Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: democratic@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

CYNGHORYDD RAYMOND BARTLEY - TEYRNGED

Ar ran y Pwyllgor Cynllunio talodd yr Is-Gadeirydd y Cynghorydd Bill Cowie deyrnged i’r Cynghorydd Raymond Bartley fu farw’n ddiweddar yn dilyn salwch byr.  Roedd y Cynghorydd Bartley yn fonheddwr, yn broffesiynol ac yn ffrind arbennig iawn.    Bu’n Gadeirydd ardderchog a bydd yn golled fawr i’r Pwyllgor Cynllunio ac i Sir Ddinbych.  Roedd y Pwyllgor yn meddwl am ei deulu ar yr adeg hwn.  Dywedwyd y byddai aelodau unigol yn cael cyfle i dalu teyrnged i'r Cynghorydd Bartley yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Llawn.    Safodd yr aelodau a'r swyddogion mewn teyrnged ddistaw.

 

Fel Is-Gadeirydd, Cadeiriodd y Cynghorydd Bill Cowie y cyfarfod.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 19 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Bob Murray, Bill Tasker a Cheryl Williams.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 88 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd Stuart Davies – Cysylltiad Personol – Eitem 11 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Gareth Sandilands – Cysylltiad Personol – Eitem 10 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Huw Williams – Cysylltiad Personol – Eitem 5 a 6 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Mark Young  – Cysylltiad Personol – Eitem 7 ar y Rhaglen

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 170 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2016 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2016.

 

Cywirdeb – Dywedodd y Cynghorydd Meirick Davies fod rhai o’r ffigurau pleidleisio a gofnodwyd yn y cofnodion yn wahanol i’w nodiadau ef a byddai’n siarad gyda’r swyddog perthnasol am y mater yn dilyn y cyfarfod.   Nodwyd nad oedd unrhyw amrywiaeth yn y ffigurau yn effeithio ar y canlyniad pleidleisio. 

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2016 fel cofnod cywir.

 

 

CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 10) -

Cyflwynwyd ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y pwyllgor ynghyd â dogfennau cysylltiol.  Cyfeiriwyd hefyd at wybodaeth a gyflwynwyd yn hwyr a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen ac a oedd yn ymwneud â cheisiadau penodol.  Er mwyn caniatáu ceisiadau aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau cytunwyd y dylid amrywio trefn rhaglen y ceisiadau fel y bo’n briodol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

RHIF Y CAIS 16/2016/1045/PF - PLAS LLANBEDR, LLANBEDR DYFFRYN CLWYD, RHUTHUN pdf eicon PDF 37 KB

Ystyried cais i amrywio amod rhif 12 caniatâd cynllunio 16/2016/0545 er mwyn parhau i ddefnyddio’r ddwy fynedfa ar gyfer y datblygiad, gan ddileu’r angen i gyfyngu defnydd mynedfa Lôn y Mynydd ym Mhlas Llanbedr, Llanbedr Hall, Dyffryn Clwyd, Rhuthun (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Huw Williams gysylltiad personol yn yr eitem hon oherwydd bod yr Asiantiaid oedd yn gweithredu ar ran Llanbedr Hall hefyd yn gweithredu fel ei Asiantiaid o ran gwaith yn ymwneud â’i ffarm].

 

Roedd cais wedi’i gyflwyno i amrywio amod rhif 12 caniatâd cynllunio 16/2016/0545 er mwyn parhau i ddefnyddio’r ddwy fynedfa ar gyfer y datblygiad, gan ddileu’r angen i gyfyngu defnydd mynedfa Lôn y Mynydd ym Mhlas Llanbedr, Llanbedr Hall, Dyffryn Clwyd, Rhuthun.

 

Siaradwr Cyhoeddus -

 

Ms G Crawley (o blaid) – cyfeiriodd at hanes cynllunio blaenorol a chanfyddiadau apêl yr Arolygydd na fyddai unrhyw effaith sylweddol ar draffig sy’n defnyddio’r rhodfa gefn ac amlygodd welliannau i’w gwneud i’r rhodfa o flaen y datblygiad i annog defnydd.   Byddai holl draffig adeiladu yn defnyddio’r rhodfa o flaen y datblygiad.  Dadleuwyd nad oedd yn rhesymol gwrthod yr amrywiad o ystyried yr hanes cynllunio a hawliau defnydd presennol. 

 

Trafodaeth Gyffredinol – Tynnodd y Cynghorydd Huw Williams (Aelod Lleol) sylw at y pwynt mynediad o'r cefn a rhwydwaith ffordd fel y nodwyd ar y cynlluniau ac a ddangoswyd yn sleidiau’r cyflwyniad ac amlygodd bryderon arbennig ynglŷn â’r briffordd.    Roedd pryderon yn cynnwys annigonolrwydd y llwybr mynediad cefn a Lôn y Mynydd / Lôn Cae Glas ac ar Gefnffordd yr A494 gan gynnwys dim neu welededd gwael yn y gyffordd yn arwain o’r cefn, goryrru ar hyd ffyrdd mynediad cefn a Chefnffordd yr A494 rhwng Rhuthun a’r Wyddgurug a oedd yn gul ac yn beryglus ac yn lle gwael am ddamweiniau.    Hefyd amlygodd ran o lwybr mynediad cefn wedi’i arwyddbostio’n benodol yn anaddas i gerbydau a nifer o ddamweiniau ffordd ar hyd y llwybr cefn.   Yn olaf, cyfeiriwyd at y nifer fawr o wrthwynebiad lleol ar sail priffordd ac o ystyried y cynnydd posibl mewn traffig o ganlyniad i’r datblygiad cadarnhaodd y Cynghorydd Williams na allai gefnogi’r cais. 

 

Yn ystod trafodaeth bu’r aelodau’n ystyried y ffactorau o blaid ac yn erbyn yr amrywiad, gan bwyso a mesur yr hanes cynllunio a phryderon diogelwch ffordd.    Cadarnhaodd y Cynghorwyr Merfyn Parry, Dewi Owens a Huw Hilditch-Roberts eu bod yn gyfarwydd â’r ardal a dywedwyd am eu profiadau eu hunain a phryderon am ddiogelwch traffig yn y cyswllt hwn.    Teimlwyd y dylid rhoi llawer o ystyriaeth i wybodaeth leol a’r llu o wrthwynebiadau a dderbyniwyd oedd yn manylu pryderon diogelwch priffordd.    Tra’n cydnabod yr hanes cynllunio a’r tebygolrwydd o apêl yn erbyn y penderfyniad i wrthod y cais roedd yr aelodau hynny’n teimlo bod pryderon diogelwch yn hanfodol yn yr achos hwn, yn arbennig o ystyried bod y rhodfa o flaen y datblygiad yn cynnig llwybr mwy diogel a digonol. 

 

Nid oedd y Swyddogion Cynllunio a Phriffyrdd yn herio cyfyngiadau’r llwybr rhodfa gefn ac yn cydnabod y pryderon a godwyd ynglŷn a’i annigonolrwydd.   Fodd bynnag, ailadroddwyd bod hanes cynllunio sylweddol yn yr achos hwn yn cynnig cefnogaeth gyfyngedig i wrthod y cais a manylodd y swyddogion oblygiadau oedd yn codi o ganiatâd cynllunio blaenorol gan y pwyllgor yn 2006 [Rhif. 16/206/0872 – apêl wedi’i gefnogi yn ymwneud â’r defnydd o’r un rhodfeydd], 2015 [Rhif  16/2014/1020 – caniatâd cynllunio ar gael ar gyfer 9 annedd heb unrhyw gyfyngiadau], a 2016 [Rhif. 16/2016/0545 – cymeradwyaeth ddilynol i drefniant yn ymwneud ag amod 10 yn cyfyngu llwybr cerbydau adeiladu i’r rhodfa o flaen y datblygiad].  O wybod yr hanes nid oedd swyddogion yn ystyried bod effaith 2 annedd ychwanegol o dan y caniatâd cynllunio diweddaraf yn caniatáu cyfiawnhad digonol i wrthod y cais ar gyfer amrywiant.   O ran tystiolaeth un ddamwain yn unig a gofnodwyd ar hyd y ffordd rhwng Hydref 2011 – Hydref 2016, er  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CAIS RHIF 16/2016/1044/PF - PLAS LLANBEDR, LLANBEDR DYFFRYN CLWYD, RHUTHUN pdf eicon PDF 5 KB

Ystyried cais i drawsnewid garej yn annedd sengl ym Mhlas Llanbedr, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Huw Williams gysylltiad personol yn yr eitem hon oherwydd bod yr Asiantiaid oedd yn gweithredu ar ran Llanbedr Hall hefyd yn gweithredu fel ei Asiantiaid o ran gwaith yn ymwneud â’i ffarm].

 

Roedd cais wedi’i gyflwyno i drawsnewid garejis yn annedd sengl ym Mhlas Llanbedr, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun.

 

Siaradwr Cyhoeddus-

 

Ms  G Crawley (O blaid) - dywedodd fod y cynllun arfaethedig yn cynnig gwelliant i’r caniatâd cynllunio presennol gyda threfniadau gwell ar gyfer mudo ystlumod a gwelliannau i’r cwrt.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Nid oedd y Cynghorydd Huw Williams (Aelod Lleol) yn gwrthwynebu'r cais gan gadarnhau nad oedd unrhyw faterion o ran mynediad o ganlyniad i lif naturiol y traffig.     Fodd bynnag, roedd yn mynegi pryderon ynglŷn â'r oedi o ran datblygu'r safle ac roedd yn gobeithio y byddai'r gwaith yn dechrau cyn gynted â phosibl.    Mewn ymateb i gwestiwn oddi wrth y Cynghorydd Merfyn Parry ynglŷn â swyddogion llif traffig cadarnhaodd swyddogion bod mynediad i wasanaethu’r safle trwy’r rhodfa gefn. 

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Huw Williams argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Anton Sampson.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 25

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid rhoi CANIATÂD yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

7.

CAIS RHIF 31/2016/1003/PF - ADEILAD ALLANOL YN NHYDDYN EOS, GROESFFORDD MARLI, ABERGELE pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried Cais i droi adeilad allanol yn annedd (dyluniad wedi newid o'r hyn a gymeradwywyd eisoes dan rif 31/2005/1468), Adeilad Allanol yn Nhyddyn Eos, Groesffordd Marli, Abergele (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Mark Young gysylltiad personol yn yr eitem hon gan fod yr Ymgeisydd yn gyfaill i’r teulu.]

 

Cafodd cais ei gyflwyno i droi adeilad allanol yn un annedd (dyluniad wedi newid o'r hyn a gymeradwywyd eisoes dan rif  31/2005/1468) – adeilad allanol yn Nhyddyn Eos, Groesffordd Marli, Abergele.

 

Siaradwr Cyhoeddus-

 

Mr A Pierce (O blaid) – cyfeiriodd at hanes cynllunio blaenorol ac eglurodd yr oedi o ran gwaith adeiladu ar y safle ac adolygiadau i’r cais gwreiddiol. 

 

Trafodaeth Gyffredinol – Dywedodd y Cynghorydd Meirick Davies (Aelod Lleol) fod swyddogion yn hapus gyda'r dyluniad diwygiedig.    Roedd Cyngor Cymuned Cefn Meiriadog wedi mynegi pryderon ynglŷn â’r amser yr oedd y gwaith adeiladu yn ei gymryd ac roedd yr ymgeisydd wedi rhoi sicrwydd y byddai’n symud ymlaen yn gyflym i gwblhau’r datblygiad o fewn deuddeng mis.    O ganlyniad, roedd y Cynghorydd Davies yn cynnig bod y cais yn cael ei ganiatáu yn amodol ar yr amod bod angen cwblhau’r gwaith adeiladu o fewn deuddeng mis yn hytrach na’r pum mlynedd arferol.    Eglurodd y Rheolwr Datblygu bod yr amserlen pum mlynedd yn cyfeirio at ddechrau’r datblygiad a oedd eisoes wedi dechrau yn yr achos hwn.    O ganlyniad awgrymodd bod amod rhif 1 fel y manylwyd yn yr adroddiad yn cael ei dynnu yn ei gyfanrwydd. 

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Meirick Davies argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, yn amodol ar ddileu amod 1 o ran dechrau ar y datblygiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd Rhys Hughes.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 23

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid rhoi CANIATÂD yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad, yn amodol ar ddileu amod rhif 1 o ran dechrau’r datblygiad.

 

 

8.

CAIS RHIF 40/2016/0256/PC – CAEAU I’R DE-ORLLEWIN O GROESFFORDD BORTH, ABERGELE pdf eicon PDF 35 KB

Ystyried cais i gadw a newid defnydd adeilad amaethyddol i brosesu coed a defnyddio’r iard i storio coed (ôl-gais) ar gaeau i’r de-orllewin o Groesffordd Borth, Abergele (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cais ei gyflwyno i gadw a newid defnydd adeilad amaethyddol i brosesu coed a defnyddio’r iard i storio coed (ôl-gais) ar gaeau i’r de-orllewin o Groesffordd Borth, Abergele.

 

Siaradwr Cyhoeddus-

 

Mr B Owen (O blaid) – eglurodd weithrediad y busnes a manteision o ran cyflogaeth leol a’r economi wledig.    Ymatebodd i (1) bryderon sŵn gan ddadlau’r effaith lleiaf a bod Swyddogion Rheoli Llygredd yn derbyn hyn, a (2) pryderon priffyrdd yn dadlau y byddai defnydd amaethyddol yn cynhyrchu mwy o ddefnydd gan gerbydau ac y byddai mesurau lleddfu yn cael eu gweithredu i fynd i’r afael â phryderon. 

 

Trafodaeth Gyffredinol – Tynnodd y Rheolwr Datblygu sylw at wybodaeth ychwanegol fel y manylwyd yn y papurau atodol a ddosbarthwyd yn y cyfarfod a oedd yn manylu hanes cynllunio ar gyfer  y safle hyd eithaf gwybodaeth y swyddogion.    Eglurodd mai’r mater dan ystyriaeth oedd pa un a oedd y defnydd o’r adeilad, mynediad i gerbydau a’r safle yn addas ac yn dderbyniol ar gyfer  busnes prosesu coed.    Er gwaethaf pryderon sŵn roedd y Swyddog Rheoli Llygredd yn ystyried na fyddai'r sŵn o'r prosesu coed ei hun yn cyfiawnhau gwrthod gan y gellir rheoli'r lefelau drwy amodau.    Er mai’r defnydd amaethyddol oedd y sefyllfa ar gyfer syrthio yn ôl arno, roedd swyddogion yn meddwl y byddai’r defnydd ar gyfer prosesu coed yn cynyddu’r effaith annerbyniol ar ddiogelwch priffordd a fanylwyd o fewn yr adroddiad. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Arwel Roberts am yr ymweliad safle a gynhaliwyd ar 12 Medi 2016.  Cyfeiriodd at amrywiol ddamweiniau ar y ffordd gerbydau ac roedd yn meddwl bod y mynediad i’r safle/ffordd allan yn beryglus iawn.   Credai y byddai caniatáu’r cais yn gwaethygu’r sefyllfa a chytunodd gyda’r swyddogion y dylid gwrthod y cais ar sail diogelwch priffordd.   O ganlyniad cynigiodd y Cynghorydd Roberts i wrthod y cais yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

Ymhelaethodd y Cynghorydd Alice Jones (Aelod Lleol) ynglŷn â hanes cynllunio’r safle o 2004 ac amlygodd ddiystyrwch y perchennog o ran rheoliadau a gweithdrefnau cynllunio ers hynny heb unrhyw ddefnydd difrifol o'r safle at ddibenion amaethyddol.    Hefyd mynegodd bryder am y cais cynllunio ôl-weithredol ac roedd yn cynnig newid defnydd o amaeth i brosesu/gweithgynhyrchu coed ac amlygodd y gwrthwynebiad gan drigolion cyfagos.    Roedd y Cynghorydd Jones yn cefnogi argymhelliad y swyddog i wrthod ar sail priffordd a theimlodd nad oedd yna sail i ddadl yr ymgeisydd y byddai defnydd amaethyddol yn golygu nifer uwch o gerbydau o ystyried na fu llawer neu ddim defnydd amaethyddol yn y gorffennol ac yn annhebygol o fod yn y dyfodol.    Fodd bynnag, gofynnodd iddynt ystyried sŵn ac amwynder preswyl a cholli tir amaethyddol fel rhesymau cynllunio dilys dros wrthod y cais.    Dywedodd y Cadeirydd bod y rhesymau dros beidio â chynnwys y seiliau cynllunio hynny wedi eu manylu o fewn yr adroddiad.  O ganlyniad eiliodd y Cynghorydd Alice Jones y cynnig gan y Cynghorydd Arwel Roberts i wrthod y cais yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

Trafododd yr aelodau'r ystyriaethau cynllunio materol ymhellach gyda swyddogion a gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â nifer o faterion.  O ran priffyrdd, gofynnwyd mwy o gwestiynau ynglŷn â dadl yr ymgeisydd y gall y defnydd syrthio yn ôl ar gyfer y safle at ddibenion amaethyddol arwain at fwy o symudiadau cerbydau a pha un a oedd tystiolaeth i gefnogi’r sail diogelwch priffyrdd o ran damweiniau a gofnodwyd, yn arbennig o ystyried ei fod yn gais ôl-syllol.    Gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â’r polisïau cynllunio sy’n ymwneud â newid defnydd o amaeth i waith cynhyrchu, diffiniad o’r gwaith prosesu coed a pha un a ellid ei ystyried fel prosiect  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

CAIS RHIF 43/2016/0512/PF - 74 FFORDD GRONANT, PRESTATYN pdf eicon PDF 37 KB

Ystyried cais i godi 5 fflatiau, 6 annedd ar wahân a gwaith cysylltiedig yn 74 Ffordd Gronant, Prestatyn (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cais ei gyflwyno i godi 5 o fflatiau, 6 annedd ar wahân a gwaith cysylltiedig yn 74 Ffordd Gronant, Prestatyn.

 

Siaradwr Cyhoeddus-

 

Mrs  C Jones (Yn erbyn) - yn dadlau nad oedd y datblygiad yn cyd-fynd a’r ardal o ystyried natur ddylanwadol y bloc fflatiau a oedd hefyd yn effeithio ar amwynder preswyl ond yn croesawu datblygiad y safle yn unol â chaniatâd cynllunio blaenorol a roddwyd yn 2005. 

 

Trafodaeth Gyffredinol – Rhoddodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill (Aelod Lleol) rywfaint o hanes cynllunio a chadarnhaodd nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i egwyddor y datblygiad.  Fodd bynnag, roedd yn gwrthwynebu’r datblygiad arfaethedig ar sail y bloc fflatiau yn unig a chytunodd â barn y siaradwr cyhoeddus yn hyn o beth.     Nid oedd yn ystyried bod lleoliad arfaethedig y bloc fflatiau yn addas a theimlodd nad oedd y maint yn cyd-fynd â’r ardal, hyd yn oed wrth gymryd i ystyriaeth yr eiddo mawr ar wahân yn y cyffiniau, a chaniatáu ar gyfer y ffaith y byddai’r bloc fflatiau yn cynnig amrywiaeth eang o ddeiliadaeth a thai fforddiadwy.    Mynegodd bryder hefyd ynglŷn â cholli 13 o goed. 

 

Roedd y Cynghorwyr Anton Sampson (Aelod Lleol), Hugh Irving a Gareth Sandilands (Aelodau Prestatyn) yn unfrydol yn cefnogi barn y Cynghorydd Julian Thompson-Hill ac yn credu nad oedd y bloc fflatiau yn cyd-fynd â’r ardal ac y byddai’n cael effaith andwyol ar amwynder preswyl.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu am y materion ffeithiol canlynol i aelodau eu hystyried wrth wneud penderfyniad -

 

·         codwyd y mater ynglŷn ag argaeledd tir ar gyfer tai a sicrhau’r defnydd mwyaf o dir ar gyfer tai yn y cynllun datblygu

·         roedd datblygiad preswyl wedi’i gynnig ac o ystyried y rhoddwyd caniatâd cynllunio yn flaenorol ar y safle ar gyfer saith annedd roedd hanes yn awgrymu bod tai yn dderbyniol yn y lleoliad hwnnw

·         roedd dwysedd y cynllun arfaethedig ar gyfer 21 annedd fesul hectar islaw’r trothwy mewn polisïau cynllunio a oedd yn nodi 35 annedd fesul hectar ond ystyriwyd y byddai'n dderbyniol yn yr achos hwn i ystyried cymeriad yr ardal

·         cyfeiriwyd at y cynlluniau a ddarparwyd oedd yn dangos stryd ar hyd Ffordd Gronant lle awgrymwyd y bloc o fflatiau a oedd yn anelu i ddangos nad oedd yr adeilad ei hun dim uwch nag adeiladau presennol gyferbyn ac oedd yn rhoi syniad o ran maint a graddfa

·         o ran colli coed, gwelwyd bod y rhan fwyaf o’r coed i’w torri yn enghraifft o ansawdd isel a byddai yna gynllun ailblannu ar y safle ac felly roedd colli coed yn cael ei ystyried yn dderbyniol yn yr achos hwn.  

 

Cynnig – Cynigiwyd gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill ac eiliwyd gan y Cynghorydd Anton Sampson bod y cais yn cael ei wrthod ar sail y byddai maint a graddfa’r bloc fflatiau yn cael effaith negyddol sylweddol ar amwynder gweledol yr ardal ar gyfer eiddo a thrigolion cyfagos. 

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 10

GWRTHOD - 12

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD i WRTHOD caniatâd yn groes i argymhelliad swyddog ar sail bod y bloc fflatiau o faint a graddfa fyddai'n cael effaith negyddol sylweddol ar amwynder gweledol yr ardal ar gyfer eiddo a thrigolion cyfagos. 

 

Os bydd yna apêl yn erbyn y penderfyniad, cytunwyd fel cynigydd ac eilydd bod y Cynghorwyr Julian Thompson-Hill ac Anton Sampson yn mynychu ar ran y pwyllgor.

 

Ar y pwynt hwn (11.35 am) cymerodd y cyfarfod egwyl am luniaeth.

 

 

10.

CAIS RHIF 43/2016/1083/PF - 2 LICHFIELD DRIVE, PRESTATYN pdf eicon PDF 5 KB

Ystyried cais i godi estyniad i gefn yr annedd (ail-gyflwyniad) yn 2 Lichfield Drive, Prestatyn (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Gareth Sandilands gysylltiad personol yn yr eitem hon gan ei fod yn byw ger safle’r cais.]

 

Roedd cais wedi’i gyflwyno i godi estyniad i gefn annedd (ail-gyflwyniad) yn 2 Lichfield Drive, Prestatyn a chyfeiriwyd at y wybodaeth atodol ychwanegol a ddosbarthwyd yn y cyfarfod.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Roedd y Cynghorydd Gareth Sandilands (Aelod Lleol) yn codi nifer o wrthwynebiadau yn erbyn y cais ar ran trigolion lleol a oedd yn ymwneud â thagfeydd traffig, lle parcio ar briffordd gyhoeddus, gorddwysâd eiddo, ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr eiddo a cholli preifatrwydd.   Cyfeiriodd at gais cynllunio blaenorol a wrthodwyd a’i amheuaeth bod y cais yn rhannol ôl-gais.

 

Tynnodd y Rheolwr Datblygu sylw’r aelodau at gynlluniau yn dangos y strwythur coed presennol a oedd yn gyfreithiol ac nid oedd y swyddogion yn meddwl bod yr estyniad arfaethedig yn wahanol iawn o ran maint, graddfa, effaith ar gymdogion ac ati.   Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â’r defnydd presennol o’r strwythur pren eglurodd y swyddogion os oedd yr adeilad yn ategol i’r prif annedd y gallai gael ei ddefnyddio’n gyfreithiol fel llety.   O ganlyniad i wrthwynebiadau trigolion lleol roedd y Cynghorydd Gareth Sandilands yn cynnig bod y cais yn cael ei wrthod a rhoddodd y swyddogion gyngor o ran ystyriaethau cynllunio perthnasol yn yr achos hwn.

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Sandilands bod y cais yn cael ei wrthod oherwydd yr effaith ar gymdogion fyddai’n colli preifatrwydd.  Nid oedd dim eilydd ar gyfer y cynnig hwnnw.  Cynigiodd y Cynghorydd Meirick Davies argymhellion y swyddogion i roi caniatâd i’r cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 18

GWRTHOD - 2

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid rhoi CANIATÂD yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

11.

CADARNHAU PENDERFYNIAD Y PWYLLGOR CYNLLUNIO AR 14 RHAGFYR 2016 MEWN PERTHYNAS Â CHAIS RHIF 03/2016/0300/PF - TIR AR FFORDD Y FICERDY, LLANGOLLEN pdf eicon PDF 52 KB

Ystyried adroddiad yn gofyn am gadarnhau penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio mewn perthynas â chais i godi 95 o dai, ynghyd â ffyrdd cysylltiedig, mannau agored a gwaith cysylltiedig ar dir ar Ffordd y Ficerdy, Llangollen (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Stuart Davies gysylltiad personol yn yr eitem hon gan ei fod yn byw gyferbyn â’r safle oedd yn destun y cais.]

 

Cyflwynwyd adroddiad yn gofyn i gadarnhau penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Cynllunio ar 14 Rhagfyr 2016 mewn perthynas â chais i godi 95 o dai, ynghyd â ffyrdd cysylltiedig, mannau agored a gwaith cysylltiedig ar dir ar Ffordd y Ficerdy, Llangollen.  Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad yn ddibynnol ar ddarparu mwy o dai fforddiadwy.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad i aelodau ar wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd mewn perthynas  â’r penderfyniad hwnnw fel y crynhowyd isod -

 

·         Tai Fforddiadwy – byddai’r ymgeisydd yn darparu 10% o dai fforddiadwy ar y 95 annedd llawn a oedd yn cyfateb i 9 annedd ar y safle  a thaliad swm gohiriedig o £47,074.50 yn gyfnewid am 0.5 annedd.   Roedd yr ymgeisydd yn cynnig bod yr unedau fforddiadwy hynny yn gydberchnogaeth.

·Diogelwch Cyfraniadau Ariannol - gallai datblygu’r unedau fforddiadwy ar y safle, talu’r swm gohiriedig a chyfrifoldebau mannau agored, a darparu cyfraniad ariannol tuag at addysg ei reoli’n ddigonol trwy gytundeb cyfreithiol A.106 ac felly nid oedd swyddogion yn ystyried ei bod yn ofynnol i’r datblygwr fod yn rhan o fond ariannol. 

·         Lle Parcio – roedd amod tirlunio wedi’i gynnig yn adroddiad gwreiddiol y swyddog yn ceisio cytundeb pellach i'r manylion penodol ar gyfer y man agored a’r ardaloedd wedi’u tirlunio ar y safle a allai, os cytunir, gynnwys lle parcio ychwanegol i gerbydau.  Cyfrifoldeb y datblygwr fydd cyflwyno cynnig tirlun ar gyfer yr ardaloedd a gall swyddogion gysylltu ag aelodau lleol ar y cynllun terfynol.

 

Roedd y Cynghorydd Stuart Davies (Aelod Lleol) yn falch o ddweud bod trigolion lleol wedi cydnabod y drafodaeth gadarn yn y cyfarfod diwethaf wrth ystyried y cais ac roeddent yn ddiolchgar am hyn.   Diolchodd i’r swyddogion cynllunio am eu gwaith i sicrhau’r cytundebau perthnasol gyda datblygwyr y gellir eu rheoli a’u gorfodi drwy gytundeb A.106 fel y manylir o fewn yr adroddiad.     Fodd bynnag, gofynnodd am eglurhad pellach ar y cynllun cydberchnogaeth arfaethedig a pha un a oedd y Cyngor yn gallu cyfrannu at y ddarpariaeth mewn cyferbyniad â landlordiaid cymdeithasol eraill.    Cadarnhaodd y swyddogion y cynnig ar gyfer cyd-ecwiti mewn perthynas â’r 9 uned tai fforddiadwy a dywedodd y byddent yn cysylltu â swyddogion tai ynglŷn â rôl Sir Ddinbych yn y ddarpariaeth honno.   Roedd hefyd yn agored i’r datblygwr godi’r mater gyda landlordiaid cymdeithasol eraill a chynnig cynllun.    Rhoddwyd sicrwydd y byddai aelodau lleol yn cael eu hysbysu am y trafodaethau hynny. 

 

Ymatebodd y Swyddogion i gwestiynau pellach fel a ganlyn -

 

·         dywedwyd bod y polisïau a gweithdrefnau ar gyfer delio gyda thai fforddiadwy a sicrhau bod gofynion yn cael eu diwallu o ran dyraniad perthnasol yr unedau i ddiwallu’r angen lleol, safonau gofod llawr a ffactorau a meini prawf gwerth/fforddiadwyedd – dylai unrhyw bryderon am achosion unigol gael eu codi y tu allan i’r cyfarfod a dylai unrhyw bryderon ehangach ynglŷn â’r polisïau hynny gael eu codi trwy Grŵp Llywio'r Cynllun Datblygu Lleol neu'r Pwyllgor Archwilio. 

·         derbyniwyd sylwadau hwyr gan Gymdeithas Ddinesig Llangollen a oedd yn holi am y cyfraniadau arfaethedig mewn perthynas ag Addysg a Gofod Swyddfa ac eglurodd swyddogion y rhesymau dros y farn y byddai darparu mannau agored a chyfraniad yn seiliedig ar y 45 uned ychwanegol yn dderbyniol yn yr achos hwn o ystyried yr egwyddor a hanes cynllunio. 

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies argymhellion y swyddogion i gadarnhau’r penderfyniad i roi caniatâd cynllunio ar y sail fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ac eiliwyd gan y  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL: 'CARAFANAU, CHALETS A SAFLEOEDD GWERSYLLA' - DRAFFT YMGYNGHORI pdf eicon PDF 159 KB

Ystyried adroddiad yn argymell bod Aelodau yn cytuno ar y Canllaw Cynllunio Atodol drafft ar garafanau, chalets a safleoedd gwersylla fel sail ar gyfer ymgynghori cyhoeddus (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus adroddiad yn cyflwyno dogfen ddrafft Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) ar Garafanau, Chalets a Safleoedd Gwersylla fel sail ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.   Roedd y ddogfen yn rhoi arweiniad pellach i ddatblygwyr, swyddogion ac aelodau.

 

Atgoffodd y Cynghorydd Smith Aelodau o wahanol gamau’r broses cyn i’r Pwyllgor Cynllunio fabwysiadu’r dogfennau CCA yn derfynol.  Anogodd yr aelodau i ymateb gyda’u barn yn ystod y cyfnod ymgynghori.

 

Wrth bleidleisio, roedd pawb yn unfrydol -

 

PENDERFYNWYD bod yr Aelodau yn cytuno ar y Canllaw Cynllunio Atodol drafft ar Garafanau, Chalets a Safleoedd Gwersylla fel sail ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 ac 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

13.

HEN YSBYTY GOGLEDD CYMRU, DINBYCH - GORCHYMYN PRYNU GORFODOL - DATGANIAD BREINIO CYFFREDINOL

Ystyried adroddiad cyfrinachol yn gofyn am awdurdodiad ar gyfer gwneud Datganiad Breinio Cyffredinol i gwblhau pryniant gorfodol safle Hen Ysbyty Gogledd Cymru (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd adroddiad cyfrinachol ei gyflwyno yn gofyn am awdurdodiad ar gyfer gwneud Datganiad Breinio Cyffredinol i gwblhau pryniant gorfodol safle Hen Ysbyty Gogledd Cymru a throsglwyddo perchnogaeth yn uniongyrchol i Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladu Gogledd Cymru.

 

 Roedd yr adroddiad yn rhoi rhywfaint o hanes cefndir y sefyllfa a’r broses hyd yma a chynhaliwyd dwy sesiwn briffio aelodau ar y pwnc yn ystod y mis diwethaf.    Manteisiodd yr Aelodau ar y cyfle i ofyn cwestiynau i’r swyddogion ynglŷn â’r broses ei hun, gan gynnwys dadleuon cyfreithiol, yr amserlenni tebygol a goblygiadau ariannol gan gynnwys iawndal sy’n daladwy.    Trafodwyd rôl yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladu hefyd.    Yn ystod y drafodaeth talwyd teyrnged i swyddogion blaenorol a phresennol sy’n cymryd rhan yn y broses. 

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Mark Young argymhelliad y swyddog, gan gredu mai dyma’r ateb gorau yn yr achos hwn ac eiliwyd gan y Cynghorydd Meirick Davies.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - 15

YN ERBYN – 0

YMATAL - 1

 

PENDERFYNWYD -

 

(a)       Pwyllgor Cynllunio yn cymeradwyo Datganiad Breinio Cyffredinol i gwblhau pryniant gorfodol safle Hen Ysbyty Gogledd Cymru a ddangosir ag ymyl coch ar y cynllun fel y manylwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad yn unol ag adran 47 Deddf 1990 a throsglwyddo perchnogaeth y safle yn uniongyrchol i Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladu Gogledd Cymru a

 

(b)       Bydd y Datganiad Breinio Cyffredinol yn cael ei gyflwyno, ar ôl i Gytundeb Cefn Gefn gael ei lofnodi gan Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladu Gogledd Cymru a’r Cyngor.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.45pm.