Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
PWYNT SYLW O ganlyniad i
broblemau technegol ar ddechrau’r cyfarfod hwn nid oedd hi’n bosib
gweddarlledu’r cyfarfod na ddefnyddio’r offer pleidleisio electronig. Dogfennau ychwanegol: |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorydd
Peter Evans Byddai’r
Cynghorydd Julian-Thompson-Hill yn cyrraedd yn hwyr ar gyfer y cyfarfod. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorydd Tony
Thomas – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 8 ar y Rhaglen Y Cynghorydd
Julian Thompson-Hill – Cysylltiad Personol ac sy’n Rhagfarnu - Eitem 7 ar y
Rhaglen Y Cynghorydd
Emrys Wynne – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 5 ar y Rhaglen |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 14 Mehefin
2017 (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio
a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2017. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf,
2017 fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 9) - Cyflwynwyd
ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y pwyllgor ynghyd â dogfennau
cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at
wybodaeth ategol a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen a oedd yn ymwneud â
cheisiadau penodol. Nodwyd nad oedd
ceisiadau i siarad yn gyhoeddus. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 43/2015/1241/PO – TIR GERLLAW LLYS YNADON, FFORDD FICTORIA, PRESTATYN PDF 96 KB Ystyried cais i
ddatblygu 0.51 hectar o dir er mwyn codi 3 uned manwerthu ac 20 o unedau
preswyl (cais amlinellol gan gadw pob mater yn ôl) ar dir ger Llys Ynadon,
Ffordd Fictoria, Prestatyn (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y
Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol yn yr eitem hon gan ei fod yn Ynad
Heddwch yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a gallai gael ei alw i'r fainc yn Sir
Ddinbych.] Cyflwynwyd cais i ddatblygu 0.051 hectar o dir er
mwyn codi 3 uned manwerthu ac 20 o unedau preswyl (cais amlinellol gan gadw pob
mater yn ôl) ar dir ger Llys Ynadon, Ffordd Fictoria, Prestatyn. Trafodaeth Gyffredinol – Cyfeiriodd y Cynghorydd Tony Flynn (Aelod
Lleol) at bryderon preswylwyr lleol a oedd yn canolbwyntio’n bennaf ar (1)
faterion priffordd – parcio a thagfeydd – yn enwedig ar Windermere Drive, a (2)
man agored – mae’r plant lleol yn defnyddio’r man gwyrdd presennol fel ardal
chwarae a byddai hyn yn cael ei golli. Cytunodd y Cynghorydd Paul Penlington (Aelod
Lleol), gan ychwanegu bod y pryderon o ran y briffordd yn rhai dilys ac y
byddai’r datblygiad yn achosi anawsterau mawr. Cyfeiriodd at yr adolygiadau traffig, a gynhaliwyd
y llynedd, a oedd wedi nodi materion i’w ystyried ymhellach. Codwyd pryderon ynghylch y cynnig i
adeiladu unedau manwerth a fyddai’n cael effaith niweidiol ar fusnesau lleol
presennol a chyflogaeth. Er nad oedd unrhyw wrthwynebiad mewn egwyddor i
ddatblygiad tai, mynegwyd pryder o ran nifer y tai a’r effaith ar y rhwydwaith
priffyrdd lleol a datblygiad unedau manwerthu. Gofynnodd i addasu’r cais a oedd yn cynnwys cael
gwared â’r elfen fanwerthu a sicrhau fod mwy o le rhwng y tai. Ymhelaethodd y Rheolwr Datblygu ar y cyd-destun
cynllunio, gan egluro ei fod yn gais cynllunio amlinellol a oedd yn ymwneud ag
egwyddor y datblygiad ar gyfer tai ac unedau manwerthu aml ddefnydd. Nodwyd nad oedd manylion o ran cynllun a
maint yr eiddo a mannau agored yn faterion i’w hystyried ar hyn o bryd a
byddai’r rhain yn destun cais ar wahân. Roedd y polisi cynllunio yn cefnogi tai lleol yn
yr ardal ac roedd angen tai yn y sir, yn enwedig tai fforddiadwy. Roedd defnydd blaenorol a dwysedd y safle,
pan oedd yn gweithredu fel Gorsaf Heddlu, hefyd wedi cael effaith ar y cais
presennol. Y mater dan ystyriaeth gan yr aelodau oedd os oeddent yn cytuno â’r
datblygiad mewn egwyddor. Ail bwysleisiodd y Swyddog Priffyrdd fod y cais yn y cam amlinellol ac er
ei fod yn gwerthfawrogi’r pryderon ynghylch y rhwydwaith priffyrdd lleol,
byddai manylion y materion a gadwyd yn ôl (gan gynnwys priffyrdd) yn cael eu
cytuno arnynt ar ddyddiad diweddarach ag amodau priodol. Felly, roedd o’r farn nad oedd modd
gwrthod y cais ar sail y briffordd. Ystyriwyd rhinweddau’r cais gan yr Aelodau a
gofynnodd y Cynghorydd Bob Murray am eglurder o ran elfen fanwerthu’r
datblygiad o ystyried yr effaith posib ar fusnesau lleol. Codwyd cwestiynau
pellach o ran yr amodau i’w gorfodi pe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo. Mewn ymateb - ·
dywedodd
swyddogion nad oedd y gystadleuaeth a’r effaith ar fusnesau lleol presennol
ger y safle datblygu yn ystyriaeth gynllunio berthnasol ac nad
oedd yn bosib i’r pwyllgor wrthod y cais ar y sail honno nac ychwaith i gael
gwared ag elfen fanwerthu’r cais. ·
tynnwyd sylw at yr amod arfaethedig a oedd yn
cyfyngu’r arwynebedd llawr adwerthu (amod rhif 13) a osodwyd ar unedau
manwerthu y tu allan i ganol y dref er mwyn amddiffyn masnach canol tref – fodd
bynnag, cydnabuwyd os oedd gan yr aelodau unrhyw bryder o ran effaith negyddol
ar fywiogrwydd a hyfywedd canol y dref o ystyried cyn lleied o fanylion a oedd
ar gael am yr unedau manwerthu yn y cais amlinellol, bod hyn sail posib ar
gyfer gwrthod y cais. · nid oedd y man gwyrdd y cyfeiriwyd ato gan y ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CAIS RHIF 45/2017/0335/PO – TIR GERLLAW 21 STANLEY PARK AVENUE, Y RHYL PDF 7 KB Ystyried cais i ddatblygu 0.05 ha o dir drwy godi 1
annedd (cais amlinellol gan gynnwys mynediad, gosodiad a graddfa) ar dir ger 21
Stanley Park Avenue, Y Rhyl (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i ddatblygu 0.05 hectar o dir drwy
godi 1 annedd (cais amlinellol gan gynnwys mynediad, gosodiad a graddfa) ar dir
ger 21 Stanley Park Avenue, Y Rhyl. Eglurodd y Rheolwr Datblygu fod yr ymgeisydd wedi
cyflwyno cynlluniau diwygiedig a oedd yn golygu bod rhaid ymgynghori ymhellach. O ganlyniad argymhellwyd gan swyddogion y
dylid gohirio’r cais. PLEIDLAIS: O BLAID GOHIRIO - 18 YN ERBYN GOHIRIO - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid gohirio’r cais yn unol ag
argymhelliad y swyddogion. |
|
CAIS RHIF 45/2017/0384/PF – YR HEN BARC DRIFFT, RHODFA’R GORLLEWIN, Y RHYL PDF 97 KB Ystyried cais i
ddymchwel y parc sgrialu a'r cytiau manwerthu ategol presennol ac adeiladu Parc
Dŵr newydd ac Atyniad Hamdden gan gynnwys: Pwll
hamdden dan do gyda chafnau dŵr, sleidiau, strwythur chwarae ac ardal
hyder dŵr, ardaloedd newid, ardal chwarae i blant, ystafelloedd parti a
gweithgareddau dringo, caffi / bar trwyddedig, pwll padlo awyr agored gydag
offer chwarae, ardaloedd eistedd dan do/awyr agored, llety ategol ac ystafell
beiriannau yn yr Hen Barc Drift, Rhodfa’r Gorllewin, Y Rhyl (copi wedi’i
atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill gysylltiad personol ac sy'n rhagfarnu yn yr
eitem hon gan ei fod yn aelod o Fwrdd Glan y Môr y Rhyl ac felly gadawodd y
cyfarfod tra bu'r cais yn cael ei ystyried.] Cyflwynwyd cais i ddymchwel parc sglefrio a'r
cytiau manwerthu ategol presennol ac adeiladu Parc Dŵr newydd ac Atyniad
Hamdden gan gynnwys: Pwll hamdden dan do gyda chafnau dŵr,
sleidiau, strwythur chwarae ac ardal hyder dŵr, ardaloedd newid, ardal
chwarae i blant, ystafelloedd parti a gweithgareddau dringo, caffi / bar
trwyddedig, pwll padlo awyr agored gydag offer chwarae, ardaloedd eistedd dan
do/awyr agored, llety ategol ac ystafell beiriannau yn yr Hen Barc Drifft,
Rhodfa’r Gorllewin, Y Rhyl. Trafodaeth Gyffredinol – Siaradodd y Cynghorydd Alan James (Aelod
Lleol) o blaid y datblygiad gan nodi bod Cyngor Tref Y Rhyl wedi bod yn
gweithio’n agos â’r Cyngor i ddatblygu’r cyfleuster newydd hwn fel rhan o’r
broses i adfywio’r Rhyl. Ystyriwyd y byddai’r cyfleuster yn gwella datblygiadau
eraill sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd,
yn cynnig cyflogaeth yn lleol a gwella hyfywedd economaidd y dref.
Dywedodd y Cynghorydd James fod nifer yn awyddus iawn i weld datblygiad o’r fath yn y dref ac
ystyriwyd y datblygiad hwn yn gatalydd i ddwyn ymlaen datblygiadau eraill er
budd y preswylwyr lleol a thwristiaeth. Cyfeiriodd hefyd at yr ymgynghoriad sy’n cael ei
gynnal ar hyn o bryd ar adleoli'r parc sglefrio a ystyriwyd yn gam cadarnhaol i
newid cyfleusterau’r parc sglefrio presennol a oedd erbyn hyn mewn cyflwr
gwael. Siaradodd y Cynghorydd Emrys Wynne o blaid y
datblygiad ac roedd hefyd yn awyddus iawn i sicrhau bod y parc sglefrio’n cael
ei adleoli’n llwyddiannus er budd ei ddefnyddwyr. Er nad oedd effaith fawr ar yr iaith Gymraeg o
ganlyniad i'r datblygiad, gobeithiodd fod y datblygwyr wedi cydymffurfio â
gofynion ieithyddol y Cyngor. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Alan James, ac fe’i
heiliwyd gan y Cynghorydd Pat Jones, fod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol ag
argymhellion y swyddog. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 17 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid rhoi CANIATÂD yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
CAIS RHIF 45/2017/0507/PS - CARTREF PRESWYL DEWI SANT, 36 RHODFA’R DWYRAIN, Y RHYL PDF 6 KB Ystyried cais i
amrywio amod rhif 1 o god caniatâd cynllunio rhif 45/2011/0572 a ganiateir dan apêl i ganiatáu
mwy o amser i ddechrau’r datblygiad yng Nghartref Preswyl Dewi Sant, 36
Rhodfa’r Dwyrain, Y Rhyl (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y
Cynghorydd Tony Thomas gysylltiad
personol yn yr eitem hon gan mai ef yw'r Aelod Lleol ac am ei fod yn aelod o
Gyngor Tref y Rhyl.] Cyflwynwyd cais ar gyfer amrywio amod rhif 1 o ganiatâd cynllunio rhif 45/2011/0572 a
ganiateir dan apêl i ganiatáu mwy o amser i ddechrau’r datblygiad yng Nghartref Preswyl Dewi Sant, 36 Rhodfa’r
Dwyrain, Y Rhyl. Trafodaeth Gyffredinol – Trafododd y Cynghorydd Tony Thomas (Aelod
Lleol) gefndir y cais gan nodi bod caniatâd cynllunio eisoes wedi’i gymeradwyo
ar apêl.
Nodwyd nad oedd yn bosib ail edrych ar egwyddor y datblygiad ar y pwynt
hwn. Cynnig – O ystyried yr hanes cynllunio,
argymhellion y swyddog, a'r ffaith y byddai’r datblygiad yn creu cyfleoedd
cyflogaeth yn yr ardal, cynigodd y Cynghorydd Tony Thomas, fod y cais yn cael
ei ganiatáu ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Brian Jones. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 18 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid rhoi CANIATÂD yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
CAIS RHIF 47/2017/0475/PF – TŶ WADHAM, RHUALLT, LLANELWY PDF 6 KB Ystyried cais i
godi cartref ategol ar wahân a gwneud gwaith cysylltiedig yn Nhŷ Wadham,
Rhuallt, Llanelwy (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi cartref ategol ar wahân a
gwneud gwaith cysylltiedig yn Nhŷ Wadham, Rhuallt, Llanelwy. Trafodaeth Gyffredinol – Ymhelaethodd y Cynghorydd Christine
Marston (Aelod Lleol) ar bryderon y codwyd gan Gyngor Cymuned Tremeirchion, Cwm
a'r Waen, ac y gobeithiodd, ar ôl myfyrio, fod y pryderon hynny wedi’u lliniaru
fel a ganlyn (1) yn dilyn ymweliad â’r safle nid oedd yr adeilad arfaethedig
i’w weld yn anghymesur (2) o ran yr effaith weledol ar Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol nid oedd yr adeilad i’w weld o’r briffordd gyhoeddus (3)
roedd y deunyddiau’n ymddangos yn addas ar gyfer natur y datblygiad, a (4)
chyniwyd amod i wahardd defnydd masnachol o’r adeilad. Mewn ymateb i gwestiynau aelodau, dywedodd y
swyddogion - ·
fod
amod wedi’i gynnig i wahardd unrhyw un rhag defnyddio’r adeilad fel uned
breswyl annibynnol a bydd swyddogion yn ymchwilio i honiadau o ddefnydd heb ei
awdurdodi er mwyn gorfodi’r amod hwnnw. ·
roedd
y safle yn agos at, ond tu allan, i ffin ddatblygu'r Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol, ac ni dderbyniwyd unrhyw sylw gan Gydbwyllgor yr AHNE yn ymwneud â’r datblygiad. Byddai’r effaith debygol ar yr AHNE yn
ddibwys gan na fyddai’r adeilad yn weladwy o unrhyw fannau cyhoeddus. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Christine Marston
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd
Merfyn Parry. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 18 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid rhoi CANIATÂD yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
GORCHYMYN CADW COED RHIF. 01/2017 YN YMWNEUD Â THIR GERLLAW GLASFRYN, GELLIFOR PDF 388 KB Ystyried adroddiad yn gofyn i aelodau gadarnhau
Gorchymyn Cadw Coed Cyngor Sir Ddinbych Rhif 01/2017 yn ymwneud â thir gerllaw
Glasfryn, Gellifor (copi atodedig). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad yn gofyn i aelodau gadarnhau
Gorchymyn Cadw Coed Cyngor Sir Ddinbych Rhif 01/2017 mewn perthynas â thir ger Glasfryn, Gellifor (fel y manylwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.) Mae Gorchymyn Cadw Coed yn ei gwneud hi’n drosedd
i dorri, difrigo, tocio, diwreiddio, difrodi neu ddifetha coeden yn fwriadol
heb ganiatâd yr awdurdod cynllunio lleol.
Ymhelaethodd y Swyddog Cynllunio (KB)
ar y broses ddeddfwriaethol o ran y gweithdrefnau ar gyfer gwneud
Gorchymyn Cadw Coed ac fe nododd fod dau sylw wedi’u derbyn a oedd yn cefnogi’r
gorchymyn. Gohiriwyd y mater yn y
cyfarfod diwethaf i ganiatáu ar gyfer camau dilynol wedi gohebiaeth gychwynnol
gan barti â diddordeb yn y tir sydd
bellach wedi cadarnhau nad oeddent yn dymuno gwrthwynebu'r Gorchymyn Cadw Coed. O ganlyniad, gallai’r Cyngor gadarnhau’r
Gorchymyn Cadw Coed yn unol ag argymhellion y swyddog neu benderfynu peidio â chadarnhau’r Gorchymyn Cadw Coed, drwy
beidio â chadarnhau byddai’r
goeden heb yr amddiffyniad hwnnw wedi i’r gorchymyn dros dro ddod i ben ym mis
Medi 2017. Nododd y Cynghorydd Meirick Davies nad oedd llun o’r goeden wedi'i
ddarparu ac yr oedd o'r farn y byddai llun yn ychwanegiad defnyddiol mewn
sefyllfaoedd o'r fath. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Alan James, y dylid cymeradwyo
Gorchymyn Cadw Coed Rhif 01/2017 yn unol ag argymhellion y swyddog. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 18 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD bod
Aelodau’n cadarnhau Gorchymyn Cadw Coed Cyngor Sir Ddinbych Rhif 01/2017 sy’n
ymwneud â Thir gerllaw Glasfryn, Gellifor yn Sir Ddinbych fel y manylwyd yn
Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
Ystyried
adroddiad yn ceisio ardystiad yr aelodau i Adroddiad Adolygu Drafft Cynllun
Datblygu Lleol Sir Ddinbych ynghyd â Chytundeb Cyflawni, Asesiad Rheoliadau
Cynefinoedd, Adroddiad Cwmpasu Arfarniad o Gynaliadwyedd a phapurau gwybodaeth
gefndirol wedi’u diweddaru ar gyfer ymgynghoriad (copi atodedig). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad yn ceisio ardystiad yr
aelodau i Adroddiad Adolygu Drafft Cynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych ynghyd â
Chytundeb Cyflawni, Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, Adroddiad Cwmpasu Arfarniad
o Gynaliadwyedd a phapurau gwybodaeth gefndirol wedi’u diweddaru ar gyfer
ymgynghoriad cyhoeddus cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Darparodd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai
wybodaeth gefndirol am yr adroddiad ac arwain yr aelodau drwy’r ddogfennaeth,
gan amlinellu’r amserlen a’r broses ar gyfer datblygu Cynllun Datblygu Lleol
diweddaraf Sir Ddinbych ac amlygu’r camau gwahanol o fewn y broses ac
ystyriaethau pwysig, gan gynnwys y cyfle i aelodau, y cyhoedd a budd-ddeiliaid
allweddol gael dweud eu dweud yn ystod yr ymarfer ymgynghori. Amlygwyd yn yr adroddiad drafft lle yn union yr oedd angen gwneud
newidiadau o ran dull y polisi ond nid oedd yn nodi’n union beth oedd y
newidiadau hynny. Anogodd y Cadeirydd yr aelodau i ymateb i’r ymgynghoriad drwy leisio eu
barn a chynnig sylwadau ar y polisi drafft. Mewn ymateb i gwestiynau aelodau, dywedodd
swyddogion – ·
fod
Cynllun Datblygu Lleol yn ofyniad statudol gan nodi manteision y dull hwnnw er
mwyn gosod polisi lleol yn hytrach na dibynnu ar bolisïau cenedlaethol a
Llywodraethol, eglurwyd y problemau sy’n wynebu awdurdodau eraill yn benodol o
ran datblygiadau tai ·
darparwyd
sicrwydd ynghylch yr amserlen ar gyfer y cyfnod ymgynghori o 8 wythnos gan nodi
y bydd y cyfnod ymgynghori yn debygol o ddechrau yng nghanol mis Awst a pharhau
hyd at ddiwedd Medi neu ddechrau mis Hydref hyd yn oed er mwyn sicrhau bod
digon o amser i unigolion gyflwyno eu sylwadau. ·
nodwyd
bod yr Iaith Gymraeg yn ystyriaeth gynllunio statudol a thynnwyd sylw at y
Papur Gwybodaeth ar Barchu Nodweddion Unigryw a oedd yn cynnwys yr Iaith
Gymraeg gan nodi faint o Gymraeg a oedd yn cael ei siarad o fewn ardaloedd
penodol. Bydd yr holl ddogfennau ymgynghoriad yn cael eu cynhyrchu’n ddwyieithog. ·
ymhelaethwyd
ar y cyflenwad o dir sydd ar gael ar gyfer tai a’r tai sydd wedi’u cwblhau ers
2006 a phrosiectau poblogaeth a gofynion anheddau blynyddol. Roedd mwy o drafodaethau manwl ar sut yr
oedd y wybodaeth hynny o gymorth i'r CDLl yn y dyfodol yn ofynnol. Darllenodd y Cadeirydd argymhellion y swyddog a
phleidleisiwyd yn unfrydol - PENDERFYNWYD y
dylai aelodau ardystio Adroddiad Adolygu Drafft Cynllun Datblygu Lleol Sir
Ddinbych ( Atodiad 2) ynghyd â
Chytundeb Cyflawni, Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, Adroddiad Cwmpasu Arfarniad
o Gynaliadwyedd a phapurau gwybodaeth gefndirol wedi’u diweddaru ar gyfer
ymgynghoriad. Daeth y cyfarfod i ben am 11.00 a.m. |