Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 30 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIADAU pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd yr aelodau canlynol gysylltiad personol –

 

Y Cynghorydd Gwyneth Kensler – Eitem 6 ar y Rhaglen – gan ei bod wedi gweithio’n agos gydag un o berchnogion yr annedd sy’n destun y cais

 

Y Cynghorydd Emrys Wynne – Eitem 7 ar y Rhaglen – gan ei fod yn ffrind i’r teulu sydd wedi cyflwyno’r cais

 

Y Cynghorydd Huw Williams – Eitem 8 ar y Rhaglen – gan ei fod yn ffrind i’r tirfeddiannwr a gan fod ei nai yn gweithio i’r datblygwr

 

Y Cynghorydd Julian Thompson-Hill – Eitem 11 ar y Rhaglen – gan mai fo yw Aelod Arweiniol Eiddo a bod y tir yn eiddo i'r Cyngor

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 377 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2019 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2019.

 

Cywirdeb – Nid oedd y Cynghorydd Alan James wedi’i gynnwys o dan yr ‘aelodau a oedd yn bresennol’.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2019 fel cofnod cywir.

 

 

CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 11) -

Cyflwynwyd ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau cysylltiedig.  Cyfeiriwyd hefyd at y wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r Rhaglen ac a oedd yn ymwneud â cheisiadau penodol.  Er mwyn caniatáu ceisiadau gan aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn y ceisiadau ar y rhaglen.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

CAIS RHIF 04/2018/1146/PF - GLASCOED, MELIN Y WIG, CORWEN pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i ddymchwel estyniad i gefn yr adeilad ac adeiladau allanol, codi estyniad a gwneud addasiadau i annedd yn Glascoed, Melin y Wig, Corwen (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i ddymchwel estyniad wrth gefn adeilad a chytiau allan, codi estyniad a gwneud addasiadau i annedd yn Glascoed, Melin y Wig, Corwen.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Ms. C. Hibbert (o blaid) – eglurodd amgylchiadau ei theulu a’r rhesymau dros y cais er mwyn moderneiddio mwy ar yr annedd i ddiwallu anghenion y teulu ac aros yn yr ardal.  Y bwriad oedd ailddefnyddio’r cerrig a’r llechi presennol ar gyfer y darn newydd a sicrhau ei fod yn cyd-fynd â gwedd yr adeilad yn wreiddiol.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Mynegodd y Cynghorydd Meirick Davies bryder ynglŷn â cholli’r adeilad o ystyried ei werth hanesyddol a’i bwysigrwydd i’r pentref.  Nodwyd nad oedd ymateb i’r ymgynghoriad wedi’i dderbyn gan y Cyngor Cymuned lleol.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Tony Thomas yr argymhelliad gan y swyddogion i ganiatáu'r cais, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Ann Davies.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU - 17

GWRTHOD - 1

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

6.

CAIS RHIF 16/2018/1137/PF – TIR GER YR HEN REITHORDY, LLANBEDR DYFFRYN CLWYD, RHUTHUN pdf eicon PDF 95 KB

Ystyried cais i godi 38 annedd, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, darparu man agored a’r gwaith cysylltiedig ar dir ger Yr Hen Reithordy, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi 38 annedd, adeiladu mynedfa newydd i gerbydau, darparu man agored a gwneud gwaith cysylltiedig ar dir ger yr Hen Reithordy, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun.

 

Siaradwyr Cyhoeddus –

 

Mr. B. Barton (yn erbyn) – cyflwynodd fod yr adroddiad yn gamarweiniol o ystyried bod yr ardal a neilltuwyd fel man agored cyhoeddus y tu allan i ffin ddatblygu'r pentref; dadleuodd nad oedd y swm gohiriedig, a oedd i'w dalu i ddarparu cyfarpar yn yr ardal chwarae wrth gefn Eglwys Sant Pedr, a oedd heb fynedfa ar hyn o bryd, yn ddigon, a gofynnodd am ohirio'r cais.

 

Mr. P. Lloyd (o blaid) – tynnodd sylw at yr angen dirfawr am dai fforddiadwy ac at rinweddau’r cais o ran darparu datblygiad cynaliadwy o safon uchel.  Roedd y cynllun wedi bod yn destun trafodaethau helaeth ac amryw ddyluniadau cyn y cam hwn.  Nid oedd yn gwrthdaro â’r Cynllun Datblygu Lleol, gan gynnwys darparu'r elfen mannau agored cyhoeddus a oedd yn gysylltiedig â'r safle a chynnig am swm gohiriedig.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Eglurodd y Swyddog Cynllunio bod yr elfen dai wedi’i chynnwys o fewn ffin yr ardal a oedd wedi'i neilltuo ond bod safle'r man agored cyhoeddus y tu allan i'r ffin.  Pe bai nifer yr anheddau’n cael ei leihau i ganiatáu man agored ychwanegol ar y safle, roedd perygl na fyddai’r cynllun yn cael ei gyflawni.  Yn seiliedig ar hynny a gan nad oedd unrhyw ddatblygiad y tu hwnt i'r ffin ddatblygu, daethpwyd i gytundeb o ran darparu man agored ac nid oedd unrhyw wrthdaro â pholisïau mannau agored y Cynllun Datblygu Lleol.  Mae’r swm gohiriedig sydd i’w dalu wedi’i gyfrifo gan y Cyngor a byddai’n cael ei ddarparu tuag at gost ardal chwarae gyda chyfarpar y gallai safleoedd eraill sydd wedi’u dyrannu yn y gymuned hefyd fod yn cyfrannu ati er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei chwblhau.

 

Siaradodd y Cynghorydd Huw Williams (Aelod Lleol) o blaid y datblygiad a fyddai’n helpu i sicrhau bod y pentref yn parhau i ffynnu trwy ddiwallu anghenion lleol a rhoi hwb i’r ysgol a’r economi leol.  Bu iddo hefyd gefnogi’r cynnig i ardal chwarae gael ei lleoli wrth gefn Eglwys Sant Pedr, a fyddai'n darparu cyswllt â chanol y pentref, ac roedd y mater ynglŷn â mynediad yn cael ei drin a'i drafod ar hyn o bryd.

 

Croesawodd yr Aelodau dai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol, a oedd yn flaenoriaeth gorfforaethol ac a fyddai hefyd yn helpu i gyrraedd targedau cenedlaethol.  Cydnabuwyd hefyd yr effaith gadarnhaol o ran cynaliadwyedd yn y dyfodol a manteision i'r ardal.  Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Merfyn Parry yn ymwneud ag amod rhif 5 a gwelededd ar y briffordd, dywedodd y swyddogion y byddai’r elfen hon yn cael ei hystyried yn rhan o Ddatganiad y Dull Adeiladu ac y byddent y sicrhau bod mynediad diogel i'r briffordd yn gynnar yn y broses.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Mark Young argymhelliad y swyddogion i ganiatáu’r cais, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Bob Murray.

                

PLEIDLAIS:

CANIATÁU - 19

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

7.

CAIS RHIF 42/2018/0923/PF – TIR GER FFORDD GALLT MELYD, DYSERTH pdf eicon PDF 97 KB

Ystyried cais i godi 61 annedd, garejis sengl a dwbl, newidiadau i’r fynedfa bresennol i gerbydau a gwaith cysylltiedig ar dir ger Ffordd Gallt Melyd, Dyserth (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cais i godi 61 annedd, garejis sengl a dwbl, newidiadau i’r fynedfa bresennol i gerbydau a gwaith cysylltiedig ar dir ger Ffordd Gallt Melyd, Dyserth.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Mr. S. Andrew (o blaid) – eglurodd y bwriad i ddatblygu rhan o’r safle a ddyrannwyd ar gyfer tai yn y Cynllun Datblygu Lleol a oedd yn cynnwys 10% o ddarpariaeth tai fforddiadwy.  Nid oedd unrhyw effeithiau niweidiol ynghlwm â'r datblygiad o ran amwynder gweledol a phreswyl ac roedd telerau derbyniol o ran draenio a phriffyrdd.  Roedd y datblygiad arfaethedig hefyd yn cyd-fynd â Briff Datblygu’r Safle.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Roedd y Cadeirydd wedi derbyn e-bost gan y Cynghorydd David Williams (Aelod Lleol) a oedd wedi cyfarfod â’r Swyddog Priffyrdd i drafod materion priffyrdd. Roedd y Cynghorydd Williams hefyd wedi mynegi pryder ynglŷn â’r Cynllun Rheoli Adeiladu, ac fe gadarnhaodd y swyddogion y byddai hyn yn cael ei ddatrys yn nes ymlaen yn y broses gyda'r Aelod Lleol.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Priffyrdd yr aelodau at yr adroddiad a oedd yn cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am faterion yn ymwneud â phriffyrdd a mynediad i'r safle.  Cynigiwyd y dylid ffurfio ffordd fynediad newydd ar yr A547 Ffordd Gallt Melyd ac i’r llwybr cyswllt presennol i gerddwyr a beicwyr ffurfio rhan o'r ffordd fynediad.  Byddai’r terfyn cyflymder cyfredol o 40mya yn cael ei symud 40 metr i’r gogledd-orllewin oddi wrth y fynedfa arfaethedig a byddai lleiniau gwelededd yn cael eu darparu yn unol â TAN18.  Roedd Asesiad Cludiant Crynhöol wedi'i gynnal a oedd yn ystyried y datblygiad arfaethedig ynghyd â cheisiadau cynllunio wedi'u hymrwymo, wedi'u dyrannu neu rai cyfredol yn yr ardal, a dangosai hwnnw bod digon o le yn y rhwydwaith priffyrdd lleol i ymdopi â'r datblygiad.  O ganlyniad, nid oedd y swyddogion yn credu bod rheswm digonol i wrthod y cais ar sail priffyrdd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peter Evans at nifer y safleoedd o ddatblygiadau tai a oedd ar ddod i'r amlwg ger llaw a mynegodd ei bryderon ynglŷn â faint o draffig a fyddai ar yr A547 o ganlyniad, yn enwedig o ystyried y tagfeydd a oedd eisoes yng Ngallt Melyd ar yr adegau prysuraf.  Fel Aelod Arweiniol Priffyrdd, roedd y Cynghorydd Brian Jones yn rhannu’r pryderon hynny at y dyfodol, a phwysleisiodd fod angen cadw golwg fanwl ar y mater i sicrhau bod isadeiledd y priffyrdd yn ddigonol o ystyried y cynnydd disgwyliedig mewn traffig a ddisgwylid o ddatblygiadau tai yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau a sylwadau’r aelodau, dywedodd y swyddogion –

 

·         bod y cais yn cydymffurfio â pholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol o ran darparu cyfuniad o fathau o anheddau ar gynlluniau’r farchnad agored

·         bod sylwadau Cydbwyllgor Ymgynghorol yr AHNE wedi’u hystyried yn rhan o’r broses asesu

·         bod terfyn cyflymder o 30mya ger mynedfa’r safle wedi’i ystyried ond roedd yr ardal wedi’i hasesu fel parth 40mya gan ystyried y datblygiad – pe bai’r sefyllfa’n newid, byddai’r terfyn cyflymder yn cael ei ailasesu

·         y gallai fod angen newid amseriad y goleuadau traffig er mwyn cyfrif am y datblygiad, a oedd wedi’i drafod gyda’r Aelod Lleol

·         ar ôl ymgynghori â Dŵr Cymru, cadarnhawyd nad oedd drewdod a sŵn yn cael eu hystyried yn broblem yn yr achos hwn.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Tony Thomas argymhelliad y swyddogion i ganiatáu’r cais, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Tina Jones.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU - 18

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

8.

CAIS RHIF 23/2016/0557/PO – TIR GER DOLWAR, LLANRHAEADR, DINBYCH pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried  cais i ddatblygu 1.2 hectar o dir drwy godi 33 annedd (cais amlinellol gan gynnwys mynediad a gosodiad) ar dir ger Dolwar, Llanrhaeadr, Dinbych (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Daeth yr Is-gadeirydd, y Cynghorydd Alan James, i gadeirio’r eitem hon gan mai’r Cadeirydd, y Cynghorydd Joe Welch, oedd yr Aelod Lleol.

 

Cyflwynwyd cais i ddatblygu 1.2 hectar o dir trwy godi 33 annedd (cais amlinellol yn cynnwys mynedfa a chynllun) ar dir ger Dolwar, Llanrhaeadr, Dinbych.

 

Siaradwyr Cyhoeddus –

 

Mr. E. Williams (yn erbyn) – gwrthwynebodd y cais ar ran y Cyngor Cymuned ar sail pryderon ynglŷn â draenio/llifogydd; diogelwch ar y priffyrdd; effaith negyddol ar y Gymraeg; a diffyg lle yn yr ysgol leol.  Cyflwynwyd y byddai’r cais yn cael effaith negyddol ar y gymuned leol.

 

Ms. S. Edwards (o blaid) – ymatebodd i faterion a godwyd, gan gynnwys mesurau i fynd i'r afael â phryderon yn ymwneud â phriffyrdd a phryderon draenio/llifogydd heb unrhyw wrthwynebiad gan ymgyngoreion statudol.  Roedd y safle wedi’i glustnodi yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ar gyfer tai ac aseswyd yr effaith ar y Gymraeg ar y pryd, ac ystyriwyd ei bod yn dderbyniol – byddai’r datblygiad yn darparu tai y mae angen mawr amdanynt ac yn helpu i dyfu'r gymuned.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Soniodd y Cynghorydd Ann Davies am gyfarfod y Panel Archwilio Safleoedd ar 8 Chwefror 2019 a cheisiodd mwy o sicrwydd ynglŷn â diogelwch ar y priffyrdd a phryderon lleol yn ymwneud â llifogydd/draenio.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Joe Welch (Aelod Lleol) rywfaint o gefndir i’r cais a nodwyd bod y safle gyferbyn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd i gynnwys 15 tŷ.  Y niferoedd dangosol o anheddau yn y CDLl ar gyfer y safle gyferbyn oedd 10 tŷ a 23 ar gyfer safle’r cais hwn, felly byddai caniatáu'r cais yn arwain at 15 a 33 o dai ar y ddau safle, a oedd yn gynnydd o bron i 50% ar y dyraniad dangosol.  Ers mabwysiadu’r CDLl, roedd TAN20 wedi'i gyhoeddi a ddwedai nad oedd bellach raid i ymgeiswyr ddangos yr effaith ar y Gymraeg gan y byddai wedi’i hasesu ar y cam dyrannu.  Roedd y Cynghorydd Welch yn dadlau y dylid ystyried hynny o gofio –

 

(1)       bod amgylchiadau wedi newid yn sylweddol ers mabwysiadu’r CDLl gyda bron i 50% yn fwy o dai’n cael eu cynnig yn yr ardal

(2)       bod y cais wedi’i gyflwyno yn 2016 cyn cyflwyno TAN20, a

(3)       bod yr Asesiad Cymunedol ac Ieithyddol a ddarparwyd gan yr ymgeisydd yn dangos y byddai'r datblygiad yn arwain at ostyngiad yn nifer y siaradwr Cymraeg o 50.03% i 49.1%, a fyddai’n golygu bod pentref â mwyafrif o siaradwyd Cymraeg yn dod yn bentref lle'r oedd y siaradwyr Cymraeg yn y lleiafrif mewn ardal ieithyddol sensitif.

Cyfeiriwyd hefyd at ddilysrwydd y sylwadau cadarnhaol ynglŷn â’r Gymraeg o ystyried natur y cwestiynau a ofynnwyd yn rhan o’r broses asesu.

 

Wrth gyflwyno ei ddadl dros wrthod, dywedodd y Cynghorydd Welch y dylai Polisi RD5 yn y CDLl fod â dylanwad sylweddol mewn perthynas â TAN20.  Roedd Polisi RD5 yn dweud y ‘gellid gwrthod datblygiad os bydd ei faint, graddfa neu leoliad yn achosi niwed arwyddocaol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned'. Cytunodd y Cynghorydd Welch hefyd gydag ystyriaethau eraill a godwyd, gan gynnwys diffyg lle yn yr ysgol leol a'r pwysau mwy a fyddai’n debygol ar gludiant i ysgolion, ynghyd â phryderon priffyrdd a llifogydd.  Fodd bynnag, cynigiodd y dylid gwrthod y cais ar sail niwed sylweddol i’r iaith Gymraeg, gan na chredai bod y niwed hwnnw wedi'i liniaru'n addas a'i fod wedi gwaethygu ers cynnwys y safle yn y CDLl.

 

Cytunodd y Cynghorydd Emrys Wynne y byddai effaith annerbyniol ar y Gymraeg gan bwysleisio bod angen gwarchod cymunedau, yn enwedig o ystyried y  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

CAIS RHIF 01/2018/0992PF – HEN YSBYTY GOGLEDD CYMRU, DINBYCH pdf eicon PDF 167 KB

Ystyried cais i newid defnydd tir i greu ardal hyfforddiant safle adeiladu, codi adeilad i’w ddefnyddio fel gweithdy, trwsio a chadw peiriannau trwm; gwneud newidiadau i’r fynedfa bresennol a'r gwaith cysylltiedig yn hen Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i newid defnydd tir i greu ardal hyfforddiant safle adeiladu, codi adeilad i’w ddefnyddio fel gweithdy, i drwsio peiriannau trwm a storio; gwneud newidiadau i’r fynedfa bresennol a'r gwaith cysylltiedig yn hen Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Pwysleisiodd y Cynghorydd Glenn Swingler (Aelod Lleol) fod y llwybr arfaethedig ar gyfer cerbydau trwm yn gul iawn a’i fod yn lle poblogaidd i gerdded, felly byddai cymeradwyo’r cais yn golygu bod angen rheolyddion priodol a monitro'n barhaus tra mae'n cael ei ddefnyddio dros dro.  Gofynnodd hefyd a ellid cyflwyno mesurau i fynd i’r afael â phryderon am yrru’n gyflym ar hyd Ffordd y Ffair.

 

Ystyriodd yr aelodau rinweddau cais gan nodi bod y cais am ganiatâd dros dro.  Roedd y Cynghorydd Gwyneth Kensler yn awyddus i sicrhau cyn lleied o effaith â phosib’ ar drigolion cyfagos o ystyried yr oriau gweithredu bwriadedig ac roedd yn ystyried diogelwch priodol ar gyfer y safle’n fater ar wahân.  O ran y pryder ynglŷn â sŵn yn dod  o’r safle, awgrymodd y Cynghorydd Merfyn Parry na ellid ond rhoi’r cyfyngiad ar oriau gwaith ar y gweithgareddau hynny a oedd yn debygol o achosi niwsans oherwydd sŵn. Cytunodd y Cynghorydd Mark Young a dywedodd fod llawer o waith wedi’i wneud i liniaru pryderon y trigolion ac roedd y rhan fwyaf o bobl leol yn ffafrio’r llwybr dan sylw ar gyfer cerbydau trwm yn fwy na’r dewisiadau eraill.

 

Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau a sylwadau’r aelodau fel a ganlyn –

 

·         roedd amod 3 yn cadarnhau y byddai’r cyfleuster hyfforddiant adeiladu’n rhoi'r gorau i weithredu ar 31 Rhagfyr 2023 neu ynghynt oni bai fod estyniad wedi'i gymeradwyo gan y Cyngor

·         roedd amod 6 yn ceisio sicrhau cyn lleied o effaith â phosib’ ar drigolion oherwydd sŵn ond byddai rhywun ar y safle hefyd yn helpu o ran ei ddiogelwch – cytunwyd y gellid diwygio’r amod yn unol ag awgrym y Cynghorydd Parry i gyfyngu ar gynnal gweithredoedd swnllyd ar y safle

·         roedd amod 13 yn sicrhau na fyddai gwrychoedd, coed, llwyni na phlanhigion dringo’n cael eu tynnu heb ganiatâd y Cyngor

·         roedd y llwybr arfaethedig wedi cael ei ddefnyddio o'r blaen ar gyfer Prosiect Cysylltiadau a Phrosiect Trawsnewidyddion Gogledd Cymru ac felly roedd yn cael ei gyfrif yn dderbyniol yn yr achos hwn gydag amodau ar ddarparu lleiniau gwelededd ac adleoli’r terfyn cyflymder o 30mya; byddai’r ffordd yn parhau i gael ei monitro.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry, ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Mark Young, y dylid caniatáu'r cais, yn amodol ar newid y geiriad yn amod rhif 6 i'w gytuno gydag Aelodau Dinbych ynglŷn â gosod cyfyngiad ar oriau gweithredu gweithgareddau sy'n debygol o achosi niwsans sŵn i drigolion cyfagos.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU - 19                    

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol, yn amodol ar newid i eiriad amod rhif 6 i’w gytuno gydag Aelodau Dinbych ynghylch gosod cyfyngiad ar oriau gweithredu gweithgareddau sy’n debygol o achosi niwsans sŵn i drigolion cyfagos.

 

 

10.

CAIS RHIF 15/2018/0968/PC – FFERM NORTH HILLS, GRAIANRHYD, YR WYDDGRUG pdf eicon PDF 95 KB

Ystyried cais am weithredoedd peirianyddol i hwyluso gwaith codi adeilad amaethyddol a’r gwaith cysylltiedig ar Fferm North Hills, Graianrhyd, Yr Wyddgrug (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais am waith cloddio ac i godi adeilad amaethyddol a gwaith cysylltiedig (rhannol ôl-weithredol) ar Fferm North Hills, Graianrhyd, yr Wyddgrug.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Cefnogodd y Cynghorydd Martyn Holland (Aelod Lleol) y cais, ond roedd yn petruso rhywfaint ynglŷn â faint o waith a oedd eisoes wedi'i wneud.  O ran cefndir y cais, roedd caniatâd cynllunio wedi’i roi’n flaenorol i godi adeilad arall yn lle adeilad amaethyddol presennol i ddarparu llety gwyliau – roedd yr ymgeisydd yn bwriadu codi adeilad amaethyddol arall yn lle’r un y byddai’n ei golli.  Dywedodd y Cynghorydd Holland bod llawer yn digwydd ar y safle, lle'r oedd nifer o geisiadau wedi bod, ac roedd yn teimlo y byddai'n ddefnyddiol i swyddogion gyfarfod â'r ymgeisydd i ddeall a thrafod ei gynlluniau at y dyfodol ar gyfer y safle, a allai leihau ofnau'r trigolion lleol ynghlwm â hynny.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill argymhelliad y swyddogion i ganiatáu’r cais, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Andrew Thomas.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU - 18

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

11.

CAIS RHIF 30/2018/0969/PF – TIR GER TREFNANT INN, TREFNANT pdf eicon PDF 79 KB

Ystyried cais i godi 13 o anheddau fforddiadwy gan gynnwys mynediad, parcio a gwaith cysylltiedig ar dir ger The Trefnant Inn, Trefnant (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi 13 o anheddau fforddiadwy gan gynnwys ffordd fynediad, lle parcio a gwaith cysylltiedig ar dir ger y Trefnant Inn, Trefnant, Dinbych.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Soniodd y Cynghorydd Ann Davies am gyfarfod y Panel Archwilio Safleoedd ar 8 Chwefror 2019 lle rhoddwyd sicrwydd mewn ymateb i bryder ynghylch diogelwch ar y priffyrdd.  Roedd hi hefyd yn awyddus i sicrhau bod y gymuned leol yn elwa o'r datblygiad a'i bod yn cael blaenoriaeth ar gyfer tai fforddiadwy.

 

Tynnodd y Cynghorydd Meirick Davies (Aelod Lleol) sylw at bryderon y Cyngor Cymuned, ond bu iddo hefyd gydnabod bod angen tai fforddiadwy.  Gofynnodd i’r Gymdeithas Dai drafod ymhellach gyda’r Cyngor Cymuned ynglŷn â'r datblygiad.  Wrth gydnabod y pryderon am y priffyrdd a’r mesurau lliniaru, teimlai y gallai fod o fudd newid amseriad y goleuadau traffig er mwyn darparu ar gyfer y datblygiad.

 

Nododd yr aelodau hanes cynllunio’r safle yn y gorffennol a’r sefyllfa bresennol, a nodwyd hefyd y weithdrefn i gael y tai fforddiadwy o ran proses yr Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH) a oedd yn rhoi pwyslais ychwanegol ar gysylltiadau lleol.  Er eu bod yn croesawu tai fforddiadwy, roedd yr aelodau’n awyddus i sicrhau bod blaenoriaeth i anghenion lleol a bu iddynt drafod awgrym y Cynghorydd Merfyn Parry y gellid defnyddio cytundeb Adran 106 i ddiogelu’r ddarpariaeth honno.  O ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi cynghori nad oedd angen cytundeb Adran 106 dan amgylchiadau o'r fath ac y gallai'r cyfnod y byddai ei angen i lunio'r cytundeb, o bosib', roi'r datblygiad mewn perygl, awgrymodd y swyddogion aralleirio amod rhif 15 ynghylch tai fforddiadwy er mwyn rhoi mwy o sicrwydd o ran diwallu anghenion y gymuned leol.  Ceisiodd y Cynghorydd Mark Young eglurhad ynglŷn â’r cyfraniad addysg o ystyried bod yr ysgol gynradd leol wedi’i ffedereiddio a chadarnhaodd y swyddogion y byddai’r swm gohiriedig a oedd yn gysylltiedig â’r datblygiad yn cael ei neilltuo ar gyfer yr ysgol agosaf.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Meirick Davies, y dylid caniatáu’r cais yn amodol ar newid geiriad amod 15, i gael ei gytuno gyda’r Aelod Lleol, ynghylch cydymffurfio â threfniadau tai fforddiadwy ac anghenion lleol.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU - 19

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol yn amodol ar newid geiriad amod rhif 15, i’w gytuno gyda’r Aelod Lleol, ynghylch cydymffurfio â threfniadau tai fforddiadwy ac anghenion lleol.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.25pm