Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 19 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynghorwyr Ian Armstrong, Rhys Hughes, Alice Jones, Peter Owens, David Simmons a Bill Tasker.  Byddai'r Cynghorydd Bill Cowie yn cyrraedd yn hwyr.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 88 KB

Dylai Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu rai sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd Merfyn Parry – Cysylltiad Personol – Eitemau rhif 6, 7, 8 a 12 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Julian Thompson-Hill – Cysylltiad Personol - Eitem 5 ar y Rhaglen.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 178 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd 9 Rhagfyr 2015 (copi wedi’i atodi).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2015.

 

Tudalen 12 - Cais Rhif 25/2015/0636 - Tir i'r Dwyrain o Lyn Brenig, Nantglyn - Gofynnodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts bod y cofnod yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu'r ffaith fod trafodaeth wedi bod ar yr effaith ar gyflogaeth i'r ardal leol ac na fyddai'r estyniad yn cynyddu neu'n gostwng cyflogaeth.  Ategodd ei farn y dylai cyfraniadau i'r drafodaeth gan aelodau unigol gael eu rhoi yn y cofnodion er mwyn cofnodi'r drafodaeth yn gywir.  Gofynnodd y Cadeirydd i'r swyddogion ymchwilio ymhellach i'r mater.

 

Tudalen 11 - Plas Penddeuglawdd, 37/39 Ffordd Pendyffryn, y Rhyl – Roedd y Cynghorydd Meirick Davies yn teimlo y dylid nodi mai yn yr adeilad hwn y dechreuodd y mudiad Methodistaidd Calfinaidd yn y Rhyl.

 

Tudalen 20 - Cais Rhif 40/2013/1585/PO - Tir i'r Dwyrain o Fodelwyddan - Siaradodd y Cynghorydd Arwel Roberts ar ran y Cynghorydd Alice Jones i ofyn bod eitem ar y ‘Grŵp Cynllunio Cymunedol ar y Gweill’ yn cael ei ychwanegu at y rhaglen ar gyfer cyfarfod Grŵp Ardal Aelodau Elwy (MAG) ym mis Chwefror.     Dywedodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd na fyddai Grŵp Ardal Aelodau Elwy yn cyfarfod ym mis Chwefror ond cadarnhaodd fod yr eitem wedi ei hychwanegu at y rhaglen ar gyfer cyfarfod mis Mawrth.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2015 fel cofnod cywir.

 

 

CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5 - 12) -

Cyflwynwyd ceisiadau oedd yn ceisio penderfyniad y pwyllgor ynghyd â'r dogfennau cysylltiol.   Cyfeiriwyd hefyd at y wybodaeth a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen ac yn ymwneud â'r ceisiadau penodol.  Er mwyn caniatáu ceisiadau aelodau’r cyhoedd i gyflwyno sylwadau, cytunwyd y dylid amrywio trefn y ceisiadau ar y rhaglen fel y bo’n briodol.    Ar gais y Cynghorydd Meirick Davies, cytunwyd hefyd i ddwyn ymlaen ar y rhaglen Cais Rhif 46/2015/0969/PF - Hen Safle Pilkington Special Glass, Ffordd Glascoed, Llanelwy.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

CAIS RHIF 18/2015/0887/PF - GWESTY GWLEDIG PENTRE MAWR, LLANDYRNOG, DINBYCH pdf eicon PDF 36 KB

Ystyried cais i newid defnydd rhan o adeilad rhestredig a rhan o iard ar gyfer priodasau ac achlysuron eraill ar y cyd â’r busnes gwesty presennol, gan gynnwys codi pabell ar wahân a rhodfa bren wedi’i gorchuddio yn yr iard a defnyddio’r padog fel maes parcio gorlif (rhannol ôl-weithredol) yng Ngwesty Gwledig Pentre Mawr, Llandyrnog, Dinbych (copi wedi’i atodi).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Merfyn Parry gysylltiad personol gyda’r eitem hon gan fod yr ymgeisydd yn gwsmer ym mwyty ei bartner.]

 

Cyflwynwyd cais i newid defnydd rhan o adeilad rhestredig a rhan o iard ar gyfer priodasau ac achlysuron eraill ar y cyd â’r busnes gwesty presennol, gan gynnwys codi pabell ar wahân a rhodfa bren wedi’i gorchuddio yn yr iard a defnyddio’r padog fel maes parcio gorlif (rhannol ôl-weithredol) yng Ngwesty Gwledig Pentre Mawr, Llandyrnog, Dinbych.

 

Siaradwr Cyhoeddus -

 

Mr. G. Carrington-Sykes (O blaid) - cyfeiriodd at gysylltiadau hanesyddol ei deulu â'r adeilad a'r angen i gynnwys lleoliad priodas yn y cynnig busnes er mwyn sicrhau ei hyfywedd yn y dyfodol.  Adroddodd hefyd ar fesurau lleihau sŵn sy’n cael eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â phryderon a godwyd yn y cyswllt hwnnw.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Siaradodd y Cynghorydd Merfyn Parry (Aelod Lleol) o blaid y cais.  Ymhelaethodd ar y gwaith lleihau sŵn a wnaed pan ddarganfuwyd bod sŵn wedi bod yn broblem ar gyfer yr eiddo cyfagos gan ychwanegu bod yr ymgeisydd wedi gweithio'n agos gyda Swyddog Rheoli Llygredd y Cyngor yn y cyswllt hwnnw a byddai lefelau sŵn yn parhau i gael eu monitro.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Anton Sampson.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 22

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

6.

CAIS RHIF 18/2015/0888/LB - GWESTY GWLEDIG PENTRE MAWR, LLANDYRNOG, DINBYCH pdf eicon PDF 36 KB

Ystyried cais adeilad rhestredig i drosi rhan o adeilad rhestredig a rhan o iard ar gyfer priodasau ac achlysuron eraill ar y cyd â’r busnes gwesty presennol, gan gynnwys codi pabell ar wahân a rhodfa bren wedi’i gorchuddio yn yr iard yng Ngwesty Gwledig Pentre Mawr, Llandyrnog, Dinbych (copi wedi’i atodi).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Merfyn Parry gysylltiad personol gyda’r eitem hon gan fod yr ymgeisydd yn gwsmer ym mwyty ei bartner.]

 

Cyflwynwyd cais adeilad rhestredig i drosi rhan o adeilad rhestredig a rhan o iard ar gyfer priodasau ac achlysuron eraill ar y cyd â’r busnes gwesty presennol, gan gynnwys codi pabell ar wahân a rhodfa bren wedi’i gorchuddio yn yr iard yng Ngwesty Gwledig Pentre Mawr, Llandyrnog, Dinbych.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Joan Butterfield.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 22

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

7.

CAIS RHIF 18/2015/0327/PS - GWESTY GWLEDIG PENTRE MAWR, LLANDYRNOG, DINBYCH pdf eicon PDF 37 KB

Ystyried cais i amrywio amod rhif 12 o ganiatâd cynllunio cod rhif 18/2014/0793 i ganiatáu defnyddio rhan o’r iard ar gyfer priodasau  yng Ngwesty Gwledig Pentre Mawr, Llandyrnog, Dinbych (copi wedi’i atodi).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Merfyn Parry gysylltiad personol gyda’r eitem hon gan fod yr ymgeisydd yn gwsmer ym mwyty ei bartner.]

 

Cyflwynwyd cais i amrywio amod rhif 12 o ganiatâd cynllunio cod rhif 18/2014/0793 i ganiatáu defnyddio rhan o’r iard ar gyfer priodasau  yng Ngwesty Gwledig Pentre Mawr, Llandyrnog, Dinbych.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Bob Murray.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 22

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

8.

CAIS RHIF 23/2015/0889/PF - TIR YN NEPO BRYN GLAS, SARON, DINBYCH pdf eicon PDF 5 KB

Ystyried cais am waith gwella priffyrdd ar B4501 ar dir yn Nepo Bryn Glas, Saron, Dinbych (copi wedi’i atodi).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais am waith gwella priffyrdd ar B4501 ar dir yn Nepo Bryn Glas, Saron, Dinbych.

 

Siaradwr Cyhoeddus -

 

Mr. M. Cole (RW Energy UK) (O blaid) - eglurodd fod datblygiad Fferm Wynt Coedwig Clocaenog, gan gynnwys llwybrau mynediad, eisoes wedi ei asesu a'i gymeradwyo gan yr Arolygiaeth Gynllunio.  Adroddodd am y rhesymeg ar gyfer defnyddio'r llwybr penodol hwnnw a'r camau a gymerwyd i leddfu pryderon preswylwyr gan gynnwys trefnu danfoniadau i leihau aflonyddwch.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Gwnaeth y Swyddog Cynllunio (IW) ailadrodd fod llwybrau traffig adeiladu mewn perthynas â Fferm Wynt Coedwig Clocaenog, gan gynnwys Depo Bryn Glas, eisoes wedi eu hystyried a'u cymeradwyo gan yr Arolygiaeth Gynllunio.  Roedd y cais ar gyfer mân welliannau ffordd sy'n gysylltiedig â'r caniatâd presennol ac, o ystyried bod yr Arolygydd wedi barnu bod y llwybr yn dderbyniol, roedd swyddogion yn ystyried bod y cais yn rhesymol ac roeddent yn argymell yn gryf ei gymeradwyo.

 

Dywedodd y Cynghorydd Joe Welch (Aelod Lleol) fod pryderon dilys wedi eu codi ynglŷn â'r cais a gofynnodd am y rhesymeg y tu ôl i'r defnydd o'r llwybr penodol hwnnw a manylion y Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu.  Gofynnodd hefyd am ymateb i bryderon ynghylch addasrwydd y ffordd, gan gynnwys difrod strwythurol, a sicrwydd y byddai unrhyw niwed a achoswyd o ganlyniad yn cael ei adfer.  Ceisiodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts sicrwydd ynghylch addasrwydd y llwybr a holodd sut y byddai'r gwaith gwella yn cael ei ariannu.

 

Ymatebodd y Swyddog Priffyrdd fel a ganlyn -

 

·         Ailadroddodd fod y llwybr eisoes wedi ei gymeradwyo ar gyfer traffig adeiladu a bod y cais yn ymwneud â gwella cyffordd ffordd bresennol yn unig sy'n cynnwys mân waith - yn y cyd-destun hwn ac, yn amodol ar amodau addas, nid oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad.

·         roedd gwaith ar y gweill ar y Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu a fyddai'n cynnwys mesurau lliniaru i leihau unrhyw effaith o’r datblygiad.  Roedd y ffordd yn destun arolygon cyflwr ac roedd ymarfer o'r llwybr wedi ei wneud.  Y rheswm am yr arwyddion ffordd yn rhybuddio ei fod yn anaddas i gerbydau mawr oedd i atal y ffordd rhag cael ei defnyddio fel ffordd drwodd i lorïau cymalog a byddai camau yn cael eu cymryd i sicrhau bod y ffordd yn ddigon cadarn ar gyfer y diben a gynigir gan yr ymgeisydd a byddai'n cael ei hadfer i'w ffurf bresennol ar ôl adeiladu'r fferm wynt

·         o ran ariannu'r gwaith angenrheidiol ar y briffordd darparwyd sicrwydd na fyddai unrhyw gost i'r cyngor gan y byddai unrhyw waith sydd ei angen yn cael ei dalu gan y datblygwr trwy gytundeb cyfreithiol o dan y Ddeddf Priffyrdd.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Win Mullen-James argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Barry Mellor.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 15

GWRTHOD - 6

YMATAL - 1

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

9.

CAIS RHIF 45/2015/0468/PO - HEN SAFLE PEIRIANNEG A DYLUNIO THORPE, FFORDD DERWEN, Y RHYL pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i ddatblygu 0,29ha o dir drwy ddymchwel uned ffatri segur ac adeiladu eglwys a chanolfan gymunedol (cais amlinellol gan gynnwys mynediad) ar Hen Safle Peirianneg a Dylunio Thorpe, Ffordd Derwen, Y Rhyl (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i ddatblygu 0,20ha o dir drwy ddymchwel uned ffatri segur ac adeiladu eglwys a chanolfan gymunedol (cais amlinellol gan gynnwys mynediad) ar Hen Safle Peirianneg a Dylunio Thorpe, Ffordd Derwen, y Rhyl.

 

Siaradwr Cyhoeddus -

 

Mr. M. Gilbert (O blaid) – Gwnaeth ddadlau’r ddwy sail a argymhellir dros wrthod (1) Risg Llifogydd - Amlygodd ddau gais cynllunio diweddar a gymeradwywyd ar neu ger y safle heb unrhyw wrthwynebiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru, a (2) Colli Tir Cyflogaeth - byddai'r cynnig yn arwain at 11 o swyddi llawn amser ac 13 o swyddi rhan amser o'r cychwyn cyntaf.  Tynnodd sylw hefyd at fanteision cymunedol ar gyfer yr ardal.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Amlinellodd y Rheolwr Datblygu (PM) y cais ac atgoffodd yr aelodau fod cais tebyg wedi ei wrthod yn 2013 oherwydd pryderon ynghylch addasrwydd y safle.  Ymatebodd i sylwadau a wnaed gan y siaradwr cyhoeddus ac ymhelaethodd ar y rhesymau y tu ôl i'r argymhelliad i wrthod gan ddadlau y byddai'r cynigion yn arwain at golli tir cyflogaeth yn ei ystyr draddodiadol heb i broses farchnata barhaus o 1 flwyddyn gael ei chynnal i ddangos nad oedd modd cadw’r safle bellach at ddibenion cyflogaeth a oedd yn groes i bolisïau cynllunio.  O ran perygl llifogydd adroddodd ar fesurau lliniaru a gymerwyd o ran y datblygiad tai diweddar ger y safle.  Byddai'r defnydd arfaethedig o’r safle yn golygu newid categori datblygiad o ‘llai agored i niwed’ i ‘agored iawn i niwed’ ac ar ôl ystyried yr ymateb llawn a ddarparwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru roedd gan swyddogion amheuon yn hynny o beth.

 

Ar ôl ystyried cryfder teimladau'r cyhoedd a’r cyfoeth o gefnogaeth leol i'r prosiect ac o ystyried y manteision cymunedol, siaradodd y Cynghorwyr Pat Jones a Pete Prendergast (Aelodau Lleol) o blaid y cais.

 

Trafododd y pwyllgor rinweddau'r cais ac ystyriaethau cynllunio perthnasol.   Nodwyd, pan oedd y cais blaenorol wedi ei wrthod roedd y pwyllgor wedi bod yn awyddus i safleoedd eraill gael eu harchwilio ac adroddodd y Cynghorydd Brian Blakeley, er gwaethaf ymdrechion gorau nid oedd unrhyw safleoedd amgen addas wedi eu darganfod.  Cydnabu'r Aelodau fanteision cymunedol prosiect o'r fath, ond trafodwyd a oedd safle'r cais yn addas ar gyfer y defnydd arfaethedig ac roedd barn gymysg yn hynny o beth.  Roedd y ffaith fod y safle yn wag yn destun pryder i'r aelodau a gwnaeth y rheiny o blaid y cais ddadlau y byddai cymeradwyo’r cais yn rhoi defnydd da i’r safle ac yn creu rhywfaint o gyflogaeth a darparu cyfleuster cymunedol mawr ei angen.  Gwnaethant hefyd ddadlau nad oedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwrthwynebu'r cais a gellid cyflwyno mesurau lliniaru llifogydd i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon yn hynny o beth.  Fodd bynnag, nodwyd na fyddai'r datblygiad yn creu swyddi traddodiadol a chytunodd yr aelodau eraill gyda swyddogion nad oedd y cynnig yn cydymffurfio â Pholisi PSE 2 a PSE 3 y Cynllun Datblygu Lleol o ran diogelu safleoedd cyflogaeth.  Nodwyd hefyd nad oedd unrhyw safleoedd eraill a ddyrannwyd ar gyfer defnydd cyflogaeth yn yr ardal.  O ystyried yr angen am dir cyflogaeth allweddol yn y Rhyl teimlai rhai aelodau y dylai'r cais dim ond gael ei ystyried os oedd y safle wedi ei farchnata yn unol â PSE 3 ac os oedd tystiolaeth yn dangos ei fod yn anaddas ar gyfer defnydd cyflogaeth.  Roedd y newid categoreiddio ar gyfer defnydd o ddiwydiant ysgafn i adeilad cyhoeddus yn destun pellach o bryder i rai a oedd yn teimlo nad oedd y cynnig yn bodloni profion cyfiawnhad TAN 15 o ran perygl llifogydd.  Mynegwyd amheuon hefyd ynglŷn â maint y safle mewn perthynas â'r datblygiad;  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

CAIS RHIF 46/2015/0969/PF - HEN SAFLE PILKINGTON SPECIAL GLASS, FFORDD GLASCOED, LLANELWY pdf eicon PDF 5 KB

Ystyried cais i adeiladu mynedfa newydd a newidiadau i'r mynediad presennol ar Hen Safle Pilkington Special Glass, Ffordd Glascoed, Llanelwy (copi wedi’i atodi).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Merfyn Parry gysylltiad personol gyda’r eitem hon gan fod yr ymgeisydd yn gwsmer ym mwyty ei bartner.]

 

Cyflwynwyd cais i adeiladu mynediad newydd a newidiadau i'r mynediad presennol ar Hen Safle Pilkington Special Glass Ffordd Glascoed Llanelwy.  Roedd y cais wedi bod yn destun ymweliad safle ar 15 Ionawr 2016.

 

Siaradwr Cyhoeddus -

 

Mr E. Davies (Yn erbyn) – roedd yn byw yn yr annedd cyfagos (Derwen Deg) i'r safle a chododd bryderon ynghylch sut y byddai ei amwynder preswyl yn cael ei effeithio gan y fynedfa newydd arfaethedig ynghyd â phryderon ynghylch diogelwch ar y ffyrdd a cholli cynefin lleol.  Roedd hefyd yn cwestiynu cywirdeb y cynllun diweddaraf a ddosbarthwyd.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Roedd gan y Cynghorydd Bill Cowie (Aelod Lleol) gydymdeimlad â'r siaradwr cyhoeddus ond roedd yn teimlo nad oedd unrhyw sail cynllunio i wrthod y cais.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Stuart Davies argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill.

 

Roedd y Cynghorydd Merfyn Parry yn credu bod y brif fynedfa bresennol mewn sefyllfa llawer gwell i wasanaethu'r safle, yn enwedig o ystyried graddiant y ffordd a sŵn o gerbydau sy'n gadael y safle, a dywedodd y byddai'n pleidleisio yn erbyn y cais.

 

Siaradodd y Cynghorydd Meirick Davies yn erbyn y cais hefyd a nododd leoliad Derwen Deg mewn perthynas â'r safle.  Tynnodd sylw at leoliad pwyntiau mynediad presennol a nododd fod y brif fynedfa wedi rhoi mynediad diogel yn wahanol i’r fynedfa newydd a fyddai hefyd yn cael effaith niweidiol ar Derwen Deg.  Cyflwynodd achos dros wrthod gan ddadlau bod y cais yn groes i bolisïau Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) sy'n ymwneud â RD1 (Parchu Nodweddion Unigryw - datblygu cynaliadwy a dylunio safonol da) fel a ganlyn -

 

RD1(i) - Parchu'r safle a'r ardal o gwmpas o ran lleoliad, cynllun, maint, ffurf, cymeriad, dyluniad, deunyddiau, agwedd, micro-hinsawdd a dwysedd defnydd tir/adeiladau a’r gofod rhwng ac o amgylch adeiladau

RD1(iii) – Yn parchu a lle’n bosibl yn gwella'r amgylchedd naturiol a hanesyddol lleol

RD1(v) - Yn ymgorffori tirwedd bresennol neu nodweddion eraill, yn cymryd i ystyriaeth gyfuchliniau a newidiadau mewn lefelau a nenlinellau amlwg

RD1(vi) - Nad yw'n effeithio’n  annerbyniol fwynderau trigolion lleol, defnyddwyr eraill tir ac eiddo neu nodweddion yr ardal trwy rinwedd mwy o weithgaredd, aflonyddiad, sŵn, llwch, mygdarthau, sbwriel, draeniad, llygredd golau ac ati ac yn darparu safonau mwynderau boddhaol ynddo’i hunan

RD1(viii) - Nad yw'n cael effaith annerbyniol ar y rhwydwaith priffyrdd lleol o ganlyniad i dagfeydd, perygl a niwsans yn deillio o draffig a gynhyrchir ac yn ymgorffori mesurau rheoli/tawelu traffig lle bo angen hynny a lle’i fod yn briodol

RD1(xiii) - Yn ymgorffori mesurau tirweddu addas, gan gynnwys lle bo'n briodol, driniaeth tirweddu caled a meddal, creu amddiffyniad coridorau gwyrdd a gleision, tirweddu aeddfed a threfniadau ar gyfer eu cynnal yn y dyfodol.  Dylai gwaith tirweddu greu amgylchedd braf, gynaliadwy a chyfoethog o ran bioamrywiaeth sy'n amddiffyn a gwella nodweddion presennol a hefyd yn creu nodweddion newydd ac ardaloedd o le agored sy'n adlewyrchu cymeriad lleol a theimlad o le.

 

Cynnig - Anogodd y Cynghorydd Meirick Davies yr aelodau i ystyried yr effaith niweidiol ar amwynder preswyl Derwen Deg a chynigiodd fod y cais yn cael ei wrthod, ac eiliodd y Cynghorydd Arwel Roberts, ar y sail nad oedd y cais yn cydymffurfio â Pholisi CDLl RD1 (i), (iii), (v), (vi), (viii) a (xiii).

 

Yn ystod y drafodaeth, cwestiynwyd lleoliad y fynedfa newydd arfaethedig o ystyried yr effaith ar Derwen Deg, yn enwedig pan oedd opsiynau eraill ar gael, ond nodwyd bod rhaid i’r pwyllgor ddelio â'r cais ger  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

CAIS RHIF 45/2015/0780/PR - SAFLE OCEAN BEACH, FFORDD WELLINGTON, Y RHYL pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais am fanylion edrychiad, tirlunio, cynllun a graddfa cam 1 y cynllun ail-ddatblygu defnydd cymysg sy'n ymgorffori 2 floc sy'n cynnwys defnyddiau adwerthu (nwyddau swmpus, bwyd a di-fwyd) a defnydd hamdden; gwesty 54 ystafell wely ar wahân, 2 is-orsaf, maes parcio ceir a gwaith atodol arall a gyflwynwyd yn unol ag amod rhif 1 caniatâd cynllunio amlinellol 45/2013/1510 (Cais Materion a Gadwyd yn ôl) yn Safle Ocean Beach, Ffordd Wellington, y Rhyl (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais am fanylion edrychiad, tirlunio, cynllun a graddfa cam 1 y cynllun ail-ddatblygu defnydd cymysg sy'n ymgorffori 2 floc sy'n cynnwys defnyddiau adwerthu (nwyddau swmpus, bwyd a difwyd) a defnydd hamdden; gwesty 54 ystafell wely ar wahân, 2 is-orsaf, maes parcio ceir a gwaith atodol arall a gyflwynwyd yn unol ag amod rhif 1 caniatâd cynllunio amlinellol 45/2013/1510 (Cais Materion a Gadwyd yn ôl) yn Safle Ocean Beach, Ffordd Wellington, y Rhyl.

 

Siaradwr Cyhoeddus -

 

Mr. M. Ralph (O blaid) - rhoddodd diweddariad o ddigwyddiadau allweddol dros y misoedd diwethaf ac roedd yn falch o adrodd ar gyflymder y datblygu a rhoi sicrwydd ynglŷn â gwaith yn y dyfodol.  Cyfeiriodd hefyd at fanteision y Cytundeb Cyflogaeth Lleol.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Eglurodd y Rheolwr Datblygu (PM) fod caniatâd amlinellol eisoes wedi ei roi a'r cynnig oedd ar gyfer cam cyntaf y datblygiad.

 

 Cyfeiriodd y Cynghorydd Joan Butterfield (Aelod Lleol) at rwystredigaethau blaenorol dros ddatblygu'r safle ac roedd yn falch bod cynnydd erbyn hyn yn cael ei wneud a dymunodd bob llwyddiant i’r prosiect.  Roedd hi'n arbennig o falch y byddai'r datblygiad yn creu swyddi lleol a oedd ei dirfawr angen.  Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor ei gefnogaeth i'r cais fel modd o adfywio'r Rhyl ymhellach ac roedd yn falch o nodi'r cytundeb cyflogaeth lleol.  Cytunodd y Cynghorydd Arwel Roberts â'r farn honno a gofynnodd i ystyriaeth gael ei rhoi i ddod o hyd i enw Cymraeg ar gyfer y safle.  Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu fod y datblygwyr yn cytuno â pholisi dwyieithog y Cyngor ac y byddai'n trafod y mater gydag aelodau wrth geisio caniatâd hysbysebu.

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Joan Butterfield fod y cais yn cael ei gymeradwyo ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 19

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a’r papurau ategol.

 

 

12.

CAIS RHIF 09/2015/1121/PF - TAI ALLAN YN EFAIL Y WAEN, BODFARI, DINBYCH pdf eicon PDF 5 KB

Ystyried cais i drosi adeilad amaethyddol segur i ffurfio 3 uned llety gosod ar gyfer gwyliau, dymchwel adeilad fferm porthol dur a gosod gwaith trin pecyn mewn Tai Allan yn Efail y Waen, Bodfari Dinbych (copi wedi’i atodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill gysylltiad personol gyda’r eitem hon oherwydd bod y cais yn dod gan wasanaeth cyngor yr oedd yn Aelod Arweiniol perthnasol ar ei gyfer.  Gadawodd y cyfarfod ar y pwynt hwn yn y trafodion].

 

Cyflwynwyd cais am drosi adeilad amaethyddol segur i ffurfio 3 uned llety gosod ar gyfer gwyliau, dymchwel adeilad fferm porthol dur a gosod gwaith trin pecyn mewn Tai Allan yn Efail y Waen, Bodfari, Dinbych.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Eglurodd y Cynghorydd Merfyn Parry (Aelod Lleol) fod y tenant wedi gadael y fferm a oedd bellach dros ben.   Roedd caniatâd cynllunio wedi ei geisio er mwyn ychwanegu gwerth at y safle cyn iddo gael ei werthu ac nid oedd unrhyw wrthwynebiad yn lleol gyda phawb o blaid y cais.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry fod y cais yn cael ei gymeradwyo, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Barry Mellor.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 18

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12 hanner dydd.