Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Gweinyddwr Pwyllgor 01824 706715 E-bost: democrataidd@sirddinbych.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Cefyn Williams gysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn eitem 5 yr
Agenda wreiddiol – Tyn y Wern fel perchennog y safle a’r ymgeisydd. Datganodd y
Cynghorydd Merfyn Parry gysylltiad personol yn eitem 7 yr Agenda wreiddiol - Tir ger Maes Llan, Llandyrnog. Y cysylltiad
personol a ddatganodd oedd mai ei bartner sy’n rhedeg tafarn y Golden Lion yn
Llandyrnog. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2016 (copi wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2016. PENDERFYNWYD cymeradwyo
cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 22 Mehefin, 2016 fel cofnod
cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5-8) Cyflwynwyd
ceisiadau oedd yn ceisio penderfyniad y pwyllgor ynghyd â'r dogfennau
cysylltiol. Cyfeiriwyd hefyd at yr wybodaeth a gyflwynwyd yn
hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ers cyhoeddi'r Agenda sy’n ymwneud â'r
ceisiadau penodol. Er mwyn caniatáu ceisiadau aelodau’r cyhoedd i
gyflwyno sylwadau cytunwyd y dylid amrywio trefn rhaglen y ceisiadau fel y bo’n
briodol. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 16/2016/0545 – NEUADD LLANBEDR, LLANBEDR DYFFRYN CLWYD, RHUTHUN PDF 5 KB Ystyried cais i
ddymchwel Neuadd Llanbedr a chodi 11 annedd yn Neuadd Llanbedr, Llanbedr
Dyffryn Clwyd (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i
ddymchwel Neuadd Llanbedr a chodi 11 annedd yn Neuadd Llanbedr, Llanbedr
Dyffryn Clwyd, Rhuthun. Siaradwyr Cyhoeddus- Georgia Cawley (O Blaid) – manylodd ar hanes
cynllunio’r safle. Eglurodd y manteision ychwanegol i’r gymuned o
ddatblygu’r safle. Roedd cyfarfodydd wedi eu cynnal rhwng yr
Ymgeisydd a Swyddogion oedd wedi golygu ychwanegu dwy amod. Trafodaeth Gyffredinol – Amlinellodd y Rheolwr Datblygu hanes cynllunio
perthnasol y safle gan egluro bod apêl flaenorol wedi sefydlu 11 uned breswyl
gyfreithiol yn y Neuadd bresennol.
Eglurodd hefyd bod dymchwel
Llanbedr (11 uned) a chodi 11 o anheddau yn golygu na allai’r Awdurdod Lleol
ofyn am gyfraniad tuag at dai fforddiadwy fel rhan o’r datblygiad arfaethedig. Dim
ond pe cynigir cynnydd yn y nifer o unedau y gellid ceisio cyfraniad o’r fath,
yn unol â'r Canllawiau Cynllunio Atodol mabwysiedig. Trafodwyd y mater
o sut byddai cerbydau yn cael mynediad i safle’r datblygiad. Eglurodd
yr Uwch Beiriannydd, Priffyrdd, bod amod gynllunio cyn cychwyn, Rhif 12, wedi
ei hawgrymu ar y daflen hwyr oedd yn darllen fel a ganlyn: “Ni chaniateir i unrhyw ddatblygiad gychwyn
hyd nes ceir cymeradwyaeth ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol i'r
trefniadau manwl ar gyfer sicrhau bod mynedfa i gerbydau i drigolion yn cael ei
gyfyngu i'r ffordd fynediad o’r safle i’r B5429, ac i ddarparu mannau pasio
ychwanegol ar hyd yr adran honno o’r ffordd. Ni
chaniateir i neb fyw yn unrhyw un o’r anheddau nes bod y trefniadau sydd wedi
eu cymeradwyo o dan yr amod hon wedi eu cwblhau, a bydd y trefniadau yn cael eu
cadw fel y maent wedi cael eu cadarnhau bob amser o hynny ymlaen.” Y
rheswm dros osod yr amod oedd er lles diogelwch ar y priffyrdd a defnyddwyr y
ffyrdd preifat sy’n arwain at yr adeiladau yn yr ardal hon. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Huw Williams argymhelliad y Swyddog i gymeradwyo’r
cais gan gynnwys Amod Rhif 12, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Bill Cowie. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 17 YMATAL - 0 GWRTHOD - 3 PENDERFYNWYD
y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhellion y Swyddog a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 18/2016/0400 – TIR GER MAES LLAN, LLANDYRNOG, DINBYCH PDF 5 KB Ystyried cais i
ddatblygu 1.74ha o dir drwy godi 40 annedd a gwaith cysylltiedig (cais
amlinellol yn cynnwys mynediad a chynllun) ar dir ger Maes Llan, Llandyrnog
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais
ar gyfer datblygu 1.74 hectar o dir drwy godi 40 o anheddau a gwaith cysylltiol
(cais amlinellol gan gynnwys mynediad a chynllun) ar Dir ger Maes Llan,
Llandyrnog, Dinbych. Siaradwr Cyhoeddus- Rachel Davies (yn Erbyn) – roedd Ms Davies yn siarad
fel cynrychiolydd y gymuned leol er mwyn cyfleu barn y gymuned. Manylodd
ar y rhesymau pam fod nifer o drigolion lleol yn erbyn y datblygiad. James Neame (O blaid) – Roedd Mr Neame o Davis
Meade Property Consultants yn cynrychioli’r ymgeisydd, Mr Hughes. Eglurodd
fanteision y datblygiad arfaethedig i’r gymuned leol. Ar y pwynt hwn,
eglurodd y Rheolwr Datblygu ran Aelodau yn y broses gwneud penderfyniadau mewn
ceisiadau o’r math hwn. Nid
yw Aelodau sydd wedi ymwneud yn flaenorol â’r CDLl yn cael eu gwahardd o
drafodaethau ynglŷn â cheisiadau ar gyfer safleoedd a ddyrannwyd. Trafodaeth Gyffredinol - Gofynnodd yr
Aelod Lleol, Merfyn Parry, am eglurhad pam bod y cais wedi ei gyflwyno wedi bod
ar gyfer 40 o anheddau er mai 25 o anheddau oedd wedi eu nodi yn y Cynllun
Datblygu Lleol. Cyfeiriodd y
Rheolwr Datblygu’r Aelodau at dudalen 64 yr adroddiad, paragraff 4.2.2 a
Dwysedd y Datblygiad. Roedd hyn yn pwysleisio nad oedd y ffigwr
o 25 yn y CDLl yn cael ei nodi mewn Polisi ond ei fod yn cael ei ddarparu fel
bras syniad o niferoedd tai posib. Cadarnhaodd yr
Uwch Beiriannydd, Priffyrdd y byddai’r terfyn cyflymder 30 mya yn cael ei
ymestyn er mwyn arafu cyflymder y traffig. Byddai cyswllt i gerddwyr i’r pentref hefyd yn cael ei adeiladu er mwyn
annog pobl i ddefnyddio llai ar eu cerbydau. Roedd
amod yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad (amod 5) oedd yn ymdrin â thraffig
adeiladu yn ystod cyfnod y datblygiad. Roedd gofynion
tai fforddiadwy wedi eu hystyried ac roedd manylion ar sut i reoli’r rhain yn
cael eu nodi o fewn Amod 9 yr adroddiad.
Gan fod cais wedi ei wneud ar
gyfer caniatâd cynllunio amlinellol, cadarnhawyd y byddai angen asesu materion
a gadwyd yn ôl ymhellach pe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo (cynllunio,
tirweddu ayb) a byddai'r holl amodau yn cael eu hasesu yn fanwl. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r
cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Huw Williams. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 15 YMATAL - 0 GWRTHOD - 5 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhellion y Swyddog a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 18/2016/0599 - HIGHFIELD PARK, LLANGWYFAN. PDF 6 KB Ystyried cais i
amrywio amod rhif 12 o god caniatâd cynllunio rhif 18/2012/1595 i ganiatáu cadw
mynediad ‘C’ a ‘D’ ar agor yn amodol ar fesurau lliniaru yn Highfield Park,
Llangwyfan, Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais
ar gyfer amrywio amod rhif 12 o god caniatâd cynllunio rhif 18/2012/1595 er
mwyn caniatáu i fynedfeydd ‘C' a ‘D’ barhau'n agored yn unol â mesurau lliniaru
yn Highfield Park, Llangwyfan, Dinbych. Siaradwr Cyhoeddus- Mrs Julia Hughes (Yn Erbyn) – nododd nifer o resymau pam
fod trigolion lleol yn erbyn y cais arfaethedig. Un
o’r prif resymau oedd y pryder am y nifer uchel o broblemau traffig oedd wedi
digwydd wrth y mynedfeydd. Grant Anderson (O blaid) – manylodd ar y rhesymau dros
y cais ac eglurodd mai dim ond at Rose Cottage a Pinc Cottage y byddai mynedfa
“C” yn arwain. Dim ond ar gyfer cael mynediad i’r ardal storio y
byddai mynedfa “D" yn cael ei defnyddio. Roedd trafodaethau ar y cyd wedi
eu cynnal ac roedd gan y cais argymhellion clir ac ni fyddai’n darparu
problemau heb fanteision ychwanegol. Trafodaeth Gyffredinol – Nododd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Merfyn Parry
fod cais blaenorol wedi ei wrthod oherwydd problemau o safbwynt priffyrdd yr
oeddent wedi eu hapelio ac roedd yr Apêl i fod i’w gynnal ym mis Medi 2016.
Cynhaliwyd cyfarfod rhwng yr ymgeisydd, Aelod Lleol a Swyddogion ac roedd yr
ymgeisydd wedi sicrhau Swyddogion a’r Aelod Lleol mai dim ond ar gyfer mynediad
i Rose Cottage a Pine Cottage y byddai mynedfa “C” yn cael ei defnyddio, ac mai
dim ond ar gyfer mynediad ar gyfer cynnal a chadw y byddai mynedfa “D” yn cael
ei defnyddio. Cadarnhawyd y byddai Mynedfa “A” yn parhau fel
prif fynedfa i’r safle. Cynigodd y
Cynghorydd Meirick Lloyd Davies bod llinellau gwynion yn cael eu ychwanegu at
fynedfa “C” fel mesur arafu traffig, ac eiliodd y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts. Cadarnhaodd yr Uwch Beiriannydd y gellid ychwanegu
llinellau gwynion ar y fynedfa fel mesur gostegu traffig. Cadarnhaodd
y Prif Swyddog Cynllunio bod sôn am ad-drefnu a phaentio cyfeiriol ar y fynedfa
o fewn yr amodau. Cadarnhawyd bod sgwrs wedi digwydd rhwng y perchnogion, y Cyngor Cymuned
Lleol, Cynghorwyr Sirol a Swyddogion gan fod perchnogion presennol y safle
insitu. Roedd Grŵp
Cysylltu Trigolion hefyd wedi ei gyflwyno er mwyn ymdrin ag unrhyw broblemau a
allai fod gan y trigolion lleol. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry argymhelliad y Swyddog i gymeradwyo’r
cais, gan gynnwys yr amod i baentio cyfeiriol ar y fynedfa, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts. PLEIDLAIS: CYMERADWYO- 17 YMATAL - 0 GWRTHOD - 3 PENDERFYNWYD CYMERADWYO’R caniatâd yn unol ag argymhelliad y Swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 08/2016/0487 – Tyn y Wern, Corwen PDF 6 KB Ystyried cais i
ail-doi a gosod goleuadau to ar adeilad allanol yn Tyn y Wern, Corwen (Copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais
ar gyfer ail-doi a gosod goleuadau to ar dŷ allan yn Nhyn y Wern, Corwen. Ar y pwynt hwn,
gadawodd y Cynghorydd Cefyn Williams y Siambr gan mai ef oedd perchennog y
safle a’r ymgeisydd. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies argymhelliad y swyddog i
gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Arwel Roberts. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 19 YMATAL - 0 GWRTHOD - 0 PENDERFYNWYD y
dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhellion y Swyddog a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
Ar y pwynt hwn (10.45 a.m.) cafwyd egwyl o 20
munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.05 a.m. |
|
NODYN CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL DRAFFT: COED A THIRLUNIO PDF 84 KB Ystyried
adroddiad yn argymell mabwysiadu'r Canllawiau Cynllunio Atodol drafft ar “Goed
a Thirlunio” ar gyfer eu defnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, adroddiad yn
cyflwyno Canllawiau Cynllunio Atodol drafft ar Goed a Thirlunio i’w mabwysiadu
a’u defnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Roedd y
Canllawiau Cynllunio Atodol wedi bod yn destun ymgynghoriad am 8 wythnos rhwng
3 Mai 2016 a 30 Mehefin 2016. Ni chodwyd unrhyw faterion mawr ond cynigiwyd fod
angen gwneud mân newidiadau er mwyn cynnwys cyfeiriadau ychwanegol at yr AHNE. Adroddwyd
canlyniadau’r ymgynghoriad i Grŵp Llywio Aelodau'r CDLl ar 20 Gorffennaf
2016. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill argymhelliad y swyddog, ac
fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies. PLEIDLAIS: O BLAID - 19 YMATAL - 0 YN ERBYN – 0 PENDERFYNWYD y
byddai Aelodau yn mabwysiadu’r Canllawiau
Cynllunio Atodol ar Goed a Thirlunio terfynol ar gyfer ei ddefnyddio i
benderfynu ar geisiadau cynllunio. |
|
NODYN CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL DRAFFT – CADWRAETH A GWELLA BIOAMRYWIAETH PDF 242 KB Ystyried
adroddiad yn argymell mabwysiadu'r Canllawiau Cynllunio Atodol drafft ar
“Gadwraeth a Gwella Bioamrywiaeth” ar gyfer eu defnyddio wrth benderfynu ar
geisiadau cynllunio (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, adroddiad yn
cyflwyno Canllawiau Cynllunio Atodol drafft ar Gadwraeth a Gwella Bioamrywiaeth
er mwyn eu mabwysiadu a’u defnyddio wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Roedd y
Canllawiau Cynllunio Atodol arfaethedig yn amlinellu disgwyliadau’r Cyngor o
safbwynt cyflwyno gwybodaeth bioamrywiaeth o fewn cais cynllunio. Sgôp
a safonau arolygon ecolegol a gyflwynwyd, a soniwyd yn fras am ddyletswyddau
cyfreithiol ychwanegol posib ar ddatblygwyr o ganlyniad i gael caniatâd
cynllunio. Cefnogwyd ymgeiswyr posib drwy amlinellu’r holl
ddogfennaeth angenrheidiol o’r dechrau, yn hytrach na gofyn iddynt amdanynt yn
nes ymlaen yn y broses gwneud penderfyniadau. Bu’r canllawiau
cynllunio atodol yn destun ymgynghoriad cyhoeddus am 8 wythnos rhwng 3 Mai 2016
a 30 Mehefin 2016. Derbyniodd y Cyngor gyfanswm o 8 o sylwadau gan gyrff oedd â
diddordeb gan gynnwys Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, AHNE, ac aelodau o’r
cyhoedd. Ni chynigiwyd unrhyw newidiadau i’r ddogfen ond
ceisiwyd eglurdeb o safbwynt paragraff 5.6 Atodiad 5 y Canllawiau Cynllunio
Atodol drafft ar ystyr tir fferm o ansawdd uchel / isel. Adroddwyd
canlyniadau’r ymgynghoriad i Grŵp Llywio Aelodau’r CDLl ar 20 Gorffennaf
2016. Yn dilyn trafodaethau, argymhellodd Grŵp Llywio Aelodau’r CDLl bod
paragraffau A5.5 a 5.6, gan gynnwys y tabl, yn cael eu dileu o Atodiad 5 y Canllawiau Cynllunio Atodol. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts argymhelliad y swyddog, ac
fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Cefyn Williams. PLEIDLAIS: O BLAID - 20 YMATAL - 0 YN ERBYN – 0 PENDERFYNWYD fod
yr aelodau’n mabwysiadu’r Canllaw Cynllunio Atodol ar Gadwraeth a Gwella
Bioamrywiaeth a atodir fel Atodiad 1, yn unol â’r newidiadau a argymhellwyd gan
Aelodau Grŵp Llywio’r CDLl ar 20 Gorffennaf, 2016. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.20 a.m. |