Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Gweinyddwr Pwyllgor 01824 706715 E-bost: democrataidd@sirddinbych.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Dogfennau ychwanegol: |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na
chysylltiad sy'n rhagfarnu. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
Cadarnhau
cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd 18 Mai 2016 (copi
wedi’i atodi). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio
a gynhaliwyd ar 18 Mai 2016. Tudalen 17 – Eitem 11 – Cais rhif 45/2016/0201 -
14 Gareth Close, Y Rhyl. Dywedodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies
nad oedd cofnod o'r bleidlais wedi ei gynnwys yn yr eitem hon. Canlyniad
y bleidlais oedd: CANIATÁU - 15 YMATAL - 1 GWRTHOD - 2 PENDERFYNWYD –yn amodol ar yr uchod, derbyn a
chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Mai 2016 fel cofnod cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 11) Cyflwynwyd ceisiadau a gafwyd lle'r oedd angen
penderfyniad gan y pwyllgor ynghyd â'r dogfennau ategol. Cyfeiriwyd
hefyd at yr wybodaeth ategol a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd
ar ôl cyhoeddi'r Rhaglen ac a oedd yn ymwneud â cheisiadau penodol. Er
mwyn caniatáu ceisiadau aelodau’r cyhoedd i siarad yn gyhoeddus, cytunwyd y
dylid amrywio trefn y ceisiadau ar y rhaglen fel y bo’n briodol. Dogfennau ychwanegol: |
|
CAIS RHIF 03/20160063 - ROSS NEWYDD, ABBEY ROAD, LLANGOLLEN PDF 5 KB Ystyried cais i
godi estyniad llawr cyntaf yn Ross Newydd, Abbey Road, Llangollen (copi
ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi estyniad cefn i'r llawr
cyntaf yn Ross Newydd, Abbey Road, Llangollen Siaradwyr Cyhoeddus- Mr Edward De Groote (Yn erbyn) - nododd ei wrthwynebiadau i'r cais oherwydd mai dim ond
4-6 modfedd oedd yr estyniad arfaethedig i’r eiddo cyfagos oddi wrth ei wal a
oedd yn cynnwys ffenestr liw. Byddai'r estyniad yn achosi colli goleuni
drwy'r ffenestr, nid oedd Mr De Groote yn gallu agor y ffenestr, ac nid oedd
unrhyw bosibilrwydd o allu cynnal a chadw'r rhan o'i eiddo oherwydd agosrwydd
yr estyniad. Mr Chris Roberts (O blaid) - manylodd ar y rhesymau dros yr angen am y cais am
estyniad i'r eiddo. Cafwyd cyngor gan gynrychiolydd o Real
Planning, Wrecsam a oedd wedi cael blynyddoedd lawer o brofiad yn y maes hwn. Roedd
yr ymgeisydd yn fodlon cynnwys contract cynnal a chadw i gymodi â’r cymydog. Dywedodd
yr ymgeisydd hefyd wrth yr Aelodau bod y cymydog wedi bod yn ymwybodol o’r
estyniad arfaethedig cyn symud i mewn i'r eiddo. Trafodaeth Gyffredinol – Cadarnhaodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Rhys
Hughes, ei fod wedi mynd ar archwiliad safle yn yr eiddo dan sylw ynghyd â'r
Cynghorwyr Raymond Bartley, Bill Cowie, y Cynghorydd Tref Bob Lube a'r Swyddog
Cynllunio Paul Griffin. Y rheswm am yr ymweliad safle oedd asesu
effaith y cynnig ar amwynderau deiliaid eiddo cyfagos. Mynegodd
y Cynghorydd Hughes ddiolch i Mr De Groote am ganiatáu i'r panel safle gael
mynediad i'w gartref i asesu’r ffenestr a’r coridor dan sylw. Cafwyd trafodaeth a chadarnhawyd bod deddfwriaeth
yn ei lle ar gyfer mynediad ar gyfer cynnal yr eiddo ond roedd hyn yn y tu
allan i gylch gwaith y Pwyllgor Cynllunio. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Rhys Hughes y dylid
caniatáu'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd y ffaith fod y
ffenestr yr effeithir arni yn gwasanaethu rhan o’r eiddo nad oes neb yn byw
ynddo. Eiliwyd gan y Cynghorydd Arwel Roberts. PLEIDLAIS: CANIATÁU - 7 YMATAL - 1 GWRTHOD - 11 PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD y cais yn unol ag argymhelliad y swyddog a nodwyd yn yr
adroddiad. |
|
CAIS RHIF 09/2016/0205 - EFAIL Y WAEN, BODFARI PDF 5 KB Ystyried cais i
godi adeilad amaethyddol ar dir ger Efail y Waen, Bodfari, (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi adeilad amaethyddol ar dir
ger Efail Y Waen, Bodfari, Dinbych. Siaradwr Cyhoeddus - Huw Evans (O
blaid) - eglurodd i Aelodau fod yr ymgeisydd wedi gofyn i Mr Evans roi
sicrwydd ynghylch y defnydd y bwriedir ei wneud o'r adeilad amaethyddol. Roedd
hyn o ganlyniad i gam-wybodaeth a ddosbarthwyd yn ystod yr ymgynghoriad. Roedd
yr ymgeisydd yn bwriadu defnyddio'r adeilad ar gyfer defnydd amaethyddol yn
unig. Byddai maint ac adeiladwaith yr adeilad yn gweddu
i adeiladau eraill ac yn cadw cymeriad yr ardal o'u cwmpas. Trafodaeth Gyffredinol - Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cynllunio ar
dudalen 54 yr adroddiad, paragraff 1.6.1, fod y datganiad yn anghywir. O
edrych ar luniau’r cyflwyniad, roedd y tir ar ochr ogleddol y gwrych wedi cael
ei werthu i'r ymgeisydd. Roedd y tir ar yr ochr ddeheuol wedi bod
yn destun cynnig, ond roedd yn parhau ym mherchenogaeth Sir Ddinbych. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd
Rhys Hughes. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 19 YMATAL - 0 GWRTHOD - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn
yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 41/2015/1229 - THE WARREN, FFORDD YR WYDDGRUG, BODFARI PDF 6 KB Ystyried cais i
amrywio amod rhif 2(a) caniatâd cynllunio 41/2010/1177/PF yn cyfyngu'r defnydd
o ganolfan addysg a hyfforddiant coedwig i ddim mwy na 300 diwrnod mewn unrhyw
flwyddyn galendr yn Warren Woods Cyf. The Warren, Ffordd yr Wyddgrug, Bodfari,
Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i ddileu amod rhif 2(a) caniatâd
cynllunio 41/2010/1177/PF yn cyfyngu'r defnydd o ganolfan addysg a hyfforddiant
coedwig i ddim mwy na 300 diwrnod mewn unrhyw flwyddyn, Warren Woods Cyf. The
Warren, Ffordd yr Wyddgrug, Bodfari. Siaradwr Cyhoeddus - Rob Waterfield (O blaid) – rhoddodd fanylion ar rinweddau'r cais. Eglurodd fod y
caniatâd cynllunio ar hyn o bryd yn caniatáu 200 diwrnod mewn unrhyw flwyddyn
ac oherwydd hyn roeddynt yn gwrthod gwaith oherwydd y cyfyngiad. Felly,
maent yn gofyn am gynnydd i 300 diwrnod mewn unrhyw flwyddyn, er mwyn gwneud
defnydd priodol o'r cyfleuster. Trafodaeth Gyffredinol – Cynigiodd yr Aelod Arweiniol dros
Foderneiddio a Thai, y Cynghorydd Barbara Smith, ymddiheuriadau gan Mrs Elena
Fowler, y cymydog a oedd wedi siarad yn y cyfarfod blaenorol yn erbyn cais
arall a gyflwynwyd gan Warren Woods Ltd. Cadarnhaodd y Cynghorydd Smith fod Mr
Waterfield wedi cytuno i dyfu’r gwrych ar y bwnd i gynyddu preifatrwydd i eiddo
Mrs Fowler. Cytunwyd i symud y man pasio a oedd i fod i gael
ei ychwanegu y tu allan i’r fynedfa i eiddo Mrs Fowler. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cynllunio bod yr amod
ynglŷn â mannau pasio wedi ei ddiwygio i roi ystyriaeth i bryderon y
cymydog. Byddai’r amod i
ddefnyddio'r safle am 300 diwrnod, yn golygu bod angen i'r ymgeisydd gadw
cofrestr o nifer y diwrnodau o hyfforddiant y cynhaliwyd fel bod rheolaeth yn
ei le i fonitro dyddiau agor. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Meirick Davies, ac
eiliodd y Cynghorydd Win Mullen-James, i gymeradwyo’r cais yn unol ag
argymhellion y swyddog a amlinellwyd yn yr adroddiad. PLEIDLAIS: CANIATÁU - 19 YMATAL - 0 GWRTHOD - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn
yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 44/2016/0200 - TIR YN MARSH ROAD, RHUDDLAN PDF 5 KB Ystyried cais i
godi storfa fwyd (Dosbarth 1A) ar Dir (Triongl Rhuddlan) yn Marsh Road,
Rhuddlan (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer codi siop fwyd (Dosbarth
A1) ar Dir (Triongl Rhuddlan) yn Marsh Road, Rhuddlan, y Rhyl. Siaradwr Cyhoeddus - Bryn Richards, Cyfarwyddwr Eiddo Aldi gyfer
canolbarth a gogledd Cymru (O blaid)
– manylodd ar rinweddau'r cais. Byddai'r siop yn darparu swyddi y mae eu dirfawr
angen ar gyfer pobl leol, gan gymryd pwysau oddi ar siopau’r Rhyl a Phrestatyn
a lleihau amseroedd teithio i gwsmeriaid. Roedd
y datblygwr wedi cytuno i sefydlu system reoli traffig i gynorthwyo gyda
phryderon traffig. Trafodaeth Gyffredinol - Cadarnhaodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd
Arwel Roberts, ei fod wedi derbyn nifer o negeseuon gan drigolion lleol o blaid
y datblygiad. Mae nifer fawr o bobl oedrannus yn byw yn Rhuddlan
a byddai'r datblygiad yn ysgafnhau'r pwysau arnynt i deithio i'r Rhyl neu
Brestatyn i wneud eu siopa. Cadarnhaodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Ann
Davies, hefyd ei bod wedi derbyn llythyrau o gefnogaeth gan drigolion lleol ar
gyfer y datblygiad. Roedd angen datblygu’r safle ac roedd yn
gyfle da i greu swyddi ac annog buddsoddiad i'r pentref. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Arwel Roberts
argymhelliad y swyddogion i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hynny gan y
Cynghorydd Cefyn Williams. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 19 YMATAL - 0 GWRTHOD - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn
yr adroddiad. |
|
CAIS RHIF 46/2016/0198 - Gwesty Talardy, Y Roe Llanelwy PDF 37 KB Ystyried cais i
dorri 1 Castanwydden sydd wedi’i chynnwys yng Ngorchymyn Diogelu Coed Gwesty
Talardy 1975 cyf A1 yng Ngwesty Talardy Y Roe, Llanelwy (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i dorri 1 Castanwydden sydd wedi’i
chynnwys yng Ngorchymyn Diogelu Coed Gwesty Talardy 1975 cyf A1. Siaradwr Cyhoeddus - Colin Hardy (Yn
erbyn) - eglurodd i Aelodau ei fod yn byw’n lleol a hefyd yn Gynghorydd
Dinas. Manylodd ar rinweddau
cadw'r goeden. Cyflogwyd arbenigwr coed annibynnol preifat ar ran
y Cyngor Dinas. Er y bu rhywfaint o fân ddifrod i'r goeden,
argymhellodd yr arbenigwr y byddai adfywiad bron yn sicr os cyflwynwyd
gostyngiad uchder o 50% a lleihau lledaeniad y canopi yn ôl at y prif goesyn
gan arwain at docio cyffredinol ar y goeden. Trafodaeth Gyffredinol - cafwyd trafodaeth a hysbysodd y
Cynghorydd Bill Cowie yr Aelodau fod coeden wedi cael ei thorri ar y safle yn
flaenorol yn 2015 ac nad oedd coeden wedi’i phlannu yn ei lle eto. Gan
gyfeirio at adroddiad yr Ymgynghorydd Coed Annibynnol, cadarnhawyd nad oedd
unrhyw arwyddion o bydredd, twf ffwng, newyn dŵr na chlefyd. Roedd
digonedd o dwf epicormig ar goesau’r goeden a fyddai'n parhau, gan awgrymu bod
adfywiad bron yn sicr. Byddai cael gwared ar bwysau a throsoledd
yn gadael coeden iach, gynaliadwy mewn cyflwr mwy diogel. Mynegodd y Cynghorwyr Julian Thompson Hill a
Meirick Lloyd Davies eu cefnogaeth i achub y goeden a gwrthod y cais. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Bill Cowie y dylid
gwrthod y cais yn erbyn argymhelliad y Swyddog, ac fe’i eiliwyd gan y
Cynghorydd Dewi Owens. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 5 YMATAL - 1 GWRTHOD - 13 PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD caniatâd yn groes i argymhelliad y Swyddogion, oherwydd
gwerth amwynder y goeden ac nad oedd y cynnig yn cyfiawnhau cael gwared ar y
goeden. |
|
CAIS RHIF 47/2016/0186 - CASTELL, WAEN, LLANELWY PDF 5 KB Ystyried cais i
wneud newidiadau i fynedfa bresennol i gerbydau yn Castell, Waen, Llanelwy
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais am newidiadau i’r fynedfa
bresennol i gerbydau yn Castell, Waen, Llanelwy. Siaradwr Cyhoeddus - Mrs Day (O
blaid) – manylodd ar rinweddau’r cais oherwydd peryglon y trac cul a oedd
yn cael trafferth ymdopi â'r cerbydau mawr a’r cerbydau dosbarthu sy'n blocio y
ffordd. Byddai'n dal gan yr eiddo cyfagos fynediad llawn a
byddai'r ymgeisydd yn dilyn cyfarwyddiadau gan Adran Gynllunio Cyngor Sir
Ddinbych. Trafodaeth Gyffredinol – Cadarnhaodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd
Barbara Smith fod y fynedfa i Castell yn beryglus iawn ac roedd y dogfennau
cynllunio yn nodi’r materion dan sylw yn glir. Ychydig
o dir amaethyddol a fyddai’n cael ei golli ac roedd diogelwch yn hollbwysig. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Meirick Lloyd
Davies argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y
Cynghorydd Merfyn Parry. PLEIDLAIS: CANIATÁU - 17 YMATAL - 0 GWRTHOD - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn
yr adroddiad. |
|
Ar y pwynt hwn (11.00 am)
cafwyd toriad. Ailddechreuodd y cyfarfod am
11.15 a.m. |
|
CAIS RHIF 01/2016/0239 - WM MORRISON SUPERMARKETS PLC., DINBYCH PDF 6 KB Ystyried cais i
Amrywio amod rhif 10 o ganiatâd cynllunio rhif 10 caniatâd cynllunio cyfeirnod
01/867/97 i ddarllen 'Bydd danfon nwyddau i'r siop yn cael ei gyfyngu i’r oriau
rhwng 5:00-23:00 bob dydd a bydd danfon nwyddau i'r orsaf betrol a chiosg yn
cael ei gyfyngu i oriau 6:30-22:00 bob dydd' yn Wm Morrison Supermarkets Plc.,
Ffordd Y Ffair, Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i amrywio amod rhif 10 o ganiatâd
cynllunio cyfeirnod 01/867/97 i nodi 'Cyfyngir dosbarthiad nwyddau i'r siop i
rwng 5:00-23:00 o’r gloch bob dydd a chyfyngir dosbarthiad nwyddau i'r orsaf
betrol a chiosg i 6:30-22:00 o'r gloch bob dydd' yn Wm Morrison Supermarkets
Plc., Ffordd Y Ffair, Dinbych. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies
argymhelliad y Swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd
Merfyn Parry. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 19 YMATAL - 0 GWRTHOD - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn
yr adroddiad. |
|
NODIADAU CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL DRAFFT: DATBLYGIAD PRESWYL – DOGFEN YMGYNGHORI PDF 242 KB Ystyried
adroddiad yn argymell bod Aelodau yn cymeradwyo Canllawiau Cynllunio Atodol
drafft ar “Ddatblygiad Preswyl” fel sail ar gyfer ymgynghori cyhoeddus (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus adroddiad yn cyflwyno dogfen ddrafft Canllaw
Cynllunio Atodol (CCA) ar Ddatblygiad Preswyl fel sail ar gyfer ymgynghoriad
cyhoeddus. Atgoffodd y Cynghorydd Smith aelodau o wahanol
gamau’r broses cyn i’r Pwyllgor Cynllunio fabwysiadu’r dogfennau CCA yn
derfynol. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies
argymhelliad y swyddog, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Bob Murray. PLEIDLAIS: O BLAID - 18 YMATAL - 0 YN ERBYN - 0 PENDERFYNWYD bod yr aelodau'n cytuno ar y Canllawiau
Cynllunio Atodol drafft ar Ddatblygu Preswyl, fel y nodwyd yn Atodiad 1 sydd
ynghlwm i’r adroddiad, i ymgynghori’n gyhoeddus arno am leiafswm o wyth
wythnos. |
|
Ystyried
adroddiad yn argymell bod Aelodau yn cymeradwyo Canllawiau Cynllunio Atodol
drafft ar “Rwymedigaethau Cynllunio” fel sail ar gyfer ymgynghori cyhoeddus
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus adroddiad yn cyflwyno dogfen ddrafft Canllaw
Cynllunio Atodol (CCA) ar Rwymedigaethau Cynllunio fel sail ar gyfer ymgynghoriad
cyhoeddus. Atgoffodd y Cynghorydd Smith Aelodau o wahanol
gamau’r broses cyn i’r Pwyllgor Cynllunio fabwysiadu’r dogfennau CCA yn
derfynol. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry i
gyd-fynd ag argymhelliad y swyddog, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill. PLEIDLAIS: O BLAID - 19 YMATAL - 0 YN ERBYN - 0 PENDERFYNWYD bod yr aelodau'n cytuno ar y Canllawiau
Cynllunio Atodol drafft ar Rwymedigaethau Cynllunio, fel y nodwyd yn Atodiad 1
sydd ynghlwm i’r adroddiad, i ymgynghori’n gyhoeddus arno am leiafswm o wyth
wythnos. |
|
Ar y pwynt hwn, cadarnhaodd y Cynghorydd David Smith y byddai'r Grŵp Llywio'r CDLl nesaf yn cael ei gynnal am 10.00am ar 20 Gorffennaf yng Rhuthun. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am
11.30 a.m. |