Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Neuadd y Dref, Dinbych

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Nodyn: Oherwydd gwaith angenrheidiol ar y system gweddarlledu ni ddarlledir y cyfarfod hwn. 

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNT O WYBODAETH

Eglurodd y Cadeirydd nad oedd modd cynnal y cyfarfod yn Siambr y Cyngor, Rhuthun fel arfer gan fod gwaith yn cael ei wneud a oedd hefyd yn golygu na allai'r cyfarfod gael ei we-ddarlledu ac na ellid defnyddio'r offer pleidleisio electronig.  Byddai’r cofnodion yn darparu cofnod ffurfiol o’r cyfarfod a byddai’r bleidlais yn cael ei chynnal drwy godi dwylo.

 

 

 

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 19 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Peter Evans, Hugh Irving a Bill Tasker

Byddai’r Cynghorwyr Rhys Hughes a Dewi Owens yn cyrraedd y cyfarfod yn hwyr.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 88 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Joe Welch – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 5 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Arwel Roberts – Cysylltiad Personol – Eitemau 5 ac 11 ar y Rhaglen.

Y Cynghorydd Ann Davies – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 11 ar y Rhaglen

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 153 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2017 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2017.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Chwefror, 2017 fel cofnod cywir.

 

 

CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 11)

Cyflwynwyd ceisiadau lle’r oedd angen penderfyniad y pwyllgor ynghyd â'r dogfennau cysylltiedig.  Cyfeiriwyd hefyd at wybodaeth ategol a dderbyniwyd yn hwyr ers cyhoeddi'r rhaglen a oedd yn ymwneud â cheisiadau penodol.  Er mwyn caniatáu ceisiadau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau cytunwyd y dylid amrywio trefn rhaglen y ceisiadau fel y bo’n briodol.

 

 

5.

CAIS RHIF 01/2016/0374/PF - TIR YNG NGHAE TOPYN ODDI AR HEN FFORDD RHUTHUN, FFORDD EGLWYSWEN, DINBYCH pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i godi 75 o dai, ynghyd â ffyrdd cysylltiedig, mannau agored a gwaith cysylltiedig ar dir yng Nghae Topyn, oddi ar Hen Ffordd Rhuthun, Ffordd Eglwyswen, Dinbych (copi ynghlwm)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Welch gysylltiad personol gan fod Perchennog y cae y mae’r cais yn ymwneud ag o yn ffrind iddo.  Datganodd y Cynghorydd Arwel Roberts gysylltiad personol yn yr eitem hon gan ei fod yn ymwneud â Chapel yr oedd yn pregethu’n aml ynddo.

 

Roedd cais wedi ei gyflwyno i godi 75 o dai, ynghyd â ffyrdd cysylltiedig, mannau agored a gwaith cysylltiedig ar dir yng Nghae Topyn, oddi ar Hen Ffordd Rhuthun, Ffordd Eglwyswen, Dinbych.

 

Siaradwyr Cyhoeddus-

 

Dr. H. Watkin (Yn erbyn) – cyfeiriodd at ddogfennau roedd wedi eu hanfon at aelodau ar y diwrnod blaenorol ynglŷn â’i wrthwynebiad i’r datblygiad ac amlygodd feysydd pryder penodol yn ymwneud â mynediad i gerddwyr, mannau agored, priffyrdd a pharcio, llifogydd, ac effeithiau ar y Gymraeg a bioamrywiaeth.

 

Mr. M. Gilbert (O blaid) – pwysleisiodd fod y safle wedi ei ddyrannu ar gyfer datblygiad preswyl yn y CDLl ac felly roedd yn dadlau bod gwrthwynebiadau i’r lleoliad a’r pellter at gyfleusterau yn bwyntiau amherthnasol.  Adroddodd ar y gofynion a gyflwynwyd drwy’r gweithdrefnau ymgeisio ac ymatebodd i faterion a godwyd ynghylch y traffig a gynhyrchwyd a pharcio, llifogydd, bioamrywiaeth ac addysg.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu eitem yn nodi fod y safle'n rhan o ddyraniad tir mwy ar gyfer tai yn y CDLl.  Tynnodd sylw at y diffyg mawr yn nifer y tai a gwblhawyd dros gyfnod y CDLl, gan nodi y byddai’r datblygiad yn darparu 75 o dai ac ystod o anheddau (gydag ychydig mwy na’r isafswm o 10% o dai fforddiadwy), gofod agored a thaliad swm gohiriedig o £31,993. Er mwyn arwain datblygwyr posibl, roedd Briff Datblygu Safle (BDS) wedi cael ei fabwysiadu, ac er nad oedd yn bolisi, roedd y BDS hwn yn cynnig arweiniad ac roedd yn ystyriaeth gynllunio o bwys yn yr achos hwn.  Roedd y prif ystyriaethau cynllunio wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad ac roedd y BDS wedi cael ei ystyried hefyd mewn perthynas â chynigion fel rhan o’r broses honno.  Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi eu codi gan arbenigwyr a ymgynghorwyd a nhw a darparwyd dogfennau priodol mewn perthynas â’r asesiadau a’r strategaethau perthnasol oedd eu hangen.  Yn olaf, atgoffwyd aelodau fod yr ystyriaethau cynllunio o bwys yn ymwneud ag effaith y cynnig yn hytrach nag egwyddor y datblygiad.

 

Tynnodd y Cynghorydd Mark Young (Aelod Lleol) sylw at y swm sylweddol o waith a wnaed i ddatblygu’r BDS ar gyfer Safleoedd Brookhouse a oedd yn sail ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio ar y safle, ac roedd yn credu fod sawl agwedd i’r datblygiad arfaethedig nad oedd yn cydymffurfio â'r gofynion hynny.  Rhannwyd y farn hon gan ei gyd-Gynghorwyr o Ddinbych, Colin Hughes a Gwyneth Kensler a roddodd ychydig o hanes y safle o fewn cyd-destun presennol y cais cynllunio a dyraniad y safleoedd gan yr Arolygiaeth Gynllunio.  Roedd trigolion Dinbych wedi gwrthwynebu’r dyraniad safle yn y CDLl ac nid oedd y cynigion datblygu presennol yn cynrychioli eu lles gorau.  Siaradodd y Cynghorydd David Smith hefyd o blaid y defnydd penodol o BDS wrth ystyried ceisiadau cynllunio ac roedd yn siomedig nad oedd mwy o bwyslais wedi’i roi ar y BDS ar yr achlysur hwn.  Y consensws cyffredinol oedd, o ystyried fod y BDS wedi cael ei deilwra'n benodol ar gyfer Safleoedd Brookhouse, ac er gwaethaf sicrwydd y byddem yn cydymffurfio’n bendant â’r BDS, nid oedd wedi digwydd yn yr achos hwn.  Codwyd cwestiynau hefyd ar y pwynt hwn ynghylch yr asesiad cludiant a mesurau i fynd i’r afael â phryderon ynghylch llifogydd ynghyd â phroblemau draenio.  Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch cadernid y gofynion cyfreithiol a gynigiwyd o ystyried bod  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CAIS RHIF 01/2016/1241/PF - SAFLE HEN GANOLFAN DECHNOLEG AC ADDYSG ALWEDIGAETHOL DINBYCH, LÔN GANOL, DINBYCH pdf eicon PDF 38 KB

Ystyried cais i ddymchwel yr adeiladau presennol ac ailddatblygu’r tir trwy adeiladu 70 o randai gofal ychwanegol, uned fyw gymunedol, adeiladu mynedfeydd newydd i gerbydau a cherddwyr, newid mynedfa bresennol i gerbydau a gwaith tirlunio adeiladol ac addurnol yn Safle Hen Ganolfan Technoleg ac Addysg Alwedigaethol, Lôn Ganol, Dinbych (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i ddymchwel yr adeiladau presennol ac ailddatblygu’r tir trwy adeiladu 70 o fflatiau gofal ychwanegol, uned byw cymunedol, adeiladu mynedfeydd newydd i gerbydau a cherddwyr, newid mynedfa bresennol i gerbydau a gwaith tirlunio caled a meddal yn Safle Hen Ganolfan Dechnoleg ac Addysg Alwedigaethol, Lôn Ganol, Dinbych.

 

Siaradwr Cyhoeddus-

 

Mr R. Dafis (Ymgeisydd/ Grŵp Cynefin) (O blaid) – amlygwyd fod gwaith agos rhwng Grŵp Cynefin a’r Cyngor i ddatblygu’r cynnig i ddarparu tai sydd eu hangen yn fawr er budd pobl hŷn yn yr ardal mewn lleoliad amlwg yn agos at y dref.  Hefyd adroddodd ar y gwaith i liniaru llif traffig gyda Chynllun Traffig manwl yn ei lei ar gyfer y cyfnod adeiladu.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Cefnogodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler (Aelod Lleol) y cais a fyddai’n cynnig cyfleuster pwrpasol oedd ei ddirfawr angen i drigolion lleol drwy drawsnewid safle oedd wedi bod yn segur ers cyfnod hir.  Cydnabu bryderon ynghylch materion priffyrdd y byddai hi’n trafod ymhellach gyda’r Swyddog Priffyrdd ond anogodd aelodau i ganiatáu’r cais.  Croesawodd y Cynghorydd Barry Mellor y datblygiad a rhoddodd ganmoliaeth i Grŵp Cynefin am y gwaith roeddent wedi ei wneud gyda chynlluniau tebyg.  Roedd y Cynghorydd Meirick Davies yn awyddus i gynnal rhai o gerrig hen adeilad yr ysgol yn yr adeilad newydd a dywedodd swyddogion y gellid cynnwys y defnydd o ddeunyddiau yn yr amodau cynllunio.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Barry Mellor argymhelliad y swyddogion i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Arwel Roberts.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 25

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

7.

CAIS RHIF 20/2016/0164/PO - TIR AR FFERM TŶ COCH, GRAIGFECHAN, RHUTHUN pdf eicon PDF 37 KB

Ystyried cais i ddatblygu 0.01 hectar o dir trwy godi 2 annedd fforddiadwy at anghenion lleol (cais amlinellol - pob mater wedi’u cadw’n ôl) ar dir ar Fferm Tŷ Coch, Graigfechan, Rhuthun (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i ddatblygu 0.1 hectar o dir trwy godi 2 annedd fforddiadwy at anghenion lleol (cais amlinellol - pob mater wedi’u cadw’n ôl) ar dir ar Fferm Tŷ Coch, Graigfechan, Rhuthun.

 

Siaradwr Cyhoeddus-

 

Mr. H. Evans (O blaid) – dadleuodd y byddai’r datblygiad yn helpu diwallu’r angen tai fforddiadwy yn yr ardal ond gwnaeth y profion caeth a weithredir hi’n eithriadol o anodd i'w darparu.  Roedd y safle mewn lleoliad cyfforddus yn yr ardal a byddai’n cael ei ystyried yn rhan o'r datblygiad presennol.  Mewn gwirionedd byddai’n dod yn rhan o derfyn yr annedd.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Eglurodd y Cynghorydd Hugh Evans (Aelod Lleol) mai'r aelod lleol y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad oedd y cynghorydd cymunedol lleol.  Cefnogodd y Cynghorydd Evans y cais gan nodi fod y tai wedi eu bwriadu ar gyfer y bedwaredd cenhedlaeth o deulu lleol, a oedd yn cael eu parchu yn y cymuned, a dyma oedd eu unig opsiwn i fyw yn yr ardal y cawsant eu magu.  Nododd fod y cais yn yr un ysbryd â dyheadau eraill y cyngor gan gynnwys cynaladwyedd y Gymraeg, cymunedau mwy bywiog a gwledig, darparu cyfleoedd i bobl ifanc fyw yn Sir Ddinbych, darparu tai fforddiadwy, a gwydnwch a chynaliadwyedd mewn cymunedau.  Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi’u cael i’r cais.

 

Rhoddodd Aelodau ystyriaeth i rinweddau’r cais ac roeddent yn awyddus i gefnogi teuluoedd lleol mewn achosion o’r fath lle'r oeddent yn dymuno byw yn eu cymunedau ond fod diffyg tai fforddiadwy.  Nodwyd bwriad y teulu i roi'r tir fel rhodd ar gyfer y datblygiad ac roedd cefnogaeth gan y teulu i sicrhau bod y tai'n fforddiadwy i aelodau eraill y teulu.  Nodwyd hefyd fod y teulu wedi derbyn fod yn rhaid i dai fforddiadwy angen lleol fod ar gael am byth a byddai unrhyw ganiatâd yn amodol ar gytundeb A.106 i sicrhau bod yr anheddau yn parhau’n fforddiadwy tra bod yr angen yn bodoli.  Rhoddodd Aelodau ystyriaeth hefyd i agosrwydd yr anheddau arfaethedig at derfyn y pentref.  Ail-bwysleisiodd swyddogion y rhesymeg dros yr argymhelliad i wrthod o ystyried bod y safle y tu allan i unrhyw derfyn pentref ac nad oeddent yn rhan o’r bentrefan a gydnabuwyd yn y CDLl; ac nid oedd profion polisi allweddol ar gyfer datblygu tai fforddiadwy wedi eu cyflawni.  Gofynnodd y Cynghorydd Rhys Hughes i’r polisi ar dai fforddiadwy gael ei ystyried fel rhan o’r adolygiad oedd i ddod ar y CDLl er mwyn ei gwneud yn haws i bobl leol adeiladu cartref fforddiadwy yn eu cymunedau.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies, ac eiliodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, y dylid cymeradwyo’r cais, yn amodol ar gytundeb A.106 a chytuno ar amodau cynllunio gyda’r Aelod Lleol, ar y sail bod yr angen am dai fforddiadwy yn drech nac unrhyw ystyriaeth gynllunio arall yn yr achos hwn a gan ystyried agosrwydd y safle at derfyn y pentref.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 20

GWRTHOD - 2

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais, yn amodol ar gytundeb A.106 a chytuno ar amodau cynllunio gyda’r Aelod Lleol, ar y sail bod yr angen am dai fforddiadwy yn drech nac unrhyw ystyriaeth gynllunio arall yn yr achos hwn a gan ystyried agosrwydd y safle at derfyn y pentref.

 

Ar y pwynt hwn (12.25 p.m.) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.

 

 

8.

CAIS RHIF 44/2017/0055/PF – TIR YN 31 PARC Y TYWYSOG, RHUDDLAN, Y RHYL pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i godi annedd ar wahân ar dir yn 31 Parc y Tywysog, Rhuddlan, y Rhyl (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi annedd ar wahân ar dir yn 31 Parc y Tywysog, Rhuddlan, y Rhyl.

 

Siaradwr Cyhoeddus-

 

Mr. B. Robinson (O blaid) – dadleuodd fod cynsail ar gyfer datblygiad o’r fath yn yr ardal wedi ei osod a chyfeiriodd at nifer o esiamplau i gyfleu’r pwynt hwnnw.  Dywedodd fod pob ymdrech wedi ei wneud i leihau’r graddau yr oedd yn edrych dros yr eiddo hynny gyda sgrinio y gellid mynd i’r afael ag o ymhellach drwy amodau.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Siaradodd y Cynghorydd Arwel Roberts (Aelod Lleol) o blaid y cais gan nodi fod y teulu wedi byw yn Rhuddlan ers cenedlaethau a bod anghenion tai yn yr ardal.  Nododd fod yr ymgeisydd yn barod i gynnig sgrinio priodol i fynd i’r afael â’r mater o edrych drosodd a sicrhau nad oedd effaith negyddol ar amwynder gweledol.  Cefnogodd y Cynghorydd David Simmons y cais hefyd gan ystyried bod datblygiadau tebyg sy’n edrych dros eiddo eraill yn yr ardal ac roedd yn credu fod cynsail wedi ei osod yn hynny o beth.  Gofynnodd y Cynghorydd Ann Davies (Aelod Lleol) am eglurhad ynghylch perchnogaeth y lôn fynediad i’r annedd bwriedig.

 

Eglurodd y Rheolwr Datblygu nad oedd y cais wedi ei wneud ar gyfer tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol.  Manylodd ar y rhesymeg y tu ôl argymhelliad y swyddogion i wrthod y cais gan ystyried y pellter rhwng yr eiddo ac effaith negyddol yn nhermau amwynder gweledol a phreswyl.  Nid oedd y swyddogion yn ystyried bod y mesurau sgrinio arfaethedig yn mynd i’r afael â’r materion yn ddigonol.  Roedd gwrthwynebiadau hefyd wedi eu derbyn gan Gyngor Tref Rhuddlan a chymdogion.  Mewn ymateb i gwestiynau, tynnodd swyddogion sylw at y pellter bychan rhwng eiddo fel manylion ar y cynlluniau a gyflwynwyd.  Mewn perthynas â pherchnogaeth o’r fynedfa i’r eiddo, dywedodd swyddogion nad oedd yr ardal yn rhan o safle’r cais ac nid oedd felly’n ystyriaeth o bwys yn yr achos hwn.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Huw Williams, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Cheryl Williams, bod y cais yn cael ei wrthod yn unol ag argymhelliad y swyddog.  Cynigiodd y Cynghorydd Arwel Roberts, ac eiliodd y Cynghorydd David Simmons, y dylid cymeradwyo’r cais yn amodol ar amodau sgrinio gweledol i fynd i’r afael â phryderon ynglŷn ag edrych drosodd.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 9

GWRTHOD - 13

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD y cais yn unol ag argymhellion y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

9.

CAIS RHIF 01/2016/1243/PF - SAFLE HEN GANOLFAN DECHNOLEG AC ADDYSG ALWEDIGAETHOL DINBYCH, LÔN GANOL, DINBYCH pdf eicon PDF 37 KB

Ystyried Cais i ddymchwel hen adeiladau ysgol ar safle hen Ganolfan Technoleg ac Addysg Alwedigaethol Dinbych, Lôn Ganol, Dinbych (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i ddymchwel hen adeiladau ysgol ar safle hen Ganolfan Dechnoleg ac Addysg Alwedigaethol Dinbych, Lôn Ganol, Dinbych.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Barry Mellor y dylid dilyn argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 21

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD hysbysu Llywodraeth Cymru pe bai’r Cyngor Sir yn cael y grym i bennu'r cais, y byddai'n RHOI CYMERADWYAETH ARDAL GADWRAETH.

 

 

10.

CAIS RHIF 15/2016/0842/PF - TŶ ISA, FFORDD PANT DU, ERYRYS, YR WYDDGRUG pdf eicon PDF 36 KB

Ystyried cais i barhau i ddefnyddio tir fel estyniad i gwrtil preswyl yn Nhŷ Isaf, Ffordd Pant Du, Eryrys, yr Wyddgrug (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i barhau i ddefnyddio tir fel estyniad i gwrtil preswyl yn Nhŷ Isaf, Ffordd Pant Du, Eryrys, yr Wyddgrug.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Joan Butterfield y dylid dilyn argymhelliad y swyddogion i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Stuart Davies.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 20

GWRTHOD - 0

YMATAL - 1

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

11.

CAIS RHIF 44/2017/0072/PF - TIR GERLLAW CASTLE HILL, LÔN HYLAS, RHUDDLAN, Y RHYL pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i godi 1 annedd gyda garej ar wahân a chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir wrth ymyl Castle Hill, Lôn Hylas, Rhuddlan, y Rhyl (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Ann Davies (Aelod Lleol) gysylltiad personol yn yr eitem hon gan ei bod yn byw ger safle’r cais.  Datganodd y Cynghorydd Arwel Roberts gysylltiad personol oherwydd ei fod yn Llywodraethwr yn Ysgol y Castell sydd wrth ymyl lleoliad y cais.

 

Cyflwynwyd cais i godi 1 annedd gyda garej ar wahân a chreu mynedfa newydd i gerbydau ar dir wrth ymyl Castle Hill, Lôn Hylas, Rhuddlan.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Ann Davies (Aelod Lleol) i’r cais gael ei ohirio i aros am fwy o wybodaeth ynglŷn ag uchder y datblygiad, unrhyw ddiddordeb archeolegol a’r fynedfa.  Eglurodd Swyddogion fod caniatâd cynllunio ar gyfer yr un datblygiad yn union wedi dod i ben y mis blaenorol ac nid oeddent yn credu fod unrhyw gyfiawnhad dros ohirio o ystyried bod yr un materion wedi cael eu hystyried yn flaenorol.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Brian Blakeley, ac eiliodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y dylid gohirio’r cais i aros am eglurhad ynglŷn ag uchder y datblygiad, unrhyw ddiddordeb archeolegol a’r fynedfa.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID GOHIRIO – 9

YN ERBYN GOHIRIO – 11

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD peidio gohirio’r cais.

 

Trafodaeth Gyffredinol - amlygodd y Cynghorydd Ann Davies (Aelod Lleol) ei phryderon ynglŷn ag uchder y datblygiad, a theimlai ei fod yn ormesol gan ystyried ei fod mewn ardal gadwraeth ac yn creu dolur llygad gydag ychydig o ystyriaeth wedi ei roi i natur ac arwyddocâd hanesyddol yr ardal gyfagos.  Mynegodd bryderon hefyd ynghylch creu mynedfa newydd ar y ffordd, a oedd yn cynnwys tynnu wal ac iddi arwyddocâd hanesyddol i lawr, a chododd bryderon priffyrdd gan gynnwys gwelededd gwael ger ysgol a oedd yn brysur ar adegau prysur.  Cytunodd y Cynghorydd Arwel Roberts (Aelod Lleol), gan amlygu arwyddocâd hanesyddol yr ardal a’i bryderon ynghylch diogelwch y briffordd yn sgil creu mynedfa ychwanegol y credai y byddai’n gwaethygu’r problemau traffig presennol a thagfeydd ar adegau prysur.

 

Tynnodd y Rheolwr Datblygu sylw’r aelodau at yr hanes cynllunio a oedd yn ystyriaeth allweddol gan nodi fod caniatâd cynllunio wedi ei roi ar gyfer annedd ar y plot drwy apêl mor ddiweddar â 2012 ac nad oedd unrhyw newid sylweddol wedi bod yn y polisi ers hynny na gwahaniaeth amlwg yn y datblygiad arfaethedig.  Mewn ymateb i gwestiynau, dywedodd swyddogion mai’r cynnig oedd tynnu rhan o’r wal i lawr i greu mynedfa 3 metr a byddai gweddill y wal yn cael ei chadw.  Byddai’r fynedfa i gerbydau yn cael ei hasesu gan swyddogion Priffyrdd.  Roedd swyddogion cynllunio wedi cynnig yr un amodau a gyflwynwyd ar y caniatâd blaenorol a oedd yn trafod y deunyddiau i’w defnyddio gan gynnwys cerrig a llechi traddodiadol i gyfateb â’r hyn a ddefnyddiwyd ar yr annedd cyfagos.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Arwel Roberts y dylid gwrthod y cais ar sail diogelwch y briffordd, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Dewi Owens

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 10

YMATAL - 10

GWRTHOD - 0

 

Gan fod nifer cyfartal o bleidleisiau o blaid ac yn erbyn, defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw o blaid cymeradwyo’r cais.  O ganlyniad -

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

12.

NODYN CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL: MANNAU AGORED HAMDDEN - DOGFEN I’W MABWYSIADU pdf eicon PDF 165 KB

Ystyried adroddiad yn gofyn am gymeradwyo CCA Mannau Agored Hamdden i'w ddefnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus adroddiad yn argymell y dylid mabwysiadu dogfen ddrafft Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) ar Fannau Agored Hamdden Cyhoeddus.  Atgoffodd yr Aelodau o wahanol gamau’r broses cyn i’r Pwyllgor Cynllunio fabwysiadu’r dogfennau CCA.

 

Yn dilyn cyfnod ymgynghori o naw wythnos, cynigwyd salw diwygiad mewn ymateb i'r sylwadau a dderbyniwyd a oedd wedi'u hamlygu yn y ddogfen derfynol a’u nodi yn yr Adroddiad Ymgynghori.  Nid oedd CCA wedi’i fabwysiadu ar hyn o bryd ar fannau agored cyhoeddus a byddai’r ddogfen yn cynnig arweiniad ar ddarpariaeth a dyluniad mannau agored mewn datblygiadau newydd.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Stuart Davies argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r CCA drafft, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bill Cowie.

 

O'i roi i’r bleidlais -

 

PENDERFYNWYD bod yr Aelodau'n cymeradwyo'r ddogfen Canllawiau Cynllunio Atodol ‘Mannau Agored Hamdden Cyhoeddus’ (sydd ynghlwm yn Atodiad II yr adroddiad) i’w defnyddio i benderfynu ar geisiadau cynllunio.

 

 

13.

CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL: CYNLLUNIO AR GYFER DIOGELWCH CYMUNEDOL - MABWYSIADU’R DDOGFEN DERFYNOL pdf eicon PDF 234 KB

Ystyried adroddiad yn gofyn am gymeradwyo CCA Cynllunio ar gyfer Diogelwch Cymunedol i'w ddefnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus adroddiad yn argymell y dylid mabwysiadu dogfen ddrafft Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) ar Gynllunio ar gyfer Diogelwch Cymunedol.

 

Yn dilyn cyfnod ymgynghori o wyth wythnos cynigwyd salw diwygiad mewn ymateb i'r sylwadau a dderbyniwyd a oedd wedi'u hamlygu yn y ddogfen derfynol a’u nodi yn yr Adroddiad Ymgynghori.  Roedd y ddogfen yn rhoi arweiniad ar sut y gellid gwella diogelwch cymunedol a lleihau ofn troseddau trwy ddylunio a thirlunio.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Stuart Davies argymhelliad y swyddogion i gymeradwyo’r CCA drafft, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill.

 

O'i roi i’r bleidlais -

 

PENDERFYNWYD bod yr aelodau’n mabwysiadu’r Canllaw Cynllunio Atodol ar Gynllunio ar gyfer Diogelwch Cymunedol sydd ynghlwm fel Atodiad 2 i’w ddefnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ac apeliadau cynllunio.

 

 

14.

BRÎFF DATBLYGU SAFLE: TIR WRTH YMYL YSGOL PENDREF A LODGE FARM, DINBYCH UCHAF – MABWYSIADU’R DDOGFEN DERFYNOL pdf eicon PDF 144 KB

Ystyried adroddiad yn argymell mabwysiadu'r Briff Datblygu Safle arfaethedig ar gyfer tir wrth ymyl Ysgol Pendref a Lodge Farm, Dinbych Uchaf, gyda newidiadau a argymhellir, ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio ac apeliadau (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus adroddiad yn argymell mabwysiadu y Brîff Datblygu Safle (BDS) ar gyfer tir gerllaw Ysgol Pendref a Lodge Farm, Dinbych Uchaf, gyda newidiadau a argymhellwyd, ar gyfer pennu ceisiadau cynllunio ac apeliadau cynllunio.  Roedd y BDS wedi bod drwy’r un proses â dogfennau’r Canllaw Cynllunio Atodol cyn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio i’w mabwysiadu’n derfynol.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar ganlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus naw wythnos ar y BDS drafft ac yn cynnig nifer o newidiadau i’r BDS mewn ymateb i sylwadau a dderbyniwyd a oedd wedi eu hamlygu yn y ddogfen derfynol a’u nodi yn yr adroddiad ymgynghori.  Os caiff ei gymeradwyo, bydd y BDS yn cael ei ddefnyddio wrth benderfynu ar unrhyw gais cynllunio ar y safle.  Cymeradwyodd y Cynghorydd Colin Hughes (Aelod Lleol) yr ymarferiad ymgynghori, y rhoddwyd sylw i’w ganlyniadau yn y ddogfen derfynol, ac ail-bwysleisiodd yr angen i roi ystyriaeth lawn i’r BDS wrth ystyried ceisiadau cynllunio ar y safle hwn yn y dyfodol.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Stuart Davies argymhelliad y swyddogion i gymeradwyo’r Briff Datblygu Safle diwygiedig, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Huw Williams.

 

Wrth bleidleisio, roedd pawb yn unfrydol -

 

PENDERFYNWYD y dylai aelodau fabwysiadu'r Briff Datblygu Safle arfaethedig ar gyfer tir wrth ymyl Ysgol Pendref a Lodge Farm, Dinbych Uchaf, sydd ynghlwm fel Atodiad 2 i’r adroddiad, gyda newidiadau a argymhellir, ar gyfer penderfynu ar geisiadau ac apeliadau cynllunio.

 

Ar y pwynt hwn, manteisiodd y Cynghorydd David Smith ar y cyfle i ddiolch i aelodau Grŵp Llywio’r CDLl am eu cyfraniad gwerthfawr dros y pum mlynedd diwethaf a hefyd cymeradwyodd waith y swyddogion oedd yn ymwneud â’r broses honno.

 

 

15.

ADRODDIAD ER GWYBODAETH: PENDERFYNIADAU APELIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 206 KB

Derbyn adroddiad er gwybodaeth sy’n amlinellu’r penderfyniadau diweddar a gyhoeddwyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar apeliadau a wnaed yn erbyn penderfyniadau’r Cyngor Sir (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad er gwybodaeth yn darparu amlinelliad o’r penderfyniadau diweddar a gyhoeddwyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar apeliadau a gyflwynwyd yn erbyn penderfyniadau ar geisiadau cynllunio gan y Cyngor Sir.  Anogwyd yr aelodau i gysylltu â swyddogion perthnasol tu allan i’r cyfarfod os oedd angen rhagor o wybodaeth arnynt ynglŷn ag achosion penodol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad er gwybodaeth.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.25p.m.