Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

Croesawodd y Cadeirydd Emlyn Jones fel y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd newydd i’w gyfarfod Pwyllgor Cynllunio cyntaf.

 

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 186 KB

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim cysylltiadau i’w datgan.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim materion bryd.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 471 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2017 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr, 2017.

 

Tudalen 11, Eitem 6: Queensland House, Y Roe, Llanelwy - Nododd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies fod y cofnodion wedi cynnwys cyfeiriad at gynllun rheoli sŵn a fyddai ar gael yn yr amserlen ofynnol. Gofynnodd a oedd hyn wedi'i gwblhau.
Hysbysodd y Rheolwr Datblygu wrth y Pwyllgor nad oedd yr amserlen ar gyfer cwblhau hyn wedi dod i ben eto ond y byddai'n cadarnhau gyda'r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies fod cynllun rheoli sŵn wedi'i gwblhau ar ôl i'r dyddiad cau ar gyfer hwnnw ddod i ben.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2018, yn amodol ar yr uchod, fel cofnod cywir.

 

 

CEISIADAU AM GANIATÂD AR GYFER DATBLYGU (EITEMAU 5-7)

Cyflwynwyd ceisiadau a oedd angen i’r Pwyllgor benderfynu arnynt ynghyd â’r ddogfennaeth gysylltiedig. Cyfeiriwyd hefyd at yr wybodaeth ychwanegol hwyr a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi’r Rhaglen a oedd yn ymwneud â cheisiadau penodol. Er mwyn rhoi amser i geisiadau siarad cyhoeddus, cytunwyd amrywio trefn y ceisiadau ar  Rhaglen yn briodol.

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

CAIS RHIF 20/2017/1068/ AC - Tir i’r Gorllewin o Ffordd Wrecsam, Llanfair Dyffryn Clwyd, Rhuthun pdf eicon PDF 94 KB

Ystyried cais ar gyfer manylion cynllun fesul cyfnod a gyflwynwyd yn unol ag amod 3 caniatâd cynllunio rhif 20/2016/1137- ar dir i’r Gorllewin o Ffordd Wrecsam,  Llanfair Dyffryn Clwyd, Rhuthun (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais gyda manylion y cynllun graddol a gyflwynwyd yn unol ag amod rhif 3 o ganiatâd cynllunio cod rhif 20/2016/1137 ar dir i’r Gorllewin o Ffordd Wrecsam, Llanfair Dyffryn Clwyd, Rhuthun.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Cyfeiriodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler at bryderon Cyngor Cymuned Llanfair Dyffryn Clwyd ynghylch cadw ffyrdd mynediad yn lân wrth gychwyn gwaith ar y safle.

Dywedodd y Rheolwr Datblygu fod amodau ychwanegol wedi'u gosod ar y cynllun tai. Roedd cynllun rheoli'r amgylchedd adeiladu hefyd wedi bod yn amod a roddwyd  i'r cynllun tai a oedd yn cynnwys cyfleusterau golchi olwynion ar y safle i geisio cadw'r ffyrdd yn lân.

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod yr Aelod Lleol yn cefnogi'r cais.

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler argymhellion y swyddog i ganiatáu'r cais, eiliwyd gan y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 17

GWRTHOD – 0

YMATAL – 0

 

PENDERFYNWYD rhoi CANIATÂD yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

6.

CAIS RHIF 43/2017/1147/PF – 39-41 Stryd Fawr, Prestatyn pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais ar gyfer newid defnydd A2 i A3 (prydau parod poeth) a gwaith cysylltiedig yn 39-41, Stryd Fawr, Prestatyn (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer y newid defnydd o A2 i A3 (Cludfwyd Poeth) a gwaith cysylltiedig yn 39-41 Stryd Fawr, Prestatyn.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Cadarnhaodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill (Aelod Lleol) ei gefnogaeth i'r cais. Dywedodd fod holl bryderon Cyngor Tref Prestatyn wedi cael sylw o fewn yr amodau a roddwyd.

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill argymhellion y swyddogion i ganiatáu'r cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bob Murray.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 17

GWRTHOD – 0

YMATAL – 0

 

PENDERFYNWYD rhoi CANIATÂD ar gyfer y cais yn unol ag argymhellion y swyddogion fel manylwyd yn yr adroddiad.

 

 

7.

CAIS RHIF 43/2017/1160/AD – 39-41 Stryd Fawr, Prestatyn pdf eicon PDF 96 KB

Ystyried cais ar gyfer arddangos 2 arwydd ffasgia wedi'i oleuo’n allanol ac 1 arwydd crog wedi’i oleuo’n allanol yn 39-41, Stryd Fawr, Prestatyn (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i arddangos 2 arwydd ffasgia wedi'u goleuo'n allanol ac 1 arwydd crog wedi'i oleuo'n allanol yn 39-41 Stryd Fawr, Prestatyn.

 

Trafodaeth Gyffredinol - dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill (Aelod Lleol) ei fod yn credu na fyddai'r arwyddion arfaethedig yn cael effaith negyddol weledol ar yr ardal gadwraeth a chadarnhaodd ei gefnogaeth i'r cais.

 

Cynnig Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill argymhellion y swyddogion i ganiatáu'r cais, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Bob Murray. 

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 17

GWRTHOD – 0

YMATAL – 0

 

PENDERFYNWYD rhoi CANIATÂD ar gyfer hysbysebu, yn unol ag argymhellion y swyddogion fel manylwyd yn yr adroddiad.

 

 

8.

ADRODDIAD ER GWYBODAETH: PENDERFYNIADAU APELIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 246 KB

Derbyn adroddiad gwybodaeth sy’n amlinellu penderfyniadau diweddar a gyhoeddwyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar apeliadau yn erbyn penderfyniadau’r Cyngor Sir ar ddau brif gynnig datblygu preswyl yn Ninbych a Gallt Melyd (amgaeir copi).

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad er gwybodaeth yn amlinellu’r penderfyniadau diweddar a gyhoeddwyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar apeliadau a wnaed yn erbyn penderfyniadau ar geisiadau cynllunio gan y Cyngor Sir. 

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth.

 

 

Yn y fan hon, hysbysodd y Cadeirydd yr aelodau am ganlyniad apêl cynllunio diweddar. Roedd Gweinidogion Cymru wedi cydsynio i Fferm Wynt Pant Y Maen, ac wedi gwrthdroi argymhellion Arolygydd yr Apêl. Mynegodd y Cadeirydd rywfaint o syndod ar y canlyniad a theimlai dylai’r aelodau gael gwybod am y sefyllfa.

  

 

Daeth y cyfarfod i ben am 09.52 a.m.