Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 186 KB

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd Pat Jones – cysylltiad personol – Eitem 10 ar y Rhaglen

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys wedi codi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 454 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2017 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2017.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2017 fel cofnod cywir.

 

5.

CAIS RHIF 01/2016/1243 CA- Safle Hen Ganolfan Technoleg ac Addysg Alwedigaethol Dinbych, Lôn Ganol, Dinbych pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i ddymchwel hen adeiladau ysgol ar safle hen Ganolfan Technoleg ac Addysg Alwedigaethol Dinbych, Lôn Ganol, Dinbych (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i ddymchwel hen adeiladau ysgol ar safle hen Ganolfan Technoleg ac Addysg Alwedigaethol Dinbych, Lôn Ganol, Dinbych.

 

Cododd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies gwestiynau ynglŷn â mynediad i’r safle.

 

Mewn ymateb i'r Aelod Ward, y Cynghorydd Gwyneth Kensler, eglurodd swyddogion fod y cais yn gofyn i’r Cyngor am Ganiatâd Ardal Gadwraeth ac mae’r cais wedi cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Cynllunio. Bwriad hyn oedd caniatáu Aelodau i roi ystyriaeth i bryderon a godwyd gan CADW dros y bwriad i golli adeilad gwreiddiol yr ysgol yn 1903 os rhoddwyd caniatâd ar y telerau a geisiwyd.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler y dylid caniatáu'r cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Mark Young.  

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 15

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

6.

CAIS RHIF 02/2017/0688 PF - 15 Haulfryn, Rhuthun pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais ar gyfer creu mynedfa i gerbydau ac ardal barcio i du blaen annedd yn 15 Haulfryn, Rhuthun (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i greu mynedfa gerbydau a man parcio o flaen annedd yn 15 Haulfryn, Rhuthun.

 

Siaradodd y Cynghorydd Emrys Wynne (Aelod Lleol) o blaid y cais. Credai y byddai o fudd i’r ffordd bengaead a’r trigolion cyfagos.   Cododd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies bryderon mewn perthynas â dŵr wyneb, gan ofyn a ellid defnyddio rhywbeth amgen i darmac i helpu amsugno dŵr wyneb. Mewn ymateb i bryderon y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, dywedodd y swyddogion bod y safle eisoes yn cynnig palmant gyda systemau draenio i reoli lefelau’r dŵr. Hysbysodd y Prif Swyddog Cynllunio yr aelodau ei bod o fewn eu grym i gynnwys amod yn y cais yn nodi bod rhaid defnyddio arwyneb mân-dyllog o fewn ffin y plot er mwyn helpu amsugno dŵr dros ben.

 

Cynnig -  Cynigiodd y Cynghorydd Emrys Wynne argymhelliad y Swyddog i ganiatáu’r cais, gan gynnwys yr amod o ddarparu arwyneb mân-dyllog yn ardal y ffin, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Peter Evans.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 13

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’R cais, gan gynnwys yr amod ychwanegol, yn unol ag argymhelliad y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

7.

CAIS RHIF 15/2017/0573 PF - Tŷ Minffordd, Eryrys, yr Wyddgrug pdf eicon PDF 95 KB

Ystyried cais i godi garej ddwbl ar wahân gyda llety llawr cyntaf yn Tŷ Minffordd, Eryrys, yr Wyddgrug (copi ynghlwm).

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi garej ddwbl ar wahân gyda llety ar y llawr cyntaf yn Nhŷ Minffordd, Eryrys, Yr Wyddgrug.  

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Huw Jones y dylid caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog, gan gynnwys yr amod ychwanegol bod y garej yn cael ei godi er mwynhad deiliaid Tŷ Minffordd yn unig, ac nid fel llety byw hunangynhaliol.

TM100 CAIS RHIF 15/2017/0573 PF - TŶ MINFFORDDD, ERYRYS, YR WYDDGRUG

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO – 12

GWRTHOD – 5

YMATAL – 0

 

8.

CAIS RHIF 16/2017/0628 PF - Tyn y Celyn, Llanbedr Dyffryn Clwyd Rhuthun pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i ddymchwel annedd bresennol a thai allanol, a chodi annedd newydd yn Nhyn y Celyn, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i ddymchwel yr annedd a thai allan presennol a chodi annedd arall yn eu lle yn Nhyn y Celyn, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun.

 

Eglurodd y Rheolwr Datblygu bod asiant yr ymgeisydd wedi gofyn am i’r cais gael ei ohirio er mwyn iddo gael digon o amser i gasglu gwybodaeth mewn ymateb i sylwadau Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys am y cais.

 

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Ann Davies y dylid gohirio’r cais, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Mark Young.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID GOHIRIO - 14

YN ERBYN GOHIRIO - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais i’w drafod rhywbryd eto.

 

9.

CAIS RHIF 43/2017/0541 PF - Linden Close, Prestatyn pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i newid ac estyniadau i annedd yn 1 Linden Close, Prestatyn (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i wneud newidiadau ac estyniadau i annedd yn 1 Linden Close, Prestatyn.

 

Trafodaeth gyffredinol -  Croesawodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill (Aelod Lleol) y diwygiadau i amod 3 y cais fel y manylir arnynt yn yr wybodaeth ategol.  Mynegodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill bryderon y byddai’r balconi yn groes i gymeriad yr ardal ac y byddai'n effeithio ar breifatrwydd eiddo cyfagos. Ategodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies y pryderon a godwyd o ran y trigolion cyfagos.

 

Mewn ymateb i'r pryderon a godwyd gan yr Aelodau, eglurodd y Swyddog Cynllunio bod amod 3 yr argymhelliad yn cynnwys codi sgriniau gwydr cymylog i leihau’r posibilrwydd o edrych dros eiddo cyfagos. 

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Ellie Chard y dylid caniatáu’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Peter Evans.    

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 12

GWRTHOD - 1

YMATAL - 2

 

PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

10.

CAIS RHIF 45/2017/0335 PO – Tir gerllaw 21 Stanley Park Avenue, y Rhyl pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried  cais i ddatblygu 0.05 ha o dir drwy godi 1 annedd (cais amlinellol gan gynnwys mynediad, gosodiad a graddfa) ar dir ger 21 Stanley Park Avenue, Y Rhyl (copi wedi’i atodi).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Pat Jones gysylltiad personol (mae ei mab yn gyfaill i’r ymgeisydd).

 

Cyflwynwyd cais i ddatblygu 0.05ha hectar o dir drwy godi 1 annedd (cais amlinellol gan gynnwys mynediad, gosodiad a graddfa) ar dir ger 21 Stanley Park Avenue, Y Rhyl.

 

Siaradodd y Cynghorydd Brian Jones (Aelod Lleol) o blaid y cais, yn dilyn trafodaethau â thrigolion cyfagos oedd hefyd o blaid y datblygiad. Cytunodd y Cynghorydd Ellie Chard â barn y trigolion lleol o blaid y cais. Cafwyd crynodeb o hanes cefndirol y cais gan y Swyddog Cynllunio, a nododd bod yr ymgeisydd wedi caffael tir ychwanegol, oedd i gynnwys gardd y tu ôl i'r eiddo, Cynyddu maint safle’r cais a hygyrchedd.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Brian Jones, y dylid caniatáu’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Alan James y datblygiad arfaethedig o safbwynt cynllunio.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 15

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

11.

RHIF Y CAIS 45/2017/0575 PF – 8/9 Stryd Marchnad, y Rhyl pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i newid defnydd siop adwerthu dosbarth A1 yn wasanaethau ariannol a phroffesiynol dosbarth A2 gydag ystafelloedd atodol yng nghefn rhif. 8 Stryd Y Farchnad, y Rhyl (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i newid defnydd siop adwerthu dosbarth A1 i fod yn wasanaeth ariannol a phroffesiynol dosbarth A2 gydag ystafelloedd atodol yng nghefn rhif 8 yn 8/9 Stryd y Farchnad, y Rhyl.

 

Eglurodd y Swyddog Cynllunio fod adolygiad o ddisgrifiad y cais wedi cael ei gynnwys yn y papurau ategol i egluro mai bwriad y cynnig yw cyflwyno defnydd A1 i rif 8 Stryd y Farchnad ac i fynd i’r afael â phryderon a godwyd gan Gyngor Tref y Rhyl.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Alan James argymhelliad y Swyddog i ganiatáu'r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Pat Jones.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 15

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

12.

Y DIWEDDARAF AR APELIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 102 KB

Ystyried gwybodaeth am adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ar benderfyniadau apêl cynllunio a gafwyd gan y Arolygiaeth Gynllunio ar achosion o fewn y Sir (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gwybodaeth yn darparu amlinelliad o benderfyniadau diweddar yr Arolygiaeth Gynllunio ar apeliadau cynllunio a gyflwynwyd yn erbyn penderfyniadau ar geisiadau cynllunio gan y Cyngor Sir. Roedd yr adroddiad gwybodaeth yn trafod y cyfnod o fis Medi 2016 hyd heddiw. Anogwyd yr aelodau i gysylltu’n uniongyrchol â swyddogion perthnasol y tu allan i’r cyfarfod os oedd angen rhagor o wybodaeth arnynt am achosion penodol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gwybodaeth.   

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10:15 a.m.

Dogfennau ychwanegol: