Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau pdf eicon PDF 24 KB

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cyng. Joe Welch gysylltiad personol ag eitemau 8 a 12 ar y rhaglen.

Datganodd y Cyng. Julian Thompson-Hill gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag eitem 12 ar y rhaglen.

Datganodd y Cyng. Merfyn Parry gysylltiad personol ag eitem 12 ar y rhaglen.

 

 

3.

Penodi Cadeirydd

Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer blwyddyn  y cyngor 2017/2018.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer 2017/18. Cynigiodd y Cyng. Merfyn Parry y dylid penodi'r Cyng. Joe Welch yn Gadeirydd, ac eiliwyd hynny gan y Cyng. Peter Evans.

 

Cododd pawb eu dwylo i ddangos eu bod yn cytuno â'r cynnig.

 

PENDERFYNWYD penodi’r Cyng. Joe Welch yn Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

 

4.

Penodi Is-Gadeirydd

Penodi Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer blwyddyn  y cyngor 2017/2018.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer swydd Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer 2017/18. Cynigiodd y Cyng. Bob Murray y dylid penodi'r Cyng. Alan James yn Is-Gadeirydd, ac eiliwyd hynny gan y Cyng. Pat Jones.

 

Cododd pawb eu dwylo i ddangos eu bod yn cytuno â'r cynnig.

 

PENDERFYNWYD penodi'r Cyng. Alan James yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

 

5.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

6.

Cofnodion pdf eicon PDF 514 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2017 (copi’n amgaeedig).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2017.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2017 fel cofnod cywir.

 

 

CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 7 - 18)

Cyflwynwyd y ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad gan y pwyllgor ynghyd â'r dogfennau cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at wybodaeth ategol a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen a oedd yn ymwneud â cheisiadau penodol. Er mwyn caniatáu i aelodau o’r cyhoedd siarad, cytunwyd i amrywio trefn y rhaglen fel y bo’n briodol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

7.

CAIS RHIF 11/2016/0324/PF - TIR I’R GOGLEDD O GLOCAENOG, CLOCAENOG, RHUTHUN pdf eicon PDF 96 KB

Ystyried cais i ddatblygu 0.95 hectar o dir drwy godi ysgol gynradd gymuned newydd gan gynnwys ardaloedd chwarae y tu allan, ardal i fywyd gwyllt, maes parcio gyda man gollwng teithwyr a chreu mynediad newydd i geir, ar dir i’r gogledd o Glocaenog, Clocaenog, Rhuthun (copi’n amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghr. Joe Welch a Merfyn Parry gysylltiad personol.

Datganodd y Cyng. Julian Thompson-Hill gysylltiad personol sy’n rhagfarnu oherwydd ei fod wedi bod yn aelod o’r Bwrdd Moderneiddio Addysg.

 

Dywedodd y Cadeirydd, y Cyng. Joe Welch, bod plant yn ei ward yn mynychu Ysgol Carreg Emlyn a’i fod wedi mynychu sesiwn dynnu lluniau yn ddiweddar. Credodd y gallai hynny fod wedi rhoi’r argraff i’r cyhoedd ei fod wedi penderfynu ar y cais ymlaen llaw. Teimlodd y Cadeirydd na fyddai’n briodol iddo gymryd rhan yn y drafodaeth na’r bleidlais, ac felly gadawodd y Siambr ar gyfer yr eitem hon.

 

Bu i’r Is-Gadeirydd, y Cyng. Alan James, gadeirio’r Pwyllgor Cynllunio ar gyfer yr eitem hon.

 

Cyflwynwyd cais i ddatblygu 0.95 hectar o dir drwy godi ysgol gynradd gymunedol newydd gan gynnwys ardaloedd chwarae y tu allan, ardal i fywyd gwyllt, maes parcio gyda man gollwng a chreu mynediad newydd i geir, ar dir i’r gogledd o Glocaenog.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Dywedodd Mr Kenny Atherton (yn erbyn) nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i godi ysgol newydd ond ei fod yn pryderu ynghylch draeniau budr ac yn erbyn y cynnig i ddefnyddio carthbwll. Dywedodd y dylai dyluniad yr ysgol fod yn fodern ac economaidd wyrdd.

 

Dywedodd Mr Peter Lloyd (yn erbyn) ei fod yn cynrychioli Grŵp Preswylwyr Clocaenog nad oedd yn cefnogi’r datblygu’r safle dan sylw. Roedd y grŵp wedi mynegi pryderon ynghylch agosrwydd y datblygiad at yr eglwys. Mynegwyd pryderon ynghylch y carthbwll arfaethedig, a oedd yn cael ei ystyried yn amgylcheddol anghynaladwy.

 

Dywedodd Mr Huw Wyn Jones (o blaid) ei fod yn cynrychioli Grŵp Cefnogi Adeilad Newydd Clocaenog. Eglurodd bod bron i dair blynedd wedi mynd heibio ers uno’r ddwy ysgol ac y byddai ysgol newydd o fudd i’r disgyblion ac yn sicrhau ffyniant y gymuned. Dywedodd hefyd nad oes gan y Grŵp Cefnogi unrhyw wrthwynebiad na phryder ynghylch y carthbwll.

 

Dywedodd Mrs Sarah Jones (o blaid) ei bod yn byw yn y gymuned, yn rhiant, yn llywodraethwr ac yn athrawes yn yr ysgol. Roedd hi’n croesawu’r cais ar gyfer ysgol newydd. Mae’r ysgol bresennol ar ddau safle yn anghynaladwy. Mae’r plant yn haeddu adeilad ac adnoddau addas i’r byd sy’n newid.

 

Trafodaeth Gyffredinol - darparodd y Rheolwr Datblygu wybodaeth am hanes y safle. Eglurodd bod draenio yn fater sydd wedi achosi oedi ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru wedi cynnal trafodaethau manwl ac mae’r ddau gorff yn cytuno â’r cynnig i osod carthbwll gydag amodau.

 

O ran lleoliad yr ysgol, byddai’r prif adeilad 140 metr o’r eglwys. Nid yw CADW wedi mynegi unrhyw wrthwynebiad i'r cais.

 

Cafwyd trafodaeth bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol:

·       Oherwydd bod yn rhaid i blant 3 a 4 mlwydd oed deithio hyd at awr i’r ysgol, byddai’r ysgol newydd hon yn lleihau amser teithio

·       Byddai’r adeilad yn ysgol fodern gyda lifft, cae pêl-droed go iawn a gofod y tu allan

·       Mynegodd sawl aelod o’r pwyllgor eu bod o blaid adeiladu ysgol newydd, gan annog pob aelod i gefnogi'r cais

 

Cynnig – Cynigodd y Cyng. Ann Davies, ac fe’i heiliwyd gan y Cyng. Merfyn Parry, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

Gofynnodd y Cyng. Meirick Lloyd Davies am bleidlais wedi’i chofnodi. Cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd y byddai'n rhaid i un rhan o chwech o’r pwyllgor gefnogi’r cais. Ar gyfer y Pwyllgor Cynllunio (19 aelod) byddai’n rhaid i dri aelod gytuno. Cefnogodd y Cynghr. Mark Young, Merfyn Parry, Peter Evans, Meirick Lloyd Davies ac Ann Davies y cais am bleidlais wedi’i chofnodi.

 

Cafwyd pleidlais wedi’i chofnodi, fel a ganlyn:

 

CYMERADWYO’R CAIS  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

Ar y pwynt hwn (10.45 am) cafwyd egwyl o 5 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 10.50 a.m.

 

 

 

Ar y pwynt hwn, bu i’r Cadeirydd, y Cyng. Joe Welch, symud yn ôl i sedd y Cadeirydd a chadeirio gweddill y cyfarfod.

 

 

 

8.

CAIS RHIF 01/2017/0235/PF - CYFFORDD FFORDD Y FFAIR, LÔN LLEWELYN, DINBYCH pdf eicon PDF 95 KB

Ystyried cais i osod colofn telathrebu gydag antena wedi’i guddio, 1 lloeren â chysylltiad radio 0.6, 2 gabinet offer ar y llawr a datblygiad cysylltiedig yng nghyffordd Ffordd y Ffair, Lôn Llewelyn, Dinbych (copi’n amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i osod colofn telathrebu gydag antenau wedi’u cuddio, 1 lloeren â chysylltiad radio 0.6, 2 gabinet offer ar y llawr a datblygiad cysylltiedig yng nghyffordd Ffordd y Ffair, Lôn Llewelyn, Dinbych.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Dywedodd Jennie Hann (o blaid) bod cysylltiadau â’r rhyngrwyd yn wael ar draws y sir ac y byddai'r cynllun o fudd i gwsmeriaid Vodafone a Telefonica. Nid oes gan CADW unrhyw wrthwynebiad i’r golofn ac mae’r dyluniad yn cyd-fynd ag adeileddau trefol eraill.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Gofynnodd yr Aelod Lleol, y Cyng. Glenn Swingler, sawl cwestiwn technegol a atebwyd gan y Prif Swyddog Cynllunio. Awgrymwyd y byddai’n well cyfeirio’r cwestiynau at y gweithredwr, a chafodd eu cwestiynau eu cyflwyno i’r cynrychiolydd a oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth:

·       Mae’r ymgeisydd wedi darparu datganiad cydymffurfiaeth gyda chanllawiau Comisiwn Cenedlaethol Ymbelydredd Di-Ïoneiddio (ICNIRP) mewn perthynas â gosod yr offer telathrebu arfaethedig. Yn ôl cyngor Iechyd y Cyhoedd Lloegr dylai amlygiad i donnau radio gydymffurfio â chanllawiau’r ICNIRP.

·       Nid yw lleoli’r offer telathrebu mewn man arall wedi’i godi mewn unrhyw gynrychiolaeth flaenorol

 

{0>Proposal – Councillor Meirick Lloyd Davies proposed, seconded by Councillor Huw Jones that the application be granted in accordance with officer recommendation, subject to an amendment to the development commencing no later than 14th June 2019 and not 2022.<}70{>Cynnig – Cynigodd y Cyng. Meirick Davies, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Huw Jones, y dylid cymeradwyo’r cais

yn unol ag argymhellion y swyddog. <0}

 

Eglurodd Pennaeth y Gyfraith, Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau Democrataidd y byddai’r bleidlais yn seiliedig ar ddiwygiad arfaethedig y Cyng. Meirick Lloyd Davies. Os na dderbynnir y cynnig bydd pleidlais arall yn cael ei chynnal ar yr argymhelliad gwreiddiol.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 13

YMATAL - 0

GWRTHOD - 2

 

PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion ac yn amodol ar y diwygiad canlynol:

Bydd y datblygiad y mae'r caniatâd hwn yn ymwneud ag ef yn dechrau cyn 14 Mehefin 2019.

 

 

9.

CAIS RHIF 05/2017/0239/PF - TIR GERLLAW (I’R DWYRAIN) O YSTÂD DDIWYDIANNOL TYN Y LLIDIART pdf eicon PDF 97 KB

I ystyried cais i godi ffatri cynhyrchu bwyd (Dosbarth B2) gyda warws a dosbarthu’n integredig (Dosbarth B8) a chyfleusterau swyddfa (Dosbarth B1); uned lles ategol i weithwyr (Dosbarth D2); mynediad i gerbydau a cherddwyr, maes parcio, mannau i barcio beiciau, gwasanaethu, storio biniau, offer, is-orsaf drydan, gwaith trin pecynnau preifat, tirlunio a gwaith cysylltiedig, ar dir gerllaw (i’r dwyrain) o Ystâd Ddiwydiannol Tyn y Llidiart (copi’n amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi ffatri cynhyrchu bwyd (Dosbarth B2) gyda warws a dosbarthu’n integredig (Dosbarth B8) a chyfleusterau swyddfa (Dosbarth B1); uned lles ategol i weithwyr (Dosbarth D2); mynediad i gerbydau a cherddwyr, maes parcio, mannau i barcio beiciau, gwasanaethu, storio biniau, offer, is-orsaf drydan, gwaith trin pecynnau preifat, tirlunio a gwaith cysylltiedig, ar dir gerllaw (i’r dwyrain) o Ystâd Ddiwydiannol Tyn y Llidiart, Corwen.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Rhoddodd Justin Paul (asiant) (o blaid) hanes y cwmni ers 1986. Mae’r cwmni yn anelu at drosiant o £40 miliwn erbyn 2019. Mae’r safle presennol yn gyfyngedig. Nod y cwmni yw agor ffatri newydd yn 2018. Mae’r cwmni yn canolbwyntio ar eu staff yn ogystal â’u cynnyrch. Maent yn bwriadu buddsoddi mewn cyfleusterau lles, hyfforddiant a datblygu staff. Byddai staff a’u teuluoedd yn cael mynediad i’r cyfleusterau iechyd a lles yn ogystal â chyrsiau dysgu Cymraeg.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Siaradodd y Cyng. Huw Jones (Aelod Lleol) o blaid y cais ond gofynnodd am eglurhad gan swyddogion ynghylch y canlynol:

·       Mae llwybr yn cael ei ddefnyddio gan blant sy’n cerdded i Ysgol Caer Drewyn a chadarnhawyd bod cynnig i greu llwybr arall.

·       Mae safle bws oddeutu 400 metr o’r safle arfaethedig.

·       Cadarnhaodd y Swyddog Cynllunio y byddai’n canfod a yw’r cynnig o ran y Gymraeg yn berthnasol i’r cynllun newydd a’r cynllun presennol.

·       Mae Asesiad Effaith Sŵn wedi’i gyflwyno i gefnogi’r cais er mwyn asesu'r tebygolrwydd o effeithiau anffafriol. Ymgynghorwyd â Swyddog Rheoli Llygredd y Cyngor o ran y dogfennau technegol perthnasol ac ni chododd unrhyw wrthwynebiad i’r cais, ar yr amod y cynhwysir amodau cynllunio i sicrhau cydymffurfio â’r asesiad sŵn. Os oes gan drigolion cyfagos unrhyw broblem o ran sŵn fe ddylent gysylltu â’r Cyngor Tref neu Gymuned.

·       Bydd yr Aelod Lleol a’r Adran Gynllunio yn cyfarfod â Wholebake mewn perthynas â’r materion archeolegol.

 

Cynnig – Cynigodd y Cyng. Huw Jones, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Meirick Lloyd Davies, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 15

YMATAL - 0

GWRTHOD - 0

 

PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion.

 

 

10.

CAIS RHIF 20/2016/1137/PF - TIR I’R GORLLEWIN O FFORDD WRECSAM, LLANFAIR DYFFRYN CLWYD, RHUTHUN pdf eicon PDF 94 KB

Ystyried cais i godi 63 annedd a mynediad newydd i gerbydau a gwaith cysylltiedig ar dir i’r gorllewin o Ffordd Wrecsam, Llanfair Dyffryn Clwyd, Rhuthun (copi’n amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi 63 annedd a mynediad newydd i gerbydau a gwaith cysylltiedig ar dir i’r gorllewin o Ffordd Wrecsam, Llanfair Dyffryn Clwyd, Rhuthun.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Mynegodd Alan Edwards (yn erbyn) bryderon ynghylch elfennau o’r cais, gan gynnwys y llwybr troed a chroesi’r A525. Roedd yn pryderu ynghylch lleoliad y tanc storio LPG a'r effaith ar y coed a blannwyd fel cofeb ryfel.

 

Tynnodd Matt Gilbert (o blaid) sylw at y ffaith bod y safle yn safle a neilltuwyd. Mae ar y safle angen mynediad a byddai’r coed yn cael eu hail-blannu o flaen yr eiddo. Mae’r cynllun wedi’i ddiwygio ac yn darparu mynediad i gerddwyr. Mae’r mynediad ar hyd yr A525 wedi’i ddarparu yn unol â chyngor y swyddogion priffyrdd. Byddai manylion y tanc LPG yn unol â’r rheoliadau.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Eglurodd y Prif Swyddog Cynllunio fanylion y datblygiad cymysg a fyddai’n cynnwys chwe thŷ fforddiadwy.

 

Cadarnhaodd y Cyng. Hugh Evans (Aelod Lleol) bod y cais wedi achosi llawer o bryder i drigolion lleol. Cododd nifer o faterion a ymatebwyd iddynt yn ystod y drafodaeth.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth:

·       Ymwelwyd â'r safle'n ddiweddar a lleddfwyd rhai o’r pryderon. Dywedwyd y gallai'r manylion a gyflwynwyd ar gyfer cymeradwyaeth o ran amodau’r datblygiad gael eu cyflwyno yn ôl i'r pwyllgor cynllunio.

·       Mae datganiad cludiant wedi’i gynnwys gyda'r cais. Bydd y parth 30mya yn cael ei estyn. Mae’r manylion priffordd o ran yr A525 yn cyrraedd y safonau sefydledig.

·       Y cynnig yw codi 63 o anheddau ar 2.6 hectar, sef dwysedd o 24.2 annedd ar bob hectar yn seiliedig ar arwynebedd safle gros. Mae hyn yn is na’r ffigwr o 35 annedd a ganiateir ym Mholisi RD1. O ystyried cyd-destun yr ardal gyfagos, yr ardaloedd helaeth o fannau agored a gynigir, a natur a dwysedd y datblygiad tai presennol ar gyrion y pentref, ystyrir bod dwysedd y datblygiad arfaethedig hwn yn cyd-fynd â chymeriad y tai presennol yn yr ardal.

·       Byddai datblygu fesul cam yn cael ei reoli a byddai’r cais am gymeradwyaeth ar gyfer y Cynllun Adeiladu Fesul Cam/Strategaeth yn cael ei gyflwyno eto i’r Pwyllgor Cynllunio.

·       Hygyrchedd ac integreiddio – mae’r datblygwyr wedi dangos cyswllt posibl â’r datblygiad cyfagos yn y pentref ar eu cynllun. Byddai datblygu’r cyswllt hwn ymhellach yn gofyn am ganiatâd cynllunio. Byddai hyn hefyd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol.

·       Archeoleg – mae’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol wedi’i wirio ac ni cheir safleoedd archeolegol hysbys yn yr ardal dan sylw, ond mae arteffactau Rhufeinig wedi’u canfod y tu hwnt i’r safle. Nid oes unrhyw wrthwynebiad technegol wedi’i dderbyn.

·       Soniodd y Cyng. Merfyn Parry am agosrwydd y gwaith trin carthion at y datblygiad a bod yna broblemau gorlifiant ar y safle. Gofynnodd am fwy o waith rhwng Sir Ddinbych a Dŵr Cymru.

·       Coed wedi’u diogelu – nid yw’r Arbenigwr Coed wedi gwrthwynebu’r cais, yn amodol ar gynnwys amodau yn gofyn am Ddatganiad Dull Coedyddiaeth a manylion yr ail-blannu a'r tirlunio ysgafn.

·       Roedd y coed ar Ffordd Wrecsam yn agos at gael eu dynodi’n Cofeb Ryfel. Nid yw cofeb ryfel yn ddynodiad cynllunio ac mae colli ac amnewid y coed wedi'i drafod eisoes.

·       Mae’r datblygiad preswyl arfaethedig, yn seiliedig ar gyfrifiadau cydnabyddedig, yn debygol o arwain at yr angen am 15 lle cynradd ac 11 lle uwchradd ychwanegol. Cadarnhawyd, yn seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf am gofrestr yr ysgol, bod yna 20 lle cynradd a 268 lle uwchradd gwag yn yr ysgolion cynradd ac uwchradd agosaf. Mae hyn yn golygu bod digon o le ar gyfer plant y datblygiad arfaethedig ac felly ni fyddai angen cyfraniad ariannol.  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

Ar y pwynt hwn (12.30 p.m.) cafwyd egwyl o 20 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 12.50 p.m.

 

 

 

11.

CAIS RHIF 21/2017/0045/PF - 4 BRYN ARTRO AVENUE, LLANFERRES pdf eicon PDF 93 KB

Ystyried cais i godi annedd newydd yn lle’r un presennol, yn 4 Bryn Artro Avenue, Llanferres (copi’n amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi annedd newydd yn lle’r un presennol, yn 4 Bryn Artro Avenue, Llanferres.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Dywedodd Roy Astbury (yn erbyn) ei fod yn byw yn 2 Bryn Artro Avenue, Llanferres. Byddai’r annedd newydd yn 400mm oddi wrth ffin ei eiddo ac yn fawr iawn. Roedd wedi gofyn am gynyddu’r pellter i 1 metr.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Siaradodd y Cyng. Julian Thompson-Hill ar ran y Cyng. Martyn Holland (Aelod Lleol) a oedd ar ei wyliau.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Cynllunio, oherwydd lled y safle, pe byddai bwlch o 1 metr yn cael ei ddarparu rhwng Rhif 2 yna y byddai hynny wedyn yn effeithio ar y bwlch rhwng yr eiddo newydd a Rhif 6. Gofynnodd y Cyng. Julian Thompson-Hill a fyddai modd dod i gyfaddawd a darparu bwlch o 800mm rhwng yr eiddo newydd a’r eiddo cyfagos.

 

O ran y cyfaddawd, cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu y gellir dilyn gweithdrefn i ganfod datrysiad ac y gellir sôn am hyn wrth yr ymgeisydd.

 

Cynnig - Cynigodd y Cyng. Merfyn Parry, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Julian Thompson Hill, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog, yn amodol ar edrych ar y dewis o godi’r eiddo newydd 800mm o’r ddau dŷ cyfagos.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 14

YMATAL - 0

GWRTHOD - 1

 

PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog, yn amodol ar edrych ar y dewis o godi’r eiddo newydd 800mm o’r ddau dŷ cyfagos.

 

 

12.

CAIS RHIF 46/2017/0270/PF - TIR YN (RHAN O ARDD) PERTH Y TERFYN, MOUNT ROAD, LLANELWY pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i godi 1 annedd ar wahân ac adeiladu mynediad newydd i gerbydau ar Dir yn (rhan o ardd) Perth y Terfyn, Mount Road, Llanelwy (copi'n amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi 1 annedd ar wahân a chreu mynediad newydd i gerbydau ar dir yn (rhan o ardd) Perth y Terfyn, Mount Road, Llanelwy.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Dywedodd Maria Jones (yn erbyn) ei bod yn gwrthwynebu lleoliad yr eiddo ar y safle. Mae agosrwydd yr eiddo yn golygu y byddai’r datblygiad yn edrych i mewn i'w gardd ac yn edrych yn fawr iawn. Byddai’n well petai’r eiddo yn cael ei godi yng nghanol y safle.

 

Mae’r swyddogion o’r farn nad yw’r cynnig yn cael effaith annerbyniol ar amwynder preswylwyr presennol na darpar breswylwyr ac nad yw’n mynd yn erbyn unrhyw bolisi cynllunio mewn perthynas ag amwynder.

 

Cynnig – Cynigodd y Cyng. Merfyn Parry, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Christine Marston, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 14

YMATAL - 0

GWRTHOD - 1

 

PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion.

 

 

13.

CAIS RHIF 01/2016/0911/PS - PARC CARAFANNAU TEITHIOL LLEWENI, PARC LLEWENI, FFORDD YR WYDDGRUG, DINBYCH pdf eicon PDF 96 KB

Ystyried cais i Amrywio amod rhif 3 o Ganiatâd Cynllunio Cyngor Rhanbarth Glyndŵr, cyf. 1/11632 i gynyddu uchafswm y carafannau o 10 i 20 ym Mharc Carafanau Teithiol Lleweni, Parc Lleweni, Ffordd yr Wyddgrug, Dinbych (copi’n amgaeedig).

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i amrywio amod rhif 3 Caniatâd Cynllunio Cyngor Rhanbarth Glyndŵr, cyf 1/11632, i gynyddu nifer y carafannau o 10 i 20 ym Mharc Carafannau Teithiol Lleweni, Ffordd yr Wyddgrug, Dinbych.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cyng. Mark (Aelod Lleol), ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Bob Murray, y dylid gohirio ystyried y cais er mwyn caniatáu trafodaeth bellach i ddatrys materion iechyd a diogelwch.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID GOHIRIO - 15

YMATAL - 0

YN ERBYN GOHIRIO - 0

 

PENDERFYNWYD GOHIRIO ystyried y cais.

 

 

14.

CAIS RHIF 01/2017/0171/PF - FORGE COTTAGE, 9 BROOKHOUSE COTTAGES, BROOKHOUSE ROAD, DINBYCH pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i godi estyniad ac addasiadau i annedd yn Forge Cottage, 9 Brookhouse Cottages, Brookhouse Road, Dinbych (copi’n amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cyng. Joe Welch gysylltiad personol.

 

Cyflwynwyd cais i estyn ac addasu Forge Cottage, 9 Brookhouse Cottages, Brookhouse Road, Dinbych.

 

Cynnig – Cynigodd y Cyng. Meirick Lloyd Davies, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Merfyn Parry, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 15

YMATAL - 0

GWRTHOD - 0

 

PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion.

 

 

15.

CAIS RHIF 05/2017/0266/PC – SAFLE GWERSYLL YR ORSAF, CARROG, CORWEN pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais am estyniad i safle gwersylla presennol i ddarparu lleiniau ar gyfer dau bod gwersylla a naw llain ar gyfer carafanau teithiol/pebyll a gwaith cysylltiedig (cais ôl-weithredol), yn Safle Gwersyll yr Orsaf, Carrog, Corwen (copi'n amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais am estyniad i safle gwersylla presennol i ddarparu lleiniau ar gyfer dau bod gwersylla a naw llain ar gyfer carafanau teithiol/pebyll a gwaith cysylltiedig (cais ôl-syllol), yng Ngwersyll yr Orsaf, Carrog, Corwen.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Siaradodd y Cyng. Huw Jones (Aelod Lleol) o blaid y cais ond gofynnodd am amodau i wahaniaethu rhwng pebyll, yurts a charafannau ac ati.

 

Gofynnwyd hefyd am eglurhad ynghylch y mesurau sydd yn eu lle i sicrhau y defnyddir y safle ar gyfer carafannau teithiol ac nad yw’r safle yn cael ei ddefnyddio ar gyfer aros am fwy na 21 diwrnod. Cytunwyd bod yn rhaid i’r gweithredwr gadw cofrestr i nodi pryd mae ymwelwyr yn cyrraedd ac yn gadael.

 

Cynnig – Cynigodd y Cyng. Huw Jones, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Emrys Wynne, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac yn amodol ar amodau ychwanegol yn ymwneud â’r mathau o bodiau ac i gadw cofrestr o amseroedd cyrraedd a gadael.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 14

YMATAL - 0

GWRTHOD - 0

 

PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac yn amodol ar amodau ychwanegol yn ymwneud â’r mathau o bodiau ac i gadw cofrestr o amseroedd cyrraedd a gadael.

 

 

16.

CAIS RHIF 20/2016/1242/PO – TIR GERLLAW PARADWYS, GRAIGFECHAN, RHUTHUN pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i ddatblygu tir ar gyfer dibenion preswyl, yn cynnwys mynediad (Cais Amlinellol, ar gyfer materion eraill a gadwyd yn ôl), ar dir gerllaw Paradwys, Graigfechan, Rhuthun (copi’n amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i ddatblygu tir at ddibenion preswyl, yn cynnwys mynediad (cais amlinellol ar gyfer materion eraill a gadwyd yn ôl), ar dir gerllaw Paradwys, Graigfechan, Rhuthun.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Mynegodd y Cyng. Hugh Evans (Aelod Lleol) bryder ynghylch yr effaith ar Graigfechan.

 

Yn ystod y drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol:

·       Roedd pryderon wedi’u codi ynghylch yr effaith ar ffynnon ar y safle ac effaith y datblygiad ar y cyflenwad i anheddau yn y gogledd. Ym marn y swyddogion roedd hwn yn fater sifil a chyfrifoldeb y datblygwyr yw sicrhau y cedwir yr hawliau.

·       Bydd y trefniadau draenio yn dilyn canllawiau Sir Ddinbych a chenedlaethol a bydd manylion gwaith trin carthffosiaeth a dŵr wyneb yn cael eu nodi yn y cais manwl.

·       Dewis yr ymgeisydd yw cyflwyno rhan o’r safle a neilltuwyd ar gyfer datblygu. Gellir cynnwys amodau a/neu nodiadau canllaw i sicrhau y cytunir ar drefniadau tai fforddiadwy a mannau agored ar gyfer y safle cyfan.

·       Mae mesurau gostegu traffig wedi’u rhoi ar waith yn y pentref i fynd i’r afael â’r materion traffig.

 

Cynnig – Cynigodd y Cyng. Merfyn Parry, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Meirick Lloyd Davies, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 14

YMATAL - 0

GWRTHOD - 0

 

PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion.

 

 

17.

CAIS RHIF 23/2017/0256/PS – TIR GERLLAW LLYS GWILYM, LLANRHAEADR, DINBYCH pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i amrywio amodau 2 a 3 caniatâd cynllunio amlinellol cod rhif  23/2014/0375 er mwyn caniatáu 2 flynedd arall ar gyfer cyflwyno cais am gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl, ar dir gerllaw Llys Gwilym, Llanrhaeadr, Dinbych (copi’n amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i amrywio amodau 2 a 3 caniatâd cynllunio amlinellol rhif 23/2014/0375 er mwyn caniatáu 2 flynedd arall ar gyfer cyflwyno cais i gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl, ar dir gerllaw Llys Gwilym, Llanrhaeadr, Dinbych.

 

Cynnig – Cynigodd y Cyng. Meirick Lloyd Davies, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Merfyn Parry, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 14

YMATAL - 0

GWRTHOD - 0

 

PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion.

 

 

18.

CAIS RHIF 24/2017/0069/PF – BOD YNYS, RHEWL, RHUTHUN pdf eicon PDF 5 KB

Ystyried cais i adeiladu mynediad newydd i ffarm ym Mod Ynys, Rhewl, Rhuthun (copi’n amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i greu mynediad newydd i fferm ym Mod Ynys, Rhewl, Rhuthun.

 

Cynnig – Cynigodd y Cyng. Bob Murray, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Peter Evans, y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 13

YMATAL - 1

GWRTHOD - 0

 

PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion.

 

 

19.

CADARNHAD - GORCHYMYN CADW COED CYNGOR SIR DDINBYCH RHIF 01/2017 YN YMWNEUD Â THIR GERLLAW GLASFRYN, GELLIFOR pdf eicon PDF 314 KB

Ystyried adroddiad yn cadarnhau Gorchymyn Cadw Coed Cyngor Sir Ddinbych rhif 01/2017 yn ymwneud â thir gerllaw Glasfryn, Gellifor (copi’n amgaeedig).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Gorchymyn Cadw Coed Rhif 01/2017 yn ymwneud â thir gerllaw Glasfryn, Gellifor.

 

Gofynnodd y Prif Swyddog Cynllunio i’r pwyllgor ohirio ystyried yr eitem er mwyn dilyn y weithdrefn briodol o ran cysylltu â’r perchnogion. Bydd y goeden wedi’i diogelu dan y gorchymyn presennol tan fis Medi 2017, ond bydd yr adroddiad ar gadarnhau’r gorchymyn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio cyn hynny.

 

Cynnig – Cynigodd y Cyng. Meirick Davies, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Julian Thompson-Hill, y dylid gohirio ystyried yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD GOHIRIO ystyried y Gorchymyn Diogelu Coed.