Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 19 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynghorwyr Bill Cowie, Richard Davies, Bob Murray, Peter Owen, Merfyn Parry, Arwel Roberts a Bill Tasker

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 89 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd Meirick Davies – Cysylltiad Personol – Eitemau rhif 5 ac 8 ar y Rhaglen

Y Cynghorydd Huw Williams – Cysylltiad Personol – Eitem rhif 5 ar y Rhaglen

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 142 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2015 (copi wedi’i atodi).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2015.

 

TTudalen 12, paragraff olaf - mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Stuart Davies, cadarnhaodd swyddogion fod llythyr i AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi cael ei ddrafftio ac y byddai'n cael ei anfon ar ôl ymgynghori â'r Cadeirydd.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2015 fel cofnod cywir.

 

 

CEISIADAU AM GANIATÂD I DDATBLYGU (EITEMAU 5-10) -

Cyflwynwyd ceisiadau oedd yn ceisio penderfyniad y pwyllgor ynghyd â'r dogfennau cysylltiol.   Cyfeiriwyd hefyd at y wybodaeth a gyflwynwyd yn hwyr (taflenni glas) a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r rhaglen ac yn ymwneud â cheisiadau penodol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

CAIS RHIF 07/2015/0414/PFT - TYFOS, LLANDRILLO, CORWEN pdf eicon PDF 37 KB

Ystyried cais i godi tyrbin gwynt gydag uchder tŵr tyrbin o 30.5 metr (48.01 metr i flaen y llafn), blwch rheoli a gwaith cysylltiol yn Nhyfos, Llandrillo, Corwen (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Meirick Davies gysylltiad personol gan ei fod wedi mynychu cyfarfodydd ‘Grŵp Pylon the Pressure’.  Datganodd y Cynghorydd Huw Williams gysylltiad personol gan mai’r siaradwr cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon oedd Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanbedr DC ac roedd ef hefyd yn aelod o’r cyngor hwnnw.]

 

Roedd cais wedi’i gyflwyno i godi un tyrbin gwynt gydag uchder tŵr tyrbin o 30.5 metr (48.01 metr i flaen y llafn), blwch rheoli a gwaith cysylltiol yn Nhyfos, Llandrillo, Corwen.

 

Siaradwyr Cyhoeddus -

 

Mr. A. Jedwell (Yn erbyn) - esboniodd y byddai lleoliad y tyrbin yn ymwthiol ac yn niweidiol i'r dirwedd a byddai'n cael effaith andwyol ar yr economi ymwelwyr a thrigolion cyfagos.

 

Ms S. Jones (o blaid) - manylodd gysylltiadau'r teulu â'r fferm dros bedair cenhedlaeth a'r angen i arallgyfeirio’r fferm er mwyn sicrhau hyfywedd y busnes ar gyfer y genhedlaeth nesaf.  Byddai'r cynllun yn caniatáu i fuddsoddiad gael ei wneud ar y fferm a oedd yn darparu cyflogaeth a chefnogaeth i fusnesau lleol eraill.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Cyflwynodd y Swyddog Cynllunio (IW) yr adroddiad a'r angen i sicrhau cydbwysedd rhwng y rhinweddau arallgyfeirio fferm yn erbyn yr effaith leol a lledaeniad cynyddol o dyrbinau.  Yn yr achos hwn, roedd swyddogion yn argymell bod y cais yn cael ei wrthod.

 

 Cyfeiriodd y Cynghorydd Cefyn Williams (Aelod Lleol) at y penderfyniad anodd i'w wneud a'r angen i aelodau ffurfio eu barn eu hunain.  Roedd yn teimlo y byddai'r effaith weledol yn fychan iawn o ystyried y lleoliad a oedd y tu allan i'r AHNE ac ardaloedd Parc Cenedlaethol.  Yn ystod y drafodaeth pwysleisiwyd pwysigrwydd y diwydiant ffermio ynghyd â rôl ffermio i gadw a gwella harddwch naturiol y tirlun.  Tynnwyd sylw at y trafferthion sy'n wynebu'r gymuned ffermio, gan gynnwys colli cymorthdaliadau fferm a'r angen ar gyfer prosiectau arallgyfeirio er mwyn sicrhau cynaliadwyedd yn y dyfodol.  Nododd yr aelodau fod y safle y tu allan i ffiniau tirweddau statudol ac sy’n bwysig yn genedlaethol ac nid oedd unrhyw wrthwynebiad gan Gydbwyllgor AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy neu Gyfoeth Naturiol Cymru.  Wrth ystyried effaith gronnus bosibl nododd yr aelodau y byddai cymorthdaliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer tyrbinau yn y dyfodol yn cael ei dynnu'n ôl a fyddai'n debygol o arwain at lai o geisiadau.  O ganlyniad, mynegwyd llawer o gefnogaeth i'r prosiect arallgyfeirio ar y fferm oedd yn destun y cais.

 

Roedd ymateb Swyddogion i gwestiynau a sylwadau’r Aelodau fel a ganlyn:-

 

·         ystyriodd y swyddogion y byddai'r tyrbin yn ychwanegu at y lledaeniad cynyddol o ddatblygiadau gwynt yn yr ardal yn arwain at effaith gronnol annerbyniol ar y dirwedd – roedd effaith gronnus yn ystyriaeth cynllunio perthnasol

·          Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi sylwadau yn bennaf ar ardaloedd statudol ac yn tueddu i ohirio i'r awdurdod lleol ar effaith ar y dirwedd leol fel yn yr achos hwn

·         byddai'r tyrbin yn cael ei leoli y tu allan i Ardal Chwilio Strategol dynodedig ar gyfer datblygu ffermydd gwynt, ac

·         tynnu sylw at yr angen i ystyried ystyriaethau cynllunio perthnasol ac ystyriaethau nad ydynt yn bersonol wrth benderfynu ar y cais.

 

Cynnig - Trwy roi sylw dyledus i'r effaith ar y tirlun/gweledol, materion twristiaeth ac effaith cronnus posibl, roedd y Cynghorydd Cefyn Williams yn credu bod yr achos dros arallgyfeirio ar ffermydd yn gorbwyso pryderon cynllunio eraill a chynigiodd, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts fod y cais yn cael ei ganiatáu.   Dywedodd y swyddogion pe bai aelodau'n penderfynu caniatáu'r cais, y dylai amodau cynllunio sy’n cael eu cymhwyso ar gyfer y caniatâd gael eu cyflwyno yn ôl i'r pwyllgor i'w cymeradwyo.

 

PLEIDLAIS:

 CANIATÁU - 14

GWRTHOD - 6  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CAIS RHIF 08/2015/0792/PO - TIR SY’N GYFFINIOL Â HAFOD WEN, CYNWYD, CORWEN pdf eicon PDF 37 KB

Ystyried cais i ddatblygu 0.09 hectar o dir drwy godi 1 annedd (cais amlinellol gyda phob mater wedi eu cadw’n ôl) ar dir sy’n gyffiniol â Hafod Wen, Cynwyd, Corwen (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cais ei gyflwyno i ddatblygu 0.09 hectar o dir drwy godi 1 annedd (cais amlinellol gyda phob mater wedi eu cadw’n ôl) ar dir sy’n gyffiniol â Hafod Wen, Cynwyd, Corwen.

 

Siaradwyr Cyhoeddus -

 

Mr P. Lloyd (o blaid) - soniodd am fanteision busnes gwarchod plant yr ymgeisydd i’r gymuned ehangach a chyfeiriodd at nifer o gyfeiriadau polisi sy'n cefnogi datblygiadau defnydd cymysg, busnesau bach ac adeiladau newydd y tu allan i ffiniau datblygu.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Siaradodd y Cynghorydd Cefyn Williams (Aelod Lleol) o blaid y cais o ystyried amgylchiadau penodol yr achos a chan gofio agosrwydd y safle i'r ffin ddatblygu.   Yn ystod y drafodaeth mynegwyd rhywfaint o gefnogaeth i'r cais o ystyried bod y busnes gwarchod plant yn ased gwerthfawr i’r gymuned ac roedd y Cynghorydd Meirick Davies yn cymharu amgylchiadau'r cais i un amlosgfa yng Nghefn Meiriadog a oedd wedi’i ganiatáu yn seiliedig ar angen lleol.  Codwyd cwestiynau ynghylch y defnydd busnes arfaethedig ynghyd â materion priffyrdd a darparodd swyddogion yr ymateb canlynol i'r materion a godwyd -

 

·         roedd ffiniau datblygu tai wedi eu gosod er mwyn amddiffyn aneddiadau rhag lledaenu ac roedd safle'r cais yn disgyn y tu allan i’r ffin hwnnw

·         dau safle wedi eu nodi ar gyfer tai o fewn y ffin datblygu yn y lleoliad hwnnw ac roedd yn well bod y safleoedd hynny yn cael eu datblygu

·         roedd y cais ar gyfer annedd sengl, nid busnes, ac nid oedd unrhyw sicrwydd wedi ei roi y byddai'r eiddo'n cael ei gadw fel cyfleuster gwarchod plant am byth a oedd wedi cyfrannu at argymhelliad y swyddog i wrthod

·         nid oedd unrhyw faterion priffyrdd neu bryderon ynghylch rhannu mynediad

·          nid oedd amgylchiadau personol yn ystyriaethau cynllunio perthnasol, a gall caniatáu'r cais arwain at fewnlifiad o geisiadau cyffelyb.

 

Cynnig - Ar ôl ystyried y byddai busnes gwarchod plant lleol yn cael ei weithredu o'r annedd a gellid gosod amod fel y cyfryw, ac o ystyried ei agosrwydd at y ffin ddatblygu, teimlai'r Cynghorydd Cefyn Williams fod rhinweddau'r cais yn cyfiawnhau rhoi caniatâd yn yr achos hwn.  Cynigiodd, ac eiliodd y Cynghorydd Stuart Davies, fod y cais yn cael ei ganiatáu.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU - 8

GWRTHOD - 12

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD y cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

7.

CAIS RHIF 19/2015/0699/PF - GRAIG, LLANELIDAN, RHUTHUN pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais i ddymchwel adeilad tai allan presennol sydd ynghlwm a chodi estyniad deulawr a gwneud gwaith cysylltiedig yn Graig, Llanelidan, Rhuthun (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cais ei gyflwyno i ddymchwel adeilad tai allan presennol sydd ynghlwm a chodi estyniad deulawr a gwneud gwaith cysylltiedig yn Graig, Llanelidan, Rhuthun.

 

Mr. G. Powell (o blaid) - eglurodd ei gysylltiadau teuluol â'r eiddo a'r rhesymeg y tu ôl i'r cais er mwyn adnewyddu rhan o'r ffermdy er budd ei deulu a'i ddefnyddio.  Hefyd amlygodd fanteision lleol o’i safle glampio.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Siaradodd y Cynghorydd Hugh Evans (Aelod Lleol) o blaid y cais a thynnodd sylw at y dehongliad o'r Canllaw Cynllunio Atodol Estyniadau i Annedd.  Roedd yn credu bod y cynnig yn sympathetig i'r ardal leol ac adeiladau ac roedd yn cyd-fynd â'r estyniadau i'r ddau eiddo cyfagos.  Roedd hefyd yn dadlau fod yr adroddiad yn gwrth-ddweud gan ei fod yn datgan na fyddai'r cynigion yn cael effaith annerbyniol ar amwynder preswyl, ond roedd yn argymell gwrthod oherwydd y byddai'r cynnig yn cael effaith andwyol ar yr adeilad a chefn gwlad lleol o’i amgylch.

 

Ystyriodd yr Aelodau y dyluniad, graddfa a lleoliad yr estyniad arfaethedig ac roedd barn gymysg ynghylch y nodweddion dylunio newydd.  Cafwyd cefnogaeth i egwyddor y datblygiad, ond anghytundeb dros addasrwydd y dyluniad.  Credai rhai aelodau nad oedd y dyluniad yn cyd-fynd â chymeriad yr adeilad presennol a'r ardal, ac y dylai cynlluniau gael eu diwygio a’u hailgyflwyno.  Teimlai'r aelodau eraill bod y broses o foderneiddio yn dderbyniol, yn enwedig o ystyried estyniadau tebyg i eiddo cyfagos, gan dynnu sylw at yr angen am degwch a chysondeb.  Er na wrthwynebwyd egwyddor y datblygiad roedd swyddogion o’r farn nad oedd y cynigion presennol yn parchu digon o gymeriad yr adeilad gwreiddiol ac roedd yn annerbyniol o ystyried nodweddion traddodiadol yr eiddo.  Nid oedd digon o adnoddau i wirio’r ardal o gwmpas ar gyfer caniatâd cynllunio blaenorol ar ôl derbyn ceisiadau cynllunio. 

 

Wrth ymateb i drafodaeth amlygodd y Cynghorydd Hugh Evans y mater o gysondeb yn ei ardal leol gydag estyniadau mwy sylweddol a ganiateir mewn eiddo cyfagos ac ychwanegodd na fu unrhyw wrthwynebiad lleol i'r cais.

 

Cynnig - Roedd y Cynghorydd Stuart Davies yn ystyried na fyddai'r estyniad arfaethedig yn cael effaith andwyol ar gymeriad a golwg yr annedd bresennol a chefn gwlad agored o'i amgylch a chynigiodd, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Dewi Owens, fod y cais yn cael ei ganiatáu, yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU - 11

GWRTHOD - 10

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD rhoi CANIATÂD, yn groes i argymhelliad y swyddogion, ar y sail na fyddai'r estyniad yn cael effaith andwyol ar gymeriad a golwg yr annedd bresennol ac o amgylch cefn gwlad agored.

 

Ar y pwynt hwn (2.30pm) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.

 

 

8.

CAIS RHIF 25/2015/0636/PFWF - TIR I'R DWYRAIN O LYN BRENIG, NANTGLYN pdf eicon PDF 113 KB

Ystyried cais i adeiladu a gweithredu fferm wynt sy'n cynnwys un ar bymtheg o dyrbinau gwynt ynghyd â newidyddion, traciau mynediad, offer switsio ar y safle ac adeilad mesuryddion, dau dŵr anemometreg a'r seilwaith cysylltiedig ar gyfer adeiladu a gweithredu (cynllun diwygiedig a weithredwyd yn rhannol dan gyfeirnod caniatâd cynllunio 25/2007/0565) ar dir i’r dwyrain o Lyn Brennig, Nantglyn (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Meirick Davies gysylltiad personol gan ei fod wedi mynychu cyfarfodydd Grŵp ‘Pylon the Pressure’.]

Cafodd cais ei gyflwyno i adeiladu a gweithredu fferm wynt sy'n cynnwys un ar bymtheg o dyrbinau gwynt ynghyd â newidyddion, traciau mynediad, offer switsio ar y safle ac adeilad mesuryddion, dau dŵr anemometreg a'r seilwaith cysylltiedig ar gyfer adeiladu a gweithredu (cynllun diwygiedig a weithredwyd yn rhannol dan gyfeirnod caniatâd cynllunio 25/2007/0565) ar dir i’r dwyrain o Lyn Brenig, Nantglyn.

 

Mrs. D. Jones (Yn erbyn) - siaradodd dros drigolion lleol a chyfeiriodd at hanes cynllunio blaenorol a gwrthwynebiadau yn seiliedig ar dirwedd, effaith weledol a lles.

 

Mr. J. Woodruff (o blaid) - cadarnhaodd fod y cynllun wedi dechrau dan ganiatâd blaenorol a defnyddiwyd contractwyr lleol.  Dadleuodd y byddai effaith y cynnig i gynyddu uchder brig y tyrbin o 100 i 110 medr yn anweladwy ond byddai'n arwain at ddetholiad ehangach o dyrbinau i ddewis ohonynt.

 

Trafodaeth Gyffredinol – roedd y Swyddog Cynllunio (IW) yn crynhoi yr adroddiad gan dynnu sylw at faint o wybodaeth a sylwadau a dderbyniwyd.  Roedd yn darparu rhywfaint o gyd-destun i'r cais gan amlinellu'r caniatâd cynllunio ar gyfer un ar bymtheg o dyrbinau gydag uchder blaen llafn o 100 metr.  Roedd y cynnig ar gyfer tyrbinau 110 metr o uchder yn yr un lleoliad o fewn yr Ardal Chwilio Strategol (SSA) a chyfeiriwyd at faint a lleoliad y tyrbinau eraill yn yr ardal.  Roedd y Cyngor wedi gofyn am gyngor technegol annibynnol ar y dirwedd a sŵn nad oedd yn rhoi unrhyw sail dros wrthod ym marn y swyddogion.

 

Siaradodd y Cynghorydd Joe Welch (Aelod Lleol) yn erbyn y cais gan bwysleisio'r angen i ddiogelu cymunedau lleol yn yr ardal.  Cyfeiriodd at y cyfoeth o wrthwynebiad a theimlad y cyhoedd yn erbyn y datblygiad, gan amlygu bod y cynigion gwreiddiol wedi eu diwygio i leihau uchder blaen llafn o 115 i 100 metr er mwyn cyd-fynd â'r amgylchedd ac o bwys arbennig yn yr achos hwn.  Ymhelaethodd ar y dirwedd arwyddocaol ac effaith weledol y gwahaniaeth uchder ynghyd â phryderon ynglŷn â sŵn a hydroleg.  Mynegodd y Cynghorydd Stuart Davies bryderon difrifol ynghylch yr effaith sŵn a fyddai yn ei farn yn sylweddol ac roedd hefyd yn cwestiynu'r angen am dyrbinau mwy pan oedd llai o ddefnydd gweithredol o’r tyrbinau wedi’i gynnig er mwyn rheoli sŵn. 

 

Ymatebodd y Swyddogion i’r materion a godwyd gan ddweud -

 

·         roedd angen ystyried a fyddai effaith y cynnydd arfaethedig yn uchder y tyrbin yn annerbyniol o ystyried y caniatâd cynllunio presennol a chan gymryd i ystyriaeth cyd-destun tyrbinau presennol eraill a rhai a ganiatawyd o fewn yr ardal ynghyd â'r cyngor technegol ar dirwedd a sŵn

·         o ran pryderon hydroleg, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ystyried manylion y cais ac wedi codi unrhyw wrthwynebiadau, fodd bynnag, byddai'n bosibl gosod amodau ar y caniatâd os yw hynny'n briodol er mwyn rheoli effeithiau

·         roedd effaith y sŵn yn ystyriaeth ddifrifol ac roedd ymgynghorydd sŵn annibynnol wedi cynnal adolygiad manwl a ddaeth i'r casgliad nad oedd sŵn yn fater hollbwysig cyn belled â bod amodau er mwyn cwrdd â safonau sŵn - derbyniwyd bod ffermydd gwynt yn cynhyrchu sŵn ond y mater oedd a fyddai gweithredu’r fferm wynt yn fwy na'r terfynau rhesymol

·         darparwyd mwy o ddewis o dyrbin yn yr ystod uchder o 110 metr mewn cyferbyniad â 100 metr.

 

Trafododd yr Aelodau y cais a’r ystyriaethau cynllunio ymhellach a mynegwyd pryderon difrifol dros effeithiau ychwanegol y cynnig ar wahân i'r rhai a grëwyd gan y caniatâd presennol.  Teimlai nifer o  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

CAIS RHIF 45/2015/0786/PF – HOME BARGAINS, MARSH ROAD, Y RHYL pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried y cais i godi estyniad a gwneud newidiadau i uned fanwerthu bresennol a dymchwel adeilad ym mhen deheuol y safle yn Home Bargains, Marsh Road, y Rhyl (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cais ei gyflwyno i godi estyniad a gwneud newidiadau i uned fanwerthu bresennol a dymchwel adeilad ym mhen deheuol y safle yn Home Bargains, Marsh Road, y Rhyl.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Cefnogodd y Cynghorydd Pat Jones (Aelod Lleol) y cais gan gredu y byddai'r datblygiad yn gwasanaethu'r gymuned yn dda ac yn creu swyddi.  Roedd y Cynghorydd Pete Prendergast (Aelod Lleol) hefyd yn siarad o blaid y cais ond gofynnodd am amod ychwanegol er mwyn lleddfu pryderon y gwrthwynebwyr, i ddarparu rhywfaint o dirlunio/sgrinio i'r ffens derfyn.  Cadarnhaodd y swyddogion y gellid gosod amod i gynllun plannu arfaethedig gael ei gyflwyno a'i gymeradwyo gan yr awdurdod cynllunio a chadarnhawyd y byddai trefniadau cynnal a chadw safonol yn cael eu cymhwyso ar gyfer caniatâd.

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Pat Jones argymhelliad y swyddog i ganiatáu'r cais, a eiliwyd gan y Cynghorydd Barry Mellor, yn amodol ar amod ychwanegol ynghylch sgrinio priodol ar gyfer y ffens derfyn.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU - 17

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD rhoi CANIATÂD yn unol ag argymhelliad y swyddog fel y nodwyd yn yr adroddiad a phapurau atodol ac yn amodol ar amod ychwanegol yn gofyn am gynllun plannu er mwyn darparu sgrin ar gyfer y ffens derfyn i'w gyflwyno a'i gymeradwyo gan yr awdurdod cynllunio cyn ei weithredu.

 

 

10.

CAIS RHIF 45/2015/0944/PF - 26 WALNUT CRESCENT, Y RHYL pdf eicon PDF 6 KB

Ystyried cais ar gyfer codi garej ym mlaen annedd yn 26 Walnut Crescent, y Rhyl (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais ar gyfer codi garej ym mlaen annedd yn 26 Walnut Crescent, y Rhyl.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Siaradodd y Cynghorydd Brian Blakeley (Aelod Lleol) o blaid argymhelliad y swyddog i ganiatáu’r cais.  Nododd wrthwynebiad Cyngor Tref y Rhyl ac un sylw arall a dderbyniwyd ond roedd o'r farn nad oedd unrhyw sail dros wrthod.

 

 Cynnig – Roedd y Cynghorydd Brian Blakeley yn cynnig  argymhelliad y swyddog i ganiatáu’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU - 16

GWRTHOD - 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

11.

CANLLAWIAU I DDATBLYGWYR pdf eicon PDF 119 KB

Ystyried adroddiad yn cyflwyno canllawiau cynllunio i’w defnyddio yn y broses cyn-ymgeisio ac wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio i’w cymeradwyo.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd adroddiad ei gyflwyno ar gyfer cymeradwyo’r canllawiau cynllunio i’w defnyddio yn y broses cyn-ymgeisio ac wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio i’w cymeradwyo.

 

Holodd y Cynghorydd Peter Evans ynglŷn â’r rhagdybiaeth yn y nodyn cyfarwyddyd y byddai'n cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio ac esboniodd swyddogion na fyddai'r ddogfen yn cael ei defnyddio oni bai y byddai wedi ei chymeradwyo.  Croesawodd y Cynghorydd Evans y cyfeiriad at 'Galluedd Priffyrdd' (tudalen 169) i sicrhau digonolrwydd y mynediad i'r rhwydwaith ffyrdd a safle presennol ond ailadroddodd ei rwystredigaethau ynghylch y diffyg isadeiledd a phroblemau priffyrdd yn safle datblygu tai dynodedig y CDLl yng Ngallt Melyd.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Alice Jones at 'yr Iaith Gymraeg a Diwylliant' (tudalen 170) ac amlygodd yr angen am fesurau arbennig wrth ddatblygu'r Safle Strategol Allweddol (SSA) ym Modelwyddan.  Eglurodd swyddogion fod y nodyn cyfarwyddyd wedi cael ei lunio mewn perthynas â datblygiadau y tu allan i'r Cynllun Datblygu Lleol.  Byddai adroddiad ar y cytundeb Adran 106 mewn perthynas â Safle Strategol Allweddol Bodelwyddan yn cael ei gyflwyno i'r cyfarfod nesaf a dywedodd y swyddogion y byddai'n well i’r Cynghorydd Jones godi mater yr Iaith Gymraeg a Diwylliant bryd hynny.

 

PENDERFYNWYD bod yr Aelodau'n cymeradwyo'r nodyn cyfarwyddyd cynllunio (yn amgaeedig fel Atodiad 1) i'w ddefnyddio yn y broses cyn gwneud cais ac wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 3.45pm.