Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim |
|||
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 197 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynghorydd
Gwyneth Kensler – Buddiant Personol sy’n Rhagfarnu – Eitemau 5 a 6. Y Cynghorydd
Meirick Davies – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 12 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Huw
Jones – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 7 ar y Rhaglen Y Cynghorydd
Mabon ap Gwynfor – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 7 ar y Rhaglen. |
|||
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|||
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd
2017 (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2017. PENDERFYNWYD y
dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf,
2017 fel cofnod cywir. |
|||
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5-14) Cyflwynwyd
ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y Pwyllgor ynghyd â’r dogfennau
cysylltiedig. Cyfeiriwyd hefyd at
wybodaeth ategol hwyr a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen a oedd yn ymwneud
â cheisiadau penodol. Er mwyn caniatáu ceisiadau gan aelodau o’r
cyhoedd i gael siarad, cytunwyd y dylid amrywio trefn y rhaglen. Dogfennau ychwanegol: |
|||
CAIS RHIF 21/2017/0957- 4 Bryn Artro Avenue, Llanferres, Yr Wyddgrug PDF 94 KB Ystyried cais i
godi annedd newydd yn lle’r un presennol, yn 4 Bryn Artro Avenue, Llanferres,
Yr Wyddgrug. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais am ganiatâd i godi annedd newydd yn lle’r un presennol yn 4
Bryn Artro Avenue, Llanferres, yr Wyddgrug. Siaradwr Cyhoeddus – Dywedodd Mr Bob Barton (yn erbyn) y bu’n aelod o Gyngor Cymuned Llanferres a’i fod yn
bresennol yn y cyfarfod cymunedol pan oedd y cais cynllunio hwn o dan
drafodaeth. Dywedodd Mr Barton wrth y
Pwyllgor y bu'n aelod o’r Pwyllgor Cynllunio rhwng 2004-2008 a’i fod yn
ddiweddar wedi mynychu cwrs Cymorth Cynllunio Cymru er mwyn gloywi ei
hyfforddiant. Dywedodd Mr Barton wrth yr aelodau ei fod wedi dyfynnu’r
Canllawiau Cynllunio Atodol perthnasol i Ddatblygiadau Preswyl yn ei lythyr o
wrthwynebiad ond nad oedd hwn wedi’i gynnwys yn y taflenni gwybodaeth
glas. Ei farn ef yw bod bwlch o 300mm yn
annigonol. O’i hyfforddiant blaenorol roedd wedi dysgu yr ystyrir ei bod yn
bwysig gadael bwlch o 1m er mwyn gadael digon o le gerbydau’r gwasanaethau brys
gael mynediad ac i symud yn ddirwystr. Trafodaeth Gyffredinol - yn absenoldeb yr
Aelod Lleol, y Cynghorydd Martyn Holland, dywedodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill nad oedd gan yr aelod lleol unrhyw wrthwynebiad i’r cais gan
ddweud y byddai yn ddelfrydol wedi hoffi
gweld y bwlch o 750mm yn rhedeg rhwng yr holl eiddo ond ei fod yn
gwerthfawrogi arwyddocâd y caniatâd cynllunio presennol.
Dywedodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies mai'r pellter wrth y drws cefn
ar hyn o bryd yw 950mm a gofynnodd i’r swyddogion a fyddai modd ei gynyddu i 1m
er mwyn caniatáu gwell mynediad yng nghefn yr eiddo. Tynnodd y Swyddog Datblygu sylw at wybodaeth ar y daflen las, gan dywys yr
aelodau at wybodaeth am y caniatâd cynllunio blaenorol ar gyfer yr un safle. Dywedodd
y Swyddog datblygu wrth yr aelodau fod swyddogion yn fodlon â’r cais fel y
cafodd ei gyflwyno. Cynnig – Cynigodd y
Cyng. Peter Evans, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Bob Murray, y dylid cymeradwyo’r
cais yn unol ag argymhellion y swyddog. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 19 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD
y dylid rhoi CANIATÂD yn unol ag argymhellion y
swyddog fel y’u nodwyd yn yr adroddiad.
|
|||
CAIS RHIF 46/2017/0944- Queensland House, Y Ro, Llanelwy PDF 96 KB Ystyried cais i
gadw siediau presennol sy’n cael eu defnyddio fel gweithdy (B1 defnydd
diwydiannol ysgafn) ac at ddefnydd personol (cais ôl-syllol) yn Queensland
House, Y Ro, Llanelwy. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i gadw siediau presennol sy’n cael eu defnyddio fel
gweithdy (B1 - defnydd diwydiannol ysgafn) ac at ddefnydd personol yn
Queensland House, Y Ro, Llanelwy. Siaradwr Cyhoeddus
– Dywedodd Mr Philip Hellyer (o blaid)
– ei fod yn cynrychioli ei fab Mr Peter Hellyer, yr ymgeisydd. Eglurodd nad oes
gan Mr Peter Hellyer unrhyw gynlluniau i ehangu ei fusnes ymhellach. Ychydig
iawn o sŵn y mae’r gweithgareddau sy’n digwydd ar y safle yn ei gynhyrchu
a hynny am gyfnodau byr yn unig. Byddai
cynllun rheoli sŵn yn cael ei drefnu o fewn y cyfnod angenrheidiol ac i
gefnogi hyn byddai’r ymgeisydd yn edrych ar y posibilrwydd o osod deunydd
insiwleiddio rhag sŵn. Nid oes
unrhyw waith paentio'n cael ei wneud yn yr eiddo. Byddai’r oriau gwaith
cytunedig yn cael eu cadw atynt. Gofynnwyd am ganiatâd amgylchiadau eithriadol
i wneud gwaith ar ddyddiau Sul a gwyliau banc ar gyfer cwsmeriaid a allent fod
yn teithio cryn bellter. Trafodaeth Gyffredinol –
Cyflwynodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Peter Scott, ei safbwyntiau o blaid
y cais. Dywedodd wrth yr aelodau, gan gydnabod gwrthwynebiadau Cyngor y Ddinas,
nad oedd unrhyw aelodau o'r cyhoedd wedi mynegi gwrthwynebiad i’r cais. Ar ôl
ymweliad â’r safle, cynigiwyd y dylid ychwanegu degfed amod a gwneud newidiadau
i amodau eraill y cais. Dywedodd Cynghorydd Scott nad oedd ganddo unrhyw
wrthwynebiad i’r cais yn amodol ar fodloni’r holl amodau. Dywedodd y Cynghorydd Meirick Lloyd ei fod yn hapus i gefnogi'r cais ar ôl
bod ar ymweliad â’r safle. Rhoddodd y Rheolwr Datblygu gadarnhad pellach i'r aelodau mai’r amod oedd
bod yr holl waith yn cael ei wneud o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng
08.00-18.00. Cynnig – Cynigodd y Cyng.
Peter Scott, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Meirick Lloyd Davies, bod y cais yn
cael ei ganiatáu yn unol ag argymhellion y swyddog. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 18 GWRTHOD - 0 YMATAL - 1 PENDERFYNWYD
y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhelliad y swyddogion, yn amodol ar fodloni’r amodau a bennwyd. |
|||
CAIS RHIF 23/2016/1218- Parc Carafanau Caer Mynydd, Saron, Dinbych PDF 97 KB Ystyried cais am
estyniad i Barc Gwyliau presennol i ganiatáu lleoli 35 o Garafanau Gwyliau
Statig yn lle 41 o Leiniau Carafanau Teithiol Cymysg gan roi’r gorau i
ddefnyddio rhan ogleddol y parc ym Mharc Carafanau Caer Mynydd, Saron, Dinbych.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd Cynghorydd Meirick Lloyd Davies gysylltiad personol gan fod
ganddo deulu wedi’u claddu ym mynwent Capel Saron a chysylltiadau hanesyddol
â’r pentref. Ar y cam hwn dywedodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Joe Welch y byddai, fel
Aelod Lleol, yn siarad am y cynnig. Penderfynodd y byddai'n gadael y Gadair ar
gyfer y cais hwn. Bu i’r Is-Gadeirydd, y Cyng. Alan James, gadeirio’r Pwyllgor Cynllunio ar
gyfer yr eitem hon. Cyflwynwyd cais am estyniad i Barc Gwyliau i ganiatáu lleoli 35 o Garafanau
Gwyliau Sefydlog yn lle 41 o leiniau carafanau teithiol cymysg gan roi’r gorau
i ddefnyddio rhan ogleddol y parc ym Mharc Carafanau Caer Mynydd, Saron,
Dinbych. Siaradwr Cyhoeddus - Mr Philip Jones
(o blaid), asiant yr ymgeisydd.
Dywedodd wrth yr aelodau fod y parc wedi’i sefydlu ers bron 50 o flynyddoedd
a'i fod o fudd i’r economi lleol.
Dywedodd mai barn yr ymgeisydd yw y byddai'r cynnig o fantais i’r ardal
leol. Yn ôl yr ymgeisydd mae Asesiad o'r Effeithiau Gweledol wedi'i gwblhau.
Dywedodd yr ymgeisydd pe ceid cymeradwyaeth y byddai rhagor o dirlunio’n cael
ei wneud er mwyn gwella’r effeithiau gweledol. Dywedodd hefyd fod yr ymgeisydd
yn ymwybodol o’r amodau a osodwyd
ar y cais ac y byddai’n
cydymffurfio â nhw pe bai'r cais yn cael ei gymeradwyo. Trafodaeth Gyffredinol -
Cyflwynodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd
Joe Welch, yr adroddiad gan nodi fod y cais wedi bod dan drafodaeth ers peth
amser. Pwysleisiodd Cynghorydd Welch y
ffaith y byddai darn gogleddol y parc yn cael ei ildio gan symud y busnes i
ffwrdd oddi wrth drigolion lleol. Mynegodd y
Cyngor Cymuned a phreswylwyr Saron
bryderon am y modd y byddai’r Parc ei redeg, lefelau sŵn, materion
draenio ar ffaith fod y Parc yn cael ei ddefnyddio i ddibenion preswyl. Cyfeiriodd
Cynghorydd Welch at bolisi PSE12 sy’n ymwneud â newid defnydd safleoedd ac sy’n
gwrthwynebu newid safleoedd carafanau teithiol yn safleoedd carafanau sefydlog.
Dywedodd Cynghorydd Christine
Marston ei bod o’r farn ar ôl mynychu
cyfarfod panel y safle y byddai natur wasgarog y parc yn manteisio o fod â'r
holl garafanau ar un ochr, i ffwrdd o'r pentref. Cyfeiriodd y Swyddog Datblygu at Amod 12 ac 13 ar y daflen wybodaeth hwyr a
oedd yn cynnwys sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru. Dywedodd y Swyddog y byddai’n rhaid gosod y
systemau draenio angenrheidiol cyn gosod unrhyw garafanau sefydlog ar y safle. Cyfrifoldeb ar
y perchnogion a'r rhai sy'n byw yn y parc fyddai cadw cofnod o’r nifero o
arosiadau yn y parc. Byddai swyddogion
yn cyfathrebu â’i gilydd ac yn sicrhau fod sefydliadau eraill yn ymwybodol o
unigolion sydd o bosibl yn defnyddio'r maes carafanau fel preswylfa barhaol. O safbwynt polisi PSE12, ei bwrpas ymysg
pethau eraill yw diogelu'r dirwedd naturiol a monitro effeithiau gweledol.
Roedd swyddogion yn teimlo fod lefel y tirlunio sydd wedi’i gynnig yn
dderbyniol. Dywedwyd wrth yr aelodau pe rhoddir
caniatâd cynllunio y byddai’n rhaid i ddeiliad y drwydded wneud cais am
drwydded newydd. Cynnig- cynigiodd Ellie
Chard, ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Pat Jones, y dylid cymeradwyo’r
cais yn unol ag argymhellion y swyddogion gan gynnwys yr amodau ac y byddai
cais yn cynnwys y manylion am ddraenio ar y safle yn cael ei ddwyn gerbron y
Pwyllgor. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 14 GWRTHOD - 0 YMATAL - 2 PENDERFYNWYD
y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhellion y swyddog gan gynnwys yr amodau ychwanegol a gydag adroddiad am y
draenio’n cael ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Cynllunio.
|
|||
Ar y pwynt hwn (10.45 a.m.) cafwyd toriad am 15
munud Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.00 a.m. Ar y pwynt hwn,
bu i’r Cadeirydd, y Cyng. Joe Welch, symud yn ôl i sedd y Cadeirydd a chadeirio
gweddill y cyfarfod.
|
|||
CAIS RHIF 01/2017/0901 – Amgueddfa Dinbych, Lôn Goch, Dinbych PDF 6 KB Ystyried cais am
addasiadau ac estyniad i greu mynedfeydd newydd ynghyd â gwaith ategol gan
gynnwys arwyddion newydd a dymchwel grisiau allanol yn Amgueddfa Dinbych, Lôn
Goch, Dinbych. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler, fel yr Ymgeisydd, gysylltiad
personol â’r eitem hon a gadawodd y cyfarfod tra cafodd y cais ei ystyried.] Cyflwynwyd cais am addasiadau ac estyniad i greu mynedfeydd newydd ynghyd â
gwaith ategol gan gynnwys arwyddion newydd a dymchwel grisiau allanol yn
Amgueddfa Dinbych, Lôn Goch, Dinbych. Cynnig – Cynigodd y
Cynghorydd Merfyn Parry argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i
eiliwyd gan y Cynghorydd Huw Williams. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 15 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD
y dylid rhoi CANIATÂD yn unol ag argymhellion y
swyddog fel y’u nodwyd yn yr adroddiad.
|
|||
CAIS RHIF 01/2017/0902- – Amgueddfa Dinbych, Lôn Goch, Dinbych PDF 6 KB Ystyried cais am
ganiatâd ardal gadwraeth ar gyfer dymchwel grisiau allanol yn Amgueddfa
Dinbych, Lôn Goch, Dinbych. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler, fel yr Ymgeisydd, gysylltiad
personol yn yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod tra cafodd y cais ei ystyried.] Cyflwynwyd cais am Ganiatâd Ardal Gadwraeth i ddymchwel grisiau allanol yn
Amgueddfa Dinbych, Lôn Goch, Dinbych. Cynnig – Cynigodd y
Cynghorydd Ellie Chard argymhellion y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i
eiliwyd gan y Cynghorydd Huw Williams. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 15 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD
y dylid rhoi CANIATÂD yn unol ag argymhellion y swyddog fel y’u nodwyd yn yr adroddiad. |
|||
CAIS RHIF 08/2017/0896- Tir yn (Rhan o ardd) Pen y Dalar, Godre’r Coed, Cynwyd, Corwen PDF 95 KB Ystyried cais i
godi 1 annedd a gwaith cysylltiedig ar Dir yn Rhan o ardd) Pen Y Dalar, Godre’r Coed, Cynwyd, Corwen. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Huw Jones gysylltiad personol â’r eitem hon gan fod
aelodau o’i deulu wedi cyflwyno gwrthwynebiadau i’r cais. Penderfynodd
Cynghorydd Jones nad oedd yn dymuno cymryd rhan yn y drafodaeth ac esgusododd
ei hun ar gyfer yr eitem hon. Datganodd Cynghorydd Mabon ap Gwynfor, Aelod lleol, gysylltiad personol gan
ei fod wedi gweithio gyda’r ymgeisydd. Cyflwynwyd cais i godi 1 annedd a gwaith cysylltiedig ar dir mewn rhan o
ardd ym Mhen y Dalar, Godre’r Coed,
Cynwyd, Corwen. Trafodaeth gyffredinol –
dywedodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd Mabon ap Gwynfor, ei fod yn cefnogi’r
cais gan fod galw mawr am dai yn y pentref. Roedd yn cydnabod y gwrthwynebiadau a gafwyd mewn perthynas â’r
cais. Yn ei farn ef byddai codi tŷ ychwanegol o
fantais i drigolion lleol. Cynnig – Cynigodd y
Cynghorydd Gwyneth Kensler argymhellion y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i
heiliwyd gan y Cynghorydd Ellie Chard. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 15 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD
y dylid rhoi CANIATÂD yn unol ag argymhellion y swyddog fel y’u nodwyd yn yr adroddiad. |
|||
Ystyried cais i
amrywio amod rhif 3 o ganiatâd cynllunio
rhif 15/2011/0651 i ganiatáu i unedau
carafan statig amgen gael eu lleoli o fewn y parc carafanau estynedig sydd wedi
ei gymeradwyo ar Dir i'r de i a sy’n cynnwys Parc Carafanau Parc Farm, Ffordd
Graianrhyd, Llanarmon-Yn-Ial, Yr Wyddgrug. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i amrywio amod 3 o ganiatâd cynllunio rhif 15/2011/0651 i
ganiatáu i unedau carafán sefydlog amgen gael eu lleoli o fewn y parc carafanau
estynedig sydd wedi ei gymeradwyo ar Dir i'r de o, ac sy’n cynnwys Parc
Carafanau Parc Farm, Ffordd Graianrhyd, Llanarmon-Yn-Iâl, Yr Wyddgrug. Trafodaeth gyffredinol –
dywedodd Cynghorydd Julian Thompson-Hill ar ran yr aelod lleol Martyn
Holland nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i’r cais a’i fod yn fodlon
cefnogi’r amrywiad. Gofynnodd Cynghorydd Gwyneth Kensler bod y gair ‘cyfredol’ gael ei gynnwys
yng ngeiriad yr amod sydd i’w osod, yn unol ag argymhelliad y swyddog. Cynnig – Cynigiodd
Cynghorydd Julian Thompson-Hill argymhelliad y swyddog ond gan gynnwys y gair
‘cyfredol’ yng ngeiriad yr amod sydd i’w osod. Eiliwyd y cynnig gan y
Cynghorydd Alan James. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 16 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD
y dylid CANIATÁU’R cais yn unol ag argymhelliad
y swyddogion, yn amodol ar gynnwys y gair ‘cyfredol’ yn yr amrywiad i amod
rhif 3 fel y’i pennir yn yr adroddiad. |
|||
CAIS RHIF 15/2017/0893- Parc Gwyliau Parc Farm, Llanarmon-yn-Iâl, yr Wyddgrug PDF 95 KB Ystyried cais i
godi wal derfyn gydag arwydd ac ardal arddangos wedi eu gosod oddi mewn ym
Mharc Gwyliau Parc Farm, Llanarmon yn Ial, Yr Wyddgrug. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi wal derfyn gydag arwydd ac ardal arddangos wedi’i fewnosod ym Mharc
Gwyliau Parc Farm, Llanarmon yn Iâl, Yr Wyddgrug. Trafodaeth Gyffredinol- Cyflwynodd
Cynghorydd Julian Thompson-Hill y cais ar ran yr aelod lleol Martyn Holland. Dywedodd fod gan y Cynghorydd Holland bryderon
fod yr arwydd a nodir yn y cais yn rhy fawr i ddatblygiad o'r fath. Dywedodd Cynghorydd Merfyn Parry nad
oedd ganddo unrhyw bryderon am y cais, fodd bynnag gofynnodd bod yr arwydd yn
ddwyieithog gyda’r Gymraeg a’r Saesneg mewn ffont o'r un maint. Holodd Cynghorydd Christine Marston
ynglŷn â lleoliad yr arwydd arfaethedig. Gofynnodd a oedd yr
arwydd yn union wrth ymyl y fynedfa’r eiddo neu ychydig o bellter oddi wrtho. Cadarnhaodd y Swyddog Datblygu y gellid cynnwys maint ffont cyfartal y ddwy iaith yn yr
arwydd fel amod i'r cais. Dywedodd swyddogion eu bod yn fodlon o safbwynt materion gweledol ac o ran y briffordd na
fyddai unrhyw oblygiadau negyddol i’r cais. Dywedwyd hefyd fod yr arwydd 150m
oddi wrth fynedfa’r safle. Cadarnhawyd, pe bai gwrthod y cais
yn cael ei ystyried, bod pryderon aelodau parthed yr effaith ar amwynder
gweledol yn sail berthnasol dros ei wrthod. Cynnig – Cynigodd y Cyng.
Gwyneth Kensler, ac fe’i heiliwyd gan y Cyng. Mark Young, y dylid cymeradwyo’r
cais gydag amod ychwanegol yn nodi bod yn rhaid i’r ysgrifen Cymraeg a’r
Saesneg fod yr un maint. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 14 GWRTHOD - 2 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD
y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhelliad y swyddogion, yn amodol ar yr gynnwys yr amod ychwanegol canlynol:
Bod y Gymraeg a’r
Saesneg o’r un maint ar yr arwydd. |
|||
CAIS RHIF 20/2017/0819- Tir Llan, gyferbyn â Bron Y Clwyd, Llanfair Dyffryn Clwyd, Rhuthun. PDF 6 KB Ystyried cais i
ddatblygu 1.24 hectar o dir drwy adeiladu ysgol gynradd newydd gan gynnwys
ardaloedd chwarae y tu allan, ardal gynefinoedd, creu mynedfa newydd i
gerbydau, maes parcio gydag ardal ollwng, gwaith tirlunio, storfa finiau,
tanciau LPG a chwistrellwyr a chysylltiadau i gerddwyr yn y Tir Llan gyferbyn â
Bron Y Clwyd, Llanfair Dyffryn Clwyd, Rhuthun.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i ddatblygu 1.24ha hectar o dir drwy adeiladu ysgol gynradd
newydd gan gynnwys ardaloedd chwarae y tu allan, ardal gynefinoedd, creu
mynedfa newydd i gerbydau, maes parcio gydag ardal ollwng, gwaith tirlunio,
storfa finiau, tanciau LPG a chwistrellwyr ar Dir y Llan gyferbyn â Bron Y
Clwyd, Llanfair Dyffryn Clwyd, Rhuthun. Trafodaeth Gyffredinol -
ymddiheurodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill ar ran yr Aelod lleol Hugh
Evans a chyflwynodd y cais i’r aelodau. Dywedodd Cynghorydd Thompson-Hill y
byddai'r Aelod Lleol wedi bod yn siarad o blaid y cynnig. Gofynnodd Cynghorydd Huw Jones pam bod LPG wedi ei gynnwys fel rhan o'r
cais. Cynigiodd Cynghorydd Gwyneth Kensler y dylid mabwysiadu’r defnydd o
ffynonellau ynni adnewyddadwy ble bynnag
bosib. Roedd yr aelodau yn cytuno fod ar yr ardal angen yr ysgol a bod angen darparu llwybr diogel i gerddwyr
gyrraedd yr ysgol. Cadarnhaodd y Swyddog Datblygu nad oes nwy prif gyflenwad yng nghyffiniau’r
safle. Mae cyfathrebiadau’n parhau gydag
adrannau a chontractwyr ynglŷn â’r cyflenwad yn yr ardal. O ran y defnydd
o ffynonellau ynni adnewyddadwy cadarnhaodd y swyddog y byddai’n bwydo hyn yn
ôl i Addysg ac adrannau dylunio er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o bryderon
yr aelodau. Cynnig – Cynigodd y
Cynghorydd Emrys Wynne, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Alan James, fod y cais
yn cael ei ganiatáu yn unol ag argymhellion y swyddog. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 16 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD
y dylid rhoi CANIATÂD yn unol ag argymhellion y
swyddog fel y’u nodwyd yn yr adroddiad. |
|||
CAIS RHIF 45/2017/1029- Tir yn Greenfield Place, y Rhyl PDF 7 KB Ystyried cais i
amrywio amod rhif 6 o ganiatâd cynllunio
rhif 45/2001/0562 i ganiatáu cyfnod o 2
awr i barcio am ddim cyn codi tâl ar Dir yn Greenfield Place, Rhyl. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i amrywio amod 6 o ganiatâd cynllunio rhif 45/2001/0562 i
ganiatáu cyfnod o 2 awr i barcio am ddim cyn codi tâl. Trafodaeth Gyffredinol –
mynegodd yr Aelod lleol Pat Jones a Pete Prendergast wrthwynebiad i’r
cynnig i godi tâl ar ddefnyddwyr. Roedd y ddau Gynghorydd yn teimlo na fyddai
arhosiad o 2 awr am ddim yn ddigon ac y dylid cyflwyno arhosiad am ddim o 3
awr. Mae trigolion lleol yn gwrthwynebu'r cais. Cynnig - Cynigiodd y Cyng. Pat Jones y dylid gwrthod y
cais, ac eiliwyd hynny gan y Cyng. Bob Murray, oherwydd y byddai’n niweidiol i
ganol tref y Rhyl ac yn torri’r cysylltiadau â’r dref. Cyfeiriodd y Swyddog Datblygu at yr
apêl sydd ar y gweill mewn perthynas â gwrthodiad cais diweddar i godi am
barcio ar y safle. Os caiff y cais hwn ei wrthod am yr un rheswm â'r cais
blaenorol gall yr ymgeisydd apelio yn erbyn y penderfyniad. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 8 GWRTHOD - 7 YMATAL - 1 PENDERFYNWYD
y dylid rhoi CANIATÂD yn unol ag argymhellion y
swyddog fel y’u nodwyd yn yr adroddiad.
|
|||
Ystyried adroddiad i geisio cael penderfyniad gan Aelodau ar yr amodau
cynllunio i’w hatodi i’r Tystysgrif Penderfyniad ar gyfer cais cynllunio rhif:
16/2017/0628, a gafodd ganiatâd cynllunio yng nghyfarfod mis Tachwedd 2017 o'r
Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad yn gofyn am benderfyniad ar amodau cynllunio i’w gosod
ar gais cynllunio rhif: 16/2017/0628. Cynnig - cynigiodd
Cynghorydd Mark Young y dylid gosod yr amodau arfaethedig ar y caniatâd
cynllunio ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Merfyn Parry. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 15 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD
y dylid rhoi’r amodau arfaethedig
ynghlwm wrth gais cynllunio 16/2017/0628 fel sydd wedi'u pennu yn yr adroddiad.
|
|||
PROTOCOL AELODAU/SWYDDOGION – CYFATHREBU AR GEISIADAU MAWR PDF 183 KB Ystyried
adroddiad i gyflwyno dogfen brotocol fewnol newydd ar gyfer trin cynigion
datblygiadau mawr o fewn y Sir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd adroddiad gerbron yn cyflwyno dogfen brotocol fewnol newydd ar
gyfer trin cynigion am ddatblygiadau mawr o fewn y Sir. Eglurodd y Swyddog Datblygu y gall ceisiadau cynllunio mawr fod yn gymhleth
ac mai nod y ddogfen brotocol newydd oedd sicrhau dull cyson o gyfathrebu y
gellid ei addasu yn ôl yr angen. Dywedodd Cynghorydd Huw Jones fod y protocol yn ei brofiad ef wedi cael ei
ddefnyddio’n llwyddiannus. Gofynnodd Cynghorydd Jones sut y byddai'r ddogfen
brotocol ar gael i aelodau a swyddogion. Mynegodd Cynghorydd Gwyneth Kensler bryderon ynghylch y modd y gwnaed
penderfyniad ar gais am ddiwygiadau
ansylweddol. Dywedodd y Swyddog Datblygu wrth yr aelodau pe penderfynwyd mabwysiadu’r
protocol y byddai dolen yn cael ei hanfon at bob aelod ac y byddai dolen
ar-lein ar gael. Byddai’r Aelodau’n cael hyfforddiant mewn sesiwn hyfforddi
aelodau ffurfiol yn y dyfodol. Cafwyd eglurhad bod meini prawf penodol wedi’u hymgorffori mewn
deddfwriaeth gynllunio ar gyfer diwygiadau ansylweddol i geisiadau cynllunio.
Byddai cyfathrebu’n digwydd gydag Aelodau Lleol am ddiwygiadau anfaterol i geisiadau
gan amlinellu’r cynnig a dod i gytundeb ar sut orau i wneud y penderfyniad. Eglurwyd fod y protocol wedi’i sefydlu i annog cyfathrebu rhwng swyddogion
ac Aelodau Lleol o'r cam cynharaf,
drwy’r cam o gyflwyno’r cais hyd ddiwedd y datblygiad. Gall yr Aelodau gyfeirio
at y protocol er mwyn gofyn cwestiynau a
chodi unrhyw bryderon gyda swyddogion. Yn dilyn pleidlais unfrydol PENDERFYNWYD
y dylid nodi cynnwys y
ddogfen brotocol ac y dylid rhoi’r ddogfen brotocol i’w defnyddio wrth ystyried
cynigion ar gyfer datblygiadau mawr ar waith ar unwaith |
|||
Ystyried adroddiad yn diweddaru aelodau ar faterion sy’n codi o safbwynt
ystyried ceisiadau cynllunio yn sgil cyhoeddi Nodyn Cyngor Technegol 20
Llywodraeth Cymru: Cynllunio a’r Iaith Gymraeg ym mis Hydref 2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd adroddiad gerbron er mwyn rhoi diweddariad i’r aelodau ar faterion
sy’n codi wrth ystyried ceisiadau cynllunio yn sgil cyhoeddiad Nodyn Cyngor
Technegol 20 Llywodraeth Cymru (TAN 20): Cynllunio a’r Iaith Gymraeg ym
mis Hydref 2017. Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog Cynllunio. Awgrymodd Swyddogion y gallai cyflwyniad TAN 20 gael effaith ar weithrediad
y polisi perthnasol yn y cynllun datblygu cyfredol gan fod ei ymdriniaeth o ran
asesu effeithiau ar yr iaith Gymraeg yn wahanol i gynnwys RD5. Eglurodd y Prif
Swyddog Cynllunio nad yw TAN 20 yn ystyried ei bod yn angenrheidiol cynnal
asesiad o effaith ar yr iaith Gymraeg wrth asesu ceisiadau o fewn ffiniau
datblygiadau ar safleoedd dynodedig gan y byddai asesiad o’r effeithiau wedi
cael ei wneud gan yr awdurdod fel rhan o broses y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)
ar ffurf asesiad cynaladwyedd. Gyda
cheisiadau sy’n dod o fewn y diffiniad o ‘safleoedd ar hap’ ac nad ydynt ar
safle dynodedig, byddai asesiad iaith Gymraeg yn ofynnol o hyd. Dywedodd Cynghorydd Emrys Wynne ei fod yn teimlo y byddai Polisi’r Cyngor
yn uwchraddol i’r polisi TAN 20 a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd yn teimlo y gellid gweld anghysondebau
yng nghynnig Llywodraeth Cymru. Dywedodd y Swyddog Datblygu wrth yr aelodau y byddai canrannau TAN 20 a DG
yn berthnasol i geisiadau nad ydynt ar safleoedd dynodedig neu o fewn ffin
ddatblygu a gyda mwy na 10 annedd. Bydd
cyfathrebu gyda datblygwyr yn dal i ddigwydd er mwyn annog cyflwyniad asesiadau
o effaith ar yr iaith Gymraeg wrth wneud ceisiadau cynllunio perthnasol. Awgrymwyd y gallai aelodau wrth adolygu’r CDLl
newydd alinio’r cynllun i weithio ochr yn ochr â TAN 20 gan gynnwys unrhyw
ddiweddariadau y bydd aelodau’n gwneud cais amdanynt. Gofynnodd Cynghorydd Emrys Wynne bod aelodau, wrth adolygu’r CDLl, yn
trafod yr angen am asesiadau o effaith ar y Gymraeg yng nghyd-destun TAN 20. Cynnig - Cynigiodd Cynghorydd Peter Evans, a chafodd ei
eilio gan y Cynghorydd Alan James, y dylid nodi cynnwys yr adroddiad a
chymeradwyodd yr ymdriniaeth o ran asesiadau o effaith ceisiadau cynllunio ar y
Gymraeg i'w cynnal yn unol â TAN 20 hyd nes y bydd rhagor o drafodaethau am, ac
adolygiadau o'r CDLl a pholisi RD5 wedi digwydd. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 15 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD
y dylid nodi cynnwys yr
adroddiad a bod TAN 20 yn cael ei weithredu gyda rhagor o drafodaethau i
ddigwydd wrth adolygu’r CDLl a Pholisi RD5.
|
|||
GWOBR GYNLLUNIO’R SEFYDLIAD CYNLLUNIO TREFOL BRENHINOL (RTPI) CYMRU 2017 PDF 178 KB Derbyn adroddiad
gwybodaeth i hysbysu'r Pwyllgor Cynllunio ynglŷn â’r newyddion bod
prosiect Ysgol Uwchradd newydd y Rhyl wedi ennill Gwobr fawreddog Cynllunio
Cymru 2017 yng nghinio blynyddol RTPI Cymru yng Nghaerdydd 17 Tachwedd 2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad er gwybodaeth yn hysbysu’r Pwyllgor Cynllunio bod
prosiect Ysgol Uwchradd newydd y Rhyl wedi ennill y Wobr Cynllunio Cymru
fawreddog yng nghinio blynyddol Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol Cymru. Rhoddodd y Cadeirydd ganmoliaeth i’r swyddogion oedd yn rhan o’r prosiect
gan eu llongyfarch ar ennill y wobr. PENDERFYNWYD
bod yr Aelodau yn nodi
cynnwys yr adroddiad. |
|||
Cododd y cynghorydd Merfyn Parry bryderon am yr apêl diweddar perthnasol i
ddatblygiad Brwcws. Dywedodd fod llawer iawn o waith wedi’i wneud
mewn perthynas â’r cynnig. Gofynnodd
Cynghorydd Parry a allai'r aelodau gwestiynu canlyniad yr apêl. Dywedodd y Swyddog datblygu ei bod yn bosibl i’r aelodau herio penderfyniad
yr arolygiaeth ond mai gallu cyfyngedig sydd i herio ar bwyntiau cyfreithiol. O
ran yr hawliadau am gostau, byddai hyn yn cael ei graffu arno cyn dod i
benderfyniad. Os na ellir dod i gytundeb, bydd yr achos yn cael ei gyfeirio at
yr Uwch Swyddog Hawliadau Costau Llys. Bydd Swyddogion Cynllunio yn dod ag
adroddiad manwl gerbron y Pwyllgor Cynllunio er trafodaeth a chraffu. Dymunodd y Cadeirydd Nadolig Llawen
a Blwyddyn Newydd Dda i'r swyddogion a'r aelodau. Daeth y cyfarfod i ben
am 12.35pm. |