Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorydd Pat
Jones |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorydd Joe
Welsh – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 5 ar y Rhaglen Y Cynghorydd
Emrys Wynne – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 10 ar y Rhaglen |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol
ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2018
(copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio
a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2018. Cywirdeb - Tudalen 11, Cofnod eitem 4 ar y rhaglen –
y dyddiad y dylid ei nodi yw 13 Rhagfyr 2017. PENDERFYNWYD –
yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd
ar 17 Ionawr 2018 fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 11) - Cyflwynwyd
ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y pwyllgor ynghyd â’r dogfennau
cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at yr wybodaeth a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni
glas) a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen ac a oedd yn ymwneud â'r ceisiadau
penodol. Er mwyn caniatáu ceisiadau aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau,
cytunwyd y dylid amrywio trefn rhaglen y ceisiadau fel y bo’n briodol. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 01/2015/1240/PO - TIR RHWNG HEN FFORDD RHUTHUN A FFORDD NEWYDD RHUTHUN, DINBYCH PDF 95 KB Ystyried cais ar
gyfer datblygu 2.1 hectar o dir at ddibenion preswyl (cais amlinellol yn cynnwys
manylion mynediad) ar dir rhwng Hen Ffordd Rhuthun a Ffordd Newydd Rhuthun,
Dinbych (copi yn atodedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y Cynghorydd Joe Welch gysylltiad
personol yn yr eitem hon gan ei fod ef a’i deulu yn adnabod rhai o berchnogion
y cae]. Cyflwynwyd cais ar gyfer datblygu 2.1 hectar o dir
at ddibenion preswyl (cais amlinellol yn cynnwys manylion mynediad) ar dir
rhwng Hen Ffordd Rhuthun a Ffordd Newydd Rhuthun, Dinbych. Siaradwr Cyhoeddus – Mr. N. Davies (asiant) (O Blaid) – cyfeiriodd at drafodaethau
ynghylch gosodiad i sicrhau cyflwyniad addas gyda chyfeiriad tybiannol at
ddwysedd, tai fforddiadwy, coridor i fywyd gwyllt ac ystyriaeth benodol i
ddyluniad y fynedfa. Roedd gwybodaeth ychwanegol wedi’i
ddarparu er mwyn ymateb i’r Brîff Datblygu Dyluniad. Roedd perchenogion y safle yn annog y
datblygwr i ymgysylltu â’r gymuned leol yn fuan. Trafodaeth Gyffredinol – Roedd y Cynghorydd Mark Young (Aelod
Lleol) yn credu bod yna wendid yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) presennol o
ran clustnodi tir ar gyfer tai. Fe holodd am
gyfeiriadau yn ymwneud â safle Cae Topyn yn yr adroddiad o ystyried y dylai pob
cais gael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun a thynnodd sylw at bryderon y
gymuned leol yn benodol ynghylch materion llifogydd a draenio. Mynegodd y Cynghorydd Rhys Thomas (Aelod Lleol) bryderon hefyd ynglŷn
â’r ffaith bod yr Arolygiaeth Gynllunio wedi clustnodi’r darn yma o dir ar
gyfer tai yn erbyn dymuniadau’r gymuned. Er y cafwyd rhywfaint o sicrwydd o’r consesiynau y
cyfeiriwyd atynt gan yr asiant yn ei
gyflwyniadau, byddai bywydau preswylwyr a’r amgylchedd yn gweld newid dramatig
yn sgil y datblygiad arfaethedig. Darllenodd y
Cynghorydd Thomas ddatganiad ar ran y preswylwyr lleol a phetai'r cais yn cael
ei gymeradwyo, roedd yn ceisio cytundeb y byddai'r datblygwr yn ymgynghori â
nhw yn fuan o ran y cynlluniau arfaethedig a gyflwynwyd gyda'r bwriad o ddatrys
pryderon, yn enwedig mewn perthynas â chronni dŵr wyneb; effaith y
datblygiad ar y tanciau septic, agosatrwydd tai newydd at eiddo presennol;
lleoliad y coridor ar gyfer bywyd gwyllt, a lleoliad y fynedfa/allanfa a’r
ddarpariaeth pafin. Rhoddodd y Rheolwr Datblygu rywfaint o gefndir ar
gyfer y safle a’r ffaith ei fod wedi’i gynnwys yn y CDLl, ac fe eglurodd nad
oedd gan safle’r cais hwn hanes o gynllunio penodol. Fodd bynnag, fe gyfeiriwyd at safle Cae Topyn oherwydd ei fod wedi bod yn
rhan o glustnodi tir ar gyfer tai ac roedd wedi bod trwy broses gynllunio yn
gymharol ddiweddar gyda chyfarwyddyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â
pha mor dderbyniol neu fel arall yw datblygiad yn y lleoliad hwnnw. Roedd pryderon a godwyd gan breswylwyr
lleol wedi cael eu hystyried yn ystod y broses cais cynllunio ac roedd wedi’i
gynnwys yn berthnasol yn y prif adroddiad. I ymateb i’r galw gan breswylwyr lleol i gael ymgynghoriad pellach petai’r
cais yn cael ei gymeradwyo, byddai manylion y datblygiad yn destun ymarfer
ymgynghoriad cyhoeddus. Yn ystod trafodaeth ddilynol, fe dynnwyd sylw at bwysigrwydd darpariaeth addysg a sicrhau bod yna gapasiti ddigonol mewn ysgolion lleol i allu ymdopi ag unrhyw ddatblygiad newydd, a cheisiwyd sicrwydd ynghylch hynny. Cyfeiriwyd hefyd at broblemau gyda’r CDLl a bancio tir er fe dderbyniwyd y byddai’n well delio â’r mater yn rhan o’r adolygiad CDLl a fyddai’n digwydd yn fuan ac roedd angen ystyried y cais yn seiliedig ar bolisïau a chynlluniau presennol. Roedd y prif fater yn ymwneud â draenio/llifogydd gyda phryderon ynghylch problemau parhaus gyda llifogydd yn yr ardal roedd angen mynd i’r afael â nhw a’r effaith ddilynol ar ddatblygiad yn y dyfodol. Ceisiwyd sicrwydd ynghylch gweithredu mesurau priodol a chadarn i fynd i’r afael â’r pryderon hynny a thynnwyd sylw at yr angen i ddiogelu petai’r systemau yn methu yn ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CAIS RHIF 09/2017/1153/PS - 2 TŶ CLWYD, CHAPEL LANE, BODFARI, DINBYCH PDF 98 KB Ystyried cais i
amrywio amod 5 caniatâd cynllunio rhif 09/2017/0887 i ganiatáu i gerbydau facio yn ôl i’r
lle parcio, ac arwydd cysylltiedig yn 2 Tŷ Clwyd, Chapel Lane, Bodfari,
Dinbych (copi yn atodedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i amrywio amod 5 caniatâd
cynllunio amlinellol rhif 09/2017/0887 i ganiatáu i gerbydau facio yn ôl i’r lle parcio, ac arwydd
cysylltiedig yn 2 Tŷ Clwyd, Chapel Lane, Bodfari, Dinbych. Siaradwr Cyhoeddus – Mr. S. Emery (O
Blaid) - cyfeiriodd at weithrediad y busnes a threfniadau parcio a'r
mesurau arfaethedig i sicrhau nad yw cerbydau yn bacio yn ôl i'r ffordd wrth
adael y safle. Ni dderbyniwyd gwrthwynebiad gan y Swyddog
Priffyrdd. Trafodaeth Gyffredinol – Fe eglurodd y Cynghorydd Merfyn Parry
(Aelod Lleol) bod cais ôl-syllol ar gyfer newid defnydd ar gyfer llety gwyliau
wedi cael ei gymeradwyo gan y pwyllgor ym mis Tachwedd 2017 yn ddibynnol ar
amod bod lle i gerbyd droi rownd ar y safle mewn ymateb i bryderon priffyrdd a
godwyd gan y Cyngor Cymuned. Roedd y Cyngor Cymuned hefyd wedi gwrthwynebu’r cais i amrywio’r amod hwnnw
gan eu bod yn parhau i bryderu dros ddiogelwch priffordd gyda cherbydau yn
bacio nôl i'r ffordd. Roedd y Cynghorydd Parry yn credu petai’r cais yn cael ei gymeradwyo
byddai’n anodd gorfodi cydymffurfedd o fewn yr adnoddau presennol. Dywedodd swyddogion nad oedd yna dystiolaeth i
awgrymu y byddai yna effaith ar ddiogelwch priffyrdd ac nid oedd yna achos cryf
i fynnu darparu ardal i droi ar y safle ar y sail hynny. Fe argymhellwyd bod yr amrywiad yn cael ei gymeradwyo ar yr amod bod arwydd
yn cael ei osod yn cynghori gyrwyr i facio yn ôl oddi ar y briffordd i’r gofod
parcio penodol ac roedd swyddogion yn fodlon y gellir gorfodi’r amod. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Ellie Chard
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Ann
Davies. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 15 GWRTHOD - 2 YMATAL - 1 PENDERFYNWYD y dylid rhoi CANIATÂD yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
CAIS RHIF 19/2015/1228/PO - TIR GER BRYN YSGUBORIAU, LLANELIDAN RHUTHUN PDF 6 KB Ystyried cais ar
gyfer codi annedd amaethyddol ar dir ger Bryn Ysguboriau, Llanelidan, Rhuthun
(copi yn atodedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer codi annedd amaethyddol
ar dir ger Bryn Ysguboriau, Llanelidan, Rhuthun. Siaradwr Cyhoeddus – Mr. Huw Evans (asiant) (O Blaid) – Roedd yn anghydweld nad oedd profion TAN 6 wedi cael eu
bodloni ac fe awgrymodd y dylid rhoi rhagor o bwyslais ar ystyriaethau eraill i
ganiatáu’r cais heb gyfaddawdu ar ddogfennau canllawiau a pholisi. Trafodaeth gyffredinol – Siaradodd y Cynghorydd Hugh Evans (Aelod
Lleol) o blaid y cais a fyddai’n cefnogi teulu a busnes lleol ac a fyddai’n
cael effaith gadarnhaol ar y gymuned. Mae Nodyn Cyngor Technegol 6 (TAN 6) yn nodi'r hyn
y dylid ei ystyried ar gyfer ceisiadau ar gyfer ceisiadau annedd gweithwyr amaethyddol, yn enwedig mewn
cysylltiad â’r prif brofion sydd angen eu bodloni, ac fe heriodd ac eglurodd
gasgliadau adroddiad yr ymgynghorydd annibynnol fel y nodir yn y prif adroddiad
fel a ganlyn - ·
fe nodir
yn yr adroddiad bod yr annedd presennol yn annhebygol o gael ei werthu ar y
farchnad agored ar ôl i dad yr ymgeisydd ymddeol – nid dyma oedd y polisi ar
gyfer Ystâd Nant Clwyd nad oedd wedi gwerthu tir am dros 40 mlynedd; byddai’r
tir naill ai’n cael ei drafod gyda’r tenant presennol neu ei osod ·
prawf
swyddogaeth – nid oedd y dull o gyfrifo’r gofynion yn ystyried pob digwyddiad
posibl a’r realiti o ffermio ac nid oedd yn darparu gwir adlewyrchiad o sut mae
ffermwyr yn ymgymryd â’u busnes gydag uchafbwyntiau ac isafbwyntiau, cyfraniad
y tad i’r busnes oedd yn lleihau, na’r ffaith bod yr ymgeisydd yn gwneud gwaith
cneifio dan gontract i gynyddu incwm y busnes ·
prawf
ariannol – ni roddwyd ystyriaeth i waith cneifio contract yr ymgeisydd i
gynyddu incwm na chyflog ei wraig a oedd yn groes i’r practis cyffredinol;
roedd y dull o gyfrifo fforddiadwyedd yn ddiffygiol, yn enwedig o ystyried bod
88% o incwm ffermwyr yn cael ei gynyddu gydag incwm o’r tu allan. Gellir hefyd
cael sicrwydd o hyfywedd y busnes yn natganiad cefnogol cyfrifwyr y teulu (oedd
wedi’i gynnwys yn y papurau atodol hwyr) ·
llety
addas arall oedd ar gael – cyfeiriwyd at y diffyg tai newydd a fforddiadwy yn
yr ardal. Dywedodd y Cynghorydd Evans bod TAN 6 yn darparu
canllawiau ac y gellir eu dehongli mewn ffyrdd gwahanol. Dywedodd nad oedd digon o bwyslais wedi’i
roi ar ystyriaethau eraill yn y meini prawf gyda gwendidau wedi’u nodi wrth
gyfrifo fforddiadwyedd a gofynion llafur. Ni dderbyniwyd
gwrthwynebiadau ac roedd yna gefnogaeth i’r cais gan y Cyngor Cymuned a'r
gymuned leol. Yn olaf fe gyfeiriwyd at flaenoriaethau
corfforaethol y Cyngor a byddai caniatáu’r cais yn helpu gyda’r uchelgais i
gefnogi pobl ifanc i fyw a gweithio yn y sir. Roedd aelodau yn awyddus i gefnogi teuluoedd a
busnesau lleol a chyfeiriwyd eto at y blaenoriaethau corfforaethol a
phwysigrwydd y cynnig i’r gymuned wledig leol a ffordd o fyw a oedd yn thema
bwysig o Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol. Mewn perthynas â phrofion TAN 6 roedd yr aelodau yn cytuno nad oedd y dulliau
cyfrifo yn rhoi ystyriaeth lawn a’r realiti o ffermio na’r incwm sydd ar gael
i’r ymgeisydd tra’n asesu hyfywedd y busnes yn y dyfodol. Gofynnwyd cwestiynau ynghylch gosod amodau petai’r cais yn cael ei ganiatáu
a chadarnhaodd y Rheolwr Datblygu yr arfer o gytuno ar set o amodau a rheolau
cynllunio gyda’r Aelod Lleol petai aelodau yn mynd yn erbyn argymhelliad y
swyddog. Fe atgoffwyd yr aelodau bod swyddogion yn
gorfod glynu wrth y geiriad yn y dogfennau a cheisio arbenigedd ymgynghorwyr
annibynnol ar achosion o’r fath. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Merfyn Parry, ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
CAIS RHIF 43/2017/1100/PO - TIR GERLLAW LLYS YR YNADON, FFORDD FICTORIA, PRESTATYN PDF 96 KB Ystyried cais ar
gyfer manylion mynediad, ymddangosiad, tirlunio, cynllun a graddfa 20 o unedau
preswyl wedi eu cyflwyno yn unol ag Amod 1 ar ganiatâd cynllunio amlinellol
rhif 43/2015/1241/PO (Cam 1 cais materion a gadwyd yn ôl); Manylion yr amrediad
o feintiau a’r mathau o dai wedi eu cyflwyno yn unol ag amod 10 a Manylion
lefelau lloriau gorffenedig yr 20 o dai a gyflwynwyd yn rhannol yn unol ag amod
11 ar dir ger Llys yr Ynadon, Victoria Road, Prestatyn (copi yn atodedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y
Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol yn yr eitem hon oherwydd ei fod yn
Ynad Heddwch]. Cyflwynwyd cais ar gyfer manylion mynediad,
ymddangosiad, tirlunio, cynllun a graddfa 20 o unedau preswyl wedi eu cyflwyno
yn unol ag Amod 1 ar ganiatâd cynllunio amlinellol rhif 43/2015/1241/PO (Cam 1
cais materion a gadwyd yn ôl); Manylion yr amrediad o feintiau a’r mathau o dai
wedi eu cyflwyno yn unol ag amod 10 a Manylion lefelau lloriau gorffenedig yr
20 o dai a gyflwynwyd yn rhannol yn unol ag amod 11 ar dir ger Llys yr Ynadon,
Victoria Road, Prestatyn. Siaradwr Cyhoeddus – Mr. W. Gill (O
Blaid) – fe eglurodd amod a roddwyd ar y caniatâd amlinellol bod dwysedd y
safle gyfystyr ag ugain uned preswyl a darparwyd manylion am y math a maint yr
unedau hynny. Mae uchder y rhandai bellach wedi cael eu
gostwng o ddau lawr. Roedd y datblygwr wedi gwneud cyfraniad
ariannol sylweddol yn lle darparu man agored ar y safle. Fe wnaethant dynnu sylw at ofynion technegol ychwanegol am fod y safle mewn
parth llifogydd. Trafodaeth Gyffredinol – Fe soniodd y Cynghorydd Tony Flynn
(Aelod Lleol) am ddau faes o bryder (1) fflatiau yn anghydnaws â’r ardal, a (2)
colli man agored gwyrdd. Er ei fod yn gwerthfawrogi’r dymuniad i wneud y mwyaf o werth y safle ar
gyfer datblygiad preswyl, fe bwysleisiodd y Cynghorydd Flynn werth y man agored
gwyrdd presennol er mwyn i blant chwarae a gofynnodd bod camau'n cael eu cymryd
i gadw'r ddarpariaeth honno.
Mynegodd y Cynghorydd Rachel
Flynn (Aelod Lleol) bryderon ynghylch isadeiledd ac effaith ar ysgolion lleol a
meddygfeydd. Gofynnodd hefyd a oedd modd defnyddio’r taliad swm ohiriedig yn lle’r man
agored ar gyfer cyfleusterau plant a gofynnodd am sicrwydd y byddai lles
preswylwyr yn cael ei ddiogelu yn erbyn yr amhariad y byddai’r datblygiad yn ei
achosi. Wrth ymateb i’r materion a godwyd - ·
dywedodd
y Rheolwr Datblygu bod y caniatâd amlinellol yn sefydlu derbynioldeb y
datblygiad, gan gynnwys yr elfen dwysedd preswyl, a bod y cais presennol yn
cynnwys manylion am fynediad, ymddangosiad, tirweddu, gosodiad a graddfa ·
pwysleisiodd
nad oedd y man agored gwyrdd y cyfeirir ato wedi cael ei ddynodi yn hynny yn y
Cynllun Datblygu Lleol a byddai cyfraniad ariannol i’r man agored cyhoeddus yn
yr ardal yn cael ei gyfrannu ac y byddai’n cael ei neilltuo i fod o fudd i
gyfleusterau lleol ·
fe
eglurodd y Rheolwr Datblygu bod y mater o isadeiledd eisoes wedi cael ei
archwilio tra’n asesu egwyddor y datblygiad ·
dywedodd
bod angen i’r Aelod Lleol gytuno ar gynllun rheoli adeiladu a’r amgylchedd, a
fyddai’n galluogi i’r datblygiad ddigwydd gyda chyn lleied o aflonyddwch ac
amhariad i breswylwyr â phosibl ·
cyfeiriodd at y math o dai a
gosodiad, mynediad i gerbydau a pharcio, a graddfa’r datblygiad a oedd wedi
cael ei ostwng ddau lawr, roedd hyn i gyd-fynd ag eiddo deulawr eraill yn yr
ardal. Gofynnodd y Cynghorydd Bob Murray a oedd modd
defnyddio’r swm gohiriedig yn lle man agored i brynu rhan o’r safle at y diben
hwnnw a oedd wedi’i nodi’n flaenorol ar gyfer defnydd manwerthu. Mynegwyd
pryderon hefyd ynghylch uchder crib y datblygiad o’i gymharu ag eiddo eraill yn
yr ardal a cheisiwyd sicrwydd ynghylch sicrhau cydymffurfedd â safonau ansawdd
a manylion dylunio. Mewn ymateb i gwestiynau hysbyswyd yr aelodau - ·
y
byddai yna gais materion a gadwyd yn ôl arall yn cael ei gyflwyno ar gyfer yr
elfen unedau manwerthu a gymeradwywyd fel rhan o’r caniatâd amlinellol
gwreiddiol · ni fyddai modd defnyddio’r swm gohiriedig i brynu tir gan fod yna feini prawf llym ynghylch sut y gellir gwario’r ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
CAIS RHIF 18/2017/1000/PC - TIR YN SUNNYCROFT, LLANDYRNOG, DINBYCH PDF 6 KB Ystyried cais ar
gyfer newid defnydd y tir a chodi adeilad at ddibenion hwyluso adeiladu trelars
cerbydol (cais ôl-syllol) ar dir yn Sunnycroft, Llandyrnog, Dinbych (copi yn
atodedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y cais a
cyflwynwyd ar gyfer newid defnydd y tir a chodi adeilad at ddibenion hwyluso
adeiladu trelars cerbydol (cais ôl-syllol) ar dir yn Sunnycroft, Llandyrnog,
Dinbych wedi cael ei dynnu nôl gan asiant yr ymgeisydd. |
|
CAIS RHIF 40/2017/1133/PF - REAL PETFOOD COMPANY, UNED 2, ROYAL WELCH AVENUE, BODELWYDDAN PDF 6 KB Ystyried cais ar
gyfer codi estyniad i ffatri bresennol i ddarparu gofod swyddfa ychwanegol yn
Real Petfood Company, Uned 2, Royal Welch Avenue, Bodelwyddan (copi yn atodedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer codi estyniad i ffatri
bresennol i ddarparu gofod swyddfa ychwanegol yn Real Petfood Company, Uned 2,
Royal Welch Avenue, Bodelwyddan. Siaradodd y Cynghorydd Richard Mainon (Aelod
Lleol) o blaid gohirio’r cais i aros am benderfyniad y niwsans arogl sy’n
gysylltiedig â’r defnydd, ac roedd lle i ddeall y byddai hyn yn destun cais
cynllunio yn y dyfodol. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Brian Jones, bod
y cais yn cael ei ohirio i aros am benderfyniad y niwsans arogl, ac fe’i
eiliwyd gan y Cynghorydd Peter Evans. PLEIDLAIS: O BLAID GOHIRIO - 17 YN ERBYN GOHIRIO - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD bod y cais yn cael ei OHIRIO i aros am benderfyniad y niwsans arogl. |
|
CAIS RHIF 45/2017/1087/PF - 90 STRYD FAWR, Y RHYL PDF 6 KB Ystyried cais ar
gyfer newid defnydd siop fanwerthu bresennol yn lolfa goffi gyda chyfleuster
coffi parod ategol yn 90 Stryd Fawr, Y Rhyl (copi yn atodedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer newid defnydd siop
fanwerthu bresennol yn lolfa goffi gyda chyfleuster coffi parod ategol yn 90
Stryd Fawr, Y Rhyl. Trafodaeth Gyffredinol – Fe eglurodd y Cynghorydd Alan James
(Aelod Lleol) bod gwrthwynebiad Cyngor Tref y Rhyl i’r cais yn seiliedig ar yr
awydd i gadw manwerthu A1 yn y dref fel y cyfeiriwyd ato yn eu cynllun tref
lleol. Fodd bynnag, roedd masnachu ar y Stryd Fawr wedi newid yn sylweddol ers
llunio cynllun y dref ac roedd hi'n angenrheidiol cydbwyso'r awydd i gadw'r
siop at ddefnydd manwerthu yn erbyn eiddo gwag arall a'r cyfle i gynyddu nifer
yr ymwelwyr yn y dref. Ar y sail hwnnw ac o ystyried y gallai’r
eiddo gael ei droi nôl i A1 manwerthu os na fyddai’r busnes lolfa goffi yn
llwyddiannus, roedd y Cynghorydd James yn cefnogi’r cais. Roedd yna gefnogaeth gyffredinol ar gyfer y newid
defnydd o ystyried nad yw’r eiddo wedi ei feddiannu ar hyn o bryd, ond
gofynnwyd cwestiynau ynghylch posibilrwydd yn y dyfodol i’w drosi mewn i eiddo
prydau parod poeth os na fydd y lolfa goffi yn llwyddiannus ac a fyddai eiddo
defnydd cymysg yn fwy addas.
Cyfeiriodd swyddogion at
natur defnydd A3 gan ddweud nad oedd arwydd o’r cynlluniau llawr a gwybodaeth a
gyflwynwyd bod yr ymgeisydd eisiau ymgymryd â gwerthiannau manwerthu a fyddai'n
gwarantu defnydd cymysg. Petai’r cais yn cael ei ganiatáu fe fyddai
yna bosibilrwydd yn y dyfodol y gallai'r eiddo weithredu fel lleoliad prydau
parod poeth ond mae'n rhaid cael rhesymau cynllunio dilys os ydi'r aelodau o
blaid gosod cyfyngiadau ar y sail hwnnw. Mae eiddo prydau
parod poeth hefyd yn destun proses drwyddedu ar wahân a rheolau eraill yn
ymwneud â’i weithrediad ac oriau agor. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Alan James
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd
Bob Murray. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 17 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid rhoi CANIATÂD yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
Cael adroddiad
gwybodaeth ar benderfyniad yr apêl gynllunio a gafwyd gan Lywodraeth Cymru ar
ddatblygiad fferm wynt ar dir i'r de-orllewin o Nantglyn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gwybodaeth ar benderfyniad yr
apêl gynllunio a gafwyd gan Lywodraeth Cymru ar ddatblygiad fferm wynt ar dir
i'r de-orllewin o Nantglyn. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi
anghytuno ag argymhellion yr Arolygydd Apêl ac roedd wedi caniatáu’r apêl a
chymeradwyo caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad y
fferm wynt. Mynegodd y Cadeirydd (Aelod Lleol) ei siom a’i
bryder dros y canlyniad, ac roedd o’n credu ei fod yn mynd yn groes i’r broses
ddemocrataidd. Er gwybodaeth yn unig y cafodd yr
adroddiad ei gyflwyno i’r pwyllgor a chytunwyd i drafod y mater ymhellach gyda
swyddogion y tu allan i’r cyfarfod. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. Daeth y cyfarfod i ben am 11.56 a.m. |