Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau pdf eicon PDF 186 KB

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

Ar y pwynt hwn, gofynnodd y Cyng. Christine Marston i’r Cyng. Meirick Lloyd Davies sicrhau'r Aelodau nad oes yn rhaid iddo ddatgan cysylltiad ag eitem rhif 13 ar y rhaglen, Capel y Waen, oherwydd ei fod yn ymddiriedolwr Elusen Elizabeth Williams sy’n gweithio’n agos gyda Chapel y Waen. Cadarnhaodd y Cyng. Meirick Lloyd Davies ei fod yn ymddiriedolwr ac nad oedd gan yr ymddiriedolaeth unrhyw beth i’w wneud gyda Chapel y Waen.

 

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 498 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 13 Medi 2017 (amgaeir copi). 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 13 Medi 2017.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Medi 2017 fel cofnod cywir.

 

 

CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 13)

Cyflwynwyd ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y pwyllgor ynghyd â’r dogfennau cysylltiedig. Cyfeiriwyd hefyd at wybodaeth ategol a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen a oedd yn ymwneud â cheisiadau penodol. Er mwyn caniatáu ceisiadau gan aelodau o’r cyhoedd i siarad, cytunwyd i amrywio trefn y rhaglen fel y bo’n briodol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

CAIS RHIF 01/2016/0911 - PARC CARAFANNAU TEITHIOL LLEWENI, PARC LLEWENI, FFORDD YR WYDDGRUG, DINBYCH pdf eicon PDF 97 KB

Ystyried cais i amrywio amod rhif 3 o Ganiatâd Cynllunio Cyngor Dosbarth Glyndŵr, cyf 1/11632 i gynyddu uchafswm y carafannau o 10 i 20 ym Mharc Carafanau Teithiol Lleweni, Parc Lleweni, Ffordd yr Wyddgrug, Dinbych (copi’n amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i amrywio amod rhif 3 Caniatâd Cynllunio Cyngor Rhanbarth Glyndŵr, cyf 1/11632, i gynyddu nifer y carafannau o 10 i 20 ym Mharc Carafannau Teithiol Lleweni, Ffordd yr Wyddgrug, Dinbych.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Mr Rodney Witter (o blaid) – dywedodd ei fod yn berchennog a stiward Parc Lleweni ers 30 o flynyddoedd. Eglurodd bod y tir yn y gorffennol wedi ei adael ond bod gwaith wedi ei wneud ac yn parhau i adfer y tir, gan gynnwys teithiau cerfluniaeth ac aelodaeth grŵp cerdded. Byddai cael 10 uned ychwanegol yn sicrhau gwaith i un tirmon llawn amser. Derbyniwyd cymorth gan Gyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd yr Amgylchedd a Swyddogion Cynllunio.

 

Mae gwybodaeth ychwanegol wedi ei darparu ar y daflen las.

 

Cynnig – Cynigodd y Cyng. Mark Young, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Merfyn Parry, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO      - 17

YMATAL       - 2

GWRTHOD   - 0

 

PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion.

 

 

6.

CAIS RHIF 07/2017/0559 – TIR YN RHOS HELYG, LLANDRILLO, CORWEN pdf eicon PDF 94 KB

Ystyried cais i addasu’r ymrwymiad cynllunio gwreiddiol a oedd yn berthnasol i dri eiddo; drwy gyflawni’r cytundeb sy’n ymwneud yn benodol ag 11 Rhos Helyg, Llandrillo (copi'n amgaeedig)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i addasu’r rhwymedigaeth gynllunio wreiddiol a oedd yn berthnasol i’r tri eiddo, drwy ryddhau’r cytundeb yn ymwneud yn benodol ag 11 Rhos Helyg, Llandrillo.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Mr Alwyn Jones Parry (o blaid) – dywedodd nad oedd 11 Rhos Helyg yn dŷ fforddiadwy ac nad yw’r perchennog yn gallu gwerthu’r tŷ oherwydd rhwymedigaeth Adran 106. Nid yw’r rhan fwyaf o fenthycwyr yn darparu morgeisi ar gyfer eiddo gyda rhwymedigaeth Adran 106. Cysylltwyd â Grŵp Cynefin ynglŷn â phrynu’r tŷ ond nid oes ymateb wedi ei dderbyn hyd yma.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Mynegodd yr Aelod Lleol, y Cyng. Mabon ap Gwynfor, ei farn a chefnogodd y cais i dynnu’r rhwymedigaeth Adran 106 oddi ar yr eiddo. Roedd y rhwymedigaeth Adran 106 a osodwyd ar 11 Rhos Helyg yn un o’r rhwymedigaethau cyntaf o’u math yn Sir Ddinbych a dywedodd yr Aelod Lleol bod y rhwymedigaeth yn atal teuluoedd rhag dringo’r ysgol eiddo, yn hytrach na’u cynorthwyo. Mae natur gyfyngol y rhwymedigaeth yn ei gwneud hi’n anodd i brynwyr gael morgais. Mae’r teulu dan sylw wedi dweud y byddant yn gwneud cyfraniad i’r gymuned ar ôl gwerthu'r eiddo oherwydd bod arnynt eisiau symud i fyw i dŷ mwy ar y stad er mwyn cael mwy o le i’w teulu sy’n tyfu. Roeddynt wedi prynu’r tŷ fel tŷ fforddiadwy ac nid oeddynt yn chwilio am elw. Bydd y teulu yn cael ei gefnogi gan y Cyngor Cymuned os yw Grŵp Cynefin yn prynu’r eiddo ac fe all ddod yn eiddo rhent rhesymol yn y gymuned.

 

Awgrymodd y Cyng. Tony Thomas y dylid gohirio trafod y cais ond eglurodd y Rheolwr Datblygu bod yr ymgeisydd yn awyddus i’r mater gael ei drafod yn ystod cyfarfod y Pwyllgor oherwydd bod amser yn brin. Yn y fan hon, tynnodd y Cyng. Thomas ei awgrym yn ôl.

 

Diolchodd y Rheolwr Datblygu i’r Aelod Lleol am egluro’r sefyllfa gan ei fod yn achos cymhleth. Cyflwynodd y Swyddog Strategaeth Tai Lleol a Datblygu, a oedd yn bresennol, gan ei bod yn arbenigwr ar dai fforddiadwy.

 

Gan nad yw’r eiddo wedi ei roi ar y farchnad mae’n anodd dweud a oes gan unrhyw berson lleol y gallu neu’r diddordeb i brynu’r eiddo. Nid oes neb o Landrillo ar hyn o bryd wedi cofrestru ar y gofrestr tai fforddiadwy, ond mae’n bosibl bod yna bobl o ardaloedd eraill a gynhwysir o fewn y cytundeb Adran 106 wedi cofrestru.

 

Mae’r rhwymedigaeth Adran 106 dan sylw yn gofyn i’r perchennog hysbysebu’r eiddo mewn papur newydd lleol am 12 mis a gwerthu'r eiddo i berson lleol sydd ag angen am dŷ. Mae’n bosibl lleihau’r cyfnod marchnata cyfyngol i 20 wythnos os yw’r perchennog yn gwneud cais am hynny. Mae’r perchennog wedi cael gwybod am hyn yn ystod y trafodaethau.

 

Awgrymwyd y gellid llunio Gweithred Amrywio i fynd i'r afael â'r materion y mae’r perchennog yn teimlo sy'n atal yr eiddo rhag cael ei werthu, yn hytrach na thynnu’r rhwymedigaeth Adran 106. Byddai marchnata’r eiddo drwy’r Gofrestr Tai Fforddiadwy ac ar Rightmove/On the Market, yn hytrach na phapur newydd, yn fwy priodol gan mai’r rhyngrwyd y mae pobl erbyn hyn yn ei ddefnyddio i chwilio am eiddo.

 

Mae Grŵp Cynefin, sy’n berchen ar y ddau dŷ fforddiadwy arall ar y datblygiad, yn cynnal asesiad hyfywedd ariannol ac asesiad o’r angen am dai cyn cadarnhau a ydynt yn fodlon prynu’r eiddo.

 

Cynnig – Cynigodd y Cyng. Merfyn Parry, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Peter Evans, na ddylid tynnu’r rhwymedigaeth Adran 106.

 

PLEIDLAIS:

TYNNU RHWYMEDIGAETH ADRAN 106 - 1

YMATAL   - 5

PEIDIO Â THYNNU RHWYMEDIGAETH ADRAN 106 - 13  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CAIS RHIF 16/2017/0628 - TYN Y CELYN, LLANBEDR DYFFRYN CLWYD pdf eicon PDF 5 KB

Ystyried cais i ddymchwel annedd bresennol a thai allanol, a chodi annedd newydd yn Nhyn y Celyn, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun (copi’n amgaeedig). 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i ddymchwel annedd a thai allanol, a chodi annedd newydd yn Nhyn y Celyn, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Cynllunio bod ymateb wedi ei dderbyn gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys yn gofyn am asesiad archeolegol o werth treftadaeth yr adeilad sydd i’w ddymchwel, sy’n angenrheidiol cyn y gallant ymateb yn ffurfiol ynghylch yr effaith ac unrhyw fesur lliniaru angenrheidiol. Awgrymwyd hefyd y byddai’r ymchwiliad hwn yn darparu digon o wybodaeth i CADW asesu a ddylid ystyried rhestru’r adeilad, ac y dylid gohirio trafod yr eitem er mwyn derbyn eglurhad ynghylch y materion heb eu penderfynu ac i dderbyn asesiad CADW o ran rhestru’r adeilad.

 

Nid oedd yr Aelod Lleol, y Cyng. Merfyn Parry, o blaid gohirio’r cais.

 

Cynnig – Cynigodd y Cyng. Merfyn Parry, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Mark Young, na ddylid gohirio’r cais.

 

PLEIDLAIS:

GOHIRIO     -         10

YMATAL       -         0

PEIDIO Â GOHIRIO -        9

 

PENDERFYNWYD y dylid gohirio’r cais.

 

Ar y pwynt hwn, dywedodd y Cyng. Huw Williams ei fod yn siomedig na chafodd yr Aelod Lleol gyfle i siarad am y cais.

 

 

8.

CAIS RHIF 47/2017/0792 – CAPEL Y WAEN, STRYD Y WAEN, LLANELWY pdf eicon PDF 93 KB

Ystyried cais ar gyfer maes parcio capel ac adeiladu ffordd mynediad i Gapel y Waen, Stryd y Waen, Llanelwy (copi yn amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i greu maes parcio a mynedfa yng Nghapel y Waen, y Waen, Llanelwy.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Y Cyng. Cymuned Michael Dodd (yn erbyn) – dywedodd ei fod yn gwrthwynebu’r cais ar ran y Cyngor Cymuned. Mynegodd ei bryder ynghylch creu mynedfa ger ffordd brysur ac nad yw’r capel yn cael ei ddefnyddio’n aml. Mae’r capel mewn ardal amaethyddol agored a byddai creu maes parcio yn trefoli’r olygfa. Dywedodd hefyd bod y capel ym meddiant ymddiriedolaeth a’r tir ym meddiant perchennog ar wahân.

 

Mr Dewi Davies (o blaid) – dywedodd ei fod yn mynychu’r capel yn rheolaidd, ar gyfer gwasanaethau dydd a nos, a bod yna ddarpariaethau gofal dydd yno ar gyfer pobl hŷn, rhai ohonynt yn 90 oed a hŷn. Mae’r ffordd yn achosi problemau i gerddwyr a gyrwyr oherwydd diffyg palmant a goleuadau stryd. Mae’r ffordd gyfagos wastad wedi bod yn beryglus a byddai cael maes parcio wrth ymyl y cyfleuster cymunedol a ddefnyddir yn aml yn gwella diogelwch defnyddwyr.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cyng. Christine Marston, nad oedd yn cefnogi’r cais gan fod y maes parcio yn ymddangos yn rhy fawr i’r capel bychan. Yn ei barn hi, byddai’r cais yn ychwanegu ail fynedfa ddrwg ac yn achosi problemau diogelwch ar y ffyrdd.

 

Yn ystod y drafodaeth codwyd y materion canlynol:

·       Argymhellodd y Cyng. Merfyn Parry y dylid rhoi amod ar y tir sy’n nodi y dylai’r tir sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer y maes parcio gael ei droi’n ôl yn dir amaethyddol os rhoddir y gorau i ddefnyddio’r capel at y dibenion presennol. Cytunodd y swyddogion a’r Swyddog Arweiniol bod modd gosod amod o’r fath

·       Soniwyd am y fynedfa a chadarnhaodd yr Uwch Beiriannydd – Priffyrdd y byddai mynediad newydd yn cael ei greu sydd wedi ei asesu o ran y safonau gwelededd. Mae arolwg cyflymder wedi ei gynnal ar y briffordd ac wedi dangos ffigyrau o 39mya i un cyfeiriad a 42mya i’w cyfeiriad arall. Mae’r fynedfa bresennol wrth ymyl tro ond mae’r fynedfa arfaethedig 100 metr o'r tro. Cadarnhaodd bod y cynnig yn fwy diogel na’r sefyllfa bresennol

·       Mae maint y maes parcio yn darparu lle i 36 o geir, sy’n ddigon i atal ymwelwyr rhag parcio ar y briffordd fel sy’n digwydd rŵan

 

Cynnig – Cynigodd y Cyng. Merfyn Parry, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Bob Murray, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion ac yn amodol ar osod amod ychwanegol i droi’r maes parcio yn ôl i ddefnydd amaethyddol os rhoddir y gorau i ddefnyddio’r capel at y dibenion presennol.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Cyfreithiol y bydd pleidlais yn cael ei gynnal ar yr amod ychwanegol yn gyntaf ac yna ar y cais ei hun.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID GOSOD AMOD YCHWANEGOL - 18

YMATAL - 0

GWRTHOD GOSOD AMOD YCHWANEGOL - 0

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO’R CAIS GYDA’R AMOD YCHWANEGOL - 11

YMATAL - 1

GWRTHOD Y CAIS - 7

 

PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion, yn amodol ar yr amod ychwanegol canlynol:

Os rhoddir y gorau i ddefnyddio’r capel at y dibenion presennol bod y tir yn cael ei droi’n ôl yn dir amaethyddol.

 

 

 

Ar y pwynt hwn (11.00 a.m.) cafwyd egwyl o 20 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.20 a.m.

 

 

 

9.

CAIS RHIF 18/2017/0652 - GLAN Y WERN LODGE, FFORDD EGLWYSWEN, LLANDYRNOG, DINBYCH pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i addasu mynediad cerbyd presennol a newid wal derfyn yng Nghlan y Wern Lodge, Ffordd Eglwyswen, Llandyrnog, Dinbych (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i addasu’r fynedfa bresennol i gerbydau a chodi mur terfyn newydd yng Nglan y Wern Lodge, Ffordd Eglwyswen, Llandyrnog, Dinbych.

 

Cynnig – Cynigodd y Cyng. Merfyn Parry, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Gwyneth Kensler, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO      -         19

YMATAL       -         0       

GWRTHOD   -         0

 

PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion.

 

 

10.

CAIS RHIF 43/2017/0548 - 47 SOUTH AVENUE, PRESTATYN pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i newid defnydd yr annedd bresennol i annedd defnydd cymysg a chathdy, tynnu'r sied bresennol a chodi cathdy newydd yn 47 South Avenue, Prestatyn (copi'n amgaeedig)

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i newid defnydd annedd bresennol yn annedd defnydd cymysg a llety cathod, dymchwel sied a chodi adeilad llety cathod yn ei le yn 47 South Avenue, Prestatyn.

 

Cynnig – Cynigodd y Cyng. Tina Jones, ac fe’i heiliwyd gan y Cyng. Julian Thompson-Hill, bod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol ag argymhelliad y swyddogion.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO      -         19

YMATAL       -         0

GWRTHOD   -         0

 

PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion.

 

 

11.

CAIS RHIF 44/2017/0705 - DEANSFIELD, HYLAS LANE, RHUDDLAN, Y RHYL pdf eicon PDF 172 KB

Ystyried cais i godi estyniad ar yr ochr a’r cefn a gosod ffenestri dormer yn Deansfield, Hylas Lane, Rhuddlan (copi’n amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi estyniadau i ochr a chefn annedd a gosod ffenestri dormer yn Deansfield, Hylas Lane, Rhuddlan, y Rhyl.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Mynegodd yr Aelod Lleol, y Cyng. Ann Davies, bryderon ynghylch maint ac uchder yr estyniad i’r cefn gyda tho ar oleddf. Yn ei barn hi byddai’n cael effaith ar breifatrwydd, golygfa a golau’r eiddo cyfagos. Cwestiynodd yr Aelod Lleol pam nad oedd to gwastad wedi ei ystyried.

 

Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cyng. Arwel Roberts, ei fod yn cefnogi’r cais yn dilyn cyfarfod o’r panel archwilio safle.

 

Eglurwyd bod y ffenestri to dan sylw ar yr estyniad yng nghefn yr annedd a bod y ddwy ffenestr gyda gwydr aneglur yn darparu golau i'r gegin yn unig, ac na fyddai'n effeithio ar yr eiddo cyfagos.

 

Mae’r cais ar gyfer estyniad i’r cefn gyda tho ar oleddf ac felly dylid penderfynu ar y cais yn seiliedig ar hynny.

 

Cynnig – Cynigiodd yr Aelod Lleol, y Cyng. Ann Davies, ac fe’i heiliwyd gan y Cyng. Christine Marston, y dylid gwrthod caniatâd cynllunio oherwydd yr effaith ar breifatrwydd, golygfa a golau’r eiddo cyfagos.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO      -         11

YMATAL       -         1

GWRTHOD   -         7

 

PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion.

 

 

12.

CAIS RHIF 45/2017/0351 – PARC MANWERTHU CEI'R MARINA, FFORDD WELLINGTON, Y RHYL pdf eicon PDF 96 KB

Ystyried cais i arddangos 2 arwydd ffasgia wedi eu goleuo’n fewnol yn Uned 6 (poundworld) Parc Manwerthu Cei’r Marina, Ffordd Wellington, y Rhyl (copi’n amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ôl-weithredol ar gyfer gosod dau arwydd ffasgia wedi eu goleuo'n fewnol yn Uned 6 (Poundworld), Parc Manwerthu Cei’r Marina, Ffordd Wellington, y Rhyl.

 

Trafodaeth Gyffredinol – cafodd y ffaith bod y Gymraeg ar yr arwydd yn llawer llai na’r Saesneg ei godi gan yr Aelodau. Dywedodd y swyddogion bod y cais gwreiddiol yn cynnwys arwydd Saesneg yn unig a dywedwyd wrth y cwmni bod yn rhaid i’r arwydd fod yn ddwyieithog.

 

Gofynnodd yr Aelodau am ymchwiliad i’r polisi ac i sicrhau ei fod yn nodi’n glir bod yn rhaid i arwyddion dwyieithog fod yr un maint a ffont, fel nad oes gwahaniaethu rhwng y Gymraeg a’r Saesneg.

 

Cynnig – Cynigodd y Cyng. Merfyn Parry, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Mark Young, y dylid cymeradwyo’r cais gydag amod ychwanegol sy’n nodi bod yn rhaid i’r ysgrifen Cymraeg a’r ysgrifen Saesneg fod yr un maint.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO (gyda’r amod ychwanegol) -    19

YMATAL -                                             0

GWRTHOD -                                                  0

 

PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion, yn amodol ar yr amod ychwanegol canlynol:

Bod y Gymraeg a’r Saesneg yr un maint ar yr arwydd.

 

 

13.

CAIS RHIF 45/2017/0710 – TIR YN GREENFIELD PLACE, Y RHYL pdf eicon PDF 6 KB

I ystyried cais i gael gwared ar amod rhif 6 o ganiatâd cynllunio rhif 45/2001/0562 o ran dull rheoli maes parcio ar dir yn Greenfield Place, y Rhyl (copi’n amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer cael gwared ar amod rhif 6 caniatâd cynllunio 45/2001/0562 mewn perthynas â dull rheoli'r maes parcio ar dir yn Greenfield Place, y Rhyl.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Eglurodd yr Aelod Lleol, y Cyng. Pat Jones, bod yr amod wedi ei gynnwys yn y caniatâd cynllunio gwreiddiol er mwyn denu pobl i’r dref. Byddai dileu’r amod yn perswadio pobl i beidio ag ymweld â'r dref ac yn cael effaith negyddol ar ganol y dref. Dywedodd na fyddai’n cefnogi’r cais hwn.

 

Cadarnhawyd, os yw’r cais yn cael ei wrthod, y byddai modd i’r ymgeisydd apelio ac y byddai bosibilrwydd y bydd yn dod yn ôl i sylw’r Pwyllgor gyda pharcio am ddim am gyfnod ac yna codi tâl am barcio.

 

Cynnig - Cynigiodd y Cyng. Pat Jones y dylid gwrthod y cais, ac eiliwyd hynny gan y Cyng. Bob Murray, oherwydd y byddai’n niweidiol i ganol tref y Rhyl ac yn torri’r cysylltiad i mewn i’r dref.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO      -         4

YMATAL       -         0

GWRTHOD   -         15

 

PENDERFYNWYD GWRTHOD y cais, yn groes i argymhelliad y swyddogion.

 

 

14.

ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL DRAFFT pdf eicon PDF 287 KB

Ystyried adroddiad yn rhoi gwybod i'r aelodau am gynnwys Adroddiad Monitro Blynyddol Drafft (copi yn amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Brian Jones, Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy, yr adroddiad a chadarnhaodd y bydd y fersiwn drafft yn cael ei gyfieithu ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor.

 

Canmolodd y Cyng. Gwyneth Kensler ansawdd yr adroddiad gan y swyddogion.

 

Yn dilyn bleidlais unfrydol,

 

PENDERFYNWYD bod yr Aelodau yn nodi cynnwys Cynllun Datblygu Lleol 2006-2021: Adroddiad Monitro Blynyddol Drafft 2017 (Atodiad 1 i'r adroddiad).

 

 

15.

CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL ARDAL O HARDDWCH NATURIOL EITHRIADOL DRAFFT pdf eicon PDF 362 KB

Ystyried adroddiad yn hysbysu Aelodau am gynnwys y Canllawiau Cynllunio Atodol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Drafft (CCA) (copi yn amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Brian Jones, Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy, yr adroddiad ynglŷn â Chanllaw Cynllunio Atodol Drafft: Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy - dogfen ymgynghori. Cadarnhaodd y Cyng. Jones y bydd y ddogfen yn cael ei chyfieithu ar ôl iddi gael ei chymeradwyo gan y Pwyllgor.

 

Mae angen penderfyniad ar y mater o ymgynghori cyhoeddus ar y CCA drafft er mwyn symud ymlaen tuag at fabwysiadu’r ddogfen. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a chymeradwyaeth ddilynol yr Awdurdod Cynllunio Lleol, y gellir trin y CCA fel ystyriaeth gynllunio berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ac apeliadau.

 

Byddai’r cyfnod ymgynghori yn para 8 wythnos, gan ddechrau yn yr hydref.

 

Yn dilyn pleidlais unfrydol,

 

PENDERFYNWYD bod:

·       yr Aelodau yn cymeradwyo'r CCA drafft, Atodiad 1, i fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus sy’n para o leiaf wyth wythnos.

·       y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 2) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

 

 

 

Ar y pwynt hwn, dymunodd yr Aelodau yn dda i Graham Boase, Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, yn ei swydd newydd fel Cyfarwyddwr Corfforaethol.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.25 p.m.