r eiddo y cyngor cyfreithiol a gafwyd oedd bod dim bwriad datblygu o fewn y CDLl gan fod y safle yn dir cefn gwlad agored gyda rhagdybiaeth gadarn yn erbyn unrhyw ddatblygiad. Gyda’r sicrwydd hynny fe brynodd y teulu’r eiddo. Ar hyn o bryd mae 7 o bobl yn byw ar Lôn Cwttir. Byddai datblygiad yn effeithio cymeriad gwledig y gymuned gan nad oedd y datblygiad yn cydymffurfio â chymeriad yr adeiladau presennol. Byddai hefyd yn cael effaith andwyol ar natur, byddai’r datblygiad yn effeithio lles y preswylwyr presennol. Byddai’r datblygiad yn cael effaith andwyol ar Izzy gan y byddai’r synau yn ei chynhyrfu yn ôl barn gweithwyr meddygol proffesiynol. Byddai’r cais yn golygu bod yn rhaid i Izzy fyw yn rhywle arall. Byddai’r datblygiad arfaethedig yn achosi llwybr sydd eisoes yn beryglus i fod yn fwy peryglus gyda'r cynnydd mewn traffig.

 

Marc Sorrentino (yn erbyn) – mae’r cais ar gyfer datblygiad preswyl y tu allan i ffin y setliad a byddai angen trafod y cais a’r polisïau cynllunio. Dydi’r cais ddim yn cydymffurfio â pholisïau cenedlaethol Cymru a pholisïau cynllunio lleol RD-1 a BSC-10. Dydi’r cais ddim yn cwrdd â pholisi RD-1, a ddim yn cydymffurfio â BSC-10 gan nad oes diffiniad am y cyrion, nid yw’r pellter cerdded trwy’r fferm yn fynediad digonol. Dydi’r cais ddim ar y cyrion. Mae’r ffaith bod y cais ddim yn cydymffurfio â’r polisïau yn rheswm digon cadarn i wrthod y cais. Mae llawer o sylw wedi bod i ddarpariaeth Sipsiwn a Theithwyr a'r safleoedd. Mae arweiniad Llywodraeth Cymru wedi amlygu y dylai'r amwynderau gael eu datblygu mewn lleoliad addas, fodd bynnag cafodd y cyhoedd eu gwneud yn ymwybodol fod safleoedd eraill mwy addas ar sail polisi ac o fewn setliadau wedi eu trafod cyn y broses o ddyrannu safle.

 

Trudy Aspinwall (O blaid) – reolwr tîm y prosiect ‘Teithio Ymlaen’ sy’n gweithio gyda theuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru. Diolchodd i’r pwyllgor am y cyfle i siarad ar ran y teulu a fyddai’n byw yn y datblygiad arfaethedig yn Lôn Cwttir.   Fel cefnogwyr o deuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr roedd hi’n newyddion da bod Sir Ddinbych yn cynnig datblygiad, roedd pawb yn gwerthfawrogi’r newyddion, yn enwedig a hithau wedi bod yn amser anodd i deuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr gan fod lleihad wedi bod yn y nifer o safleoedd stopio traddodiadol. Tydi Cynghorau heb frysio i ddatblygu safleoedd newydd.  Mae hynny’n achosi’r Sipsiwn, Roma a Theithiwr i gael eu symud, troi allan a’u symud eto neu symud i dai brics a morter a fyddai’n golygu colli eu cysylltiadau teuluol a’u diwylliant, dyma effeithiau negyddol ar y teuluoedd. Yn 2014 dyma Lywodraeth Cymru yn cydnabod yn gyfreithiol anghenion a hawliau  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CAIS RHIF. 01/2019/1011 - PLOT 1, TIR GER YSTÂD DDIWYDIANNOL COLOMENDY, DINBYCH pdf eicon PDF 169 KB

I ystyried cais i adeiladu Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Awdurdod Lleol i gyflawni gwaith trefnu a bwndelu gwastraff wedi’i ailgylchu a’i gasglu ar wahân; gan gynnwys adeiladu prif adeilad ailgylchu, un adeilad depo a baeau storio; gosod man golchi cerbydau a phont bwyso, gosod generadur, creu mynedfa newydd a gwaith lledu ffordd cysylltiedig, adeiladu ffordd fewnol, iard gwasanaeth, ardaloedd storio, parcio, draenio ac is-orsafoedd (i wasanaethu plotiau 1-5), tirlunio a gwaith cysylltiedig (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i adeiladu Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Awdurdod Lleol i sortio a bwndelu gwastraff ailgylchu wedi’i gasglu ar wahân; i gynnwys codi prif adeilad ailgylchu, un adeilad depo a baeau storio, gosod cyfleuster golchi cerbydau a phont bwyso, lleoliad i osod generadur, creu mynediad newydd a lledu’r ffordd berthnasol, adeiladu ffordd fewnol, iard gwasanaethau, ardaloedd storio, parcio, system draenio as is-orsafoedd (i wasanaethu plotiau 1-5), tirlunio a gwaith cysylltiedig ar dir cyfagos i Stad Ddiwydiannol Colomendy, Dinbych.

 

Siaradwyr Cyhoeddus -

 

Georgia Crawley (o blaid) – diolchodd y pwyllgor am y cyfle i siarad, eglurodd y byddai'n trafod manylion y cynigion yn drylwyr, y datblygiad arfaethedig o 5 plot a fyddai'n lledaenu dros 13,500m2 o ofod llawr diwydiannol a busnes newydd o wahanol feintiau, ynghyd â chyfleuster trosglwyddo gwastraff awdurdod lleol ar y tir cyflogaeth 8.5 hectar i'r gogledd o stad ddiwydiannol Colomendy. Mae’r ceisiadau wedi'u cyflwyno ar wahân ond yn rhannu nifer o agweddau. Mae’r safle wedi’i ddyrannu ar gyfer cyflogaeth am 20 mlynedd ond dydi’r safle heb gael ei ddatblygu oherwydd y costau o brynu a gwasanaethu’r safle. Sefydlwyd consortiwm rhwng Cyngor Sir Ddinbych, Yard Space Wales, Henllan Bakery, Lock Stock ac Emyr Evans. Mae pob parti perthnasol wedi cynllunio’r datblygiad a’r estyniadau sydd eu hangen arnyn nhw. Mae’r cydweithio wedi dod â datblygiad dinesig a phreifat ynghyd ac wedi creu ffordd arloesol ac effeithiol o gydlynu datblygiad. Dylid cyflawni’r prif waith fel y gwaith tir, ffordd a systemau draenio gyntaf. Ni fyddai’r cyfleuster trosglwyddo gwastraff yn prosesu gwastraff ond yn ei gasglu a'i fwndelu. Byddai’r cais arfaethedig yn caniatáu i Sir Ddinbych i gydymffurfio â glasbrint Llywodraeth Cymru gyda chasgliadau ochr ffordd, a chasgliadau gwastraff wedi’i ailgylchu yn wythnosol. Byddai’r effaith yn economaidd o gael 5 plot yn sylweddol. O fewn 5 mlynedd amcangyfrifir bod 525 o swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol yn cael eu creu. Yr amcangyfrif o gyfanswm y buddsoddiad cyfalaf fyddai £20.3 miliwn i’r economi gydag amcangyfrif o £2.9 miliwn yn cael ei gyfrannu i economi Dinbych bob blwyddyn gan gynyddu i £9 miliwn erbyn 2024. Ystyriwyd y cynllun i fod yn unol â pholisi PSE2 y Cyngor. Mae’r datblygwyr wedi gweithio’n agos gyda chymdogion yn ystod y broses cyn gwneud cais i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon ac nid oes unrhyw wrthwynebiadau wedi bod i'r datblygiad.  

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Hysbyswyd y pwyllgor y byddan nhw angen penderfynu ar bob un o’r ceisiadau o ran teilyngdod eu hunain. Fodd bynnag byddai’r gwaith tirlunio a phriffyrdd yn cael effaith ar yr holl geisiadau. Mae’r ardal wedi’i gynnig i’w ddatblygu wedi cael ei ddyrannu fel tir cyflogaeth yn y CDLl. Mae pob plot gyda defnyddiau arfaethedig ar wahân. Byddai Plot un yn Orsaf Trosglwyddo Gwastraff i ymgymryd â'r gwaith sortio a bwndelu gwastraff wedi'i gasglu ar wahân i'w ailgylchu, a byddai angen cydymffurfio â chanllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru. Byddai Plot 2 ar gyfer Yard Space Wales fel cais hybrid ar gyfer y 31 uned (ar gyfer defnyddiau B1 B2 a B8). Byddai Plot 3 yn estyniad i Fara Henllan a fyddai’n eu galluogi nhw i gynyddu cynhyrchiant. Mae Plot 4 ar gyfer Lock Stock i gynyddu cyfanswm y cynwysyddion storio. Ac yn olaf, mae Plot 5 ar gyfer Emyr Evans oedd yn gais hybrid i godi 22 unedau ac i gynyddu cyfanswm y gofod llawr.

 

Dim gwrthwynebiad gan breswylwyr lleol, dim gwrthwynebiad chwaith gan gyrff proffesiynol. Fodd bynnag mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gofyn i fesurau lliniaru a rheoli digonol fod yn eu lle ar y safle ar gyfer y fadfall ddŵr cribog.

 

Holodd y Cynghorydd Mark Young (Aelod Lleol) am  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CAIS RHIF. 01/2019/1013 - PLOT 3, TIR GER YSTÂD DDIWYDIANNOL COLOMENDY, DINBYCH pdf eicon PDF 171 KB

I ystyried cais am adeiladu estyniad i uned ddiwydiannol bresennol (ar gyfer defnydd B1, B2 a B8), cysylltiad i’r fynedfa bresennol, adeiladu ffordd fynediad mewnol, iard gwasanaeth, ardaloedd storio a pharcio, draenio ac is-orsafoedd (i wasanaethau potiau 1 i 5), tirlunio a gwaith cysylltiedig (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi estyniad i uned ddiwydiannol bresennol (ar gyfer defnyddiau B1, B2 a B8), cysylltiad i fynediad presennol, codi ffordd mynediad mewnol, iard gwasanaethau, storfa a llefydd parcio, system draenio ac is-orsafoedd (i wasanaethau plotiau 1 i 5), tirlunio a gwaith cysylltiedig.

 

CYNNIG – Cynigodd y Cynghorydd Mark Young i gymeradwyo’r cais gydag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Merfyn Parry.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 14

GWRTHOD – 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

8.

CAIS RHIF. 01/2019/1012 - PLOT 2, TIR GER YSTÂD DDIWYDIANNOL COLOMENDY, DINBYCH pdf eicon PDF 171 KB

I ystyried cais Cynllunio Hybrid ar gyfer:

i)     Caniatâd cynllunio llawn ar gyfer codi 6 uned (ar gyfer defnydd B1, B2 a B8), cysylltiad i’r fynedfa bresennol, adeiladu ffordd fynediad fewnol, iard gwasanaeth, ardaloedd storio a pharcio, draenio ac is-orsafoedd (i wasanaethau potiau 1 i 5), tirlunio a gwaith cysylltiedig

ii)    Caniatâd cynllunio amlinellol gan gynnwys mynediad, cynllun a thirlunio i ddatblygu tir ar gyfer 25 uned (ar gyfer defnydd B1, B2 a B8) (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais hybrid ar gyfer:

(i)    Caniatâd cynllunio llawn i godi 6 unedau (ar gyfer defnyddiau B1, B2 a B8), cysylltiad i fynediad presennol, codi ffordd mynediad mewnol, iard gwasanaethau, storfa a llefydd parcio, system draenio ac is-orsafoedd (i wasanaethau plotiau 1-5), tirlunio a gwaith cysylltiedig.

(ii)  Amlinellu caniatâd cynllunio yn cynnwys mynediad, gosodiad a thirlunio ar gyfer datblygu tir ar gyfer 25 unedau (ar gyfer defnydd B1, B2 a B8).

 

CYNNIG – Cynigodd y Cynghorydd Mark Young i gymeradwyo’r cais gydag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Alan James.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 15

GWRTHOD – 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

9.

CAIS RHIF. 01/2019/1014 - PLOT 4, TIR GER YSTÂD DDIWYDIANNOL COLOMENDY, DINBYCH pdf eicon PDF 171 KB

I ystyried cais i Adeiladu 11 uned (ar gyfer defnydd B1, B2 a B8), newid defnydd tir ar gyfer gosod cynwysyddion storio, cysylltiad i’r fynedfa bresennol, adeiladu ffordd fynediad fewnol, iard gwasanaeth, ardaloedd storio a pharcio, draenio, is-orsafoedd (i wasanaethu plotiau 1 i 5), tirlunio a gwaith cysylltiedig (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi 11 unedau (ar gyfer defnyddiau B1, B2 a B8), newid defnydd o dir ar gyfer gosod cynwysyddion storio, cysylltiad i fynediad presennol, codi ffordd mynediad mewnol, iard gwasanaethau, storfa a llefydd parcio, system draenio ac is-orsafoedd (i wasanaethau plotiau 1 i 5), tirlunio a gwaith cysylltiedig.

 

CYNNIG – Cynigodd y Cynghorydd Mark Young i gymeradwyo’r cais gydag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Merfyn Parry.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 15

GWRTHOD – 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

10.

CAIS RHIF. 01/2019/1015 - PLOT 5, TIR GER YSTÂD DDIWYDIANNOL COLOMENDY, DINBYCH pdf eicon PDF 170 KB

I ystyried cais cynllunio hybrid:

i)    Caniatâd cynllunio llawn ar gyfer codi 1 uned (ar gyfer defnydd B1, B2 a B8), cysylltiad i’r fynedfa bresennol, adeiladu ffordd fynediad mewnol, iard gwasanaeth, ardaloedd storio a pharcio, draenio ac is-orsafoedd (i wasanaethau potiau 1 i 5), tirlunio a gwaith cysylltiedig

ii)   Caniatâd cynllunio amlinellol gan gynnwys mynediad, cynllun a thirlunio i ddatblygu tir ar gyfer 21 uned (ar gyfer defnydd B1, B2 a B8) (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais cynllunio hybrid ar gyfer

(i)    Caniatâd cynllunio llawn i godi 1 uned (ar gyfer defnyddiau B1, B2 a B8), cysylltiad i fynediad presennol, codi ffordd mynediad mewnol, iard gwasanaethau, storfa a llefydd parcio, system draenio ac is-orsafoedd (i wasanaethau plotiau 1-5), tirlunio a gwaith cysylltiedig.

(ii)  Amlinellu caniatâd cynllunio yn cynnwys mynediad, gosodiad a thirlunio ar gyfer datblygu tir ar gyfer 21 unedau (ar gyfer defnydd B1, B2 a B8).

 

CYNNIG – Cynigodd y Cynghorydd Mark Young i gymeradwyo’r cais gydag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Merfyn Parry.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 15

GWRTHOD – 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

11.

ADRODDIAD GWYBODAETH - DIWEDDARIAD APELAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 99 KB

Adroddiad gwybodaeth ar benderfyniadau apêl cynllunio ddiweddar a dderbyniwyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar achosion yn y Sir. Mae'n ymdrin â'r cyfnod o 6 mis o fis Medi 2019 hyd yma (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod y pwyllgor cynllunio yn nodi cynnwys yr adroddiad

 

 

12.

CAIS RHIF. 05/2019/1016 - TIR AR SAFLE GWERSYLLA STATION, CARROG pdf eicon PDF 5 KB

I ystyried cais ar gyfer newid defnydd y tir i ddarparu 14 llain i bebyll (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i newid defnydd y tir i ddarparu 14 lleiniau pebyll.

 

Cafwyd ychydig o gefndir y cais gan y swyddogion, a hysbyswyd y pwyllgor nad oedd unrhyw wybodaeth ychwanegol yn y daflen las. Mae’r safle sy’n gwneud y cais eisoes yn gweithredu fel safle gwersylla ac roedd y cais yn gofyn am ganiatâd i ymestyn y safle.

 

Amlinellodd yr aelodau bod yr ardal arfaethedig mewn ardal llifogydd a gofynnwyd a oedd yna ragofalon diogelwch pe bai llifogydd ar y safle gwersylla.

 

Dywedodd swyddogion yn ymateb wrth y pwyllgor fod y perchnogion wedi cofrestru gyda chynllun rhybuddion llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru, fodd bynnag os oedd aelodau yn dymuno byddai'r swyddogion yn codi'r achosion llifogydd gyda'r ymgeisydd.

 

CYNNIG – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry i gymeradwyo’r cais gydag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Bob Murray.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 14

GWRTHOD – 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

13.

CAIS RHIF. 01/2019/0959 - TIR RHWNG HEN FFORDD RHUTHUN A FFORDD NEWYDD RHUTHUN, DINBYCH pdf eicon PDF 169 KB

I ystyried cais i godi 64 annedd, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, a’r gwaith cysylltiedig (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi 64 o dai, adeiladu mynediad newydd i gerbydau a gwaith cysylltiedig rhwng Hen Ffordd a Ffordd Newydd Rhuthun, Dinbych.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Stuart Andrew (o blaid) yn siarad ar ran yr ymgeisydd, McBride Homes. Diolchodd i’r pwyllgor am y cyfle i siarad am y datblygiad i godi 64 o dai ar Ffordd Rhuthun, Dinbych. Mae gan y safle ganiatâd cynllunio amlinellol ac mae briff datblygu safle wedi'i ddatblygu yn y gorffennol gan y Cyngor ar gyfer datblygiad preswyl. Byddai gan y safle ddarpariaeth tai fforddiadwy a mannau agored gwyrdd yn unol â pholisïau’r Cyngor. Gyda’r 64 o dai arfaethedig byddai 10% yn dai fforddiadwy, ynghyd â chyfraniad ariannol o 0.4 annedd i gyflawni’r dyraniad o 10%. Byddai hanner erw o fan agored gwyrdd i’r cyhoedd ei ddefnyddio, a rhaglen cynnal a chadw ar gyfer y man agored yn cael ei gytuno arno gan y Cyngor. Byddai hefyd taliad tuag at ysgolion lleol o £75,000. Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau gan ymgyngoreion proffesiynol, ac nid oedd effaith andwyol ar amwynderau’r adeiladau presennol.  

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mark Young (Aelod Lleol) pam bod y cyllid o’r mannau cyhoeddus yn y cais wedi cael ei leihau a’r cyfraniad addysg wedi’i gynyddu. Tynnwyd sylw hefyd bod ceisiadau ar gyfer yr ardal yn y gorffennol wedi tynnu sylw at yr effaith y byddai’n ei gael ar fywyd gwyllt yn arbennig i ddraenogod a gwrychoedd.

 

Ymatebodd y swyddogion i’r ymholiad drwy fynegi bod y swm gwreiddiol ar gyfer mannau cyhoeddus wedi’i leihau gan mai dim y Cyngor a fyddai'n cynnal y mannau agored gwyrdd ac felly cafodd y cyfanswm ei leihau. Y rheswm dros gynyddu’r cyfraniad addysg oedd bod yr asesiad o anghenion gwreiddiol mewn ysgolion wedi’i ail-asesu ym mis Ionawr a bod y cyfanswm wedi cynyddu gan fod angen wedi’i nodi. Mae asesiad ecolegol o’r safle yn dynodi na fyddai yna effaith andwyol ar ecoleg yn yr ardal.

 

Wrth ymateb fe ofynnodd y Cynghorydd Mark Young (Aelod Lleol) os oedd gan Gyngor Sir Ddinbych bolisi ar gynnal mannau agored. Dywedodd y swyddogion bod hynny’n dibynnu ar y safle ond ar gyfer y rhan fwyaf o achosion ni fyddai'r Cyngor yn cynnal y mannau agored. Roedd yna lawer o ddewisiadau eraill ar gael i gynnal mannau gwyrdd. Byddai’r cyfraniad addysg yn cael ei dalu yn uniongyrchol i’r tîm addysg. Yn cyfeirio nôl i'r cynllun cynnal ar gyfer y datblygiad arfaethedig roedd y pwyllgor yn bryderus fel gyda cheisiadau blaenorol bod cynllun cynnal ddim wedi'i gadarnhau a oedd yn achosi dryswch i breswylwyr. Gofynnodd aelodau ar gyfer unrhyw geisiadau yn y dyfodol y dylid cytuno ar waith cynnal a chadw o fewn y broses gynllunio. Ymateb swyddogion oedd bod cynlluniau cynnal a chadw ar gyfer mannau agored gwyrdd mewn ceisiadau yn gallu cael eu trafod mewn cyfarfod Pwyllgor Craffu yn y dyfodol.

 

Gofynnodd aelodau a oedd asesiad effaith ar y Gymraeg wedi cael ei gyflawni ar gyfer y cais. Dywedodd y swyddogion wrth y pwyllgor bod y datblygiad arfaethedig o fewn y CDLl a bod asesiad iaith Gymraeg wedi cael ei wneud yn ystod y broses CDLl.

 

Mynegodd aelodau eu pryderon gyda llifogydd yn yr ardal gyda’r datblygiad arfaethedig, dywedwyd wrth yr aelodau nad oedd yna wrthwynebiadau wedi bod gan gyrff proffesiynol i’r datblygiad.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry i gymeradwyo’r cais gydag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Alan James.

 

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 10

GWRTHOD – 0

YMATAL - 2

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

14.

CAIS RHIF. 02/2019/0895 - TIR YNG NGLASDIR, RHUTHUN pdf eicon PDF 168 KB

I ysteriad cais i codi 77 annedd fforddiadwy ynghyd â mynediad, man agored a gwaith cysylltiedig (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi 77 o dai fforddiadwy ynghyd â mynediad, man agored a gwaith cysylltiedig ar dir yn Glasdir, Rhuthun.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Peter Lloyd (O blaid) – y cysyniad o Glasdir yw estyniad trefol cynaliadwy, gyda thai a chyflogaeth yn dod ynghyd gyda ffordd gyswllt oedd wedi’i gynllunio am 20 mlynedd ac yn y cynllun lleol mabwysiedig.  Ni fyddai’n dod fel newyddion i’r pwyllgor y byddai’r datblygiad arfaethedig ar y safle yn ddatblygiad tai fforddiadwy sydd mawr ei angen. Mae polisïau cynllunio yn cefnogi datblygu tai ar dir addas heb ei ddatblygu o fewn setliadau, byddai’r datblygiad hwn yn cwblhau jig-so Glasdir. Byddai dyluniad y tai yn rai carbon isel a defnydd ynni isel; dyma ddyfodol datblygiadau. Gyda pherygl llifogydd mae ymgyngoreion Clwyd Alyn wedi gweithio’n agos â Chyfoeth Naturiol Cymru a swyddogion amddiffyn rhag llifogydd gyda’r data a modelu mwyaf diweddar i arddangos y peryglon sy’n berthnasol â'r safle a'r canlyniadau. Mae’n cynnwys caniatáu ar gyfer newid hinsawdd ar, ac oddi ar y safle a’r gallu i’w liniaru'n dderbyniol yn unol â pholisi cynllunio TAN-15. Mae’r ymateb gan ymgyngoreion statudol a mewnol yno heb wrthwynebiad. Byddai buddion o’r bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ddinbych a Chlwyd Alyn wrth ddatblygu tir y mae’r cyhoedd yn berchen arno ar gyfer tai fforddiadwy i bobl leol. Byddai cyfraniadau ariannol sylweddol i fannau agored, systemau draenio cynaliadwy ac mae’r rhaglen SAB wedi’i gyflwyno’n barod. Mae diogelu’r iaith Gymraeg wedi cael ei asesu yn y cais. Byddai’r cais yn cynnwys tai a byngalos carbon isel o safon uchel, llwybrau troed, llwybrau beic a mannau agored gwyrdd a fyddai'n dangos hyder a buddsoddiad yn Rhuthun. Byddai hyn yn gynllun tai arloesol a fyddai’n sicrhau £9.1million o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru a gofynnwyd i’r pwyllgor i gymeradwyo’r cais i ddatgloi'r buddsoddiad posib.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Y Cynghorydd Emrys Wynne (Aelod Lleol) yn falch bod yr eitem yn cael ei drafod yn y pwyllgor. Roedd llawer o bryder gan bobl leol i’r datblygiad arfaethedig ac roedd hi’n tawelu meddwl rhywun clywed llawer o'r pryderon hynny'n cael eu hateb yn yr adroddiad gan y swyddogion. Datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol ar ôl deall bod ei frawd yn gwrthwynebu’r datblygiad.

 

Y Cynghorydd Bobby Feeley (Aelod Lleol) – yn bryderus bod y cynnydd mewn nifer o dai a phobl yn rhoi straen ar isadeiledd presennol yr ardal. Pryderon wedi’u codi am yr ardal datblygu arfaethedig gan y byddai'n cael effaith ar lif traffig i'r ardal sydd yn ddigon drwg yn barod yn ystod adegau prysur. Roedd pryderon ynglŷn â’r effaith posib ar ecoleg yr ardal, a’r perygl uwch o lifogydd gan fod y tir mewn ardal perygl o lifogydd. Amlygwyd hefyd bod Llywodraeth Cymru yn y broses o gryfhau polisïau yn berthnasol i lifogydd, a bod oes polisi cynllunio TAN 15 ar gyfer y datblygiad wedi dyddio.

 

Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts (Aelod Lleol) – eglurodd ei fod yn deall bod yna angen corfforaethol am dai ac yn cydymdeimlo gyda swyddogion wrth lunio'r adroddiad a bod angen dull o gydbwysedd. Fodd bynnag mae’r cais yn bwriadu adeiladu tai dwy a tair llofft. Dydi'r dyluniadau ddim yn cyd-fynd  â chymeriad y dref. Byddai angen gwneud llawer iawn o waith hefyd o ran rheoli llifogydd. Byddai traffig yn yr ardal yn cael ei effeithio'n negyddol gan y datblygiad, ac awgrymwyd bod angen gofyn am wybodaeth yn lleol a'i ystyried yn arbennig gyda thraffig a'r effaith ar yr ardal leol.

 

Ymatebodd y swyddogion i'r pwyntiau a godwyd gan aelodau lleol. Roedd swyddogion yn deall pryderon yr aelodau o ran llifogydd a steil y  ...  view the full Cofnodion text for item 14.