Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun
Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715 E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Dogfennau ychwanegol: |
|||
Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gysylltiad personol nac un sy'n
rhagfarnu ei ddatgan. |
|||
Penodi Cadeirydd Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer blwyddyn y cyngor 2016/17. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer swydd Cadeirydd y
Pwyllgor Cynllunio ar gyfer 2016/17. Cynigiodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts
y dylid penodi'r Cynghorydd Raymond Bartley yn Gadeirydd, ac eiliwyd hynny gan
y Cynghorydd Joan Butterfield. Mynegodd pob aelod a oedd yn bresennol eu bod yn
cytuno â'r cynnig. PENDERFYNWYD y dylid penodi'r Cynghorydd Raymond
Bartley yn Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio am y flwyddyn i ddod. |
|||
Penodi Is-gadeirydd Penodi Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer blwyddyn y cyngor 2016/17. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer swydd
Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer 2016/17. Cynigiodd y Cynghorydd
Peter Evans y dylid penodi'r Cynghorydd Bill Cowie yn Is-Gadeirydd, ac eiliwyd
hynny gan y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies. Mynegodd pob aelod a oedd yn bresennol eu bod yn
cytuno â'r cynnig. PENDERFYNWYD y dylid penodi'r Cynghorydd Raymond
Bartley yn Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio am y flwyddyn i ddod. |
|||
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybbud o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cododd y Cadeirydd un mater brys ynglŷn ag
Ysbyty Gogledd Cymru ac adroddiadau diweddar yn y wasg ei fod i gael ei werthu
trwy arwerthiant i'w gynnal ar 26 Mai 2016. Dywedodd y byddai’r Aelodau yn cael
diweddariad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd. Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd (PC a GC) ddiweddariad i'r Aelodau ar y wybodaeth berthnasol ar gyfer y
broses Gorchymyn Prynu Gorfodol (GPG) a fyddai'n mynd yn ei blaen beth bynnag
am y darpar werthiant. Byddai'r GPG yn mynd gyda'r tir ac nid y
perchennog penodol. Mae’r Cyngor yn bwriadu bwrw ymlaen â’r
GPG. Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd y byddai swyddogion yn cysylltu â'r Arwerthwyr i roi gwybod iddynt am
hanes y safle. Os oes gan yr Aelodau unrhyw gwestiynau neu
ymholiadau dylent gysylltu’n uniongyrchol â'r PC a GC. Gofynnodd y Cynghorydd Joan Butterfield am
ddiweddariad ar hen safle Ffair y Rhyl. Cadarnhaodd y PC a GC y byddai diweddariad yn cael
ei gyflwyno yng nghyfarfod Grŵp Aelodau Ardal y Rhyl a gellid cyflwyno
adroddiad ffurfiol mewn Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol os oedd angen
penderfyniad. |
|||
Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2016 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio
a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2016. PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd
ar 20 Ebrill, 2016 fel cofnod cywir. |
|||
CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 7 - 13) Cyflwynwyd ceisiadau a gafwyd lle'r oedd angen
penderfyniad gan y pwyllgor ynghyd â'r dogfennau ategol. Cyfeiriwyd
hefyd at yr wybodaeth ategol a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd
ar ôl cyhoeddi'r Rhaglen ac a oedd yn ymwneud â cheisiadau penodol. Er
mwyn caniatáu ceisiadau aelodau’r cyhoedd i siarad yn gyhoeddus, cytunwyd y
dylid amrywio trefn y ceisiadau ar y rhaglen fel y bo’n briodol. Dogfennau ychwanegol: |
|||
CAIS RHIF 09/2016/0346 - YSGUBOR ISAF, BODFARI PDF 35 KB Ystyried cais am godi estyniad i ochr a chefn
annedd (ail-gyflwyno’r cais) yn Ysgubor Isaf, Bodfari, Dinbych (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais am godi estyniad i ochr a chefn
annedd (ail-gyflwyno’r cais) yn Ysgubor Isaf, Bodfari. Siaradwr Cyhoeddus - Manylodd Mrs Karen Jones (O blaid) – am rinweddau'r cais wrth ddarparu lle byw ychwanegol
oedd ei ddirfawr angen er mwyn gallu cefnogi aelodau o'r teulu. Ers
y penderfyniad gwreiddiol i wrthod y cais cynllunio, roedd maint yr estyniad
wedi ei leihau. Cadarnhaodd Mrs Jones y byddai gwrychoedd yn cael
eu plannu ac na fyddai unrhyw rwystr yn cael ei achosi i unrhyw eiddo cyfagos. Trafodaeth Gyffredinol - Eglurodd y Swyddog Cynllunio (EO’C) y
rhesymau dros yr argymhelliad i wrthod y cais. Cafwyd trafodaeth fanwl a dywedodd y Cynghorydd
Merfyn Parry (Aelod Lleol) y byddai'r eiddo’n dal i fod yn dŷ cymharol
fach ar ôl ychwanegu’r estyniad ac na fyddai'n achosi unrhyw effaith andwyol ar
eiddo cyfagos. Roedd y teulu wedi gwneud cais am estyniad i'w
cartref oherwydd y newid yn amgylchiadau’r teulu. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry y
dylid caniatáu’r cais, yn groes i argymhellion y swyddogion, gan na fyddai'n
cael unrhyw effaith andwyol ar eiddo cyfagos na'r amgylchedd. Eiliwyd
hyn gan y Cynghorydd Stuart Davies. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 16 GWRTHOD - 2 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn groes i argymhelliad y swyddogion am na
fyddai'r estyniad yn cael unrhyw effaith andwyol ar eiddo cyfagos na'r
amgylchedd. |
|||
CAIS RHIF 41/2015/1229 - THE WARREN, FFORDD YR WYDDGRUG, BODFARI PDF 36 KB Ystyried cais i ddileu amod rhif 2(a) caniatâd
cynllunio 41/2010/1177/PF yn cyfyngu'r defnydd o ganolfan addysg a hyfforddiant
coedwig i ddim mwy na 200 diwrnod mewn unrhyw flwyddyn, Warren Woods Cyf. The
Warren, Ffordd yr Wyddgrug, Bodfari (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i ddileu amod rhif 2(a) caniatâd
cynllunio 41/2010/1177/PF yn cyfyngu'r defnydd o ganolfan addysg a hyfforddiant
coedwig i ddim mwy na 200 diwrnod mewn unrhyw flwyddyn, Warren Woods Cyf. The
Warren, Ffordd yr Wyddgrug, Bodfari. Gofynnodd y Cynghorydd Barbara Smith (Aelod Lleol)
i’r cais gael ei ohirio er mwyn caniatáu trafodaeth bellach i ddigwydd. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts bod y cais yn cael ei ohirio er mwyn caniatáu trafodaeth
bellach ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Arwel Roberts. PLEIDLAIS: O BLAID - 16 YN ERBYN - 3 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid GOHIRIO’R cais er mwyn caniatáu trafodaeth bellach i ddigwydd. |
|||
CAIS RHIF 41/2016/0027 - THE WARREN, FFORDD YR WYDDGRUG, BODFARI PDF 5 KB Ystyried cais i godi ystafell ddosbarth, storfa,
toiled a chreu mannau pasio yn The Warren, Ffordd yr Wyddgrug, Bodfari (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i godi ystafell ddosbarth, storfa,
toiled a chreu mannau pasio yn The Warren, Ffordd yr Wyddgrug, Bodfari. Siaradwr Cyhoeddus - Eglurodd Mrs Elena Fowler (Yn erbyn) - ei phryderon ynghylch y cais i’r Aelodau. Roedd
yn gwrthwynebu colli preifatrwydd, mwy o sŵn, y man pasio i draffig y
bwriadwyd ei greu gyferbyn â giât ei gardd. Hefyd
byddai'r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr i'r safle yn achosi problemau traffig. Teimlai na fyddai ei chartref yn parhau i fod yr
eiddo preifat, heddychlon y rhagwelodd hi pan symudodd hi i mewn yn wreiddiol. Manylodd Mr Rob Waterfield (O blaid) - ar rinweddau'r cais. Eglurodd
bod y maes carafanau wedi cael ei ddefnyddio ers dros 25 mlynedd. Gwnaed
gwaith ar y safle gyda phlant ac oedolion sydd ag anawsterau dysgu drwy gydol
yr wythnos. Roedd agen yr ystafell ddosbarth ychwanegol gan
nad oedd bob amser yn briodol i gael plant ac oedolion diamddiffyn mewn man lle
roedd mynediad i'r cyhoedd. Trafodaeth Gyffredinol - Eglurodd y Cynghorydd Barbara Smith (Aelod
Lleol) ei bod yn fenter gwerth chweil, ond roedd pryderon ynghylch amwynder
preswyl y cymdogion. Roedd sgrinio i gynyddu preifatrwydd wedi
bod yn broblem, gellid hefyd newid lleoliad y man pasio fel nad oedd gyferbyn â
chartref Mrs Fowler. Cafwyd trafodaeth a chadarnhawyd bod ymgynghori
wedi digwydd gyda'r cymdogion ac y gellid ychwanegu amodau ychwanegol ynghylch
tirlunio ac edrych ar safleoedd eraill ar gyfer y mannau pasio. Rhoddwyd
sicrwydd i’r Aelodau y byddai gwaith ychwanegol yn digwydd gyda'r ymgeisydd, y
preswylydd a’r aelod lleol. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies y
dylid caniatáu’r cais ar yr amod bod dau amod pellach yn cael eu hychwanegu
ynghylch tirlunio a safle’r mannau pasio. Eiliwyd
hyn gan y Cynghorydd Peter Evans. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 18 GWRTHOD - 1 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddogion a nodwyd yn
yr adroddiad ynghyd â dau amod ychwanegol ar gyfer tirlunio a symud
lleoliadau’r mannau parcio. |
|||
CAIS RHIF 15/2016/0009 - PEN Y COED, ERYRYS, YR WYDDGRUG PDF 5 KB Ystyried cais ar gyfer codi annedd yn lle’r un
presennol yn Pen y Coed, Eryrys, yr Wyddgrug (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais ar gyfer codi annedd yn lle’r un
presennol yn Pen y Coed, Eryrys, yr Wyddgrug. Trafodaeth Gyffredinol - Eglurodd y Cynghorydd Martyn Holland
(Aelod Lleol) nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i'r cais ac y byddai
ail-ddatblygu'r safle yn welliant. Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Arwel Roberts
argymhelliad y swyddogion i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd hynny gan y
Cynghorydd Barry Mellor. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 18 GWRTHOD - 1 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn
yr adroddiad. |
|||
Ar y pwynt hwn (10.45 am)
cafwyd toriad. Ailddechreuodd y cyfarfod am
11.00 a.m. |
|||
CAIS RHIF 45/2016/0201 - 14 GARETH CLOSE, Y RHYL PDF 5 KB Ystyried cais i gadw decin wedi’i godi y tu ôl i
14 Gareth Close, Y Rhyl (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i gadw decin wedi’i godi y tu ôl i
14 Gareth Close, Y Rhyl. Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Cheryl Williams (Aelod
Lleol) argymhelliad y swyddog i ganiatáu’r cais, ac eiliwyd hynny gan y
Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones (Aelod Lleol). PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn
yr adroddiad. |
|||
CAIS RHIF 45/2016/0208 - HAFOD WEN A HAILWOOD, FFORDD BRYN CWNIN, Y RHYL PDF 6 KB Ystyried cais i dorri 3 Derwen T1 T2 a T3 i lawr a
thocio corun 1 Derwen T4 sy’n destun
Gorchymyn Diogelu Coed yn Hafod Wen a Hailwood, Ffordd Bryn Cwnin, Y Rhyl (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i dorri 3 Derwen T1, T2 a T3 i
lawr a thocio corun 1 Derwen T4 sy’n destun Gorchymyn Diogelu Coed yn Hafod Wen
a Hailwood, Ffordd Bryn Cwnin, Y Rhyl. Trafodaeth Gyffredinol - Cyflwynodd y Cynghorydd Jeanette
Chamberlain Jones (Aelod Lleol) ddatganiad o blaid cadw'r coed. Mynegodd yr Aelodau bryder fod datblygwyr yn
sicrhau eu bod yn diogelu coed ar safleoedd datblygu er mwyn peidio â chael
coed wedi eu torri i lawr oherwydd difrod yn ystod y gwaith paratoi tir a
wnaed. Cafwyd sicrwydd y
byddai tocio corun y bedwaredd goeden yn digwydd yn ôl safonau'r diwydiant. Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu fod angen adolygu
pob GDC gan fod rhai o'r coed a ddiogelir eisoes wedi marw ac wedi’u torri i
lawr. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Jeanette Chamberlain
Jones y dylid gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad y swyddogion, ac y dylai
Polisi VOE1 y Cynllun Datblygu Lleol ac Adran 5 Polisi Cynllunio Cymru, fod yn
berthnasol. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Cheryl Williams PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 2 GWRTHOD - 16 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD y cais, yn groes i argymhelliad y swyddogion, ac y dylai
Polisi VOE1 y Cynllun Datblygu Lleol ac Adran 5 Polisi Cynllunio Cymru, fod yn
berthnasol i'r cais hwn. |
|||
CAIS RHIF 46/2016/0198 - GWESTY TALARDY PARK, Y RO, LLANELWY PDF 36 KB Ystyried cais i dorri 1 Castanwydden sydd wedi’i
chynnwys yng Ngorchymyn Diogelu Coed Gwesty Talardy 1975 cyf A1 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cais i dorri 1 Castanwydden sydd wedi’i
chynnwys yng Ngorchymyn Diogelu Coed Gwesty Talardy 1975 cyf A1. Trafodaeth Gyffredinol – Yn y lle cyntaf, nododd y Cynghorydd Bill
Cowie (Aelod Lleol) ei bod yn nodi yn yr adroddiad yr ymgynghorwyd â’r Aelod
Lleol ynghylch y cais. Cadarnhaodd y Cynghorydd Cowie nad oedd
hyn yn wir ac nad oedd wedi bod yn rhan o'r ymgynghoriad. Cynnig - Gofynnodd y Cynghorydd Bill Cowie i’r cais
gael ei ohirio tan gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 22 Mehefin, 2016 er mwyn
galluogi Cyngor Dinas Llanelwy i benodi arbenigwr coed annibynnol i asesu'r
goeden. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies. PLEIDLAIS: O BLAID - 18 YN ERBYN - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid GOHIRIO’R cais tan gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 22 Mehefin,
2016 er mwyn galluogi Cyngor Dinas Llanelwy i benodi arbenigwr coed annibynnol
i asesu'r gastanwydden sydd wedi’i chynnwys yng Ngorchymyn Diogelu Coed Gwesty
Talardy 1975 cyf A1. |
|||
CAIS RHIF 43/2015/0315 - SAFLE YN SANDY LANE, PRESTATYN PDF 129 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) i ofyn am benderfyniad ar yr amodau i'w cynnwys yng Nghaniatâd Cynllunio 43/2015/0315/PF - Safle yn Sandy Lane, Prestatyn. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu, adroddiad yn argymell
cymeradwyo Penawdau Telerau arfaethedig Cytundeb Adran 106 ac amodau cynllunio
i gael eu cynnwys wrth ganiatâd ar gyfer y safle yn natblygiad Sandy Lane. Trafodaeth Gyffredinol – cwestiynodd y Cynghorydd Peter Evans y
swm gohiriedig o £140,000 i'w dalu i'r Cyngor yn lle darparu tai fforddiadwy a
mannau agored ar y safle. Mynegodd y Cynghorydd Evans bryder fod y
ffigwr yn rhy isel. Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu fod y
datblygwyr wedi cynnal arfarniad hyfywedd, ac yn dilyn hynny cytunwyd ar ffigwr
o £140,000. Awgrymodd y Cynghorydd Stuart Davies y dylai’r
Cyngor gael Bond i sicrhau'r taliad.
Cadarnhaodd y Prif
Gyfreithwraig ei bod wedi bod yn trafod gyda chyfreithwyr y datblygwr a oedd
wedi gwrthod darparu Bond. Gellid codi'r mater ynghylch diogelwch
gyda nhw unwaith eto. Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Peter Evans y dylid
dilyn argymhelliad y swyddogion i ganiatáu'r Cytundeb Adran 106 ac Amodau
Cynllunio ynghlwm wrth y caniatâd cynllunio ar gyfer y safle ar Sandy Lane,
Prestatyn. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Anton Sampson. PLEIDLAIS: CYMERADWYO - 17 GWRTHOD - 1 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion a nodwyd yn
yr adroddiad. |
|||
ADOLYGIAD O'R CYNLLUN DIRPRWYO PDF 39 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu Adroddiad ar y
Cynllun Dirprwyo Diwygiedig. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno newidiadau a
oedd wedi'u hadlewyrchu yn y Cynllun Dirprwyo. PLEIDLAIS: CYTUNO - 13 YN ERBYN - 3 YMATAL - 1 PENDERFYNWYD bod yr Aelodau'n cytuno ar y Cynllun
Dirprwyo diwygiedig. |
|||
APÊL PARC HIGHFIELD, LLANGWYFAN PDF 107 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) i ddarparu gwybodaeth i'r Aelodau am yr Apêl
ynghylch Parc Highfield, Llangwyfan. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu adroddiad ar Apêl
Cynllunio – Highfield Park, Llangwyfan. Rhoddwyd gwybodaeth i Aelodau ar yr Apêl ynghylch
Highfield Park, Llangwyfan. Gofynnwyd hefyd i'r Pwyllgor benodi dau
Aelod i gynrychioli'r Cyngor yn yr Apêl ac amddiffyn y rhesymau dros wrthod. Cynigiwyd y Cynghorydd Merfyn Parry gan y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Meirick Lloyd
Davies. Cynigiwyd y Cynghorydd Joe Welch gan y Cynghorydd
Huw Hilditch-Roberts ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Brian Blakeley. PLEIDLAIS: O BLAID - 15 YN ERBYN - 0 YMATAL - 0 PENDERFYNWYD y dylai’r Cynghorwyr Merfyn Parry a Joe
Welch gynrychioli'r Cyngor mewn Apêl ac amddiffyn y rhesymau dros wrthod. |
|||
Daeth y cyfarfod i ben am
11.45 a.m. |