Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Gweinyddwr Pwyllgor 01824 706715  E-bost: democrataidd@sirddinbych.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 19 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorwyr Meirick Davies, Rhys Hughes, Alice Jones, Barry Mellor, David Simmons a Cheryl Williams

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 88 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd Huw Williams -  Cysylltiad Personol - Eitem Rhif  7 ar y Rhaglen

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 186 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 14 Medi 2016 (amgaeir copi).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 14 Medi 2016 i’w cymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Medi, 2016 fel cofnod cywir.

 

 

CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 – 9) -

Cyflwynwyd ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y pwyllgor ynghyd â dogfennau cysylltiol.  Cyfeiriwyd hefyd at yr wybodaeth a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen ac a oedd yn ymwneud â'r ceisiadau penodol.  Er mwyn caniatáu ceisiadau aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau cytunwyd y dylid amrywio trefn rhaglen y ceisiadau fel y bo’n briodol.

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

CAIS RHIF 10/2016 /0664/PF - TAL Y BIDWAL BACH, BRYNEGLWYS, CORWEN pdf eicon PDF 34 KB

Ystyried cais i osod ffenestri to mewn cysylltiad ag addasu'r atig yn Nhal y Bidwal Bach, Bryneglwys, Corwen (amgaeir copi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i osod ffenestri to mewn cysylltiad ag addasu'r atig yn Nhal y Bidwal Bach, Bryneglwys, Corwen.

 

Siaradwyr Cyhoeddus-

 

Eglurodd Mr. Morley (Yn erbyn) – nad oedd yn gwrthwynebu'r cynllun ar y cyfan ond nododd wrthwynebiadau ynglŷn â maint arfaethedig y ffenestri to yr oedd yn dadlau y byddai'n effeithio ar amwynder gweledol a materion amgylcheddol, ac fe dynnodd sylw at y gwahaniaethau o ran ffenestri to rhwng y cynllun arfaethedig a'r eiddo cyfagos yn Heulfryn Bach.  Mynegodd bryderon hefyd ynglŷn â’r materion preifatrwydd a materion ecolegol.

 

Darparodd Mr. Lockert (O blaid) – rywfaint o gefndir i’r trefniadau byw a pherchnogaeth yr eiddo ynghyd â chyfeiriadedd yr eiddo.  Eglurodd fod y datblygiad yn unol â’r datblygiad blaenorol yn Heulfryn Bach o ran edrychiad a dyluniad cyffredinol heb unrhyw effaith negyddol.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Cyfeiriwyd at y cynllun (a ddosbarthwyd yn y cyfarfod) yn dangos y berthynas rhwng safle’r cais a’r eiddo cyfagos ac awgrymwyd amod newydd (fel y nodwyd ar y taflenni glas ategol) er mwyn lleihau’r posibilrwydd o edrych dros yr ardd breifat a’r annedd yn Heulfryn Bach.  Eglurodd y Prif Swyddog Cynllunio (IW) y byddai’r amod newydd yn ei gwneud yn ofynnol bod isafswm uchder silff  o 1.7m ar gyfer yr holl ffenestri to fel y byddai defnydd arferol yn ei gwneud yn anodd edrych dros yr eiddo cyfagos.

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Peter Evans.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 22

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

6.

CAIS RHIF 18/2016/0224/PO - TIR GYFERBYN Â CHWM TAWEL, LLANDYRNOG, DINBYCH pdf eicon PDF 5 KB

Ystyried cais i ddatblygu 0.68ha o dir ar gyfer codi 18 annedd (cais amlinellol yn cynnwys manylion mynediad a chynllun) a thir gyferbyn â Cwm Tawel, Llandyrnog, Dinbych (amgaeir copi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Huw Williams gysylltiad personol gan fod y siaradwr cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon yn gyfaill teuluol.]

 

Cyflwynwyd cais i ddatblygu 0.68ha o dir ar gyfer codi 18 annedd (cais amlinellol yn cynnwys manylion mynediad a chynllun) a thir gyferbyn â Chwm Tawel, Llandyrnog, Dinbych.

 

Siaradwr Cyhoeddus-

 

Siaradodd Shan Wyn Jones (o blaid) – ar ran yr ymgeisydd gan nodi fod y diffyg cyflenwad tai wedi’i nodi ac fe dynnodd sylw at yr angen ar gyfer tai lleol newydd er gwaethaf y caniatâd cynllunio a gymeradwywyd yn ddiweddar ar gyfer safle Maes Llan.  Pe bai’r aelodau yn penderfynu peidio â chefnogi’r datblygiad cyfan gellir gwneud penderfyniad rhanedig i roi caniatâd ar gyfer cae un yn unig.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Eglurodd y Swyddog Cynllunio (IW) y cynnig i ddatblygu dau gae at ddefnydd preswyl: un o fewn ffin ddatblygu’r pentref a’r llall y tu hwnt i’r ffin.  Mewn ymateb i’r pryderon ynglŷn â gosod cynsail pe rhoddir caniatâd y tu hwnt i’r ffin ddatblygu, eglurodd y Swyddog Cynllunio bod yn rhaid gwneud penderfyniad yn seiliedig ar ystyriaethau cynllunio perthnasol a oedd wedi’u nodi yn yr adroddiad.  Adroddodd y Cynghorydd Merfyn Parry (Aelod Lleol) safbwyntiau Cyngor Cymuned Llandyrnog gan egluro bod y cais wedi’i ystyried yn dilyn cymeradwyo caniatâd cynllunio ar gyfer deugain annedd yn safle Maes Llan.  Er nad oedd gwrthwynebiad cyffredinol i’r datblygiad yng nghae un, gan ei fod o fewn cwrtil ffin ddatblygu’r pentref, roedd gwrthwynebiad i ddatblygiad cae dau gan ei fod y tu hwnt i’r ffin a bod digon o dir wedi’i ddyrannu yn Llandyrnog i ddiwallu anghenion tai.

 

Cynnig – Roedd y Cynghorydd Dewi Owens yn ffafrio rhannu’r penderfyniad ac fe gynigodd y dylid rhoi caniatâd i ddatblygu cae un ond gwrthod cae dau.  Eglurodd y swyddogion na fyddai’n briodol rhannu’r penderfyniad yn yr achos hwn a dylid trin y cais fel un cyflawn.  Roedd argymhelliad clir gan y swyddog i wrthod y cais gan nad oedd profion allweddol wedi'u diwallu i gyfiawnhau datblygu y tu hwnt i ffin y pentref.  Cynigodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill argymhelliad y swyddog i wrthod y cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Stuart Davies.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 1

GWRTHOD - 18

YMATAL - 2

 

PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD y cais yn unol ag argymhelliad y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

EITEMAU 8, 9 a 10 AR Y RHAGLEN - TIR YN MOUNT HOUSE, BRYNIAU, DISERTH

Cyfeiriodd y Cadeirydd at eitemau 8, 9 a 10 ar y rhaglen a oeddent oll yn ymwneud â’r caniatâd cynllunio amlinellol a gymeradwywyd mewn perthynas â thir yn Mount House, Bryniau, Diserth a'r ohebiaeth ychwanegol a ddosbarthwyd i'r aelodau ers cyhoeddi’r rhaglen a’r adroddiadau.  Er y byddai pob eitem ar y rhaglen yn cael ei hystyried yn unigol, gofynnwyd i’r swyddogion ddarparu trosolwg o’r sefyllfa yn yr achos hwn.

 

Darparodd y Swyddog Cynllunio (IW) rywfaint o wybodaeth gefndir gan egluro fod y tair eitem yn ymwneud ag un safle oedd wedi derbyn caniatâd cynllunio amlinellol gan y Pwyllgor Cynllunio ym mis Mai 2013 er mwyn codi annedd sengl.  Roedd eitemau 8 a 9 yn ymwneud ag amodau sy’n rhan o’r caniatâd hwnnw tra bo eitem 10 yn cyfeirio at adroddiad ac archwiliad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o’r cais cynllunio amlinellol gwreiddiol.  Cyfeiriwyd at lythyr y Cyfreithiwr a Chais yr Hawlydd am Adolygiad Barnwrol a Bwndel y Llys a oedd ar gael i’r aelodau ar gais y Cyfreithwyr oedd yn gweithredu ar ran yr Hawlydd (Mrs. J Walters – perchennog dau eiddo ar y safle cyfagos).  Roedd yr Aelodau eisoes wedi gweld y rhan fwyaf o’r dogfennau hynny.

 

Amlinellodd yr Arweinydd Tîm – Lleoedd (SC) y sefyllfa gyfreithiol ac adrodd bod achos yr Adolygiad Barnwrol wedi’i gyflwyno yn erbyn y Cyngor mewn perthynas â phenderfyniad y Pwyllgor Cynllunio ar 17 Chwefror 2016 i beidio â dirymu’r caniatâd cynllunio gwreiddiol a gymeradwywyd ym mis Mai 2013 ac a fyddai’n cael ei glywed ar 8 Rhagfyr 2016.  Gofynnodd Cyfreithwyr yr Hawlydd bod yr holl eitemau sy’n ymwneud â’r mater hwn yn cael eu gohirio nes y ceir penderfyniad yr Adolygiad Barnwrol ac roeddent yn ceisio gwaharddeb – fodd bynnag eglurodd yr Arweinydd Tîm fod y Pwyllgor Cynllunio mewn sefyllfa i ddelio â’r ceisiadau ac y dylid gwneud hynny ac nad oedd unrhyw sail er mwyn gwneud cais am waharddeb.  Tynnodd yr Arweinydd Tîm sylw’r aelodau at y Datganiad o Ffeithiau a Seiliau ac egluro’r seiliau ar gyfer cynnal yr Adolygiad Barnwrol a oedd yn ymwneud â -(1) mae'r penderfyniad yn cael ei ddifetha gan ragfarn amlwg; (2) torri cyfiawnder naturiol; (3) methu ag ystyried ystyriaethau perthnasol a (4) methu â rhoi rhesymau.  Tynnodd sylw hefyd at feirniadaeth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar yr achos ynghyd â chamau i fynd i’r afael â’r beirniadaethau hynny a oedd wedi’u nodi yn yr adroddiad (eitem 10).

 

Ar ôl cael gwybod am sail yr her a beirniadaethau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghyd â’r camau i fynd i’r afael â’r beirniadaethau hynny, ac o ystyried y cyngor cyfreithiol ynglŷn â’u dyletswydd i benderfynu ar y ceisiadau perthnasol, cytunodd y Pwyllgor Cynllunio y dylid parhau i benderfynu ar yr holl faterion sy’n gysylltiedig â’r caniatâd cynllunio amlinellol a restrwyd ar y rhaglen.

 

Dogfennau ychwanegol:

7.

CAIS RHIF 42/2016/0223/PR - TIR YN (RHAN O ARDD) MOUNT HOUSE, DISERTH, Y RHYL pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais am fanylion cynllun, graddfa, golwg a thirlunio annedd a gyflwynwyd yn unol ag amod rhif 1 caniatâd cynllunio amlinellol cod rhif 42/2012/1638 - tir yn (rhan o ardd) Mount House, Diserth, y Rhyl

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer manylion cynllun, graddfa, edrychiad a thirlunio annedd a gyflwynwyd yn unol ag amod rhif 1 caniatâd cynllunio amlinellol cod rhif 42/2012/1638 ar gyfer tir yn (rhan o ardd) Mount House, Diserth, y Rhyl

 

Siaradwyr Cyhoeddus-

 

Cododd Mr. Guy Evans (Yn Erbyn) –bryderon ar ran Mrs. J. Walters ynglŷn â maint a chynllun yr annedd arfaethedig gan ddadlau y byddai’n gormesu’r eiddo cyfagos ac nad oedd ei leoliad yn ffafriol ar gyfer cynllunio da ac y byddai’n cael effaith andwyol ar yr eiddo cyfagos a lleoliad yr AHNE.  Cododd bryderon hefyd ynglŷn â draenio dŵr wyneb.

 

Eglurodd Mr. Rhys Davies (O Blaid) – fod y cynllun wedi’i ddiwygio o ganlyniad i bryderon y gwrthwynebydd i sicrhau y byddai unrhyw effaith ar eiddo cyfagos yn cael ei leihau ac y byddai’n cyd-fynd â chymeriad yr ardal leol ac fe’i gefnogwyd gan Gyd-Bwyllgor yr AHNE- dadleuodd nad oedd unrhyw faterion o ran effaith ormesol ac edrych dros yr eiddo cyfagos.  Roedd y Swyddogion Cynllunio wedi cynghori nad oedd y mater o ran gwaredu dŵr wyneb o fewn cwmpas y cais.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Eglurodd y Swyddog Cynllunio (IW) fod y cais yn ymdrin â materion a gadwyd yn ôl yn unig ac a oedd y maint, y cynllun a’r ymddangosiad yn dderbyniol ar y safle.  Ceisiodd y Cynghorydd Mark Young eglurhad pellach ynglŷn â chyfreithlondeb y broses o lunio penderfyniadau ac eglurodd yr Arweinydd Tîm – Lleoedd (SC) yr egwyddor cyfreithiol cyffredinol i benderfynu ar geisiadau sy’n gysylltiedig â chaniatâd cynllunio cyfredol.

 

Cynnig - Nododd y Cynghorydd Stuart Davies fod y cynllun wedi’i ddiwygio er mwyn mynd i’r afael a phryderon y gwrthwynebydd, a gan na chafwyd gwrthwynebiad gan Gydbwyllgor yr AHNE na Chyngor Cymuned Diserth, cynigodd y dylid cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog, ac fe'i eiliwyd gan y Cynghorydd Merfyn Parry.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 20

GWRTHOD - 1

YMATAL - 1

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

8.

CAIS RHIF 42/2016/0322/PR - TIR YN (RHAN O ARDD) MOUNT HOUSE, DISERTH, Y RHYL pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i amrywio amod rhif 2 caniatâd cynllunio amlinellol rhif 42/2012/1638 i ganiatáu 2 flynedd arall ar gyfer cyflwyno cais am gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl a dileu amodau rhif 4 a 5 yn ymwneud â'r cod ar gyfer cartrefi cynaliadwy ar dir yn (rhan o ardd) Mount House, Diserth, Y Rhyl (amgaeir copi).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cais i amrywio amod rhif 2 caniatâd cynllunio amlinellol rhif 42/2012/1638 i ganiatáu 2 flynedd arall ar gyfer cyflwyno cais am gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl a dileu amodau rhif 4 a 5 yn ymwneud â'r cod ar gyfer cartrefi cynaliadwy ar dir yn (rhan o ardd) Mount House, Diserth, y Rhyl.

 

Roedd y cais yn ymwneud â 3 amod sy’n gysylltiedig â chaniatâd cynllunio amlinellol.  Roedd y swyddogion yn credu ei bod yn rhesymol dileu amodau rhif  4 a 5 sy’n ymwneud â’r cod cartrefi cynaliadwy o ystyried y newid mewn Polisi gan Lywodraeth Cymru ar y mater hwnnw.  Fodd bynnag argymhellodd y swyddogion bod y cais i amrywio amod rhif  2 i ganiatáu 2 flynedd ychwanegol ar gyfer cymeradwyo materion a gadwyd yn ôl yn cael ei wrthod oherwydd newidiadau mewn amgylchiadau cynllunio ers y cymeradwywyd y caniatâd gwreiddiol.

 

Ceisiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill eglurhad ynglŷn â chyfreithlondeb gwneud penderfyniad rhanedig a oedd yn groes i’r cyngor a roddwyd mewn perthynas â chais blaenorol ar y rhaglen.  Eglurodd y swyddogion y gwahaniaethau rhwng y ddau fath o geisiadau ac ystyriwyd bod penderfyniad rhanedig yn briodol yn yr achos hwn.  Eglurodd y Cadeirydd y byddai pleidlais ar wahân ar gyfer yr argymhellion.

 

Cynnig (1)- Cynigodd y Cynghorydd Stuart Davies argymhelliad y swyddog i wrthod amrywio amod 2, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Bill Cowie. 

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 20

GWRTHOD - 1

YMATAL - 1

 

PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD y cais i amrywio amod 2 yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Cynnig (2)- Cynigodd y Cynghorydd Stuart Davies argymhelliad y swyddog i gymeradwyo dileu Amodau 4 a 5, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Bill Cowie. 

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 20

GWRTHOD - 0

YMATAL - 1

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais i ddileu amodau 4 a5 yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

9.

ARGYMHELLION OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU YN DILYN YMCHWILIAD I YMDRINIAETH Y CYNGOR Â CHAIS CYNLLUNIO RHIF 42/2012/1368/PO - TIR YN MOUNT HOUSE, BRYNIAU, DISERTH pdf eicon PDF 219 KB

Ystyried adroddiad ar ganfyddiadau Adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynglŷn â’r achos, tir yn Mount House, Bryniau, Diserth (copi wedi'i amgáu).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ar ganfyddiadau Adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynglŷn â’r achos, tir yn Mount House, Bryniau, Diserth.

 

Siaradwr Cyhoeddus-

 

Cyfeiriodd Mr. Rhys Davies (ar ran yr ymgeisydd) –at y sylwadau hwyr a gyflwynwyd gan yr achwynydd a’r cyngor cyfreithiol a roddwyd i’r pwyllgor i symud ymlaen i lunio eu penderfyniadau.  Roedd yr achwynydd wedi cadarnhau na ddylid ystyried costau iawndal fel mater ond pe bai’r caniatâd cynllunio yn cael ei dynnu’n ôl yna byddai’n rhaid talu iawndal i berchennog y tir.

 

Amlinellodd Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y digwyddiadau a arweiniodd at gyflwyno’r adroddiad a’r cais i'r aelodau ailystyried canfyddiadau ymchwiliad yr Ombwdsmon yn yr achos hwn ac a ddylid tynnu’r caniatâd cynllunio amlinellol yn ôl.  Roedd y Pwyllgor Cynllunio wedi ystyried adroddiad yr Ombwdsmon yn wreiddiol ym mis Chwefror 2016 ac wedi penderfynu na fyddai’n briodol dirymu’r caniatâd a oedd wedi’i gymeradwyo.  Ers hynny roedd yr achwynydd wedi dwyn achos Adolygiad Barnwrol yn erbyn y penderfyniad a fyddai’n derbyn gwrandawiad ym mis Rhagfyr 2016.  Yn unol â’r cyngor cyfreithiol roedd y mater wedi’i ddwyn yn ôl o flaen yr Aelodau i’w ailystyried gan ystyried sail yr hawliad yn yr Adolygiad Barnwrol a seiliau’r her.  Pe bai’r aelodau o blaid cadarnhau eu penderfyniad i beidio â thynnu’r caniatâd yn ôl yn unol ag argymhelliad y swyddog byddai’r Cyngor mewn sefyllfa gryfach wrth wynebu’r Adolygiad Barnwrol.  Pe bai’r aelodau o blaid tynnu’r caniatâd cynllunio yn ôl yn ffurfiol, ni fyddai’r Adolygiad Barnwrol yn parhau ond byddai gan yr ymgeisydd hawl i dderbyn iawndal.  Eglurwyd, pe bai’r caniatâd yn cael ei dynnu’n ôl, byddai’r penderfyniad a wnaed ynglŷn â’r materion a gadwyd yn ôl hefyd yn cael eu dirymu.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd Tîm – Lleoedd (SC) y bu beirniadaethau ynglŷn â’r modd yr oedd y Cyngor wedi delio â’r cais cynllunio a oedd wedi’u nodi yn yr adroddiad.  Tynnodd sylw at y prawf cyfreithiol ar gyfer tynnu caniatâd yn ôl fel y nodwyd o dan Adran 97 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a diffiniad 'hwylus’ yn y cyd-destun hwnnw ac a fyddai’n briodol yn yr achos hwn o ystyried yr holl ystyriaethau gan gynnwys y ffaith pe bai’r cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio heddiw mae'n annhebygol y byddai'n derbyn caniatâd, canfyddiadau’r Ombwdsmon ar ymdriniaeth y Cyngor o’r cais, ac ystyriaethau iawndal.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Eglurodd y Cynghorydd Stuart Davies nad oedd unrhyw ystyriaethau perthnasol pellach wedi’u cyflwyno a oedd yn newid ei safbwynt.  O ystyried y prawf statudol ar gyfer tynnu’r caniatâd yn ôl, teimla’r Cynghorydd Davies y byddai effaith un annedd newydd ar eiddo’r achwynydd yn fychan, yn enwedig yn dilyn y diwygiadau a wnaed gan yr ymgeisydd mewn ymateb i’r pryderon a godwyd, ac o ystyried argymhellion yr Ombwdsmon a’r materion iawndal.  O ystyried y sefyllfa gyfreithiol a’r sylwadau a gyflwynwyd cynigodd y Cynghorydd Davies argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.  Eglurodd y Cadeirydd y byddai pleidlais ar wahân ar gyfer yr argymhellion.

 

Ceisiodd y Cynghorydd Mark Young eglurhad a fyddai’n briodol iddo bleidleisio ar y mater gan nad oedd yn aelod pan gymeradwywyd y caniatâd cynllunio amlinellol gwreiddiol.  Cynghorodd yr Arweinydd Tîm – Lleoedd (SC) gan ei fod wedi cwblhau’r hyfforddiant cynllunio gofynnol ac fel aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, roedd yn briodol iddo gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau.

 

Amlygodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts fod yr aelodau wedi’u cynghori yn ystod eu hyfforddiant y dylid ystyried pob cais ar ei rinweddau ei hun a oedd yn groes i safbwynt yr Ombwdsmon y dylai bod yr aelodau’n ymwybodol o ddau achos o wrthod caniatâd yn yr un  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

CAIS RHIF 15/2016/0828/PF - 19 MAES IÂL, LLANARMON YN IÂL, YR WYDDGRUG pdf eicon PDF 5 KB

Ystyried cais i godi estyniad un llawr i gefn annedd yn 19 Maes Iâl, Llanarmon yn Iâl, Yr Wyddgrug (amgaeir copi).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi estyniad un llawr i gefn annedd yn 19 Maes Iâl, Llanarmon Yn Iâl, Yr Wyddgrug.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Arwel Roberts argymhelliad y swyddogion i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Dewi Owens

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 22

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Ar y pwynt hwn (10.50 am) cafwyd egwyl fer.

 

11.

CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL ‘DATBLYGIADAU PRESWYL’ - MABWYSIADU DOGFEN DERFYNOL pdf eicon PDF 242 KB

Ystyried adroddiad yn argymell mabwysiadu'r ddogfen CCA drafft 'Datblygiadau Preswyl' yn unol â diwygiadau arfaethedig (amgaeir copi).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus adroddiad yn argymell y dylid mabwysiadu dogfen ddrafft Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) ar Ddatblygiad Preswyl.  Atgoffodd yr Aelodau o wahanol gamau’r broses cyn i’r Pwyllgor Cynllunio fabwysiadu’r dogfennau CCA yn derfynol.

 

Yn dilyn cyfnod ymgynghori o wyth wythnos cynigwyd salw diwygiad mewn ymateb i'r sylwadau a dderbyniwyd a oedd wedi'u hamlygu yn y ddogfen derfynol a’u nodi yn yr Adroddiad Ymgynghori.  Tynnodd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai (AL) sylw’r aelodau at y prif newidiadau a oedd yn cynnwys tirwedd ac effaith weledol, risg llifogydd, diogelu coed a chynnwys y manylion cyswllt perthnasol.  Roedd Grŵp Llywio’r CDLl hefyd wedi codi mater ynglŷn ag enwi strydoedd ac roedd paragraff ychwanegol (7.06) wedi’i gynnwys mewn perthynas â hynny.  Pe bai’n cael ei mabwysiadu byddai’r ddogfen yn disodli nifer o CCAau a oedd yn gysylltiedig â Chynllun Datblygu Unedol blaenorol Sir Ddinbych.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd -

 

·         mewn ymateb i gwestiynau ynglŷn ag adolygiad y CDLl sydd i ddod cynghorwyd yr aelodau fod gwaith cefndirol yn cael ei gyflawni gyda'r nod o ddechrau'r adolygiad ddiwedd y flwyddyn hon/dechrau'r flwyddyn nesaf – o ran y materion a godwyd mewn perthynas â thai fforddiadwy a dwysedd, eglurodd y swyddogion y gellir cynnwys yr elfennau hynny fel rhan o’r broses adolygu.

·         cyfeiriwyd at y CCA ‘Cynllunio a’r Iaith Gymraeg’ a darparwyd sicrwydd y byddai’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn cael eu hystyried wrth adolygu’r CDLl ac roedd yr elfen hon hefyd wedi'i chynnwys yn y Briffiau Datblygu Safle er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r cychwyn cyntaf.

·         cafwyd peth trafodaeth ynglŷn â’r broses o enwi strydoedd ac er nad oedd yn rhan o swyddogaeth gynllunio cytunodd y swyddogion y dylid archwilio’r broses o enwi strydoedd ar gyfer datblygiad tai ‘HM Stanley’ yn Llanelwy  a oedd yn peri pryder penodol i’r aelodau lleol, y Cynghorwyr Bill Cowie a Dewi Owens- tra’n nodi mewnbwn y Cynghorau Dinas/Tref/Cymuned yn y broses teimla’r aelodau hyn y dylid gwneud mwy i gynnwys aelodau lleol ar gam cynnar.

·         nododd yr aelodau fod y cyfeiriad at y polisi enwi strydoedd wedi'i gynnwys ym mharagraff 7.06 y ddogfen CCA er mwyn tynnu sylw'r datblygwyr at y mater yn gynnar.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r CCA drafft i’w fabwysiadu, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Cefyn Williams. 

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - 19

YN ERBYN – 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD bod yr aelodau yn mabwysiadu’r Canllaw Cynllunio Atodol drafft ar Ddatblygiadau Preswyl sydd ynghlwm fel Atodiad 1 yr adroddiad, yn unol â’r diwygiadau arfaethedig fel yr amlinellwyd yn yr Adroddiad Ymgynghori, sydd ynghlwm fel Atodiad 2 i’r adroddiad.

 

12.

DILEU NODIADAU CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL (ADRODDIAD YNGHLWM) RHIFAU 3, 5 A 21 pdf eicon PDF 89 KB

Ystyried adroddiad yn argymell dileu nodiadau CCA sy'n ymwneud â ‘Gofal Dydd i Blant’, ‘Tacsis’ a ‘Ciosgau Manwerthu’ (amgaeir copi).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus adroddiad yn argymell dileu Nodiadau Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) yn ymwneud â : Rhif 3 Gofal Dydd Plant; Rhif  5 Tacsis a Rhif  21 Ciosgau Manwerthu gan eu bod naill ai’n anghywir o ran ffeithiau neu nad oeddent yn cael eu defnyddio gan Reoli Datblygu.  Roedd y rhesymeg y tu cefn i’r argymhelliad i ddileu pob CCA wedi’i nodi yn yr adroddiad ac wedi’i dderbyn gan Grŵp Llywio’r CDLl.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Stuart Davies argymhelliad y swyddogion i ddileu’r CCAau fel y nodwyd yn yr adroddiad, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Peter Evans.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - 22

YMATAL - 0

YN ERBYN – 0

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo dileu’r Nodiadau Canllawiau Cynllunio Atodol mewn perthynas â rhif  3 Gofal Dydd Plant; Rhif  5 Tacsis a Rhif  21 Ciosgau Manwerthu.

 

13.

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR DDINBYCH 2006 - 2021: ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL DRAFFT 2016 pdf eicon PDF 255 KB

Ystyried adroddiad yn rhoi gwybod i'r aelodau am gynnwys Adroddiad Monitro Blynyddol 2016 y Cynllun Datblygu Lleol (amgaeir copi).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, adroddiad yn hysbysu’r aelodau ynglŷn â chynnwys Adroddiad Monitro Blynyddol 2016 y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) (a oedd ynghlwm fel atodiad i’r adroddiad) cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a’i gyhoeddi ar eu gwefan.

 

Amlygodd y Cynghorydd Smith fod y dull cyfrifo a nodwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyflenwad 5 mlynedd o dir ar gyfer tai yn parhau i beri pryder ond y byddai’n parhau i lobïo ar gyfer newid.  Atgoffodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yr aelodau o’r broses ar gyfer dyrannu tir ar gyfer tai sy’n barod i’w ddatblygu yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a bod y Cyngor yn credu bod nifer y safleoedd a ddyrannwyd yn mynd y tu hwnt i’r gofyniad 5 mlynedd.  Fodd bynnag, roedd y dull o gyfrifo wedi newid ac yn seiliedig ar gyfraddau adeiladu blaenorol roedd gan y Cyngor lai na'r argaeledd gofynnol o dir ar gyfer tai.  Trafododd yr aelodau a’r swyddogion y potensial ar gyfer apeliadau cynllunio mewn perthynas â safleoedd ar hap y tu allan i’r CDLl pe bai’r dull cyfrifo presennol yn parhau.  Nododd yr aelodau y byddai pryderon ynglŷn â’r dull cyfrifo a’r effaith ar awdurdodau lleol yn parhau i gael eu codi gyda Llywodraeth Cymru.

 

Amlygodd y Cynghorydd Win Mullen-James broblemau gyda theithwyr yn symud i safleoedd penodol gan gynghori bod angen datrys y mater fel blaenoriaeth. Darparodd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai (AL) ddiweddariad ynglŷn â’r sefyllfa gan egluro y cynhaliwyd Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr a’i fod wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.  Roedd trafodaethau’n parhau gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r Asesiad hwnnw a byddai’r cam nesaf yn cynnwys cymeradwyaeth Gweinidogol.  Y bwriad oedd dynodi un safle dros dro rhwng Sir Ddinbych a Chonwy.

 

PENDERFYNWYD bod yr aelodau yn nodi cynnwys Adroddiad Monitro Blynyddol 2016 y Cynllun Datblygu Lleol sydd ynghlwm fel Atodiad 1 i’r Adroddiad.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.45 a.m.