Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am
absenoldeb gan y Cynghorwyr Rhys Hughes, Hugh Irving,
Bob Murray, David Simmons a Bill Tasker |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Penodi Cadeirydd Penodi Cadeirydd
y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer gweddill blwyddyn
y cyngor 2016/17. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn dilyn marwolaeth
drist y Cynghorydd Raymond Bartley, gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer swydd
Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio am weddill blwyddyn y cyngor. Cynigiwyd y Cynghorydd David Simmons gan y
Cynghorydd Joan Butterfield, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Jeanette
Chamberlain-Jones. Cynigiwyd y Cynghorydd Joe Welch gan y Cynghorydd
Huw Hilditch-Roberts ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Dewi Owens. Cynhaliwyd pleidlais ac roedd y canlyniadau fel a
ganlyn: David Simmons – 9 Joe Welch – 13 Ymatal - 1 Felly: PENDERFYNWYD Penodi’r Cynghorydd Joe Welch yn Gadeirydd
y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer gweddill blwyddyn y cyngor. |
|
Ar y pwynt hwn, diolchodd yr Aelodau i’r
Cynghorydd Bill Cowie, Is-Gadeirydd, am ei Gadeirio rhagorol yn ystod y cyfnod
anodd diweddar. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd 11 Ionawr 2017
(copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio
a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2017. Holodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies pam nad
oedd y bleidlais wedi’i chynnwys yng nghofnod eitem 12. Eglurodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd ei fod wedi bod yn bleidlais unfrydol drwy godi dwylo fel y nodwyd yn y
cofnodion. PENDERFYNWYD –yn amodol ar yr uchod, derbyn a
chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2017 fel cofnod
cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 6 - 7) Cyflwynwyd ceisiadau oedd yn ceisio penderfyniad y
pwyllgor ynghyd â'r dogfennau cysylltiol. Cyfeiriwyd
hefyd at wybodaeth ategol a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen a oedd yn
ymwneud â cheisiadau penodol. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 03/2016/1195/PO - TIR YN (RHAN O ARDD) FAIRLAWNS, FRON BACHE, LLANGOLLEN PDF 37 KB Ystyried cais i
ddatblygu 0.07ha o dir trwy godi un annedd (cais amlinellol – pob mater a
gadwyd yn ôl) ar dir yn (rhan o ardd) Fairlawns, Fron Bache, Llangollen (copi
wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd cais wedi ei gyflwyno i ddatblygu 0.07ha o
dir trwy godi un annedd (cais amlinellol – pob mater wedi’u cadw yn ôl) ar dir
yn (rhan o ardd) Fairlawns, Fron Bache, Llangollen. Trafodaeth Gyffredinol - Nododd y Cynghorydd Stuart Davies (Aelod Lleol) fod Cyngor Tref
Llangollen wedi codi materion yn ymwneud â’r cais ond fod caniatâd cynllunio
wedi’i roi ar hyn yn flaenorol ac nad oedd y cais wedi newid. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Stuart Davies
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd
Bill Cowie. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 22 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn
yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 41/2016/1113/PS - THE OLD CREAMERY, FFORDD YR WYDDGRUG, BODFARI, DINBYCH PDF 6 KB Ystyried cais i
amrywio amodau 2 a 3 caniatâd cynllunio rhif
41/2000/1065/PC, i ganiatáu ar gyfer defnydd Dosbarth B2 yr adeilad i
gyfarwyddo ar gyfer gweithrediadau ac eithrio Mr. D. R. Parsonage, a chynnal
gweithrediadau atodol i ddefnydd yr adeilad ar dir o amgylch yr adeilad (cais
ôl-weithredol) (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i amrywio amodau 2 a 3 caniatâd
cynllunio rhif 41/2000/1065/PC, i ganiatáu ar gyfer defnydd Dosbarth B2 yr
adeilad i gyfarwyddo ar gyfer gweithrediadau ac eithrio Mr. D. R. Parsonage, a
chynnal gweithrediadau atodol i ddefnydd yr adeilad ar dir o amgylch yr adeilad
(cais ôl-weithredol) yn The Old Creamery, Ffordd Yr Wyddgrug, Bodfari, Dinbych. Trafodaeth Gyffredinol - Rhoddodd y Cynghorydd Merfyn Parry hanes
byr y safle. Eglurwyd hefyd fod perchnogaeth y safle wedi newid
ers i’r caniatâd cynllunio gwreiddiol gael ei roi yn 2001. Roedd yr ymgeisydd
wedi bod yn awyddus i sicrhau lle storio digonol ar gyfer cerbydau. Yn
ystod y drafodaeth, awgrymwyd y dylid dileu amod 4 yn llwyr a chynnal y 3 amod. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y dylid dileu amod 4 yn llwyr o’r cais, ac
eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bill Cowie. PLEIDLAIS: CYMERADWYO (heb Amod 4) - 22 GWRTHOD - 1 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R
cais yn unol ag argymhellion y swyddogion fel y nodwyd yn amodau 1, 2 a 3 yr
adroddiad, ond gan ddileu amod 4 fel y geiriwyd yn yr adroddiad a’r taflenni gwybodaeth
hwyr o ran y tir rhwng yr adeiladau a ffin yr A541. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am
10.08 a.m. |