Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Gweinyddwr Pwyllgor 01824 706715  E-bost: democrataidd@sirddinbych.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

Cyn dechrau’r cyfarfod, dywedwyd nad oedd y Cadeirydd, y Cynghorydd Raymond Bartley, yn gallu mynychu'r cyfarfod ac yn ei absenoldeb, y byddai’r Is-gadeirydd, y Cynghorydd Bill Cowie (a elwir yn ‘Cadeirydd’ o hyn allan), yn cadeirio cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio.

 

 

1.

Ymddiheuriadau pdf eicon PDF 10 KB

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 59 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd Gareth Sandilands – Cysylltiad Personol – Eitem Rhif 8 ar y rhaglen

 

Cynghorwyr Joan Butterfield, David Simmons, Julian Thompson-Hill a Meirick Lloyd Davies – Cysylltiad Personol - Eitem Rhif 9 ar y Rhaglen 9

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 261 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2016 (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2016.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2016 fel cofnod cywir.

 

 

CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 – 10 AR Y RHAGLEN)

Cyflwynwyd ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y pwyllgor ynghyd â dogfennau cysylltiol.  Cyfeiriwyd hefyd at yr wybodaeth a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen ac a oedd yn ymwneud â'r ceisiadau penodol.  Er mwyn caniatáu ceisiadau aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn rhaglen y ceisiadau fel y bo’n briodol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

RHIF Y CAIS 03/2016/0300/PF - TIR ODDI AR FFORDD Y FICERDY, LLANGOLLEN pdf eicon PDF 60 KB

Ystyried cais i godi 95 o dai, ynghyd â ffyrdd cysylltiedig, mannau agored a gwaith cysylltiedig ar dir oddi ar Ffordd y Ficerdy, Llangollen (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi 95 annedd, ynghyd â ffyrdd cysylltiedig, mannau agored a gwaith cysylltiedig ar dir oddi ar Ffordd y Ficerdy, Llangollen.

 

Siaradwyr Cyhoeddus -

 

Mr. Lawrence (Yn erbyn) - cododd bryderon ynghylch y cais.  Gwrthwynebodd y ffaith nad yw’r cais presennol yn debyg o gwbl i'r cais a roddwyd yn 1997, pan nad oedd y cae uchaf wedi cael ei ystyried ar gyfer datblygiad. Mynegodd yr angen am fwy o dai fforddiadwy.  Hefyd mynegwyd pryderon ynghylch y pwysau ar ysgolion a faint o le agored y bydd yna o fewn y datblygiad arfaethedig.

 

Mr. Gilbert (O blaid) – rhoddodd gefndir a gwybodaeth am y datblygiad.  Roedd y safle cyfan wedi ei ddyrannu ar gyfer datblygu o fewn y CDLl.  Cafwyd trafodaethau gyda swyddogion cynllunio ac roedd datblygwyr yn cydymffurfio â safonau cynllunio Sir Ddinbych.  Byddai ffordd newydd arfaethedig mewn perthynas â'r cais, a fyddai'n gwella'r problemau ac yn lleddfu pryderon trigolion lleol.

 

Dadl Gyffredinol - Cyfeiriodd y Swyddog Cynllunio at y safle a ddyrannwyd yn cyfuno 2 lain o dir - un yn cynnwys caniatâd cynllunio sy’n bodoli ar gyfer 50 o anheddau a'r ail wedi ei glustnodi yn y CDLl ar gyfer datblygiad o 45 o anheddau. 

 

Yn ystod trafodaeth ddwys, codwyd y pwyntiau canlynol:

 

·       Roedd y caniatâd cynllunio blaenorol yn dal yn fyw oherwydd y ffaith bod y ffordd fynediad i'r datblygiad wedi cael ei hadeiladu o fewn 5 mlynedd o ddyddiad rhoi'r caniatâd cynllunio.

·       Man Agored - Yn dilyn trafodaethau, roedd man agored cyhoeddus mwy, a mwy canolog, wedi cael ei gynnig.  Cynigiwyd bod y cyfrifoldebau rheoli yn gorwedd gyda'r datblygwr / tirfeddiannwr a byddai'n cael ei sicrhau drwy gytundeb cyfreithiol.  Cynigiwyd £1818.28 yn ychwanegol fel cyfraniad at ddarpariaeth oddi ar y safle.

·       Roedd strategaeth ddraenio wedi’i chyflwyno yn nodi bod ffosydd cerrig yn ddewis realistig ar y safle.  Ystyriodd y Swyddogion bod digon o wybodaeth wedi’i chyflwyno i ddangos y gellid rheoli dŵr budr a dŵr wyneb yn dderbyniol.  Nid oedd union faint a lleoliad y ffosydd cerrig arfaethedig wedi cael ei sefydlu, fodd bynnag, ystyriwyd y gallai'r manylion hyn gael eu rheoli’n rhesymol drwy amod.

·       Roedd pryderon amrywiol wedi'u codi mewn perthynas ag effaith y datblygiad mewn perthynas â'r rhwydwaith priffyrdd lleol a diogelwch y ffyrdd. 

Roedd asesiadau wedi’u cynnal gan yr adran Priffyrdd, ac yn seiliedig ar y cyflwyniad, ynghyd â chasglu gwybodaeth ychwanegol, ystyriodd y Swyddogion Priffyrdd y byddai'n angenrheidiol bod y ffordd fynediad newydd yn cael ei chwblhau cyn adeiladu unrhyw anheddau.  Byddai hyn yn caniatáu i draffig adeiladu sy’n ymwneud â'r tai i ddefnyddio hon fel llwybr i mewn i'r safle.  Gan ystyried ymatebion yr ymgynghorai technegol, manylion y trefniadau mynediad a pharcio arfaethedig, dyluniad cyffyrdd, lleoliad y safle a graddfa'r datblygiad, ni ystyriwyd y byddai'r datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar y rhwydwaith priffyrdd lleol.

·       Y cynnig oedd codi 95 o anheddau ar 3.7 hectar. 

Byddai hyn yn cynrychioli dwysedd o 26 o anheddau fesul hectar, a oedd yn is na’r ffigwr a fyddai'n codi o gymhwyso'r ffigur Polisi RD1, o 35 annedd fesul hectar.

·       Gwnaethpwyd cytundeb gyda'r datblygwyr mewn perthynas â chyfraniad addysg a gynigiwyd i'w sicrhau drwy gytundeb cyfreithiol.

·       Cafodd ei gadarnhau gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fod y cais ar gyfer 95 o anheddau, a oedd yn cynnwys cais blaenorol am 50 o anheddau.  Roedd y caniatâd cynllunio a oedd yn bodoli, ar gyfer gosodiad a dyluniad gwahanol.  Roedd y cais presennol ar gyfer y safle cyfan o 95 o anheddau.

·       Fe wnaeth nifer o Aelodau gwestiynu dyraniad y tai fforddiadwy.  Eglurodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fod  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

Ar y pwynt hwn (11.40 am) cafwyd egwyl o 20 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 12.00p.m.

 

 

 

6.

RHIF Y CAIS 43/2016/0432/PF – YSTÂD DDIWYDIANNOL PARC DYFFRYN, FFORDD PENDYFFRYN, PRESTATYN pdf eicon PDF 29 KB

Ystyried cais i ddymchwel adeiladau presennol a chodi siop fwyd (Dosbarth A1), maes parcio a meysydd gwasanaeth, mynediad i gerbydau a cherddwyr a gwaith cysylltiedig ar Ystâd Ddiwydiannol Parc Dyffryn, Ffordd Pendyffryn, Prestatyn (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i ddymchwel adeiladau presennol a chodi siop fwyd (Dosbarth A1), maes parcio a meysydd gwasanaeth, mynediad i gerbydau a cherddwyr a gwaith cysylltiedig ar Ystâd Ddiwydiannol Parc Dyffryn, Ffordd Pendyffryn, Prestatyn.

 

Siaradwr Cyhoeddus-

 

Mr Stuart Jarine (O blaid) - siaradodd ar ran yr ymgeisydd yn rhoi gwybod bod y safle wedi bod yn wag ers dros 10 mlynedd, a byddai'r datblygiad yn welliant i'r dref.  Byddai'r archfarchnad yn darparu hyd at 40 o swyddi i bobl leol.  Roedd Lidl yn awyddus i fuddsoddi yn Sir Ddinbych ac wedi cynllunio y byddai’r siop yn agor yn 2018.

 

Dadl Gyffredinol - amlinellodd y Rheolwr Datblygu pa mor agos oedd y safle at Stryd Fawr Prestatyn.  Esboniodd fod yr adroddiad yn nodi’r holl ystyriaethau cynllunio perthnasol, nid oedd unrhyw wrthwynebiad wedi dod i law a chafwyd cefnogaeth leol.

 

Cefnogodd y Cynghorwyr Bob Murray, Gareth Sandilands a Julian Thompson-Hill y cais, ond mynegwyd rhai pryderon ynghylch faint o draffig y bydd yno.  Cadarnhawyd gan yr Uwch Beiriannydd, bod ystyriaeth lawn wedi'i rhoi i oblygiadau priffyrdd y datblygiad ac wrth gydnabod amheuon lleol, ystyriwyd bod y cynigion yn dderbyniol o ran diogelwch priffyrdd a darpariaeth parcio, ac yn cydymffurfio â'r polisïau a chanllawiau cynllunio perthnasol.

 

Roedd y Datganiad Ieithyddol Cymunedol cryno a gyflwynwyd gyda'r cais yn dod i'r casgliad na fyddai'r cynigion yn cael unrhyw effaith negyddol ar anghenion a buddiannau'r iaith Gymraeg.

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies fod amod ychwanegol yn cael ei gynnwys yn delio â Strategaeth Cyflogaeth Leol, i gynnwys effeithiau ar yr iaith Gymraeg, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Rhys Hughes.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac i gynnwys yr amod ychwanegol ar gyfer effaith ar yr iaith Gymraeg, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Anton Sampson.

 

PLEIDLAIS:

O blaid - 20

Ymatal - 0

Gwrthod - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad, ac i gynnwys yr amod ychwanegol ar gyfer effeithiau ar yr iaith Gymraeg.

 

 

7.

RHIF Y CAIS 45/2016/0740/PF - THEATR Y PAFILIWN A HEULFAN A THIR CYFAGOS/MEYSYDD PARCIO CEIR A CHOETS, EAST PARADE, Y RHYL pdf eicon PDF 64 KB

Ystyried cais i ailddatblygu 4.25 hectar o dir gan gyfuno’r elfennau (Llawn/Amlinellol) hybrid canlynol :- Dymchwel yr hen “Heulfan” ac ail-wneud tu allan Theatr y Pafiliwn sydd ynghlwm â hi sy'n cynnwys tros-gladin. (Llawn)- Adeiladu Canolfan Arddangos/Ddigwyddiadau Dosbarth D2 4,000m2 fel estyniad i Theatr y Pafiliwn (Amlinellol)- Adeiladu gwesty Dosbarth C1 73 ystafell wely 2,825m2 ar wahân. (Llawn) - Codi 2 Fwyty i Deuluoedd Dosbarth A3 (Amlinellol)- Cadw ac ailddefnyddio ciosg manwerthu presennol ac adeilad sied trên tir at ddefnydd manwerthu/hamdden/cymunedol (Llawn)- Maes parcio newydd wedi'i ailgynllunio i geir/coetsis (Llawn)- Gwelliannau a newidiadau i fynedfa cerbydau ac ardaloedd troi presennol. (Llawn) – manylion tirlunio caled a meddal (Llawn/Amlinellol) yn Theatr y Pafiliwn, Heulfan a thir/meysydd parcio ceir a choetsis cyfagos, East Parade, Y Rhyl (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i ailddatblygu 4.25 hectar o dir gan gyfuno’r elfennau (Llawn/Amlinellol) hybrid canlynol:- Dymchwel yr hen “Heulfan” ac ail-wneud tu allan Theatr y Pafiliwn sydd ynghlwm â hi, sy'n cynnwys tros-gladin. (Llawn)- Adeiladu Canolfan Arddangos/ Ddigwyddiadau Dosbarth D2 4,000m2 fel estyniad i Theatr y Pafiliwn   (Amlinellol) - Adeiladu gwesty Dosbarth C1 73 ystafell wely 2,825m2 ar wahân.  (Llawn) - Codi 2 Fwyty i Deuluoedd Dosbarth A3 (Amlinellol) - Cadw ac ailddefnyddio ciosg manwerthu presennol ac adeilad sied trên tir at ddefnydd manwerthu/hamdden/cymunedol (Llawn) - Maes parcio newydd wedi'i ailgynllunio i geir/coetsis (Llawn) - Gwelliannau a newidiadau i fynedfa cerbydau ac ardaloedd troi presennol.  (Llawn) – Manylion tirlunio caled a meddal (Llawn/Amlinellol) yn Theatr y Pafiliwn, yr Heulfan a thir/meysydd parcio ceir a choetsis cyfagos, East Parade, Y Rhyl.

 

Siaradwr Cyhoeddus-

 

Mr R Gee (O blaid) - siaradodd ar ran yr ymgeisydd, Neptune Developments Ltd. Roedd y datblygiad i fod yn gam allweddol cyntaf o ddatblygiad Glannau’r Rhyl a fwriadwyd i ailddyfeisio ac adfywio glan y môr y Rhyl.  Byddai'r datblygiad yn creu nifer sylweddol o swyddi ac yn gwella twristiaeth.

 

Dadl Gyffredinol - Dywedodd y Cynghorydd David Simmons (aelod ward) y byddai’r datblygiad hwn yn gyfle gwych i'r Rhyl a Sir Ddinbych.

 

Hysbysodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, y Pwyllgor, er nad oedd yn aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, ei fod eisiau esbonio faint o waith oedd wedi digwydd rhwng Cyngor Sir Ddinbych, Llywodraeth Cymru, Neptune Developments Ltd, a buddsoddwyr preifat.  Roedd gan y Rhyl fater adfywio ar hyn o bryd ond roedd yn gobeithio y byddai hyn yn sbarduno newid ar gyfer y Rhyl.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd David Simmons argymhelliad y swyddogion i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Joan Butterfield.

 

PLEIDLAIS:

O blaid - 18

Ymatal - 0

Gwrthod - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

8.

RHIF Y CAIS 03/2016/0845/LB – BWTHYN PEN Y BEDW, BIRCH HILL, LLANGOLLEN pdf eicon PDF 29 KB

Ystyried Cais Adeilad Rhestredig ar gyfer disodli strwythur to presennol ar heulfan yn y cefn i do gwydr; adfer strwythur y to pyramid sgwâr yn y cefn, ffurfio gorchudd to clad sinc lliw llechen naturiol uwchben storfa i’r cefn a newid gwteri a pheipiau landeri i haearn bwrw ym Mwthyn Pen Y Bedw, Birch Hill, Llangollen (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cais Adeilad Rhestredig ar gyfer disodli strwythur to presennol ar heulfan yn y cefn i do gwydr; adfer strwythur y to pyramid sgwâr yn y cefn, ffurfio gorchudd to clad sinc lliw llechen naturiol uwchben storfa i’r cefn a newid gwteri a pheipiau landeri i haearn bwrw ym Mwthyn Pen y Bedw, Birch Hill, Llangollen.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Rhys Hughes argymhelliad y swyddogion i gymeradwyo’r cais Adeilad Rhestredig, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Brian Blakeley.

 

PLEIDLAIS:

O blaid - 18

Ymatal - 0

Yn erbyn – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais Adeilad Rhestredig, yn unol ag argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

9.

RHIF Y CAIS 23/2016/0875/PF – COEDWIG CLOCAENOG, SARON, DINBYCH pdf eicon PDF 28 KB

Ystyried cais i godi is-orsaf drydan 132kV a gwaith cysylltiedig (cais diwygiedig) yng Nghoedwig Clocaenog, Saron, Dinbych (copi ynghlwm).

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi is-orsaf drydan 132kV a gwaith cysylltiedig (cais diwygiedig) yng Nghoedwig Clocaenog, Saron, Dinbych.

 

Dywedodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Joe Welch, fod cais wedi ei gyflwyno ar gyfer is-orsaf drydan a gwaith cysylltiedig yn 2014 a oedd wedi cael ei wrthod, ond a roddwyd ar apêl ar 1 Mehefin 2016. Roedd yn ymddangos bod ardal y lle caeedig yn llai na'r cais cynllunio gwreiddiol, ond bu cynnydd yn yr uchder penodedig.

 

Eglurodd y Swyddog Cynllunio fod y cais o gymeriad gwahanol, a byddai effaith o'r gwreiddiol ac effaith sŵn yn cael eu darparu gydag amodau cynllunio.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Rhys Hughes argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Dewi Owens.

 

PLEIDLAIS:

O blaid - 12

Ymatal - 0

Yn erbyn - 7

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

 

10.

RHIF Y CAIS 47/2016/0997/PF – GROESFFORDD TREMEIRCHION pdf eicon PDF 58 KB

Ystyried cais i godi uchder wal terfyn flaen Groesffordd, Tremeirchion (copi ynghlwm)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i gynyddu uchder y wal derfyn flaen yn y Groesffordd, Tremeirchion, Llanelwy.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais cynllunio, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Huw Williams.

 

PLEIDLAIS:

O blaid - 18

Ymatal - 0

Gwrthod - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

11.

CADARNHAU DAU ORCHYMYN CADW COED CYNGOR SIR DDINBYCH MEWN PERTHYNAS Â THIR YN ARDAL GALLT MELYD pdf eicon PDF 261 KB

Ystyried adroddiad yn cadarnhau Gorchymyn Cadw Coed Rhif 03/2016 Cyngor Sir Ddinbych sy'n ymwneud â thir yn Ffordd Hendre, Gallt Melyd a Gorchymyn Cadw Coed Rhif 04/2016 Cyngor Sir Ddinbych sy'n ymwneud â thir ym Maes Meurig, Gallt Melyd.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu adroddiad i Aelodau’n cadarnhau Gorchymyn Cadw Coed Rhif 03/2016 Cyngor Sir Ddinbych sy'n ymwneud â thir yn Ffordd Hendre, Gallt Melyd a Gorchymyn Cadw Coed Rhif 04/2016 Cyngor Sir Ddinbych sy'n ymwneud â thir ym Maes Meurig, Gallt Melyd.

 

Roedd y Cyngor wedi gwneud defnydd o'r pwerau a nodir yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, adran 201 (Gorchmynion Cadw Coed dros dro) ar 9 Awst 2016. Roedd angen penderfyniad ynghylch bwriad y Cyngor i gadarnhau'r Gorchmynion Cadw Coed, cyn i'r Gorchmynion Cadw Coed dros dro priodol ddod i ben ar ddechrau mis Chwefror 2017. Roedd un o'r Gorchmynion (Maes Meurig) â gwrthwynebiad, fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Roedd Gorchmynion Cadw Coed yn gyffredinol yn anelu at gadw coed unigol neu grŵp o goed sy'n cyfrannu at nodweddion o'r dirwedd, yn darparu amwynder ar gyfer mwynhad y cyhoedd, yn darparu cynefin i fywyd gwyllt lleol, neu oherwydd eu prydferthwch cynhenid.  Mewn termau cyfreithiol, maent yn ei gwneud yn drosedd difrigo, tocio, diwreiddio, difrodi neu ddifetha coeden yn fwriadol, neu dorri coeden i lawr, heb ganiatâd yr awdurdod cynllunio lleol.

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Peter Evans i dderbyn argymhelliad y swyddog i gadarnhau Gorchmynion Cadw Coed, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Gareth Sandilands.

 

PLEIDLAIS:

O blaid - 17

Ymatal - 0

Yn erbyn - 1

 

 PENDERFYNWYD bod aelodau'n cadarnhau Gorchymyn Cadw Coed Rhif 03/2016 Cyngor Sir Ddinbych sy'n ymwneud â thir yn Ffordd Hendre, Gallt Melyd a Gorchymyn Cadw Coed Rhif 04/2016 Cyngor Sir Ddinbych sy'n ymwneud â thir ym Maes Meurig, Gallt Melyd, yn unol ag argymhelliad y swyddog fel a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

Yn y fan hon, fe wnaeth Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ddymuno adferiad llwyr i’r Cynghorydd Raymond Bartley (Cadeirydd) a diolchodd i'r Cynghorydd Bill Cowie am gadeirio'r cyfarfod.  Fe wnaeth hefyd ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd i bawb.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Bill Cowie ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.50 pm.