Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YNn

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau pdf eicon PDF 186 KB

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Joe Welch gysylltiad personol ag eitemau 9 a 10 ar y rhaglen.

 

Datganodd y Cynghorydd Merfyn Parry gysylltiad personol ag eitem 7 ar y rhaglen.

 

Datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol a rhagfarnol ag eitem 7 ar y rhaglen.

 

Datganodd y Cynghorydd Mark Young gysylltiad personol ag eitem 5 ar y rhaglen.

 

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim eitemau brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 554 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 23 Mai 2018 (I ddilyn).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 23 Mai 2018.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mai 2018 fel cofnod cywir.

 

 

 

CEISIADAU AM GANIATÂD DATBLYGU (EITEMAU 5-12) -

Cyflwynwyd ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau cysylltiedig.  Cyfeiriwyd hefyd at yr wybodaeth atodol a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a gafwyd ar ôl cyhoeddi'r Rhaglen ac a oedd yn ymwneud â'r ceisiadau penodol.  Er mwyn caniatáu ceisiadau aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn rhaglen y ceisiadau fel y bo’n briodol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

CAIS RHIF 01/2018/0262 – BWTHYN YSTRAD ISA, FFORDD YSTRAD, YSTRAD, DINBYCH pdf eicon PDF 78 KB

Ystyried cais i ddymchwel annedd bresennol, codi annedd newydd, codi garej a newid defnydd tir i ymestyn cwrtil domestig ym Mwthyn Ystrad Isa, Ffordd Ystrad, Ystrad, Dinbych (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Mark Young gysylltiad personol gan ei fod yn codi arian ar gyfer Hosbis Sant Cyndeyrn gyda’r ymgeisydd.

 

Cyflwynwyd cais i ddymchwel annedd bresennol, codi annedd newydd, codi garej a newid defnydd tir i ymestyn cwrtil domestig ym Mwthyn Ystrad, Ffordd Ystrad, Ystrad, Dinbych LL16 4RL.

 

Siaradwr Cyhoeddus -

 

Nododd Mr Rhys Davies (Asiant) (O Blaid) nad oedd yr eiddo wedi cael ei gynnwys yn y gofrestr statudol gan CADW ac nad oedd yn ymddangos ar unrhyw restr o adeiladau o ddiddordeb lleol.  Roedd cynghorydd hanesyddol arbenigol wedi cael ei gomisiynu i gynorthwyo gyda’r cynnig, a daeth i’r casgliad fod gan yr adeilad rai rhinweddau, ond dim a oedd yn ddigonol i'w warchod.  Roedd y gymuned leol yn llwyr gefnogi’r cais. Dymchwel a darparu cartref a fyddai’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol fyddai'r ffordd ymlaen.

 

Trafodaeth Gyffredinol - yn ystod y drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol:

·       Cynhaliwyd cyfarfod Panel Archwilio Safle ddydd Mercher 13 Mehefin er mwyn rhoi cyfle i weld yr adeiladau ar y safle, ac i werthfawrogi’r materion mewn perthynas â pholisi cynllunio ar gyfer anheddau a godir yn lle rhai eraill.

·       Roedd rhai’n ystyried bod yr adeilad yn fach iawn ac mewn cyflwr gwael ac y byddai ei adnewyddu’n costio dros £300k, fyddai’n rhy ddrud i gartref un ystafell wely.

·       Teimlai rhai Aelodau nad oedd yr adeilad o unrhyw ddiddordeb hanesyddol lleol ac, o ran ffaith, nid oedd yn adeilad rhestredig.  Byddai dymchwel a chodi annedd yn ei le yn fuddsoddiad mewn ardal sydd angen stoc tai.

·       Gofynnodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill am gynnwys amod y dylai’r deunyddiau a ddefnyddir ar gyfer yr adeilad newydd gyd-fynd â’r eiddo cyfagos pe bai’r cais yn cael ei ganiatáu. 

Cadarnhawyd gan y Rheolwr Datblygu pe bai’r cais yn cael ei ganiatáu, byddai set o amodau cynllunio yn cael ei gytuno yn dilyn ymgynghori â’r aelod lleol.

 

Cynnig – cynigodd y Cynghorydd Mark Young gymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y swyddogion gan fod yr adeilad presennol o ddyluniad gwael ac nad oedd yn gwneud unrhyw gyfraniad i bwysigrwydd hanesyddol yr ardal, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Tony Thomas.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO yn groes i argymhelliad y swyddogion - 15

YMATAL - 0

GWRTHOD yn unol ag argymhelliad y swyddogion - 2

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn groes i argymhelliad y swyddog, am y rhesymau a amlinellwyd yn y Cynnig uchod.

 

 

6.

CAIS RHIF 03/2018/0374 – 4 DOLAFON VILLAS, FFORDD YR ABATY, LLANGOLLEN pdf eicon PDF 77 KB

Ystyried cais i gadw rheiliau diogelwch ar do adeilad presennol yn 4 Dolafon Villas, Ffordd yr Abaty, Llangollen (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i gadw rheiliau diogelwch ar do adeilad presennol yn 4 Dolafon Villas, Ffordd yr Abaty, Llangollen LL20 8SU.

 

Siaradwr Cyhoeddus -

 

Cadarnhaodd Mr Huw Evans (ar ran Grŵp Cynefin a phreswylwyr Llys Bran) (Yn erbyn) ei fod yn siarad ar ran nifer o breswylwyr.  Roedd y tresmasiad ar breifatrwydd eiddo cyfagos yn ddifrifol.  Roedd yr effaith weledol hefyd yn ddifridol. Gosodwyd y rheiliau diogelwch am resymau iechyd a diogelwch ond nid oedd angen am y decin gan ei fod yn cael ei ddefnyddio fel ardal eistedd.   

 

Dywedodd Mr John Morgan (O Blaid) bod y tor-preifatrwydd wedi’i decáu.  Roedd yr adeilad allanol yn uchel ac angen rheiliau am resymau iechyd a diogelwch wrth gael mynediad i’r to.  Roedd y tŷ allan yn adeilad hen iawn ac oherwydd topograffeg gyffredinol yr ardal, roedd yn edrych dros adeiladau newydd cyfagos.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Nododd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Graham Timms fod Ffordd yr Abaty yn safle anodd gan fod ochr serth iawn tu ôl iddynt.  Roedd gan nifer o dai batios uchel.  Roedd y rheiliau yn newydd ac felly roeddent yn sefyll allan fwy gan nad oedd y tywydd wedi cymryd ei draul arnynt.

 

Cynhaliwyd ymweliad safle ddydd Mercher 13 Mehefin i asesu’r strwythur.

 

Nodwyd dylid cynnwys amod ychwanegol er mwyn sicrhau y ceir gwared ar y decin ddim hwyrach na dau fis o ddyddiad y caniatâd hwn.  Roedd hyn i ostwng faint o drosedrych i erddi cefn ac ystafelloedd eiddo yng nghefn Llys Bran.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Huw Williams argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, gydag amod ychwanegol mewn perthynas â chael gwared ar y decin, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Merfyn Parry.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 15

YMATAL - 0

GWRTHOD - 2

 

PENDERFYNWYD y dylid rhoi CANIATÂD yn unol ag argymhellion y swyddog, ynghyd ag amod ychwanegol, fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

 

7.

CAIS RHIF 18/2018/0356 – FFERM GLAN Y WERN, FFORDD EGLWYSWEN, LLANDYRNOG pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais am fanylion edrychiad, tirlunio, graddfa a chynllun annedd gweithwyr amaethyddol a gyflwynwyd yn unol ag amod rhif 1 caniatâd cynllunio amlinellol rhif cais 18/2017/1255 yn Fferm Glan y Wern, Ffordd Eglwyswen, Llandyrnog (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Merfyn Parry gysylltiad personol gan fod y cwmni mae’n gweithio iddo’n gwneud busnes ag A. Evans.

 

Datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol a rhagfarnol gan ei fod yn adnabod y teulu ac mae tad yr ymgeisydd yn ail gefnder iddo.  Felly gadawodd y Siambr tra bo’r cais yn cael ei drafod.

 

Cyflwynwyd cais am fanylion edrychiad, tirlunio, graddfa a chynllun annedd gweithwyr amaethyddol a gyflwynwyd yn unol ag amod rhif 1 caniatâd cynllunio amlinellol rhif cais 18/2017/1225 yn Fferm Glan y Wern, Ffordd Eglwyswen, Llandyrnog, Dinbych LL16 4HL.

 

Siaradwr Cyhoeddus -

 

Dywedodd Mrs Mari Evans (O Blaid) y byddai’r cartref ar ei chyfer hi, ei gŵr a’u tri o blant.  Byddai myfyrwyr, sy’n gweithio ar y fferm yn ystod yr haf, hefyd yn byw gyda nhw.  Yn ôl y gyfraith roedd yn ofynnol iddynt gael ystafell feddygol a hefyd darparu toiledau a chyfleusterau ymolchi ar gyfer y gweithwyr.  Byddai mynediad uniongyrchol i’r swyddfa o’r fferm yn fwy cyfleus.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry argymhelliad y Swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 16

YMATAL - 0

GWRTHOD - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid rhoi CANIATÂD yn unol ag argymhellion y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

Ar y pwynt hwn (10.40 a.m.) cafwyd toriad am 15 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 10.55 a.m.

 

 

 

8.

CAIS RHIF 23/2017/1218 – GWESTY BRYN MORFYDD, LLANRHAEADR pdf eicon PDF 98 KB

Ystyried cais i ddymchwel adeiladau gwesty presennol a chodi gwesty newydd 39 ystafell wely; diwygiadau i gynllun parc cabanau gwyliau 42 uned y cychwynnwyd arno, i gynnwys cyfanswm o 58 caban, ymestyn y parc cabanau gwyliau gan ddefnyddio 3 parsel o dir i leoli 31 caban ychwanegol (sy’n gwneud cyfanswm o 89 caban); a gwaith cysylltiedig gan gynnwys mynediadau newydd ac wedi’u haddasu i gerbydau, gwaith priffyrdd, mannau pasio, systemau draenio, strwythurau cynnal, lliniaru'r effaith ar ystlumod, darparu mannau hamdden a thirlunio yng Ngwesty Bryn Morfydd, Llanrhaeadr YC, Dinbych (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Joe Welch gysylltiad personol gan ei fod yn aelod o’r un clwb rhedeg â pherchennog Bryn Morfydd.

 

Cymerodd y Cynghorydd Alan James, Is-Gadeirydd, y gadair ar gyfer yr eitem ganlynol.

 

Cyflwynwyd cais i ddymchwel adeiladau gwesty presennol a chodi gwesty newydd 39 ystafell wely; diwygiadau i gynllun parc cabanau gwyliau 42 uned y cychwynnwyd arno, i gynnwys cyfanswm o 58 caban, ymestyn y parc cabanau gwyliau gan ddefnyddio 3 parsel o dir i leoli 31 caban ychwanegol (sy’n gwneud cyfanswm o 89 caban); a gwaith cysylltiedig gan gynnwys mynediadau newydd ac wedi’u haddasu i gerbydau, gwaith priffyrdd, mannau pasio, systemau draenio, strwythurau cynnal, lliniaru'r effaith ar ystlumod, darparu mannau hamdden a thirlunio yng Ngwesty Bryn Morfydd, Llanrhaeadr YC, Dinbych.

 

Siaradwr Cyhoeddus -

 

Dywedodd Mr John Paul Williams (Yn Erbyn) fod pryderon wedi’u mynegi ynghylch graddfa, effaith ar y gymuned, diogelwch ffyrdd, llygredd sŵn, llygredd aer a phroblemau cŵn posibl oherwydd pa mor agos oedd Bryn Morfydd at dir pori/ amaethyddol.  Byddai graddfa’r datblygiad yn ormodol ac yn cael effaith niweidiol ar gymeriad y safle ac yn creu golygfa negyddol o’r pentref a’r ardaloedd cyfagos.

 

Dywedodd Ms Georgia Crawley (Asiant) (O Blaid) bod cynigion wedi cael eu dylunio i sicrhau ailddatblygiad hyfyw o’r safle.  Byddai’r ailddatblygiad yn diogelu 20 o swyddi llawn amser ar gyfer pobl leol.  Mae’r adain Adfywio Busnes a’r Economi wedi cadarnhau y byddai’r datblygiad yn cydymffurfio â’r Cynllun Twf Twristiaeth. Byddai adeiladu’r gwesty ynghyd â'r 89 caban yn golygu byddai’r ailddatblygiad yn fusnes hyfyw.  Cadarnhawyd na fyddai unrhyw ddatblygiad yn digwydd yn y coetir hynafol.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Cadarnhaodd y Cadeirydd y cynhaliwyd ymweliad safle ddydd Mercher 13 Mehefin er mwyn asesu effaith weledol y datblygiad a hefyd a hefyd edrych ar gynaliadwyedd y rhwydwaith priffyrdd.

 

I gychwyn, diolchodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Joe Welch i’r Prif Swyddog Cynllunio am ei waith yn llunio’r 45 amod ynghlwm i’r cais.

 

Yn ystod y drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol:

·       Cadarnhawyd y cynhaliwyd trafodaethau yn ystod y broses asesu er mwyn sicrhau bod coed yn cael eu plannu i guddio’r cabanau a gwella'r ardal.

·       Byddai'r datblygiad yn un dibreswyl ac felly roedd angen sicrhau nad oedd pobl yn preswylio llawn amser yn y cabanau. Roedd Amod Rhif 19 yn yr adroddiad yn ymdrin â'r defnydd o'r cabanau at ddibenion gwyliau yn unig.

·       Hyfywedd ariannol - roedd gwybodaeth hyfywedd gwreiddiol yr ymgeisydd wedi'i adolygu gan Reolwr Datblygu Masnachol y Cyngor. Byddai datblygiad y gwesty yn dibynnu'n rhannol ar lefel traws-gymhorthdal o rannau proffidiol y cynllun a bod y cynnig o 89 caban bellach yn darparu cyfradd o elw i'r datblygwr a chyfranddalwyr, a oedd yn adlewyrchu risg y cynllun tra'n ariannu'r gwaith o ddarparu'r gwesty a chwrdd â'r costau a amcangyfrifir. 

·       Roedd Dŵr Cymru yn fodlon bod y system ddraenio ar y safle yn ddigonol ac y gellid cynnwys amod bod yr ymgeisydd yn darparu Dŵr Cymru gyda manylion am y system draenio dŵr wyneb a fyddai yn ei lle.

·       Cadarnhawyd gan yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd y byddai mannau pasio yn cael eu creu ar y briffordd a byddai'r gyffordd yn cael ei ehangu. O fewn y nodiadau ychwanegol ar y daflen las a ddarparwyd yn y cyfarfod, byddai Amod 21 mewn perthynas â gwaith Priffyrdd yn cael ei ail-werthuso a byddai mwy o fanylion yn cael eu hychwanegu.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Peter Evans ganiatáu’r cais ynghyd â’r newid i Amod 21 fel y nodwyd gan yr Uwch Beiriannydd Priffyrdd, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Brian Jones.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 15  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

CAIS RHIF 41/2018/0199 – 1 DERWEN TERRACE, BODFARI, DINBYCH pdf eicon PDF 5 KB

Ystyried cais i godi estyniad ôl llawr cyntaf yng nghefn annedd yn 1 Derwen Terrace, Bodfari, Dinbych (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar y pwynt hwn, ailgymerodd y Cynghorydd Joe Welch yr awennau fel Cadeirydd y cyfarfod.

 

Datganodd y Cynghorydd Joe Welch gysylltiad personol gan ei fod yn aelod o’r un clwb rhedeg â merch yng nghyfraith gwrthwynebydd (cymydog) y cais.

 

Cyflwynwyd cais ar gyfer adeiladu estyniad llawr cyntaf yng nghefn yr annedd yn 1 Derwen Terrace, Bodfari, Dinbych.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Nododd Mrs. Ashlea Rowlands (O Blaid) ei bod hi a'i gŵr yn gwneud cais am estyniad llawr cyntaf yng nghefn yr eiddo i gynnwys ystafell wely ychwanegol ac ystafell ymolchi ar y llawr cyntaf. Roeddent yn disgwyl eu plentyn cyntaf ym mis Awst ac yn gobeithio am fwy o blant yn y dyfodol ac nid oeddent am symud o'r ardal. Roeddent am i'r teulu dyfu i fyny yn y pentref a mwynhau bywyd y pentref. Ni fyddai unrhyw ffenestri yn cael eu gosod ar lefel estyniad y llawr cyntaf yn edrych ar 2 Derwen Terrace. Nodwyd hefyd fod rhif 6 Derwen Terrace wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer estyniad.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Christine Marston fod yr ymgeiswyr wedi lliniaru’r cynllun i leddfu pryderon y cymdogion. Roedd y rheol 45º wedi'i chymhwyso ac roedd yr estyniad llawr cyntaf wedi pasio'r dyfarniad. 

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Christine Marston argymhelliad y swyddog i ganiatáu'r cais ond gydag amod arall i gyfyngu ar waith i ddigwydd o ddydd Llun i ddydd Gwener tan 5.00 p.m. yn unig, eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Tony Thomas.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu y gellid ychwanegu amod ychwanegol i nodi bod y gwaith yn digwydd ar amser rhesymol o'r dydd.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 16

YMATAL - 0

GWRTHOD - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid rhoi CANIATÂD ynghyd â’r amod oriau gwaith ychwanegol, yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

 

 

10.

CAIS RHIF 43/2018/0353 - 25 FFORDD GRONANT, PRESTATYN pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i godi estyniad cefn gyda theras to uwch ei ben, dymchwel garej bresennol a chodi garej newydd yn 25 Ffordd Gronant, Prestatyn (copi ynghlwm).

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi estyniad cefn gyda theras to uwch ei ben, dymchwel garej bresennol a chodi garej newydd yn 25 Ffordd Gronant, Prestatyn.

 

Siaradwr Cyhoeddus -

 

Nododd Mr David McChesney (Asiant) (O Blaid) bod egwyddor yr estyniad wedi cael ei ystyried yn dderbyniol. Rhoddodd enghreifftiau amrywiol o eiddo ar hyd Ffordd Gronant gydag estyniadau ac ystafelloedd gwydr. Cadarnhaodd fod yr ymgeisydd wedi gweithio'n agos gyda chymdogion rhif 23 a 27 Ffordd Gronant i sicrhau bod yr estyniad arfaethedig yn cael cyn lleied o effaith ag y bo modd.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Eglurodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, bod yr eiddo yn yr ardal hon o Brestatyn wedi eu hadeiladu ar wahanol lefelau oherwydd eu bod wedi eu hadeiladu ar ochr bryn. 

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill argymhelliad y swyddog i ganiatáu'r cais, eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Mark Young.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 16

YMATAL - 0

GWRTHOD - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

11.

CAIS RHIF 25/2018/0263 – PARC BUSNES VICTORIA, VICTORIA ROAD, Y RHYL pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i ddymchwel adeilad presennol ac ailddatblygu’r tir drwy godi 18 rhandy a gwaith cysylltiedig ym Mharc Busnes Victoria, Victoria Road, Y Rhyl (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i ddymchwel adeilad presennol ac ailddatblygu tir trwy godi 18 o fflatiau a gwaith cysylltiedig ym Mharc Busnes Victoria, Victoria Road, Y Rhyl.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Dywedodd Mrs Helen Richards (Yn Erbyn) fod gan drigolion bryderon gwirioneddol ynghylch yr adeilad 4 llawr oherwydd y maint cyffredinol ac nad oedd yn cyd-fynd â'r eiddo yn yr ardal. Nid oedd unrhyw gynlluniau wrth gefn ar gyfer gwagio mewn argyfwng pe bai llifogydd yn digwydd. Roedd angen profedig ar gyfer tai cymdeithasol yn yr ardal, ond ni fyddai yna ardal chwarae i'r plant. Byddai'r nifer ychwanegol o geir yn achosi problemau mewn ardal sydd eisoes yn brysur.

 

Dywedodd Mr Peter Lloyd (O Blaid) bod argymhelliad cryf gan swyddogion i ganiatáu’r cais am 18 fflat gan Cartrefi Conwy, gan y byddai'n cyfrannu at yr angen am dai cymdeithasol. Byddai'r datblygiad yn digwydd yn hwyr yn 2018 a byddai'r cynllun yn cyd-fynd â'r ardal. Roedd risg llifogydd wedi'i ystyried, felly, byddai’r llawr gwaelod yn le parcio gyda’r fflatiau ar y tri llawr arall. Roedd Cartrefi Conwy wedi cadarnhau y byddai trefniadau gwagio mewn argyfwng eithafol wedi’i eu sefydlu. Cytunwyd ar gymal Adran 106 ar gyfer mannau agored.

 

Trafodaeth Gyffredinol -  Mynegodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Pat Jones, ei chefnogaeth i'r cais ac esboniodd fod ymgynghoriad wedi'i gynnal gyda thrigolion lleol. Byddai angen darparu tai fforddiadwy yn yr ardal.

 

Mynegodd y Cynghorydd Barry Mellor ei gefnogaeth i'r cais hefyd. Cytunodd gyda'i gyd-Gynghorydd Pat Jones a soniodd y byddai'r datblygiad yn cael ei adeiladu gan gontractwr lleol gan ddefnyddio gweithlu lleol, a fyddai'n beth positif i'r ardal.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Brian Jones argymhelliad y swyddog i ganiatau’r cais, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Alan James.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 16

YMATAL - 0

GWRTHOD - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

12.

CAIS RHIF 22/2018/0358 – HYFRYDLE, GELLIFOR, RHUTHUN pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i godi annedd ar wahân a gwaith cysylltiedig ar dir ger Hyfrydle, Gellifor, Rhuthun (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi annedd ar wahân a gwaith cysylltiedig ar dir ger Hyfrydle, Gellifor, Rhuthun LL15 1SF.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Peter Evans.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 16

YMATAL - 0

GWRTHOD - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

13.

LLWYN AFON, LLANRHAEADR, DINBYCH pdf eicon PDF 220 KB

Ystyried adroddiad i geisio penderfyniad ar Benawdau Telerau Rhwymedigaeth Adran 106 a’r amodau cynllunio i’w hatodi i Ganiatâd Cynllunio 23/2018/0268 - Llwyn Afon, Llanrhaeadr, Dinbych (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Datblygu i geisio penderfyniad ar Benawdau Telerau Rhwymedigaeth Adran 106 a’r amodau cynllunio i’w hatodi i Ganiatâd Cynllunio 23/2018/0268 yn Llwyn Afon, Llanrhaeadr, Dinbych.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry y dylid cytuno a’r telerau yn yr adroddiad, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Mark Young.

 

PLEIDLAIS:

CYTUNO Â’R TELERAU YN YR ADRODDIAD - 15

YMATAL - 0

ANGHYTUNO Â’R TELERAU YN YR ADRODDIAD - 1

 

PENDERFYNWYD bod Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio yn CYTUNO ar y Penawdau Telerau Rhwymedigaeth Adran 106 a’r amodau cynllunio i’w hatodi i Ganiatâd Cynllunio 23/2018/0268.

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.30 p.m.