Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau pdf eicon PDF 21 KB

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 59 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Merfyn Parry ddatgan cysylltiad Personol sy’n Rhagfarnu yn Eitem 6.

 

Bu i’r Cynghorydd Huw Williams ddatgan cysylltiad Personol yn Eitem 6.

 

Bu i’r Cynghorydd Brian Blakeley ddatgan cysylltiad Personol sy’n Rhagfarnu yn Eitem 12.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim materion brys.

 

 

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 198 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd 20 Ionawr 2016 (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2016.

 

Tudalen 11 – Cadarnhaodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Raymond Bartley, fod brîff wedi’i anfon ynghylch cynnwys y cofnodion at y Cynghorwyr i gyd. Cytunodd y Cynghorwyr ag awgrym y Cadeirydd, oherwydd bod cynnwys y cofnodion wedi cael eu cymeradwyo gan yr Arweinwyr Grŵp yn 2010, y dylid mynd â’r mater yn ôl gerbron yr Arweinwyr Grŵp i ailwerthuso cynnwys cofnodion a gofnodwyd ar gyfer pob cyfarfod Pwyllgor.

Roedd y brîff yn datgan pe bai Aelod o Bwyllgor am i’w sylwadau gael eu cofnodi, y dylent ddweud hynny yn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD, yn ddarostyngedig i’r uchod, bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2016 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

CEISIADAU AM GANIATÂD DATBLYGU (EITEMAU 5 - 14) -

Cyflwynwyd ceisiadau a dderbyniwyd a oedd angen penderfyniad y Pwyllgor arnynt, ynghyd â dogfennau cysylltiedig. Cyfeiriwyd hefyd at wybodaeth atodol hwyr (tudalennau glas) a dderbyniwyd ers cyhoeddi’r agenda, ac yn ymwneud â cheisiadau penodol. Er mwyn caniatáu ceisiadau i gael siarad yn gyhoeddus, cytunwyd i amrywio trefn y ceisiadau ar yr agenda yn unol â hynny.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

CAIS RHIF 14/2015/0854 - FOEL UCHAF, CYFFYLLIOG, RHUTHUN pdf eicon PDF 38 KB

Ystyried cais i Osod 2 dyrbin gwynt (uchder tŵr tyrbin 24.8m, uchder o’r ddaear i flaen y llafn 36.6m) offer amgáu cysylltiedig a thraciau mynediad ar Dir yn Foel Uchaf, Cyffylliog, Rhuthun (copi wedi’i atodi).

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Bu i’r Cynghorydd Merfyn Parry ddatgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn yr eitem hon oherwydd bod merch y Cynghorydd Parry’n briod â mab yr ymgeisydd. Gadawodd y Cynghorydd Parry’r Siambr ar y pwynt hwn].

 

[Bu i’r Cynghorydd Huw Williams ddatgan cysylltiad personol yn yr eitem hon oherwydd ei fod yn adnabod yr ymgeisydd a’r gwrthwynebydd].

 

Cyflwynwyd cais i godi dau dyrbin gwynt (uchder y tŵr 24.8m, uchder o’r ddaear i flaen y llafn 36.6m), adeilad cysylltiedig i gadw cyfarpar a thraciau mynediad ar dir yn Foel Uchaf, Cyffylliog, Rhuthun.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Jo Anne Williamson (Yn erbyn) – cyfeiriodd at gysylltiadau ei theulu â’r ardal. Ehangodd ar y rhesymau y tu ôl i’r gwrthwynebiad a bod hynny oherwydd amwynder gweledol a niwsans sŵn.

 

Richard Adams (Dros) – eglurodd fod y Cyngor Cymuned lleol o blaid y cais. Nid oedd unrhyw broblemau sŵn yn gysylltiedig â’r cais ac roedd y tyrbinau mewn lleoliad ffafriol ac uchder tyrau’r tyrbinau’n isel.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Rhoddodd y Cynghorydd Joe Welch (Aelod Lleol) fanylion i’r Pwyllgor am gefndir y cais. Cyflwynwyd y cais beth amser yn ôl, yn wreiddiol am un tyrbin mawr. Newidiwyd hyn i ddau dyrbin llai. Codwyd y mater y byddai’r tyrbinau y tu allan i’r ardal strategol oherwydd i bryder gael ei leisio bod tyrbinau’n cael eu lleoli mwyfwy y tu allan i’r ardal strategol.

 

Bu’r Aelodau’n trafod amrywiol ffactorau’r cais a dywedodd y Cynghorwyr Stuart Davies a Huw Williams eu bod o blaid y cais a bod angen i ffermydd gael arallgyfeirio.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Cynllunio fod asesiad sŵn wedi’i ddarparu i’r ymgynghorydd mewnol ac allanol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ei fod wedi cael gwybod nad oedd ceisiadau cynllunio blaenorol i gael eu hystyried ond eto bod y cais hwn yn rhoi hanes ceisiadau eraill i’r Aelodau fel y gallent wneud penderfyniad gwybodus. Gofynnodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts am eglurhad ar hyn. Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu y byddai’r sylw ynghylch yr hanes cynllunio’n cael ei drafod nes ymlaen yn y cyfarfod o dan eitem Ran 2.

 

Bu’r Pwyllgor yn trafod haeddiannau’r cais a’r ystyriaethau cynllunio perthnasol.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies ac eiliodd y Cynghorydd Huw Williams y dylid caniatáu’r cais, yn groes i argymhelliad swyddogion, ar sail y cydbwysedd rhwng arallgyfeirio ac amwynder.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 7

YMATAL - 0

GWRTHOD – 15

 

PENDERFYNWYD GWRTHOD caniatâd yn unol ag argymhelliad swyddogion fel y manylwyd arno yn yr adroddiad.

 

6.

CAIS RHIF 40/2015/1150 - TŶ FRY INN, LÔN TŶ FRY, BODELWYDDAN pdf eicon PDF 39 KB

Ystyried cais i amrywio amod rhif 3 o ganiatâd cynllunio Cod Rhif 40/2014/1445/PF i ddarllen “Ni fydd nwyddau yn cael eu derbyn na eu hanfon o'r safle, gan gynnwys trin a chasglu gwastraff a gweithgarwch arall o fewn y maes gwasanaeth, tu allan i oriau 07:00awr a 21:00awr o ddydd Llun i ddydd Gwener, 07:00hrs - 20:00awr ar ddydd Sadwrn a 09:00hrs - 18:00awr ar ddydd Sul a Gwyliau’r Banc” yn Nhŷ Fry Inn, Lôn Tŷ Fry, Bodelwyddan (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i amrywio amod Rhif 3 ar ganiatâd cynllunio Cod Rhif 40/2014/1445/PF i ddarllen “ni ddylid derbyn na chludo dosbarthiadau o’r safle, gan gynnwys symud a chasglu gwastraff a gweithgareddau eraill yn yr ardal wasanaeth, y tu allan i’r oriau 07.00am a 21.00pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener, 07.00am – 20.00pm ar ddydd Sadwrn a 09.00am – 18.00pm ar ddydd Sul ac ar Wyliau Banc” ar dir tafarn Tŷ Fry, Lôn Tŷ Fry, Bodelwyddan, Y Rhyl.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Gillian Whitfield (Dros) – eglurodd y rheswm y tu ôl i’r cais i amrywio’r amseroedd dosbarthu. Eglurwyd na fyddai nifer y dosbarthiadau’n cynyddu ac y byddai hynny’n aros ar ddau y dydd.

 

Trafodaeth Gyffredinol -  Yn gyntaf tynnodd y Cynghorydd Alice Jones (Aelod Lleol) sylw’r Pwyllgor at y lleoliad anghywir a dywedodd nad yn Lôn Tŷ Fry oedd y safle ond yn Ronaldsway. Cadarnhaodd y Cynghorydd Jones na fyddai’n cefnogi’r cais oherwydd bod ganddi bryderon ynghylch sut y cyflawnwyd yr Archwiliad Diogelwch Ffyrdd. Eglurodd fod Archwiliad Diogelwch Ffyrdd wedi cael ei gyflawni ar y safle ond ei fod wedi’i wneud rhwng 10.00am ac 11.00am gan ddau berson mewn tywydd cymylog a chawodlyd a ddywedodd mai ysgafn oedd y traffig a symudiadau cerddwyr. Dywedodd y Cynghorydd Jones y byddai’n mynd â’r Archwiliad Diogelwch Ffyrdd i’r Pwyllgor Craffu i’w ystyried. Cefnogodd y Cynghorydd Arwel Roberts gynnig y Cynghorydd Alice Jones.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield ac eiliodd y Cynghorydd Win Mullen James argymhelliad y swyddogion i ganiatáu’r cais.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 20

YMATAL – 1

GWRTHOD – 2

 

PENDERFYNWYD RHOI caniatâd yn unol ag argymhelliad swyddogion fel y manylwyd arno yn yr adroddiad.

 

7.

CAIS RHIF 43/2015/1120 - 72 FFORDD GRONANT, PRESTATYN pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais am Dorri 1 goeden castan y meirch yn amodol ar Orchymyn Gwarchod Coed ar dir yn 72 Ffordd Gronant, Prestatyn (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i gwympo coeden gastanwydden oedd â Gorchymyn Gwarchod Coed arni ar dir yn 72 Ffordd Gronant, Prestatyn.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Caroline Jones (Yn erbyn) – eglurodd wrth y Pwyllgor fod ei chartref gyferbyn â’r safle lle’r oedd y goeden hon. Dywedodd Ms Jones nad oedd yr adeiladwyr wedi gwarchod gwreiddiau’r goeden wrth wneud gwaith ar y dreif a bod rhai o’r gwreiddiau wedi cael eu torri. Er gwaetha’r tywydd drwg yn ddiweddar, roedd y goeden yn dal i sefyll a ddangosai ba mor gryf ydoedd.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Lleisiodd y Cynghorydd Anton Sampson (Aelod Lleol) ei wrthwynebiad i gwympo’r goeden oherwydd bod Gorchymyn Gwarchod Coed arni. 

 

Eglurwyd wrth y Pwyllgor fod y caniatâd cynllunio gwreiddiol wedi’i roi yn dangos bod y goeden i gael ei chadw. Gofynnodd Aelodau i’r Rheolwr Datblygu holi a ellid cymryd camau yn erbyn y datblygwyr am wneud difrod i goeden wedi’i gwarchod. Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu y byddai’n gofyn am gyngor ar hyn.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Anton Sampson ac eiliodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y dylid gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad swyddogion, ar y seiliau bod y goeden yn darparu amwynder sylweddol yn yr ardal ac nad oedd digon o dystiolaeth i ddangos bod cwympo’r goeden yn hanfodol ac yr ystyrid y byddai cwympo’r goeden yn cael effaith annerbyniol ar amwynder yr ardal.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU: 1

YMATAL: 1

YN ERBYN: 21

 

PENDERFYNWYD gwrthod caniatâd, yn groes i argymellion swyddogion, ar y seiliau bod y goeden yn darparu gwerth amwynder sylweddol yn yr ardal ac nad oedd digon o dystiolaeth i ddangos bod cwympo’r goeden yn hanfodol ac yr ystyrid y byddai cwympo’r goeden yn cael effaith annerbyniol ar amwynder yr ardal.

 

Ar y pwynt hwn (11.05 a.m.) cafwyd egwyl o chwarter awr.

 

Ailgychwynnodd y cyfarfod am 11.20 a.m.

 

 

 

8.

CAIS RHIF 44/2015/1075 - TIRIONFA, RHUDDLAN pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i Ddatblygu 3.39 hectar o dir ar gyfer datblygiad preswyl (cais amlinellol – cedwir pob mater) ar Dir i’r dwyrain o Dirionfa, Rhuddlan, Y Rhyl (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i ddatblygu 3.39 hectar o dir ar gyfer datblygiad preswyl (cais amlinellol –yr holl faterion i’w cadw’n ôl) ar dir i’r dwyrain o Dirionfa, Rhuddlan, y Rhyl.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Pauline Evans (Yn erbyn) – lleisiodd bryderon ynghylch sut y byddai datblygu’r safle’n effeithio ar yr ardal leol oherwydd bod yno broblemau draenio, nid oedd unrhyw feddygon yn Rhuddlan ac roedd yr ysgolion lleol yn llawn. Byddai’r datblygiad hefyd yn achosi problemau o ran faint o draffig a fyddai yn yr ardal.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu mai cais ar gyfer datblygiad preswyl ar safle tai wedi’i ddyrannu oedd hwn. Cais cynllunio amlinellol ydoedd ac felly ni fyddai’r manylion llawn am nifer a maint y datblygiad yn hysbys hyd nes y daethai cais cynllunio llawn i law. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru na Phriffyrdd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Arwel Roberts (Aelod Lleol) ei fod yn erbyn y datblygiad, felly hefyd Gyngor Tref Rhuddlan. Dywedodd fod y safle a ddyranwyd yn dir fferm ac na ddylid ei ddefnyddio ar gyfer datblygiad preswyl. Cododd y Cynghorydd Roberts y mater bod y tir yn gorsiog, y ffaith nad oedd meddyg yn Rhuddlan a bod yr ysgolion lleol yn llawn. Dywedodd y Cynghorydd Roberts ei fod eisiau gweld arolwg traffig ffyrdd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies (Aelod Lleol) ei bod hithau hefyd yn erbyn y datblygiad am resymau tebyg i rai’r Cynghorydd Roberts.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu y byddai Arolygydd Priffyrdd wedi asesu’r safle dan sylw i gadarnhau a fyddai’r cae’n addas i’w ddatblygu. O ran fater yr ysgolion, byddai hyn yn rhan o’r amod “ni cheir meddiannu unrhyw dŷ hyd nes y rhoddir caniatâd ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer trefniadau i gydymffurfio â pholisïau’r Cyngor ynghylch cyfrannu at gyfleusterau addysgol”.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Arwel Roberts ac eiliodd y Cynghorydd Alice Jones y dylid gwrthod y cais, yn groes i argymhelliad swyddogion.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU– 14

YMATAL – 1

YN ERBYN – 7

 

PENDERFYNWYD RHOI caniatâd yn unol ag argymhelliad swyddogion fel y manylwyd arno yn yr adroddiad.

 

 

9.

CAIS RHIF 45/2015/1182-29 VEZEY STREET, Y RHYL pdf eicon PDF 39 KB

Ystyried cais i Amrywio amod 3 a osodwyd ar ganiatâd cynllunio 45/2013/0828 i ganiatáu cynnydd yn yr oriau defnydd i:

06:00 - 20.30 dydd Llun i ddydd Gwener (08:00 – 20:00 ar hyn o bryd)

07:00 – 14:00 dydd Sadwrn (08:00 - 14:00 ar hyn o bryd)

08:00 - 14:00 dydd Sul (fel sy'n bodoli eisoes)

yn 29 Vezey Street, y Rhyl (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Bu i’r Cynghorydd Brian Blakeley ddatgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn yr eitem hon oherwydd ei fod wedi cyflogi’r ymgeisydd yn flaenorol. Ar y pwynt hwn, gadawodd y Cynghorydd Blakeley Siambr y Cyngor].

 

Cyflwynwyd cais i amrywio amod 3 ar ganiatâd cynllunio 45/2013/0828 i ganiatáu cynnydd yn yr oriau defnydd i:

06.00 – 20.30 o ddydd Llun tan ddydd Gwener (08.00 – 20.00 ar hyn o bryd)

07.00 – 14.00 dydd Sadwrn (08.00 – 14.00 ar hyn o bryd)

08.00 – 14.00 dydd Sul (fel ar hyn o bryd)

yn 29 Vezey Street, Y Rhyl

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Katie Jones (Dros) – dywedodd fod y gampfa’n fusnes teuluol ac wedi bod yn gyfleuster hamdden ers dwy flynedd. Byddai ymestyn oriau agor y gampfa’n sicrhau ei bod ar gael i fwy o bobl leol ac yn eu hannog i ddefnyddio’r gampfa drawsnewid ac i fyw’n iachach.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Cadarnhaodd y Cynghorydd Pat Jones (Aelod Lleol) ei bod hi a’i chyd-Gynghorydd Peter Prendergast wedi ymweld â’r gampfa ac na chlywsant unrhyw sŵn y tu allan i’r adeilad a fyddai’n aflonyddu ar drigolion lleol. Dywedodd y Cynghorydd Jones ei bod o blaid y cais i ymestyn yr oriau agor.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Pat Jones ac eiliodd y Cynghorydd Peter Prendergast y dylid caniatáu’r cais, yn groes i argymhelliad swyddogion, ar sail cefnogi busnesau lleol, cefnogi iechyd a lles ac na fyddai’r oriau ychwanegol yn achosi unrhyw sŵn neu aflonyddwch ychwanegol.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 17

YMATAL – 0

YN ERBYN – 0

 

PENDERFYNWYD CANIATÁU yn groes i argymhelliad swyddogion, ar sail cefnogi busnesau lleol, cefnogi iechyd a lles ac na fyddai’r oriau ychwanegol yn achosi unrhyw sŵn neu aflonyddwch ychwanegol.

 

10.

CAIS RHIF 46/2015/0984 - TIR ODDI AR CWTTIR LANE, LLANELWY pdf eicon PDF 36 KB

Ystyried cais i Adeiladu adeilad peiriannau cynhyrchu pŵer 16MW gan gynnwys offer ategol a mynediad newydd ar dir oddi ar Cwttir Lane, Llanelwy (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi adeilad gwaith cynhyrchu trydan 16MW i gynnwys cyfarpar cysylltiedig a mynedfa newydd ar dir oddi ar Cwttir Lane, Llanelwy.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Elizabeth Evans (Dros) – gwaith oedd hwn i gefnogi’r Grid Cenedlaethol pryd nad oedd digon o drydan i ateb y galw. Roedd Asesiadau Sŵn ac Ansawdd Aer wedi eu derbyn. Dewiswyd y safle arfaethedig fel cae llwyd. Roedd y datblygiad wedi’i leoli a’i ddylunio’n dda a byddai’n darparu pedair swydd llawn amser.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Roedd y Cynghorydd Bill Cowie o blaid y cais. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies fod y ffordd yn cael ei lledu yn hytrach na dibynnu ond ar y mannau pasio cymeradwy. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Arwel Roberts.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddid yn cael pleidlais ar gynnig y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies i ledu’r ffordd.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 3

YN ERBYN – 16

Gwrthodwyd y cynnig i ledu’r ffordd.

 

Cynnig– Cynigiodd y Cynghorydd Bill Cowie ac eiliodd y Cynghorydd Rhys Hughes argymhelliad y swyddogion i ganiatáu’r cais.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 18

YMATAL – 0

YN ERBYN – 1

 

PENDERFYNWYD RHOI caniatâd yn unol ag argymhelliad swyddogion fel y manylwyd arno yn yr adroddiad.

 

 

11.

CAIS RHIF 06/2014/1436 - HENDRE BRYN CYFFO, GWYDDELWERN, CORWEN pdf eicon PDF 36 KB

Ystyried cais i Osod un tyrbin gwynt Endurance X29 gyda thrac mynediad cysylltiedig, llawr caled i graen, sylfeini, a chabinet i gadw’r mesurydd ar dir yn Bryn Hendre Cyffo, Gwyddelwern, Corwen (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i osod un tyrbin gwynt endurance X29 gyda thrac mynediad cysylltiedig, llawr caled ar gyfer craen, sylfeini a chwpwrdd i gadw’r mesurydd ar dir yn Hendre Bryn Cyffo, Gwyddelwern, Corwen.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies ac eiliodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies argymhelliad swyddogion i ganiatáu’r cais.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 14

YMATAL – 1

YN ERBYN – 3

 

PENDERFYNWYD RHOI caniatâd yn unol ag argymhelliad swyddogion fel y manylwyd arno yn yr adroddiad.

 

12.

CAIS RHIF 18/2015/1146 - HIGHFIELD PARK, LLANGWYFAN, DINBYCH pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i amrywio amod rhif 12 o god caniatâd cynllunio rhif 18/2012/1595 i ganiatáu 2 bwynt mynediad i aros ar agor ym Mharc Highfield, Llangwyfan, Dinbych (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y cais cynllunio i amrywio amod rhif 12 ar ganiatâd cynllunio Cod Rhif 18/2012/1595 i ganiatáu i ddau bwynt mynediad gael aros ar agor yn Highfield Park, Llangwyfan, Dinbych, wedi cael ei DYNNU’N ÔL yn ffurfiol gan yr Asiant.

 

 

13.

CAIS RHIF 25/2015/1164 - TIR I’R DWYRAIN O LYN BRENIG pdf eicon PDF 38 KB

Ystyried cais i Amrywio amod rhif 3 o ganiatâd cynllunio cyf 25/2007/0565 i ganiatáu i dyrbin rhif 12 a ffordd gangen berthnasol i gael lwfans micro-leoli 30m a thyrbin 14 a ffordd gangen berthnasol i gael lwfans micro-leoli 49m ar dir i'r Dwyrain o Lyn Brenig, Nantglyn (copi wedi’i atodi).  

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i amrywio amod rhif 3 ar ganiatâd cynllunio 25/2007/0565 i ganiatáu i dyrbin rhif 12 a ffordd gangen berthnasol gael lwfans micro-leoli 30m ac i dyrbin rhif 14 a ffordd gangen berthnasol gael lwfans micro-leoli 49m ar dir i’r dwyrain o Lyn Brenig, Nantglyn.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies ac eiliodd y Cynghorydd Brian Blakeley argymhelliad swyddogion i ganiatáu’r cais.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 17

YMATAL – 0

YN ERBYN – 1

 

PENDERFYNWYD RHOI caniatâd yn unol ag argymhelliad swyddogion fel y manylwyd arno yn yr adroddiad.

 

 

14.

CAIS RHIF 47/2015/1174 – 11 LLYS Y TYWYSOG, TREMEIRCHION pdf eicon PDF 5 KB

Ystyried cais i Godi balconi yng nghefn annedd yn 11 Llys y Tywysog, Tremeirchion, Llanelwy (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi balconi yng nghefn y tŷ yn 11 Llys Y Tywysog, Tremeirchion, Llanelwy.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies ac eiliodd y Cynghorydd Rhys Hughes argymhelliad swyddogion i ganiatáu’r cais.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU – 17

YMATAL – 0

YN ERBYN – 1

 

PENDERFYNWYD RHOI caniatâd yn unol ag argymhelliad swyddogion fel y manylwyd arno yn yr adroddiad.

 

 

15.

BRÎFF DATBLYGU SAFLE: CAE FFYDDION, DYSERTH - MABWYSIADU DOGFEN DERFYNOL pdf eicon PDF 133 KB

Rhoi gwybod i Aelodau am y sylwadau a gafwyd mewn ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Brîff Datblygu Safle drafft ar gyfer Cae Ffyddion, Dyserth ac i ofyn i’r Aelodau gymeradwyo’r Brîff Datblygu gyda newidiadau arfaethedig (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol Tir y Cyhoedd, yr adroddiad ar gyfer Brîff Datblygu’r Safle: Cae Ffyddion, Dyserth – Mabwysiadu’r ddogfen derfynol (wedi’i gylchredeg yn flaenorol).

 

Roedd Aelodau wedi cymeradwyo’r ddogfen ddrafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ar 15 Gorffennaf 2015 a bu’n destun ymgynghoriad cyhoeddus am 13 wythnos hyd at 30 Hydref 2015.

 

Pwrpas yr adroddiad oedd hysbysu’r Aelodau o sylwadau a dderbyniwyd drwy’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Brîff Datblygu Safle drafft ar gyfer Cae Ffyddion, Dyserth a gofyn i’r Aelodau gymeradwyo’r Brîff Datblygu gyda’r newidiadau arfaethedig. O’i gymeradwyo, byddai’r Brîff Datblygu Safle’n cael ei ddefnyddio i helpu i benderfynu unrhyw geisiadau cynllunio ar y safle.

 

Eglurodd yr Uwch Swyddog Cynllunio y newidiadau yn y Brîff Datblygu Safle.

 

Daeth y Cynghorydd Martyn Holland i’r Pwyllgor Cynllunio i siarad ar ran y Cynghorydd Peter Owen a oedd, yn anffodus, wedi methu â bod yno oherwydd salwch. Roedd y Cynghorydd Owen am i’r pwyllgor gael gwybod ei fod yn erbyn y datblygiad. Y prif resymau dros beidio â bod o blaid y datblygiad oedd:

(i)              Effaith datblygiad mawr ar ffyrdd lleol

(ii)             Dŵr ffo’n gysylltiedig â datblygiad dwysedd uchel; a

(iii)            Effaith ar addysg oherwydd bod yr ysgol leol bron yn llawn.

 

Gofynnodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Raymond Bartley, i’r Cynghorydd Holland anfon dymuniadau gorau pawb yn y Pwyllgor Cynllunio at y Cynghorydd Peter Owen.

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Evans ei fod wedi lleisio pryderon am yr A547 a thraffig i mewn i bentref Gallt Melyd dros y blynyddoedd yng nghyfarfodydd y LDP.

 

Cadarnhaodd yr Uwch Swyddog Cynllunio y byddid yn ymchwilio i’r holl faterion pan fyddai’r cais cynllunio manwl yn dod i law. Unwaith y byddent yn gwybod y manylion o ran nifer a maint y tai etc, byddai’r cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies y dylid mabwysiadu’r Brîff Datblygu Safle arfaethedig ar gyfer Cae Ffyddion, Dyserth gyda’r newidiadau oedd yn cael eu hargymell, ar gyfer penderfynu ceisiadau cynllunio ac apeliadau cynllunio.

 

PLEIDLAIS:

DROS (mabwysiadu) – 13

YMATAL – 1

YN ERBYN (peidio â mabwysiadu) – 3

 

PENDERFYNWYD fod Aelodau’n cytuno i fabwysiadu’r Brîff Datblygu Safle arfaethedig ar gyfer Cae Ffyddion, Dyserth oedd ynghlwm fel Atodiad 1, gyda’r newidiadau oedd yn cael eu hargymell, ar gyfer penderfynu ceisiadau cynllunio ac apeliadau cynllunio.

 

 

16.

CYHOEDDWYD YR ADRODDIAD O DAN ADRAN 21 DEDDF OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS (CYMRU) 2005 pdf eicon PDF 75 KB

Cyhoeddwyd yr Adroddiad o dan adran 21 Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (Cyfeirnod yr Achos:  201400990) (copi wedi’i atodi).

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu Adroddiad a gyhoeddwyd o dan Adran 21 Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (Cyfeirnod yr Achos 201400990) (wedi’i gylchredeg yn flaenorol).

 

Roedd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW) wedi cyflwyno adroddiad ymchwilio fel rhybudd i Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio. Roedd y rhan gyntaf yn rhoi crynodeb o’r adroddiad ymchwilio ac roedd yn ddi-enw. Rhan 2 oedd ail ran yr adroddiad ac roedd yn dadansoddi canfyddiadau ac argymhellion y PSOW yn fwy manwl.

 

PLEIDLAIS:  Cafwyd pleidlais codi dwylo oedd yn unfrydol o blaid derbyn yr argymhelliad yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD bod yr Aelodau’n nodi cynnwys yr adroddiad cryno yn Atodiad A a’r sylwadau a wnaed ar argymhellion a) i c) yn yr adroddiad.  

 

 

PENDERFYNWYD o dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972 y dylid cau allan y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol ar y sail ei bod yn debygol y byddai gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12, 13, 14, 16 ac 18a o Ran 4 o Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

17.

CYHOEDDWYD YR ADRODDIAD O DAN ADRAN 21 DEDDF OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS (CYMRU) 2005

Cyhoeddwyd yr Adroddiad o dan adran 21 Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (Cyfeirnod yr Achos:  201400990) (copi i ddilyn).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Gyfreithiwr - Cynllunio a Phriffyrdd Ran 2 o’r adroddiad.

 

Eglurodd y Rheolwr Datblygu gynnwys yr adroddiad ymchwiliad perthnasol a gyhoeddwyd o dan Adran 21 Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. 

 

Cynhaliwyd trafodaeth fanwl ar y materion o dan Adran 21 Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - 15

YMATAL - 0

YN ERBYN - 0

 

PENDERFYNWYD:

(a)            Aelodau yn nodi ac yn derbyn argymhellion OGCC a) i c) gan ystyried y mesurau y cytunwyd arnynt ac a weithredwyd gan Swyddogion.

(b)            Ar ôl ystyriaeth y materion a chyngor yn yr adroddiad hwn bod y Cyngor yn cadarnhau na fydd yn ceisio dirymiad ffurfiol y caniatâd cynllunio

(c)            Aelodau'n cytuno i gyfarwyddo ymhellach y Prisiwr Dosbarth i asesu effaith unrhyw ddatblygiad a gwblhawyd (yn destun cais materion a gadwyd yn ôl yn gysylltiedig â'r caniatâd amlinellol) ar eiddo yr achwynwyr, o fewn mis o gwblhau'r datblygiad, a thalu swm iddi sy'n cyfateb i'r gwahaniaeth mewn gwerth cyn ac ar ôl y datblygiad.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.35 p.m.