Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Gweinyddwr Pwyllgor 01824 706715 E-bost: democrataidd@sirddinbych.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorwyr
Merfyn Parry, Pete Prendergast a Bill Tasker |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 88 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Cynghorydd Ray
Bartley – Cysylltiad Personol – Eitem 5 ar y Rhaglen Y Cynghorydd
Jeanette Chamberlain-Jones - Personol a Rhagfarnol - Eitem 11 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts - Cysylltiad Personol - Eitem Rhif 6 ar y Rhaglen Y Cynghorydd
Julian Thompson-Hill – Cysylltiad Personol ac sy’n Rhagfarnu - Eitem 6 ar y
Rhaglen Y Cynghorydd Huw
Williams – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 6 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Mark
Young – Cysylltiad Personol – Eitem 5 ar
y Rhaglen |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf
2016 (amgaeir copi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio
a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2016. Cywirdeb - Tudalen 15: Eitem 8 – Tyn y Wern, Corwen - Er eglurdeb,
gofynnodd y Cynghorydd Cefyn Williams i’r cyfeiriad at Tyn y Wern, Corwen gael
ei ddiwygio i Tyn y Wern, Cynwyd. Tudalen 11: Eitem 2 - Datganiad o Fuddiant – Roedd
y Cynghorydd Merfyn Parry wedi anfon neges yn rhoi gwybod bod ei ddatganiad o
fuddiant yn Eitem 7 ar y Rhaglen - Tir ger Maes Llan, Llandyrnog, wedi cael ei
ddisgrifio'n anghywir gan fod ei bartner yn rhedeg y Ceffyl Gwyn yn Llandyrnog
ac nid y Golden Lion. PENDERFYNWYD yn
amodol ar yr uchod, cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27
Gorffennaf 2016 fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 11) - Cyflwynwyd
ceisiadau a oedd yn gofyn am benderfyniad y pwyllgor ynghyd â dogfennau
cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at yr
wybodaeth a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r
rhaglen ac a oedd yn ymwneud â'r ceisiadau penodol. Er mwyn caniatáu ceisiadau aelodau’r cyhoedd
i gyflwyno sylwadau cytunwyd y dylid amrywio trefn rhaglen y ceisiadau fel y
bo’n briodol. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 40/2016/0256/PC – CAEAU I’R DE-ORLLEWIN O GROESFFORDD BORTH, ABERGELE PDF 36 KB Ystyried cais i
newid defnydd adeilad amaethyddol i brosesu coed a defnyddio’r iard i storio
pren (cais ôl-syllol) (ail-gyflwyniad) ar gaeau i’r de-orllewin o Groesffordd
Borth, Abergele (amgaeir copi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i newid defnydd adeilad amaethyddol
i brosesu coed a defnyddio’r iard i storio pren (cais ôl-syllol)
(ail-gyflwyniad) ar gaeau i’r de-orllewin o Groesffordd Borth, Abergele. Tynnodd y Rheolwr Datblygu (PM) sylw'r aelodau at
yr wybodaeth atodol hwyr a’r rhesymeg y tu ôl i argymhelliad y swyddog i ohirio
ystyried y cais yn dilyn canfyddiad gwybodaeth anghywir yn y cais cynllunio ac
felly adroddiad y pwyllgor. O ganlyniad, ystyriwyd y byddai er lles pennaf pawb i'r cais gael ei ohirio
tra ceisiwyd rhagor o wybodaeth gan yr ymgeisydd. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Rhys Hughes, ac fe’i
eiliwyd gan y Cynghorydd Dewi Owens, bod y cais yn cael ei ohirio'n unol â
chais y swyddog. PLEIDLAIS: O BLAID GOHIRIO – 22 YN ERBYN GOHIRIO - 1 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD GOHIRIO’r cais yn unol â chais y swyddog. |
|
CAIS RHIF 02/2016/0526/PF – YSGOL RHUTHUN, FFORDD YR WYDDGRUG, RHUTHUN PDF 38 KB Ystyried cais i
ddymchwel tŷ ar wahân 2 lawr a’r garej unllawr gysylltiedig a chodi Neuadd
Fwyta dau lawr gyda gofod i blanhigion yng ngwagle’r to, yn lle tŷ annedd
ar wahân 2 lawr yn Ysgol Rhuthun, Ffordd yr Wyddgrug, Rhuthun (amgaeir copi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
ystyried dymchwel tŷ sengl 2 lawr a’r garej unllawr gysylltiedig a chodi
Neuadd Fwyta dau lawr gyda gofod i blanhigion yng ngwagle’r to, yn lle tŷ
annedd sengl 2 lawr yn Ysgol Rhuthun, Ffordd yr Wyddgrug, Rhuthun. Siaradwr Cyhoeddus- Rhoddodd Mr Martin Watson (O Blaid) fanylion cysylltiadau agos yr
ysgol o fewn y gymuned ac ymgynghori’n lleol cyn cyflwyno ceisiadau cynllunio
diweddar, er mwyn rhoi sicrwydd a mynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n peri
pryder. Eglurwyd bod y cais wedi ei gyflwyno gyda'r bwriad o wella cyfleusterau a
sicrhau llwyddiant parhaus yr ysgol ar y safle ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Dadl Gyffredinol - Credai'r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts
(Aelod Lleol) y byddai'r datblygiad arfaethedig yn fudd i'r ysgol ac yn helpu i
sicrhau ei llwyddiant yn y dref yn y dyfodol. Nododd hefyd fod ymgynghori lleol wedi ei gynnal
ac y bu rhai gwrthwynebiadau - fodd bynnag, nid oedd unrhyw un wedi cysylltu ag
ef yn uniongyrchol ynglŷn ag unrhyw bryderon ac yn hapus i gefnogi'r cais. Dywedodd y Cynghorydd David Smith (Aelod
Lleol) fod yr ysgol yn cael ei gwerthfawrogi yn y dref. Nid oedd wedi cael unrhyw wrthwynebiad i'r
cais ac nid oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i’w godi. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts i ganiatáu’r cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Mark Young. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 23 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn
yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 25/2015/0321/PFWF – TIR GERLLAW LLYN BRÂN, BYLCHAU, DINBYCH PDF 37 KB Ystyried cais i
adeiladu a gweithredu fferm wynt yn cynnwys 7 tyrbin, trawsnewidwyr, traciau
mynediad, is-orsaf ar y safle, tŵr anemometreg ac isadeiledd adeiladu a
gweithredol cysylltiedig ar dir gerllaw Llyn Brân, Bylchau, Dinbych (amgaeir copi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i adeiladu a gweithredu fferm wynt
yn cynnwys 7 tyrbin, trawsnewidwyr, traciau mynediad, is-orsaf ar y safle,
tŵr anemometreg ac isadeiledd adeiladu a gweithredol cysylltiedig ar dir
gerllaw Llyn Brân, Bylchau, Dinbych. Siaradwyr Cyhoeddus- Siaradodd Mr Gwyn Bibby (Yn erbyn) am nifer fawr o drigolion lleol a fyddai'n cael eu
heffeithio gan y datblygiad arfaethedig, a chyfeiriodd at hanes cynllunio
blaenorol a gwrthwynebiadau yn seiliedig ar y dirwedd ac effaith weledol. Dywedodd Mr John Woodruff (O blaid) fod yr ardal wedi ei hystyried yn addas ar gyfer datblygu
ffermydd gwynt ar raddfa fawr ac amlygodd y gwahaniaethau o'r cais blaenorol yn
2007 er mwyn lleihau'r effaith a gwneud y cynnig newydd yn dderbyniol o
ystyried y gostyngiad yn nifer y tyrbinau a'u lleoliad. Amlygodd hefyd y cyfoeth o gefnogaeth ar
gyfer y datblygiad. Dadl Gyffredinol – Darparodd y Swyddog Cynllunio (IW)
rhywfaint o gyd-destun i'r adroddiad gan gynnwys hanes cynllunio a'i
berthnasedd i'r cais presennol. Tynnwyd sylw'r Aelodau i fap (a ddosbarthwyd yn y cyfarfod) a oedd yn
darparu cymhariaeth o ffiniau'r safle rhwng y cais yn 2007 a'r cais presennol
sy’n cael ei ystyried. Amlygwyd yr angen i sicrhau cydbwysedd rhwng y niwed a allai godi o
effeithiau lleol yn erbyn y budd cyhoeddus o ddatblygiad y fferm wynt, ac roedd
yr ystyriaethau cynllunio perthnasol hynny wedi'u nodi yn yr adroddiad. Roedd swyddogion o'r farn bod y niwed o
ran yr effaith ar fuddion tirwedd/gweledol ac ar yr amgylchedd hanesyddol mor
bwysig yn yr achos hwn, ei fod yn drech na chefnogi'r egwyddor o ddatblygu ynni
gwynt a budd cyhoeddus ar ffurf adfywio ynni adnewyddadwy . O ganlyniad, awgrymodd y swyddogion bod y
caniatâd cynllunio yn cael ei wrthod. Cefnogodd y Cynghorydd Joe Welch (Aelod Lleol)
argymhelliad y swyddogion a siaradodd yn erbyn y datblygiad, gan nodi'r
adroddiad cynhwysfawr sy'n nodi'r ystyriaethau cynllunio perthnasol yn glir yn
yr achos yma. Roedd yn credu bod hanes y safle a chyfeiriad at gais 2007 yn berthnasol,
er ei fod yn cyfeirio at gais ychydig yn fwy, a bod y rhesymau dros wrthod yn
ddilys. Roedd y Cynghorydd Welch hefyd yn awyddus i dynnu sylw at y cyfoeth o
wrthwynebiad lleol a theimlad y cyhoedd yn erbyn y datblygiad gan unigolion a
tri chyngor cymuned leol. Nododd fod y rhan fwyaf o gefnogaeth leol ar gyfer y datblygiad wedi cael
ei gyfleu trwy'r un datganiad generig. Cynnig – Roedd y Cynghorydd Joe Welch yn
cynnig argymhelliad y swyddog i wrthod y
cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 0 GWRTHOD - 23 YMATAL - 1 PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD y cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
CAIS RHIF 01/2016/0672/PF – AMGUEDDFA DINBYCH, LÔN GOCH, DINBYCH PDF 6 KB Ystyried cais i
newid defnydd rhan o amgueddfa Dosbarth D1 i fod yn annedd hunangynhwysol yn
Amgueddfa Dinbych, Lôn Goch, Dinbych (amgaeir copi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y Cynghorwyr Ray Bartley a Mark Young
fuddiant personol yn yr eitem hon oherwydd eu bod yn aelodau o Gyngor Tref
Dinbych a oedd yn berchen ar yr adeilad.] Cyflwynwyd cais i newid defnydd rhan o amgueddfa
Dosbarth D1 i fod yn annedd hunangynhwysol yn Amgueddfa Dinbych, Lôn Goch,
Dinbych. Dywedodd y Cadeirydd nad oedd y Cynghorydd Gwyneth
Kensler (Aelod Lleol ac Ymgeisydd) wedi gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod yn
anffodus. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Meirick Davies i
ganiatáu’r cais, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Arwel Roberts. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 22 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’r cais yn
unol ag argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 02/2016/0422/PF – TIR AR FFERM GLASDIR, RHUTHUN PDF 115 KB Ystyried cais i
ddymchwel ffermdy presennol a thai allan cysylltiedig, ac adeiladu ysgol newydd
sy’n cynnwys dwy ysgol gynradd gyda gwaith allanol cysylltiedig, gan gynnwys
creu mynedfeydd newydd i gerbydau ac i gerddwyr, gwelliannau i lwybr troed
presennol, parcio ar y safle gyda man gollwng teithwyr, ardaloedd chwarae a
gemau y tu allan, cae chwarae, gerddi a llochesi bywyd gwyllt, tirlunio a
ffensio o amgylch y terfyn, a gwaith draenio dŵr wyneb sy'n cynnwys
draeniau hidlo a ffosydd cerrig ar dir ar Fferm Glasdir, Rhuthun (amgaeir
copi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts fuddiant personol yn yr
eitem hon gan ei fod yn Gadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Pen Barras ac yn
rhiant i blentyn yn yr ysgol. Datganodd y Cynghorydd Huw Williams fuddiant personol oherwydd ei fod yn
riant i blentyn sy’n mynychu Ysgol Pen Barras. Datganodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill fuddiant
personol a rhagfarnol oherwydd ei fod yn aelod o Fwrdd y Prosiect ac yn Aelod
Arweiniol dros gyflwyno'r cais. Gadawodd y cyfarfod tra bod y cais yn cael ei
ystyried. Cyflwynwyd cais i ddymchwel ffermdy presennol a
thai allan cysylltiedig, ac adeiladu ysgol newydd gyda dwy ysgol gynradd a
gwaith allanol cysylltiedig, gan gynnwys creu mynedfeydd newydd i gerbydau ac i
gerddwyr, gwelliannau i’r llwybr troed presennol, parcio ar y safle gyda mannau
gollwng teithwyr, ardaloedd chwarae a gemau y tu allan, cae chwarae, gerddi a
llochesi bywyd gwyllt, tirlunio a ffensio o amgylch y terfyn, a gwaith draenio
dŵr wyneb yn cynnwys draeniau hidlo a ffosydd cerrig ar dir ar Fferm
Glasdir, Rhuthun. Dadl Gyffredinol – Roedd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts
(Aelod Lleol) yn cefnogi'r datblygiad i’r ysgol yn llwyr, er mwyn darparu
amgylchedd dysgu rhagorol er budd plant lleol a oedd angen ei wneud ers peth
amser. Canmolodd y ddwy ysgol a oedd yn perfformio'n dda er gwaethaf amodau anodd
yn y cyfleusterau presennol. O ystyried lleoliad yr ysgol newydd arfaethedig, ceisiodd y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts nifer o sicrwydd ynghylch (1) materion priffyrdd a rheoli
traffig - yn benodol nifer y traffig a thagfeydd, materion yn ymwneud â’r
gylchfan a’r mynediad o Glasdir; (2) draenio dŵr a llifogydd o ystyried
bod y datblygiad wedi ei leoli mewn parth llifogydd, a (3) sut mae pryderon
cymdogion wedi cael sylw. Croesawodd y Cynghorydd David Smith (Aelod Lleol) ddatblygiad yr ysgol
hefyd, gan dynnu sylw at ddiffygion y cyfleusterau presennol a’r gwaith parhaus
dros nifer o flynyddoedd er mwyn troi'r weledigaeth yn realiti. Ailadroddodd y Cynghorydd Eryl Williams,
Aelod Arweiniol dros Addysg yr angen ar gyfer yr ysgolion newydd er mwyn
darparu cyfleusterau addysgol modern, addas at y diben, ac fe adroddodd ar
raglen moderneiddio addysg y Cyngor a gweledigaeth ar gyfer Sir Ddinbych. Cyfeiriodd at 'Ddiwrnod Agored' ar gyfer
trigolion lleol a oedd wedi cael eu cynnal i ddarparu manylion am y datblygiad
a lleddfu pryderon, gan gynnwys llifogydd a phriffyrdd. Ymatebodd Swyddogion Cynllunio a Phriffyrdd i'r
cwestiynau a godwyd fel a ganlyn - (1) Priffyrdd – roedd gwaith wedi bod yn mynd
ymlaen ers nifer o flynyddoedd ynghylch amrywiol opsiynau am briffordd. (2) Cyfeiriwyd at nifer o waith priffyrdd i’w cwblhau cyn defnyddio'r ysgol, gan gynnwys croesfan a reolir newydd ar Ffordd Dinbych a lledu'r llwybr troed ar ochr safle'r briffordd, a chreu gorchymyn am gyfyngiadau parcio gerllaw'r safle. Mewn ymateb i awgrym Cyngor Tref Rhuthun y dylai cerbydau sy'n gadael y safle droi i'r chwith yn unig, cafodd yr opsiwn hwnnw ei ystyried fel rhan o'r asesiad trafnidiaeth a chanfuwyd iddo gael effaith andwyol ar gylchfan yr A525. Roedd y maes parcio mawr a’r ardal gollwng a gynigiwyd o fewn y safle yn cydymffurfio â safonau parcio. O ganlyniad, ystyriodd y swyddogion na fyddai'r cynigion yn cael effaith annerbyniol ar rwydwaith priffyrdd lleol - yn ogystal, byddai'r pwysau ar gefnffordd yr A494 yn cael ei iniaru gan y mesurau priffyrdd arfaethedig. Ceisiodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts sicrwydd pellach bod effaith y farchnad da byw wedi cael ei ystyried a bod mesurau diogelwch digonol wedi eu cynnwys er mwyn sicrhau llwybr cerdded diogel i blant. Eglurwyd mai ar benwythnosau oedd y brif broblem gyda'r farchnad wartheg a bod gwaith yn mynd rhagddo ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
CAIS RHIF 03/2016/0584/LB – GWESTY WYNNSTAY ARMS, BRIDGE STREET, LLANGOLLEN PDF 37 KB Ystyried cais i
godi arwyddion yn lle hen rai ar ochr allanol yr adeilad ac ailbaentio’r
rendrad ar y blaen yng Ngwesty Wynnstay Arms, Bridge Street, Llangollen (amgaeir
copi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais am ganiatâd adeilad rhestredig i godi arwyddion yn lle hen
rai ar ochr allanol yr adeilad ac ail-baentio’r rendrad ar y blaen yng Ngwesty
Wynnstay Arms, Bridge Street, Llangollen. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies
argymhelliad y swyddog i ganiatáu'r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Rhys
Hughes, yn amodol ar gynnwys yr amod ychwanegol a restrir yn y papurau atodol
hwyr. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 23 GWRTHOD - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol
ag argymhelliad y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol. Ar y pwynt hwn
(10.35 a.m.) gadawodd y Cynghorydd Alice Jones y cyfarfod a chafwyd egwyl
luniaeth fer. |
|
CAIS RHIF 44/2016/0378/PF – TIR SY’N TARO AR MORFA LODGE, FFORDD ABERGELE, RHUDDLAN PDF 37 KB Ystyried cais i
greu mynedfa newydd i gerbydau ar gyfer cerbydau amaethyddol ar dir sy’n taro
ar Morfa Lodge, Ffordd Abergele Road, Rhuddlan (amgaeir copi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Datganodd y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones
fuddiant personol a rhagfarnol yn yr eitem hon oherwydd ei bod yn gyfaill i'r
ymgeisydd a gadawodd y cyfarfod tra bod y cais yn cael ei ystyried.] Cyflwynwyd cais i
greu mynedfa newydd i gerbydau ar gyfer cerbydau amaethyddol ar dir sy’n taro
ar Morfa Lodge, Ffordd Abergele, Rhuddlan, Y Rhyl. Dadl Gyffredinol – Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu (PM) at y
wybodaeth ychwanegol a gynhwysir yn y papurau atodol (a ddosbarthwyd yn y
cyfarfod) ac aeth ymlaen i amlinellu'r cais. Cafodd y cae amaethyddol ei ddefnyddio o dro i dro
at ddibenion eraill, megis yr ŵyl, ond dylid ymdrin â’r cais ar y sail a
yw’r fynedfa yn ddiogel yn y lleoliad hwnnw at y diben arfaethedig. Eglurodd y Swyddog Priffyrdd bod ceisiadau
o'r fath yn cael eu hasesu yn erbyn y safonau a nodir yn Nodyn Cyngor Technegol
18. Tra'n cydnabod y pryderon a godwyd, dywedodd fod y cynnig yn bodloni'r
gofynion fel y'u nodir yn y safonau ac ystyrir bod y fynedfa yn addas ar gyfer
peiriannau amaethyddol. O ganlyniad, nid oedd unrhyw sail cryf dros wrthod. Nododd y Cynghorydd Arwel Roberts (Aelod Lleol) y
bwriad i greu mynedfa newydd i gerbydau amaethyddol ar wahân i'r pwynt mynediad
presennol, a fyddai'n cael eu cadw ar gyfer yr annedd a’r adeilad allanol. Roedd o blaid rhoi caniatâd ar gyfer
mynediad at ddibenion amaethyddol (a'r ŵyl flynyddol) ond pe byddai newid
defnydd ryw oes, pwysleisiodd y dylai'r caniatâd ar gyfer mynediad ddod gerbron
y Pwyllgor Cynllunio eto. Fodd bynnag, cododd bryderon ynghylch diogelwch y fynedfa bresennol, o
ystyried y cerbydau mawr sy’n defnyddio’r pwynt mynediad hwnnw. Ymholodd y Cynghorydd Dewi Owens ynghylch
yr angen am fynedfa ychwanegol, gan geisio sicrwydd na fyddai caniatáu'r cais
yn arwain at roi caniatadau pellach yn awtomatig. Eglurodd y Rheolwr Datblygu (PM) nad oedd y rhesymeg y tu ôl i'r cais yn
ystyriaeth gynllunio berthnasol a bod rhaid i'r cais gael ei asesu o ran p'un a
yw'r fynedfa newydd yn ddigonol ac yn ddiogel ar gyfer y diben. Eglurodd hefyd, er bod rhai defnyddiau a
ganiateir dros dro ar dir nad oedd angen caniatâd, roedd angen caniatâd
cynllunio ar newid defnydd parhaol, a
fyddai'n cael ei ddwyn gerbron y Pwyllgor Cynllunio pe bai unrhyw bryderon. Cyfeiriodd y Swyddog Priffyrdd at leoliad
y fynedfa newydd a'r bwriad i gadw'r fynedfa bresennol ar gyfer y tŷ a'r
adeiladau allanol yn unig, a fyddai'n cael ei gwahanu oddi wrth weddill y tir
ffermio gan ffensys a gwrych newydd. Er mai ond ychydig y gellid ei wneud i fynd i'r afael â phryderon a godwyd
ynghylch y defnydd o'r pwynt mynediad presennol, ystyrir bod y pwynt mynediad
newydd arfaethedig yn welliant i'r trefniadau presennol. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Bill Cowie
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd
Meirick Lloyd Davies. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 19 GWRTHOD - 2 YMATAL - 1 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’r cais yn
unol ag argymhelliad y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.
|
|
CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL: ‘CYNLLUNIO AR GYFER DIOGELWCH CYMUNEDOL’ DRAFFT YMGYNGHORI PDF 151 KB Ystyried
adroddiad yn argymell bod Aelodau yn cytuno ar y Canllawiau Cynllunio Atodol drafft
ar gynllunio ar gyfer diogelwch cymunedol fel sail ar gyfer ymgynghori
cyhoeddus (amgaeir copi). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol
y Parth Cyhoeddus, adroddiad yn cyflwyno dogfen ddrafft Canllaw Cynllunio
Atodol (CCA) ar ‘Cynllunio ar gyfer Diogelwch Cymunedol’ fel sail ar gyfer
ymgynghoriad cyhoeddus. Atgoffodd y Cynghorydd Smith Aelodau o wahanol gamau’r broses cyn i’r Pwyllgor
Cynllunio fabwysiadu’r dogfennau CCA yn derfynol. Eglurodd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai (AL)
mai nod y ddogfen oedd sicrhau bod diogelwch cymunedol yn cael ei ystyried ar
ddechrau'r broses ddylunio ar gyfer datblygiadau ac yn canolbwyntio ar y
cynllun cyffredinol; nid oedd yn cwmpasu caledu targedau, h.y. diogelu cloeon
ac ati. Cynhaliwyd ymgynghoriad anffurfiol gyda Heddlu Gogledd Cymru, a
ddywedodd eu bod am gael mewnbwn i'r broses yn y cam gwneud cais. Cafodd yr Aelodau drafodaeth gyda swyddogion
am ehangder posib cyfranogiad yr Heddlu wrth ymdrin â cheisiadau yn y dyfodol
ar gyfer datblygiadau tai, a nodwyd ei bod yn debygol yr hoffent fod yn rhan o
gynlluniau mwy. Byddai manylion pellach yn cael eu darparu yn y ddogfen derfynol a gyflwynir
i'r aelodau yn dilyn diwedd y broses ymgynghori. Cyfeiriodd y Cynghorydd Joan Butterfield at
broblemau gyda theithwyr yn gallu cael mynediad rhwydd i fannau agored megis
safleoedd datblygu tai, a gofynnodd bod hyn yn cael ei ystyried fel rhan o'r
broses. Mewn ymateb i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Meirick Davies ynghylch
dyblygu posibl gyda swyddogion rheoliadau adeiladu, dywedodd swyddogion fod
cyfeiriad at y posibilrwydd o gyflwyno rheoliadau adeiladu wedi ei gynnwys ym
mharagraff 7.2 o'r ddogfen - byddai'r rheoliadau yn canolbwyntio ar galedu
targedau ffenestri a drysau mewn anheddau newydd yn hytrach na’r dyluniad a’r
gosodiad cyffredinol a gwmpesir yn y CCA. Yn olaf, cadarnhawyd na ellid gosod y CCA newydd
ar ddatblygiadau newydd os caiff ei fabwysiadu, ond byddai'n annog datblygwyr
newydd i roi sylw i ddiogelwch cymunedol yn gynnar. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Bob Murray
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo'r CCA drafft ar gyfer ymgynghori, ac fe’i
eiliwyd gan y Cynghorydd Joan Butterfield. Roedd yr aelodau eraill yn llwyr
gytûn - PENDERFYNWYD bod yr aelodau'n cytuno ar y Canllawiau
Cynllunio Atodol drafft ar Gynllunio ar gyfer Diogelwch Cymunedol, fel y nodwyd
yn Atodiad 1 ynghlwm i’r adroddiad, ar gyfer ymgynghori’n gyhoeddus. |
|
Ystyried
adroddiad sy’n ceisio pwerau dirprwyedig i Swyddogion i gyhoeddi penderfyniadau
ar fanylion technegol a gyflwynwyd i'r awdurdod cynllunio lleol yn unol â’r
'Gofynion' cynllunio a geir yng Ngorchmynion Caniatáu Datblygu Prosiect
Isadeiledd o Arwyddocâd Cenedlaethol (amgaeir copi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad sy’n ceisio pwerau dirprwyedig i Swyddogion i gyhoeddi penderfyniadau
ar fanylion technegol a gyflwynwyd i'r awdurdod cynllunio lleol yn unol â’r
'Gofynion' cynllunio a geir yng Ngorchmynion Caniatáu Datblygu Prosiect
Isadeiledd o Arwyddocâd Cenedlaethol. Eglurodd y Prif
Swyddog Cynllunio (IW) fod newid bach i'r cynllun dirprwyo presennol wedi'i
gynnig, er mwyn galluogi i swyddogion ddelio â cheisiadau cymharol fach ar
gyfer cynlluniau seilwaith mawr sy'n ymwneud â cheisiadau cynllunio yn gyflym,
heb yr angen i gyfeirio at y Pwyllgor Cynllunio. Rhoddwyd sicrwydd y byddai’r pwerau
dirprwyedig hynny’n cael eu defnyddio gyda disgresiwn ac mewn cytundeb ag
aelodau lleol, gyda materion mwy dadleuol yn cael eu cyfeirio at y pwyllgor. Gofynnodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts am eglurhad pellach ynghylch cyfrifoldeb dros
wneud penderfyniadau mewn achosion penodol, a chadarnhaodd swyddogion bod y
disgresiwn yn parhau ar gyfer materion a ddirprwyir, er mwyn i swyddogion eu
dwyn gerbron y pwyllgor ar gyfer dod i benderfyniad. Cafwyd cyfeiriad clir at ymgynghori ag
aelodau lleol fel rhan o'r broses o wneud penderfyniadau, a byddai unrhyw
bryder gan aelodau bob amser yn cael ei ddwyn ger bron y pwyllgor i’w ystyried. Eglurodd Swyddogion hefyd y byddai'r
ddirprwyaeth yn cwmpasu unrhyw Orchmynion Caniatâd Datblygu yn y dyfodol. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Cefyn Williams y
dylid cymeradwyo argymhelliad y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad, ac
eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Bill Cowie. Roedd yr aelodau eraill yn llwyr
gytûn - PENDERFYNWYD dirprwyo pwerau i Swyddogion allu penderfynu ar geisiadau i'r
awdurdod cynllunio lleol yn unol â’r gofynion cynllunio a geir yng Ngorchymyn
Caniatâd Datblygu Prosiect Isadeiledd o Arwyddocâd Cenedlaethol, ac i adolygu'r
Cynllun Dirprwyo drwy fewnosod y paragraff canlynol - “1.4.5 I benderfynu ar geisiadau a gyflwynir
i’r awdurdod cynllunio lleol yn unol â’r Gofynion cynllunio a geir yng
Ngorchmynion Caniatâd Datblygu Prosiect Isadeiledd Sylweddol Cenedlaethol.” |
|
Derbyn adroddiad
gwybodaeth sy’n amlinellu penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol i ganiatáu’r
Gorchymyn Caniatâd Datblygu ar gyfer y cynllun cysylltiadau gwifrau uwchben
(amgaeir copi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gwybodaeth sy’n amlinellu penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol i
ganiatáu’r Gorchymyn Caniatâd Datblygu ar gyfer y cynllun cysylltiadau gwifrau
uwchben. Penderfynwyd derbyn yr adroddiad gwybodaeth. |
|
ADRODDIAD GWYBODAETH: PENDERFYNIADAU APELIADAU CYNLLUNIO PDF 169 KB Derbyn adroddiad
gwybodaeth sy’n amlinellu penderfyniadau diweddar a gyhoeddwyd gan yr
Arolygiaeth Gynllunio ar apeliadau yn erbyn penderfyniadau’r Cyngor Sir
(amgaeir copi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gwybodaeth sy’n amlinellu penderfyniadau diweddar a gyhoeddwyd gan yr
Arolygiaeth Gynllunio ar apeliadau yn erbyn penderfyniadau’r Cyngor Sir. Anogwyd yr aelodau i gysylltu â swyddogion
perthnasol tu allan i’r cyfarfod os oeddent angen rhagor o wybodaeth
ynglŷn ag achosion penodol. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gwybodaeth. Daeth y cyfarfod i ben am 11.25 a.m. |