Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

TEYRNGED – Y CYNGHORYDD RICHARD DAVIES

Rhoddodd y Cadeirydd deyrnged i'r Cynghorydd Richard Davies, a fu farw ar 22 Mawrth ac a fydd yn cael ei golli'n fawr.  Safodd yr aelodau a'r swyddogion mewn teyrnged ddistaw.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 19 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Ian Armstrong, Brian Blakeley, Alice Jones, Pat Jones, Win Mullen-James, Bob Murray, Merfyn Parry a Huw Williams

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 88 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 162 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2016 (amgaeir copi).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 16 Medi 2016.

 

Dywedodd y Cynghorydd Meirick Davies nad oedd rhifau’r tudalennau yn y cofnodion Cymraeg a Saesneg yn cydredeg.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mawrth, 2016 fel cofnod cywir.

 

 

CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 8) -

Cyflwynwyd ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y pwyllgor ynghyd â dogfennau cysylltiol.  Cyfeiriwyd hefyd at yr wybodaeth a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen ac a oedd yn ymwneud â'r ceisiadau penodol.  Er mwyn caniatáu ceisiadau aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn y ceisiadau ar y rhaglen fel y bo’n briodol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

CAIS RHIF 43/2015/0315/PF - SAFLE YN SANDY LANE, PRESTATYN pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i ddymchwel strwythurau presennol a chodi tai byw ymddeol, cyfleusterau cymunedol, tirlunio a man parcio ceir ar Safle yn Sandy Lane, Prestatyn (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i ddymchwel strwythurau presennol a chodi tai i bobl wedi ymddeol, cyfleusterau cymunedol, tirlunio a lleoedd parcio ceir ar safle yn Sandy Lane, Prestatyn.

 

Siaradwr Cyhoeddus -

 

Manylodd Mr. C. Butt (McCarthy & Stone Ltd) (O blaid) ar rinweddau'r cais o ran darparu llety ymddeol arbenigol sydd ei ddirfawr angen yn yr ardal.  Roedd pob maen prawf wedi'u bodloni ac eithrio mynediad a gwagio yn ystod digwyddiadau perygl llifogydd eithafol fel y nodir yn Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15 a oedd wedi'i seilio ar ragdybiaethau penodol.  Byddai mesurau lliniaru yn cael eu cyflwyno gan gynnwys cynllun llifogydd a rheoli safle priodol yn ystod rhybuddion llifogydd.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Cyflwynodd y Swyddog Cynllunio (IW) y cais gan gadarnhau cefnogaeth gyffredinol i'r ffactorau cadarnhaol sy'n deillio o'r cynnig.  Fodd bynnag, roedd y perygl o lifogydd yn fater o bwys ac ymhelaethodd ar y rhesymau y tu ôl i argymhelliad y swyddogion i wrthod y cais o ystyried: ‘Na ellid cyflawni’r meini prawf Derbynioldeb ar gyfer goblygiadau llifogydd’ yn TAN 15 gan na fyddai llwybrau dianc / gwagio yn weithredol yn unrhyw amodau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jason McLellan (Aelod Lleol) at y gefnogaeth leol ar gyfer y datblygiad a siaradodd o blaid y cais gan ailadrodd y manteision cadarnhaol o ran yr economi, datblygu safle segur a derbyn taliad swm gohiriedig.  Dadleuodd fod y meini prawf nad oedd wedi eu cyflawni yn TAN 15 yn seiliedig ar siawns o 1:1000 o lifogydd a oedd yn ddehongliad cul nad oedd wedi ei weithredu gyda datblygiadau eraill mwy diweddar.  Cydnabu’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill hefyd fanteision y cynllun.  Er yn cydnabod pryderon y swyddogion, amlygodd yr angen i fod yn realistig o ystyried pa mor annhebygol y byddai digwyddiad mor eithafol yn digwydd o gwbl.

 

Yn ystod y drafodaeth fanwl a ddilynodd, nododd aelodau rinweddau'r cais a chanlyniadau cadarnhaol ac ystyriwyd a oedd y bendithion hynny’n gorbwyso'r pryderon am berygl llifogydd sy'n deillio o'r methiant i gyrraedd y meini prawf derbynioldeb yn TAN 15 o safbwynt goblygiadau llifogydd mewn digwyddiad llifogydd eithafol ac a ellid lliniaru'r perygl ymhellach drwy osod amodau ychwanegol.  Credai sawl aelod bod digwyddiad llifogydd eithafol o'r fath yn annhebygol iawn gan y byddai’r realiti’n gadael llawer o’r Rhyl a Phrestatyn o dan ddŵr.  O ystyried y diffyg hanes o lifogydd ar safle'r cais, ei bellter oddi wrth y môr a mesurau gwagio yn sgil llifogydd ychwanegol roedd llawer o gefnogaeth i ganiatáu'r cais.  Awgrymwyd hefyd y byddai'r datblygiad arfaethedig yn caniatáu mwy o ddraenio ar y safle ac yn lleihau’r perygl o lifogydd yn yr ardal.  Nododd yr Aelodau bod datblygiadau eraill ger safle'r cais ac mewn ardaloedd perygl llifogydd yn y Rhyl a Phrestatyn wedi cael eu cymeradwyo o'r blaen.  Canmolodd y Cynghorydd Stuart Davies y datblygiad a’r rheolaeth o gynllun ymddeol tebyg gan yr Ymgeisydd yn Llangollen gan nodi fod hynny’n rhoi sicrwydd pellach.  Anogodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y dylid bod yn ofalus wrth benderfynu ar y cais a chyfeiriodd at y llifogydd yn Ystâd Glasdir ym mis Tachwedd 2012, a gafodd ganiatâd cynllunio yn dilyn cyfrifiadau perygl llifogydd.  Gofynnodd am ragor o wybodaeth a sicrwydd ynghylch y modelau llifogydd a'r broses asesu yn yr achos hwn.  Gofynnodd Aelodau hefyd a ellid gosod amodau ychwanegol er mwyn bodloni'r meini prawf derbynioldeb a oedd heb eu cyflawni dan TAN 15 ac a roddwyd ystyriaeth i astudiaethau eraill o’r llanw yn ystod y broses asesu ynghyd ag unrhyw bosibilrwydd o gryfhau amddiffynfeydd rhag llifogydd.

 

Dyma oedd ymatebion y Swyddogion i gwestiynau a sylwadau’r Aelodau -

 

·         roedd perygl llifogydd datblygiadau eraill fel Ysgol Bodnant, Parc Siopa Prestatyn, Nova a Glannau’r  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CAIS RHIF 11/2014/1188/PF - TIR Y TU ÔL I GLANDŴR, CLOCAENOG, RHUTHUN pdf eicon PDF 5 KB

Ystyried cais i godi 2 annedd ar wahân ar dir y tu cefn i Glandwr, Clocaenog, Rhuthun (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi 2 annedd sengl ar dir y tu ôl i Glandŵr, Clocaenog, Rhuthun.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Meirick Davies, esboniodd swyddogion fod y sylwadau a gyflwynwyd gan Gyngor Cymuned Clocaenog wedi cael eu hystyried fel gwrthwynebiad i'r cais.  O ganlyniad, roedd y cais wedi cael ei gyflwyno i'r pwyllgor i'w benderfynu.  Cytunwyd y dylai’r Cynghorydd Davies dafod y weithdrefn yn uniongyrchol gyda swyddogion y tu allan i'r cyfarfod.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 18

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

7.

CAIS RHIF 43/2016/0106/TP - 113 FFORDD GALLT MELYD, PRESTATYN pdf eicon PDF 37 KB

Ystyried cais am gael gwared ar ganghennau o goeden Castanwydden (T2), cwympo 1 goeden sycamorwydden a thocio 1 goeden Geirios (Grŵp G1) yn amodol ar Orchymyn Cadwraeth Coed Rhif  3, 1985 yn 113 Ffordd Meliden, Prestatyn (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i docio canghennau Castanwydden (T2), torri 1 sycamorwydden i lawr a thocio 1 coeden Geirios (Grŵp G1) yn amodol ar Orchymyn Cadwraeth Coed Rhif 3, 1985 yn 113 Ffordd Gallt Melyd, Prestatyn.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Cydnabu’r Cynghorydd Peter Evans (Aelod Lleol) mai’r cyfeiriad post ar gyfer Ffordd Gallt Melyd oedd Prestatyn ond gofynnodd er mwyn eglurder, i adroddiadau yn y dyfodol gyfeirio at y lleoliadau hynny yn ward Gallt Melyd fel 'Gallt Melyd, Prestatyn' yn hytrach na Ffordd Gallt Melyd, Prestatyn .  Cytunodd y Swyddog Cynllunio i godi'r mater gyda'r Tîm Mapio.

 

Cynnig – Nododd y Cynghorydd Peter Evans ei fod wedi ymweld â’r safle ac roedd yn barod i gynnig argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Arwel Roberts.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU - 17

GWRTHOD - 1

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

8.

CAIS RHIF 44/2016/0180/PF - 43 HEOL HENDRE, RHUDDLAN pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais am godi cegin awyr agored dan do ar ochr yr annedd yn 43 Heol Hendre, Rhuddlan (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi cegin awyr agored dan do ar ochr yr annedd yn 43 Heol Hendre, Rhuddlan.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Nododd y Cynghorydd Arwel Roberts (Aelod Lleol) y sylwadau a gyflwynwyd gan Gyngor Tref Rhuddlan a dywedodd nad oedd wedi cymryd unrhyw ran yn y drafodaeth honno.  Ar ôl ymweld â'r safle, nid oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i'r cais.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Arwel Roberts argymhelliad y swyddogion i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Cefyn Williams.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 18

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

9.

NODIADAU CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL DRAFFT: CADWRAETH A GWELLA BIOAMRYWIAETH - DOGFEN YMGYNGHORI pdf eicon PDF 164 KB

Ystyried adroddiad yn argymell bod Aelodau yn cytuno ar y Canllawiau Cynllunio Atodol drafft ar Gadwraeth a Gwella Bioamrywiaeth fel sail ar gyfer ymgynghori cyhoeddus (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus adroddiad yn cyflwyno dogfen ddrafft Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) ar Gadwraeth a Gwella Bioamrywiaeth fel sail ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.  Atgoffodd y Cynghorydd Smith aelodau o'r gwahanol gamau yn y broses cyn i’r Pwyllgor Cynllunio fabwysiadu dogfennau’r CCA yn derfynol.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Meirick Davies y dylid cymeradwyo argymhelliad y swyddogion, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - 17

YN ERBYN - 1

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD bod yr aelodau'n cytuno ar y Canllawiau Cynllunio Atodol drafft ar Gadwraeth a Gwella Bioamrywiaeth, fel y nodwyd yn Atodiad 1 sydd ynghlwm i’r adroddiad, i ymgynghori’n gyhoeddus arno am leiafswm o wyth wythnos.

 

 

10.

CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL YNNI ADNEWYDDADWY – I’W MABWYSIADU pdf eicon PDF 94 KB

1

Ystyried adroddiad yn argymell mabwysiadu'r Canllawiau Cynllunio Atodol terfynol ar Ynni Adnewyddadwy ar gyfer eu defnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus adroddiad yn argymell mabwysiadu'r Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) terfynol ar Ynni Adnewyddadwy i’w defnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad wyth wythnos ac roedd crynodeb o'r sylwadau a dderbyniwyd ynghyd ag ymateb y Cyngor wedi'u cynnwys fel atodiad i'r adroddiad.  Wrth ymateb i'r sylwadau hynny cynigiwyd nifer o newidiadau a amlygwyd yn y ddogfen derfynol.

 

Yn ystod y drafodaeth cododd y Cynghorydd Joe Welch y materion canlynol -

 

·         cyfeiriodd at Asesiad Sensitifrwydd a Chynhwysedd Tirwedd Conwy a Sir Ddinbych (Mai 2013) nad oedd yn cynnwys manylion am bob caniatâd diweddar i dyrbinau gwynt - cadarnhaodd y swyddogion fod y ddogfen wedi ei chynnwys fel atodiad er gwybodaeth gefndirol a bod cofnodion ar wahân yn cael eu cadw o bob caniatâd a roddwyd a thyrbinau gwynt a adeiladwyd

·         diolchodd i'r swyddogion am ystyried barn y Cynghorau Cymuned ym mharagraff 6.4.4 o ran y ffafriaeth i geblau tanddaearol ac y dylid cael trafodaeth bellach lle byddai lein o geblau ar bolion

·         gofynnodd am eglurder o fewn paragraff 6.7.1 ynghylch datgomisiynu datblygiad diangen - dywedodd y swyddogion y byddai angen ystyried pob cais yn ôl eu rhinweddau eu hunain gan ystyried yr hyn a ystyriwyd yn rhesymol dan yr amgylchiadau.

 

Diolchodd y Cynghorydd David Smith y swyddogion a gyfrannodd at ddatblygu dogfennau’r CCA am eu holl waith caled.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y dylid cymeradwyo argymhelliad y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Joan Butterfield.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - 16

YN ERBYN - 1

YMATAL - 1

 

PENDERFYNWYD bod yr aelodau’n mabwysiadu'r Canllawiau Cynllunio Atodol terfynol ar Ynni Adnewyddadwy sydd ynghlwm fel Atodiad 1 i'r adroddiad, gyda’r newidiadau a argymhellwyd, i'w defnyddio gan ymgeiswyr wrth gyflwyno ceisiadau cynllunio ac ar gyfer swyddogion ac aelodau wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.

 

Cyn cau'r cyfarfod diolchodd y Cadeirydd i'r aelodau am eu cydweithrediad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac i’r swyddogion am eu cefnogaeth.  Estynnodd ei ddymuniadau gorau hefyd i'r Is-Gadeirydd, y Cynghorydd Win Mullen-James gan obeithio y byddai’n cael gwellhad buan.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10.45 a.m.