Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Gweinyddwr Pwyllgor 01824 706715  E-bost: democrataidd@sirddinbych.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 19 KB

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGANIADAU O GYSYLLTIAD pdf eicon PDF 88 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd Ray Bartley – Cysylltiad Personol – Eitem 5, 6 a 7 ar y Rhaglen

 

Y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies a Mark Young – Cysylltiad Personol – Eitemau rhif 5 ac 6 ar y Rhaglen

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 213 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2016 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2016.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2016 fel cofnod cywir.

 

 

CEISIADAU I GAEL CANIATÂD DATBLYGU (EITEMAU 5 – 8 AR Y RHAGLEN)

Cyflwynwyd ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y Pwyllgor ynghyd â dogfennau cysylltiol.  Cyfeiriwyd hefyd at wybodaeth atodol hwyr (taflenni glas).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

CAIS RHIF 01/2014/1330PF - HEN YSBYTY GOGLEDD CYMRU, DINBYCH pdf eicon PDF 36 KB

Ystyried cais i drawsnewid, adfer, dymchwel rhai rhannau ac addasu’r prif adeiladau rhestredig at ddibenion preswyl (34 annedd), a datblygu tir yr ysbyty ar gyfer defnydd cymysg i alluogi datblygu, gan gynnwys hyd at 200 o unedau preswyl a hyd at 1114 metr sgwâr o unedau busnes, mynediad a gwaith cysylltiedig ar safle hen Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Datganodd y Cyng Raymond Bartley a Mark Young gysylltiad personol oherwydd eu bod yn aelodau o Gyngor Tref Dinbych.]

 

[Datganodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies gysylltiad personol oherwydd ei fod yn gweithio yn yr ysbyty o'r blaen.]

 

Cyflwynwyd cais i drawsnewid, adfer, dymchwel rhai rhannau ac addasu’r prif adeiladau rhestredig at ddibenion preswyl (34 annedd), a datblygu tir yr ysbyty ar gyfer defnydd cymysg i alluogi datblygu, gan gynnwys hyd at 200 o unedau preswyl a hyd at 1114 metr sgwâr o unedau busnes, mynediad a gwaith cysylltiedig ar safle hen Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych.

 

Dadl gyffredinol - Rhoddodd y Swyddog Cynllunio (IW) rywfaint o wybodaeth gefndirol a oedd yn cyffwrdd ar hanes y safle, gan gynnwys ei gau yn 1995 a statws rhestredig yr adeiladau, a gafodd eu hystyried gan CADW i fod yr enghraifft orau o'i math yng Nghymru. Roedd polisïau cynllunio wedi'u datblygu a oedd yn caniatáu i alluogi datblygiad i helpu greu cyfalaf i gynorthwyo ag adfer yr adeiladau. Roedd y cais yn debyg o ran natur i un a gafodd ganiatâd yn 2006.

Cadarnhawyd mai perchennog presennol y safle oedd Freemont (Dinbych) Cyf, ond yr ymgeisydd ar gyfer y cais cynllunio oedd Ymddiriedolaeth Adfywio'r Tywysog yn gweithredu ar ran Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Gogledd Cymru.  Roedd y Gorchymyn Prynu Gorfodol wedi’i gadarnhau, ond roedd Datganiad Breinio Cyffredinol yn aros i gael ei gyflwyno, a fyddai'n gofyn am awdurdodiad y Pwyllgor Cynllunio.  Wrth weithredu’r Datganiad Breinio Cyffredinol a mynd heibio’r dyddiad breinio, yna byddai'r teitl yn cael ei basio i'r cyngor.  Unwaith y bydd y cyngor wedi cymryd perchnogaeth o’r safle, byddent yn ei drosglwyddo ar unwaith i Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Gogledd Cymru. Roedd yr Ymddiriedolaeth wedi'i sefydlu i ddelio ag Adeiladau Rhestredig cymhleth a mawr ledled y DU.  Unwaith roedd y berchnogaeth wedi’i throsglwyddo i Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Gogledd Cymru efallai y byddant yn gallu cael mynediad at gymorth grant amrywiol i gynorthwyo gyda'r datblygiad.

 

Nid oedd unrhyw ddarpariaeth tai fforddiadwy fel rhan o'r cais, er byddai cyfle i Gymdeithas Tai brynu rhai o'r tir i adeiladu cartrefi.

 

Nid oedd gan swyddogion priffyrdd unrhyw wrthwynebiad i'r cais yn amodol ar gynnwys amodau safonol sy’n gofyn am gymeradwyaeth o fanylion llawn y gwaith priffyrdd, ffyrdd ystad mewnol ac isadeiledd cysylltiedig, datganiad(au) dull adeiladu, a gwella cysylltiadau beicio a cherdded gyda'r dref.

 

Roedd y cynigion datblygu’n ymwneud â'r gwaith o adfer y prif Adeilad Rhestredig.  Byddai rhai adeiladau ar y safle yn cael eu dymchwel.   Nid oedd unrhyw gynigion penodol yn y cais mewn perthynas â Chartref y Nyrsys, y Capel, y Mortiwari neu adeiladau Ward Aled a gafodd eu nodi fel "adeiladau y gellid eu cadw os yw defnydd terfynol addas a hyfywedd yn cael eu canfod".

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd mai 'ymarfer papur' oedd y cam costio yn ei hanfod ar hyn o bryd, oherwydd pan fydd y tir yn cael ei brynu a thai yn cael eu hadeiladu ac yn dechrau gwerthu, byddai mwy o hyder yn y farchnad dai ac efallai y bydd prisiau yn cynyddu.  Pe rhagorwyd ar ddisgwyliadau, byddai'r Ymddiriedolaeth yn dyrannu'r cyllid i achub adeiladau eraill o fewn y safle. 

 

O ran y mater o ystlumod, cadarnhawyd y byddai mesurau lliniaru yn cael eu gweithredu i ymdrin ag effeithiau ar rywogaethau Ewropeaidd a warchodir.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Colin Hughes (Aelod Ward) ei gefnogaeth i ddatblygu'r safle a datganodd ei bwysigrwydd i dref Dinbych.   Anogodd y Cynghorydd Hughes i’r Pwyllgor Cynllunio bleidleisio o blaid y cais cynllunio.  Yn y fan hon, mynegodd ei ddiolch i'r holl gynghorwyr, swyddogion ac Ymddiriedolaeth Adfywio'r Tywysog a oedd wedi bod yn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CAIS RHIF 01/2014/1331/LB - HEN YSBYTY GOGLEDD CYMRU, DINBYCH pdf eicon PDF 112 KB

Ystyried cais adeilad rhestredig ar gyfer gwaith arfaethedig ar brif adeiladau'r safle, gan gynnwys dymchwel ac ailadeiladu rhai rhannau, a dymchwel adeiladau y tu ôl ac i'r gogledd o’r prif adeiladau ar safle hen Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Datganodd y Cyng Raymond Bartley a Mark Young gysylltiad personol oherwydd eu bod yn aelodau o Gyngor Tref Dinbych.]

 

[Datganodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies gysylltiad personol oherwydd ei fod yn gweithio yn yr ysbyty o'r blaen.]

 

Cyflwynwyd cais ar gyfer gwaith arfaethedig ar brif adeiladau'r safle, gan gynnwys dymchwel ac ailadeiladu rhai rhannau, a dymchwel adeiladau y tu ôl ac i'r gogledd o’r prif adeiladau (Cais Adeilad Rhestredig) ar safle hen Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych.

 

Y Cynghorydd Colin Hughes (Aelod Ward) - Cadarnhaodd ei fod wedi cael sicrwydd llawn y byddai cymaint o adeiladau ag sy'n bosibl yn cael eu cadw.  Byddai rhai adeiladau’n cael eu colli sydd wedi dirywio y tu hwnt i atgyweirio ac mae rhai nad oedd yn berthnasol i'r datblygiad yn y dyfodol.  Unwaith eto, anogodd y Pwyllgor Cynllunio i bleidleisio o blaid y cais Adeilad Rhestredig.

 

Mynegodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith, ei fod ef hefyd yn cytuno gyda'r cynigion a dywedodd bod y rhain yn ffordd ymlaen ar gyfer safle'r ysbyty.

 

Cynnig - Cynigodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais Adeilad Rhestredig, ac fe’i eiliwyd gan Huw Hilditch-Roberts.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - 21

YMATAL - 0

YN ERBYN – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

7.

CAIS RHIF 01/2016/0924/PR - TIR Y TU CEFN I 4 LÔN WYNNE RHWNG 39 A 41 FFORDD CELYN, DINBYCH pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais gyda manylion edrychiad a thirlunio a gyflwynwyd yn unol ag amod rhif 1 caniatâd cynllunio amlinellol 01/2013/0969 (cais materion a gadwyd yn ôl) ar dir y tu ôl i 4 Lôn Wynne rhwng 39 a 41 Ffordd Celyn, Dinbych (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Datganodd y Cyng Raymond Bartley gysylltiad personol oherwydd ei fod yn aelod o Gyngor Tref Dinbych.]

 

Cyflwynwyd cais gyda manylion edrychiad a thirlunio a gyflwynwyd yn unol ag amod rhif 1 caniatâd cynllunio amlinellol 01/2013/0969 (cais materion a gadwyd yn ôl) ar dir y tu ôl i 4 Lôn Wynne rhwng 39 a 41 Ffordd Celyn, Dinbych.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Mark Young argymhelliad y Swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Bill Cowie.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - 22

YMATAL - 0

YN ERBYN – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y Swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

8.

CAIS RHIF 10/2015/0936/PS - TIR WRTH YMYL TYN-Y-BEDW, BRYNEGLWYS, CORWEN pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i amrywio amodau 2 a 3 caniatâd cynllunio amlinellol rhif 10/2012/0610 i roi mwy o amser ar gyfer cyflwyno materion a gadwyd yn ôl a newid y dyddiad cychwyn mewn perthynas â’r tir wrth ymyl Tyn-y-Bedw, Bryneglyws, Corwen (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer amrywio amod rhifau 2 a 3 o ganiatâd cynllunio amlinellol rhif 10/2012/0610 i roi mwy o amser ar gyfer cyflwyno materion a gadwyd yn ôl a newid y dyddiad cychwyn mewn perthynas â’r tir wrth ymyl Tyn-y-Bedw, Bryneglwys, Corwen.

 

Y Cynghorydd Hugh Evans (Aelod Ward) - mynegodd bryderon ynghylch cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gan fod y rhain yn dirywio ac roedd angen rhoi sylw iddynt.  Hefyd mynegodd bryder ynglŷn â Dwr Cymru a oedd wedi gwrthwynebu'r datblygiad gan eu bod yn cynghori y byddai'n gorlwytho gwaith trin dŵr gwastraff ac nid oedd gwelliannau wedi’u cynllunio o fewn eu Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Hugh Evans ei gefnogaeth i argymhelliad y swyddog i alluogi bod datblygu'r safle yn symud ymlaen.

 

Dadl Gyffredinol – awgrymwyd y dylai’r amod “bydd y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn dechrau naill ai cyn i bum mlynedd o ddyddiad y caniatâd hwn ddod i ben.....” gael ei newid i dair blynedd i symud datblygiad y safle yn ei flaen yn gynt.  Eglurwyd gan Swyddogion Cynllunio na fyddai byrhau'r cyfnod yn gwella cyflymder y datblygiad.  Roedd trafodaethau'n cael eu cynnal gyda Dŵr Cymru i'w hannog i fynd i'r afael â'u Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Joe Welch argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Bill Cowie.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - 22

YMATAL - 0

YN ERBYN – 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

Ar y pwynt hwn (10.50 a.m.) cafwyd egwyl o 20 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.10am.

 

 

 

9.

BRIFF DATBLYGU SAFLE DRAFFT: SAFLEOEDD DINBYCH UCHAF pdf eicon PDF 337 KB

Ystyried adroddiad yn argymell bod aelodau yn cytuno ar y Briff Datblygu Safle drafft ar gyfer safleoedd tai arfaethedig Dinbych Uchaf, a'r ddogfen sgrinio Asesiad Amgylcheddol Strategol amgaeedig ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus adroddiad yn cyflwyno'r Brîff Datblygu Safle drafft: Safleoedd Dinbych Uchaf, fel sail ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.  Atgoffodd y Cynghorydd Smith yr Aelodau o wahanol gamau’r broses cyn i’r Pwyllgor Cynllunio fabwysiadu’r Briff Datblygu Safle yn derfynol.

 

Cadarnhaodd yr Uwch Swyddog Cynllunio y byddai'r cyfnod ymgynghori am 9 wythnos oherwydd cyfnod y Nadolig, ac y byddai'n cael ei gynnal o 5 Rhagfyr 2016 tan 3 Chwefror 2017.

 

Mynegodd y Cynghorydd Colin Hughes (Aelod Ward) ei ddiolch i'r Uwch Swyddog Cynllunio a gweddill y tîm am eu gwaith ar y Brîff Datblygu Safle Drafft.

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r Brîff Datblygu Safle Drafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, a eiliwyd gan y Cynghorydd Mark Young.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - 22

YMATAL - 0

YN ERBYN – 0

 

PENDERFYNWYD bod yr Aelodau'n cytuno ar y Briff Datblygu Safle Drafft - Safleoedd Dinbych Uchaf fel sy’n amgaeedig yn Atodiad 1 i'r adroddiad, ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

 

10.

NODIADAU CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL DRAFFT: RHWYMEDIGAETHAU CYNLLUNIO - MABWYSIADU'R DDOGFEN DERFYNOL pdf eicon PDF 269 KB

Ystyried adroddiad yn argymell mabwysiadu'r Nodyn Canllaw Cynllunio Atodol drafft  Rhwymedigaethau Cynllunio yn unol â'r newidiadau arfaethedig ar gyfer eu defnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus adroddiad yn argymell y dylid mabwysiadu’r Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Rhwymedigaethau Cynllunio.  Atgoffodd yr Aelodau o wahanol gamau’r broses cyn i’r Pwyllgor Cynllunio fabwysiadu’r ddogfen Canllawiau Cynllunio Atodol yn derfynol.

 

Yn dilyn cyfnod ymgynghori o wyth wythnos, cynigwyd sawl diwygiad mewn ymateb i'r sylwadau a dderbyniwyd, a oedd wedi'u hamlygu yn y ddogfen derfynol a’u nodi yn yr Adroddiad Ymgynghori.  

 

Tynnodd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai sylw'r Aelodau at y prif newid arfaethedig.

 

Roedd y Canllawiau Cynllunio Atodol:  Rhwymedigaethau Cynllunio’n ddogfen newydd, er ei bod yn ail-adrodd elfennau o’r canllawiau mabwysiedig presennol, fel Tai Fforddiadwy a Chynllunio a'r Iaith Gymraeg.  Os caiff ei fabwysiadu, byddai’r nodyn cyfarwyddyd newydd yn atodiad i Bolisi CDLl BSC3 “Sicrhau Cyfraniadau Isadeiledd o Ddatblygiadau”.

 

Cafwyd trafodaeth ac yn dilyn rhai Aelodau yn mynegi eu pryder ynglŷn ag elfen costau’r ddogfen, awgrymwyd gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, ar dudalen 248 Adran 14.1 yn dilyn y geiriad "... .. eang", y dylid cael atalnod llawn a bod gweddill y frawddeg yn cael ei dileu ynghyd â'r chwe phwynt bwled.  Felly, byddai’r paragraff yn darllen fel a ganlyn:

 

“14.1  Mae Sir Ddinbych yn mwynhau amgylchedd cyfoethog ac amrywiol ac mae angen gwarchod a gwella cymeriad cefn gwlad, y dirwedd a'r amgylchedd adeiledig.  Mae llawer o elfennau sy'n gallu cael eu cwmpasu o dan y term 'amgylchedd' felly gall cyfraniadau o dan y maes hwn fod yn eang".

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai y byddai'r diwygiad arfaethedig yn ymarferol.

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Barry Mellor fod yr Aelodau yn mabwysiadu'r Canllawiau Cynllunio Atodol yn cynnwys y diwygiad fel y nodwyd uchod, a eiliwyd gan y Cynghorydd Joan Butterfield.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - 21

YMATAL - 0

YN ERBYN – 0

 

PENDERFYNWYD bod yr Aelodau yn mabwysiadu'r Nodyn Canllawiau Cynllunio Atodol drafft: Rhwymedigaethau Cynllunio sy’n amgaeedig fel Atodiad 1, gyda diwygiadau a argymhellir ynghyd â’r diwygiad a gynigiwyd ac y cytunwyd arno heddiw, ar gyfer eu defnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.

 

 

11.

NODIADAU CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL DRAFFT: MANNAU AGORED HAMDDEN - DOGFEN YMGYNGHORI pdf eicon PDF 242 KB

Ystyried adroddiad yn argymell bod aelodau yn cymeradwyo Canllawiau Cynllunio Atodol drafft ‘Mannau Agored Hamdden’ ar gyfer ymgynghori cyhoeddus (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, adroddiad yn cyflwyno Nodyn Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Mannau Agored Hamdden Cyhoeddus, fel sail ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.  Atgoffodd y Cynghorydd Smith Aelodau o wahanol gamau’r broses cyn i’r Pwyllgor Cynllunio wneud y mabwysiadu terfynol.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai y byddai'r cyfnod ymgynghori am 9 wythnos oherwydd cyfnod y Nadolig, ac y byddai'n cael ei gynnal o 5 Rhagfyr 2016 tan 3 Chwefror 2017.

 

Cafwyd trafodaeth gyffredinol, a diolchodd y Cynghorydd David Smith i'r Swyddog Polisi Cynllunio am ddarn mor ddwys o waith i fannau agored gael eu defnyddio gan bobl ifanc a phobl o bob oed. 

 

Hefyd, fe anogodd y Cynghorydd Smith yr Aelodau i godi unrhyw faterion gyda'r ddogfen cyn iddi ddod yn ôl gerbron y Pwyllgor Cynllunio i'w mabwysiadu.

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield bod yr Aelodau yn cymeradwyo'r ddogfen Canllawiau Cynllunio Atodol drafft: Man Agored Hamdden, Atodiad 1, i fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus dros leiafswm o naw wythnos.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - 21

YMATAL - 0

YN ERBYN – 0

 

PENDERFYNWYD bod yr Aelodau yn mabwysiadu'r ddogfen Canllaw Cynllunio Atodol drafft: Man Agored Hamdden, yn amgaeedig fel Atodiad 1, i fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus dros leiafswm o naw wythnos.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.58 a.m.